OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2025-04-05-accounts

Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Adroddiad Ebrill 2024-25

Amcanion yr Eglwys

Crynodeb o weithgarwch y flwyddyn

Dros y flwyddyn rydym ni wedi cyflawni ein hamcanion fel elusen mewn llawer o ffyrdd.

Rydyn ni wedi parhau gyda’n hoedfaon a chyfarfodydd arferol. Ar y Sul rydym yn cynnal oedfaon byw am 10:00 a 17:00 sydd hefyd yn cael eu ffrydio yn fyw ar youtube. Mae cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfodydd hyn ac yn dilyn oedfaon mae Ysgol Sul i blant ac oedolion. Hefyd unwaith y mis rydym yn dathlu’r cymun fel rhan o’r oedfa boreol. Rydym hefyd yn rheolaidd yn cynnal oedfa mewn cartref henoed lleol.

Yn ystod yr wythnos mae gennym ni nifer o gyfarfodydd rheolaidd. Mae cwrdd gweddi ar nos fawrth a chyfarfodydd i’r gwragedd gael paned a sgwrs neu brecwast ar fore sadwrn. Hefyd mae clybiau wythnosol gennym ni ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd. Yn ogystal, bob nos Iau mae gennym ni ddarlithoedd dros Zoom gan yr Athro E. Wyn James lle mae cyfle i bobl ddod i drafod emynau a cherddi Cristnogol.

Datblygiad cyffrous arall yw rydyn ni wedi dechrau bore coffi wythnosol yn y capel. Enw’r cyfarfod yw ‘Amser Paned’ ac mae’n cwrdd bob bore Gwener. Rydyn ni wedi gweld nifer o’r gymuned yn troi mewn am sgwrs a phaned mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar.

Roedd hi hefyd yn fraint yn ystod y flwyddyn i fedyddio rhai o bobl ifanc yr eglwys.

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi cael sawl cyfle arbennig i estyn allan i’r gymuned.

Fel eglwys rydyn ni wedi cael y fraint o wahodd nifer o bregethwyr gwadd i’n hoedfaon ar y Sul. Roedd hyn yn arbennig o wir wrth i’n gweinidog gael cyfnod sabothol o dri mis. Ond hefyd mae henuriaid yr eglwys wedi gallu mynd i gynorthwyo eglwysi eraill trwy bregethu yn eu hoedfaon nhw.

Adroddiad Blynyddol gan yr Ymddireidolwyr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd Rhif Elusen: 1199509

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni hefyd wedi cymryd casgliadau ariannol arbennig tuag at anghenion gwahanol ac i gefnogi gwaith Duw yng Nghymru a thros y byd. Rydym yn parhau i gefnogi elusennau amrywiol a chenhadon unigol.

Cynlluniau i’r dyfodol

Rydym yn parhau i rentu adeilad capel Tabernacl yr Eglwys Newydd ac yn gobeithio ei wneud yn gartref parhaol i ni. Rydym wrthi yn trafod sut gall hynny ddigwydd.

Cyllid

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein hincwm wedi aros yn gyson, ac mae hynny wedi ein galluogi i barhau i gyflogi gweinidog ac henuriad rhan-amser. Hyd at fis Hydref, roedd gweinyddwraig wedi’i chyflogi gan yr eglwys, ond aeth ymlaen i swydd newydd, ac felly cafodd ei chyfrifoldebau eu rhannu rhwng wirfoddolwyr.

Rydym yn dal i gyflogi efengylwraig greadigol, gyda’r eglwys yn cyfrannu cost cyflog am 2 ddiwrnod yr wythnos, a’r gweddill yn dod drwy grantiau a rhoddion.

Er mwyn buddsoddi rhan o arian ein Cronfa Adeiladau, agorwyd cyfrif cadw tymor sefydlog ("fixed term") newydd drwy CAF ym mis Ionawr, gyda’r bwriad o fanteisio ar gyfradd llog well am gyfnod o flwyddyn.

Nid yw’r Ymddiriedolwyr yn rhagweld unrhyw risgiau amlwg i gyllid na gweithrediadau dydd i ddydd yr eglwys.

Sylwadau Terfynol

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at waith yr eglwys dros y flwyddyn diwethaf.

Adroddiad Blynyddol gan yr Ymddireidolwyr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd Rhif Elusen: 1199509

Cyfrifon yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Blwyddyn Ariannol 06-04-2024 tan 05-04-2025

Cyfrif Cyfredol ac Arian Parod

Balans Agor: £ 120,639.44 06/04/2024

INCWM

TALIADAU

Casgliadau £ 86,324.95
Cyflogau (gan gynnwys pensiwn,
treth, NI)
£ 108,193.85
Gift Aid £ 10,452.66
Rhoddion £ 8,131.92
Casgliadau Arbennig £ 4,789.92
Rhentu £ 8,287.98
Adeilad £ 1,947.21
Technoleg £ 974.97
Rhodd at Weithiwr Bugeiliol £ 6,500.00
Yswiriant £ 417.68
Prosiectau Efengylu £ 244.00

Taliadau Derbynnwyd

22,543.12
£
875.48
£
408.09
£
100,000.00
£
CYFANSWM
133,841.43
£
(excluding internal transfer)
Yswiriant
Internal Transfer
Gwaith Efengylu Creadigol
Gwyliau Capel 2024
Arall
4,020.43
£
1,450.00
£
882.00
£
686.17
£
535.20
£
139.15
£
449.77
£
224.00
£
91.50
£
60.00
£
Taliadau Banc
Administration Fees
Plant ac Ieuenctid
Costau Efengylwraig Greadigol
Siaradwyr Allanol
Hysbysebu
Nwyddau
Diogelu
Bwyd
Llyfrau a Chynhadleddau

Internal Transfer £ 100,000.00

CYFANSWM

£ 134,788.62

(excluding internal transfer)

Balans Cau: £ 119,692.25 05/04/2025

Cyfrifon yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Blwyddyn Ariannol 06-04-2024 tan 05-04-2025

Cyfrif Cadw HSBC

Balans Agor: £ 525,031.26 06/04/2024

INCWM TALIADAU Llog Banc £ 9,891.13 Internal Transfer £ 100,000.00 CYFANSWM £ 9,891.13 CYFANSWM £ 100,000.00 Balans Cau: £ 434,922.39 05/04/2025

Cyfrif Cadw Shawbrook - 1 Year Fixed Term

Balans Agor: £ - 06/04/2024

INCWM
Internal Transfer £ 100,000.00
CYFANSWM £ 100,000.00
INCWM TALIADAU
Internal Transfer £ 100,000.00
N/A
CYFANSWM £ 100,000.00
CYFANSWM £ -
Balans Cau: £ 100,000.00
05/04/2025

Arian Parod

Balans Agor: £ 118.36
06/04/2024
INCWM TALIADAU
Casgliadau & Rhoddion £ 999.32
Pregethu, Rhoddion & Ad-daliadau £ 555.00
Wedi Bancio £ 400.00
CYFANSWM £ 999.32
CYFANSWM £ 955.00
Balans Cau: £ 162.68
05/04/2025

Cyfrifon yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Blwyddyn Ariannol 06-04-2024 tan 05-04-2025

Crynodeb

Balans Agor: £ 645,789.06 06/04/2024

INCWM TALIADAU Cyfrif Cyfredol £ 133,841.43 Cyfrif Cyfredol £ 134,788.62 Cyfrif Cadw HSBC £ 9,891.13 Cyfrif Cadw HSBC £ 100,000.00 Cyfrif Cadw Shawbrook £ 100,000.00 Cyfrif Cadw Shawbrook £ - Arian Parod £ 999.32 Arian Parod £ 955.00 CYFANSWM £ 244,731.88 CYFANSWM £ 235,743.62 (excluding internal transfer) £ 144,731.88 (excluding internal transfer) £ 135,743.62

Balans Cau: £ 654,777.32 05/04/2025

Arian Cyfyngedig

Arian Anghyfyngedig

Cronfa Adeilad £ 486,869.60
£ 67,310.46
Cronfeydd wrth gefn £ 50,000.00
(tua 6 mis o gostau rhedeg)
Cronfa Anghenion £ 2,968.47
Llyfrau Gwynn Williams £ 925.93
Efengylwraig Creadigol £ 24,281.14
Gweithiwr Bugeiliol £ 22,421.72

CYFANSWM £ 587,466.86

Cyfrifon yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Blwyddyn Ariannol 06-04-2024 tan 05-04-2025

Independent Examiners Report:​

I have examined the accounts of Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd for the year ending 5th April 2025 in accordance with the general directions given by the Charity Commission.​

In connection with my examination, no matter has come to my attention which gives me reasonable cause to believe that in any material respect the requirements to keep accounting records and prepare accounts have not been met. I have not found anything to which, in my opinion, attention should be drawn in order to enable a proper understanding of the accounts to be reached.

Name:

Signature:

Date:​

​Relevant professional qualification or body:​

Address

Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd Accounts Financial Year 06-04-2024 to 05-04-2025 Independent Examiners Report: I have examined the accounts of Eglwy5 Efengylaidd Gymraeg Caerdydd for the year ending 5th April 2025 in accordante wtth the general direttions given by the Charity Commission. In connection with my examination, no mètter has come to my attention whith gives me reasonable cause to belÉeve that in any material respect the requirements to keep accounting recorfls and prepare accounts have not been met. I have not found anything to which, in my opinion. attention should be drawn in order to enable a proper understsndinB of the accounts to be reached. Name.. Paul Burnell Signature-. Date.- 23rd January 2026 Relevant professional qualificatson or body= Associate Chartered Management Institute Address.. 69 Velindre Road. Whitchurch, Cardiff CF14 2TF