OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-04-05-accounts

Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Adroddiad 2023-24

Amcanion yr Eglwys

(1) hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â’r Sylfaen Ffydd, yn bennaf yng Nghaerdydd a’r gymdogaeth o’i chwmpas ond heb fod yn gyfyngedig i’r mannau hynny; a

(2) dibenion elusennol eraill a fydd ym marn yr Ymddiriedolwyr Rheoli yn hyrwyddo gwaith yr Eglwys.

Crynodeb o weithgarwch y flwyddyn

Dros y flwyddyn rydym ni wedi cyflawni ein hamcanion fel elusen mewn llawer o ffyrdd.

Ar y Sul rydym yn cynnal oedfaon byw am 10:00 a 17:00 sydd hefyd yn cael eu ffrydio yn fyw ar youtube. Mae cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfodydd hyn ac yn dilyn oedfaon mae Ysgol Sul i blant ac oedolion. Hefyd unwaith y mis rydym yn dathlu’r cymun fel rhan o’r oedfa boreol.

Yn ystod yr wythnos mae gennym ni nifer o gyfarfodydd rheolaidd. Mae cwrdd gweddi ar nos fawrth a chyfarfodydd i’r gwragedd gael paned a sgwrs neu brecwast ar fore sadwrn. Rydym wedi dechrau brecwast rheolaidd i’r dynion hefyd. Mae clybiau wythnosol gennym ni ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd.

Rydym wedi parhau gyda darlithoedd arlein gan yr Athro E. Wyn James lle mae cyfle i bobl ddod i drafod emynau a cherddi Cristnogol. Ar ben hyn mae bore coffi misol i rai sy’n dysgu Cymraeg, ac rydym yn mynd unwaith y tymor i gynnal oedfa yn y cartref henoed lleol.

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi cael sawl cyfle arbennig i estyn allan i’r gymuned. Cafwyd arddangosfa gelf yn seiliedig ar Lyfr Job yn ystod mis Hydref. Fe wnaethon ni nifer o bethau dros Nadolig gan gynnwys amrywiaeth o wasnaethau carolau – ymunodd côr yr Ysgol Gynradd lleol ar gyfer ein oedfa teuluol, ac am y tro cyntaf eleni fe gafon ni noson carolau Plygain traddodiadol. Er mwyn dathlu Gwyl Ddewi fe drefnon ni oedfa deuluol a gwahodd yr ysgol lleol i fynychu eto. Yn fwy diweddar rydyn ni wedi cymryd rhan yng Ngwyl yr Eglwys Newydd gan drefnu pabell a gweithgareddau er mwyn ceisio cysylltu gyda’r gymuned leol.

Fel eglwys rydyn ni wedi cael y fraint o wahodd nifer o bregethwyr gwadd i’n hoedfaon ar y Sul. Ond hefyd mae henuriaid yr eglwys wedi gallu mynd i gynorthwyo eglwysi eraill trwy bregethu yn eu hoedfaon nhw.

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni hefyd wedi cymryd casgliadau ariannol arbennig tuag at anghenion gwahanol ac i gefnogi gwaith Duw yng Nghymru a thros y byd. Roedd hyn yn cynnwys elusennau fel

Enfys Gobaith, United Beach Missions a Barnabas Aid. Ond hefyd cenhadon unigol fel Heledd Job, Tom a Nerys King a Lydia Adams.

Ar hyn o bryd rydym yn parhau i rentu adeilad capel Tabernacl yr Eglwys Newydd ond yn chwilio am gartref parhaol.

Cynlluniau i’r dyfodol

Yn dal i fod y peth mawr sydd yn cymryd ein sylw yw yr angen am adeilad newydd. Rydyn ni wrthi’n edrych ar y posibiliadau ar hyn o bryd, ac yn parhau i geisio rhoddion ariannol er mwyn ein galluogi ni i brynu ac addasu safle addas.

Cyllid

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i gyflogi gweinidog, henuriad rhan-amser, a gweinyddwraig rhan-amser. Rydym hefyd wedi dechrau ar gyfnod newydd o 3 blynedd yn cyflogi ein efengylwraig creadigol. Mae’r eglwys yn cyfrannu 2 ddiwrnod o gyflog, gyda’r gweddill yn dod trwy grantiau a rhoddion.

Mae swm sylweddol o arian gennym ni wrth gefn, ond sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ein hangen am adeilad. Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr i roi £100,000 o hyn mewn cyfri gyda llog uchel, gan benderfynu cadw’r gweddill mewn cyfrif ‘instant access.’ Nid yw'r Ymddiriedolwyr yn rhagweld unrhyw risgiau amlwg i gyllid a gweithrediadau beunyddiol yr eglwys.

Sylwadau Terfynol

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at waith yr eglwys dros y flwyddyn diwethaf.

Cyfrifon Yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Blwyddyn Ariannol 06-04-2023 tan 05-04-2024

Cyfrif Cyfredol ac Arian Parod

Balans Agor

06-04-2023
£ 104,554.75

Incwm

Casgliadau
£ 84,041.44
Gift Aid
£ 25,092.99
Casgliadau Arbennig
£ 7,465.64
Rhodd at weithiwr bugeiliol
£ 6,294.90
Taliadau Derbynnwyd:
Gwaith Efengylu Creadigol
£ 20,649.23
Gwyliau Capel 2024
£ 2,049.93
Grant offer technoleg
£ 2,000.00
Rhentu’r Hen Adeilad
£ 890.00
Gwyliau Capel 2023
£ 526.66
Cyfraniad at fwyd
£ 137.00
Taliadau
Cyflogau_(gan cynnwys pensiwn, treth, NI)
£ 100,760.56
Technoleg
£ 7,293.35
Rhoddion
£ 6,445.89
Rhentu
£ 6,005.51
Prosiectau Efengylu
£ 1,671.98
Yswiriant
£ 383.08
Arall:
_Gwyliau Capel 2024

£ 3,548.48
Gwyliau Capel 2023
£ 2,450.00
Siaradwyr Allanol
£ 1,085.00
Nwyddau
£ 897.49
Costau Efengylwraig Creadigol
£ 752.97
Hysbysebu
£ 720.72
Diogelu
£ 487.18
Plant & Ieuenctid
£ 260.73
Taliadau Banc
£ 96.80
Bwyd
£ 85.00
Cyfanswm £ 149,147.79 Cyfanswm £ 132,944.74
Balans Cau
05-04-2024 £120,757.80

1 / 3

Cyfrifon EEGC Accounts 2023-24

Cyfrif Cadw

Balans Agor 06-04-2023 £504,917.91 Incwm Taliadau Rhoddion (direct) £ 3,350.00 Taliadau Banc £ 12.50 Rhoddion ( via Current £ 7,458.66 Account & Cash ) Llog Banc £ 9,317.19 Cyfanswm £ 20,125.85 Cyfanswm £ 12.50 Balans Cau 05-04-2024 £525,031.26

Crynodeb

Balans Agor 06-04-2023 £609,472.66 Income Expenditure Cyfrif Cadw £ 20,125.85 Cyfrif Cadw £ 12.50 Cyfrif Cyfredol £ 148,361.25 Cyfrif Cyfredol £ 132,314.98 Arian Parod £ 786.54 Arian Parod £ 629.76 Cyfanswm £ 169,273.64 Cyfanswm £ 132,957.24


Balans Cau
05-04-2024
£645,789.06
Arian Cyfyngedig
Cronfa Adeilad
£ 475,031.26
Cronfeydd wrth gefn
£ 50,000.00
Cronfa Angenion
£ 2,378.16
Llyfrau Gwynn Williams
£ 925.93
Efengylwraig Creadigol
£ 21,353.15
Gweithiwr Bugeiliol tan Mawrth 2026
£ 37,000.00
Cyfanswm
£ 586,688.50
Arian anghyfyngedig
£59,100.56(tua. 6 mis o gostau rhedeg)

2 / 3

Cyfrifon EEGC Accounts 2023-24

Independent Examiners Report :

I have examined the accounts of Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd for the year ending 5[th] April 2024 in accordance with the general directions given by the Charity Commission.

In connection with my examination, no matter has come to my attention which gives me reasonable cause to believe that in any material respect the requirements to keep accounting records and prepare accounts have not been met. I have not found anything to which, in my opinion, attention should be drawn in order to enable a proper understanding of the accounts to be reached.

Name:

Signature:

Date:

Relevant professional qualification or body:

Address:

3 / 3

Cyfrifon EEGC Accounts 2023-24