OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-04-05-accounts

Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

Adroddiad 2022-23

Amcanion yr Eglwys

Crynodeb o weithgarwch y flwyddyn

Dros y flwyddyn rydym ni wedi cyflawni ein hamcanion fel elusen mewn llawer o ffyrdd.

Ar y Sul rydym yn cynnal oedfaon byw am 10:00 a 17:00 sydd hefyd yn cael eu ffrydio yn fyw ar youtube. Mae cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfodydd hyn ac yn dilyn oedfaon mae Ysgol Sul i blant ac oedolion. Hefyd unwaith y mis rydym yn dathlu’r cymun fel rhan o’r oedfa boreol.

Yn ystod yr wythnos mae gennym ni nifer o gyfarfodydd rheolaidd. Mae cwrdd gweddi ar nos fawrth a chyfarfodydd i’r gwragedd gael paned a sgwrs neu brecwast ar fore sadwrn. Hefyd mae clybiau wythnosol gennym ni ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd.

Un datblygiad yn ystod cyfnod Covid sydd wedi parhau yw darlithoedd dros Zoom gan yr Athro E. Wyn James lle mae cyfle i bobl ddod i drafod emynau a cherddi Cristnogol.

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi cael sawl cyfle arbennig i estyn allan i’r gymuned. Cafwyd Parti Goleuni yn ystod mis Hydref. Fe wnaethon ni nifer o bethau dros Nadolig gan gynnwys oedfa arbennig yng Nghastell Coch a nifer o wasnaethau carolau eraill. Yn fwy diweddar rydyn ni wedi cymryd rhan yng Ngwyl yr Eglwys Newydd gan drefnu arddangosfa gelf yn ogystal a phabell er mwyn ceisio cysylltu gyda’r gymuned leol.

Fel eglwys rydyn ni wedi cael y fraint o wahodd nifer o bregethwyr gwadd i’n hoedfaon ar y Sul. Ond hefyd mae henuriaid yr eglwys wedi gallu mynd i gynorthwyo eglwysi eraill trwy bregethu yn eu hoedfaon nhw.

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni hefyd wedi cymryd casgliadau ariannol arbennig tuag at anghenion gwahanol ac i gefnogi gwaith Duw yng Nghymru a thros y byd. Roedd hyn yn cynnwys elusennau fel Enfys Gobaith, United Beach Missions a Barnabas Aid. Ond hefyd cenhadon unigol fel Heledd Job, Tom a Nerys King a Lydia Adams.

Adroddiad Blynyddol gan yr Ymddireidolwyr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

2022/23 Rhif Elusen: 1199509

Un o’r newidiadau mawr ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn oedd ein bod ni wedi gwerthu ein adeilad. Ers y cyfnod clo rydyn ni wedi bod yn rhentu adeilad capel Tabernacl yr Eglwys Newydd ac yn chwilio am gartref parhaol.

Cynlluniau i’r dyfodol

Ar hyn o bryd y peth mawr sydd yn cymryd ein sylw yw yr angen am adeilad newydd. Rydyn ni wrthi’n edrych ar y posibiliadau ar hyn o bryd, ond yn barod wedi dechrau ceisio rhoddion ariannol er mwyn ein galluogi ni i brynu ac addasu safle addas.

Cyllid

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld rhai newidiadau sylweddol i'n hincwm a'n gwariant wrth i aelodaeth dyfu, a gyda gwerthiant ein hadeilad. Rydym wedi parhau i gyflogi gweinidog, gweinyddwraig rhan-amser ac efengylwraig creadigol. Mae grantiau wedi cefnogi'r rôl efengylwraig greadigol i fod yn rôl llawn amser.

Ar ôl asesiad o’r cronfeydd wrth gefn yn y cyfrif, mae'r henuriaid a'r aelodaeth wedi cytuno i gyflogi henuriad rhan-amser o fis Ebrill 2023 am dair blynedd, a nodwyd yn yr arian sydd wedi'i glustnodi ar y cyfrifon a gyflwynwyd gyda'r adroddiad hwn. Byddant hefyd yn asesu’r rôl efengylwraig creadigol o fis Medi 2023, ar yr amod bod rhagor o gyllid grant yn cael ei cadarnhau.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn ymchwilio opsiynau Cynilion a Buddsoddi addas ar gyfer y Gronfa Adeiladu nes ein bod mewn sefyllfa i ddefnyddio'r arian hwnnw at y diben a fwriadwyd. Nid yw'r Ymddiriedolwyr yn rhagweld unrhyw risgiau amlwg i gyllid a gweithrediadau beunyddiol yr eglwys.

Sylwadau Terfynol

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at waith yr eglwys dros y flwyddyn diwethaf.

Adroddiad Blynyddol gan yr Ymddireidolwyr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd

2022/23 Rhif Elusen: 1199509

Cyfrifon Yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd Blwyddyn Ariannol 0&04-2022 tan 05-04-2023 rifc redol ac Arian Parod Balans Agor 06-04-2022 £ 103.856.16 Incwm Taliadau Casgliadau Casgliadau Arbennig Taliadau Derbynnwyd: WLF/Lois £ 65,658.06 Cyflogau19OntynAV*vsoeAsiwrt. tFtth. £ 68,587.75 £ 3,109.93 Rhoddion 7,667.62 Rhentu 5.509.38 £ 13,648.75 Technoleg Yswiriant 3,534.46 Rhentu'r Hen Adeilod £ 5,080.00 1,253.36 Gwylffjou Ct7pel 2022 £ 2.532.30 Gwyliou Copel 2023 Cyfraniad Gtfviyd Ad-doliodou £ 368.54 Prosiectau 712.35 £ 1,612.72 Cyneustodau.. 121.23 Trydon 1,219.10 Nwy 1,643.76 Internal 96.90 Gwe 356.40 GiftAid £ 7,408.21 235.57 Arall.. Gwylit7u copel 2022 SiaradwyrAllanol Gwerthu'r udeilad 2,274.09 1,715.00 1.503.60 Diogelu Hysbysebu 8wyd Plont & leuenctid 721.87 631.12 477.88 304.04 Nwyddou 240.33 8onc 130.47 Cynnul a chadw 123.00 Internol 96.90 Cyfanswm £99,636.64 Cyfanswm £ 98.938.05 Balans Cau 054￿2023 £ 104,554.75 Cyfrifon EEGC Accounts 2022-23 113

rif Cadw Balans Agor 06Q4-2022 £161.123.50 Incwm Taliadau Gwerthu'r Adeilad Llog Banc 342,641.60 1,152.81 Cyfanswm 343,794.41 Cyfanswm Balans Cau 05-04-2023 £504.917.91 nodeb Balans Agor 06-04.2022 £264.979.66 Incwm Taliadau Cyfrif Cadw Cyfrif Cyfredol Arian Parod 343,794.41 Cyfrif Cadw Cyfrif Cyfredol Arian Parod 98,768.44 98,002.87 868.20 935.18 Cyfanswm 443,431.05 Cyfanswm 98.938.05 Balans Cau 05-04-2023 £609,472.66 Cronfa Adeilad 454,917.91 Cronfeydd wrth gefn Cronfa Anghenion Llyfrau Gwynn Williams Gweithiwr tan Mawrth 2026 Efengylwraig Creadigol Cyfanswm 50.1XJO.CK) 1,3LK).CK) 915.93 50,Crf)O.00 4,852.08 561,985.92 Cyfrilon EEGC Accounts 2022-23 213

Independent Examiners Report: I have examined the accounts of Eglwys Efengylaidd Gymraeg C3erdydd for the year ending 5, April 2023 in accordance with the general directions given by the Charity Commission. In connection with my examination, no matter has come to my attention which gives me reasonable cause to believe that in any material respect the requirements to keep accounting records and prepare accounts have not been met. I have not foLtnd anything to which, in my opinion, attention should be drawn in order to enable a proper understanding of the accounts to be reached. Name: ELEW Signature: & Date.. r£/oglz3 Relevant professional qualification or bodv: DArA ANALb5T Address.. F Low GApJ(>L, 12Hiw@ifvJA, CARDIFF, CFiw Éets Cyfrifon EEGC Accounts 2022-23 313