OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-03-31-accounts

Llawlyfr i rieni

Cylch Meithrin Penygroes Y Caban Safle Ysgol Bro Lleu Ffordd y Brenin Pen-y-groes LL54 6RE

Rhif ffôn y Cylch: 07379599487

Rhif Ffon AGGCC 0300 7900 126

Croeso i Gylch Meithrin Pen-y-groes

Nod ac amcanion y Cylch

Nod Cylch Meithrin Pen-y-groes yw rhoi cyfle i blant ifanc fanteisio ar wasanaeth a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol ag athroniaeth Mudiad Ysgolion Meithrin a safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer sesiynau dyddiol.

Er mwyn anelu at roi'r profiadau dysgu gorau i’r plant rydym ni fel cylch yn darparu amgylchedd diogel a hapus, sy’n llawn o brofiadau cyfoethog ac sy’n ysgogi plant i ddysgu, chwarae, cyflawni a chael hwyl. Rydym yn hyrwyddo’r addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac felly yn rhoi llawer o gyfleoedd gwahanol i’r plant arbrofi gyda gwahanol weithgareddau yn y Gymraeg.

Rydym ni yn y cylch yn rhoi pwyslais ar gael y plant i ddysgu trwy brofiad ac felly rydym yn dilyn y 5 llwybr dysg. Mae hyn yn golygu bod y plant yn datblygu mewn amryw o ffyrdd gwahanol wrth wneud pethau maent yn mwynhau ac maent yn cael hwyl yn ogystal.

Y 5 llwybr dysgu ydi:-

Er mwyn gweld cynnwys pob un o'r 5 llwybr dysgu uchod awgrymwn eich bod yn edrych ar y llyfryn ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir’ .

Pwyllgor Rheoli

Mae’r Cylch yn cael ei reoli gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Nid oes yr un o’r aelodau’n derbyn tâl na braint am wneud y gwaith.

Mae’r pwyllgor rheoli yn sicrhau bod y Cylch yn cydymffurfio â’r AGC (Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) ar gyfer sesiynau dyddiol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Os oes gennych unrhyw ddatganiad neu gwyn i’w wneud ynglŷn ag unrhyw agwedd o weithgareddau’r Cylch, dylech gysylltu â’r pwyllgor. Mae manylion cyswllt pob aelod o’r pwyllgor yng nghyntedd yr ysgol feithrin.

Swyddogion y Pwyllgor Rheoli:

Person Cofrestredig a Chadeirydd: Elen Pritchard Ysgrifenyddes: Llinos Haf Trysorydd : Gerallt Jones Rheolwraig: Bethan Jones

Bydd aelodau’r pwyllgor yn newid bob dwy flynedd ar gyfartaledd a bydd angen rhieni newydd ar y pwyllgor i wirfoddoli i gymryd swyddi a sicrhau bod pwyllgor llawn yn bodoli drwy gydol yr amser. Cysylltwch ag aelod o’r staff neu â’r pwyllgor os hoffech gefnogi’r pwyllgor drwy ymuno. Rydym yn gwerthfawrogi pob arwydd o gymorth.

Y Cylch Meithrin

Mae'r Cylch Meithrin yn rhan o Fudiad Ysgolion Meithrin, y corff sydd yn cefnogi pob Cylch Meithrin lleol ac sydd yna i gynnig arweiniad iddynt. Mae gan bob Cylch Meithrin swyddog datblygu sy’n cynghori’r Cylch ar faterion ddaw i fyny o dro i dro. Swyddog Datblygu Cylch Meithrin Penygroes yw Eifiona Davies ac mae ei rhif ffôn i’w gael yn y Cylch.

Prif nod Cylch Meithrin Penygroes yw bod gan bob plentyn:

Bydd y Cylch yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni i hyrwyddo’r gwerthoedd hyn.

Mae Cylch Meithrin Penygroes wedi ei gofrestru ar gyfer 18 o blant rhwng dyflwydd a phedair oed. Mae'r Cylch yn darparu “Gofal Dydd Llawn”. Mae Gofal Dydd Llawn yn cyfeirio at gyfleusterau sy'n darparu gofal dydd i blant am gyfnod parhaus o 4 awr neu fwy mewn unrhyw ddiwrnod.

Mae'r Cylch Meithrin yn gwneud defnydd o'r holl adeilad sydd ar gael iddynt (hynny yw y Caban) yn ogystal â iard bach y Cylch.

Cynigir amryw o brofiadau a chyfleoedd dysgu i’r plant drwy chwarae â thywod a dŵr, clai, yn y tŷ bach twt, gemau bwrdd a jig-so, crefft a phaent, amser stori a chwarae allan ar feiciau a.y.b.

Bydd cyfle i’r plant wrando ar storiâu, chwarae dychmygol, canu a dawnsio.

Bydd seibiant yn ystod y sesiwn i gael diod a thamaid i’w fwyta. Rydym yn cynnig bwydlen iachus gyda diod o lefrith neu ddŵr.

Croesewir plant ag anghenion arbennig a bydd yr holl weithgareddau ar gael iddynt a threfnir person ychwanegol i’w cefnogi os oes angen.

Peidiwch â danfon eich plant yn eu dillad gorau - mae chwarae yn aml yn achosi llanast!

Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin. Mae rhai o’r plant o gartrefi Di-Gymraeg, ond Cymraeg fyddwn ni'r oedolion yn siarad â nhw bob amser a chyn pen dim o dro byddant yn deall y cwbl bron.

Mae Cylch Meithrin Penygroes yn ran o raglen Dechrau’n Deg. Prosiect gan y Llywodraeth yw Dechrau’n Deg, sy’n gweithio gyda plant o dan 4 oed, a’i fwriad yw gwella sgiliau’r plant, gan eu paratoi ar gyfer yr ysgol, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer bywyd yn gyffredinol. Mae cynllun Dechrau’n Deg yn targedu wardiau penodol o fewn Gwynedd ac, yn ddibynnol ar eich côd post, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun.

Mae 4 elfen i Dechrau’n Deg:

Mae hyn yn sicrhau ein bod yn targedu cymorth tuag at blant gydag anghenion penodol. Golygir hyn bod ymweliadau o bryd i’w gilydd gan Uwch Athrawes Dechrau’n Deg, Ymwelydd Iechyd, Therapydd Iaith ac ati.

Ymhellach, mae’n ofynnol i staff gwblhau cynllun hyfforddiant penodol sydd yn eu galluogi i ddarparu cefnogaeth ac addysg o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys cynnal grwpiau iaith a sesiynau amrywiol.

Y Staff

Y pwyllgor rheoli sy’n penodi ac yn cyflogi’r staff. Maent hefyd yn gyfrifol am y sesiwn bore, sesiwn cynllun clwb cinio a sesiwn prynhawn.

Mae pob aelod o staff wedi eu cofrestru gyda’r AGC ac mae’r wybodaeth a gyflwynir iddynt yn cydymffurfio â rheolau gofynnol. Mae’r person cofrestredig a'r person mewn gofal yn cael gwiriad gan y DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - Disclosure and Barring Service).

Mae pob aelod o staff yn hyddysg mewn cymorth cyntaf.

Mae arweinydd y Cylch yn gymwys ym maes gofal plant ac mae'n ofynnol bod gan arweinydd pob Cylch Meithrin o leiaf ddiploma lefel 3 mewn gofal ac addysg

yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r staff yn mynychu cyrsiau sydd yn berthnasol i’w swyddi yn rheolaidd.

Arweinydd – Bethan Jones Is-Arweinydd – Caroline Hobson Cymhorthwraig – Kimberley Griffith

Ffurflen gofrestru

Mae'n rhaid i bob rhiant lenwi ffurflen gofrestru a chytundeb ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu’r cylch. Mae’n rhaid ateb bob cwestiwn er lles y plant. Rhaid i’r ffurflen gael ei chyflwyno i’r staff cyn i’r plentyn gychwyn yn y cylch. Mae’n ofynnol bod ffurflen ‘Casglu Plentyn’ yn cael ei llenwi gan gynnwys lluniau o’r rhiant neu berthynas/ffrind sydd yn debygol o gasglu’r plentyn o’r Cylch.

Gweithdrefnau Ymarferol

Bydd Cylch Meithrin Penygroes ar agor o 8.30 tan 11.00 o’r gloch am y sesiwn bore ar y dyddiau canlynol:

Pris sesiwn bore yw £5.00, sef £25.00 yr wythnos.

Bydd Cylch Meithrin Penygroes ar agor ar gyfer y cynllun clwb cinio rhwng 11.00 a 1.00 y prynhawn ar y dyddiau canlynol:

Pris sesiwn clwb cinio yw £5.00, sef £25.00 yr wythnos.

Bydd Cylch Meithrin Penygroes ar agor o 1:00 tan 2:45 o’r gloch am y sesiwn prynhawn ar y dyddiau canlynol:

▪ Dydd Gwener

Pris sesiwn bore yw £4.00, sef £20.00 yr wythnos.

Mae Ysgol Bro Lleu yn gofyn i rieni beidio â dod drwy giatiau'r ysgol i gasglu eu plant o’r Cylch Meithrin.

Taliadau

Gofynnir i’r ffi wythnosol gael ei thalu ymlaen llaw ar ddechrau’r wythnos. Mae taliadau’r plant yn talu am gyflogau’r staff ac am redeg y gwasanaeth felly mae’n hanfodol bod taliadau’n cael eu derbyn yn wythnosol.

Os yw taliadau'n hwyr bydd y pwyllgor yn llythyru’r rhiant ymhen pythefnos o gyfnod heb daliadau. Os nad ydi’r ddyled yn cael ei chlirio mewn pythefnos bydd y plentyn yn colli ei le yn y Cylch hyd nes bydd y ddyled wedi ei chlirio.

Os bydd y Cylch neu'r Clwb Cinio'n gorfod cau oherwydd tywydd garw neu o ganlyniad i dywydd garw e.e dim trydan/ dŵr/ gwres, yna ni fydd gofyn talu. Ni fydd angen talu yn ystod gwyliau ysgol, hyfforddiant staff a gwyliau banc.

Absenoldeb oherwydd salwch neu wyliau teulu:

Mae gennych gytundeb â’r Cylch am le i’ch plentyn a bydd yn ofynnol i chi dalu'r tâl arferol yn ystod salwch y plentyn neu wyliau teulu er nad yw’r plentyn yn mynychu’r Cylch.

Tymhorau'r mudiad

Bydd eich plentyn yn derbyn addysg am ddim wedi iddo/iddi droi'n dair oed. Os yw eich plentyn yn 3 cyn Rhagfyr 31ain yna ni fyddwch yn talu am wasanaeth y cylch o Ionawr y 1af ymlaen. Os yw eich plentyn yn 3 oed rhwng 1af o Ionawr a 31ain o Fawrth, yna ni fyddwch yn talu o 1af o Ebrill ymlaen. Os yw eich plentyn yn cael ei benblwydd ar ôl hyn, yna fe fydd rhaid talu nes diwedd tymor yr haf. Nid yw hyn yn berthnasol i'r clwb cinio. Bydd angen talu am y gwasanaeth yma drwy'r flwyddyn.

Gweithgareddau codi arian

Gan nad ydi taliadau'r plant a grantiau gan y Cyngor yn ddigon o arian i redeg y gwasanaeth, mae gweithgareddau codi arian yn cael eu cynllunio yn rheolaidd drwy’r flwyddyn. Disgwylir i bob rhiant gymryd rhan os gwelwch yn dda, er mwyn sicrhau llwyddiant wrth godi arian ac er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Cylch. Byddwn yn ddiolchgar o dderbyn unrhyw syniadau codi arian sydd gennych.

Tywydd Garw/Argyfyngau

Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn yn ddiogel beth bynnag fo’r sefyllfa o argyfwng, a sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i alluogi’r Cylch i ddilyn y canllawiau isod:

Cyfrifoldeb yr Arweinydd a’r Pwyllgor yw penderfynu a ddylid cau ai peidio. Bydd y penderfyniad yn ddibynnol ar asesiad o’r ffactorau perthnasol gan gynnwys rhagolygon y tywydd, y sefyllfa yn y Cylch a’r ardal tu allan, gan gynnwys Ysgol Bro Lleu a sefyllfa aelodau staff a theithio a.y.y.b.

Pan gymerir penderfyniad i gau’r Cylch, bydd yr Arweinydd yn hysbysu’r rhieni.

Polisi Rhestr Aros / Derbyn Plant i’r Cylch Meithrin (sesiwn y bore)

1. Bydd lle i blant 2 – 3 oed yn dibynnu ar y nifer o lefydd gwag sydd yn y Cylch ar yr adeg honno.

2. Mewn achos lle mae plentyn yn 2 ½ oed cyn mis Medi ceisir sicrhau bod ychydig o ddyddiau ar gael iddo / iddi, ond eto mae hyn yn dibynnu ar y nifer o leoedd gwag sydd yn y Cylch. Rhaid sylweddoli, er enghraifft, na ellir cadw lle yn wag i blentyn sy’n 2 ½ oed ym mis Gorffennaf am flwyddyn.

3. Ceisiwch lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer plentyn mor fuan ag sy’n bosibl rhagofn y bydd nifer o blant o’r un oedran eisiau lle yr un pryd.

4. Hefyd, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i blant lleol sydd yn bwydo Ysgol Bro Lleu.

Rheoli Ymddygiad

Nod y cylch yw darparu amgylchedd hapus a llawn gofal i’r plant wrth hyrwyddo dealltwriaeth plentyn o ymddygiad derbyniol. Dangosir parch tuag at bob plentyn drwy’r amser.

Côd ymarfer

Os yw plentyn yn ymddwyn yn ymosodol tuag at blentyn/plant eraill yn gyson, bydd staff y Cylch yn ei dywys o’r sefyllfa, yn ei dawelu, ac yn egluro mewn ffordd sy’n ddealladwy iddo nad yw’r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol. Cofnodir hyn yn y llyfr digwyddiadau. Fel bo ymddygiad y plentyn yn gwella, rhoddir pob anogaeth a chanmoliaeth iddo.

Ymhob achos lle mae ymddygiad plentyn yn achosi gofid, bydd Arweinydd y Cylch yn trafod y sefyllfa yn bositif gyda’r rhieni ar yn datblygu cynllun i wella’r sefyllfa.

Mae croeso i rieni gael copi llawn o’r polisi ‘Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol’ o’r ffeil MYM yn yr ysgol feithrin.

Adroddiad ysgrifenedig ar ddatblygiad plant

Bydd y staff yn paratoi Llyfr Taith Dysgu ar ddatblygiad y plant ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn i’r rhieni gael blas ar brofiadau a datblygiad eu plant.

Polisïau

Mae gan y Cylch lawlyfr ar nifer o feysydd penodol sy’n ymwneud â threfn a gweithgareddau’r Cylch. Ceir rhestr ohonynt isod, a bydd croeso i chi gael gweld y polisïau cyflawn yn y Cylch.

Mae croeso i chi eu darllen unrhyw adeg, gofynnwch i aelodau o’r pwyllgor neu’r Arweinydd.

Dyma restr o’r polisïau:

Polisi Canmol a chwyno

Nod

Nod y Cylch yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf ym mhob agwedd o’i waith.

Egwyddor.

Mae’r Cylch yn cefnogi’r egwyddor o dderbyn barn rhieni a phobl broffesiynol dynodedig ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir (yn ogystal, wrth gwrs, â barn y plant), fel y gellir ei wella os oes angen. Hysbysir rhieni ynglŷn â’r polisi a threfn canmol a chwyno cyn i’w plentyn gychwyn yn y Cylch. Mae bocs awgrymiadau yng nghyntedd y Cylch. Mae croeso i chi roi eich sylwadau ar bapur yn y bocs awgrymiadau. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gwerthuso'r gwasanaeth a gynigir yn flynyddol ac yn gofyn i rieni gwblhau holiadur mewn perthynas â'r gwasanaeth.

Côd Ymarfer

Bydd y Cylch yn cymryd pob cwyn o ddifrif, ac yn ceisio ei ddatrys mewn modd adeiladol cyn gynted â phosib.

Bydd y Cylch yn croesawu sylwadau canmoliaethus bob amser, ond os bydd angen i unrhyw un fynegi anfodlonrwydd, dylid dilyn y camau isod:

Os yw’r gwyn yn ymwneud â chyhuddiad o gamdriniaeth i blentyn, bydd y Cylch yn gweithredu ar unwaith drwy ddilyn y gweithdrefnau lleol ar gyfer amddiffyn plant.

Cyfeiriad a rhif ffôn AGC:AGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ 0300 7900 126

Materion amddiffyn Plant

Bydd unrhyw achos yn ymwneud ag amddiffyn plant yn cael ei gyfeirio at wasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn ogystal â'r AGC

Plant sydd mewn clytiau

Mae cyfleusterau newid clytiau ar gael yn y Cylch ac mae gan y Cylch bolisi ynglŷn â newid clytiau. Pan fydd y staff yn newid clytiau'r plant / mynd â nhw i'r toiled, byddant yn trin y plant ag urddas a gofal. Bydd y staff yn gwneud yn siwr bod yr amser hwn yn amser diffwdan i'r plant ac ni fyddant yn gwneud unrhyw sylwadau negyddol.

Rydym yn gofyn i rieni / gofalwyr ddod â'r canlynol i'r Cylch:

Y drefn

Plant ag anghenion arbennig

Mae'r Cylch yn derbyn plant ag anghenion arbennig. Mae toiled ar gyfer plant ag angenion arbennig.

Polisi Bwyd ar gyfer Byrbrydau Iach

Ein nod ni fel Cylch Meithrin yw sefydlu arferion bwyta da fydd yn aros gyda'r plant am weddill eu hoes:

Mudiad Ysgolion Meithrin. (MYM)

Bydd y Mudiad yn annog cylchoedd i werthuso’r gwasanaeth yn flynyddol drwy ddefnyddio holiadur. Mae’r pwyllgor yn bwriadu adolygu’r gwasanaeth yn flynyddol. Byddwn yn ddiolchgar o’ch cefnogaeth drwy lenwi’r holiadur yn ystod yr adolygiad.

Am fwy o fanylion neu wybodaeth am MYM gwelwch y wefan – www.mym.co.uk neu amryw bamffledi sydd wedi eu cynhyrchu gan MYM.

Gofynnir i bob rhiant sicrhau eu bod wedi darllen y wybodaeth ynglŷn â’r drefn gyda thaliadau a thâl yn ystod cyfnod o absenoldeb neu salwch. Diolch yn fawr.

Adroddiad ariannol am y flwyddyn 2022 – 2023

Rydyn wedi derbyn £70,598.81 o bres yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae’r arian wedi dod o ffioedd y plant, gofal plant 30 awr a Dechrau’n Deg.

Nid oes arian wedi cael godi drwy godi arian, mae hyn yn rhywbeth rydym an ei edrych arno yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae y lleoliad wedi gwario £55,276.30 yn ystod y flwyddyn ariannol.

Gwarier yr arian ar gyflogau, HMRC, pensiynau, ymuno gyda’r Mudiad, DBS, Adnoddau YPO.

YSGOL FErrHRIN PENYGROES ADRODDIAD ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU'R 31 MAWRTH. 2023 Derbynladau". FfI￿dd Cyngor Gwynedd Cyfanswm dorbynladau Talladau 14.266.13 56,332.68 70,598.81 Cynogau Cyfrifo a Chostau Banc Ypo DBS HMRC Deunyddiau ac Adnoddau Cynllun Cyfeirjo Pensiwn Mudiad Meithrin Ico Snowdonia Fire Protection Elw'r Ilwyddyn 43,427.13 713.60 2,102.18 110.00 5,084.29 1,202.57 40.00 2.282.43 173.00 40.00 101.10 (55.276.30) 15,322.51 Cylrff 8anc dly 1.4.22 Elwr fivryddyn C￿anSWrn yn y banc 31.3.23 43,369.92 15,322.51 58,692.43 Tystysgrll Archwllwyr ArChWil￿vyd y derbyniadau a'r taliadau gennyf ynghyd a'r adroddiad uchod a tystiaf eu bod yn unoi a'r Ilyfrau a'r talebion pe nasol. Archwllydd........... ........ Dyddlad... 2.j:..lJow

CHARITY COMMISSION FOR ENGLAND ANO WALES Independent examinerfs report on the accounts Section A Independent Examlnevs Report Report to tho tru8t•o81 memborn of Y460u FSI fHP(IM PEA)Y6f2oF4 On accounta for tho year énd•d Charlty no (If any) Sot outon pago• I report to the truslees on my examination of Ihe account8 of the above charity ('the TrusVI the year ended 3110 3 I￿￿3 As the charty's trustees, you afe resp)nsible for the preparalkin of the accwnts in accordance with the r4uirem8nls of the Charitses Act 2011 I'the Acr). R88pon•lblllllM and ba•18 of r•port I report in re8F¢ca d my examinati¢)n of the Trusvs aco)unts carrléd under section 145 of 2011 Act and in carying out my examlnalion, I have follow￿￿ 811 the appl￿ble DIr￿t￿n8 given by the Charity Comml88ion under section 14515llb} of the Act. Indep•nd•nt l am quallfied to •xamlner'8 Statament undertake the examinab'on by boing a qualified membar of linsert name of applicable li8teAI l￿dY]1. Delete I l appllca&V8. I have completth# my e%aminats'on. I rjxfimi that no material matters have come to my attentlon in connectK)n vAth the &xaminalion (other than that disclosed bdow J vknich glves me cau8e to believe that In. any material the accounung reo)rd8 wrre not kept in arxordance wtr¢ 86cllon 130 of the Chafities Acl ¢y the al>￿In13 not acthrd wrth the accounts'ng records,. or the accounlg did not compty ￿th th8 applicable r4uirements conceming the fomi and content of ¥wunts set out in the Char*l88 (Accounts and Reports) Reguiations 2008 ¢)ther than any r4uirement that the a¢¢ounts give a 'true and fair, Mew which is not a matter conghjered as part of an independenl examinats"on. I have no concems and have come woss rrf) other matters In connection the examination to attenlh)n should be dra￿￿ in this report in order to enable a proper undergtandirg of the accounts to be reached. . p￿Se delete the wonls In the brad(ets rfthay do not apply. Slgned: ?11/2 Name: Rèlevant profe•8lon•l quallflcatlonls) or body TCIEW FL IER Oct 2018