OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2025-03-31-accounts

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y cyfnod O 01/04/2024 (dyddiad cychwyn y cyfnod) Hyd at 31/03/2025 (dyddiad diwedd y cyfnod)

Enw’r elusen: Garn Bach Tryweryn Rhif elusen gofrestredig: 1196991 Amcanion a gweithgareddau

Cyfeirnod SORP
Crynodeb o amcanion yr
elusen a nodwyd yn y
ddogfen lywodraethol
Para 1.17 Cylch Meithrin/Gofal Dydd yn darparu
addysg i blant rhwng 2-4 oed a gofal i blant
clwb ar ôl ysgol/clwb gofal gwyliau o 2-11
oed.
Crynodeb o’r prif
weithgareddau a
ddarparwyd er budd
cyhoeddus mewn perthynas
a’r amcanion hyn, yn
benodol, y gweithgareddau,
y prosiectau neu'r
gwasanaethau a nodwyd yn
y cyfrifon.
Para 1.17 a 1.19 Rydym wedi ystyried y canllaw a
gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau at
fudd cyhoeddus. Cynnig addysg a gofal i
hyd at 19 o blant yng Nghaban Garn Bach
Tryweryn drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol
â gofynion AGC/Estyn. Byddwn yn derbyn
arweiniad ac argymhellion gan ein
hathrawes ymgynhorol ac hefyd ein
Cydlynydd Cefnogi.
Datganiad yn cadarnhau a
yw'r ymddiriedolwyr wedi
rhoi sylw i'r canllawiau a
gyhoeddwyd gan y
Comisiwn Elusennau ar fudd
cyhoeddus
Para 1.18 Cadarnhau ein bod yn cydymffurfio efo’r
gofynion statudol.
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:
SORP reference
Polisi darparu grantiau Para 1.38 Wedi bod yn ymgeisio am nifer o grantiau
i’n cynorthwyo efo datblygu/cynnal addysg
o’r safon uchaf a hefyd ar gyfer ariannu
prosiect/datblygiadau yn y Caban, yn
enwedig yr ardal tu allan. Wedi bod yn
llwyddiannus i dderbyn ambell grant
cymunedol hefyd ar gyfer cynorthwyo efo
ariannu gweithgareddau clwb gofal ar ôl
ysgol/clwb gofalgwyliau.
Polisi buddsoddiad
cymdeithasol gan gynnwys
buddsoddiad cysylltiedig â
rhaglen
Para 1.38 Er mwyn darparu addysg a gofal am bris
rhesymol wedi cynnal amryw o
weithgareddau codi arian ac wedi ymgeisio
am nifer o grantiau i wella’r ddarpariaeth â
chynnal addysg o’r safon uchaf.
Cyfraniad gan wirfoddolwyr Para 1.38 Yn ffodus iawn o gefnogaeth gwirfoddolwyr
â chyfraniadau gan aelodau’r gymuned.
Mae cyfraniad rhieni ac aelodau’r pwyllgor
yn amhrisiadwy yn enwedig gyda
gweithgareddau codi arian ar gyfer y Cylch
â chynorthwyo mewn sawl ffordd arall
hefyd.
Arall

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Cyraeddiadau a pherfformiad

SORP reference
Crynodeb o brif
gyflawniadau'r elusen, gan
nodi'r gwahaniaeth y mae
gwaith yr elusen wedi'i
wneud i amgylchiadau ei
buddiolwyr ac unrhyw
fuddion ehangach i'r
gymdeithas gyfan.
Para 1.20 Darparu hyd at 150 o sesiynau addysg
feithrin a gofal dydd (47.5 yr wsnsos) i hyd
at 19 o blant yng Ngarn Bach Tryweryn (i
blant ardal Parc, Rhyduchaf, Maesywaen,
Arenig, Cwmtirmynach, Frongoch ac ambell
un o ardal y Bala hefyd) am bris rhesymol
gan gydymffurfio efo gofynion AGC ac
Estyn.

Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)

Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:

Cyflawniadau yn erbyn yr
amcanion a osodwyd
Para 1.41 Wedi cyflawni’r uchod.
Perfformiad gweithgareddau
codi arian yn erbyn yr
amcanion a osodwyd
Para 1.41 Wedi llwyddo i godi arian/cynnal
gweithgareddau fel y nodwyd. Wedi trefnu
ambell ddigwyddiad ar y cyd efo’r ysgol
hefyd sy’n ffordd wych o hybu cydweithio â
chodi arian yn ehangach. Nifer o
weithgareddau codi arian i’w trefnu ar gyfer
yflwyddyn nesaf hefyd.
Perfformiad buddsoddiad yn
erbyn amcanion
Para 1.41 Wedi gweithredu.
Arall

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Adolygiad ariannol
Adolygiad o sefyllfa ariannol
yr elusen ar ddiwedd y
cyfnod
Para 1.21 Cadarnhau bod y sefyllfa ariannol yn ffafriol
ac yn gynaladwy.
Datganiad yn esbonio'r polisi
ar gyfer cadw cronfeydd
wrth gefn yn nodi pam eu
bod yn cael eu cadw
Para 1.22 Mae gennym gyfrif cadw sydd wedi ei
neilltuo yn benodol ar gyfer diben cynnal a
chadw’r Caban a’r ardal tu allan. Rydym
wedi derbyn yr arian hwn o ffynonellau
grantiau penodol ac nid oes hawl gennym
i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall
heblaw cynnal a chadw’r adeilad fel y
nodwyd yn ein cesiadau.
Cyfanswm y cronfeydd wrth
gefn a chynhelir
Para 1.22 £14,846.85 (ar gyfer gwaith cynnal a
chadw/datblygu’r Caban a’r ardal tu allan).
Rhesymau dros beidio â dal
unrhyw gronfeydd wrth gefn
Para 1.22 Ddim yn berthnasol
Manylion gronfa sydd â
diffyg sylweddol
Para 1.24 Ddim yn berthnasol.
Esboniad o unrhyw
ansicrwydd ynghylch yr
elusen yn parhau fel busnes
gweithredol
Para 1.23 Ddim yn berthnasol
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:
Prif ffynonellau cyllid yr
elusen (gan gynnwys
unrhyw godi arian)
Para 1.47 Wedi cynnal amryw o weithgareddau codi
arian er mwyn prynu adnoddau i wella
darpariaeth addysg y plant. Wedi ymgeisio
am nifer o grantiau hefyd. Wedi cofrestru
ar gyfer y Rhestr Darparwyr Gofal Plant
cymeradwy er mwyn ein galluogi i ymgeisio
am grantiau. Mae’r ‘Cynnig Gofal Plant’
hefyd yn gymorth ar gyfer ariannu gofal
plant. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus o
dderbyn cyfraniadau gan grant cymunedol
y Coop ar gyfer cynorthwyo efo buddsoddi
mewn adnoddau â chynnal gweithgareddau
yn y clwb gofal ar ôl ysgol/clwb gofal
gwyliau. Hefyd cyfraniadau gan y
cynghorau cymuned lleol ar gyfer
buddsoddi mewn adnoddau i’r Cylch.
Polisi ac amcanion
buddsoddi (gan gynnwys
unrhyw bolisi buddsoddi
cymdeithasol a
fabwysiadwyd)
Para 1.46 Ddim yn berthnasol.
Disgrifiad o'r prif risgiau sy'n
wynebu'r elusen
Para 1.46 Mae’r nifer plant sy’n mynychu wedi
gostwng eleni oherwydd lleihad yn nifer y
plant yn y sector oedran meithrin yn yr
ardal. Mae’r niferoedd yn gyffredinol yn is
yn yr ardal am gyfnod – byddwn yn monitro
ac yn cynnal pwyllgorau rheolaidd i drafod
y sefyllfa ac yn ymateb a gweithredu fel
sy’n briododol. Fodd bynnag, mae’r
rhagolygon yn edrych yn addawol ar gyfer y
blynyddoedd nesaf gyda nifer dda o
fabanod yn mynychu sesiynau Ti a Fi yn
ein lleoliad.

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Arall

Strwythur, Llywodraethiant a Rheoli Strwythur, Llywodraethiant a Rheoli Strwythur, Llywodraethiant a Rheoli
Disgrifiad o
ymddiriedolaethau'r elusen:
Math o ddogfen lywodraethol
(cyfansoddiad, gweithred
ymddiriedaeth, siarter
frenhinol)
Para 1.25 Cyfansoddiad
Sut mae'r elusen wedi'i
chyfansoddi?
(e.e. cymdeithas
anghorfforedig, CIO)
Para 1.25 CIO
Dulliau dewis ymddiriedolwyr
gan gynnwys manylion
unrhyw ddarpariaethau
cyfansoddiadol e.e. etholiad
i swydd
Para 1.25 Enwebu gan rieni’r Cylch/aelodau Pwyllgor
mewn Cyfarfod Blynyddol.
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:
Polisïau a gweithdrefnau a
fabwysiadwyd ar gyfer
anwytho a hyfforddi
ymddiriedolwyr
Para 1.51 Mae’r Cylch yn gweithredu yn unol â
pholisïau’r Mudiad Meithrin a gellir gwneud
cais i gael gweld y polisïau â
chyfansoddiad y cylch. Byddwn yn rhannu
gohebiaeth gan y Mudiad ac unrhyw
wybodaeth sy’n fuddiol, yn cynnig
arweiniad ac yn berthnasol gyda’r
ymddiriedolwyr. Hefyd yn cynnal
pwyllgorau yn rheolaidd fel bo modd trafod
materion allweddol sydd angen sylw.
Strwythur gweithredol yr
elusen ac unrhyw rwydwaith
ehangach y mae'r elusen yn
gweithio gydag ef
Para 1.51 Ddim yn berthnasol.
Perthynas ag unrhyw bartïon
cysylltiedig
Para 1.51 Ddim yn berthnasol.
Arall

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Manylion Cyfeirio a Gweinyddu

Enw’r elusen Garn Bach Tryweryn
Enw arall a ddefnyddir gan yr
elusen
Rhif elusengofrestredig 1196991
Prif gyfeiriad yr elusen Safle Ysgol Bro Tryweryn,
Frongoch,
Bala,
Gwynedd,
LL237NT.

Enwau’r ymddiriedolwyr elusen sy’n rheoli’r elusen

1
2
3
4
5
6
7
Enw’r ymddiriedolwr Swydd (os oes) Dyddiadau gweithredu os
nad am flwyddyn gyfan
Enw'r person (neu'r corff) sydd â
hawl i benodi ymddiriedolwr (os
oes un)
Angharad Davies Unigolyn Cyfrifol 2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn
Mali Dafydd Cadeirydd/Ymddiriedolwr 2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn
Lois Evans Is-ysgrifrennydd
Ymddiriedolwr
2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn
Nia Lynch Ysgrifennydd/
Ymddiriedolwr
2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn
Lisa Smallwood Ysgrifennydd/
Ymddiriedolwr
2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn
Catrin Elen Roberts Ymddiriedolwr 2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn
Glain Jones Ymddiriedolwr 2 flynedd Pwyllgor Garn Bach Tryweryn

Ymddiriedolwyr corfforaethol - enwau'r cyfarwyddwyr ar y dyddiad y cymeradwywyd yr adroddiad

adroddiad
Enw'r cyfarwyddwr
Enwau ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n berchen i'r elusen
Enw’r ymddiriedolwr Dyddiadau gweithredu os nad
am flwyddyn gyfan

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Cronfeydd a gynhelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill

Disgrifiad o'r asedau a
gynhelirynyrhinweddhon
Ddim yn berthnasol
Enw ac amcanion yr elusen
y mae’r asedau yn cael ei
dal ar ei rhan a sut mae hyn
yn dod o fewn amcanion yr
elusengeidwad
Ddim yn berthnasol
Manylion y trefniadau ar
gyfer cadw asedau o'r fath
yn ddiogel ac ar wahan i
asedau'r elusen ei hun
Ddim yn berthnasol

Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)

Enwau a chyfeiriadau ymgynghorwyr (Gwybodaeth ddewisol)

Math o Enw Cyfeiriad ymgyngh orydd

Enw’r prif weithredwr neu enwau uwch aelodau staff (gwybodaeth ddewisol)

Llinor Angharad Pritchard a Mari Siwan Davies (cyd-arweinyddion)

Eithriadau rhag datgelu

Rheswm dros beidio â datgelu manylion personél allweddol

Gwybodaeth ddewisol arall

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Datganiad Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.

Arwyddwyd ar ran yr ymddiriedolwyr elusen

Llofnod(ion) Enw(au) llawn Angharad Medi Tudor Davies Swydd (ee, ysgrifennydd, Unigolyn Cyfrifol Cadeirydd ac ati) Dyddiad 08 Ionawr 2026

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Adroddiad y cadeirydd 2024 / 2025

Mae hi wedi bod yn flwyddyn lewyrchus iawn i gylch Garn Bach Tryweryn a llawer o ddigwyddiadau hwyliog wedi bod, oedd yn ein cof am hir.

I ddechrau, allwn ni ond dechrau wrth ddiolch i’r staff y cylch am eich gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Tydi hi ddim wedi bod yn hawdd i chi o gwbl eleni, llawer o newid wedi digwydd yn oriau’r staff. Mae newid niferoedd y plant wedi bod yn boen meddwl ganddo’ch, ond fedrwn ond diolch i chi am yrru ymlaen a dal yn rhoi 100% I’r plant bob diwrnod. Roedd hi’n anodd iawn hefyd i weld aelod o staff, Donna Puw yn ein gadel, a phob dymuniad a hapusrwydd iddi hi yn y swydd newydd.

Yn ogystal hefyd, y newid sydd wedi bod ers blwyddyn wrth roi help llaw a’r cylch Sarnau. Mae hyn wedi bod yn dipyn o waith i chi feddwl am staffio’r ddau le, felly diolch am eich amynedd.

Mae’r plant wedi cael dipyn o hwyl dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth ymweliad ar goedwig, trip Llyn Brenig calan gaeaf, trip i siop Moi Dafydd, ymweliad a Siôn corn ( diolch am Siôn Corn I ddod atom) ymweld ag Awel Coleg yn ei gwisgoedd Nadolig. Hefyd yn cael brecwast ffarmwr ( oedd yn boblogaidd iawn yn nhŷ ni) trip trên y Bala, a thrip diwedd y flwyddyn i fferm Harlech, a llawer mwy!

Yn ogystal â chadw plant cylch a meithrin yn brysur, mi ydach chi hefyd wedi bod yn brysur iawn efo clwb ar ôl ysgol. Diolch am eich holl egni o 8 y bore, tan 5:30 pob diwrnod, rydym yn eich gwerthfawrogi yn fawr iawn, ac yn lwcus iawn o’r antis gwych yn y cylch yma.

Ymlaen a ni atoch chi'r rhieni sydd wedi bod yn help enfawr ar hyd y flwyddyn. Diolch am eich cymwynas ach cefnogaeth a hithau’n gyfnod economaidd mor heriol , dani yn ddiolchgar iawn, drwy fod yn dîm mor dda, rydym yn cadw cylch mewn sefyllfa mor iach.

Cafwyd noson arbennig o hel arian ‘ Noson Ddrag’ yn Theatr Derek. Noson lwyddiannus, ond noson i’w chofio am byth. Roedden wedi hel hyd at £2,000 i'r noson, a hynny diolch i chi am eich help. Hefyd, diolch I John ( Taid Steff) am helpu i oleuo, Meilir Llanuwchllyn am gyflwyno'r noson a hynny am ddim. Diolch I’r gymuned am eich cefnogaeth.

Ymlaen a ni i’r Eisteddfod. Ddiolchgar I’r urdd am roi'r cyfle i ni i gael cynnal y stondin fwyd. Diolch I chi gyd am eich gwaith caled o bobi’r cacennau, a helpu ar y stondin. Mae’r Eisteddfod yn dod ac arian bach del i’r cylch bob blwyddyn, a diolch i chi am eich nerth.

Diwedd y flwyddyn, gorffennwyd efo digwyddiad Ras hwyaid, oedd yn hyfryd cael pawb at ei gilydd yn yr haul. Diolch Eirian ac Aled a’r teulu am y croeso. Roedd yn brynhawn o hwyl a phlant gwir wedi mwyhau. Casglwyd £422.70.

Yna, diwrnod olaf y criw meithrin, cafwyd bore coffi a ffarwelio, wrth godi £71 at y cylch.

Ac i orffen, diolch i aelodau o bwyllgor sydd wedi bod yn brysur iawn ac wedi bod yn llawer o gyfarfodydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch eto am drefnu'r raffl fawr, sydd yn dod ( yn ddistaw bach) ac arian bach del bob blwyddyn i’r cylch.

Diolch yn fawr am ddod heno, ymlaen a ni i'r flwyddyn newydd.

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Adroddiad Arweinyddion cyfarfod Blynyddol

Hydref 2025

Wel mae yna flwyddyn arall wedi mynd heibio. Rydym ar ein pedwerydd flwyddyn yn y caban ac wedi dod i adnabod ein trefn newydd yn dda iawn. Rydym wedi cael blwyddyn prysur arall. Y Flwyddyn yma mae gennym 9 o blant ar ein llyfrau ac yn obeithiol y cawn ni fwy dros y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r clwb gwyliau wedi bod yn boblogaidd eto yn ystod gwyliau’r haf a caewyd dim ond ar gyfer wythnos yr Eisteddfod. Hefyd mae’r clwb ar ôl ysgol yn mynd yn dda iawn.

Mae yna dipyn o bethau wedi newid dros y flwyddyn diwethaf. Yn anffodus roedd rhaid I Donna ein gadael ni ac rydym yn deall ei bod hi yn mwynhau ei swydd newydd. Ohwerydd hyn mae yna fwy o gyfrifoldeb arnai ac mae Angarad a finnau yn cyd weithio yn fwy nag erioed. Mae Angharad yn gyfrifol fwy ar yr ochr y cynllinio a fine yn gwneud mwy ar y gwaith papur. Fel mae rhai ohonnoch yn ymwybodol mae plant Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel wedi ymuno a ni yn Garn Bach Tryweryn ac mae Katy yn gweithio gyda ni hefyd. Rydym yn croesawy y plant, rhieni a Katy ac yn diolch iddyn nhw am eu dealltwriaeth ac amynedd wrth wneud y trosglwyddiad yma.

Rydym rŵan wedi dod i ddygymod gyda’r drefn newydd y cwricwlwm i Gymru. Ar rydym yn ei ddilyn gan roi fwy o brofiadau i’r plant. Rydym yn dilyn trywydd y plentyn gan ddilyn eu diddordebau a chreu “themâu”. Byddem dal yn gwneud themâu megis y tymhorau a thraddodiadau a gwyliau megis Nadolig, Pasg a Sul y Mamau/Tadau ayyb. Os ydych yn teimlo bod gan eich plentyn diddordeb mawr yn rhwybeth yna dwedwch wrthym a gallwn creu gwahoddiad I ddysgu o hyn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydm wedi gwneud llawer o bethau. Rydym wedi bod yn mynd ar blant i’r goedwig mewn grwpiau bach ac mae pawb wedi mwynhau yn fawr. Mae’r profiadau mae’r plant yn cael yma yn werthfawr iawn gan ddefnyddio tools a chael profiad o goginio ar y tân. Rydw i yn edrych ymlaen at fynd ar blant eto. Rydym yn diolch i deulu Rhyd-Defaid am adael i ni ddefnyddio eu coedwig a’u tir nhw.

Mae wedi cyflawni cynllyn Cyn Ysgolion Iach Gwynedd. Mae o wedi bod yn dipyn o waith ond rydym wedi llwyddo i’w orffen a chael y dystysgrif. Rydw I wedi cyflawni lefel 2 mewn baby massage ac yn gobeithio cyflawni lefel 3 yn fuan a dechrau sesilynau baby massage yn fuan. Blwyddyn diwethaf mi nesi ddechre sesiynnau sesori babi ac roedd hyn yn boblogaidd iawn gyda fyny I 15 rhiant yn dod ar un tro.

Rydym dal I asesu yn ddigidol. Rydym yn gwneud ein harsylwadau ac asesu ar ein ipad newydd ac yn ei bostio ar Seesaw yn syth felly byddech yn eu derbyn yn syth yn hytrach na ysgrifennu ei lawr ar ddogfen. Bydd hyn yn gwneud y gwaith asesu'r Pum Llwybr Dysgu llawer haws i ni.

Rhywbeth sydd wedi gweithio yn arbennig o dda ydi trosglwyddo’r plant meithrin i’r ysgol. Y tymor olaf cefais fynd i mewn i’r ysgol i siarad gyda Mrs Lynch er mwyn trafod y plant oedd yn dechrau dosbarth meithrin Medi yma. Teimlaf fod hyn wedi gweithio yn well yn hytrach na rhoi papur iddyn nhw am y plant. Roedden nhw yn cael cyfle i ddod i adnabod y plant a chael ychydig o’u cefndir cyn iddyn nhw ddechrau.

Rydym yn cynnal Ti a Fi bore Llun ac mae’n braf croesawy darpar rieni, Nain a Thaid a Gwarchodwyr i’n plith. Ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu babis newydd sydd i ddod.

Blwyddyn diwethaf roeddem yn ffodus iawn o gael grant cyfalaf o £5,000 er mwyn gwella'r ardal tu allan. Mae Eiddon wedi bod yn brysur iawn yn rhoi ffens bren dal, turff newydd, ardal chippings a ardal wood chip. Bydd hyn yn creu ardal adeiladu, ardal cegin fwd ac ardal dwr. Rydym yn ddiolchgar

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

iawn I Eiddon am hyn. Os oes gennych unrhyw loose parts megis peipiau, preniau, olwynion neu reals byddem yn ddiolchgar ohonynt plîs.

Roeddem hefyd dal yn gwario ein arain o’r grant Coop. Cawsom ddefnyddio rhan ohono yn y gwyliau’r haf drwy fynd i soft play, AirHop a Brenig. Os oes gennych unrhyw syniadau am bobl i ddod i mewn i neud gweithgareddau gyda’r plant byddem yn ddiolchgar o’u clywed plîs.

Cawsom wybod yn ysgod yr haf bod drapariaeth gofal plant 2 oed wedi ehangu ac rwan yn cyfero Frongoch, Cwmtirmynach, Llyn Celyn, Llanfor, Llandderfel a Sarnau. Cawsom gynnig I goferstru ar ei gyfer. Mae hyn yn golygu bod y plant dwy oed sydd yn byw yn y lleoliadau yma yn cael fyny I 12.5 awr am ddim sef 2.5 awr bod bore y tynor ar ol eu penblwydd yn ddwy oed. Yn anffodus nid ydi pob ardal sydd yn dod I Garn Bach yn ei gael sydd yn siomedig. Mae hyn yn golygu ychydig mwy o waith papur ond gobeithio y bydd yn dennu mwy o blant atom.

Oherwydd niferoedd y plant rydym wedi gorfod lleihau oriau staff. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi staff am gydweithredu gyda hyn. Gobeithio y bydd niferoedd y plant yn codi dros y flwyddyn.

Hoffwn i ac Angharad ddiolch yn fawr i’r staff, rhieni, aelodau o’r pwyllgor, a staff ysgol Bro Tryweryn am eich cefnogaeth. Mae’n bob amser yn bleser cyd weithio gyda chi. Ac wrth gwrs y plant i gyd. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn i ddod.

Hoffwn orffen ar longyfarch y Pwyllgor yma ar ennill gwobr Pwyllgor gorau yng Ngwobrau Mudiad Meithrin drwy Gymru! Roedd hi’n brofiad arbennig mynd I nol y gwobr ac rydym yn falch iawn ohonnoch.

Diolch,

Anti Mari ac Anti Angharad.

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

ADRODDIAD CYLLIDOL AR GYFER CYFARFOD BLYNYDDOL CYLCH MEITHRIN GARN BACH TRYWERYN Nos Iau, 2/10/2024 am 7.00yh yn y Garn Bach Tryweryn Blwyddyn Gyllidol Ebrill 1[af] 2024 – Mawrth 31[ain] 2025

Gweler y fantolen am y cyfnod 1[af ] o Ebrill 2024-31[ain ] o Fawrth, 2025. Gwnaed elw o £115,964.64

yn ystod y flwyddyn.

Diolch i Bethan Jones am ei chymorth gydag archwilio’r cyfrifon – rydym yn gwerthfawrogi ei chymorth.

Balans cyfrif Cyfredol ar 31/03/24: £ 44832.21 Balans Cyfrif Cadw ar 31/03/24: £ 14939.30

Balans Cyfrif Cyfredol ar 31/03/25: £ 55869.38 Balans Cyfrif Cadw ar 31/03/24: £ 14,846.85

Hoffwn ategu fy ngwerthfawrogiad eto a diolch i bawb am eu cefnogaeth/cymorth ac amynedd gyda’r materion/penderfyniadau cyllidol/gweinyddol yn ystod y flwyddyn. Hefyd diolch o galon i’r rhieni i gyd am eu cefnogaeth â’ch cydweithrediad parod bob amser. Diolch hefyd i staff Ysgol Bro Tryweryn/Ysgol Ffrdd y Llyn am eu cydweithrediad â’ch cefnogaeth barod bob amser.

Grantiau

Bu’r Cylch yn ffodus iawn o dderbyn grantiau/cyfraniadau unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn sy’n ein cynorthwyo efo buddsoddi mewn adnoddau â’n galluogi i barhau i ddarparu cyfleoedd â phrofiadau amhrisiadwy i blant y cylch a’r clybiau gofal ar ôl ysgol/gwyliau.

Grantiau’r Cylch 2024-2025

Grantiau Cylch

O Ebrill 2023
Hydref 24 – Grant Cyfalaf Cyngor Gwynedd
Er mwyn byddsoddiynyr ardal tu allan.
£5,000
Cyfraniad Cyntaf Grant Cymunedol y Coop
Defnyddir y cyllid hwn ar gyfer cynorthwyo efo costau ariannu
ymweliadau/gweithgareddau argyferyclwbgofal ar ôlysgol/gwyliau.
£1,949.74
Cyngor Cymuned Llanycil
£150 er mwyn medru buddsoddi mewn cegin fwd newydd ar gyfer yr
ardal hon.
Buddsoddwyd yn yr ardal tu allan er mwyn prynu tywod, cerrig mân,
rhusgl coed at bwrpas cwblhau’r ardal tu allan
£150.00
Cyngor Cymuned Llandderfel
Buddsoddwyd yn yr ardal tu allan er mwyn prynu tywod, cerrig mân,
rhusgl coed at bwrpas cwblhau’r ardal tu allan
£100.00

Codi Arian

Bydd angen parhau i drefnu digwyddiadau codi arian. Yn ystod 2024-2025 trefnwyd y digwyddiadau/gweithgareddau a ganlyn. Anogir pawb i gofrestru a defnyddio easyfundraising – mae’n fodd effeithiol a didrafferth iawn o godi arian.

CODI ARIAN

Caffi Rali Ffermwyr Ifanc £1,123.55

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Bore coffi £46.50
GweithgareddauyNadolig £544.60
Easyfundraising £17.48
Noson Drag £3,059.10
Caffi Sensori Sara £74.00
Caffi Esteddfodyr Urdd £783.00
Bore Coffi ‘Rwbeth Neis,Neis i De’ £93.50

Biliau (Quickbooks)

Mae’r feddalwedd ‘Quickbooks’ i’w weld yn gweithio’n hwylus iawn. Mae posib talu drwy PayPal neu drwy daliad BACS. Fodd bynnag, rydym yn gorfod talu canran o ffioedd gweinyddu ar y taliadau PayPal. Diolch i’r holl rieni am fod yn amyneddgar.

Staffio/Cytundebau Staff

Mae nifer y plant ar ein cofrestr wedi lleihau yn arw ar gyfer mis Medi eleni. 9 plentyn sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd. Yn sgil hyn, mae wedi bod yn anorfod i ni orfod lleihau oriau staff oherwydd nad oes cymaint o blant angen gofal yn ystod sesiynau penodol. Mae posibilrwydd efallai y bydd ambell blentyn yn ymuno efo ni yn ystod y flwyddyn sydd I ddod. Pwysleisiwyd bod angen i rieni fod yn glynnu at eu cytundebau Oriau Cylch er mwyn sicrhau bod y ratios plant>staffio yn gywir fel bo modd osgoi gor-staffio.

- Gofal Dydd/Gofal Gwyliau/Gofal ar ôl Ysgol/Cyn Ysgol

Ymddengys bod gofynion gofal y clwb ar ôl ysgol/clwb gofal gwyliau wedi lleihau am gyfnod hefyd.

Casgliad Clytiau/Casgliad Ysbwriel

Rydym gyda contract gyda cyngor Gwynedd ar gyfer casglu sbwriel ac ailgychu. Maea’r ffi yma yn reit uchel efallai bo modd trafod gyda y cyngor ar sut I gyd weithio gyda’r ysgol am hyn. Hefyd, rydym yn parhau i dalu’r ffi misol am y casgliad clytiau.

Iechyd a Diogelwch

Rydym wrthi’n diwygio ac yn diweddaru asesiadau risg ar gyfer Garn Bach Tryweryn. Hefyd yn adolygu’r polisïau yn unol â’r broses flynyddol. Trefnir i drydanwr lleol gynnal profion PAT ac archwilio’r offer trydanol. Gosodwyd system ddiogelwch ar y ddrws mewnol yr ystafell y cylch er mwyn sicrhau diogelwch y plant a’r staff.

Balans cyfrif Cyfredol ar 02/10/24: £55869.38 Balans Cyfrif Cadw ar 02/10/24: £14,846.85

Diolch i bawb am eu cefnogaeth/cymorth â’u cydweithrediad parod. Gwerthfawrogir y cyfan.

Mari Davies (Hydref 2025)

TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021

Garn Bach Tryweryn Garn Bach Tryweryn Garn Bach Tryweryn 1196991 1196991 1196991 CC16a
For the period
from
Period start date
4/1/2024
To Period end date
3/31/2025
Section A Receipts and payments
A1 Receipts Unrestricted
funds
to the nearest £
43,933
1,950
5,000
58,820
486
5,840
338
116,367
-
-
-
116,367
77,746
2,176
6,651
836
780
2,211
2,912
90
1,203
550
666
1,539
1,448
6,613
105,421
-
-
-
105,421
10,946
-
10,946
Restricted
funds
to the nearest £
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Endowment
funds
to the nearest £
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Total funds
to the nearest £
43,933
1,950
5,000
58,820
486
5,840
338
116,367
-
-
-
116,367
77,746
2,176
6,651
836
780
2,211
2,912
90
1,203
550
666
1,539
1,448
6,613
105,421
-
-
-
105,421
10,946
Last year
to the nearest £
Ffioedd Cylch Meithrin Fees 43,933 -
Grantiau/Grants 1,950 -
Grant Addysg/Education Grant 5,000 -
30 awr 58,820 -
Cyfraniadau/Donations 486 -
Codi Arian/Fundraising 5,840 -
Eraill/Misc 338 -
Sub total(Gross income for
AR)
116,367 -
A2 Asset and investment sales,
(see table).
-
- -
Sub total - -
Total receipts
A3 Payments
-

Cyflogau/Salaries
77,746 -
Pensiwn/Pension 2,176 -
HMRC 6,651 -
Cyfrifydd Hill & Roberts Accountant 836 -
Taliadau Misol/MonthlyPayments 780 -
Bwyd/Food 2,211 -
Adnoddau 2,912 -
Ffioedd Banc/Banc Charges 90 -
Taliadau Blynyddol/Subscription 1,203
Gweinyddol/Administration 550
Hyfforddiant/Training 666
Codi Arian/Fundraising 1,539
Gweithgareddau/Activities 1,448
Cynnal a Chadw 6,613 -
**Sub total ** 105,421 -
A4 Asset and investment
purchases (see table)
, -
-
**Sub total ** - -
Total payments
Net of receipts/(payments)
A5 Transfers between funds
A6 Cash funds last year end
Cash funds this year end
-
10,946 - - 10,946 -
- - - -
- - - - -
10,946 - - 10,946 -

CCXX R1 accounts (SS)

1/13/2026

1

Section B Statement of assets and liabilities at the end of the period

Categories
Signed by one or two trustees on
behalf of all the trustees
B5 Liabilities
B3 Investment assets
B2 Other monetary assets
B4 Assets retained for the
charity’s own use
B1 Cash funds
Details
Cyfrif Cadw
Details
Total cash funds
(agree balances with receipts and payments
account(s))
Cyfrif Cyfredol
Details
Details
Details
Signature
Unrestricted
funds
Restricted
funds
to nearest £
to nearest £
55,869
-
-
-
-
-
55,869
-
Agreement Error
OK
Unrestricted
funds
Restricted
funds
to nearest £
to nearest £
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Fund to which
asset belongs
Cost (optional)
14,847
-
-
-
-
-
Fund to which
asset belongs
Cost (optional)
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Fund to which
liability relates
Amount due
(optional)
-
-
-
-
-
Print Name
Angharad Medi Tudor Davies
Endowment
funds
to nearest £
-
-
-
-
OK
Endowment
funds
to nearest £
-
-
-
-
-
-
Current value
(optional)
-
-
-
-
-
Current value
(optional)
-
-
-
-
-
-
-
-
-
When due
(optional)
Date of
approval
Angharad Medi Tudor Davies 1/8/2026

CCXX R2 accounts (SS)

1/13/2026

2

nrtrtnnnnnn 000000000 G)W W rnx X X X X 7J Z X YJ X ZZZZZ2 bJ L)) O ¥& w hJ g) L4) hj • > a¥ G) n ZZT ¥gE 119 4¥ 40 hj

CHARITY COMMISSION I FOR ENGLAND AND WALES Independent examiner's report on the accounts Section-A. *4J:" . Independent Examine¢s Repryt Report to tha trustees Gam Bach Tryweryn On accounts for the year ended 3113125 Charity no lif any) Set out on pages I report lo the Iruslees on my examir,a: charity I'the Trust") for the year endec 51 G3 As Ihe charity's trustees. you are respor,si. 8 -, accounts in accordance with the requirements G", ;-- {-the Act"). -e ayove Responslbllltle8 and basis of report •n oflhe Act 2011 I report in respect of my examinatlon of the Trust's ac-) -apried oul under section 145 of the 2011 Acl and in carrying out my ex= ,'r,alion. I have followed all the applicable DirectN)ns given by the Char',15' CoTmission under section 14515Xbl of the Act. Independent examinor's statement I have completed my èxeminalion. I confiTh that no material matters have come lo my attention in tx)nnection with the examination lolh8r than that disclosed below.) which gives me cause to believe that in, any materi81 respect.. the accounting records vmre not kept in accordance with section 130 of the Charities Act.. or the 8ccounls did not accord with Ihe accounting rècords,. or the accounts did not comply with the applicable requirements concerning the fom and content of accounts set oul in the Charities (Accounts and Reports) Regulations 2008 other than any requirement that the accounts give a 'true and fair. view which is not a mattèr considered as part of an independent examination. I have no concem5 and have come across no other matters in connection with the examination to which attention should be drawn in this report in order to enable a proper understsnding of the a¢￿untS to be r8ached. Pleas8 dgletè Ihe words in th8 brackets rf they do not apply. Signed." Date: 18111125 Name". Bethan Jones Relevant professional qualification(s) or body (If any): AAT Technician Address: Hafod y Bryn, Cwmtimiynach IER Oct 2018

Y Bala. Gwynedd LL23 7ED Section B Disclosure Only complete If the examin¥'. (see CC32. Independent exa-, guidance for examiners). Give here brief details of any items that the examiner wish08 to disclose. IER Oct 2018