YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2024 – 31 DECEMBER 2025
ENW’R DARPARWR: CYFEIRIAD Y DARPARWR:
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL
Neuadd Iago Sant / St James’ Hall, Heol Hanbury, Pontypwl, Torfaen,NP4 6JT. FFON: Neuadd/Hall (01495 755616) E bost/e mail: hgglynebwy@gmail.com.
RHIF ELUSENNOL 1195317 PERSON A GOFAL HELEN GREENWOOD MANYLION CYSWLLT hgglynebwy@gmail.com Rhif ffon symudol yr Arweinydd 07377544285 Rhif ffon adref yr Arweinydd 01495 350155
STRWYTHYR LLYWODRAETHIANT A RHEOLI
UNIGOLION CYFRIFOL HELEN GREENWOOD ENDID CYFREITHIOL Mae Ysgol Feithrin Pontypwl wedi ei chofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE / CIO)
PWYLLGOR RHEOLI : Caiff Ysgol Feithrin Pontypwl ei rheoli gan Pwyllgor gwirfoddol sydd yn cwrdd unwaith bob tymor. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Yr Arweinydd, Swyddogion, Ymddiriedolwyr, Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin a cynrychiolydd o’r Cylch Ti a Fi.
| SWYDDOGION Y PWYLLGOR | Cadeirydd | Sarah Jones |
|---|---|---|
| Ysgrifennydd | Lucy Preston | |
| Trysorydd | Martyn Redwood. | |
| YMDDIRIEDOLWYR | Ena Morris | |
| Sarah Jones | ||
| Martyn Redwood |
STAFF - Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 3 aelod o staff rhan amser ac mae gennym myfyriwr o Ysgol Gyfun Gwynllyw ar brofiad gwaith deudydd yr wythnos hefyd. Yn ystod 2025, oherwydd salwch yn y teulu, fe wnaeth Dirprwy Arweinydd y Cylch ymddiswyddo wedi dros 25 mlynedd o wasanaeth. Er gwaetha hyn mae’r staff yn gweithio’n hynod o lwyddianus gyda’u gilydd fel tim ac yn gweithio’n gale di sicrhau safon uchel o ofal i’r plant yn y Cylch.
Mae gan Ysgol Feithrin Pontypwl Cyfansoddiad caiff ei adolygu yn flynyddol gan y Pwyllgor. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol o’r Pwyllgor i ethol / ail ethol Swyddogion, Ymddiriedolwyr ac adolygu Polisiau a gweithdrefnau.
Mae gennym bolisi Staffio manwl sydd yn gosod allan strwythyr o ran hysbysebu am a phenodi staff. Mae pob Aelod o staff yn mynychu ystod eang o gyrsiau hyfforddiant yn gyson yn cynnwys Diogelwch Plant, cymorth cyntaf, a llawer mwy. Darperir restr o’r cyrsiau hyn ar gyfer swyddogion ac ymddiriedolwyr.
Mae gan pob Ymddiriedolwr DBS cyfredol ac rydym yn cynnig cyfleuoedd iddynt ddilyn cyrsiau hanfodol fel Diogelu Plant, Cymorth Cyntaf ac ati.
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2024 – 31 DECEMBER 2025
AMCANION A GWEITHGAREDDAU
Mae Ysgol Feithrn Pontypwl yn Meithrinfa Cyfrwng Gymraeg cafodd ei sefydlu ynghanol Pontypwl yn Neuadd Uchaf Iago Sant 40 mlynedd yn ol. Erbyn hyn rydym wedi ein cofrestru gyda AGC fel Meithrinfa gofal dydd ar gyfer 19 o blant rhwng dwy a hanner a phump oed. Ym mis RHagfyr 2024 cofrestrwyd y sefydliad i dderbyn ifyny at 3 o blant 2 oed fel rhan o’r cynllun Dechrau’n De gyn Nhorfaen.
Rydym yn Cynnig addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel mewn awyrgylch cyfeillgar a chymunedol ac ar yr un pryd Sicrhau cyfle cyfartal i bob plenty/rhiant/gofalwr beth bynnag eu hil, iaith, rhyw, crefydd neu gallu corfforol . Caiff y plant cyfleuoedd chwarae amrywiol sydd yn sylfaenol i ddatblygiad plentyn yn gorfforol, yn emosiynol yn ieithyddol, yn gymdeithasol, ac yn ddeallusol. Mae staff yn sicrhau bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Deddf Plant 2004 yn rhan o ethos y grwp yn ogystal a sicrhau bod plant, waeth beth fo’u hangen, yn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd dda gan eu hannog i ddatblygu’n unigolion hyderus, annibynnol a chreadigol. Rydym yn cydweithio yn agos gyda rhieni a gofalwyr i sicrhau polisi drws agored i bawb sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Oedran y plant – rhwng dwy a phump oed Rydym yn sicrhau 1 oedolyn i bob 8 o blant dros dair oed. Rydym yn sicrhau 1 oedolyn i bob 4 o blant dwy i dair oed
Ym mis Ionawr 2025 fe wnaethom gofrestru i dderbyn 3 o blant Dechrau’n De gyn ein lleoliad. Ac rydym yn archwilio’r posibilrwydd o benodi Aelod o staff lefel 5 yn y dyfodol er mwyn gallu ehangu y nifer o blant Dechrau’n Deg gallem dderbyn.
Ym mis Medi 2025 gwelsom lleihad yn ein niferoedd oherwydd bod Dosbarth meithrin bellach ymhob un o’r ysgolion cynradd Cymraeg yn Nhorfaen yn ogystal a gofal plant mewn nifer ohonynt.
EIN GWASANAETH
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl wedi bod yn cynnig addysg cyn ysgol o safon ynghanol Pontypwl ers dros 40 mlynedd. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cynnig cyfleuoedd chwarae a dysgu cyffroes i’r plant yn ein gofal gan ddilyn Cwriciwlwm Llywodraeth Cymru ar gyfer LLeoliadau a ariennir nas gynhelir. Mae’r staff yn cynllunio gweithgareddau amrywiol addas ar gyfer ystod oedran y plant, eu galluoedd a’u gofynion gwahanol . Rydym yn paratoi cynlluniau tymor hir , tymor byr a chyfleuoedd chwarae dyddiol gan sicrhau bod llais y plant yn rhan bwysig o’r paratoi yma ac erbyn hyn rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar cynllunio fesul tymor gan edrych ar y 4 pwrpas a’r 5 Llwybr Dysgu.
Fel Meithrinfa Cymunedol rhoddir pwyslais mawr ar gynnwys y rhieni a’r teulu estynedig ymhopeth rydym yn ei wneud gan fagu perthynas clos gyda phob un a’u hannog i ymuno a ni ar amrywiol weithgareddau a theithiau gyda’r plant. Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn hunan werthuso’r gwasanaeth yn gyson gan ofyn barn y plant, y rhieni a’r staff er mwyn gwella ein darpariaeth yn gyson. Mae gennym ystod eang o bolisiau manwl sydd yn sicrhau fod y plant yn ddiogel bob amser. Rydym yn anelu at sicrhau bod y plant yn deall pwysigrwydd bwyta a chadw’n iach a gofalu am ein cymuned.
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2024 – 31 DECEMBER 2025
Rydym yn falch iawn o allu cynnig polisi drws agored i bob plentyn sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac rydym yn credu yn gryf fod angen i ni arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhopeth rydym yn ei wneud. Mae gennym berthynas agos ac asianteithau lleol sydd yn golygu ein bod yn gallu sicrhau cymorth a chefnogaeth gyda phroblemau Iaith a lleferydd, clyw, golwg ac unrhyw anghenion yhwanegol eraill. Gwneir hyn mewn cydweithrediad llwyr a’r rhieni a’n nod yw darparu gofal a chefnogaeth llwyr i bawb.
CANMOL A CHWYNO
Mae Ysgol Feithrin Pontypowl yn croesawu barn rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir, fel y gellir ei wella os oes angen. Hysbysir rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â’r polisi a threfn canmol a chwyno cyn i’w plentyn gychwyn yn y lleoliad. Darperir hyfforddiant i’r holl staff ar weithrediad y Polisi Canmol a Chwyno a’r Cod Ymarfer.
Rydym yn cynnig 7 sesiwn yr wythnos sef diwrnod llawn ar ddydd Llun, Mercher a Dydd Gwener a sesiwn hanner diwrnod ar Ddydd Mawrth. Ar hyn o bryd rydym ar gau ar fore Iau oherwydd niferoedd isel. Mae’r Cylch TI A FI ar agor bob bore Iau yn y Neuadd Isaf.
CLYBIAU
CLWB BRECWAST
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn falch o allu cynnig Clwb Brecwast rhwng 8.30am – 9.30am ar gyfer ein plant ni yn unig. . Rydym yn cynnig ystod eang o fwydydd iach a chyfle i’r plant cymdeithasu gyda’u gilydd a sgwrsio yn hamddennol dros frecwast.
CLWB CINIO
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl hefyd yn cynnig Clwb Cinio ar Ddydd Llun, Mercher Gwenerer ar gyfer y plant sydd yn aros trwy’r dydd. Mae’r plant yn dod a phecyn bwyd eu hunain ac mae’r staff yn eistedd gyda;r plant i fwyta eu cinio.
| gyda;r plant i fwyta eu cinio. | |
|---|---|
| TALIADAU | |
| CLWB BRECWAST | £3.00 |
| SESIWN BORE | £13.00 |
| CLWB CINIO | £2.00 |
| SESIWN PRYNHAWN | £13.00 |
| TAL DIWRNOD LLAWN | £31.00 |
| PLANT A ARIENIR GAN Y CYNGOR | £18.00 |
Mae’r plant 3-4 oed yn derbyn 10 awr o arian addysg gan Cyngor Torfaen . Telir ni am 76 diwrnod a hynny ar £10 y diwrnod (sef £5 yr awr) felly ar gyfer Tymor yr Hydref 2025 roedd hyn yn gyfateb i £760 y pen am y tymor Hydref – Rhagfyr. Rhoddwyd ffi sesiwn ifyny o £11 i £13 ym mis Medi 2025.
Mae’r rhieni sydd yn gweithio mwy na 16 awr yr wythnos hefyd yn gallu hawlio ifyny at 20 awr ychwnegol trwy Cynllun Gofal Plant Cymru 30 awr . Yn ystod 2024-2025 roedd 6 o deuluoedd yn cymryd mantais o’r cynllun ac fe nodir y swm a dderbyniom ar gyfer tal plant ar ein cyfrfion am yr un cyfnod,.
Disgwylir i deuluoedd sydd yn talu ffioedd dalu’r ffioedd ymlaen llaw am hanner tymor, yn fisol neu’n wythnosol. Rhaid talu am bob sesiwn hyd yn oed os yw’r plentyn ar wyliau neu’n absennol.
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2024 – 31 DECEMBER 2025
Mae gan Ysgol Feithrin Pontypwl cyfrif gyda’r Monmouthshire Building Society lle cedwir arian wrth gefn rhag ofn ein bod yn darganfod ein hunain yn brin o arian.
Ar hyn o bryd mae’r arian ddaw mewn trwy’r Cynllun 10 awr addysg y Cyngor, y Cynllun 30 awr, gweithgareddau codi arian a grantiau amrywiol yn talu 85%-90% o gostau cyflogau’r staff, rhent yr adeilad, costau trydan, nwy, ffon, bwyd a diod, gweinyddol ac ati. Rydym yn ceisio cadw arian wrth gefn yn y cyfrif cyfredol hefyd ond dros yr haf yn 2024 bu’n rhaid trosglwyddo £10,000 o’r cyfrif Cymdeithas adeiladu i gyfro costau ychwanegol
Mae niferoedd isel yn golygu bod aelodau staff wedi torri lawr ar eu horiau, ac rydym yn ofalus i beidio gwario arian ar adnoddau ac offer ddiangen. Cedwir llygad ofalus ar ein cyfrifon
GRANTIAU
Er mwyn sicrhau nad ydym yn mynd i fewn i ormod o ddyled, dros y flwyddyn diwethaf rydym hefyd wedi gwneud cais am nifer o grantiau. Yn ogystal a’r grant blynyddol ar gyfer Meithrinfeydd sydd mewn ardal ddifreintiedig (Ceir £7,000 EYDG) eleni rydym hefyd bod yn llwyddianus i dderbyn grant o £1500 gan ein Cyngor Cymuned lleol. Grant Cynaladwyiaeth gan y Cyngor Bwrdeisdref o £4,500, grant gan Cronfa Glyndwr o £400 ac rydym wedi roi cais mewn hefyd am grant
CODI ARIAN
Mae codi arian yn rhan bwysig o weithgareddau cymunedol ein lleoliad ac mewn cydweithrediad a’n teuluoedd rydym yn trefnu amserlen eang o weithgareddau codi arian. Yn ystod 2024 - 2025 cynhaliwyd Ffair Aeaf, Te Prynhawn, Disgo Calan Gaeaf, Disgo Nadolig, Noson Bingo a Chawl, Noson Creu Torch Nadoligaidd, Raffl gyda hamper fel gwobr ar gyfer Nadolig, Taith gerdded noddedig o gwmpas yr ardal, Ras rhedeg noddedig yn y Parc, raffl Pasg a llawer mwy. Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yma.Yn anffodus yn ystod Hydref 2024 torrodd rhywun i fewn i’r Neuadd a dwyn ychydig o arian parod oedd yn y Neuadd. Sefydlodd y rhieni tudalen Just Giving i godi arian i brynu camerau diogelwch i’w gosod uwchben bob drws ac fe godwyd dros £2000 mewn ychydig o fisoedd.
Rydym hefyd yn cymryd rhan yng nghweithgareddau codi arian Mudiad Meithrin yn Genedlaethol yn flynyddol. Eleni cynhaliwyd Parti Piws Dewin a Doti law yn llaw a the prynhawn. Mae’n deimlad braf i gymryd rhan mewn digwyddiad gan wybod bod cannoedd o blant eraill yn gwneud yr un peth ar yr un
CYRRHAEDDIADAU PERFFORMIAD
AROLWG ESTYN
Ym mis Mawrth 2022 cafodd Ysgol Feithrin Pontypwl ei arolygu gan ESTYN/AGC. Mae’r Pwyllgor , staff, a theuluoedd yn hynod o falch o’r adroddiad. Dyma ychydig o ddyfyniadau o’r arlowg a’r astudiaeth achos
“Mae’r ymarferwyr yn rheoli rhyngweithiadau gyda’r plant yn hynod effeithiol, ac mae perthynas hyfryd yn bodoli rhwng yr ymarferwyr a’r plant. Mae gan yr ymarferwyr brofiad ardderchog o gefnogi plant i wneud ffrindiau, rheoli eu teimladau, ac ymdopi â sefyllfaoedd anodd.
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2024 – 31 DECEMBER 2025
“Mae’r ymarferwyr yn defnyddio dull blaengar a hynod effeithiol o gynllunio sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddiddordebau plant a’r hyn sy’n bwysig i rieni. Mae gan ymarferwyr ddealltwriaeth eithriadol o dda o ddatblygiad plant. O ganlyniad, maent yn darparu profiadau ysgogol a phwrpasol, sy’n ddatblygiadol addas ac ystyrlon i blant. Mae gan ymarferwyr ffordd naturiol a thrawiadol o adael i blant arwain eu dysgu drwy gydol y dydd.”
“Mae diddordebau plant yn greiddiol i sut mae'r ymarferwyr yn cyd-gynllunio a darparu cyfleoedd rhagorol i blant ddatblygu eu holl fedrau mewn cyd-destunau hynod apelgar………….Mae ymarferwyr yn arddangos gwerthfawrogiad a pharch rhagorol tuag at farciau cynnar pob plentyn.” “Mae ansawdd yr amgylchedd o safon ragorol ac yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ac ymestynnol iawn i blant. Mae’r arweinwyr yn sicrhau bod yr amgylchedd yn groesawgar a diddorol ac yn dathlu creadigrwydd y plant drwy arddangos eu gwaith yn gelfydd.”
Am fwy o fanylion gweler (http://careinspectorate.wales) (www.estyn.llyw.cymru)
Caiff Ysgol Feithrin Pontypwl arolwg ECERS yn flynyddol. Cafwyd yr arolwg diwethaf ar 25 Ebrill 2024 gyda sgor o 4.3. Erbyn hyn hefyd oherwydd ein bod wedi cofrestru i dderbyn 3 o blant Dechrau’n Deg mae Staff Torfaen hefyd yn ymweld i gwbwlhau adroddiad ITERS.
CRYNHOI A SEFYLLFA PRESENNOL
Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024-2025 mae niferoedd plant Ysgol Feithrin Pontypwl ychydig yn is OND rydym o ganlyniad wedi lleihau costau cyflogi staff ac yn ofalus gyda gwariant ar offer ac adnoddau. Rydym yn gweithio yn galed ar gynllun marchnata ac wedi cofrestru i dderbyn 3 o blant o dan y cynllun Dechrau’n Deg ar ddechrau 2025.Mae’r staff yn parhau i gynnig profiadau o safon uchel i’r plant yn eu gofal ac mae’r cefnogaeth rydym yn derbyn gan teuluoedd y plant yn arbennig iawn. YN ystod 2025-2026 byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o gyflogi Aelod o staff ychwanegol sydd wedi hyfforddi hyd at Lefel 5 er mwyn i ni gynyddu’r niferoedd o blant Dechrau’n De gyn ein gofal ac o ganlyniad cynyddu’r niferoedd dyddiol. Nodwn hefyd bod yr Arweinydd presennol yn troi’n 70 oed yn ystod 2026, ac er yn hapus i barhai i weithio ar hyn o bryd mae’n bwysig ein bod yn dechrau trafodaeth ynglyn a’r hyn fydd yn digwydd pan fydd Helen yn penderfynu ymddeol
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2024- 31 DECEMBER 2025
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL CYFRIFON 01/04/24- 30/03/25 ACCOUNTS
| YSGOL FEITHRIN PONTYPWL CYFRIFON 01/04/24- 30/03/25 ACCOUNTS |
|
|---|---|
| Incwm / Income Grant Arian Plant 3oed / 3yr old Education funding grant Ffioedd Plant / Children's fees Rhent / Rent for use of Lower Hall Hyfforddiant / Training Flying Start Payments Codi Arian / Fundraising + £1 club Grantiau Interest Misc. / donations Cyfanswm Incwm / Income Total Gwariant / Expenditure Cyflogau / Salaries Rhent / Rent PAYE Phone Utilities Training / DBS checkes equipment Building Food Mudiad Membership / Bus for trip Photcopier Other Cyfanswm Gwariant / Expenditure Total Opening Balances Current Account other Lloyds account other Lloyds account 2 Monmouthshire Account Add Income Less Expenditure Closing Balance Current Account other Lloyds account other Lloyds account 2 Monmouthshire Account |
34,958.50 £ 4,735.00 £ 940.00 £ - £ 2,925.00 £ 4,095.25 £ 8,693.73 £ 822.55 £ 560.84 £ |
| 57,730.87 £ |
|
| 38,192.42 £ 14,790.66 £ 3,882.44 £ 844.66 £ 6,317.70 £ 2,223.50 £ 4,027.13 £ 3,820.27 £ 1,430.31 £ 675.00 £ 1,775.87 £ 422.50 £ |
|
| 78,402.46 £ |
|
| 21,713.61 £ 74.73 £ 100.01 £ 36,951.72 £ |
|
| 58,840.07 £ 57,730.87 £ |
|
| 116,570.94 £ 78,402.46 £ |
|
| 38,168.48 £ 10,217.69 £ 75.49 £ 101.03 £ 27,774.27 £ |
|
| 38,168.48 £ |
Ysgol Feithrin Pontypwl Neuadd lago Sant I St James, Hall Heol Hanbury Pontypwl Torfaen NP4 6JT NeuaddlHall (01495 755616) FfacslFax: (01495 306867) E bosue mall: h neb mail.com sgolfeithrinpontypwl DATGANIAD ARCHWILIWR I AUDITOR'S STATEMENT 2024- 2025 Rydym wedi adolygul archwilio y derbyniadau a thaliadau ynghyd a'r adroddiad ariannol ar gyfer 2024-2025 a thystiwn eu bod yn unol a'r Ilyfrau a'r talebion. We have examined laudited the receipts and payments for 2024-2025 together with the financial statement and testify that they are in accordance with the relevant books and receipts Llofnod I Signature 1 O.AfjO Annibynnol / Independent Llofnod I Signature 2 Dyddiad 2410112G Cadeirydd I Chairperson Llofnod I Signature 3 Dyddiad 20 Ymddiriedolwrl T Llofnod I Signature 4 Dyddiad £1 Di.J• einy d l Leader mudiad meithrin Cym 'Estyn (',". ,' InspecioiBte Walos Gwent cYNP115 J'URWABP4 CDVN ro*NASN Cyfeiriad Arweinyddl Leadels address". Ty'r Ysgol, Slryd Holland, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP 23 6HT (Ffon 01495 3501551 E bosl.. hgglynebwy@gmail_¢om