YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2023 – 31 MAWRTH 2025
ENW’R DARPARWR: CYFEIRIAD Y DARPARWR:
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL
Neuadd Iago Sant / St James’ Hall, Heol Hanbury, Pontypwl, Torfaen,NP4 6JT. FFON: Neuadd/Hall (01495 755616) E bost/e mail: hgglynebwy@gmail.com.
RHIF ELUSENNOL 1195317 PERSON A GOFAL HELEN GREENWOOD MANYLION CYSWLLT hgglynebwy@gmail.com Rhif ffon symudol yr Arweinydd 07377544285 Rhif ffon adref yr Arweinydd 01495 350155
STRWYTHYR LLYWODRAETHIANT A RHEOLI
UNIGOLION CYFRIFOL HELEN GREENWOOD
ENDID CYFREITHIOL Mae Ysgol Feithrin Pontypwl wedi ei chofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE / CIO) PWYLLGOR RHEOLI : Caiff Ysgol Feithrin Pontypwl ei rheoli gan Pwyllgor gwirfoddol sydd yn cwrdd unwaith bob tymor. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Yr Arweinydd, Swyddogion, Ymddiriedolwyr, Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin a cynrychiolydd o’r Cylch Ti a Fi. SWYDDOGION Y PWYLLGOR Cadeirydd Sarah Jones Ysgrifennydd Ceri Gillett. Trysorydd Martyn Redwood. YMDDIRIEDOLWYR Ena Morris Sarah Jones Martyn Redwood
Mae gan Ysgol Feithrin Pontypwl Cyfansoddiad caiff ei adolygu yn flynyddol gan y Pwyllgor. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol o’r Pwyllgor i ethol / ail ethol Swyddogion, Ymddiriedolwyr ac adolygu Polisiau a gweithdrefnau.
Mae gennym bolisi Staffio manwl sydd yn gosod allan strwythyr o ran hysbysebu am a phenodi staff. Mae pob Aelod o staff yn mynychu ystod eang o gyrsiau hyfforddiant yn gyson yn cynnwys Diogelwch Plant, cymorth cyntaf, a llawer mwy. Darperir restr o’r cyrsiau hyn ar gyfer swyddogion ac ymddiriedolwyr.
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2023 – 31 MAWRTH 2025
AMCANION A GWEITHGAREDDAU
Mae Ysgol Feithrn Pontypwl yn Meithrinfa Cyfrwng Gymraeg cafodd ei sefydlu ynghanol Pontypwl yn Neuadd Uchaf Iago Sant 40 mlynedd yn ol. Erbyn hyn rydym wedi ein cofrestru gyda AGC fel Meithrinfa gofal dydd ar gyfer 19 o blant rhwng dwy a hanner a phump oed. Ym mis RHagfyr 2024 cofrestrwyd y sefydliad i dderbyn ifyny at 3 o blant 2 oed fel rhan o’r cynllun Dechrau’n De gyn Nhorfaen.
Rydym yn Cynnig addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel mewn awyrgylch cyfeillgar a chymunedol ac ar yr un pryd Sicrhau cyfle cyfartal i bob plenty/rhiant/gofalwr beth bynnag eu hil, iaith, rhyw, crefydd neu gallu corfforol . Caiff y plant cyfleuoedd chwarae amrywiol sydd yn sylfaenol i ddatblygiad plentyn yn gorfforol, yn emosiynol yn ieithyddol, yn gymdeithasol, ac yn ddeallusol. Mae staff yn sicrhau bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Deddf Plant 2004 yn rhan o ethos y grwpyn ogystal a sicrhau bod plant, waeth beth fo’u hangen, yn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd dda gan eu hannog i ddatblygu’n unigolion hyderus, annibynnol a chreadigol. Rydym yn cydweithio yn agos gyda rhieni a gofalwyr i sicrhau polisi drws agored i bawb sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Oedran y plant – rhwng dwy a phump oed
Rydym yn sicrhau 1 oedolyn i bob 8 o blant dros dair oed.
Rydym yn sicrhau 1 oedolyn i bob 4 o blant dwy i dair oed
EIN GWASANAETH
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl wedi bod yn cynnig addysg cyn ysgol o safon ynghanol Pontypwl ers dros 40 mlynedd. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cynnig cyfleuoedd chwarae a dysgu cyffroes i’r plant yn ein gofal gan ddilyn Cwriciwlwm Llywodraeth Cymru ar gyfer LLeoliadau a ariennir nas gynhelir. Mae’r staff yn cynllunio gweithgareddau amrywiol addas ar gyfer ystod oedran y plant, eu galluoedd a’u gofynion gwahanol . Rydym yn paratoi cynlluniau tymor hir , tymor byr a chyfleuoedd chwarae dyddiol gan sicrhau bod llais y plant yn rhan bwysig o’r paratoi yma ac erbyn hyn rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar cynllunio fesul tymor gan edrych ar y 4 pwrpas a’r 5 Llwybr Dysgu.
Fel Meithrinfa Cymunedol rhoddir pwysigrwydd mawr ar gynnwys y rhieni a’r teulu estynedig ymhopeth rydym yn ei wneud gan fagu perthynas clos gyda phob un a’u hannog i ymuno a ni ar amrywiol weithgareddau a theithiau gyda’r plant. Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn hunan werthuso’r gwasanaeth yn gyson gan ofyn barn y plant, y rhieni a’r staff er mwyn gwella ein darpariaeth yn gyson. Mae gennym ystod eang o bolisiau manwl sydd yn sicrhau fod y plant yn ddiogel bob amser. Rydym yn anelu at sicrhau bod y plant yn deall pwysigrwydd bwyta a chadw’n iach a gofalu am ein cymuned.
Rydym yn falch iawn o allu cynnig polisi drws agored i bob plentyn sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac rydym yn credu yn gryf fod angen i ni arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhopeth rydym yn ei wneud. Mae gennym berthynas agos ac asianteithau lleol sydd yn golygu ein bod yn gallu sicrhau cymorth a chefnogaeth gyda phroblemau Iaith a lleferydd, clyw, golwg ac unrhyw anghenion yhwanegol eraill. Gwneir hyn mewn cydweithrediad llwyr a’r rhieni a’n nod yw darparu gofal a chefnogaeth llwyr i bawb.
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2023 – 31 MAWRTH 2025
CANMOL A CHWYNO
Mae Ysgol Feithrin Pontypowl yn croesawu barn rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir, fel y gellir ei wella os oes angen. Hysbysir rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â’r polisi a threfn canmol a chwyno cyn i’w plentyn gychwyn yn y lleoliad. Darperir hyfforddiant i’r holl staff ar weithrediad y Polisi Canmol a Chwyno a’r Cod Ymarfer.
ADOLYGIAD ARIANNOL
SESIYNNAU
Rydym yn cynnig 7 sesiwn yr wythnos sef diwrnod llawn ar ddydd Llun, Mercher a Dydd Gwener a sesiwn hanner diwrnod ar Ddydd Mawrth, a Iau.
CLYBIAU
CLWB BRECWAST
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn falch o allu cynnig Clwb Brecwast rhwng 8.30am – 9.30am ar gyfer ein plant ni yn unig. . Rydym yn cynnig ystod eang o fwydydd iach a chyfle i’r plant cymdeithasu gyda’u gilydd a sgwrsio yn hamddennol dros frecwast.
CLWB CINIO
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl hefyd yn cynnig Clwb Cinio ar Ddydd Llun a Dydd Mercher ar gyfer y plant sydd yn aros trwy’r dydd. Mae’r plant yn dod a phecyn bwyd eu hunain ac mae’r staff yn eistedd gyda;r plant i fwyta eu cinio.
| plant i fwyta eu cinio. | |
|---|---|
| TALIADAU | |
| CLWB BRECWAST | £3.00 |
| SESIWN BORE | £11.00 |
| CLWB CINIO | £2.00 |
| SESIWN PRYNHAWN | £11.00 |
| TAL DIWRNOD LLAWN | £27.00 |
| PLANT A ARIENIR GAN Y CYNGOR | £16.00 |
Mae’r plant 3-4 oed yn derbyn 10 awr o arian addysg gan Cyngor Torfaen . Telir ni am 76 diwrnod a hynny ar £10 y diwrnod (sef £5 yr awr) felly ar gyfer Tymor yr Hydref 2023 roedd hyn yn gyfateb i £760 am y tymor
Mae’r rhieni sydd yn gweithio mwy na 16 awr yr wythnos hefyd yn gallu hawlio ifyny at 20 awr ychwnegol trwy Cynllun Gofal Plant Cymru 30 awr . Yn ystod 2023-2024 roedd 10 o deuluoedd yn cymryd mantais o’r cynllun ac fe nodir y swm a dderbyniom ar gyfer tal plant ar ein cyfrfion am yr un cyfnod,.
Disgwylir i deuluoedd sydd yn talu ffioedd dalu’r ffioedd ymlaen llaw am hanner tymor, yn fisol neu’n wythnosol. Rhaid talu am bob sesiwn hyd yn oed os yw’r plentyn ar wyliau neu’n absennol.
Mae gan Ysgol Feithrin Pontypwl cyfrif gyda’r Monmouthshire Building Society lle cedwir arian wrth gefn rhag ofn ein bod yn darganfod ein hunain yn brin o arian.
Ar hyn o bryd mae’r arian ddaw mewn trwy’r Cynllun 10 awr addysg y Cyngor, y Cynllun 30 awr, gweithgareddau codi arian a grantiau amrywiol yn talu 85%-90% o gostau cyflogau’r staff, rhent yr adeilad, costau trydan, nwy, ffon, bwyd a diod, gweinyddol ac ati. Gan ein bod yn ceisio cadw arian wrth gefn yn y cyfrif cyfredol hefyd ni fu’n rhaid trosglwyddo unrhyw arian o’r cyfrif Cymdeithas adeiladu yn ystod 2023-2024
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2023 – 31 MAWRTH 2025
CODI ARIAN
Mae codi arian yn rhan bwysig o weithgareddau cymunedol ein lleoliad. Yn dilyn cyfnod o beidio bod mewn sefyllfa i drefnu gweithgareddau codi arian (oherwydd cyfyngiadau COVID) roedd yn braf gallu ail ddechrau cynllunio digwyddiadau mewn cydweithrediad a’n teuluoedd. Yn ystod 2023 - 2024 cynhaliwyd Ffair Haf, Te Prynhawn, Disgo Calan Gaeaf, Disgo Nadolig, Raffl gyda hamper fel gwobr ar gyfer Nadolig, Taith gerdded noddedig o gwmpas yr ardal, Ras rhedeg noddedig yn y Parc, raffl Pasg a llawer mwy. Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yma.
Rydym hefyd yn cymryd rhan yng nghweithgareddau codi arian Mudiad Meithrin yn Genedlaethol yn flynyddol. Eleni cynhaliwyd Parti Piws Dewin a Doti law yn llaw a the prynhawn. Mae’n deimlad braf i gymryrhan mewn digwyddiad gan wybod bod cannoedd o blant eraill yn gwneud yr un peth ar yr un
CYRRHAEDDIADAU PERFFORMIAD
AROLWG ESTYN
Ym mis Mawrth 2022 cafodd Ysgol Feithrin Pontypwl ei arolygu gan ESTYN/AGC. Mae’r Pwyllgor , staff, a theuluoedd yn hynod o falch o’r adroddiad. Dyma ychydig o ddyfyniadau o’r arlowg a’r astudiaeth achos
“Mae’r ymarferwyr yn rheoli rhyngweithiadau gyda’r plant yn hynod effeithiol, ac mae perthynas hyfryd yn bodoli rhwng yr ymarferwyr a’r plant. Mae gan yr ymarferwyr brofiad ardderchog o gefnogi plant i wneud ffrindiau, rheoli eu teimladau, ac ymdopi â sefyllfaoedd anodd.”
“Mae’r ymarferwyr yn defnyddio dull blaengar a hynod effeithiol o gynllunio sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddiddordebau plant a’r hyn sy’n bwysig i rieni. Mae gan ymarferwyr ddealltwriaeth eithriadol o dda o ddatblygiad plant. O ganlyniad, maent yn darparu profiadau ysgogol a phwrpasol, sy’n ddatblygiadol addas ac ystyrlon i blant. Mae gan ymarferwyr ffordd naturiol a thrawiadol o adael i blant arwain eu dysgu drwy gydol y dydd.”
“Mae diddordebau plant yn greiddiol i sut mae'r ymarferwyr yn cyd-gynllunio a darparu cyfleoedd rhagorol i blant ddatblygu eu holl fedrau mewn cyd-destunau hynod apelgar………….Mae ymarferwyr yn arddangos gwerthfawrogiad a pharch rhagorol tuag at farciau cynnar pob plentyn.”
“Mae ansawdd yr amgylchedd o safon ragorol ac yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ac ymestynnol iawn i blant. Mae’r arweinwyr yn sicrhau bod yr amgylchedd yn groesawgar a diddorol ac yn dathlu creadigrwydd y plant drwy arddangos eu gwaith yn gelfydd.”
Am fwy o fanylion gweler (http://careinspectorate.wales) (www.estyn.llyw.cymru)
Caiff Ysgol Feithrin Pontypwl arolwg ECERS yn flynyddol. Cafwyd yr arolwg diwethaf ar 25 Ebrill 2024 gyda sgor o 4.3
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2023 – 31 MAWRTH 2025
CRYNHOI
Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023-2024 mae niferoedd plant Ysgol Feithrin Pontypwl ychydig yn is OND rydym o ganlyniad wedi lleihau costau cyflogi staff ac yn ofalus gyda gwariant ar offer ac adnoddau. Rydym yn gweithio yn galed ar gynllun marchnata ac yn y broses o gofrestru i dderbyn ychydig o blant o dan y cynnlun Dechrau’n Deg ar ddechrau 2025.Mae’r staff yn parhau i gynnig profiadau o safon uchel i’r plant y neu gofal ac mae’r cefnogaeth rydym yn derbyn gan teuluoedd y plant yn arbennig iawn.
Arwyddwyd ar ran yr Ymddiriedolwyr a’r elusen- Ysgol Feithrin Pontypwl.
Helen Greenwood, Arweinydd, YSGOL FEITHRIN PONTYPWL
YMDDIRIEDOLWYR
Sarah Jones
Martyn Redwood
Ena Morris
Ionawr 2025
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD BLYNYDDOL YMDDIRIEDOLWYR 01 EBRILL 2023- 31 MAWRTH 2025
YSGOL FEITHRIN PONTYPWL CYFRIFON 01104123- 30103124 ACCOUNTS Incwm I Income Grant Arian Plant 3oed 13yr old EdUCaon funding grant Ffioedd Plant I Children's fees Rhent l Rent Rhent Ti a Fi l Rent Ti a Fi Hyfforddianl l Training clubchb £1 Codi Arian l Fundraising Grantiau Inloresl Misc. I donations 32.367.50 8,333.00 1,835.00 95.00 89.70 103.00 544.89 18,607.88 958.25 25.00 Cyfanswrn Incwm I Income Total 62,959.20 Gw8riant l Expenditure Cyfiogau I Salaries Rhent l Rent PAYE Phone 40,810.29 14,000.00 1,295.80 1,109_48 4,955.32 25.00 2,425.86 2,082.56 1,875.23 540.00 1,588.38 Training l DBS checkes uipmenl Building Food Mudiad Membership l Bus for trtp Photcopier Other Cyfanswm Gwariant l Expenditure Total 70,707.92 Opening Balances Current Account other Lloyds account other Lloyds account 2 Monmoulhshire Account 30,420.58 73.87 98.87 35,995.47 66,588.79 Add Income 62,95S.20 129,547.99 70,707.92 Less Expenditure Closing Balance 58,840.07 Closing Balance Current Account other Lloyds account other Lloyds account 2 Monmoulhshire Account 21,713.61 74.73 100 01 36,951.72 58 840.07
Ysgol Feithrin Pontypwl Neuadd lago Sant I st James, Hall Heol Hanbury Pontypwl Torfaen NP4 6JT NeuaddlHall {01495 755616) FfacslFax: (01495 306867) E bostle mail: h neb mail.com sgolfeithrinpontypwl DATGANIAD ARCHWILIWR I AUDITOR'S STATEMENT 2023 - 2024 Rydym wedi adolygul archwilio y derbyniadau a thaliadau ynghyd a'r adroddiad ariannol ar gyfer 2023-2024 a thystiwn eu bod yn unol a'r Ilyfrau a'r talebion. We have examined laudited the receipts and payments for 2023-2024 together with the financial statement and testify that they are in accordance with the relevant books and receipts Llofnod I Signature 1 £ cf,- Dyddiad 1610112025 Annibynnol I Independent Llofnod I Signature 2 Dyddiad 1610112025 Cadeirydd I Chairperson Llofnod I Signature 3 Dyddiad 1610112025 Trysorydd l Tre er Llofnod I Signature 4 Dyddiad 1610112025 ein er meithrin •' Estyn ( Arolygiaèth Gofal Cymiu Caie Inspe¢ior4te Wal cyNRllb IBIAnt FoTKids covvry Gwwt Cyfeiriad Arweinyddl Leader's address.. Ty'r Ysgol, Stryd Holland, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP 23 6HT (Ffon 01495 3501551 E bost.. hgglynebwy@gmail.com