# **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL**

**ENW’R DARPARWR: YSGOL FEITHRIN PONTYPWL CYFEIRIAD Y DARPARWR: Neuadd Iago Sant / St James’ Hall, Heol Hanbury, Pontypwl,  Torfaen,NP4 6JT. FFON:** Neuadd/Hall (01495 755616) E bost/e mail: hgglynebwy@gmail.com. **RHIF ELUSENNOL 1195317 PERSON A GOFAL HELEN GREENWOOD MANYLION CYSWLLT hgglynebwy@gmail.com Rhif ffon symudol yr Arweinydd 07377544285 Rhif ffon adref yr Arweinydd 01495 350155 UNIGOLION CYFRIFOL HELEN GREENWOOD ENDID CYFREITHIOL** Mae Ysgol Feithrin Pontypwl bellach wedi ei chofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE / CIO) **PWYLLGOR RHEOLI** : Caiff Ysgol Feithrin Pontypwl ei rheoli gan Pwyllgor gwirfoddol sydd yn cwrdd unwaith bob tymor. **SWYDDOGION Y PWYLLGOR** Cadeirydd Sarah Jones Ysgrifennydd Ceri Gillett. Trysorydd Martyn Redwood. **YMDDIRIEDOLWYR Ena Morris Sarah Jones Martyn Redwood April Wiggins Y GWASANAETH** Mae Ysgol Feithrn Pontypwl yn Meithrinfa Cyfrwng Gymraeg cafodd ei sefydlu ynghanol Pontypwl yn Neuadd Uchaf Iago Sant 40 mlynedd yn ol. Erbyn hyn rydym wedi ein cofrestru gyda AGC fel Meithrinfa gofal dydd ar gyfer 19 o blant rhwng dwy a hanner  a phump oed.

## **NOD AC EGWYDDORION**

●Cynnig addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel mewn awyrgylch cyfeillgar a chymunedol ●Sicrhau cyfle cyfartal i bob plenty/rhiant/gofalwr beth bynnag eu hil, iaith, rhyw, crefydd neu gallu corfforol

●Cynnig cyfleuoedd chwarae amrywiol sydd yn sylfaenol i ddatblygiad plentyn yn gorfforol, yn emosiynol yn ieithyddol, yn gymdeithasol, ac yn ddeallusol.

●Sicrhau bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Deddf Plant 2004 yn rhan o ethos y grwp.

●Sicrhau bod plant, waeth beth fo’u hangen, yn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd dda gan eu hannog i ddatblygu’n unigolion hyderus, annibynnol a chreadigol.

●Cydweithio yn agos gyda rhieni a gofalwyr i sicrhau polisi drws agored i bawb sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

Oedran y plant – rhwng dwy a hanner a phump oed

Rydym yn sicrhau 1 oedolyn i bob 8 o blant dros dair oed.

Rydym yn sicrhau 1 oedolyn i bob 4 o blant dwy a hanner i dair oed

**EIN GWASANAETH**

Mae Ysgol Feithrin Pontypwl wedi bod yn cynnig addysg cyn ysgol o safon ynghanol Pontypwl ers dros 40 mlynedd. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cynnig cyfleuoedd chwarae a dysgu cyffroes i’r plant yn ein gofal gan ddilyn Fframwaith y Cynllun Sylfaen. Mae’r staff yn cynllunio gweithgareddau amrywiol addas ar gyfer ystod oedran y plant, eu galluoedd a’u gofynion gwahanol . Rydym yn paratoi cynlluniau tymor hir , tymor byr a chyfleuoedd chwarae dyddiol gan sicrhau bod llais y plant yn rhan bwysig o’r paratoi yma ac erbyn hyn rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar cynllunio fesul tymor gan edrych ar y 4 pwrpas o fewn Cwriciwlwm Newydd Cymru. Fel Meithrinfa Cymunedol rhoddir pwysigrwydd mawr ar gynnwys y rhieni ymhopeth rydym yn ei wneud gan fagu perthynas clos gyda phob un a’u hannig i ymuno a ni ar amrywiol weithgareddau a theithiau gyda’r plant. Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn hunan werthuso’r gwasanaeth yn gyson gan ofyn barn y plant, y rhieni a’r staff  er mwyn gwella ein darpariaeth yn gyson. Mae gennym ystod eang o bolisiau manwl sydd yn sicrhau fod y plant yn ddiogel bob amser. Rydym yn anelu at sicrhau bod y plant yn deal pwysigrwydd bwyta a chadw’n iach a gofalu am ein cymuned.

Rydym yn falch iawn o allu cynnig polisi drws agored i bob plentyn sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac rydym yn credu yn gryf fod angen i ni arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhopeth rydym yn ei wneud. Mae gennym berthynas agos ac asianteithau lleol sydd yn golygu ein bod yn gallu sicrhau cymorth a chefnogaeth gyda phroblemau Iaith a lleferydd, clyw, golwg ac unrhyw anghenion yhwanegol eraill. Gwneir hyn mewn cydweithrediad llwyr a’r rhieni a’n nod yw darparu gofal a

chefnogaeth llwyr i bawb.

Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn Aelod o Mudiad Meithrin ac yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg gan annog y rhieni i ddewis addysg cynradd cynfrwng Cymraeg i’w plant. Croesawir plant o gefndiroedd ieithyddol eraill ac mae’r staff bob amser yn barod i gefnogi plant sydd a Iaith cyntaf wahanol i;r Saesneg/Cymraeg gan ddarparu adnoddau a llyfrau yn yr Iaith honno os oes modd. Rhoddir cefnogaeth i rieni sydd yn awyddus i ddysgu ychydig o Gymraeg gyda’r plant. Trefnir dosbarthiadau dysgu Cymraeg addas yn y Neuadd Isaf ac rydym yn cydweithio yn agos gyda Choleg Gwent a Menter Iaith i drefnu gweithgareddau cymunedol cyson. **MANYLION STAFF**

**ARWEINYDD:** Helen Greenwood.  Cyflogwyd ym mis Medi 1991. Cwrs Dysgu 3 mlynedd i fod yn Athrawes yng Ngholeg y Drindod rhwng 1974-1977. Cwrs Blwyddyn Mudiad Meithrin a chwrs NVQ Lefel 3 gyda Choleg Gwent **DIRPRWY ARWEINYDD:** Julie Watkins. Cyflogwyd yn 1997   NVQ Lefel 3 **CYNORTHWYWYR** :

Nicola Lear. Cyflogwyd yn 2000. NVQ Lefel 3 trwy Mudiad Meithrin.

Abi Roberts – Cyflogwyd ym mis Ionawr 2022. NVQ Lefel 3.

**STAFF WRTH GEFN** – Hayley Tibbs a Jo Barber. y 2 gyda DBS cyfredol Mae gan pob Aelod o staff cytundeb cyflogaeth. Mae Ysgol Feithrin yn dilyn patrwm gwyliau ysgol ac yn hyblyg os bydd Aelod o staff angen diwrnod neu sesiwn iffwrdd ar gyfer apwyntiad/hyfforddiant ac ati. Mae ein polisi staffio yn nodi manylion ein telerau salwch.

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

**ORIAU AGOR**

|**ORIAU AGOR**||||||

|LLUN am
CLWB BRECWAST
8. 30am – 9.30am
SESIWN BORE
_9.30 – 12.00_
_CLWB CINIO_
_12.00 – 12.45PM_|MAWRTH am
CLWB BRECWAST
830am – 9.30am
SESIWN BORE
_9.30 – 12.00_
_CLWB CINIO_
_12.00 – 12.45PM_|MERCHER am
CLWB BRECWAST
830am – 9.30am
SESIWN BORE
_9.30 – 12.00_
_CLWB CINIO_
_12.00 – 12.45PM_|IAU am
CLWB BRECWAST
830am – 9.30am
SESIWN BORE
_9.30 – 12.00_
_CLWB CINIO_
_12.00 – 12.45PM_|GWENER am
CLWB BRECWAST
830am – 9.30am
SESIWN BORE
_9.30 – 12.00_
_CLWB CINIO_
_12.00 – 12.45PM_|PENWYTHNOS
AR GAU|
|LLUN pm
SESIWN
PRYNHAWN
12.45PM – 3.15PM|MAWRTH pm
DIM SESIWN AR Y
FUNUD|MERCHER pm
SESIWN
PRYNHAWN
12.45PM –
3.15PM|IAU pm
DIM SESIWN AR Y
FUNUD|GWENER pm
SESIWN
PRYNHAWN
12.45PM –
3.15PM|AR GAU|

## **CYFLEUSTERAU’R YSGOL FEITHRIN**

## **ARDAL DAN DO**

Lleolir Ysgol Feithrin Pontypwl mewn Neuadd fawr pwrpasol gyda digon o ofod i osod nifer o gorneli chwarae atyniadol a chyffroes allan ar gyfer y plant. Caiff yr ardaloedd yma eu newid a’u datblygu yn gyson mewn trafodaeth gyda’r plant.

Mae yna doiledau pwrpasol ar gyfer y plant ynghyd a thoiled gyda chyfleusterau anabl a gofod ar gyfer newid cewyn. Ar ben hynny mae yna cegin gyda oergell, rhewgell, peiriant gofod, cwpwrdd storio ar gyfer offer glanhau sydd ar glo yn ystod y dydd, cypyrddau storio, 2 sinc mawr a sinc bach ar gyfer golchi dwylo a byrddau a chadeiriau ar gyfer ein clwb brecwast.

## **ARDAL TU ALLAN**

Mae gan Ysgol Feithrin Pontypwl gofod sylweddol tu allan sydd yn cynnwys lle gwyrdd aml lefel, a man gwastad gyda cysgodfan. Rydym wedi datblygu ardal cegin fwd, gardd i blanu ffrwythau, llysiau a blodau, cornel i;r cartref bwstfilod bach, offer dringo yn cynnwys llithren mawr a wal ddringo, beiciau ac offer chwaraeon amrywiol. Mae yna offer chwarae dwr a thywod, cornel adeiladu, ac ar ben hynny caiff offer amrywiol ei osod ifyny tu allan yn wythnosol. Mae Neuadd Iago Sant wedi ei leoli cyferbyn a Pharc godidog Pontypwl ac rydym yn ymweld a’r Parc yn wythnosol.

## **SESIYNNAU**

Rydym yn cynnig 8 sesiwn yr wythnos sef diwrnod llawn ar ddydd Llun, Mercher a Gwener a sesiwn hanner diwrnod ar Ddydd Mawrth a Iau.

## **CLYBIAU**

## **CLWB BRECWAST**

Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn falch o allu cynnig Clwb Brecwast rhwng 8.30am – 9.30am ar gyfer ein plant ni yn unig. . Rydym yn cynnig ystod eang o fwydydd iach a chyfle i’r plant cymdeithasu gyda’u gilydd a sgwrsio yn hamddennol dros frecwast.

## **CLWB CINIO**

Mae Ysgol Feithrin Pontypwl hefyd yn cynnig Clwb Cinio dyddiol ar gyfer y plant sydd yn aros trwy’r dydd. Mae’r plant yn dod a phecyn bwyd eu hunain ac mae’r staff yn eistedd gyda;r plant i fwyta eu cinio.

**HYFFORDDIANT STAFF** : Mae’r 4 aelod o staff llawn amser yn dilyn cyrsiau hyfforddi yn gyson trwy Mudiad Meithrin, Cyngor Torfaen a’r EAS. Caiff y staff llanw cyfle i fynychu cyrsiau hyfforddi hefyd. Mae rhestr o’r holl gyrsiau hyfforddi a ddilynwyd  ar gael i bawb eu gweld yn y cyntedd yn y Neuadd. Mae gan bob aelod o staff Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyfredol.

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

## **Y CYNLLUN SYLFAEN / CWRICIWLWM CYMRU**

Canolbwynt ein patrwm ddyddiol yn Ysgol Feithrin Pontypwl yw’r plant wrth gwrs. Nhw sydd yn rheoli ‘r adnoddau a’r gweithgareddau a gynigir yn ddyddiol tu fewn a thu allan. Rydym yn cynllunio yn wythnosol ac mae hyn yn cynnwys trafodaeth gyda’r plant ac yn amlwg yn ddigon hyblyg i gynnwys unrhyw ddigwyddiadau neu newyddion sydd yn codi yn ystod yr wythnos. Rhoddir pwyslais mawr ar ddysgu trwy chwarae ac yn sgil dyfodiad y Cwriciwlwm Newydd i leoliadau nas gynhelir rydym bellach yn cynllunio o

**ARSYLWI, ASESU A CHOFNODI** – Mae staff Ysgol Feithrin Pontypwl yn arsylwi ac asesu datblygiad bob plentyn yn fanwl. Mae hyn yn ein cynorthwyo i gynllunio gweithgareddau pwrpasol yn fanwl gan amrywio/ ail adrodd yn ol y galw a gosod targedau a chamau nesaf i bob plenty yn unigol. Cedwir cofnodion manwl o ddatblygiad bob plentyn a darperir adroddiad ar ddiwedd cyfnod y plant gyda ni.

Mae ein patrwm ddyddiol yn newid ac yn datblygu yn gyson ond dyma syniad o’r hyn sydd yn digwydd mewn sesiwn:

## **GWEITHGAREDDAU DYDDIOL**

- 8.30 Clwb Brecwast 9.30 Croesawu a Chofrestru  Amser Rhydd i chwarae 9.45 Amser Cylch - Amser Stori / Amser cofrestr / Amser newyddion / trafod y tywydd 10.00am Sesiwn gweithgareddau rhydd  tu fewn a thu allan lle annogir y plant i symud o gwmpas yr

ardaloedd amrywiol – blociau ac adeiladu, byd bach, adnoddau naturiol, creadigol a  chwarae rol, 11.10am amser tacluso 11.10 Amser diod a bwyd iach 11.30 DEWIS Amser canu /sesiwn drama neu dawns / sesiwn symud i gerddoriaeth/ gemau corfforol/ Beciau /  offer ymarfer corff/gemau pel/gemau parasiwt

- 11.55 Canu Hwyl Fawr Ffrindiau 12.00pm Amser ffarwelio  / Clwb Cinio 12.45pm Dechrau sesiwn prynhawn 1.00pm Amser Cylch – cyfleuoedd i holi ac ateb cwestiynau/ gemau Iaith

- 1.15pm

- ardaloedd amrywiol – blociau ac adeiladu, byd bach, tywod, dwr, adnoddau naturiol, creadigol a chwarae rol. Yn amlwg rydym yn cynnig profiadau gwahanol yn y prynhawn  i’r plant sydd yn a trwy’r dydd . Rhoddir offer ac adnoddau gwahanol allan ar gyfer y sesiwn

prynhawn 2.30pm amser tacluso

- 2.40pm             Amser diod a bwyd iach 2.55 - 3.00pm   DEWIS Amser canu / gwaith drama / sesiwn symud i gerddoriaeth/ gemau corfforol/ beiciau/ offer ymarfer corff/gemau pel/gemau parasiwt yn wahanol i’r hyn a wneir yn y bore

- 3.10pm Canu Hwyl Fawr Ffrindiau

- 3.15pm Amser ffarwelio  / Clwb Cinio

|**TALIADAU**||

|CLWB BRECWAST|£3.00|
|SESIWN BORE|£11.00|
|CLWB CINIO|£2.00|
|SESIWN PRYNHAWN|£11.00|
|TAL DIWRNOD LLAWN|£27.00|
|PLANT A ARIENIR GAN Y CYNGOR|£16.00|

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

Mae’r plant 3-4 oed yn gymwys i 10 awr o oriau addysg y cynllun Sylfaen gan Cyngor Torfaen ac rydym hefyd yn rhan o’r Cynllun 30 awr o ofal plant am ddim gan LLywodraeth Cymru. Golyga hyn fod rhan

Disgwylir i deuluoedd dalu’r ffioedd ymlaen llaw am hanner tymor, yn fisol neu’n wythnosol. Rhaid talu am bob sesiwn hyd yn oed os yw’r plentyn ar wyliau neu’n absennol.

Mae Staff yr Ysgol Feithrin yn trefnu rota Clwb Cinio i sicrhau fod pawb yn cael cyfle am doriad i gael cinio ond fel arfer mae’r staff yn bwyta cinio gyda’r plant yn y Neuadd

## **MANYLION MYNEDIAD**

**CYLCH TI A FI –** Rydym yn annog unrhyw deuluoedd sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg i fynychu’r Cylch Ti a Fi. Mae’r Cylch Ti a Fi yn cwrdd bob Bore Iau yn Neuadd Isaf Iago Sant.

Oddi yno gwahoddir teuluoedd i ymweld ag Ysgol Feithrin Pontypwl i gwrdd a’r staff ac i ddod yn gyfarwydd a’r Neuadd Uchaf a’r cyfleusterau yn ogystal a derbyn pecyn o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg.  Cyn cychwyn yn ddwy a hanner oed rhoddir pecyn cofrestru i bob teulu gan ofyn iddynt lenwi ffurflen gofrestru, cytundeb syml , ffurflen proffeil a ffurflen caniatad o ran lluniau ac ati. Rhaid sicrhau bod manylion cyswllt manwl gyda ni. Disgwylir i rieni/gofalwyr roi gwybod i’r staff ar unwaith os oes unrhyw newidiadau i’r manylion cyswllt yma. Cedwir manylion pawb sydd yn gymwys i gollwng a chasglu pob plentyn. Rhoddir wybodaeth am ffioedd a’r cyfleuoedd ariannu sydd ar gael unwaith mae’r plentyn yn troi’n 3 oed.

Wrth gychwyn gyda ni rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio gyda rhieni/gofalwyr i sicrhau fod y plant yn ymgyfarwyddo gyda’r lleoliad a theimlo’n hyderus yn nghwmni’r staff a’r plant eraill. .Os bydd angen  gall rhieni /gofalwyr aros am gyfnodau o amser i gynorthwyo’r proses yma.

Mae’r Cytundeb rhieni yn nodi ‘r drefn a ddilynnir  mewn achos o salwch, sut byddwn yn ymateb i achos o argyfwng, a beth yw ein polisi o ran rhoi meddiginiaeth,  Mae’r cytundeb hefyd yn nodi’r drefn o ran canmol a chwyno, beth yw ein polisi gydag absenoldeb a rhestr o’n holl bolisiau.

## **CANMOL A CHWYNO**

Mae Ysgol Feithrin Pontypowl yn croesawu barn rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir, fel y gellir ei wella os oes angen.  Hysbysir rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â’r polisi a threfn canmol a chwyno cyn i’w plentyn gychwyn yn y lleoliad. Darperir hyfforddiant i’r holl staff  ar weithrediad y Polisi Canmol a Chwyno a’r Cod Ymarfer.

## **Trefn Cwynion**

- Cysylltu â’r Person â Gofal / **Unigolyn Cyfrifol sef Helen Greenwood, Arweinydd** i ddatgan y gwyn ar lafar.  Ceisir datrys y mater a hysbysu’r rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid o’r camau a gymerwyd o fewn 3 diwrnod gwaith.

- Dylai’r **Unigolyn Cyfrifol / Person Cofrestredig** hysbysu’r sawl sydd yn gwneud y cwyn o unrhyw wasanaethau eirioli neu gefnogi sydd ar gael iddynt.

- Os yw’r cwyn yn ymwneud â phlentyn ble mae’r awdurdod lleol wedi trefnu’r gofal, dylai’r **Unigolyn Cyfrifol / Person Cofrestredig** hysbysu’r sawl sydd yn gwneud y cwyn fod ganddynt hawl i gwyno i’r awdurdod lleol.

- Gyda chytundeb y sawl sydd yn gwneud cwyn, gall yr **Unigolyn Cyfrifol /  Person Cofrestredig** wneud trefniadau i geisio cymodi, cyfryngu neu gael cymorth er mwyn ceisio datrys y gwyn, gan gyfeirio at asiantaeth neu berson annibynnol pe bai angen. Gellir cysylltu a Chadeirydd y Pwyllgor

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

- Rhieni sef Sarah Jones 07814363121 neu Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin, Manon Jones Berry 07800540316

- Os na ellir datrys y mater yn dderbyniol, neu os mai dymuniad y rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid yw cyflwyno'r gwyn yn ysgrifenedig, dylid cyfeirio'r mater yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig i’r **Unigolyn Cyfrifol / Person Cofrestredig/  Cadeirydd** .  Cynhelir ymchwiliad llawn i’r mater ar unwaith, a rhoddir ymateb llawn i’r achwynwr yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod.

- Os nad yw’r ymchwiliad wedi ei gwblhau o fewn yr amser dynodedig, dylid cyflwyno adroddiad interim i’r person a gwynodd, ynghyd ag esboniad ynglŷn â pham fod angen amser ychwanegol.

- Dyllid cwblhau’r ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod.  Cedwir unrhyw ohebiaeth, nodiadau ac adroddiadau ar yr achos gan y Cylch Meithrin a byddant ar gael i AGC eu gweld.

- Os yw’r sawl sydd yn cwyno yn parhau i fod yn anfodlon gyda’r canlyniad gellir cyfeirio'r mater yn uniongyrchol at AGC ar y manylion isod:

**AGC RHANBARTH DE-DDWYRAIN CYMRU,** Sarn Mynach Cyffordd Llandudno LL31 9RZ . agc@llyw.cymru

## **DELIO AG ARGYFYNGIADAU**

Mae’n bolisi gan Ysgol Feithrin Pontypwl i amddiffyn pob person, gan gynnwys cyflogai, cwsmeriaid, contractwyr ac aelodau’r cyhoedd, rhag anafiad posib a niwed i’w hiechyd o ganlyniad i dân, damwain neu argyfwng meddygol.Rydym yn darparu ac yn cynnal amodau gwaith, offer a systemau gwaith diogel ar gyfer pob cyflogai, ac yn darparu’r wybodaeth, hyfforddiant a goruchwyliaeth sydd ei angen at y diben hwn.Byddwn yn ymrwymo i lefel uchel o ddiogelwch tân, ac yn cydymffurfio â’r holl anghenion statudol. Mae gennym systemau manwl mewn lle i ddelio ag argywng meddygol neu damwain difrifol.

## **CYDWEITHIO AC ASIANTEITHIAU ERAILL**

Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn cydweithio yn agos gydag asianteithiau eraill yn y Gymuned. Cawn ymweliadau cyson gan  Athrawes Ymgynghorol Y Cyfnod Sylfaen gyda’r EAS a  Swyddog Cefnogi a Gweinyddiaeth Mudiad Meithrin. Mae gennym gyswllt hefyd gyda’r seicolegydd plant a’r adran therapi lleferydd yn Nhorfaen. Rydym yn cydweithio a’r ysgolion cynradd Cymraeg yn y bwrdeisdref gan cydweithio a’r staff wrth i blant drosglwyddo i;r dosbarth derbyn.

Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn roi pwys mawr ar fod yn rhan o’r gymuned leol. Rydym  yn gwneud defnydd helaeth o’r parc arbennig cyferbyn a’n cartref yn ogystal a’r canolfan hamdden lleol. Mae’r plant yn ymweld a’r llyfrgell a’r farchnad lleol yn gyson ac rydym yn ymweld a’r Ganolfan Ddinesig sydd hefyd drws nesa i’r Neuadd. Cyn Covids 19 Unwaith  pob pythefnos roeddem yn ymweld a Chartref Preswyl yr Henoed lle wnaeth y plant  creu perthynas arbennig gyda’r preswylwyr yno. Rydym yn gobeithio ail gychwyn y drefn yma yn fuan, Ceir ymwelwyr o;r gymuned e.e. heddwas cymunedol yn dod i siarad a nhw am ei gwaith, swyddog ail gylchu’r cyngor yn dod i siarad am bwysigrwydd ail gylchu, unigolion sydd a thalentau cerddorol yn dod i wneud sesiwn dawns, canu, offer cerddorol gyda’r plant.

## **DYSGU CYMRAEG**

Er mwyn cefnogi teuluoedd y Cylch rydym yn rhannu gwybodaeth cyson a nhw am gyfleuoedd i ddysgu Cymraeg. Rydym yn rhedeg dosbarthiadau yn flynyddol ar wahanol lefelau yn y Neuadd Isaf ac yn ystod y flwyddyn fe gynnigir sesiynau blasu , sesiynau Cymraeg i’r Teulu a Chymraeg o’r Crud. Rydym hefyd yn annog y rhieni /gofalwyr i gyflwyno rhaglenni **S4C i’r** plant ac rydym yn rhannu taflenni gwybodaeth cyson am raglenni **CYW** . Caiff y plant cyfleuoedd i ymweld a’r theatr i weld sioe cyfrwng Cymraeg yn flynyddol hefyd

## **YSGOL FEITHRIN PONTYPWL ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR**

**AROLWG ESTYN**

Ym mis Mawrth 2022 cafodd Ysgol Feithrin Pontypwl ei arolygu gan ESTYN/AGC. Mae’r Pwyllgor , staff, a theuluoedd yn hynod o falch o’r adroddiad. Dyma ychydig o ddyfyniadau o’r arlowg a’r astudiaeth achos

“Mae’r ymarferwyr yn rheoli rhyngweithiadau gyda’r plant yn hynod effeithiol, ac mae perthynas hyfryd yn bodoli rhwng yr ymarferwyr a’r plant. Mae gan yr ymarferwyr brofiad ardderchog o gefnogi plant i wneud ffrindiau, rheoli eu teimladau, ac ymdopi â sefyllfaoedd anodd.”

“Mae’r ymarferwyr yn defnyddio dull blaengar a hynod effeithiol o gynllunio sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddiddordebau plant a’r hyn sy’n bwysig i rieni. Mae gan ymarferwyr ddealltwriaeth eithriadol o dda o ddatblygiad plant. O ganlyniad, maent yn darparu profiadau ysgogol a phwrpasol, sy’n ddatblygiadol addas ac ystyrlon i blant. Mae gan ymarferwyr ffordd naturiol a thrawiadol o adael i blant arwain eu dysgu drwy gydol y dydd.”

“Mae diddordebau plant yn greiddiol i sut mae'r ymarferwyr yn cyd-gynllunio a darparu cyfleoedd rhagorol i blant ddatblygu eu holl fedrau mewn cyd-destunau hynod apelgar………….Mae ymarferwyr yn arddangos gwerthfawrogiad a pharch rhagorol tuag at farciau cynnar pob plentyn.”

“Mae ansawdd yr amgylchedd o safon ragorol ac yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ac ymestynnol iawn i blant. Mae’r arweinwyr yn sicrhau bod yr amgylchedd yn groesawgar a diddorol ac yn dathlu creadigrwydd y plant drwy arddangos eu gwaith yn gelfydd.”

Am fwy o fanylion gweler   (http://careinspectorate.wales) (www.estyn.llyw.cymru)

Fel ymddiriedolwyr rydym yn hynod balch o’r Ysgol Feithrin rydym yn ei cynrychioli

**Sarah Jones Martyn Redwood Ena Morris April Wiggins**

## **Ymddiriedolwyr**

**Ysgol Feithrin Pontypwl.**

**Ionawr  2023**

YSGOL FEITHRIN PONTYPWL
ADRODDIAD YMDDIRIEDOLWYR

## **CYFRIFON   01/04/21-30/03/22**

|**CYFRIFON   01/04/21-30/03/22**||

|Incwm / Income
Arian Addysg + 30 awr  Plant 3 a 4 oed / 3+4 yr old Education funding =30hours
Ffioedd Plant / Children's fees
Rhent / Rent
Rhent Ti a Fi  / Rent Ti a Fi
Dillad / Clothes
Club
Codi Arian / Fundraising
Grantiau
Furlough Grant
Misc. / donations
Llog cyfrif Monmouthshire
Cyfanswm Incwm / Income Total
Gwariant / Expenditure
Cyflogau / Salaries
Rhent / Rent + Building Insurance
PAYE
Phone
Utilities
Training - courses and DBS'
equipment
Building - Garden/ Cleaning / resources for outdoors
Food - Snacks/ Breakfast Club and Cooking Activities
Group Photos + Printing Photos
Photcopier
Other - Clothes etc
Cyfanswm Gwariant / Expenditure Total
Opening Balances
Current Account
other Lloyds account
other Lloyds account 2
Monmouthshire Account
Add Income
Less Expenditure
Closing Balance
Closing Balance
Current Account
other Lloyds account
other Lloyds account 2
Monmouthshire Account|53,892.02

8,574.00

1,969.00

84.00

5.00

923.00

19,064.32

100.00

159.63

||84,770.97

||41,321.79

12,531.43

3,660.37

835.12

3,783.07

1,264.44

12,199.81

1,157.62

1,611.41

398.08

1,253.35

1,553.78

||81,570.27

||22,251.10

73.74

98.70

35,474.24

||57,897.78

84,770.97

||142,668.75

81,570.27

||61,098.48

||25,292.17

73.74

98.70

35,633.87

||61,098.48