## Adroddiad Blynyddol y Tabernacl 2025 

Mae Tabernacl Eglwys y Bedyddwyr yn eglwys rhestredig Gradd II* yng nghanol Caerdydd. Cynhelir y gwasanaethau yn y Gymraeg. Ar ddechrau’r flwyddyn roedd y corff llywodraethol yn cynnwys y Gweinidog (sydd nawr yn llawn amser), 2 gyd-ysgrifennydd, trysorydd 2 gydysgrifennydd ariannol a 7 o ymddiriedolwyr  eraill. Etholwyd 2 ymddiriedolwr newydd yng Ngwanwyn y flwyddyn hon gan wneud cyfanswm o 15  ymddiriedolwr gwasanaethol. Dechreuodd y flwyddyn gyda 142 o aelodau. Bu farw 6 yn ystod y flwyddyn a rhoddodd 5 o bobl y gorau i’w haelodaeth am wahanol resymau. Bedyddiwyd 4 person a throsglwyddodd 5 arall eu haelodaeth i’r Tabernacl o eglwysi eraill gan orffen y flwyddyn gydag aelodaeth o 140. 

Mae’r eglwys wedi ymrwymo i’n cynorthwyo ni i addoli Duw, cyhoeddi’r efengyl a dangos cariad Duw yn ein bywydau bob dydd, yng Nghaerdydd, yng Nghymru a’r Byd. Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau yn Gymraeg eu hiaith ond mae pawb sy’n dymuno mynychu bob amser yn cael eu croesawu. Rydym yn croesawu llawer o ymwelwyr tramor o bob cwr o’r byd, sydd yn galw heibio i addoli gyda ni tra’u bod yn y ddinas ar wyliau neu ar gyfer busnes. Mae’r eglwys yn aelod o Cytûn (eglwysi ynghyd). Mae’r grŵp yn cynnwys yr Eglwys yng Nghymru, Pabyddion ac Eglwysi Anghydffurfiol arall y ddinas.  Mae hyn yn gyfle, nid yn unig i gynnal gwasanaethau cydenwadol, ond hefyd i gyfarfod yn gymdeithasol i drafod a chyfnewid syniadau a dysgu mwy am gredoau gwahanol. 

Cynhelir gwasanaethau ar y Sul yn y bore a gyda’r hwyr. Cyn y gwasanaeth boreol cynhelir sesiwn  o weddi fyfyriol gydag Ysgol Sul yn cael ei gynnal ar ôl y gwasanaeth boreol. Rydym yn falch o adrodd bod presenoldeb yn yr Ysgol Sul yn cynyddu wth i deuluoedd newydd gyda phlant ifanc ddechrau addoli gyda ni. Dethlir y Cymun Bendigaid yn y gwasanaeth gyda’r nos ar Sul cyntaf y mis ac yn y bore ar drydydd Sul y mis. Gwahoddir pawb sy’n caru’r Arglwydd i ymuno wrth fwrdd y cymun. Mae’r gwasanaethau ar y Sul yn cael eu darlledu ar Facebook gan alluogi’r aelodau hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol i ymuno yn yr addoliad. Ymwelir ag aelodau yn rheolaidd, yn enwedig y rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol am ba reswm bynnag. Gellir dathlu’r Cymun Bendigaid yn eu cartrefi os dymunant. 

Unwaith y mis mae gennym dau sesiwn o astydiaeth beiblaidd. Cnhelir un yn yr eglwys tra bod yr ail, ar yr un pwnc, ar Zoom. Mae hyn yn galluogi mynediad i unrhyw un sydd am ddysgu ac ymuno yn y trafodaethau. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan ein gweinidog. 

Yn dilyn llwyddiant y Genhadaeth Weddi Ewropeaidd a drefnwyd gan eglwys Corea yn 2024, penderfynon nhw ddychwelyd eleni.  Roedd yn llwyddiant ysgubol ac maen nhw eisoes wedi archebu eu dyddiad ar gyfer ymweliad arall ym mis Gorffennaf 2026. 



Mae diwrnodau’r wythnos yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gwahanol i aelodau a ffrindiau. 

Unwaith y mis ar ddydd Llun mae’r Clwb Darllen yn cyfarfod,  fel arfer mewn bwyty lleol, i drafod llyfr o’u dewis ac i gymdeithasu. 

Roedd ein cyfarfod prynhawn Mawrth o’r enw  “Cymdeithas am Ddau” gynt ar gyfer y chwiorydd ond mae bellach yn cynnwys dynion yr eglwys. Mae’r cyfarfod yn dechrau gydag amser byr o addoliad ac yna sgwrs gan siaradwr gwadd neu gweithgareddau eraill a drefnir.  Yn dilyn y cyfarfod darperir te gan roi cyfle i gymdeithasu a sgwrsio. Eleni  eto mae menywod y grŵp wedi bod yn rhan o ddau brosiect gwau – gwau sgwariau i wneud blancedi i’r digartref neu’r anghenus a gwau Cywion  Pasg i godi arian ar gyfer Ysbyty Canser Felindre yng Nghaerdydd. Trefnir ffair bob blwyddyn ym mis Rhagfyr i godi arian at elusen neu achos da. Eleni rhoddwyd yr arian a gasglwyd i ddarparu llochesau nos yng Nghaerdydd a’r Wcráin. 

Nos Fawrth yw ein hamser i gyfarfod yn llai ffurfiol ond mewn gweithgareddau wedi’u trefnu. Mae’r rhain yn cynnwys sgyrsiau gan siaradwyr gwadd, nosweithiau cerddorol, prydau dathlu, nosweithiau sgitls ac ati. Yn yr Haf trefnir taith ddirgel gan un o’r aelodau a the mefus i godi arian at rhyw elusen arbennig. Eleni rhannwyd yr arian a godwyd rhwng dau grŵp sy’n ymwneud â helpu’r bobl hynny yn y ddinas sy’n llai ffodus na ni ein hunain. 

Ar ddydd Mercher mae gennym fore coffi unwaith y mis, naill ai yng nghartref aelod neu ar Zoom fel bod y rhai sy’n gaeth i’r tŷ yn gallu ymuno. Rhoddir unrhyw arian a godir yn y cyfarfodydd hyn i elusen. Eleni rhoddwyd yr arian i Ysbyty Canser Felindre. 

Ar foreau Sadwrn rydym yn gweini te, coffi a bisgedi i unrhyw un sy’n dewis  ymweld. Mae hyn yn bennaf ar gyfer y digartref sy’n chwilio am ddiod poeth a rhywfaint o gynhesrwydd os ydyn nhw wedi treulio’r nos y tu allan neu mewn pabell, ond ma na groeso i bawb. Nid oes tâl ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar bob amser. 

Amser cinio bob yn ail fis mae gennym ddatganiad organ sydd ar agor i’r cyhoedd 

Defnyddir yr eglwys yn gyson gan Hijinx (grŵp o bobl ifanc ag anableddau) ar gyfer eu Clwb Ieuenctid, ac U3A ar gyfer eu grŵp dawns. Mae Bugeiliaid y Stryd  yn defnyddio’r eglwys fel eu canolfan ar nos Wener ac ar nos Sadwrn. Eleni mae’r Gwasanaeth Cynghori Ieuenctid Cenedlaethol wedi bod yn defnyddio’r festri ar gyfer amrywiaeth o gyfarfodydd ac maent yn bwriadu parhau i wneud hynny yn y dyfodol 

Mae lleoliad yr eglwys yng nghanol y ddinas yn ddelfrydol ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau o bob math. Rydym wedi cynnal amrywiaeth o grwpiau corawl yn ystod y flwyddyn yn ogystal â 



datganiadau organ a phiano, sesiynau recordio, ac mae’r festri wedi cael ei defnyddio fel Ystafell Werdd ar gyfer cwmnïau ffilm. Ein gwestau diweddaraf yw grŵp yn cynnal gweithdau ar gyfer gwneud Pice ar y Maen. 

Mae ein Canolfan Clyd ar gyfer y digartref neu’r rhai sydd eisiau cwmni neu cynhesrwydd yn parhau i fynd o nerth i nerth. Darperir prydiau poeth, ffrwythau ffres a chacennau i hyd at 70 o bobl amser cinio dydd Mercher a dydd Sul. Mae’r amseroedd hyn yn galluogi ein hymwelwyr i eistedd a sgwrsio, cael pryd o fwyd am ddim, cymryd rhan mewn gweithgareddau neu ddim ond eistedd ac ymlacio. Roedd pawb yn falch i dderbyn anrheg Nadolig yn cynnwys menig, sanau, gwresogyddion dwylo a siocled. 

Yn ystod y flwyddyn cawsom ein derbyn gan y Banc Bwyd fel canolfan ar gyfer dosbarthu talebau bwyd. Mae hyn wedi profi i fod yn wasanaeth amhrisiadwy i’r rhai sy’n gymwys i’w derbyn. Rydym hefyd wedi cael ein cofrestru fel canolfan sy’n barod i groesawu cyn-garcharorion i’n man cynnes. 

Mae “Tabwyl” (clwb i blant ysgolion cynradd) wedi chwarae rhan bwysig unwaith eto ym  mywyd plant yr eglwys a’u ffrindiau.  Yn ystod y sesiynau, cymerodd y plant ran mewn pob math o weithgareddau crefft, gemau, gwrando ar straeon beiblaidd ac ati. Mae ei llwyddiant wedi ein hannog i barhau â’r  fenter a gobeithiwn y bydd y niferoedd sy’n mynychu yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. 

Fel eglwys rydym wedi ein gyfeillio ag Eglwys Efengylaidd Sefika ym Maseru, Lesotho, a thrwy’r eglwys hon rydym wedi datblygu cyfeillgarwch agos â sefydliadau gwahanol yn Maseru. Anfonir rhodd  ariannol yn flynyddol i gefnogi gwaith y sefydliadau hyn. Gwelwn ein cefnogaeth yn Lesotho fel cyfle i ddangos cariad Duw mewn rhan arall o’r byd sy’n llai ffodus na ni ein hunain. Y flwyddyn nesaf bydd grŵp o bobl ifanc yn teithio i Lesotho er mwyn cryfhau’r cyfeillgarwch hyn ac i weld sut y gallwn ni helpu i wella eu bywydau mewn gwlad llai cyfoethog na’n gwlad ni. Rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn grant i dalu’r rhan fwyaf o gostau’r daith. 

Rydym hefyd wedi dangos ein cefnogaeth i eraill gyda rhoddion ariannol i Cymorth Cristnogol, Cenhadaeth Fyd-eang BMS, Cymdeithas y Beibl, Operation Agri, llochesau nos yng Nghaerdydd ac Wcráin, Ysbyty Canser Felindre a sawl elusen lleol araill. 

Nid oes unrhyw brosiectau adfer ar raddfa fawr wedi bod eleni ond mae sawl un wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Un sydd eisoes yn y cyfnod cynllunio yw tynnu llwyfan y festri i lawr a gosod cegin newydd. Yn y festri uchaf mae deuddeg ffenestr velux i’w amnewid, ac yn y capel mae angen ailblastro’r wal ddeheuol. 

Mae Tabernacl yn hen adeilad sydd angen gwaith atgyweirio cyson ac mae’r rhestr Gradd II* yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio deunyddiau penodol sydd yn gwneud y gwaith yn ddrytach. Rydym yn parhau i 



obeithio y bydd yr aelodau mor hael yn eu rhoddion ag erioed fel y gallwn gadw’r adeilad yn le diogel a chyfforddus a gyfer addoli. 

Adolygiad Ariannol 

Roedd cyfanswm y derbyniadau i gronfeydd anghyfynedig yn £91,991 yn cynnwys cyfraniadau wythnosol yr aelodau, rhodd cymorth a llog ar fuddsoddiadau. Derbyniwyd £44,364 i’r cronfeydd cyfyngedig. Mae’r ddau ffigur wedi’u manylu yn y datganiad ariannol. 

Mae digwyddiadau codi arian a llogi’r adeilad wedi dod ag incwm ychwanegol. 

Mae Rhodd Cymorth yn creu swm i’w groesawu ac anogir pob aelod i gymryd rhan yn y cynllun hwn. 

Parhaodd y gyfradd llog yn uchel am rhan o’r flwyddyn gan roi elw da ar ein buddsoddiadau. Nid oedd angen symiau mawr o arian eleni ar gyfer cynnal a chadw’r adeilad ond mae hyn yn golygu y bydd  costau’r flwyddyn nesaf yn sylweddol uwch. Y flwyddyn nesaf hefyd bydd y Grant Mannau Addoli Rhestredig yn dod i ben, felly ni fydd modd  hawlio TAW yn ôl ar unrhyw gostau yn y dyfodol. 

Mae’r arian a gasglwyd ar gyfer amrywiol elusennau ac achosion da wedi aros ar yr un lefel â’r blynyddoedd blaenorol ac rydym yn ddiolchgar iawn am hyn. 

Cyfanswm y costau gweinidogol (llawn amser) oedd £55,695 sy’n cynnwys cyflog, pensiwn, treth a threuliau. 

Mae gennym 3 cronfa wrth gefn 

Cronfa fugeiliol – cronfa a sefydlwyd gan y diaconiaid blynyddoedd lawer yn ôl i sicrhau y byddai arian ar gael i dalu’r gweinidog pe na byddai’r offrwm wythnosol yn cwrdd â’r anghenion 



Cronfa Cymynroddion – cronfa o gymynroddion yw hon. Mae wedi cael ei rhoi o’r neilltu i dalu am lety i’r gweinidog pe byddai angen. 

Cronfa Cyffredinol/Gwelliannau/Organ – arian yw hwn sydd wedi ei gronni dros gyfnod pan oedd yr aelodaeth yn uwch ac yr offrwm wythnosol yn fwy. Gellir codi arian o’r gronfa hon ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gwelliannau cyffredinol. Eleni bu rhaid i ni godi arian  o’r gronfa hon. Dim ond rhan o gronfa cyfyngedig yr organ sydd yn y gronfa  ar hyn o bryd. Mae’r arian hyn wedi ei gasglu dros sawl blwyddyn ac wedi ei glustnodi ar gyfer unrhyw waith sylweddol fydd angen ei wneud ar yr organ yn y dyfodol. 

Cymeradwywyd gan y diaconiaid ar 26 Chwefrof  2026 a llofnodwyd ar eu rhan gan 

Rhodri ab Owen 

