1

**Cylch Meithrin Chwilog**

## **Cylch Meithrin Chwilog**

Festri

Capel Uchaf Chwilog Pwllheli Gwynedd LL53 6PR

## **07821689853**

# **Adroddiad a Datganiadau Ariannol**

O 25 Mai 2021 i 31 Mawrth 2022

Rhif Elusen Gofrestredig: 1194580

## **Cylch Meithrin Chwilog**

## _**Gwybodaeth cyfredinol**_

## **Aelodau Pwyllgor Cylch Meithrin Chwilog**

Rebecca Hughes                        (Cadeirydd) Ffion Griffith                             (Ysgrifenydd) Llywela Jones                             (Trysorydd) Tanya Williams                         (Unigolyn Cyfrifol)

## **Trysorydd / Treasurer**

Llywela Jones                                    (Trysorydd)

## **Swyddfa gofrestredig**

Cylch Meithrin Chwilog, Festri, Capel Uchaf, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6PR

## **Bancwyr**

Lloyds Bank Plc

1

2

## **Adroddiad yr Pwyllgor am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2022**

Mae’n bleser gan y pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2022. Mae’r adroddiadau wedi eu paratoi yn unol a chyfansoddiad yr elusen darpariaethau yn y Datganiad o Ymarferion Cymeradwy – “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” ac yn cydymffurfio gyda’r gyfraith berthnasol.

## **Amcanion a gweithgareddau**

Mae’r elusen yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi eu greu gan Mudiad Meithrin (MM) sydd yn cael ei ddefnyddio gan bob aelod o mudiad meithin.

Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio pob yn ail blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. Mae apwyntiad ymddiriedolwyr ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn cael ei wneud trwy gytundeb pwyllgor rheoli.

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant dwy oed i bedair am ddwy awr y dydd. Mae croeso i bob plentyn o phob crefydd, lliwa theuluoedd gwahanol ir Cylch Meithrin yn Chwilog pob amser.

## **Strwythur a threfniant**

Mae’r elusen yn cael ei rhedeg gan bwyllgor o bedwar o ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni plant sydd yn mynychu’r ysgol neu yn aelodau or gymuned leol. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter. Nid oes gan aelodau’r staff bleidlais yn y pwyllgor. Mae gweithgareddau dydd i ddydd yr elusen yn nwylo’r staff cyflogedig sydd mewn cysylltiad rheolaidd hefo’r pwyllgor.

## **Perthynas ag elusennau eraill**

Mae’r Cylch yn aelod o Mudiad Meithrin, sydd yn elusen fydd yn cefnogi pob Meithrinfa Gymraeg gyda chyngor a grantiau. Byddwn yn gweithio yn agos iawn gyda Swyddog Cefnogi’r ardal leol er mwyn rhoid y gorau pob amser ir cylch meithrin.

## **Datblygiadau Gweithgareddau a’r hyn a Gyflawnwyd**

Mae’r Cylch yn rhedeg ar capasati o 14 o blant rhwng 9 – 11 a 14 yn sesiynau Meithrin Mwy rhwng 11 a 3.

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Mae’r flwyddyn 2021-2022 wedi bod yn un heriol unwaith eto i’r Cylch a’r Pwyllgor. Yn ystod 2020-2021 cafwyd wybod bod rhaid i’r Cylch symud o’r ysgol oherwydd twf plant yn yr ardal.  Yn ystod 2021-2022 bu’r Pwyllgor yn gweithio yn galed i sicrhau lleoliad newydd i’r Cylch, ac ceisio am grantiau i adeiladu estyniad i’r Capel.  Bu’r Pwyllgor yn lwcus i sicrhau gael defnyddio y Festri yn y Capel sydd dros ffordd i’r Ysgol, i gadw y Cylch yn lleol.  Oedd rhaid ceisio am grantiau i adeiladu estyniad i sicrhau cydymffurfio gyda canllawiau y Mudiad Meithrin.

2

3

Gweithiwyd yn agos gyda adeiladwyr lleol, Cynghorau Lleol, Mudiad Meithrin a gweithiwyr proffesiynol allanol eraill.

Bu’r Cylch symud o’r ysgol yn Gorffennaf 2021 ac i’w leoliad newydd yn y Capel yn Medi 2021.  Bu’r symudiad hwn yn yn llwyddiannus.  Mae perthynas da dal i’w fod gyda y’r Ysgol a Cylch, gan bod canran o’r plant yn mynychu y ddau leoliad.

Nid oes newidiadau wedi eu trefnu; blaenoriaeth yr pawb sydd yn ymwneud ar cylch yw i barhau i addysgu plant cynysgol yr ardal mewn awyrgylch gynnes a chyfeillgar.

## **Cyfraniad Gwirfoddolwyr**

Ar adegau, yn enwedig yn ystod tymor yr haf caiff yr elusen gymorth gan rai o’r rhieni,sydd yn werthfawr iawn. Mae’r elusen yn ffodus i dderbyn cymorth gan wirfoddolwyr eraill ac mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn am eu help. Mae’r gwirfoddolwyr i gyd yn derbyn cyngor gan y Mudiad. Mae’r pwyllgor yn cydnabod bod angen cynnal gweithareddau codi arian drost 6 wythnos gwyliau’r haf, ond bod angen edrych a chystadlu hefo cylchoedd eraill yr ardal.

## _**Adroddiad yr ymddiriedolwyr (parhad)**_

## **Codi arian**

Cafodd yr Cylch flwyddyn weddol llwyddiannus gyda chodi arian a chodwyd swm o £1,531.42.

Cyflawnwyd hyn trwy gynnal taith gerdded noddedig, raffl, llythyrau Sion Corn, Cardiau Nadolig.  Mae angan parhau i gasglu arian yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn codi cyllid y cylch.  Mae rhieni y plant yn ogystal ac aelodau y gymuned yn gefnogol iawn pan rydym angen codi arian.

## **Adolygiad risg**

Mae’r pwyllgor wedi adolygu y risgiau mwyaf y mae’r elusen yn wynebu, yn arbennig rhai sydd yn parhau i gael effeith ar weithgareddau a chyllid yr elusen, yw casglu arian. Maen bwysig ir pwyllgor hefyd i barhau i gadw costau cyflogau staff i lawr ac i wneud yn siŵr ein bod ond yn gwario ar adnoddau fel bo’r angen, costau prynu adnoddau yn cael iw gadw yn isel. Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i gadw oriau staff i gyd fynd ar angen gyda ratio plant a nifer o ddiwrnodau mae’r cylch ar agor. Mae’r  arweinydd yn parhau i gadw rhester adnoddau er mwyn bod y cylch mond yn archebu be sydd iw angen.  Risg mwyaf sydd gan yr Cylch ar ol symud lleoliad yw talu am rhent, ynni i’r Festri a chasgliadau gwastraff.  Mae rhain yn gost ychwanegol i’r Cylch gan eu bod erbyn hyn mewn lleoliad tu allan i’r Ysgol.

## **Polisi a chronfeydd**

Cedwir cronfeydd at gostau rhedeg dydd i ddydd  yr elusen sydd i fod yn ddigonol am wariant tri mis os bydd i’r incwm gyffredinol orffen.

## **Staf 2021 / 2022**

3

4

- Jade Collins Arweinydd

- • Nia Lloyd Jones Cynorthwyydd • Lucy Cassidy Cynorthwyydd

## **Grantiau a Chodi Arian**

Pob blwyddyn yr ydym yn annog y rhieni, plant a’r pwyllgor i weithio yn galed i godi arian tuag at y Cylch. Gwelwyd llawer iawn o engreifftiau weithgareddau codi arian yn ystod y flwyddyn. Codwyd £1,531.42

- Taith gerdded

- Raffl

- Llythyrau Sion Corn

- Cardiau Nadolig

4

5

## **Cylch Meithrin**

## **Datganiad o Weithredoedd Ariannol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant)** _am y      flwyddyn hyd 31 Mawrth 2022_

Arian    mewn £66,868.95

Arian allan  £68,791.98

Colled –  £1,923.03

**----- Start of picture text -----**

BETH OEDD Y GWARIANT:
CYFLOGAU STAFF/ HMRC: £36,870.37
Adnoddau: £3,738.85
Cyrsiau/Gwarchod Data/ Cofrestru hefo’r mudiad/ DBS/Arwydd ac offer newydd i’r Cylch : £701.74
Gwaith Estyniad ar y Capel: £24,530.27
Ad- daliadau: £170
Tal Cinio i Cyngor Gwynedd: £970
Rent, ynni i’r festri a chasglidau gwastraff: £1,610.75
BETH OEDD YR INCWM:
Grantiau :Addysg 3 oed/ Cynllun 30 awr: £30,154.77
Grantiau cyngor/mudiad/allanol eraill: £16,862.94
Ffioedd plant:  £14,187.32
Codi Arian - £1,531.42
Cinio Ysgol - £1,086
**----- End of picture text -----**