
## **Adroddiad Blynyddol 01/04/2024-31/03/2025** 

## **Enw: meddwl.org** 

**Rhif yr elusen: 1192527** 

## Amcanion elusennol: 

Amddiffyn a chadw iechyd meddwl a lles da er budd y cyhoedd trwy ddarparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg. 

_To protect and preserve good mental health and wellbeing for the public benefit by providing information about mental health conditions through the medium of Welsh._ 

## Ymddiriedolwyr: 

Arddun Rhiannon Arwel Hedd Gwynfor Hywel Llŷr Jenkins Manon Elin James 

## Gweithgaredd y flwyddyn: 

- Parhau cyfres teithiau cerdded meddwl.org er mwyn cynnig awyrgylch diogel, lle i ymarfer corff ysgafn, cyfle i siarad a chyfle i rannu gwybodaeth. 

- Cydweithio gyda Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo llyfrau am iechyd meddwl fydd o gymorth i bobl i gynnal hunan-ofal. Cynnig gostyngiad ar lyfrau ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a cynnig llyfrau am ddim ym mis Tachwedd a Rhagfyr i nodi penblwydd meddwl.org ac i nodi wythnos ymwybyddiaeth galar. 

- Cefnogi prosiect Darllen yn Well a Darllen yn Well i Blant. 

- Cynnal trafodaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cysylltiad rhwng iechyd meddwl dynion. 

- Lansio cynnyrch newydd: Mygiau, Cannwyll, Tedi. 

- Parhau i gynnig platfform er mwyn i unigolion rhannu eu profiadau o iechyd meddwl neu o fyw gyda salwch meddwl trwy blog, flog neu mewn dull creadigol. 

- Cefnogi Digwyddiad Ar y Dibyn. 

- Cefnogi digwyddiad iechyd meddwl i fenywod. 

- Elusen y flwyddyn Comisiynydd y Gymraeg. 

- Cynnal stondin yn Tafwyl. 



## **Adroddiad ariannol** 

|**Adroddiad ariannol**|||
|---|---|---|
||2024-2025|2023-2024|
|**INCWM**|£||
|Cyfraniadau|1870.69|6068.77|
|Gwerthiant Nwyddau|4334.15|2540.83|
|Breindal Nwyddau|0.00|689.43|
|Gwyliau Cenedlaethol|650.24|168.46|
|Grantau|580.00|7500|
||||
||**7435.08**|**16967.49**|
||||
|**GWARIANT**|£||
|Darlunio|190.00|50|
|Ymgyrchoedd|0.00|66|
|Podlediad|0.00|0|
|Fideos|0.00|300|
|Gwyliau Cenedlaethol|679.50|291|
|Posto|321.93|26.76|
|Gwefan newydd|754.17|289.44|
|Argrafu|3493.36|767.99|
|Hawlfraint|0.00|0|
|Prosesu taliadau|437.24|593.52|
|Prynu Stoc|9707.84|7213.97|
|Digwyddiadau|542.48|1580|
||||
||**16126.52**|**11178.68**|



|**Incwm a Gwariant Meddwl.org 01/04/2024-31/03/2025**||
|---|---|
||£|
|**Incwm**|7435.08|
|**Gwariant**|16126.52|
|**Gweddill / Diffyg am y flwyddyn**|-8691.44|



