## **Adroddiad Blynyddol 01/04/2022-31/03/2023**

## **Enw: meddwl.org**

## **Rhif yr elusen: 1192527**

## Amcanion elusennol:

Amddiffyn a chadw iechyd meddwl a lles da er budd y cyhoedd trwy ddarparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg.

_To protect and preserve good mental health and wellbeing for the public benefit by providing information about mental health conditions through the medium of Welsh._

Ymddiriedolwyr: Hedd Gwynfor Arddun Rhiannon Arwel Megan Emily Martin Hywel Llyr Jenkins Sophie Ann Hughes Manon Elin James

Gweithgaredd y flwyddyn:

- Lansio gwefan newydd mwy hygyrch i ddefnyddwyr sy’n fuddsoddiad hir-dymor.

- Ennill gwobr Sefydliad Elusennol Ysbrydoledig yng ngwobrau Mental Health & Wellbeing Cymru.

- Dechrau cyfres teithiau cerdded meddwl.org.

- Cefnogi’r ymgyrch yn erbyn strategaeth Llywodraeth Cymru i labelu bwyd gyda caloriau.

- Cyhoeddiad llyfr ‘Gair o Galondid’ gan Caryl Parry-Jones yn cyfrannu elw i’r elusen.

- Parhau i gynnig platfform er mwyn i unigolion rhannu eu profiadau o iechyd meddwl neu o fyw gyda salwch meddwl trwy blog, flog neu mewn dull creadigol.

- Trefnu mwy o ddigwyddiadau Eisteddfod nag o’r blaen gan gynnwys trafodaethau am y byd amaeth a pherfformio.

- Fideo Wythnos Ymwybyddiaeth OCD.

- Cyhoeddi pecyn ‘Cardiau Cysur’ ar y cyd gyda Darlunio Heledd Owen. Dilyniant i’r pecyn ‘Cardiau Caredig’.

- Parhau ymgyrch ‘Meddwl ar Ddydd Llun’.

## **Adroddiad ariannol**

|**INCWM**
Cyfraniadau
Gwerthiant Nwyddau
Breindal Nwyddau
Gwyliau Cenedlaethol
**GWARIANT**
Darlunio
Ymgyrchoedd
Podlediad
Fideos
Gwyliau Cenedlaethol
Postio
Gwefan newydd
Argraffu
Hawlfraint
Prosesu taliadau
Prynu Stoc|£
1579.77
4092.13
0.00
16.85|

||**5688.75**|

1829.55
300.00
86.00
200.00
490.00
65.53
4320.00
738.99
0.00
725.75
535.16
**9290.98**|

## **Incwm a Gwariant Meddwl.org 01/04/2022-31/03/2023**

|Incwm
Gwariant
Gweddill / Diffyg am y flwyddyn|£
5688.75
9290.98
-3602.23|