OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

Adroddiad blynyddol

2024 – 2025

Annual return Charity Commission

Charity number 1192278

Ref: AR24-CIO-REM-9e- 1192278-E

Mae Cylch meithrin Bodedern wedi cael blwyddyn llwyddianus ac ar y cyfan wedi rhedeg yn esmwyth.

Mae’r cylch yn dod o dan categori gofal dydd llawn.

Mae’r cylch wedi cofrestru ar gyfer 18 o blant.

Mae tair aelod o staff, sef un arweinydd a dwy gymhorthydd, mae’r arweinydd ac un cymhorthydd yn gweithio o 8.30 y.b. hyd a 3 y.p llun i gwener a mae un cymhorthydd yn gweithio o 9 yb hyd at 1 yp

Mae pentref Bodedern yn ymestyn a hyderwn bydd mwy o blant am wneud defnydd o’r cylch meithrin.

Nid oes cylch Ti a Fi yn cael ei gynnal yn y caban bellach.

Nid oes unrhyw ddigwyddiad negyddol wedi digwydd i roi pryder i’r pwyllgor rheoli.

Mae gwellianau wedi cymeryd lle ar yr adeilad, ar ol derbyn grantiau o sefydliadau gwahanol mi lwyddwyd i beintio y waliau allanol o’r caban mewn ffufr murlun o gymeriadau cymraeg, Sali mali a jac y jwc, fferm a plant yn chwarae a.y.y.b.

Mae defnydd da o’r politwnnel a’r plant yn cael y cyfle i dyfu blodau a llysiau drwy’r flwyddyn.

Mae’r pwyllgor rheoli yn bwriadu rhoi estyniad ar y caban mewn ffurf ystafell wydr, mae adeiladwr yn ein cynghori na fydde’r caban yn gallu cymeryd pwysau trwm felly teimlwn mai ystafell wydr yw yr unig opsiwn.

Bwriadwn geisio am grantiau o asiantaethau gwahanol i ariannu hyn, bydde’r ystafell ychwanegol yn creu man i grwp bach o’r plant fenga (rhai sydd yn

derbyn addysg) i wneud gwaith penodol a tasgau a hefyd creu ardal i’r arweinydd ddarparu a cynllunio gwaith.

Ym mis chwefror 2024 fe gafwyd y cylch arolwg Estyn ynghyd ac arolygaeth gofal cymru, roedd yr adroddiad yn bosytif iawn a’r pwyllgor a staff yn falch iawn.

Dyma y tro cyntaf i’r pwyllgor a staff presenol fynd trwy arolwg.

Mae gan y cylch meithrin nifer o blant sydd yn derbyn y 30 awr am ddim yn ogystal rhai sydd yn derbyn 10 awr yr wythnos am ddim.

Mae ffioedd y cylch i’w talu ar ddydd llun o flaen llaw, mae gan y cylch beiriant talu gyda cerdyn banc, neu mae modd talu trwy bacs neu arian parod os dymunir.

Erbyn hyn mae ffens ddiogel wedi ei gosod o amgylch y cylch gyda mynediad drwy giat ddiogel sydd dan glo.

Mae gan y cylch gloch drws sydd yn cynnwys dyfais i allu weld unrhyw un ar ffon symudol y cylch heb orfod mynd at y drws o flaen llaw.

Mae’r ddyfais hefyd yn recordio symudiadau o amgylch y caban ac yn ddyfais ddiogeledd ddefnyddiol iawn.

Mae amrywiaeth o ddodrefn plant tu mewn i’r caban wedi eu adnewyddu, ac wedi eu archebu gan gynnwys soffa, ardal cegin a lle tan a llawer o adnoddau.

Mae ystafell allan ar gowt y cylch wedi ei gwblhau bellach a staff yn gwneud defnydd da o hon.

Mae holiaduron yn cael eu rhannu i rieni/gwarchodwyr yn reolaidd er mwyn derbyn barn, mae unrhyw sylwadau negyddol yn cael sylw gan y pwyllgor rheoli.

Mae gwybodaeth cyffredinol yn cael ei rannu ar safle y cylch ar facebook.

Mae amryw o weithgareddau y plant wedi cymeryd lle… trip i pili palas,mynd o amgylch y pentref yn arsylwi ar natur, y frigad dan wedi ymweld a’r cylch, fan hufen ia wedi galw , sion corn wedi ymweld a’r cylch.

Mae’r staff yn mynychu hyfforddiant yn reolaidd, mae’r pwyllgor rheoli yn cefnogi hyn ac yn falch o fedru hybu hyfforddiant trwy ariannu y sesiynau lle bod angen.

Mae’r pwyllgor rheoli yn gefnogol o’r staff ac yn cynnal gorychwilio ac arfarnu yn reolaidd.

Mae’r unigolyn cofrestredig yn derbyn adroddiadau ac sylwadau gan staff mudiad ysgolion meithrin yn reolaidd ac mae hyn o gymorth i alluogi cefnogi staff y cylch meithrin.

Mae’r pwyllgor cyfan yn gyfarwydd a polysiau y cylch.

Mae perthynas dda rhwng y cylch a ysgol gynradd Bodedern, mae staff yr ysgol ar gael drwy drefniant, i rannu syniadau ac unrhyw gyngor neu syniadau yn ymwneud a’r plant petau ei angen, mae plant tair oed sydd yn mynychu sesiwn bore ac sesiwn cinio yn y cylch sydd yn derbyn addysg yn yr ysgol yn y prynhawn yn cael eu trosglwyddo i’r ysgol gan staff y cylch meithrin.

Rydym yn ffodus o gael pennaeth yr ysgol yn aelod o bwyllgor rheoli y cylch meithrin

Rydym yn ffyddiog iawn bydd y cylch, staff, pwyllgor, rhieni ac plant bach Bodedern yn parhau i fod yn hapus a bodlon gyda’r cylch meithrin yn y dyfodol

Linda Ann Jones

Cadeirydd y pwyllgor rheoli a’r person cyfrifol cofrestredig.

Apr May June July Aug Sept
OPENING BALANCE 18610.64 18811.84 17162.04 19582.65 18432.16 15215.65
INCOME
Fees 366.00 793.00 949.00 863.00 138.00 507.00
Grants Education 5357.00 2030.00 5890.00 3060.00 1845.00 2578.93
Flying Start 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
Other 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
Fundraising (+ donations) 0.00 0.00 113.29 0.00 0.00 0.00
TOTAL INCOME 5723.00 2823.00 6952.29 3923.00 1983.00 3085.93
TOTAL AVAILABLE INCOME 24333.64 21634.84 24114.33 23505.65 20415.16 18301.58
EXPENDITURE
Wages Payment to Staff 4063.16 4137.96 4075.88 4098.18 4097.98 4075.88
NI, Pension(PAYE) 227.39 0.00 490.26 861.17 2314.91
Rent 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
Training and Resources 1214.00 280.96 422.70 451.95 207.26 1099.51
Food 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
Electric / Water 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
Mobile Phone 17.25 53.88 33.10 33.10 33.10 73.57
Bank charges 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
MM Membership 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
MM Insurance 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
Other Insurance 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
TOTAL EXPENDITURE 5521.80 4472.80 4531.68 5073.49 5199.51 7563.87
FINAL BALANCE 18811.84 17162.04 19582.65 18432.16 15215.65 10737.71
Oct Nov Dec Jan Feb Mar
10737.71 6672.80 7703.10 6145.49 5046.94 6065.25
1238.00 1394.00 1523.00 691.00 903.00 1090.00
1800.00 4230.00 1350.00 1750.00 4680.00 3000.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
0.00 91.57 0.00 0.00 0.00 0.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 490.00
3038.00 5715.57 2873.00 2441.00 5583.00 4580.00
13775.71 12388.37 10576.10 8586.49 10629.94 10645.25
4139.86 4258.03 3976.31 3108.65 3820.53 4368.67
244.41 244.41 244.41 228.67 228.67 253.05
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 3545.89
2657.49 121.68 148.74 141.08 454.34 0.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
61.15 61.15 61.15 61.15 61.15 61.15
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
0.00 0.00 0.00 0.00 0.00 0.00
7102.91 4685.27 4430.61 3539.55 4564.69 8228.76
6672.80 7703.10 6145.49 5046.94 6065.25 2416.49

Menna Lisk mennalisk@aol.com

Fri, Jan 31, 2025 at 10:31 PM

To: Pwyllgor Cylch Meithrin pwyllgorcylchmeithrinbodedern@gmail.com

CYLCH MEITHRIN BODEDERN

ACCOUNTS

01/04/2023 - 31/03/2024

Accounts verified externally

MENNA LISK

31/1/25