Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
Cylch Meithrin Edern
Rhif Elusen: 1191036
Blwyddyn Ariannol yn cychwyn: 01/04/2022 Blwyddyn Ariannol yn darfod: 31/03/2023
Cyfeiriad:
Cylch Meithrin Edern,
Canolfan Gymunedol Edern,
Lôn Gerddi,
Edern, LL53 8YS
Ymddiriedolwyr
Lowri Williams
Sera Glyn Jones
Medi E Davies
Crynodeb:
Mae wedi bod yn flwyddyn sefydlog i’r Cylch eleni. Mae 15 o blant ar ein llyfrau gyda rhain yn talu ffioedd a sawl un ar y Cynllun Gofal Plant (3 oed). Rydym fel Pwyllgor, gyda chymorth y Swyddogion, wedi bod yn rhagweithiol eto yn ein ymdrechion i ddatblygu’r Cylch a chodi arian yn ystod y flwyddyn ariannol hon 1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023. Mae tri sesiwn yr wythnos a rydym wedi gweld cefnogaeth mawr i’r sesiynau dydd Mawrth a Iau, sy’n nôl y plant o ddosbarth Meithrin Ysgol Edern ac mae hwn wedi bod yn fuddiol iawn i rieni.
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon cafwyd agoriad swyddogol ein ardal chwarae allanol, ar y cyd gyda Prynhawn Coffi y Ganolfan, er codi arian at Wcrain a cafwyd tipyn gefnogaeth i’r digwyddiad.
Mae’r plant wedi cael amser da yn ein sesiynau, cyfleoedd i fynd i’r parc, mabolgampau’r Cylch a chyfle i fynd ar drip i weld Sioe Dewin a Doti.
Ymgeisiwyd am sawl grant i gynorthwyo i ariannu’r datblygiadau a bum yn llwyddiannus yn derbyn grantiau gan Local Giving a Grantiau gan Gyngor Gwynedd i’n helpu i brynu dodrefn ac adnoddau i’r
Cylch. Mae’r cymorth ariannol wedi bod yn fuddiol ac wedi ein galluogi i fuddsoddi i wella adnoddau’r Cylch, er budd ein plant. Cafwyd rhoddion ariannol gan Cyngor Tref Nefyn a Chyngor Cymuned Tudweiliog i helpu i wella ein adnoddau hefyd ac fe werthfawrogir eu cyfraniadau hael.
Yn ogystal â’r grantiau, rydym wedi cynnal sawl digwyddiad i gasglu arian yn cynnwys noson Bingo sydd wastad yn cael cefnogaeth. Cynhaliwyd noson Disgo Nadolig yn Ysgol Edern gyda’r elw yn cael eu rhannu rhwng yr Ysgol a’r Cylch. Cafwyd noson ‘Mediumship’ yn Woodlands, Edern hefyd oedd yn hynod llwyddiannus. Yn ogystal a digwyddiadau cafwyd cwis lluniau enwogion, Ocsiwn dros y wê a Raffl ‘Sgratch Cards’ fel ffyrdd o gadw ein coffrau yn iach. Mae biniau ailgylchu dillad Antur Waenfawr hefyd yn gymorth i ddod ac arian cyson i’r Cylch.
O ran gwariant, ein prif gostau yw cyflogau y Swyddogion. Mae’r Arweinydd yn mynd ar gyfnod Mamolaeth yn fuan a bydd yr Is Swyddog yn cymryd ei lle a Swyddog arall dros dro yn cymryd lle yr Is Swyddog.
Rydym wedi buddsoddi llawer yn ein adnoddau hefyd, gyda’r grantiau i gyd wedi eu gwario ac mae’r Ganolfan wedi ei gwedd newid a chyflwr ein adnoddau wedi gwella.
Fe welwch o’r Gyfriflen Incwm a Gwariant canlynol bod coffrau y Cylch yn sefydlog.
Trown ein golygon ar barhau i ddatblygu’r Cylch a gwella ein adnoddau, i sicrhau dyfodol hir dymor y Cylch. Gobeithio cawn gefnogaeth cystal i’r flwyddyn ariannol newydd.
Arwyddwyd gan M E Davies
Medi E Davies (Trysorydd) Dyddiad: 26 Ebrill 2023
Cylch Meithrin Edern,
Canolfan Gymunedol Edern, Lôn Gerddi, Edern, LL53 8YS
Mantolen ariannol am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2022 -31 Mawrth 2023
Archwilwyd y Cyfrif a chafwyd yn gywir:
Lowri Williams
Dyddiad: Pwyllgor Cylch 26 Ebrill 2023
| Ysgol Feithrin Edern | Ysgol Feithrin Edern | Ysgol Feithrin Edern | 2022/23 | Diweddarwyd 26/04/2023 | Diweddarwyd 26/04/2023 | Diweddarwyd 26/04/2023 | |||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| UNION / EXACT | |||||||||
| Blwyddyn / Year 1.4.22 - 31.3.23 |
|||||||||
| £ | |||||||||
| INCWM / INCOME | |||||||||
| Grant Mudiad Meithrin Grant | - | ||||||||
| Grant Arian Plant 3 oed /3yr old Education FundingGrant | 5,285.00 | ||||||||
| Grant Cynaladwyedd /SustainabilityGrant | - | ||||||||
| Grant Dechrau'n Deg/FlyingStart Grant | - | ||||||||
| Grantiau Eraill / Other Grants | 3,105.00 | ||||||||
| Incwm Hyfforddi(e.e CWG)a DwyloYchwanegol /Training | - | ||||||||
| Ffioedd Plant / Children's Fees | 5,680.50 | ||||||||
| Codi Arian / Fundraising | 1,695.20 | ||||||||
| Rhoddion agEraill /Donations & Sundries | 3,017.90 | ||||||||
| Cyfanswm Incwm | A | 18,783.60 | |||||||
| GWARIANT / EXPENDITURE | |||||||||
| Cyflogau / Salaries | 10,089.01 | ||||||||
| Costau Rhent a Gwres /Rent & HeatingCosts | 672.00 | ||||||||
| Ffioedd Cofrestru a Chynllun TWERegistration & PAYE Scheme Fees | 931.60 | ||||||||
| Offer,Nwyddau agAdnoddau /Equipment,Materials & Resources | 6,035.31 | ||||||||
| Costau Bwyd a Diod /Food & Drink Costs | 180.35 | ||||||||
| Codi Arian / Fundraising | 40.00 | ||||||||
| Eraill / Other | 618.01 | ||||||||
| Cyfanswm Gwariant /Expenditure Total | B | 18,566.28 | |||||||
| Gweddill(diffyg)amyflwyddyn= A - BSurplus(deficit)for theyear | C | 217.32 | |||||||
| Arian a'r ddechrau'r flwyddyn(dylid cynnwys cyfanswmpob cyfrif | CH | 1,378.99 | |||||||
| Arian ar ddiweddyflwyddyn = C + CH Cash at Year end | D | 1,596.31 | |||||||
| Balans Banc@31.3. | 1,596.31 | ||||||||