Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
Cylch Meithrin Edern
Rhif Elusen: 1191036
Blwyddyn Ariannol yn cychwyn: 01/04/2021 Blwyddyn Ariannol yn darfod: 31/03/2022
Cyfeiriad:
Cylch Meithrin Edern, Canolfan Gymunedol Edern,
Lôn Gerddi, Edern, LL53 8YS
Ymddiriedolwyr
Lowri Williams Sera Glyn Jones Medi E Davies
Crynodeb:
Mae wedi bod yn flwyddyn llewyrchus i’r Cylch eleni gyda’r sefyllfa wedi dod yn ôl i drefn yn dilyn pandemig Covid 19. Bu’r Pwyllgor â’r Swyddogion yn rhagweithiol iawn yn eu hymdrechion i ail sefydlu trefn ar ôl bod ar gau am gyfnod ar ddechrau 2021.
Ein nod dros y flwyddyn ariannol hon oedd buddsoddi i wella adnoddau’r Cylch, yn arbennig rhoi sylw i wella gofod chwarae allanol y Ganolfan. Roedd yn rhaid cael sied newydd gan fod yr hen sied wedi dirywio’n sylweddol, heb fodd ei hadnewyddu. Penderfynwyd hefyd i greu cysgodfan chwarae allan ac ardaloedd chwarae amrywiol, gan fod mwy o bwyslais ar chwarae allan ar ôl y pandemig.
Ymgeisiwyd am sawl grant i gynorthwyo i ariannu’r datblygiadau a bum yn llwyddiannus yn derbyn grantiau gan Asda, Local Giving, Mudiad Meithrin, grantiau amrywiol gan Gyngor Gwynedd, Cronfa Glyndwr a Grŵp Cynefin. Galluogodd y grantiau amrywiol sicrhau fod y gwaith allanol yn gallu cael ei gyflawni, ynghyd ac arian i adnewyddu ychydig o ddodrefn mewnol, prynu teganau newydd a dodrefn meddal i’r Cylch. Mae’r cymorth ariannol wedi bod yn arbennig o fuddiol ac wedi ein galluogi i
fuddsoddi’n helaeth i mewn i adnoddau’r Cylch am y tro cyntaf, sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Yn ogystal â’r grantiau, mae wedi bod yn bosib ail afael mewn digwyddiadau a dulliau codi arian amrywiol. Mae’r Pwyllgor wedi bod yn weithgar iawn yn eu hymdrechion dros y flwyddyn ariannol â’r rhieni wedi bod yn gefnogol ar bob achlysur. Cafwyd dau gwis lluniau enwogion, raffl, dau raffl dyddiadur, taith gerdded noddedig i blant y Cylch a digwyddiad Parti Calan Gaeaf fu’n llwyddiannus iawn. Mae biniau ailgylchu dillad Antur Waenfawr hefyd yn gymorth i ddod ac arian cyson i’r Cylch.
Dros y flwyddyn ariannol rydym wedi gweld y budd o ychwanegu diwrnod ychwanegol i’r Cylch (mis Mawrth 2021) sydd bellach yn cynnig tri sesiwn yr wythnos dydd Llun, Mawrth a Iau yn hytrach na dau. Mae’r sesiwn dydd Mawrth sy’n casglu’r plant Meithrin o Ysgol Edern am 11 y bore tan 3 y prynhawn wedi profi’n llwyddiant mawr ac yn werthfawr i’r rhieni. Ers Ionawr 2022 rydym hefyd wedi cynyddu oriau sesiwn dydd Iau y Cylch, tan 1 y prynhawn sydd hefyd wedi cael cefnogaeth. Mae incwm y Cylch o ffioedd felly wedi profi cynnydd iach ac mae’r niferoedd plant yn mynd o nerth i nerth.
O ran gwariant, mae wedi bod yn flwyddyn o fuddsoddi i ddatblygu a gwella adnoddau’r Cylch. Mae’r grantiau i gyd wedi eu gwario ac mae’r ardal allanol y Ganolfan wedi ei gwedd newid a chyflwr cyffredinol ein adnoddau wedi gwella.
Fe welwch o’r Gyfriflen Incwm a Gwariant canlynol bod coffrau y Cylch yn iach. Mae wedi profi yn flwyddyn lewyrchus i ddatblygiad y Cylch, gyda llawer o gefnogaeth ariannol gan fudiadau amrywiol, gan y gymuned a rhieni wedi ein helpu i fynd o nerth i nerth.
Trown ein golygon ar barhau i ddatblygu a gwella adnoddau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, i sicrhau dyfodol hir dymor y Cylch sy’n adnawdd pwysig i’r Gymuned leol.
Arwyddwyd gan M E Davies
Medi E Davies (Trysorydd) Dyddiad: 5 Mai 2022
Cylch Meithrin Edern,
Canolfan Gymunedol Edern, Lôn Gerddi, Edern, LL53 8YS
Mantolen ariannol am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2021 -31 Mawrth 2022
| UNION / EXACT | |||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Blwyddyn / Year 1.4.21 - 31.3.22 |
|||||||||
| £ | |||||||||
| INCWM / INCOME | |||||||||
| Grant Mudiad Meithrin Grant | 1,000.00 | ||||||||
| Grant Arian Plant 3 oed /3yr old Education FundingGrant | 1,712.25 | ||||||||
| Grant Cynaladwyedd /SustainabilityGrant | 0.00 | ||||||||
| Grant Dechrau'n Deg/FlyingStart Grant | 0.00 | ||||||||
| Grantiau Eraill / Other Grants | 10,574.80 | ||||||||
| Incwm Hyfforddi(e.e CWG)a DwyloYchwanegol /Training | 0.00 | ||||||||
| Ffioedd Plant / Children's Fees | 6,592.00 | ||||||||
| Codi Arian / Fundraising | 1,225.50 | ||||||||
| Rhoddion agEraill /Donations & Sundries | 710.73 | ||||||||
| Cyfanswm Incwm | A | 21,815.28 | |||||||
| GWARIANT / EXPENDITURE | |||||||||
| Cyflogau / Salaries | 6,938.52 | ||||||||
| Costau Rhent a Gwres /Rent & HeatingCosts | 672.00 | ||||||||
| Ffioedd Cofrestru a Chynllun TWERegistration & PAYE Scheme Fees | 90.00 | ||||||||
| Offer,Nwyddau agAdnoddau /Equipment,Materials & Resources | 13,329.61 | ||||||||
| Costau Bwyd a Diod /Food & Drink Costs | 145.41 | ||||||||
| Codi Arian / Fundraising | 0.00 | ||||||||
| Eraill / Other | 175.72 | ||||||||
| Cyfanswm Gwariant /Expenditure Total | B | 21,351.26 | |||||||
| Gweddill(diffyg)amyflwyddyn= A - BSurplus(deficit)for theyear | C | 464.02 | |||||||
| Arian a'r ddechrau'r flwyddyn(dylid cynnwys cyfanswmpob cyfrif | CH | 914.97 | |||||||
| Arian ar ddiweddyflwyddyn = C + CH Cash at Year end | D | 1,378.99 | |||||||
| Balans Banc@31.3. | 1,378.99 | ||||||||
Archwilwyd y Cyfrif a chafwyd yn gywir:
Lowri Williams
Dyddiad: Pwyllgor Cylch 5 Mai 2022
Trustees’ Annual Report
Cylch Meithrin Edern
Charity Number: 1191036
Financial Year Beginning: 01/04/2021
Financial Year Ending: 31/03/2022
Address:
Cylch Meithrin Edern,
Canolfan Gymunedol Edern,
Lôn Gerddi,
Edern, LL53 8YS
Trustees
Lowri Williams
Sera Glyn Jones
Medi E Davies
Summary:
It has been a prosperous year for the Cylch this year with the situation returning to order following the Covid 19 pandemic. The Committee and the Officers were very proactive in their efforts to reestablish order after being closed for a period at the beginning of 2021.
Our aim over this financial year was to invest in improving the Cylch's resources, in particular paying attention to improving the Centre's outdoor play area. It was necessary to invest in a new shed as the old shed had deteriorated significantly, and beyond repair. It was also decided to create an outdoor play shelter and various play areas, as there is more emphasis on outdoor play after the pandemic.
Several grants were applied for to help finance the developments and we were successful in receiving grants from Asda, Local Giving, Mudiad Meithrin, various grants from Gwynedd Council, Glyndwr Fund and Grŵp Cynefin. The various grants made it possible to ensure that the external works could be
implemented, together with money to renew some interior furniture, buy new toys and soft furnishings for the Cylch. The financial support has been particularly beneficial and has enabled us to invest heavily in the Cylch's resources for the first time, which has made a significant difference.
In addition to the grants, it has been possible to undertake various fundraising events and methods. The Committee has been very active in their efforts over the financial year and the parents have been supportive on every occasion. There were two celebrity photo quizzes, a raffle, two diary raffles, a sponsored walk for the Cylch children and a very successful Halloween Party event. Antur Waenfawr's clothing recycling bins also help to bring regular money to the Cylch.
Over the financial year we have seen the benefit of adding an extra day to the Cylch (March 2021) which now offers three sessions a week Monday, Tuesday and Thursday instead of two. The Tuesday session which gathers the Nursery children from Ysgol Edern from 11 in the morning until 3 in the afternoon has proven to be a great success and valuable for the parents. Since January 2022 we have also increased the hours of the Thursday session of the Cylch, until 1 in the afternoon which has also received support. The Cylch's income from fees has therefore experienced a healthy increase and the numbers of children are going from strength to strength.
In terms of expenditure, it has been a year of investment to develop and improve the Cylch's resources. All the grants have been spent and the external play area of the Center has drastically changed and the general condition of our resources has improved.
You will see from the following Income and Expenditure Statement that the Cylch's coffers are healthy. It has proved to be a prosperous year for the development of the Cylch, with a lot of financial support from various organisations, from the community and parents helping us develop from strength to strength.
We turn our sights on continuing to develop and improve resources for the next financial year, to ensure the long term future of the Cylch which is an important resource for the local Community.
Signed by M E Davies
Medi E Davies (Treasurer)
Date: 5 May 2022
Cylch Meithrin Edern,
Canolfan Gymunedol Edern, Lôn Gerddi, Edern, LL53 8YS
Balance-sheet for financial year 1 April 2021 -31 March 2022
| UNION / EXACT | |||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Blwyddyn / Year 1.4.21 - 31.3.22 |
|||||||||
| £ | |||||||||
| INCWM / INCOME | |||||||||
| Grant Mudiad Meithrin Grant | 1,000.00 | ||||||||
| Grant Arian Plant 3 oed /3yr old Education FundingGrant | 1,712.25 | ||||||||
| Grant Cynaladwyedd /SustainabilityGrant | 0.00 | ||||||||
| Grant Dechrau'n Deg/FlyingStart Grant | 0.00 | ||||||||
| Grantiau Eraill / Other Grants | 10,574.80 | ||||||||
| Incwm Hyfforddi(e.e CWG)a DwyloYchwanegol /Training | 0.00 | ||||||||
| Ffioedd Plant / Children's Fees | 6,592.00 | ||||||||
| Codi Arian / Fundraising | 1,225.50 | ||||||||
| Rhoddion agEraill /Donations & Sundries | 710.73 | ||||||||
| Cyfanswm Incwm | A | 21,815.28 | |||||||
| GWARIANT / EXPENDITURE | |||||||||
| Cyflogau / Salaries | 6,938.52 | ||||||||
| Costau Rhent a Gwres /Rent & HeatingCosts | 672.00 | ||||||||
| Ffioedd Cofrestru a Chynllun TWERegistration & PAYE Scheme Fees | 90.00 | ||||||||
| Offer,Nwyddau agAdnoddau /Equipment,Materials & Resources | 13,329.61 | ||||||||
| Costau Bwyd a Diod /Food & Drink Costs | 145.41 | ||||||||
| Codi Arian / Fundraising | 0.00 | ||||||||
| Eraill / Other | 175.72 | ||||||||
| Cyfanswm Gwariant /Expenditure Total | B | 21,351.26 | |||||||
| Gweddill(diffyg)amyflwyddyn= A - BSurplus(deficit)for theyear | C | 464.02 | |||||||
| Arian a'r ddechrau'r flwyddyn(dylid cynnwys cyfanswmpob cyfrif | CH | 914.97 | |||||||
| Arian ar ddiweddyflwyddyn = C + CH Cash at Year end | D | 1,378.99 | |||||||
| Balans Banc@31.3. | 1,378.99 | ||||||||
Inspected and verified by :
Lowri Williams
Committee Date: 5 May 2022