
## **Clwb Mynydda Cymru** 

_Elusen gofrestredig rhif 1190243_ 

**Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2024 - 2025** 

## **Cyfansoddiad ac Amcan** 

Mae Clwb Mynydda Cymru wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcan ydi hyrwyddo chwaraeon amatur, sef mynydda, yng Nghymru er budd y cyhoedd, yn arbennig ond nid yn unig trwy ddarparu cyfleon ar gyfer mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg. 

## **Ymddiriedolwyr** 

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd: 

Elen Huws – Cadeirydd Keith Roberts – Is-gadeirydd Richard Roberts – Ysgrifennydd Gweithgareddau Iolo ap Gwynn – Ysgrifennydd y Wefan Iolo Roberts – Ysgrifennydd Cyffredinol Dilys Phillips – Trysorydd Gethin Rowlands– aelod o’r pwyllgor Eurig James –  aelod o’r pwyllgor Dewi Hughes – aelod o’r pwyllgor Dwynwen Pennant – aelod o’r pwyllgor Stephen Williams – aelod o’r pwyllgor Matthew Williams – aelod o’r pwyllgor Erwyn Jones – aelod o’r pwyllgor 

## **Llywodraethu** 

Yr ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Pwyllgor sy’n rheoli gweithgareddau’r Clwb. 

Cynhaliwyd tri chyfarfod arferol o’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn, sef ym misoedd Ionawr, Mai a Medi ac fe gynhaliwyd un cyfarfod brys ym mis Hydref, i gyd drwy gyfrwng Zoom. Mae’r drefn o ddefnyddio Zoom i gynnal ein cyfarfodydd yn gweithio’n dda ac mae’n caniatáu i aelodau sy’n byw ym mhob rhan o Gymru ymuno â’r cyfarfodydd yn eitha rhwydd. Gan mai un o brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw cadw llygaid ar faterion ariannol y Clwb, ceir diweddariad gan y Trysorydd ym mhob 

1 



cyfarfod a bydd y Trysorydd hefyd yn cyflwyno adroddiad am sefyllfa ariannol y Clwb a mantolen i’r Cyfarfod Blynyddol. 

Hefyd mae’r Pwyllgor wedi bod yn rhoi sylw i’r materion canlynol yn ystod y flwyddyn. 

## 1. Taliadau i ‘r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP) 

Gan fod y taliad a wneir gan y Clwb i’r CMP bellach yn £29.33 ar gyfer pob aelod, a thâl aelodaeth presennol y Clwb yn £25, nid yw’r sefyllfa yn gynaliadwy ac roedd dealltwriaeth y byddai’n rhaid i’r Clwb ystyried y tâl aelodaeth ar gyfer 2026. Gan fod hyn ar y gweill, a gan mai derbyn yswiriant drwy fod yn aelod o’r CMP yw un o brif ddibenion ymaelodi, fe benderfynodd y Pwyllgor yng nghyfarfod Ionawr y dylid gwneud ymholiadau gyda chlybiau mynydda eraill i weld a oes ffynonellau eraill o yswiriant y gellid eu hystyried. 

Wedi gwneud ymholiadau daeth yn amlwg mai CMP yw’r unig gorff sy’n cynnig yswiriant addas ar gyfer gweithgareddau mynydda. Yn sgil hyn fe benderfynodd y Pwyllgor ym mis Mai fel a ganlyn: 

_i. ei bod yn bwysig bod y Clwb yn trefnu yswiriant ar gyfer yr aelodau ac ymddengys mai’r CMP yn unig sy’n darparu yswiriant addas ar gyfer gweithgareddau mynydda ii. bod gwerth hefyd i’r Clwb fod ȃ llais mewn corff sydd a rôl bwysig parthed gweithgareddau mynydda yng Nghymru a thu hwnt_ 

_iii. os bydd y CMP heb gyhoeddi pris eu tanysgrifiadau ar gyfer aelodau clybiau erbyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi y dylid cynnal cyfarfod brys rhywbryd ym mis Hydref fel y gellir gwneud argymhelliad ar dâl aelodaeth 2026 i’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd._ 

Cafwyd gwybod yn niwedd Medi mai £30.74 fydd y tanysgrifiad i’r CMP yn 2026 ac fe gafwyd cyfarfod brys o’r Pwyllgor ar 15fed Hydref, 2025. Cytunwyd argymell i’r Cyfarfod Blynyddol y dylid codi’r tâl aelodaeth ar gyfer 2026 i £35. 

## 2. Archif 

Mae trefniadau ar y gweill i drosglwyddo nifer o hen ddogfennau yn ymwneud ȃ sefydlu’r Clwb, nifer ohonynt wedi cael eu harddangos yn stondin y Clwb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 2019, i’r Llyfrgell Genedlaethol i’w cadw. Cytunwyd y byddai Stephen Williams a Dilys Phillips yn mynd drwy’r dogfennau i weld os oes angen sganio rhai ohonynt y gellid eu harddangos pan fydd y Clwb yn dathlu ei haner canmlwyddiant yn 2029. 

## 3. Polisïau’r Clwb 

Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu y bydd yn edrych ar bolisïau’r Clwb yn achlysurol i sicrhau eu bod yn cwrdd â’r gofynion ac yn gyfredol. Hyd yma mae’r Pwyllgor wedi taro golwg dros y polisïau canlynol a’u hadolygu: 


2 



Polisi Asesu Risg Canllawiau Teithiau Preswyl Polisi Preifatrwydd Canllawiau Arweinwyr Teithiau 

Mae’r polisïau yma i gyd i’w gweld ar wefan y Clwb o dan y pennawd “Beth yw’r Clwb” 

## 4. Llochesi 

‘Roedd y Pwyllgor eisoes wedi penderfynu y dylai arweinyddion taith gario diffibrilydd ar bob taith. Penderfynwyd y dylid hefyd gario lloches os ydi’r arweinydd yn teimlo bod hynny’n addas ar gyfer y daith. 

## 5. Enwi Dringfeydd 

Yn y cyfarfod ym mis Medi cafwyd gwybod gan Stephen Williams am y drafodaeth yn y CMP ynglŷn â’r defnydd o enwau Cymraeg a Saesneg yn y byd dringo. Ar ôl ystyried y mater fe benderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn: 

_i. nodi gwrthwynebiad cryf a llwyr y Clwb i unrhyw ddefnydd o enwau Saesneg ar nodweddion tirluniau Cymru sydd ag enwau Cymraeg cynhenid arnynt a bod hyn yn cynnwys unrhyw ymgyrch i ail-enwi ponciau yn chwarel Llanberis sydd eisoes ag enwau Cymraeg cynhenid arnynt_ 

_ii. gyda dringfeydd, nodi fod y sefyllfa yn wahanol. Gan fod dringfa wedi ei datblygu gan ddringwr/wyr unigol eu bod wedyn yn rhoi enw o’u dewis ar y ddringfa berthnasol._ 

## 6. Eisteddfod Genedlaethol 

Wrth gwrs mae’n dasg flynyddol i’r Pwyllgor wneud trefniadau ar gyfer gweithgareddau’r Clwb yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni ac fe draddododd Paula Roberts Ddarlith Goffa Llew Gwent ar “Newid Hinsawdd a Mynyddoedd Cymru”. Hefyd fe gynhaliwyd Taith Goffa Gareth Pierce yn ystod yr wythnos pan gafwyd criw sylweddol o 35 o aelodau yn ymuno ȃ Richard Roberts ar daith i Gastell Dinas Brȃn a’r cyffiniau. 

Mae’r Pwyllgor yn hynod o ddiolchgar i Paula a Richard am eu cyfraniad ac i’r aelodau hynny a fu ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer y gweithgareddau hyn. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dechrau ystyried trefniadau ar gyfer Eisteddfod 2026 yn Sir Benfro. 

Mae cofnodion cyfarfodydd y  Pwyllgor a rhai’r Cyfarfodydd Blynyddol i’w gweld ar wefan y Clwb, gweler y ddolen isod: 

http://www.clwbmynyddacymru.com/Dogfennau.htm 

3 



## **Recriwtio ymddiriedolwyr** 

Y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor ac felly’n penodi’r ymddiriedolwyr. Yn ôl y cyfansoddiad mae traean o aelodau’r Pwyllgor (yr ymddiriedolwyr) yn ymddeol yn flynyddol, sef 4 aelod, er bod hawl i unrhyw un ohonynt gael ei ail-benodi. Y rhai sydd i ymddeol yw’r rhai sydd wedi bod yn eu swydd hiraf. Mae’n agored i unrhyw aelod gynnig gwasanaethu ar y Pwyllgor drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyn y Cyfarfod Blynyddol. 

Yng Nghyfarfod Blynyddol 2024 bu i Sioned Llewelyn Jones a Raymond Griffiths adael y pwyllgor a chafodd Erwyn Jones a Matthew Williams eu hethol yn eu lle. Yn ogystal daeth cyfnod Stephen Williams fel Cadeirydd i ben a chymerodd Elen Huws y swydd o Gadeirydd gyda Keith Roberts yn dod yn Is-gadeirydd. 

## **Gweithgareddau** 

## 1. Teithiau mynydda 

Trefnwyd cyfanswm o 62 o deithiau. Mae her y teithiau'n amrywio o'r gwyn i'r du gan gynnwys ambell 'epic'. Diolch yn fawr iawn i’r aelodau hynny a gytunodd i’w harwain. 

Dyma ddadansoddiad: 

- Trefnwyd 11 o deithiau du; 15 o rai coch; 26 o rai gwyrdd; 4 felen; 2 wen a gohiriwyd 4 oherwydd tywydd garw. 

- Ar gyfartaledd, mae 13 o gerddwyr/mynyddwyr ar bob taith. Y nifer isaf ar daith eleni oedd 3 a 37 oedd y nifer uchaf. 

- Cynhaliwyd taith flasu - Pedol Marchlyn - dan arweiniad Stephen Williams a bu i rai o’r blaswyr ymaelodi â’r Clwb yn sgil y profiad. 

## 2. Partneriaethau 

Mae’r Clwb yn cydweithio â nifer o fudiadau eraill. 

- _Y Bartneriaeth Awyr Agored_ - mae cymorth ariannol i fynychu cyrsiau’n dal ar gael a chysylltwyd â'r aelodau i roi gwybod iddyn nhw am hynny. 

- _Yr Urdd_ - defnyddiwyd peth o arian y gronfa a sefydlwyd er cof am Gareth Pierce i gefnogi cynnal cwrs mynydda ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed yng Ngwersyll Glanllyn yn 2024. Mae'r arian hwnnw bellach wedi dod i ben ond mae'r Urdd wedi penderfynu parhau i gynnig y cwrs. Mynychodd 17 o bobl ifanc y cwrs eleni. 

- _Eisteddfod Genedlaethol_ - traddodwyd y ddarlith flynyddol yn yr Eisteddfod gan Dr. Paula Roberts, Llanberis ac mae Dwynwen Pennant wedi cytuno i ddarparu'r ddarlith yn Eisteddfod y Garreg Las yn 2026. 

- _Y Cyngor Mynydda Prydeinig (BMC)_ - Mae pob aelod o’r Clwb yn aelod o’r BMC. 

4 



## 3. Teithiau preswyl 

Trefnwyd 3 taith breswyl yn ystod y flwyddyn. 

- Taith aeaf i Crianlarich. Roedd 17 o aelodau ar y daith yma yn heulwen yr Alban. 

- Taith haf i'r Cairngorms. Mwynhaodd 19 o aelodau dywydd hafaidd yn ystod mis Mai. 

- Taith i Fannau Brycheiniog. Aeth criw o'r gogledd i lawr i'r Bannau a chawsant gwmni croesawgar criw'r de ar eu teithiau mynydda. 

Cynhelir taith i Crianlarich ar 7-14 Mawrth 2026 a thaith i Ullapool ym mis Mai 2026. 

Diolch yn fawr i Keith Roberts am drefnu'r teithiau hyn. 

## **Cyfathrebu a chysylltu** 

## 1. Gwefan 

Cyhoeddir y rhaglen gweithgareddau a hanesion am bob gweithgaredd, ynghyd â Newyddion, ar ein gwefan. Wrth dagio @Clwb Mynydda Cymru pan yn negesu ar y gwefannau cymdeithasol, dilyn ein cyfrif Gweplyfr/Facebook a hoffi a/neu rannu’r hanesion ag eraill mae gweithgareddau’r clwb yn cael hysbysrwydd rhad am ddim. 

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un eithaf prysur a chofnodwyd hanesion bron i 60 o deithiau a gweithgareddau ar y wefan – ynghyd â’r lluniau cyferbyniol ar Flickr. Bu’r wefan a’r cyfrif Gweplyfr/Facebook cysylltiedig yn ddefnyddiol i gysylltu ag aelodau ac i ddarganfod aelodau newydd. Bu hefyd yn ddefnyddiol pan oedd angen diweddaru’r Rhaglen – weithiau ar y funud olaf, am pa reswm bynnag! 

Mae’r wefan yn gydnaws â ffonau clyfar a llechi iOS ac Android yn ogystal â phob math o gyfrifiaduron. Mae’r ‘ap’ ar gyfer ffonau clyfar a phadiau iOS ac Android, ar gael drwy ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar y wefan [http://www.clwbmynyddacymru.com/Cysylltu.html] ac yn boblogaidd fel dull hawdd o gyrchu gwybodaeth o’r wefan. Dim ond drwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn y gellir gosod yr ‘ap’, ni ellir cael hwn drwy adnoddau fel Playstore ayyb. 

Diolch i bawb wnaeth ddanfon adroddiadau am hanes y teithiau gyda lluniau gwych. Mae tudalen Newyddion ar y wefan hefyd a chroeso i bawb ddanfon manylion neu hanes o unrhyw beth all fod o ddiddordeb i’r aelodau at Ysgrifennydd y Wefan. Adroddwyd am nifer o faterion yno yn ystod y flwyddyn. 

Ers Tachwedd 2024, defnyddiwyd y wefan bron i 4 mil o weithiau (266 o ddefnyddwyr rheolaidd o’r DG, 1 o Sbaen, 1 o Wlad Groeg ac 1 o Nepal). Bu’r defnydd yn weddol gyson drwy’r flwyddyn. 

5 



## 2. Y Gweplyfr / Facebook 

Yn ystod y flwyddyn cafwyd dros 170,000 o ymweliadau â’r dudalen. Y diwrnod prysuraf oedd 9 Mehefin, gyda dros 4,000 o ymweliadau! 

## 3. Flickr 

Bellach, mae 14,289 o luniau a dynnwyd ar ein teithiau ers 2005, i gyd ar gael drwy’r wefan ar lwyfan Flickr, pob taith gyda’i albwm ei hunan. Gall aelodau lawrlwytho unrhyw un o rhain ar gyfer defnydd personol. Hyd yma cafwyd 929,382 o ymweliadau â’n safle. 

Diolch hefyd i’r rhai sy’n gofalu am gyhoeddi gwybodaeth ar X ac Instagram. 

Mae’r wefan yn gofnod allweddol o weithgareddau’r clwb dros y blynyddoedd. Daliwch ati i gefnogi ein gwefan a’r tudalennau gwefannau cymdeithasol. Mae’n bwysig lledaenu’r wybodaeth am weithgareddau’r clwb yn y dulliau hyn, gan mai dyma’r unig ffordd y daw cymaint ag sy’n bosib o bobl i wybod am yr hyn sy’n cael ei ddarparu ac yn ffordd da i ddenu aelodau newydd. 

## **Cyllid** 

Mae Datganiad o’r Cyfrifon am 2024/25, sy’n crynhoi holl incwm a gwariant y Clwb ac yn dangos faint o arian sydd mewn llaw ar ddiwedd y flwyddyn, ar gael ar y wefan. 

## 1. Aelodaeth 

‘Roedd gan y Clwb 275 o aelodau yn talu £25 y pen o dâl aelodaeth yn ystod y flwyddyn. Daeth hyn ag incwm o £6,880 (gydag un aelod wedi gordalu o £5). Yn ogystal ‘roedd yna nifer o “garedigion”. Unigolion ydi’r rhain sydd wedi bod yn aelodau yn y gorffennol ond heb gynyddu (na dileu) eu harchebion banc ac o’r herwydd sydd ddim mwyach yn gymwys i’w hystyried yn aelodau o’r Clwb. O’r rhain ‘roedd 21 yn talu £20, 21 yn talu £15 a 6 yn talu symiau llai gan roi cyfanswm incwm o £788. 

Mae’r Clwb yn perthyn i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP), sy’n darparu yswiriant ar gyfer y gweithgareddau. ‘Roedd cost ymaelodi â’r CMP yn £29.33 y pen (gyda rhywfaint o ostyngiad yn ystod ail hanner y flwyddyn). Mae hyn yn gynnydd o 23% ar y flwyddyn flaenorol. Cyfanswm y taliad i’r CMP oedd £8007.10. 

## 2. Cinio blynyddol 

Derbyniwyd £990 at ginio blynyddol 2024 yn yr Oakeley Arms, Maentwrog a thalwyd £1,116.25. Gan fod rhywfaint o daliadau am y cinio wedi dod i law a blaendal wedi ei dalu, yn y flwyddyn ariannol flaenorol, gwir gost y cinio i’r clwb oedd £73.75. Mae hyn yn cynrychioli rhan o gost llogi ystafelloedd i aelodau newid ynddynt ar ôl taith. 

6 



## 3. Teithiau 

Talwyd am ddwy daith breswyl yn ystod y flwyddyn - i Grianlarich mis Mawrth ac i Aviemore mis Mai. ‘Roedd cyfanswm y derbyniadau ar gyfer y teithiau yn £14,175 a’r gwariant yn £13,596.53. Diolch i drefnydd y teithiau am sicrhau nad ydynt yn gwneud colled. 

## 4. Incwm arall 

Yr unig incwm arall oedd llog banc o £131.21 

## 5. Gwariant arall 

‘Roedd y gwariant yn cynnwys y costau rhedeg arferol yn ymwneud â bancio, gweinyddiaeth, y wefan, y ddarlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac aelodaeth o’r Bartneriaeth Awyr Agored.  Hefyd gwnaed taliad o £360 allan o Gronfa Goffa Gareth Pierce am benwythnos i bobl ifanc yng Nglan Llyn. Mae hyn yn dod â’r gronfa i ben. Bu raid gwario ar fatri a phadiau newydd i'r ddau ddiffibrilydd; bydd y gwariant yma yn digwydd bob rhyw 3 blynedd. Daeth cyfanswm y gwariant am y flwyddyn i £1,683.56. 

## 6. Cronfeydd 

Ar ddiwedd y flwyddyn ‘roedd gan y Clwb £5,738.26 yn y coffrau. Fel a ragwelwyd yn adroddiad y llynedd mae hyn ostyngiad sylweddol ar y flwyddyn flaenorol o ganlyniad i benderfyniad y CMP i gynyddu’r ffi aelodaeth, ond mae’r sefyllfa’n parhau’n foddhaol. 

Mae’r Clwb angen cadw arian wrth gefn yn y gronfa gyffredinol er mwyn sicrhau llif arian digonol (gan fod rhaid weithiau talu ymlaen llaw am lety ar deithiau preswyl cyn casglu arian gan y rhai sy’n mynychu) ac hefyd er mwyn gwarchod yn erbyn gwariant annisgwyl. Credir fod swm o £5,000 yn ddigonol ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Gan bod angen i’r arian fod ar gael ar fyr rybudd mae’n cael ei gadw mewn cyfrif cadw yn y banc yn hytrach na’i fuddsoddi am dymor hirach. 

Elen Huws Cadeirydd 

(ar ran yr ymddiriedolwyr) 

Dyddiad: 15/11/25 

7 



## **CLWB MYNYDDA CYMRU - adroddiad ariannol 2024/25** 

_(Elusen gofrestredig rhif 1190243_ ) 

||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|||||_(2023/24)_||||||_(2023/24)_|
|**Derbyniadau**||£|£||**Taliadau**||£||£||
|Aelodaeth:|Aelodau|6,880.00|||Aelodaeth:||||||
||Caredigion|788.00|||||||||
||||7,668.00|<br>_7,530.00_||Cyngor Mynydda Prydeinig|||8,007.10|_6,225.95_|
|Cinio blynyddol 2024|||990.00|_705.00_|Cinio blynyddol|2024|||1,116.25|_1,197.50_|
|Teithiau:|||||Teithiau:||||||
||Crianlarich|8,575.50||||Crianlarich||8,329.00|||
||Aviemore|5,600.00||||Aviemore||5,267.53|||
||||14,175.50|_18,723.00_|||||13,596.53|_20,657.00_|
|Incwm arall:|Llog banc||131.21|_612.36_|Gwariant arall:|Costau banc||50.40|||
||_Rhoddion_|||_30.00_||Gweinyddol||334.33|||
|||||||Gwefan||318.35|||
|||||||Eisteddfod 2025 (darlith)||100.00|||
|||||||Partneriaeth Awyr Agored||150.00|||
|||||||Penwythnos coffa Gareth|||||
|||||||Pierce||360.00|||
|||||||Cynnal y diffibrilyddion||370.48|||
||||||||||1,683.56|_1,356.16_|
|Mewn llaw 1 Hydref 2024:|||||Mewn llaw 30 Medi 2025:||||||
||Cyfrif cyfredol|433.42||||Cyfrif cyfredol||363.48|||
||Cyfrif cadw|6,743.57||||Cyfrif cadw||5,374.78|||
||||7,176.99|_9,463.24_|||||5,738.26|<br>_7,176.99_|
||||30,141.70|_36.613.60_|||||30,141.70|_36,613.60_|
|Dilys Phillips|||||George Jones||||||
|Trysorydd|27/10/25||||Archwiliwr|27/10/25|||||



