## **Clwb Mynydda Cymru**

_Elusen gofrestredig rhif 1190243_

**Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2022 - 2023**

## **Cyfansoddiad ac Amcan**

Mae Clwb Mynydda Cymru wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcan ydi hyrwyddo chwaraeon amatur, sef mynydda, yng Nghymru er budd y cyhoedd, yn arbennig ond nid yn unig trwy ddarparu cyfleon ar gyfer mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg.

## **Ymddiriedolwyr**

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd:

Stephen Williams – Cadeirydd Elen Huws – Is-gadeirydd Richard Roberts – Ysgrifennydd Gweithgareddau Iolo ap Gwynn – Ysgrifennydd y Wefan Iolo Roberts – Ysgrifennydd Cyffredinol Dilys Phillips – Trysorydd Gethin Rowlands– aelod o’r pwyllgor Ariannell Parry –  aelod o’r pwyllgor Dewi Hughes – aelod o’r pwyllgor Raymond Griffiths – aelod o’r pwyllgor Dwynwen Pennant – aelod o’r pwyllgor Sioned Ll Jones – aelod o’r pwyllgor Keith Roberts – aelod o’r pwyllgor

## **Llywodraethu**

Yr ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Pwyllgor sy’n rheoli gweithgareddau’r Clwb.

Cynhaliwyd tri chyfarfod arferol o’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn sef yn mis Ionawr, Mai a Medi ac fe gynhaliwyd un cyfarfod brys ym mis Hydref, i gyd drwy gyfrwng Zoom. Mae’r drefn o ddefnyddio Zoom i gynnal ein cyfarfodydd yn gweithio’n dda ac mae’n caniatáu i aelodau sy’n byw ym mhob rhan o Gymru ymuno ȃ’r cyfarfodydd yn eitha rhwydd.

Gan mai un o brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw cadw llygaid ar faterion ariannol y Clwb, ceir diweddariad gan y Trysorydd ym mhob cyfarfod. Roedd gan y Clwb swm

1

o £881.41 yn ei goffrau a dderbyniwyd fel rhodd er cof am Gareth Pierce gan ei deulu. Cytunodd y Pwyllgor eleni y gellid defnyddio’r arian yma i gefnogi’r Urdd i drefnu cwrs penwythnos o fynydda a gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nglan Llyn ar 22-24 Medi 2023, math o weithgaredd a fyddai wedi bod yn agos at galon Gareth.

Yn y Cyfarfod Blynyddol y llynedd cafwyd nifer o awgrymiadau gan aelodau sef:

- cynnal y Cyfarfod a Chinio Blynyddol ar noson yn ystod yr wythnos e.e nos Wener heb gael taith yn gysylltiedig ȃ’r digwyddiad

- cynnal y Cyfarfod Blynyddol mewn safle yn y Canolbarth gyda’r gobaith y gellid denu aelodau o’r de a’r gogledd iddo

- gyrru neges i atgoffa aelodau i gofrestru eu ffonau symudol gyda rhif argyfwng 999 fyddai yn cynorthwyo i gysylltu ȃ’r gwasanaethau brys mewn argyfwng

Fe ystyriwyd y materion hyn gan y Pwyllgor ac fe gytunwyd ar y canlynol :

- i. bod y pwyllgor yn ffafrio parhau i gynnal y Cyfarfod a Chinio Blynyddol ar ddydd Sadwrn gyda thaith yn ystod y dydd yn gysylltiedig a dylid sicrhau fod y daith yn lleol ac yn addas o safbwynt amser

- ii. bod peryg, o gofio bod canran helaeth o aelodau’r Clwb yn byw yng Ngogledd Cymru, y gallai symud y Cyfarfod Blynyddol i leoliad yng Nghanolbarth Cymru olygu na fyddai canran sylweddol yn mynychu gan nad oes digon o aelodau yn byw yn y de i wneud fyny am y diffyg yma. Fodd bynnag, gellid ystyried cynnal y Cyfarfod Blynyddol yn rhan ddeheuol Gogledd Cymru megis ardal Dolgellau a allai fod rhywfaint yn fwy cyfleus i aelodau’r de.

- iii. gofyn i’r Ysgrifennydd Gweithgareddau gynnwys neges am gofrestru ffonau symudol gyda rhif argyfwng 999 yn un o’i negeseuon e-bost i’r aelodau.

Ym mis Ionawr fe groesawyd Richard i’w gyfarfod cyntaf fel ein Ysgrifennydd Gweithgareddau newydd ac mae wedi bod yn brysur iawn yn ystod y flwyddyn, nid yn unig yn trefnu’r rhaglen ond ar gais y Pwyllgor fe gyflwynodd drefn newydd o raddio teithiau a fydd, gobeithir, yn gwneud natur y teithiau yn gliriach yn enwedig i aelodau newydd.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cytuno i barhau â’i aelodaeth o’r Bartneriaeth Awyr Agored. Gyda’u cymorth mae nifer o aelodau’r Clwb wedi penderfynu gwneud y cwrs Arweinydd Mynydd (Haf) ac wedi dechrau ar eu hyfforddiant. Roedd y Pwyllgor o’r farn ei bod yn bwysig rhoi cefnogaeth i aelodau wella eu sgiliau arwain a fydd yn sicr o fudd i weithgareddau’r Clwb.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni ac roedd Dwynwen wedi trefnu i Catrin Meurig draddodi Darlith Goffa Llew Gwent ar rai o’i hanturiaethau mewn rasys rhedeg heriol iawn y bu’n cystadlu ynddynt. Hefyd fe gynhaliwyd Taith Goffa Gareth Pierce gan y Clwb yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda 26 yn ymuno ȃ thaith ar yr Eifl (yn y niwl!!) ar y 9fed o Awst dan arweiniad Iolo Roberts.

2

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ym mis Hydref er mwyn ystyried canllawiau’r Clwb ar gyfer teithiau preswyl mewn perthynas â’r ymweliad ȃ Crianlarich yn Chwefror 2024. Gan mai arhosiad mewn gwesty oedd dan sylw fe gytunwyd byddai ychwanegu £2 y pen y noson i gost y daith yn ddigonol er mwyn sicrhau fod arian wrth gefn i warchod y Clwb rhag ofn y byddai’r daith yn gwneud colledion.

Mae cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a rhai’r Cyfarfodydd Blynyddol i’w gweld ar wefan y Clwb, gweler y ddolen isod: http://www.clwbmynyddacymru.com/Dogfennau.htm

## **Recriwtio ymddiriedolwyr**

Y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor ac felly’n penodi’r ymddiriedolwyr. Yn ôl y cyfansoddiad mae traean o aelodau’r Pwyllgor (yr ymddiriedolwyr) yn ymddeol yn flynyddol, sef 4 aelod, er bod hawl i unrhyw un ohonynt gael ei ail-benodi. Y rhai sydd i ymddeol yw’r rhai sydd wedi bod yn eu swydd hiraf. Mae’n agored i unrhyw aelod gynnig i wasanaethu ar y Pwyllgor drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyn y Cyfarfod Blynyddol.

Yng nghyfarfod blynyddol 2022 rhoddodd Eryl Owain a Iona Evans y gorau i fod yn ymddiriedolwyr. Diolchwyd yn gynnes iddynt am eu gwasanaeth; yn achos Eryl cafwyd cyfle i gydnabod ei waith clodwiw fel Ysgrifennydd Gweithgareddau dros gyfnod o 10 mlynedd.

Rhoddwyd croeso i ddau ymddiriedolwr newydd i gymryd eu lle sef Gethin Rowlands ac Ariannell Parry.

## **Gweithgareddau**

Ers dechrau’r flwyddyn, trefnwyd 55 o deithiau ar benwythnosau a 12 ar ddyddiau Mercher. Diolch arbennig i’r wyth aelod sydd wedi arwain taith am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn argoeli’n ardderchog o ran dyfodol y Clwb.

Trefnwyd taith flasu – Moel Siabod – ddechrau mis Mai ac fe ysbrydolwyd rhai o’r ‘blaswyr’ i ymaelodi. Mae un ohonyn nhw eisoes wedi arwain taith i’r Clwb!

Ers dechrau mis Medi, mae teithiau’r clwb yn cael eu graddio yn unol â lefel eu her. Mae hyn yn helpu darpar-gerddwyr benderfynu p’un ag ydyn nhw am ymuno â thaith ai peidio.

Trefnwyd dwy daith breswyl i’r Alban.

• Taith aeaf i Crianlarich. Ym mis Chwefror, bu 20 o aelodau yn dringo nifer helaeth o gopaon rhwng ardal Glen Lyon yn y dwyrain a Glencoe yn y gorllewin.

• Taith haf i Roy Bridge. Mwynhaodd 11 o aelodau dywydd hafaidd dros ben ddiwedd mis Mai a llwyddwyd i esgyn nifer helaeth o gopaon.

3

Diolch yn fawr iawn i Gareth Everett Roberts (Crianlarich) a Keith Roberts (Roy Bridge) am drefnu’r ddwy daith ac i Anna George am lunio adroddiadau ardderchog sy’n croniclo’u llwyddiant.

Cynhelir taith arall i Crianlarich ar 17-24 Chwefror 2024 a thaith i Hawes, Parc Cenedlaethol y Yorkshire Dales ar 6-10 Mai.

Treuliodd deg o aelodau’r Clwb chwe niwrnod yn derbyn hyfforddiant a oedd yn cynnwys noson stormus a gwlyb o fordwyo a gwersylla! Byddan nhw’n treulio cyfnod arall o asesiad ar y mynyddoedd maes o law. Trefnir y cyrsiau ardderchog hyn mewn cydweithrediad â’r Bartneriaeth Awyr Agored.

## **Cyfathrebu a chysylltu**

Bu’r flwyddyn ers Tachwedd 2022 yn un eithaf prysur a chofnodwyd hanesion 48 o deithiau a gweithgareddau ar y wefan – ynghyd â’r lluniau cyferbyniol ar Flickr. Bu’r wefan a’r cyfrif Gweplyfr/Facebook yn ddefnyddiol i gysylltu ag aelodau ac i ddarganfod aelodau newydd. Bu hefyd yn ddefnyddiol pan oedd angen diweddaru’r Rhaglen – weithiau ar y funud olaf! Mae’r wefan yn dal yn gydnaws â ffonau clyfar a llechi iOS ac Android yn ogystal â porwyr ar bob math o gyfrifiaduron. Mae’r ‘ap’ ar gyfer ffonau clyfar a phadiau iOS ac Android, a luniwyd gan Rhys Jones, yn dal ar gael (drwy ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar y wefan) ac yn boblogaidd fel dull hawdd o gyrchu gwybodaeth o’r wefan ble bynnag yr ydych (wel, bron iawn!).

Diolch i bawb wnaeth ddanfon adroddiadau am hanes y teithiau gyda lluniau gwych. Cofiwch fod tudalen Newyddion ar y wefan hefyd ac fod croeso i bawb ddanfon manylion neu hanes o unrhyw beth all fod o ddiddordeb i’r aelodau.

Cofnodir manylion defnydd pob rhan o wefan y Clwb gan Google Analytics. Golyga hyn fod gennym wybodaeth hynod o gyflawn o sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio, gyda dadansoddiad manwl o natur y defnyddwyr (ond dim manylion personol ar gael) gan gynnwys yr offer a ddefnyddir.

Ers Tachwedd 2022, defnyddiwyd y wefan dros 15k o weithiau gan tua 4.5k o ddefnyddwyr (y rhan fwyaf o’r DG a nifer o’r UDA a rhai o wledydd eraill). Nid oes gwybodaeth at gael parthed rhywedd bellach! Bu’r defnydd yn weddol gyson drwy’r flwyddyn ac yn pegynnu pryd roedd gweithgaredd gan y Clwb. Defnyddiwyd pob math o offer ar gyfer yr ymweliadau. Tua’r un nifer o gyfrifiaduron yn defnyddio Windows a rhai Mac. Tua 62 % yn defnyddio cyfrifiaduron symudol, 30 % ar gyfrifiaduron pen-desg a’r gweddill ar tabledi/llechi.

Bellach mae ganddom 1,108 o ddilynwyr cyson ar ein tudalen Gweplyfr/Facebook. Mae’r dadansoddiad yn dangos fod 53.70% o’r dilynwyr yn ferched a 46.30% yn ddynion gyda’r mwyafrif yn yr oedran 45-54, gyda’r oedran 35-44 yn ail agos.

Bellach hefyd, mae tua 10,907 o luniau a dynnwyd ar ein teithiau ers 2005 gan aelodau’r clwb, i gyd ar gael drwy’r wefan ar lwyfan Flickr. Gall aelodau lawrlwytho unrhyw un o rhain ar gyfer defnydd personol.

4

Mae ein cyfrifon Gweplyfr/Facebook, X (Trydar Twitter) ag Instagram yn dal yn weithgar, i gyd yn cyd-lynu efo’r wefan. Diolch hefyd i’r rhai sy’n gofalu am gyhoeddi gwybodaeth ar X ac Instagram. Cyhoeddir y rhaglen gweithgareddau a hanesion am bob gweithgaredd, ynghyd â Newyddion, ar ein gwefan. Cofiwch dagio @Clwb Mynydda Cymru pan yn negesu ar y gwefannau cymdeithasol. Cofiwch hefyd nodi eich bod am ddilyn ein cyfrif Gweplyfr/Facebook a hoffi a/neu rannu’r hanesion ag eraill.

Cofiwch lawr lwytho’r ‘ap’ ar gyfer iOS neu Android, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â gwefan y clwb – cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny ar gael ar y wefan [http://www.clwbmynyddacymru.com/Cysylltu.html].

Os oes gan unrhyw aelod sydd â phrofiad o luniadu/cynnal gwefannau (defnyddir meddalwedd Adobe Dreamweaver i olygu’r wefan) ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda’r gwaith byddai’r Ysgrifennydd Gwefan yn ddiolchgar o glywed ganddo/i.

Mae’r wefan yn gofnod pwysig o weithgareddau’r clwb dros y blynyddoedd. Daliwch ati i gefnogi ein gwefan a’r tudalennau gwefannau cymdeithasol. Mae’n bwysig lledaenu’r wybodaeth am weithgareddau’r clwb yn y dulliau hyn, gan mai dyma’r unig ffordd y daw cymaint ag sy’n bosib o bobl i wybod am yr hyn sy’n cael ei ddarparu.

## **Cyllid**

Mae sefyllfa ariannol y Clwb yn gadarn gan fod y tâl aelodaeth wedi cynyddu i £25 y pen o Ionawr 2023 ymlaen. Mae hyn yn ddigonol i gwrdd â’r cynnydd yn nhâl aelodaeth y Clwb i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP) sydd bellach yn  cynyddu eu ffioedd i aelodau clybiau yn unol â chwyddiant yn flynyddol. Gobaith y Pwyllgor yw y gellir cadw’r tâl aelodaeth yn £25 cyhyd â phosibl.

Y prif ffynhonnell incwm ydi’r tanysgrifiadau. Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd £25 o dâl aelodaeth gan 259 aelod ynghyd ag £20 o daliad hwyr ar gyfer 2022. Yn ogystal cafwyd taliadau o £1195 gan rai oedd heb gynyddu eu harcheb banc i £25 ac sydd felly ddim yn gymwys i dderbyn aelodaeth o’r Clwb. Mae rhain yn cynnwys 34 yn talu £20, 30 yn talu £15 a 7 yn talu symiau llai na hynny.

Roedd y taliad i’r Cyngor Mynydda Prydeinig yn £22.25  yr aelod.

Cafwyd derbyniadau o £1252 ar gyfer cinio blynyddol 2022 a thaliadau o £1290 gan arwain at golled bach o £38. Derbyniwyd £490 at ginio blynyddol 2023; bydd y taliad yn ei erbyn i’w weld yng nghyfrifon 2023-24.

Derbyniwyd £2120 at daith Roybridge ym mis Mai a thalwyd £2127 (sef colled bach o £7). Daeth rhai blaendaliadau am daith Crianlarich yn Chwefror 2024 i law cyn i’r cyfrifon gau; bydd y taliad yn eu herbyn i’w weld yng nghyfrifon 2023-24.

Cafwyd llog o £48.78 (cyfrif cadw) a rhoddion gan (gyn)aelodau o £70.

Daeth costau rhedeg y Clwb (costau banc, gweinyddol a gwefan) i £736.81 am y flwyddyn. Ar ben hynny talwyd £150 i ymuno â’r Bartneriaeth Awyr Agored a £100 am logi pabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod.

5

## **Cronfeydd**

Mae gan y Clwb £9463.24 yn y banc. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Goffa Gareth Pierce (£881.41), blaendaliadau am ginio blynyddol 2023 a thaith Crianlarich (£3500) a chronfa gyffredinol o £5081.83. Mae’r gronfa gyffredinol wedi cynyddu o’r hyn oedd flwyddyn yn ôl oherwydd y codiad yn y tâl aelodaeth a’r cynnydd canlynol yn nifer y caredigion.

Mae’r Clwb yn cadw arian wrth gefn yn y gronfa gyffredinol er mwyn sicrhau llif arian digonol (gan fod rhaid weithiau talu ymlaen llaw am lety ar deithiau preswyl cyn casglu arian gan y rhai sy’n mynychu) ac hefyd i warchod yn erbyn gwariant annisgwyl.

Stephen Williams Cadeirydd

(ar ran yr ymddiriedolwyr)

Dyddiad: 11/11/23

6

## **CLWB MYNYDDA CYMRU - adroddiad ariannol 2022/23**

|_(Elusen gofrestredig rhif 1190243_)
**Derbyniadau**

Aelodaeth:
Aelodau
6,495.00
Caredigion
1,195.00

Cinio blynyddol 2022

Cinio blynyddol 2023 (taliadau ymlaen llaw)
Teithiau:
Roybridge

Crianlarich -blaendaliadau
Incwm arall:
Llog banc

Rhoddion

Mewn llaw 1 Hydref 2022:
Cyfrif cyfredol
860.99
Cyfrif cadw
4,032.43

Dilys Phillips
Trysorydd
16/10/2023|_(2021/22)_

**Taliadau**

_5,740.00_Aelodaeth:

_620.00_
7,690.00_6,360.00_
Cyngor Mynydda Prydeinig
1,252.00_971.00_Cinio blynyddol 2022

490.00
2,120.00
_91.00_Teithiau:
Roybridge

3,010.00
48.78
_1.73_Gwariant arall:
Costau banc
60.80
70.00
Gweinyddol
377.87
Gwefan
298.14
Eisteddfod 2023 (darlith)
100.00
Partneriaeth Awyr Agored
150.00
_Prynu diffibriliwr_
_Timau achub_
_Cwrs cymorth cyntaf_

Mewn llaw 30 Medi 2023:

Cyfrif cyfredol
3,882.03

Cyfrif cadw
5,581.21
4,893.42_7,603.41_

19,574.20_15,062.29_

George Jones
Archwiliwr
16/10/2023|_(2021/22)_

5,707.15_5,719.00_
1,290.00_1,240.00_
2,127.00
_91.00_

_52.08_

_192.00_

_226.79_

_150.00_
_1,878.00_
_500.00_
_120.00_
986.81_3,118.87_

9,463.24_4,893.42_
19,574.20_15,062.29_|