## **Clwb Mynydda Cymru**

_Elusen gofrestredig rhif 1190243_

**Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2021 - 2022**

## **Cyfansoddiad ac Amcan**

Mae Clwb Mynydda Cymru wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcan ydi hyrwyddo chwaraeon amatur, sef mynydda, yng Nghymru er budd y cyhoedd, yn arbennig ond nid yn unig trwy ddarparu cyfleon ar gyfer mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg.

## **Ymddiriedolwyr**

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd:

Dwynwen Pennant – Cadeirydd Stephen Williams – Is-gadeirydd Eryl Owain – Ysgrifennydd Gweithgareddau Iolo ap Gwynn – Ysgrifennydd y Wefan Iolo Roberts – Ysgrifennydd Cyffredinol Dilys Phillips – Trysorydd Richard Roberts – Trysorydd Cynorthwyol Iona Evans –  aelod o’r pwyllgor Dewi Hughes – aelod o’r pwyllgor Raymond Griffiths – aelod o’r pwyllgor Elen Huws – aelod o’r pwyllgor Sioned Ll Jones – aelod o’r pwyllgor Keith Roberts – aelod o’r pwyllgor

## **Llywodraethu**

Yr ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Pwyllgor sy’n rheoli gweithgareddau’r Clwb.

Cynhaliwyd tri chyfarfod arferol o’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn sef yn mis Ionawr, Mai a Medi ac fel y llynedd fe’u cynhaliwyd i gyd drwy gyfrwng Zoom. Mae’r drefn o ddefnyddio Zoom i gynnal y cyfarfodydd yn gweithio’n dda ac mae’n caniatáu i aelodau sy’n byw ym mhob rhan o Gymru ymuno â’r cyfarfodydd yn eitha rhwydd.

Yn amlwg un o brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw cadw llygaid ar faterion ariannol y Clwb ac mae’n derbyn diweddariad gan y Trysorydd ym mhob cyfarfod. Ym mis Mai ystyriwyd y posibilrwydd o newid cyfrif Banc y Clwb o HSBC i fanc arall yn deillio o

1

benderfyniad y banc hwnnw i ddechrau codi tâl am drafodion. Ar ôl ystyried y mater penderfyniad y Pwyllgor oedd y dylid aros efo HSBC.

Hefyd fe ystyriwyd os y gellid derbyn taliadau i gyfrif banc y Clwb trwy ddebyd uniongyrchol a fyddai’n gwneud y trefniadau gweinyddol yn fwy rhwydd. Wedi i‘r Trysorydd ymchwilio i hyn fe welwyd y byddai’n rhaid defnyddio asiant i weithredu’r drefn ar ein rhan. Cafodd wybodaeth am nifer o gwmnïau ond nid oedd unrhyw un yn cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Penderfyniad y Pwyllgor felly oedd y byddai i’r Clwb weithredu unrhyw drefn o ddefnyddio debyd uniongyrchol drwy gyfrwng y Saesneg yn groes i egwyddorion sylfaenol y Clwb ac na fyddai gwneud hynny yn dderbyniol.

Ym mis Mai ymunodd Sian Williams, Swyddog Gwirfoddoli y Bartneriaeth Awyr Agored ȃ chyfarfod y Pwyllgor i roi cyflwyniad byr i’r aelodau am newidiadau yn y ffordd y bydd y Bartneriaeth yn gweithredu yn y dyfodol. Cafwyd gwybod y bydd angen i glybiau dalu tâl aelodaeth o £150 y flwyddyn os am geisio am gefnogaeth ariannol i’w haelodau fynychu unrhyw gyrsiau drwy’r Bartneriaeth ac mai £500 fyddai’r uchafswm ar gael yn flynyddol fel cymorth i aelodau unrhyw glwb. Cytunwyd fod budd i aelodau’r Clwb fynychu cyrsiau ar gael drwy’r Bartneriaeth ac y dylid ymaelodi a lledaenu’r wybodaeth ymysg yr aelodau fod y cymorth i fynychu cyrsiau ar gael.

Cedwir cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor a rhai’r Cyfarfodydd Blynyddol ac maent i’w gweld ar wefan y Clwb trwy ddilyn y ddolen - http://www.clwbmynyddacymru.com/Dogfennau.htm

## **Recriwtio ymddiriedolwyr**

Y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor ac felly’n penodi’r ymddiriedolwyr. Yn ôl y cyfansoddiad mae traean o aelodau’r Pwyllgor (yr ymddiriedolwyr) yn ymddeol yn flynyddol, sef 4 aelod, er bod hawl i unrhyw un ohonynt gael ei ail-benodi. Y rhai sydd i ymddeol yw’r rhai sydd wedi bod yn eu swydd hiraf. Mae’n agored i unrhyw aelod gynnig i wasanaethu ar y Pwyllgor drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyn y Cyfarfod Blynyddol.

Bydd dau newid sylfaenol pellach yn digwydd i aelodaeth y Pwyllgor a rhediad y Clwb yn y Cyfarfod Blynyddol eleni. Yn gyntaf bydd cyfnod Dwynwen fel Cadeirydd yn dod i ben a mawr yw’r diolch iddi am ein harwain dros y ddwy flynedd diwethaf ar gyfnodau a oedd ar rai adegau yn anodd iawn. Bydd Steve yn cymryd y gadair yn y Cyfarfod Blynyddol. Yn sicr byddwn mewn dwylo cadarn gyda Steve yn ein harwain dros y ddwy flynedd nesaf.

Gyda Steve yn cymryd y gadair mae swydd yr Is-gadeirydd yn wag. Mae Elen Huws, sydd wedi bod yn aelod ffyddlon o’r Clwb ers nifer o flynyddoedd (ac wedi llwyddo i gwblhau‘r Munros eleni), wedi cytuno i’w henw gael ei roi ymlaen i’r Cyfarfod. Heb os, bydd pawb yn gytûn bod Elen yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y swydd yma.

Hefyd, yn y Cyfarfod Blynyddol yn 2021, mynegodd Eryl ei fwriad i roi’r gorau i’w swydd fel Ysgrifennydd Gweithgareddau wedi deng mlynedd o drefnu. Diau fod yr aelodau i gyd yn gwerthfawrogi ‘r holl waith caled mae Eryl wedi ei wneud dros y

2

blynyddoedd a’i e-byst rheolaidd yn atgoffa pawb o’r teithiau yn ddefnyddiol tu hwnt. Bydd colled ar ei ôl. Fodd bynnag rhaid parchu ei benderfyniad a gwnaed apêl ymysg yr aelodau am olynydd.

Mae Richard Roberts wedi datgan ei fod yn fodlon i’w enw gael ei roi gerbron y Cyfarfod Blynyddol i gymryd yr awenau a diolch y fawr iddo am gytuno i wneud hynny. Mae’n sicr y bydd Richard yn olynydd teilwng i Eryl.

## **Gweithgareddau**

Cynhaliwyd o leiaf 61 o deithiau ers Cyfarfod Blynyddol 2021; 11 ohonynt yn y de a 12 o deithiau dydd Mercher.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Nhregaron, y gyntaf ers y clo. Roedd Dwynwen wedi trefnu i Garadog Jones roi Darlith Goffa Llew Gwent ar gyfer Eisteddfod 2020 ac felly wedi hir ddisgwyl llwyddwyd i’w chynnal eleni. Teitl y ddarlith oedd “Elfen am Antur” ac roedd yn hynod o lwyddiannus gyda Phabell y Cymdeithasau yn orlawn ar ei chyfer.

Daeth 46 ar daith yr Eisteddfod o Ystrad Fflur i Lynnoedd Teifi a llawer yn troedio’r tir yma am y tro cyntaf ac yn cael profi cymaint sydd gan Gymru i’w gynnig y tu hwnt i’r mynyddoedd adnabyddus. Penderfynwyd dynodi taith flynyddol wythnos y brifwyl yn Daith Goffa Gareth Pierce.

Trefnwyd penwythnos o hyfforddiant gan yr Urdd yng Nglan-llyn ddiwedd Medi i 11 o bobl ifanc yn eu harddegau canol o bob cwr o Gymru gan ddefnyddio rhan o’r arian a gyfrannwyd er cof am Gareth Pierce. Bu’n llwyddiant ac mae bwriad i drefnu hyfforddiant tebyg yn y dyfodol.

Trefnwyd dau ymweliad â’r Alban, i Crianlarich ym mis Chwefror ac i Drumnadrochit ger Inverness ym mis Mai. Diolch i Gareth Everett Roberts am drefnu’r rheiny. Gan fod y Crianlarich Hotel yn cynnig llety mor gysurus a bod y pentref yn ganolfan mor hwylus, penderfynwyd dychwelyd yno am y trydydd tro fis Chwefror nesaf.

Calonogol iawn ydi nodi bod cynnydd sylweddol yn nifer yr aelodau iau sydd wedi ymaelodi a cherdded yn rheolaidd, a’r rhai hynny’n fynyddwyr a mynyddwragedd o’r iawn ryw. Mae dyfodol y clwb yn ddiogel!

## **Cyfathrebu a chysylltu**

Bu’r flwyddyn ers Tachwedd 2021 yn un eithaf prysur i’r Clwb a chofnodwyd hanesion tua 66 o deithiau a gweithgareddau ar y wefan. Bu’r wefan a’r cyfrif Gweplyfr/Facebook yn ddefnyddiol i gysylltu ag aelodau ac i ddarganfod aelodau newydd. Bu hefyd yn ddefnyddiol pan oedd angen diweddaru’r Rhaglen – weithiau ar y funud olaf. Mae’r wefan yn dal yn gydnaws â ffonau clyfar a llechi iOS ac Android yn ogystal â phorwyr ar bob math o gyfrifiaduron. Mae’r ‘ap’ ar gyfer ffonau clyfar a phadiau iOS ac Android, a luniwyd gan Rhys Jones, yn dal yn boblogaidd fel dull hawdd o gyrchu gwybodaeth o’r wefan.

3

Diolch i bawb wnaeth ddanfon adroddiadau am hanes y teithiau gyda lluniau gwych. Cofier fod tudalen Newyddion ar y wefan ac fod croeso i bawb ddanfon manylion neu hanes o unrhyw beth all fod o ddiddordeb i’r aelodau – gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw hanes allai fod o ddiddordeb.

Cofnodir manylion defnydd pob rhan o wefan y Clwb gan Google Analytics. Golyga hyn fod gennym wybodaeth hynod o gyflawn o sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio, gyda dadansoddiad manwl o natur y defnyddwyr (ond dim manylion personol ar gael) gan gynnwys yr offer a ddefnyddir.

Ers Tachwedd 2021, bu 46,849 ymweliad â’r wefan gan 5,077 o ddefnyddwyr (y rhan fwyaf o’r DG a nifer o’r UDA a rhai o wledydd eraill). Bu’r defnydd yn weddol gyson drwy’r flwyddyn ac yn pegynnu pryd roedd gweithgaredd gan y Clwb.

Bellach, mae tua 9,500 o luniau a dynnwyd ar ein teithiau yn ôl i 2005 gan aelodau’r clwb, i gyd ar gael drwy’r wefan ar lwyfan Flickr. Gall aelodau lawrlwytho y rhain ar gyfer defnydd personol.

Mae ein cyfrifon Gweplyfr / Facebook, Trydar / Twitter ac Instagram yn dal yn weithgar, i gyd yn cyd-lynu efo’r wefan. Cyhoeddir y Rhaglen a hanesion pob gweithgaredd ar ein gwefan – ynghyd â dolen i unrhyw adroddiad ar y wefan ar y Gweplyfr / Facebook.

Gall unigolion hefyd ychwanegu eu lluniau neu sylwadau eu hunain at rhain, yn ogystal â’r cyfrifion Trydar ac Instagram. Anogir yr holl aelodau i  dagio @Clwb Mynydda Cymru a nodi eu bod am ddilyn ein cyfrif Gweplyfr / Facebook a hoffi a/neu rannu’r hanesion.

Anogir pawb hefyd i lawr lwytho’r ‘ap’ o safleoedd ‘apiau’ iOS neu Android – mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny ar gael ar y wefan.

Siomedig braidd oedd gweld mai dim ond tua 21% o’n defnyddwyr gwefan sydd wedi gosod eu cyfrifiaduron i weithredu drwy gyfrwng Y Gymraeg – er fod hyn bellach yn rhwydd i’w osod.

Dalier ati i gefnogi ein gwefan a thudalennau gwefannau cymdeithasol.

## **Cyllid**

Mae sefyllfa ariannol y Clwb yn gadarn gan fod penderfyniad wedi ei wneud yng Cyfarfod Blynyddol 2021 i gynyddu’r tâl aelodaeth i £25 y pen o Ionawr 2023 ymlaen. Bydd y cynnydd yn cael ei ddefnyddio i gwrdd â’r cynnydd yn nhâl aelodaeth y Clwb i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP) sydd wedi datgan eu bwriad i gynyddu eu ffioedd i aelodau clybiau yn unol â chwyddiant yn flynyddol. Gobaith y Pwyllgor yw y gellir cadw’r tâl aelodaeth yn £25 cyhyd â phosibl.

Y prif ffynhonnell incwm ydi’r tanysgrifiadau. Yn ystod y flwyddyn ’roedd gan y Clwb 287 aelod yn talu £20 yr un (£5740). Yn ogystal derbyniwyd £620 gan unigolion nad ydynt mwyach yn aelodau o’r Clwb – yn cynnwys 36 taliad o £15 a 10 taliad o lai na £15.

4

Roedd y taliad i’r CMP yn £20.25 yr aelod tan Ebrill 2022 ac yn £21 wedi hynny. Bydd yn cynyddu i £22.25 ar 1 Ionawr 2023.

Bu dwy daith i’r Alban yn ystod y flwyddyn ond yr unig daliad a wnaed o goffrau’r Clwb oedd blaendal o £91 i un hostel.

’Roedd derbyniadau’r cinio blynyddol yn yr Oakeley Arms, Maentwrog, yn £971 a’r gwariant yn £1240, gwahaniaeth o £269. Y rheswm dros y gwahaniaeth ydi (a) llogi ystafelloedd newid a (b) gwahodd gwesteion i’r cinio.

Llwyddwyd i ad-hawlio treth o £35.15 ar y rhoddion a gafwyd er cof am Gareth Pierce.

Yn ogystal â chostau rhedeg y Clwb (costau banc, gweinyddol a gwefan) sef cyfanswm o £470.87, gwnaed taliadau o £120 at gwrs cymorth cyntaf i aelodau, £150 i ymuno â’r Bartneriaeth Awyr Agored, £500 i ddau dîm achub gafodd eu galw i ddigwyddiadau ar deithiau’r Clwb a phrynwyd ail ddiffibriliwr am £1878. Gyda’r rhodd hael iawn a gafwyd er cof am Gareth Pierce y llynedd, mae diffibriliwr bellach  yn cael ei gario ar deithiau’r Clwb yn y gogledd a’r de.

## **Cronfeydd**

Mae gan y Clwb £4893.42 yn y banc sy’n cynnwys Cronfa Goffa Gareth Pierce (£881.41) a chronfa gyffredinol o £4012.01. Mae’r gronfa gyffredinol £2745.14 yn is nag oedd ar yr un adeg llynedd.

Mae angen i’r Clwb gadw arian wrth gefn yn y gronfa gyffredinol er mwyn sicrhau llif arian digonol (gan fod rhaid weithiau talu ymlaen llaw am lety ar deithiau preswyl cyn casglu arian gan y rhai sy’n mynychu) ac hefyd i warchod yn erbyn gwariant annisgwyl.

Dwynwen Pennant Cadeirydd

(ar ran yr ymddiriedolwyr)

Dyddiad: 19/11/22

5

## **CLWB MYNYDDA CYMRU - adroddiad ariannol 2021/22**

_(Elusen gofrestredig rhif 1190243_ )

|**Derbyniadau**

Aelodaeth:
Aelodau
5,740.00
Caredigion
620.00
Teithiau:
Blaendal SYHA
Cinio blynyddol 2021
Cronfa goffa Gareth Pierce (ad-daliad treth)
Incwm arall:
Llog banc
Mewn llaw 1 Hydref 2021:
Siec mewn llaw
20.00
Cyfrif cyfredol
1,552.71
Cyfrif cadw
6,030.70
Dilys Phillips
Trysorydd
21/10/2022|_(2020/21)_

**Taliadau**

_5,500.00_
Aelodaeth:
_618.00_
6,360.00
_6,118.00_
Cyngor Mynydda Prydeinig
91.00
_1,168.80_
Teithiau:
Ad-daliad blaendal SYHA
971.00

Cinio blynyddol 2021
35.15
_846.26_
1.73
_0.91_
Gwariant arall: Costau banc
52.08
Gweinyddol
192.00
Gwefan
226.79
Cwrs cymorth cyntaf
120.00
Partneriaeth Awyr Agored
150.00
Prynu diffibriliwr
1,878.00
Timau achub
500.00
Mewn llaw 30 Medi 2022:
_485.77_
Cyfrif cyfredol
860.99
_11,529.79_
Cyfrif cadw
4,032.43
7,603.41
_12,015.56_
15,062.29
_20,149.53_
George Jones
Archwiliwr
21/10/2022|_(2020/21)_

5,719.00
_5,474.18_
91.00
_6,303.00_
1,240.00

_409.87_
_199.07_
_160.00_
3,118.87
_20.00_
_1,552.71_
_6,030.70_
4,893.42
_7,603.41_
15,062.29
_20,149.53_|