Clwb Mynydda Cymru
Elusen gofrestredig rhif 1190243
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2020 - 2021
Cyfansoddiad ac Amcan
Mae Clwb Mynydda Cymru wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcan ydi hyrwyddo chwaraeon amatur, sef mynydda, yng Nghymru er budd y cyhoedd, yn arbennig ond nid yn unig trwy ddarparu cyfleon ar gyfer mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ymddiriedolwyr
Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd:
Dwynwen Pennant – Cadeirydd Stephen Williams – Is-gadeirydd Eryl Owain – Ysgrifennydd Gweithgareddau Iolo ap Gwynn – Ysgrifennydd y Wefan Iolo Roberts – Ysgrifennydd Cyffredinol Dilys Phillips – Trysorydd Richard Roberts – Trysorydd Cynorthwyol Iona Evans – aelod o’r pwyllgor Dewi Hughes – aelod o’r pwyllgor Eirwen Williams – aelod o’r pwyllgor Raymond Griffiths – aelod o’r pwyllgor Gareth E Roberts – aelod o’r pwyllgor Gwyn Williams – aelod o’r pwyllgor
Llywodraethu
Yr ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Pwyllgor sy’n rheoli gweithgareddau’r Clwb.
Yn ogystal ȃ thri chyfarfod arferol y Pwyllgor eleni ym mis Ionawr, Mai a Medi, cafwyd dau gyfarfod arbennig, un ym mis Mawrth i ystyried Strategaeth Parcio a Thrafnidiaeth Gynaliadwy Yr Wyddfa ac Ogwen gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r llall yn nechrau Hydref i roi sylw i nifer o faterion oedd angen sylw brys cyn y Cyfarfod Blynyddol. Rydym wedi parhau â’r drefn o gynnal y cyfarfodydd i gyd drwy gyfrwng Zoom eto eleni.
1
Yn mis Ionawr a Mai effaith Cofid 19 ynghyd ȃ materion arferol eraill oedd yn mynd ȃ sylw’r Pwyllgor a da oedd gweld erbyn cyfarfod mis Mai bod y sefyllfa‘n gwella a gallwyd dechrau llacio rhai o’r cyfyngiadau a roddwyd ar ein teithiau. Fe gynyddwyd y nifer o aelodau allai ddod ar daith o 12 i 15 ym mis Mai ac wedyn i 18 yn ddiweddarach yn ystod yr haf wrth i’r sefyllfa wella. Mae’r Pwyllgor ers mis Medi wedi penderfynu codi’r cyfyngiadau ar y niferodd a ganiateir ar y teithiau.
Ym mis Gorffennaf wynebwyd un o’r digwyddiadau mwyaf ysgytwol pan frawychwyd pawb gan farwolaeth sydyn Gareth Pierce ar daith y Clwb ar Aran Fawddwy. Gwerthfawrogir yn fawr ymdrechion yr aelodau oedd efo Gareth i’w helpu nes i gymorth proffesiynol gyrraedd. Estynnwn ein cydymdeimlad gyda’r teulu yn eu colled enfawr. Bu teulu Gareth yn ddigon caredig i ddatgan y byddai unrhyw roddion er cof am Gareth yn cael eu rhannu rhwng yr Urdd a’r Clwb. Hyd yma mae’r Clwb wedi derbyn swm o oddeutu £850 ac mae trafodaethau wedi bod gyda’r teulu ynglŷn ȃ sut y dylid defnyddio’r arian yma. Un o’r syniadau dan sylw yw defnyddio’r arian i annog pobl ifanc i ymgymryd ȃ gweithgareddau awyr agored. Syniad arall yw i’r arian fynd tuag at gyhoeddi detholiad o’r cerddi ar fynyddoedd y bu Gareth yn eu casglu dros y blynyddoedd. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r Urdd a theulu Gareth ynglŷn â sut i ddefnyddio’r arian yma.
Derbyniodd y pwyllgor hefyd rodd garedig o ddiffibriliwr i’r Clwb gan unigolyn ȃ chysylltiad ȃ Gareth er cof amdano. Yn sgil hynny mae’r Pwyllgor wedi penderfynu archebu ail ddiffibriliwr ar gyfer criw’r De. Y bwriad yw iddynt gael eu cario ar deithiau’r Clwb rhag ofn y cyfyd argyfwng. Bydd Swyddog gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol i roi arweiniad ar eu defnyddio.
Un mater fydd angen sylw yn y Cyfarfod Blynyddol yw lefel tâl aelodaeth y Clwb i’r dyfodol. Adroddwyd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Hydref bod y Cyngor Mynydda Prydeinig am godi eu tâl aelodaeth i aelodau clybiau o 1 Ebrill 2022 i £22 ac y byddai’n codi gyda elfen chwyddiant o RPI yn flynyddol wedyn o 1af Ionawr 2023 ymlaen. Yn sgil hyn a’r ffaith bod y Clwb yn wynebu gwariant sylweddol ar brynu diffibriliwr penderfynwyd argymell i’r Cyfarfod Blynyddol fod tâl aelodaeth y Clwb yn codi i £25 o 1 Ionawr 2023. Byddai hyn yn golygu y gallasai’r tâl yma gwrdd â chodiadau i’r taliadau i’r CMP am gyfnod yn hytrach na gorfod ei newid yn rheolaidd a byddai hefyd yn helpu i’r Clwb ail-adeiladu ei falansau yn y tymor byr.
Mae rhywfaint o edrych ymlaen am ddyfodol mwy normal wedi bod ym mhenderfyniadau’r Pwyllgor. Ar ôl gorfod gohirio y llynedd fe benderfynwyd mentro cynnal y Cyfarfod a Chinio Blynyddol unwaith eto eleni yng Ngwesty’r Oakley Arms ym Maentwrog. Penderfynwyd rhoddi’r cyfle i aelodau ymuno â’r cyfarfod drwy gyfrwng Zoom os byddai hynny yn well ganddynt. Yn ogystal cadarnhawyd y bydd y trefniadau i gynnal ein darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022 yn mynd yn eu blaen. Cytunwyd hefyd y dylid edrych ar y posibilrwydd o gynnal taith arferol mis Chwefror i’r Alban flwyddyn nesaf.
Cedwir cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor a rhai’r Cyfarfodydd Blynyddol ac maent i’w gweld ar wefan y Clwb trwy ddilyn y ddolen - http://www.clwbmynyddacymru.com/Dogfennau.htm
2
Recriwtio ymddiriedolwyr
Y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor ac felly’n penodi’r ymddiriedolwyr. Yn ôl y cyfansoddiad bydd traean aelodau’r Pwyllgor (yr ymddiriedolwyr) yn ymddeol yn flynyddol, sef 4 aelod, er bod hawl i unrhyw un ohonynt gael ei ail-benodi. Y rhai sydd i ymddeol yw’r rhai sydd wedi bod yn eu swydd hiraf. Mae’n agored i unrhyw aelod gynnig i wasanaethu ar y Pwyllgor drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyn y Cyfarfod Blynyddol.
Gweithgareddau
Dechreuodd adroddiad y llynedd trwy nodi mai’r gŵyn arferol yw bod adroddiadau bob tro’n debyg iawn i rai’r blynyddoedd blaenorol ond nad oedd hynny’n wir am 2020. Yn anffodus, nid yw’n wir am 2021 chwaith. Ond, er gwaethaf colli bron i bum mis i’r ail Gloi Mawr, llwyddwyd i gynnal 51 o deithiau rhwng rhai’r de a’r gogledd a chanol wythnos.
Mae hynny’n cymharu’n dda efo niferoedd blynyddoedd ‘arferol’ – 48 taith yn 2017, 44 yn 2018 a 58 yn 2019. Llawer o ddiolch felly i’r rhai hynny a fu’n barod i drefnu ac arwain taith; y chi, mewn gwirionedd, yw’r bobl bwysicaf yn y clwb gan na fyddai gweithgareddau heb eich ymroddiad chi. Ac, yn wyneb y trafferthion cofidaidd, mae angen diolch ychwanegol i chi am fod yn hyblyg a bod yn barod i gydymffurfio â’r amrywiol reoliadau.
Gorfodwyd y clwb i gyfyngu ar niferoedd am gyfnod ac felly trefnwyd, yn aml, fwy nac un taith ar yr un diwrnod neu’r un penwythnos. Roedd cyfle felly i drefnu dwy daith mewn gwahanol ardaloedd neu deithiau oedd yn amrywio o ran hyd neu natur y daith. Profodd hynny’n llwyddiannus gan fod mwy o ddewis i’n haelodau. Pan nad oedd angen cyfyngu ar niferoedd, penderfynwyd dal ati i gynnig yr un amrywiaeth trwy gynnig, yn y gogledd, taith bob penwythnos. Cawn weld a fydd digon o arweinwyr i barhau i wneud hynny.
Mae croeso arbennig i rai sydd heb arwain o’r blaen i gynnig eu hunain. Mae’n brofiad braf gallu cyflwyno cyd-aelodau – ffrindiau’n wir – i un o’ch hoff deithiau ac mae pawb sydd wedi arwain yn gwybod nad ydi arweinydd ar ei ben ei hun; mae pawb yn fwy na pharod i rannu’r cyfrifoldeb ac i gynorthwyo. Ac mae prawf o hynny yn y modd y cydweithiodd pawb mor ragorol i wneud popeth a allent ar y diwrnod trist hwnnw pan gollon ni Gareth, un o’n haelodau mwyaf ffyddlon a brwdfrydig.
Mae rhai aelodau’n mwynhau teithiau mynydd cymedrol ond eraill eisiau teithiau hirach a mwy heriol neu eisiau mwy o sgrialu. Un nodwedd o’r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yw fod amryw o aelodau newydd, llawer ohonynt yn iau na nifer ohonom ni, yr hen do, wedi troi allan yn rheolaidd. Efallai bod yr elfen fwy heriol yn help i’w denu.
Cafwyd ymateb da i gwrs Cymorth Cyntaf a gynhaliwyd yn Llangors ac mae nifer ychwanegol wedi sicrhau cymhwyster yn y maes hwnnw.
Byddwn bob amser yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer sut y gellir gwella’r ddarpariaeth.
3
Cyfathrebu a chysylltu
Bu’r wefan yn ddefnyddiol i gysylltu ag aelodau (a darganfod aelodau newydd), yn enwedig pan oedd angen diweddaru gwybodaeth am deithiau – weithiau ar y funud olaf. Mae’r wefan yn dal yn gydnaws â ffonau clyfar a llechi iOS ac Android yn ogystal a porwyr ar bob math o gyfrifiaduron.
Bellach, mae dros 8,100 o luniau o hanesion y teithiau yn ôl i 2005 gan aelodau’r clwb, i gyd ar gael drwy’r wefan ar lwyfan Flickr. Gall aelodau lawrlwytho y rhain ar gyfer defnydd personol.
Cofnodir manylion defnydd pob rhan o wefan y Clwb gan Google Analytics. Golyga hyn fod gennym wybodaeth hynod o gyflawn o sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio, gyda dadansoddiad manwl o’r defnyddwyr (ond dim manylion personol ar gael) gan gynnwys yr offer a ddefnyddir.
Ers Tachwedd 2020, bu 41,034 ymweliad â’r wefan gan 4,696 o ddefnyddwyr (y rhan fwyaf o’r DG a nifer o’r UDA a rhai o wledydd eraill). Bu’r defnydd yn weddol gyson drwy’r flwyddyn, ond yn dawelach yn ystod y cyfnod clo a phegynau pryd roedd gweithgaredd gan y Clwb.
Cofied fod tudalen Newyddion ar y wefan ac fod croeso i bawb ddanfon manylion neu hanes o unrhyw beth all fod o ddiddordeb i’r aelodau. Cyhoeddwyd teyrngedau i ddau o aelodau’r clwb ers ei sylfaenu, a fu farw yn ystod y flwyddyn, sef Gareth Pierce a Dafydd Prydderch Williams.
Mae ein cyfrifon Gweplyfr (Facebook), Trydar (Twitter) ag Instagram yn dal yn weithgar, i gyd yn cyd-lynu efo’r wefan. Cyhoeddir pob gweithgaredd – ynghyd â dolen i unrhyw adroddiad ar y wefan – ar y Gweplyfr. Gall unigolion ychwanegu eu lluniau neu sylwadau eu hunain at rhain, yn ogystal â’r cyfrifion Trydar ag Instagram.
Oherwydd cymorth gan Rhys Jones, Waunfawr, (a diolch arbennig iddo) darparwyd “ap” ar gyfer systemau iOS ac Android (ffonau clyfar a llechi) sy’n cysylltu’n uniongyrchol a rhwydd â thudalennau gwefan y Clwb. Gellir lawr lwytho’r “ap” o safleoedd “apiau” iOS ac Android – cyfarwyddiadau ar y wefan.
Diolch i bawb a gyfrannodd adroddiadau/hanesion a lluniau ar gyfer y wefan yn ystod y flwyddyn. Mae’n gofnod arbennig o’n gweithgareddau. Daliwch ati!
Cyllid
Mae sefyllfa ariannol y Clwb yn parhau’n iach.
Y prif ffynhonnell incwm ydi’r tanysgrifiadau. Yn ystod y flwyddyn ‘roedd gan y Clwb 275 aelod yn talu £20 yr un (£5500). Yn ogystal derbyniwyd £618 gan unigolion nad ydynt mwyach yn aelodau o’r Clwb – yn cynnwys 31 taliad o £15, 8 taliad llai na £15 a nifer o daliadau gan unigolion sy’n anhysbys.
4
Mae’r taliad i’r Cyngor Mynydda Prydeinig yn £20.25 yr aelod. Bydd hwn yn cynyddu yn ystod 2022. Bydd angen felly ail-ystyried y tâl aelodaeth at 2023.
Ni threfnwyd unrhyw daith breswyl yn ystod y flwyddyn. Cafodd dwy daith oedd wedi eu gohirio o 2019 eu canslo; cafwyd y blaendal yn ôl gan y darparwyr llety a rhoddwyd ad-daliad llawn i bob aelod oedd wedi archebu lle arnynt.
Derbyniwyd rhoddion o £846.26 er cof am Gareth Pierce, trwy garedigrwydd ei deulu yn enwebu’r Clwb ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru.
Costau rhedeg arferol y Clwb ydi’r costau gweinyddol a chostau’r wefan sy’n dod i gyfanswm o £608.94 ar gyfer 2020-21. Hefyd gwnaed cyfraniad o £20 y pen (sef £160) tuag at gwrs cymorth cyntaf i aelodau.
Cronfeydd
Ar ddiwedd y flwyddyn ‘roedd gan y Clwb £7603.41 yn y banc sy’n cynnwys cronfa goffa Gareth Pierce (£846.26) a chronfa gyffredinol o £6757.15. Mae’r gronfa gyffredinol £124.21 yn is nag oedd ar yr un adeg llynedd.
Mae angen cadw arian wrth gefn yn y gronfa gyffredinol er mwyn sicrhau llif arian digonol (gan fod rhaid weithiau talu ymlaen llaw am lety ar deithiau preswyl cyn casglu arian gan y rhai sy’n mynychu) ac hefyd i warchod yn erbyn gwariant annisgwyl.
Dwynwen Pennant Cadeirydd
(ar ran yr ymddiriedolwyr)
Dyddiad: 13/11/21
5
CLWB MYNYDDA CYMRU ( elusen gofrestredig rhif 1190243 ) – datganiad o’r cyfrifon 2020/21
| Derbyniadau £ Aelodaeth: Aelodau 5,500.00 Caredigion 618.00 Teithiau: Hawes (ad-daliad blaendal) 563.80 Glenshiel (ad-daliad blaendal) 605.00 Cronfa goffa Gareth Pierce Incwm arall: Llog banc Mewn llaw 1 Hydref 2020: Cyfrif cyfredol 485.77 Cyfrif cadw 11,529.79 Dilys Phillips Trysorydd 5/10/21 |
£ Taliadau £ Aelodaeth: 6,118.00 Cyngor Mynydda Prydeinig Teithiau: Hawes (ad-dalu'r aelodau) 3,423.00 Glenshiel (ad-dalu'r aelodau) 2,880.00 1,168.80 846.26 0.91 Gwariant arall: Gweinyddol 409.87 Gwefan 199.07 Cwrs cymorth cyntaf 160.00 Mewn llaw 30 Medi 2021: Siec mewn llaw 20.00 Cyfrif cyfredol 1,552.71 Cyfrif cadw 6,030.70 12,015.56 20,149.53 George Jones Archwiliwr 5/10/21 |
£ 5,474.18 6,303.00 768.94 7,603.41 |
|---|---|---|
| 20,149.53 | ||