## **ELUSEN DYFFRYN PERIS** 

## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2021 - 2022** 

## **Cyflwyniad** 

Sefydlwyd Ynni Padarn Peris er mwyn creu cynllun heidro cymunedol i gynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ gan ddefnyddio unrhyw elw at ddibenion cymdeithasol yn Nyffryn Peris. 

Yna sefydlwyd Elusen  Dyffryn Peris i ddosbarthu rhodd arianol a roddir yn flynyddol gan Ynni Padarn Peris er mwyn cyfrannu i les y cymunedau yn  y dyffryn. 

Un o amcanion sylfaenol Ynni Padarn Peris oedd sefydlu elusen a fyddai’n rhannu arian i brosiectau lleol. Nodir y mathau o weithgareddau a ystyrir yn briodol i dderbyn cefnogaeth fel - lleihau tlodi tanwydd, hybu ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaladwy, arbed ynni, prosiectau cadwraethol, lleihau gwastraff, gwirfoddoli, hybu ymarfer corff neu hybu dysgwyr Cymraeg. 

Yn ystod 2019 aethpwyd ati i sefydlu Elusen Dyffryn Peris a fyddai’n gweithredu’n annibynnol i fenter Ynni Padarn Peris. 

Cofrestrwyd Elusen Dyffryn Peris SCE gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Ebrill 2020, yna bu’n weithredol o Fehefin o’r un flwyddyn. 

Mae Bwrdd yr Elusen yn cynnwys saith o unigolion lleol sy’n gyfarwydd â’r fro ac yn gydymdeimladol tuag at ofynion ei chymunedau ynghyd a dau aelod sy’n eistedd ar Fwrdd Ynni Padarn ac yn rhannu’r un dyheadau. 

Yn anffodus yn ystod yr un cyfnod sefydlu yma dylanwadodd Cofid 19 a’r pandemig iechyd ddaeth yn ei sgîl ar waith trefnu a hyrwyddo gwaith yr Elusen. Yn yr un  modd bu lesterio ar waith a chyfleoedd i fudiadau a chymdeithasau lleol i gyfarfod ac i ystyried ceisiadau am gymorth gan yr Elusen yn ystod y cyfnod cwbl anarferol hwn. Hyd yma felly, nifer cyfyngedig o geisiadau a gafwyd. 

Bu’r flwyddyn hon yn eithriadol mewn cymaint o ffyrdd felly diolch i’r holl ymddiriedolwyr sydd wedi ymuno’n gyson drwy Zoom i wireddu gwaith yr Elusen a bod yn ffyddiog y gwelir cynnydd yn y ceisiadau i’r dyfodol. 

John Grisdale Ysgrifennydd 

|**Rhestr o Ymddiriedolwyr**|**y Bwrdd**||
|---|---|---|
|Dr Robin Parry|Cadeirydd|Etholwyd 2019|
|John Grisdale|Ysgrifennydd|Etholwyd 2019|
|Rhys ap Gwilym|Trysorydd|Etholwyd 2019|
|Erin Eifon||Etholwyd 2019|
|Rhian George||Etholwyd 2019|
|Katy Williams||Etholwyd 2019|
|Philip Roberts||Etholwyd 2019|





Maldwyn Peris YPP Etholwyd 2019 George Jones YPP Etholwyd 2019 

## **Braslun o waith y Bwrdd yn ystod 2021 - 2022** 

## **2021** 

## **27 Ionawr 2021** 

Cyfarfod drwy Zoom - Cytunwyd i hysbysebu’r Elusen drwy y Safle we newydd a thrwy hysbysebion a gwybodaeth yn Eco’r Wyddfa yn ogystal a thargedu cyfryngau cymdeithasol. Trafodwyd y dull mwyaf addas i werthuso pob cais a monitro pob cynllun fel sail i adroddiad blynyddol. 

## **2 Chwefror 2021** 

Cyfarfod dros Zoom gydag aelodau o Elusen Dyffryn Ogwen i gymharu nodiadau ac arfer da. 

## **14 Ebrill 2021** 

Cyfarfod dros Zoom. Prin fu’r ymateb i’r hysbyseb yn Yr Eco gydag ond un cais erbyn y dyddiad cau. Credir mai effaith y cyfnod clo a’r pandemig oedd yn bennaf gyfrifol a dim dyddiad i’r datgloi. Penderfynwyd ymsetyn ein dulliau o gyrraedd ein cymunedau. Trafodwyd un cais am gynhaliaeth **(Cais 1)** ond penderfynwyd gohirio’r penderfyniad yn amodol ar dderbyn rhagor o wybodaeth. 

## **13 Gorffennaf 2021** 

Cyfarfod dros Zoom. Unwaith eto siomedig fu’r ymateb i’r hysbysebu ac eto rhoddwyd sylw i hysbysebu pellach. Mabwysiadwyd taflenni gwerthuso. Derbynwyd **Cais 2** o Ddeiniolen a dyfarnwyd i’w gymeradwyo. Dim manylion pellach parthed **Cais 1** felly heb gyfarfod â’r nodau. 

## **12 Hydref 2021** 

Cyfarfod dros Zoom. Cytunwyd ar hysbysebu pellach yn Eco’r Wyddfa ac yn y cyfryngau cymdeithasol. Cytunwyd i fanteisio ar bob cyfle i rannu newyddion am y ceisiadau ac unrhyw  gyllido llwyddiannus. Cytunwyd i barhau i gyfarfod yn rhithiol oherwydd y pandemig. 

Cafwyd ymholiad cychwynol gan Blas Pengwaith. 

## **14 Rhagfyr 2021** 

Cyfarfod drwy Zoom. ‘Roeddd pryder eto am nad oedd fawr o geisiadau wedi dod i law drwy egluro fod cymdeithasau yn  amharod i gyfarfod a gwneud cais. Bwriedir targedu cymdeithasau a mudiadau yn fwy personol. 

Derbynwyd **Cais 3** gan Gyngor Llanberis am gyfraniad i helpu gydag ailwynebu’r cae chwarae. Penderfynwyd cymeradwo y cais. 

## **2022** 

## **08 Mawrth 2022** 

Cyfarfod drwy Zoom. Cadarnhau y bwriad o roi cyhoeddusrwydd i bob cais llwyddiannus. Hefyd cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar gyfer Y Comiswn Elusennau sy’n nodi ffeithiau moel am waith y Bwrdd, nifer y ceisiadau a’r gwariant. Cafwyd trafodaeth am sefyllfa pentref Rhiwlas o fewn dalgylch yr Elusen - wedi trafodaeth eang gwrthodwyd y cais hwn. Trafodwyd **Cais 4** oddi wrth Gartref Plas Pengwaith a’i gymeradwyo. 



## **Rhestr y Ceisiadau** 

|Cais|Teitl|Penderfyniad|Swm|
|---|---|---|---|
|1|Sefydlu cyngrhair ffwtsal - Llanrug|Gohirio||
|2|Clwb peldroed plant a ieuenctid Deiniolen.|||
||Er mwyn arianu dillad ac offer i annog|||
||chwaraeon .|Cymeradwyo|£500|
|3|Cyngor Cymuned Llanberis.|||
||I helpu arianu ailwynebu’r cae chwarae|Cymeradwyo|£5000|
|4|Cartref Plas Pengwaith Llanberis|||
||Er mwyn prynu meinciau gardd i’r trigolion|Cymeradwyo|£738|



## **Crynodeb o’r sefyllfa Arianol** 

Derbyniwyd £20,000 o gyllid gan Ynni Padarn Peris ers cychwyn yr Elusen ym mis Ebrill 2020 hyd at ddiwedd mis Mai 2022. Dosbarthwyd cyfanswm o £6,238 mewn grantiau, fel y manylir uchod. Gwariwyd £866.47 ar sefydlu a gweinyddu wefan yr Elusen dros y cyfnod. £12,895.53 oedd yn weddill yng nghyfrif banc yr Elusen ar ddiwedd mis Mai 2022. 

Manylion trosglwyddiadau banc yr Elusen: 

|Dyddiad||Derbyniwyd|Talwyd|Mantol|
|---|---|---|---|---|
|22/04/20||||£0.00|
|23/04/20|Ynni Padarn Peris|£1,000.00|||
|26/08/20|Ynni Padarn Peris|£9,000.00|||
|25/05/21|Costau sefydlu wefan||£727.41||
|18/10/21|Cais 2||£500.00||
|21/01/22|Cais 3||£5,000.00||
|18/02/22|Ynni Padarn Peris|£10,000.00|||
|09/03/22|Costau gweinyddu wefan||£139.06||
|24/03/22|Cais 4||£738.00||
|31/05/22||||£12,895.5<br>3|



