Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

# **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 1 Ionawr 2025 hyd at 31 Rhagfyr 2025**

## **Enw’r Elusen:  Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE**

## **Rhif yr Elusen: 1188238**

##  **Amcanion a Gweithgareddau**

Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.

Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys. Gwnawn hynny trwy:

- Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol.

- Darparu gofal bugeiliol.

- Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd.

- Hybu gwaith cenhadol.

I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

Wrth gynllunio a datblygu rhaglen waith yr Eglwys, rydym yn ceisio dilyn anogaethau ein ffydd a gwrando ar leisiau’n haelodau ac ymateb i bobl anghenus yn ein cymdeithas a’n byd gan wneud hynny yn ymwybodol o ganllawiau arweiniad y Comisiwn sy’n ymwneud gyda budd i’r cyhoedd.

##  **Cyflawniadau a Pherfformiad**

## **Addoliad a Gweddi**

Yn ystod 2025, roedd modd i ni ddarparu oedfaon bob bore Sul ar nifer o themâu yn perthyn i’r ffydd Gristnogol. Roedd y gwasanaethau’n cynnwys y cyfle i addoli, i ddysgu mwy am ein ffydd ac i weddïo am faterion personol, lleol a rhyngwladol. Manteisiwyd ar gyfle yn fisol i groesawu gweinidogion a phregethwyr gwadd i arwain ein gwasanaethau a’r gweddill yn cael

1

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

eu harwain gan y gweinidog a nifer o oedolion a phobl ifanc. Mae presenoldeb y sgriniau  ac offer pwrpasol yn y Capel yn golygu y medrwn bellach ddangos darlleniadau a geiriau gweddïau yn ogystal ag emynau yn ystod yr oedfa  ac yn ystod y flwyddyn roedd hyn yn ein galluogi ni i gyd-ddarllen rhannau o’r gwasanaeth yn lle clywed un llais yn unig o’r tu blaen.

Yn ystod y flwyddyn, dewisodd nifer o bobl ddod i’r capel i addoli ond roedd eraill, oherwydd rhesymau iechyd neu amgylchiadau arbennig, yn dewis ymuno ar Zoom naill ai drwy’r cyfrifiadur neu ar ffôn y tŷ. Gyda’r offer technolegol newydd, bu modd i ni wella ansawdd y lluniau a’r sain i’r rhai oedd yn ymuno o adre.

Dosbarthwyd deunydd myfyrio wythnosol i 80 o gartrefi drwy’r We a dosbarthwyd yr un deunydd i 15 o gartrefi nad ydynt yn defnyddio’r We. Ar ddechrau 2025 roedd 139  aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y We, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.

Yn ystod y flwyddyn, dechreuwyd cyfarfod newydd ganol dydd, ganol wythnos yn Emaus o’r enw “Cinio Pererin” i hybu gweddi a chymdeithas ymhlith yr aelodau. Bydd pawb yn cyrraedd erbyn 12 gyda’u cinio bocs bwyd ac yn mwynhau cinio a sgwrs ac yna rhannu darlleniad, gweddi a bendith cyn mynd ymlaen â gorchwylion y dydd.

Mae’r bartneriaeth ddechreuwyd bedair blynedd yn ôl rhyngom ag Eglwys Uniongred Blaenau Ffestiniog wedi parhau a thyfodd yr Offeren misol yn Festri Emaus yn gyfle cenhadol iddynt fel cymuned estyn allan i bobl o nifer o wahanol gefndiroedd ac ieithoedd yn ardal Bangor.

## **Addysg Oedolion**

Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd. Yn ystod 2025 roedd modd i ni dderbyn arweiniad gwahanol aelodau o’r dosbarth oedd yn ychwanegu at gyfoeth y sesiwn gan fanteisio ar adnoddau gwerthfawr yn y Gymraeg gan Gyhoeddiadau’r Gair ac ar ddeunyddiau gan Cytûn.

## **Cyfathrebu a Gofal Bugeiliol**

Yn ogystal â derbyn deunydd addoli wythnosol, roedd aelodau a chyfeillion yr Eglwys yn derbyn llythyrau yn ystod y flwyddyn ar ebost neu trwy’r drws yn cynnwys newyddion am gydaelodau, hysbysiadau am ddigwyddiadau ac unrhyw ddiweddariad am drefniadau addoli yn y capel.

Yn ogystal, dosbarthwyd cylchgrawn misol – Y Negesydd – yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl oedd yn dymuno hynny drwy’r flwyddyn. Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau ddefnyddio eu doniau creadigol i gyfrannu erthyglau a lluniau i’r cylchgrawn ac yn ychwanegu at ein nod o gyfathrebu’n dda i gadw pawb gyda’i gilydd.

Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr.

Mae’r gweinidog a nifer o’r aelodau yn cadw cysylltiad hefyd gyda chleifion yn yr ysbyty, yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal. Bob mis cynhelir oedfa fer yn cynnwys emynau, darlleniadau, gweddïau a chymun mewn dau gartref gofal lleol gan gydweithio’n hapus gyda Ficer lleol. Mae’r gynulleidfa yn cynnwys aelodau’r eglwys, aelodau o enwadau eraill a rhai

2

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

nad ydynt efallai wedi bod yn rhan o addoliad ers rhai blynyddoedd. O dro i dro, yn dilyn profedigaeth, cynhaliwyd gwasanaethau angladd ac ymweliadau bugeiliol gyda theuluoedd mewn galar a hyn yn rhan o ofal bugeiliol naturiol yr eglwys i’r galarus.

Yn ystod 2025, cynhaliwyd cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd. Er mor brysur yw bywydau pawb y dyddiau hyn, bu criw cyson, ffyddlon yn dod i’r weithgaredd yma oedd yn help i greu’r ymdeimlad o deulu.

Rydym yn hapus iawn fel cynulleidfa bod na ymwelwyr ac uniogolion lleol wedi ymuno â ni ar gyfer ein gwasanaethau  yn ystod y flwyddyn a’n gobaith ydy tyfu fel eglwys i fod yn fwyfwy hyblyg a chynhwysol yn ein bywyd fel teulu’r ffydd.

## **Gwaith cenhadol a chymdeithasol**

Mewn blwyddyn arferol, mae grŵp o’r aelodau yn cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad i hybu pryniant nwyddau Masnach Deg. Trwy ymdrechion lew y trefnwyr, llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon yn 2025 gan gynnig ystod eang o nwyddau er gwaetha’r ffaith bod Traidcraft ei hun wedi gorfod dirwyn i ben.

Llwyddodd yr Eglwys unwaith eto i gyfrannu at weithgareddau Cytûn Bangor yn cynnwys cydaddoli a chefnogi elusennau lleol. Llwyddwyd i ddal ati i gefnogi’r Banc Bwyd lleol a hynny mewn cyfnod pan mae mwy o angen nag erioed am y ddarpariaeth yma oherwydd y dirwasgiad yn dilyn y cyfnod clo.

Er gwaetha’r argyfwng costau byw, llwyddwyd i ddal ati i gyfrannu i roi cymorth dyngarol yn rhyngwladol. Cafwyd cefnogaeth dda i weithgareddau Cymorth Cristnogol a’r BMS (Baptist Missionary Society) yn ystod y flwyddyn gyda’r aelodau’n cael y fraint o gyfrannu’n hael yn ôl eu harfer at yr angen mewn gwledydd sy’n datblygu. Bu’r byd a’i anghenion yn ein gwasanaethau ac yn ein gweddïau’n gyson.

Braf oedd medru parhau i groesawu a chefnogi Ti a Fi i Emaus yn wythnosol yn ystod y tymhorau ysgol, cynllun Mudiad Ysgolion Meithrin i gefnogi plant, eu rhieni a’u gofalwyr a hybu’r defnydd o’r Gymraeg gyda phlant bach dan oed ysgol.

Cynhaliwyd noson agored yn Emaus dan nawdd mudiad Pobl i Bobl pob wythnos i gynnig cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob cwr o’r byd. Mae’r mudiad hwn ynghyd â Croeso Menai a Chyngor Gwynedd yn gyson yn darparu ystod eang o gefnogaeth i bobl mwyaf bregus eu hamgylchiadau er mwyn iddynt gael mynediad i gymorth ariannol, addysg ac yn y pendraw medru gweithio’n lleol fel aelodau integreiddiedig o gymdeithas. Braf oedd medru cynnig  defnydd dwy neu dair gwaith yr wythnos o’r Festri a’r gegin i Gyngor Gwynedd a Pobl i Bobl yn ystod y flwyddyn i baratoi bwyd a chynnig ddillad ac adnoddau yn enwedig cotiau cynnes ar gyfer y gaeaf.

Braf oedd gweld Bugeiliaid y Stryd yn mynd allan ar eu teithiau bugeiliol ar benwythnosau yn ystod y tymor Coleg. Gyda phatrymau cymdeithasu myfyrwyr a phobl ifanc eraill yn newid, bu’r tîm yn addasu eu horiau a’u patrwm i ymateb i’r newidiadau.

3

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

Braint oedd gwasanaethu Crist yn ei Eglwys ac yn ei fyd yn ystod 2025 dan arweiniad ein Tad Nefol, yng nghwmni Crist ein ffrind a’n Gwaredwr ac yn nerth yr Ysbryd Glân. Braf oedd cael cwmni’n gilydd fel gweinidog, swyddogion, aelodau a chyfeillion ar y daith.

##  **Gwaith yr Is-bwyllgor Risg a Datblygu**

Dros y flwyddyn, mae pwysigrwydd asesiadau risg wedi dod i’r brig yn gynyddol ac yn rhan naturiol o feddylfryd yr eglwys, ei phwyllgorau a’i haelodau. Mae rhagor o waith i’w gyflawni er mwyn sefydlu Polisi Iechyd a Diogelwch cynhwysfawr a rhagwelir y bydd rhannu profiadau gyda sefydliadau tebyg yn rhan o’r broses honno. Un rhan bwysig o’n gwaith ydy cefnogi defnyddwyr eraill yr adeilad i baratoi asesiadau risg penodol ar gyfer eu gweithgareddau  nhw boed yn weithgaredd wythnosol neu un noson yn unig gan gynnwys eu hyfforddi mewn mesurau diogelwch tân ac i baratoi arwyddion pwrpasol ee i hybu hylendid bwyd wrth ddefnyddio’r gegin.  Yn ystod yr haf, cyflawnwyd gwaith cynnal a chadw ar y maes parcio i’w wneud yn fwy diogel i ddefnyddwyr a gosodwyd llwybr o’r Capel at y ffordd islaw gan adnewyddu’r gât hefyd er mwyn creu mynedfa ddiogel o’r gwaelod.

##  **Adolygiad Ariannol**

Ein hincwm net am y flwyddyn oedd £66,273, sy'n 10% yn llai na'r llynedd yn bennaf oherwydd:

- colli grantiau gan Undeb a Chyfundeb yr Annibynwyr (derbynwyd £9850 yn 2024)

- £1120 yn llai o incwm o logi'r festri

- £1522 yn llai o offrymau a rhodd cymorth

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gymanfa Undeb Bedyddwyr Arfon am eu grant sylweddol o £8050 a dderbyniwyd ganddynt yn 2025 tuag at gost cyflogi ein gweinidog. Gwariwyd 77% o’n hincwm net am y flwyddyn ar y weinidogaeth (69% y llynedd).

Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i Wayne James am ei gyfraniad o £5,000 ar ran ei deulu, er cof am ei ddiweddar wraig, Sue James, a fu farw'n anffodus yn ystod y flwyddyn. Roedd Sue yn aelod gwerthfawr a ffyddlon o'n Heglwys dros nifer o flynyddoedd.

Mae cyfraniadau blynyddol yr aelodau ers sefydlu Emaus wedi aros yn eithaf cyson, sef tua £30,000. Fodd bynnag, ers 2017, mae chwyddiant wedi codi 35%, felly yn nhermau real dylai'r ffigwr hwnnw fod yn £40,500 o'i gymharu â'r £29,866 a gafwyd mewn gwirionedd.  Dyma ddadansoddiad o’r offrymau (ac eithrio unrhyw ychwanegiad a wnaethpwyd ar gyfer Rhodd Cymorth) fel a ganlyn:

|) fel a ganlyn:|) fel a ganlyn:||||

|**Nifer o aelodau yn cyfrannu:**|||**Cyfanswm:**||
||2025|_(2024)_|2025|_(2024)_|
|£750 neu fwy|8|_(10)_|£8000|_£9070_|
|Rhwng £500 a £749|9|_(10)_|£5545|_£5640_|

4

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

|Rhwng £250 a £499|30|_(26)_|£9495|_£8216_|

|Rhwng £100 a £249|33|_(40)_|£5770|_£7005_|
|Rhwng £5 a £99|17|_(24)_|£1056|_£1303_|
|Dim|41|_(32)_|£0|_£0_|
|**Cyfanswm**|**138**|**_(142)_**|**£29866**|**_£31234_**|

Am bob aelod sydd wedi ei gofrestru ar lyfrau’r Eglwys rydym yn talu tâl aelodaeth i’r ddau Undeb.  Y cyfanswm ar gyfer 2025 oedd £1978, sy'n cynrychioli £14 fesul aelod.  Telir hwn os yw'r aelod yn cyfrannu'n ariannol i'r Eglwys neu beidio.  Ni chyfrannodd 41 o'n haelodau cofrestredig (30% o’r cyfanswm) yn ariannol at ein hachos yn ystod y flwyddyn.  Er gwaethaf y ffioedd aelodaeth o £574 rydym wedi talu ar eu rhan, dylai hyn beri pryder i ni mewn llawer o ffyrdd eraill, ac mae'n fater y mae angen i'r Eglwys fynd i'r afael ag ef yn fuan.

Cafwyd gostyngiad bach yng nghostau rhedeg o gymharu â 2024 (2%). Arhosodd costau gwres a golau yn uchel drwy gydol y flwyddyn, ond dylem weld gostyngiad yn 2026 pan ddaw cytundeb nwy newydd a rhatach, i rym.

Ar ôl tynnu gwariant cyfalaf ac eithriadol mae'r cyfrifon yn dangos colled o £7967 am y flwyddyn.  Ac eithrio ein cyfrifon banc gyda NatWest, a ddefnyddir i dalu costau rhedeg dyddiol, roedd cyfanswm ein buddsoddiadau wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn yn £666,766. Mae un gronfa gyfyngedig o £158,402 wedi'i chynnwys yn y ffigwr hwn, sy'n cynrychioli'r arian a gafwyd o werthu Eglwys Pendref, ac un gronfa ddynodedig o £139,495 sy'n cynrychioli'r arian a gafwyd o werthu mans Pendref.  Ni ragwelir unrhyw newidiadau i'r dynodiadau hyn yn y dyfodol agos.

Ydy, mae cyfanswm ein cronfeydd wrth gefn yn sylweddol, ond fel Sefydliad Corfforol Elusennol (SCE) mae gan yr Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cadarn hefyd i ddilyn polisi'r Eglwys ar gyfer rheoli'r cronfeydd hyn. Mae'r polisi hwn yn rhan o'n cyfansoddiad, a gafodd ei fabwysiadu'n unfrydol gan ein haelodau pan sefydlwyd yr SCE.  Dyma atgof o'r polisi hwnnw:

Mae Ymddiriedolwyr Emaus SCE yn ystyried yn ddoeth, yn amodol ar adolygiad blynyddol i:

- ddefnyddio'r incwm o'r buddsoddiadau i gryfhau incwm yr Eglwys a lleihau neu ddileu'r bwlch rhwng ein hincwm a'n gwariant.

- defnyddio'r cyfalaf a fuddsoddwyd yn ein cronfeydd anghyfyngedig yn unig, cyn belled ag y bo modd, ar brosiectau penodol sy'n arwain at gyfoethogi nodau ac amcanion ein heglwys a'i Chyfansoddiad.

- rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio'r cyfalaf i gyflwyno mesurau ataliol ac amddiffynnol i ddileu'r holl beryglon iechyd a diogelwch a nodir gan waith parhaus is-bwyllgor Rheoli Risg yr Ymddiriedolaeth.

Gallwn adrodd bod yr holl gamau a phenderfyniadau ariannol a wnaethom yn ystod y flwyddyn wedi’u cyflawni yn unol â’r paramedrau uchod.  Yn ogystal, mae goruchwyliaeth ein rheolaethau ariannol wedi'i chryfhau trwy benodi ymddiriedolwr, sydd hefyd yn ddiacon yr Eglwys, i adolygu'r llyfrau a'r cofnodion a gedwir ar gyfer 2025 cyn eu cyflwyno i'r archwilwyr. Ardystiodd ei chasgliadau fel a ganlyn:

5

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

“Tystiaf fy mod wedi archwilio cyfrifon Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE am y flwyddyn 2025 ar ran yr aelodau a’r ymddiriedolwyr a’u cael yn gryno a chywir.”

Hyd yn hyn nid yw adeilad yr Eglwys wedi'i drosglwyddo i'r SCE.  Mae gwaith i gyflawni hyn yn parhau ond mae'n fwy cymhleth nag a ragwelwyd yn wreiddiol.

Mae ein haelodau wedi ymateb yn arbennig o dda a hael unwaith eto i apeliadau argyfwng byd-eang a lleol dros y flwyddyn, a chodwyd cyfanswm o £1930 rhwng Cymorth Cristnogol (trwy DEC), BMS a Banc Bwyd Bangor. Er nad yw yn ymddangos yn ein cyfrifon ariannol, mae hyn yn haeddu cael ei nodi hefyd: llenwodd ein haelodau ddeunaw o flychau esgidiau â rhoddion ar gyfer plant a phobl ifanc agored i niwed ac o gefndiroedd difreintiedig yn y byd, fel rhan o gynllun "Teams 4U".  Talwyd costau'r postio gan y rhoddwyr eu hunain.

Yn olaf, mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus wrth nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl y bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol ym Mangor yn y dyfodol.

##  **Trafodion â phartïon cysylltiedig**

Mae cyflog yn cael ei dalu i’n gweinidog sydd hefyd yn ymddiriedolwr "ex officio" yr Eglwys. Nid yw'r Parch Casi Jones yn cymryd unrhyw ran mewn trafodaethau am faterion sy'n ymwneud â'i chyflog.

##  **Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth**

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar faterion seciwlar sydd o bryder cyffredinol a phwysig i’r Eglwys gan gynnwys sut mae cronfeydd yr Eglwys yn cael eu rheoli a’u defnyddio, ac ymdrin â materion risg a’r potensial i ddatblygu'r eglwys.  O'r naw ymddiriedolwr, un yw'r Gweinidog, pump yn ddiaconiaid a'r gweddill yn aelodau'r Eglwys. Mae hyn i fod i sicrhau perthynas cydlynol ac anwahanadwy rhwng bywyd ysbrydol a thymhorol yr eglwys.

Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais heblaw ei ymddiriedolwyr. Ysgrifennwyd y ddogfen hon yn dilyn canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr SCE yn Eglwys Emaus ar 23 Tachwedd 2025. Mynychodd tua 40 aelod y cyfarfod naill ai yn adeilad Emaus neu dros ZOOM.  Cymeradwyodd y rhai a oedd yn bresennol adroddiad blynyddol yr SCE am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2024. Yn unol â thelerau ein Cyfansoddiad, ymddeolodd tri ymddiriedolwr presennol yn ffurfiol yn y cyfarfod, gyda’r tri yn cynnig eu hunain i'w hailethol am gyfnod pellach.  Yn dilyn trafodaeth gan yr aelodau, cytunwyd yn unfrydol i ailethol y tri am gyfnod arall.

6

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

##  **Manylion cyfeirnodi a gweinyddol**

Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif elusen gofrestredig: 1188238 Prif gyfeiriad yr Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Lôn Cariadon Bangor Gwynedd LL57 2TE Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen 11 Gorseddfa Criccieth Gwynedd LL52 0DW

|||**Dyddiadau'n**|

|**Enw’r ymddiriedolwr**|**Swydd**|**gweithredu (os nad**|
|||**am flwyddyn gyfan)**|
|Gareth Ffowc Roberts*|Cadeirydd; ysgrifennydd; aelod is-bwyllgor|**-**|
||cyllid||
|Gwyn Eurig Davies*|Cyfreithiwr; aelod is-bwyllgor cyllid|**-**|
|Siân Arwel Davies*|Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu|-|
|Lowri Elis|Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu|**-**|
|Dilwen Lloyd Jones*|Ysgrifennydd yr Aelodaeth; aelod is-bwyllgor|**-**|
||cyllid||
|David Llewelyn Jones|Trysorydd; aelod is-bwyllgor cyllid|**-**|
|Parch Casi Mackenzie Jones|Gweinidog yr Eglwys; aelod is-bwyllgor Risg a|-|
||Datblygu||
|Dylan Owen|Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu|-|
|Meriel Parry*|Cadeirydd yr is-bwyllgor Risg a Datblygu|-|

* _hefyd yn ddiaconiaid yr eglwys_

## **Ymddiriedolwyr corfforaethol** – Dim

**Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen** - Dim **Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill** - Dim **Eithriadau rhag datgelu** – Dim

7

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

##  **Datganiadau**

**Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.  Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:**

**Llofnod Enw llawn** Gareth Ffowc Roberts David Llewelyn Jones **Swydd** Cadeirydd ac ymddiriedolwr Ymddiriedolwr a thrysorydd **Dyddiad** 24 Medi 2026 24 Medi 2026

8

> Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725 **Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE           Rhif : 1188238**

## **Datganiadau Ariannol am y flwyddyn i 31 Rhagfyr 2025**

## **Cyfrif Incwm a Gwariant**

|**Cronfeydd**
**anghyfyngedig**
**Incwm yr Eglwys**
Offrymau
29,866.20

Casgliad rhydd
71.00

Llogi'r Adeilad
840.00

Rhoddion
300.00

Rhodd Wayne James er cof am ei wraig (y diweddar Sue James)
5,000.00

Undeb yr Annibynnwyr

Cyfundeb Arfon (Grant)

Cymanfa Arfon (Grant)
8,050.00

Rhodd Cymorth
6,197.78

Llog
15,948.58

**_Is-gyfanswm  [A]_**
**Costau cynnal yr Egwys o ddydd i ddydd**
Costau'r weinidogaeth -**nodyn (1)**
51,268.42

Glanhau
884.00

Cynnal ac atgyweirio
3,160.77

Gwres a Goleu
6,783.50

Yswiriant
2,163.21

Garddio a chynnal tir
1,390.00

Teleffon/gwasanaeth rhyngrwyd/Zoom
1,673.25

Gwariant swyddfa a'r gegin
155.01

Mudiad y Chwiorydd
20.00

Ffi'r Archwiliwr
3,180.00

Trethi Dwr
360.99

Yr Ysgol Sul
15.98

Organ
540.00

BMS (Cyfraniad yr Eglwys)
90.35

Banc Bwyd (Cyfraniad yr Eglwys)
660.00

Llungopiwr
1,627.86

Amrywiol
267.95

**_Is-gyfanswm [B]_**
**_[A] llai [B] Net o dderbyniadau/(taliadau) [C]_**
**Gwariant eithriadol iechyd a diogelwch (Maes Parcio a.y.yb)**
£        24,184.71
**_Is-gyfanswm (costau cyfalaf) [Ch]_**
**_Net o dderbyniadau/(taliadau) rhedeg yr Eglwys [C] llai [Ch]_**
**Apeliadau allanol (derbyniadau) - nodyn (2)**
**1,930.35**

**Arian allan i'r mudiadau (ac eithrio cyfraniad yr Eglwys)**
Banc Bwyd (yn cynnwys £75 yn ddyledus o 2024)
825.00

BMS (yn cynnwys £180 yn ddyledus o 2024)
840.00

DEC (Myanmar)
150.00

**1,815.00**

**_Swm yn ddyledus i'w dalu arô l diwedd y flwyddyn - nodyn (3)_**
**Cyfanswm yr incwm llai'r gwariant am y flwyddyn**|**Cronfeydd**
**dynodedig**
**Cronfeydd**
**cyfyngedig**
**Cyfanswm**

**£   29,866.20**

**£           71.00**

**£         840.00**

**£         300.00**

**£      5,000.00**

**£      8,050.00**

**£      6,197.78**

**£   15,948.58**
**£     66,273.56**

**£   51,268.42**

**£         884.00**

**£      3,160.77**

**£      6,783.50**

**£      2,163.21**

**£      1,390.00**

**£      1,673.25**

**£         155.01**

**£           20.00**

**£      3,180.00**

**£         360.99**

**£           15.98**

**£         540.00**

**£           90.35**

**£         660.00**

**£      1,627.86**

**£         267.95**
**74,241.29**

**7,967.73**

**£   24,184.71**
**£     24,184.71**

**32,152.44**

**£      1,930.35**

**£         825.00**

**£         840.00**

**£         150.00**

**1,815.00**

**115.35**

**32,037.09**

**£**|**£   66,273.56**
**£   74,241.29**
**7,967.73**

**£   24,184.71**
**32,152.44**

**£        115.35**
**32,037.09**
**-£**|**Y Llynedd**
_£         31,044_
_£              182_
_£           1,960_
_£              550_

_£           4,350_
_£           5,500_
_£           7,665_
_£           6,542_
_£         16,025_|

||||_£         73,819_
_£         51,077_
_£           1,032_
_£           3,637_
_£           7,079_
_£           2,442_
_£           1,890_
_£           1,848_
_£              196_
_£                20_
_£           3,030_
_£              272_
_£                72_
_£              530_

_£              660_
_£           1,371_
_£              574_|
||||_£         75,729_
_1,910_

330

||||_£              330_
_2,240_

||||_2,551_

_£           1,233_
_£              810_
_£              301_
_2,344_

||||_207_

_-£          2,033_|

24/09/2026

> Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725 **Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE           Rhif : 1188238**

**----- Start of picture text -----**

Nodyn (1) Nodyn (2)  Nodyn (3)
Costau'r Weinidogaeth £              32,895 Banc Bwyd £                   770 MAP £             330
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £                3,307 Lloches Bangor £                20
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £                7,982 BMS £                   660 Banc Bwyd £                20
Cytun Bangor £                   100 DEC Myanmar £                   150 £              370
Llogi Swyddfa £                4,406 MAP £                  330 BMS (2024) £              180
Yr Ysgol Sul £                   - Lloches Bangor £                    20 Banc Bwyd (2024) £               75
Pregethwyr  £                   600 £             115
Undeb/Cymanfa Arfon y Bedyddwyr £               1,533 £               1,930
Undeb/Cyfundeb Yr Annibynwyr £                   445
£             51,268
**----- End of picture text -----**

## **Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2025**

**----- Start of picture text -----**

Cronfeydd  Cronfeydd  Cronfeydd
Cronfeydd Arian Parod Cyfanswm
anghyfyngedig dynodedig cyfyngedig
Cyfrif Banc NatWest - Arian allanol £                   782  £                 - £                        - £                   782
Cyfrifon Banc NatWest - Cyfredol £                6,210  £                 - £                        - £               6,210
Cyfrif Banc NatWest - Cadw £                7,187  £               7,187
Canaccord Genuity (Gwerthiant Pendref) £                      -    £                 - £           158,402 £           158,402
M&G Charifund (ex Ymddiriedolwyr Penuel) £             21,314 £                 - £                        - £             21,314
Quilter  £             76,773  £                 - £                        - £             76,773
Canaccord Genuity (ex Ymddiriedolwyr Pendref) £           270,783 £        139,495  £                              -    £           410,278
Cyfanswm cronfeydd arian wrth gefn   £           383,049  £         139,495  £           158,402  £           680,946
**----- End of picture text -----**

||**Asedau Ariannol eraill**|**Cronfa**
**anghyfyngedig**|

||Rhodd Cymorth|**5,924**

## **Asedau a gedwir at ddefnydd yr elusen yn unig**

|**Manylion**|||**Cost**|||**Gwerth**
**31/12/2025**|

|Gliniadur (prynwyd yn 2020)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**1,371**|**£**|**50**

|Microdon (2022)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**87**|**£**|**20**

|Cloriau i'r rheiddiaduron yn y festri (2022)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**4,338**
|**£**|**1,500**

|Tostiwr (2023)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**48**
|**£**|**20**

|Ffôn Symudol (2023)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**489**
|**£**|**10**

|Prosiect Technoleg (2023)|Cronfa anghyfyngedig|**£**|**12,946**
||**£**|**9,000**

|Rhewgell (prynwyd yn 2024)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**330**|**£**|**100**

## **Dyledion**

|**Dyledion**|||

|||**Cost**|
|Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol|Cronfa anghyfyngedig|**£                 2,132**|
|Creative Pension|Cronfa anghyfyngedig|**£                    283**|
|Ecclesiastical Insurance|Cronfa anghyfyngedig|**£                 1,479**|
|Nwy Cymru|Cronfa anghyfyngedig|**£                 1,062**|

|**Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr**
**Trysorydd**|**Llofnod**|**Dyddiad**
**24 Medi 2026**
**David Llewelyn Jones**
**Enw**|

24/09/2026

Docusign Envelope ID: 52F1733E-13DE-8EA9-83DA-11447345C725

## **Eglwys Gydenwadol Emaus, Bangor**

## **Mantolen 31 Rhagfyr 2025**

|**Cyfalaf 01 Ionawr 2025**
Banc- NatWest Cyfredol
Banc - NatWest Cadw
Banc - NatWest Cyfrif arian allanol
Canaccord Genuity (Cronfa cyfyngedig)
Canaccord Genuity (anghyfyngedig 68%)
Canaccord Genuity (dynodedig 32%)
Quilter (Cronfa anghyfyngedig)
M&G (Cronfa anghyfyngedig)
Elw/(Colled)
Trosglwyddiad o Quilter i gyfrif cyfredol
Trosglwyddiad o Canaccord i gyfrif cyfredol
Cynnydd yng ngwerth asedau|**gwerthiant Pendref**
294,481.48

138,579.52

32,037.09

5,000.00

30,000.00

8,502.19
-£|**Cyfalaf 31 Rhagfyr 2025**
6,239.20

Banc- NatWest Cyfredol
4,069.08

Banc - NatWest Cadw
907.60

Banc - NatWest Cyfrif arian allanol
151,497.00

Canaccord Genuity (Cronfa cyfyngedig)
Canaccord Genuity (anghyfyngedig 66%)
270,783.00

433,061.00

Canaccord Genuity (dynodedig 34%)
139,495.00

73,604.34

Quilter (Cronfa anghyfyngedig)
17,106.83

M&G (Cronfa anghyfyngedig)
5,539.28

**680,945.77**
**£**|6,209.59

7,187.26

781.94

158,402.00

410,278.00

76,773.04

21,313.94

**Cynnydd**
Quilter
Canaccord
Canaccord
M&G
**Cyfanswm**
**680,945.77**
**£**|3,168.70

6,905.00

22,783.00

4,207.11

**8,502.19**

**Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon**

**Adran A Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol**

**Adroddiad i** Enw'r Elusen **ymddiriedolwyr/aelodau Ar y cyfrifon am y Rhif yr Elusen flwyddyn yn diweddu (os oes) I'w gweld ar dudalennau** 1 - 11 (cofiwch gynnwys rhifau tudalennau dalennau ychwanegol) Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod ("yr Ymddiriedolaeth") am y flwyddyn yn diweddu **DD / MM / BBBB** . **Cyfrifoldebau a'r sail** Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth, rydych yn gyfrifol am baratoi'r **adrodd** cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf.

**Datganiad yr archwiliwr** Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion **annibynnol** perthnasol wedi dod i'm sylw (heblaw'r hyn a ddatgelir isod *) mewn perthynas â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd berthnasol:

ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o'r Ddeddf neu

nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r cofnodion cyfrifyddu

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon.

**Cymhwyster (cymwysterau) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes): Cyfeiriad:**

**Hydref  2018**

1

**IER**

**Adran B**

## **Datgeliad**

Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwiliwr dynnu sylw at faterion o bryder (gweler CC32, Archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwilwyr).

**Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu.**

**Hydref  2018**

2

**IER**