Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 1 Ionawr 2024 hyd at 31 Rhagfyr 2024
Enw’r Elusen: Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE
Rhif yr Elusen: 1188238
Amcanion a Gweithgareddau
Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.
Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.
Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys. Gwnawn hynny trwy:
-
Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol.
-
Darparu gofal bugeiliol.
-
Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd.
-
Hybu gwaith cenhadol.
I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.
Wrth gynllunio a datblygu rhaglen waith yr Eglwys, rydym yn ceisio dilyn anogaethau ein ffydd a gwrando ar leisiau’n haelodau ac ymateb i bobl anghenus yn ein cymdeithas a’n byd gan wneud hynny yn ymwybodol o ganllawiau arweiniad y Comisiwn sy’n ymwneud gyda budd i’r cyhoedd.
Cyflawniadau a Pherfformiad
Addoliad a Gweddi
Yn ystod 2024, roedd modd i ni ddarparu oedfaon bob bore Sul ar nifer o themâu yn perthyn i’r ffydd Gristnogol. Roedd y gwasanaethau’n cynnwys y cyfle i addoli, i ddysgu mwy am ein ffydd ac i weddïo am faterion personol, lleol a rhyngwladol. Daeth y cyfle ym mis Chwefror i gydnabod cyfraniad y tîm o organyddion sy’n gwasanaethu’r eglwys ar y Sul. Rhwng y saith
1
ohonynt, roeddent wedi cyflawni 430 o flynyddoedd o wasanaeth. Manteisiwyd ar gyfle yn fisol i groesawu gweinidog gwadd i arwain ein gwasanaethau a’r gweddill yn cael eu harwain gan y gweinidog a nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion. Gyda dyfodiad sgriniau ac offer pwrpasol i’r Capel, bu modd i ni ddechrau cynnwys mwy o’r elfen weledol yn ein mawl. Yn ystod 2024, dechreuwyd rhoi geiriau’r emynau ar powerpoint i’w dangos ar y sgriniau yn y Capel a hefyd y rhai sy’n ymuno â’r gwasanaethau o adre. Ddechrau’r flwyddyn cawsom siaradwr o bell yn annerch cyfarfod yn y Capel dan nawdd Cytûn sy’n agor posibiliadau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn, dewisodd nifer o bobl ddod i’r capel i addoli ond roedd eraill, oherwydd rhesymau iechyd neu amgylchiadau arbennig, yn dewis ymuno ar Zoom naill ai drwy’r cyfrifiadur neu ar ffôn y tŷ. Gyda’r offer technolegol newydd, bu modd i ni wella ansawdd y lluniau a’r sain i’r rhai oedd yn ymuno o adre. Dosbarthwyd deunydd myfyrio wythnosol i 80 o gartrefi drwy’r We a dosbarthwyd yr un deunydd i 15 o gartrefi nad ydynt yn defnyddio’r We. Ar ddechrau 2024 roedd 148 o aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y We, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.
Plant, pobl ifanc a’u teuluoedd
Er i ni lwyddo i gadw cysylltiad da gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod cyfnod Covid, bu’n fwy anodd gwneud hynny wedi i fudiadau a sefydliadau eraill ailagor eu drysau a threfnu gweithgareddau ar foreuau Sul, yr adeg draddodiadol i gynnal oedfa ac Ysgol Sul. Serch hynny, cawsom nifer o wasanaethau bendithiol pob oed a chadw cysylltiad gyda’r teuluoedd yn ystod y flwyddyn.
Addysg Oedolion
Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd. Yn ystod 2024 roedd modd i ni dderbyn arweiniad gwahanol aelodau o’r dosbarth oedd yn ychwanegu at gyfoeth y sesiwn gan fanteisio ar adnoddau gwerthfawr yn y Gymraeg gan Gyhoeddiadau’r Gair.
Cyfathrebu a Gofal Bugeiliol
Yn ogystal â derbyn deunydd addoli wythnosol, roedd aelodau a chyfeillion yr Eglwys yn derbyn llythyrau yn ystod y flwyddyn ar ebost neu trwy’r drws yn cynnwys newyddion am gydaelodau, hysbysiadau am ddigwyddiadau ac unrhyw ddiweddariad am drefniadau addoli yn y capel.
Yn ogystal, dosbarthwyd cylchgrawn misol – Y Negesydd –yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl oedd yn dymuno hynny drwy’r flwyddyn. Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau ddefnyddio eu doniau creadigol i gyfrannu erthyglau a lluniau i’r cylchgrawn ac yn ychwanegu at ein nod o gyfathrebu’n dda i gadw pawb gyda’i gilydd.
Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr.
Mae’r gweinidog a nifer o’r aelodau yn cadw cysylltiad hefyd gyda chleifion yn yr ysbyty, yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal. O dro i dro, yn dilyn profedigaeth, cynhaliwyd gwasanaethau angladd ac ymweliadau bugeiliol gyda theuluoedd mewn galar a hyn yn rhan o ofal bugeiliol naturiol yr eglwys i’r galarus.
2
Yn ystod 2024, cynhaliwyd cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd. Er mor brysur yw bywydau pawb y dyddiau hyn, bu criw cyson, ffyddlon yn dod i’r weithgaredd yma oedd yn help i greu’r ymdeimlad o deulu.
Gwaith cenhadol a chymdeithasol
Mewn blwyddyn arferol, mae grŵp o’r aelodau yn cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad i hybu pryniant nwyddau Masnach Deg. Trwy ymdrechion lew y trefnwyr, llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon yn 2024 gan gynnig ystod eang o nwyddau er gwaetha’r ffaith bod Traidcraft ei hun wedi gorfod dirwyn i ben.
Llwyddodd yr Eglwys unwaith eto i gyfrannu at weithgareddau Cytûn Bangor yn cynnwys cydaddoli a chefnogi elusennau lleol. Llwyddwyd i ddal ati i gefnogi’r Banc Bwyd lleol a hynny mewn cyfnod pan mae mwy o angen nag erioed am y ddarpariaeth yma oherwydd y dirwasgiad yn dilyn y cyfnod clo.
Er gwaetha’r argyfwng costau byw, llwyddwyd i ddal ati i gyfrannu i roi cymorth dyngarol yn rhyngwladol. Cafwyd cefnogaeth dda i weithgareddau Cymorth Cristnogol a’r BMS (Baptist Missionary Society) yn ystod y flwyddyn gyda’r aelodau’n cael y fraint o gyfrannu’n hael yn ôl eu harfer at yr angen mewn gwledydd sy’n datblygu. Bu’r byd a’i anghenion yn ein gwasanaethau ac yn ein gweddïau’n gyson.
Braf oedd medru parhau i groesawu a chefnogi Ti a Fi i Emaus yn wythnosol yn ystod y tymhorau ysgol, cynllun Mudiad Ysgolion Meithrin i gefnogi plant, eu rhieni a’u gofalwyr a hybu’r defnydd o’r Gymraeg gyda phlant bach dan oed ysgol.
Mae’r noson agored yn Emaus dan nawdd mudiad Pobl i Bobl i gynnig cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob cwr o’r byd yn parhau yn rhan bwysig o batrwm yr wythnos. Braf oedd medru gwneud defnydd llawn o adnoddau’r gegin i baratoi bwyd a chynnig ddillad aillaw yn enwedig cotiau cynnes ar gyfer y gaeaf ac offer coginio a dillad gwely pan fo angen. Mae’r cyfarfod nos Fercher yn gyfle iddynt dderbyn cefnogaeth gyda llenwi ffurflenni a mynychu cyfweliadau yn ymwneud â’u harhosiad yma ac i dderbyn cyngor a chymorth i gofrestru ar gyrsiau. Yn ystod y flwyddyn bu Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiynau yn ystod gwyliau’r ysgol i famau a phlant dan arweiniad un o’n haelodau, Esyllt Bryn sy’n gweithio’n llawn amser ymhlith ffoaduriaid ar ran y Cyngor.
Mae’r bartneriaeth ddechreuwyd ddwy flynedd yn ôl rhyngom ag Eglwys Uniongred Blaenau Ffestiniog wedi parhau a thyfodd yr Offeren yn gyfle cenhadol iddynt estyn allan i bobl o nifer o wahanol gefndiroedd ac ieithoedd yn ardal Bangor. Yn ystod 2024, ordeiniwyd offeiriad newydd sef y Tad Lasarus i gynorthwyo’r Tad Deiniol yn y gwaith o arwain gwasanaethau a bugeilio’r praidd. Braf yw cael cefnogi eglwys arall yn ei chenhadaeth yn yr ardaloedd yma.
Braf oedd gweld Bugeiliaid y Stryd yn mynd allan ar eu teithiau bugeiliol ar benwythnosau yn ystod y tymor Coleg. Gyda phatrymau cymdeithasu myfyrwyr a phobl ifanc eraill yn newid, bu’r tîm yn addasu eu horiau a’u patrwm i ymateb i’r newidiadau. Wrth i nifer roi’r gorau i’r gwaith, braf oedd cael comisiynu aelod newydd i’r tim yn ystod y flwyddyn.
Braint oedd gwasanaethu Crist yn ei Eglwys ac yn ei fyd yn ystod 2024 dan arweiniad ein Tad Nefol, yng nghwmni Crist ein ffrind a’n Gwaredwr ac yn nerth yr Ysbryd Glân. Braf hefyd oedd cael cwmni’n gilydd fel gweinidog, swyddogion, aelodau a chyfeillion ar y daith.
3
Mae’r gweinidog a nifer o’r aelodau yn cadw cysylltiad hefyd gyda chleifion yn yr ysbyty, yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal. Ddiwedd y flwyddyn, dechreuwyd ymweld â dau gartref gofal pob mis i gynnal gwasanaeth mewn cydweithrediad gydag Offeiriad o’r Eglwys yng Nghymru.
Gwaith yr Is-bwyllgor Risg a Datblygu
Yn ystod 2024 parhawyd gyda’r gwaith o ddatblygu Polisi Iechyd a Diogelwch dan arweiniad yr Is-bwyllgor Risg a Datblygu, sy’n adrodd i’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr llawn a thrwy hwnnw i’r aelodau. Yn ogystal ag edrych ar faterion diogelwch yr adeilad a’r tir oddi amgylch, mae’r eglwys hefyd wedi penodi dwy i fod yn gyfrifol am y maes pwysig o ddiogelu plant ac oedolion bregus o fewn gweithgareddau’r eglwys - un ymddiriedolwr ac un aelod o’r Eglwys. Mae Meriel Parry yn gyfrifol am ddelio gydag unrhyw achosion diogelu sy’n codi ac Eleri Lloyd Jones yn gyfrifol am Hyfforddiant Diogelu a gwiriadau DBS o fewn yr Eglwys. Yn ystod 2024 cynhaliwyd gwasanaeth ar thema diogelu i sicrhau bod y neges yn glir i’r aelodau i gyd bod diogelu yn gyfrifoldeb i bob un ohonom. Dros y flwyddyn, mae pwysigrwydd asesiadau risg wedi parhau yn rhan naturiol o feddylfryd yr eglwys, ei phwyllgorau a’i haelodau. Mae rhagor o waith i’w gyflawni er mwyn sefydlu Polisi Iechyd a Diogelwch cynhwysfawr ac rydym yn derbyn anogaeth a chefnogaeth gyson gan y ddau Enwad rydym yn perthyn iddynt.
Adolygiad Ariannol
Ein hincwm net am y flwyddyn oedd £73,829, sy'n gynnydd o 10% dros y flwyddyn flaenorol. Mae hyn oherwydd cynnydd sylweddol yn incwm o fuddsoddiadau'r Eglwys dros y flwyddyn flaenorol. Mae'r incwm o ffynonellau eraill, yn gyffredinol, wedi aros yr un fath â'r llynedd.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Cymanfa Undeb Bedyddwyr Arfon a Chyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon am eu grantiau sylweddol o £17515 a dderbyniwyd ganddynt yn 2024 tuag at gost cyflogi ein gweinidog. Gwariwyd 69% o’n hincwm net am y flwyddyn ar y weinidogaeth (72% y llynedd).
Cyfanswm yr offrymau gan ein haelodau am y flwyddyn (ac eithrio unrhyw ychwanegiad a wnaethpwyd ar gyfer Rhodd Cymorth) oedd £31,234, wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:
| Nifer o aelodau yn cyfrannu: | Nifer o aelodau yn cyfrannu: | Nifer o aelodau yn cyfrannu: | Cyfanswm: | Cyfanswm: |
|---|---|---|---|---|
| 2024 | (2023) | 2024 | (2023) | |
| £750 neu fwy | 10 | (8) | £9070 | £9730 |
| Rhwng £500 a £749 | 10 | (8) | £5640 | £4820 |
| Rhwng £250 a £499 | 26 | (26) | £8216 | £8915 |
| Rhwng £100 a £249 | 40 | (42) | £7005 | £7485 |
| Rhwng £5 a £99 | 24 | (28) | £1303 | £1445 |
| Dim | 32 | (35) | £0 | £0 |
| Cyfanswm | 142 | 147 | £31234 | £32395 |
4
Am bob aelod sydd wedi ei gofrestru ar lyfrau’r Eglwys rydym yn talu tâl aelodaeth i’r ddau Undeb. Y cyfanswm ar gyfer 2024 oedd £1970, sy'n cynrychioli £14 fesul aelod. Telir hwn os yw'r aelod yn cyfrannu'n ariannol i'r Eglwys neu beidio.
Mae ein haelodau wedi ymateb yn arbennig o dda a hael unwaith eto i apeliadau argyfwng byd-eang a lleol dros y flwyddyn, a chodwyd cyfanswm o £2550 rhwng Cymorth Cristnogol, BMS a Banc Bwyd Bangor.
Cynyddodd ein gwariant ar gostau rhedeg yr Eglwys 7% o’i gymharu â 2023. Unwaith eto roedd y cynnydd mwyaf sylweddol yn ymwneud â chostau ynni, enwedig cost nwy (£4760 am y flwyddyn). Mae'n debygol y bydd y costau hyn yn parhau drwy gydol 2025 nes y byddwn yn gallu sicrhau cytundeb newydd ar ddechrau 2026.
Ar ôl tynnu gwariant cyfalaf ac eithriadol mae'r cyfrifon yn dangos colled o £2230 am y flwyddyn. Ar yr ochr gadarnhaol roedd cynnydd sylweddol yn yr incwm o'n buddsoddiadau (£16025 o'i gymharu â £7900 yn y flwyddyn flaenorol). Fodd bynnag, mae ein costau ynni yn parhau i godi – yn y flwyddyn 2021 roeddent yn £1477 ac yn awr maent yn £7078, cynnydd enfawr o 380%!
Ers sefydlu'r SCE mae'r aelodau wedi awdurdodi a rhoi'r cyfrifoldeb i'r Ymddiriedolwyr rheoli cyllid yr Eglwys yn gadarn yn ôl ein cyfansoddiad, gofynion y Comisiwn Elusennol, a'n Polisi Cronfeydd Wrth Gefn sydd yn parhau fel a ganlyn:
“Mae Ymddiriedolwyr Emaus SCE yn ystyried yn ddoeth, yn amodol ar adolygiad blynyddol i:
- ddefnyddio'r incwm o'r buddsoddiadau i gryfhau incwm yr Eglwys a lleihau neu ddileu'r bwlch rhwng ein hincwm a'n gwariant.
• defnyddio'r cyfalaf a fuddsoddwyd yn ein cronfeydd anghyfyngedig yn unig, cyn belled ag y bo modd, ar brosiectau penodol sy'n arwain at gyfoethogi nodau ac amcanion ein heglwys a'i Chyfansoddiad.
• rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio'r cyfalaf i gyflwyno mesurau ataliol ac amddiffynnol i ddileu'r holl beryglon iechyd a diogelwch a nodir gan waith parhaus is-bwyllgor Rheoli Risg yr Ymddiriedolaeth.”
Ar ddiwedd y flwyddyn cyfanswm ein cronfeydd wrth gefn oedd £686,485. O'r rhain roedd:
-
£151,497 mewn cronfa cyfyngedig (arian o werthiant Pendref)
-
£138,580 mewn cronfa dynodedig (arian o werthiant mans Pendref)
-
Y gweddill o £396,408 ar gael fel cronfa anghyfyngedig
Ar wahân i'r cronfeydd anghyfyngedig, mae gweddill y cronfeydd (ynghyd ag adeilad presennol ein heglwys ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i'r SCE) wedi'u neilltuo er mwyn parhau a sicrhau ein presenoldeb fel eglwys ym Mangor.
5
Gallwn adrodd bod yr holl gamau a phenderfyniadau ariannol a wnaethom yn ystod y flwyddyn wedi’u cyflawni yn unol â’r paramedrau uchod. Yn ogystal, mae goruchwyliaeth ein rheolaethau ariannol wedi'i chryfhau trwy benodi dau ymddiriedolwr, sydd hefyd yn ddiaconiaid yr Eglwys, i adolygu'r llyfrau a'r cofnodion a gedwir ar gyfer 2024 cyn eu cyflwyno i'r archwilwyr. Ardystiodd y ddau eu casgliadau fel a ganlyn:
“Tystiaf fy mod wedi archwilio cyfrifon Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE am y flwyddyn 2024 ar ran yr aelodau a’r ymddiriedolwyr a’u cael yn gryno a chywir.”
Hyd yn hyn nid yw adeilad yr Eglwys wedi'i drosglwyddo i'r SCE. Mae gwaith i gyflawni hyn yn parhau ond mae'n fwy cymhleth nag a ragwelwyd yn wreiddiol.
Yn olaf, mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus wrth nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl y bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol ym Mangor yn y dyfodol.
Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth
Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar faterion seciwlar sydd o bryder cyffredinol a phwysig i’r Eglwys gan gynnwys sut mae cronfeydd yr Eglwys yn cael eu rheoli a’u defnyddio, ac ymdrin â materion risg a’r potensial i ddatblygu'r eglwys. O'r naw ymddiriedolwr, un yw'r Gweinidog, pedwar yn ddiaconiaid a'r gweddill yn aelodau'r Eglwys. Mae hyn yn sicrhau perthynas cydlynol ac anwahanadwy rhwng bywyd ysbrydol a thymhorol yr eglwys.
Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais heblaw ei ymddiriedolwyr. Ysgrifennwyd y ddogfen hon yn dilyn canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.
Yn dilyn ymddeoliad un o’r ymddiriedolwyr yn 2023, ymgymerodd y Bwrdd i recriwtio ymddiriedolwr newydd yn unol ag Adran 13 Cymal 5 o'n Cyfansoddiad a chanllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau. Gwnaed penodiad o'r fath ar 17 Ebrill 2024.
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr SCE yn Eglwys Emaus ar 8 Rhagfyr 2024. Mynychodd 42 aelod y cyfarfod naill ai yn adeilad Emaus neu dros ZOOM. Cymeradwyodd y rhai a oedd yn bresennol adroddiad blynyddol yr SCE am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2023. Yn unol â thelerau ein Cyfansoddiad, ymddeolodd tri ymddiriedolwr presennol yn ffurfiol yn y cyfarfod, gyda’r tri yn cynnig eu hunain i'w hailethol am gyfnod pellach. Yn dilyn trafodaeth gan yr aelodau, cytunwyd yn unfrydol i ailethol y tri am gyfnod arall.
6
Manylion cyfeirnodi a gweinyddol
| Enw’r Elusen | Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE | |
|---|---|---|
| Rhif elusen gofrestredig: | 1188238 | |
| Prif gyfeiriad yr Elusen | Eglwys Gydenwadol Emaus | |
| Lôn Cariadon | ||
| Bangor | ||
| Gwynedd LL57 2TE | ||
| Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen | 11 Gorseddfa | |
| Criccieth | ||
| Gwynedd LL52 0DW | ||
| Dyddiadau'n | ||
| Enw’r ymddiriedolwr | Swydd | gweithredu (os |
| nad am flwyddyn | ||
| gyfan) | ||
| Gareth Ffowc Roberts* | Cadeirydd; ysgrifennydd; aelod is-bwyllgor | - |
| cyllid | ||
| Gwyn Eurig Davies* | Cyfreithiwr; aelod is-bwyllgor cyllid | - |
| Lowri Elis | Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu | Penodwyd |
| 17/04/24 | ||
| Dilwen Lloyd Jones* | Ysgrifennydd yr Aelodaeth; aelod is-bwyllgor | - |
| cyllid | ||
| David Llewelyn Jones | Trysorydd; aelod is-bwyllgor cyllid | - |
| Parch Casi Mackenzie Jones | Gweinidog yr Eglwys; aelod is-bwyllgor Risg a | - |
| Datblygu | ||
| Dylan Owen | Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu | - |
| Meriel Parry | Cadeirydd yr is-bwyllgor Risg a Datblygu | - |
| Siân Arwel Davies* | Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu | - |
| *hefyd yn ddiaconiaid yr eglwys |
Ymddiriedolwyr corfforaethol – Dim
Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen - Dim Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill - Dim Eithriadau rhag datgelu – Dim
7
Datganiadau
----- Start of picture text -----
Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr
uchod. Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:
Llofnod
Enw llawn Gareth Ffowc Roberts David Llewelyn Jones
Swydd Cadeirydd ac ymddiriedolwr Ymddiriedolwr a thrysorydd
Dyddiad 13 Awst 2025 13 Awst 2025
----- End of picture text -----
8
Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE - Rhif:1188238
Datganiadau Ariannol am y flwyddyn i 31 Rhagfyr 2024
| Cyfrif Incwm a Gwariant | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd anghyfyngedig Incwm yr Eglwys Offrymau 31,044.00 £ Casgliad rhydd 182.00 £ Llogi'r Adeilad 1,959.99 £ Rhoddion 550.00 £ Rhodd Pantyfedwen (Prosiect Technoleg) - £ Undeb yr Annibynnwyr 4,350.00 £ Cyfundeb Arfon (Grant) 5,500.00 £ Cymanfa Arfon (Grant) 7,665.00 £ Rhodd Cymorth 6,542.47 £ Llog 16,025.34 £ Is-gyfanswm [A] Costau cynnal yr Egwys o ddydd i ddydd Costau'r weinidogaeth -nodyn (1) 51,077.42 £ Glanhau 1,032.00 £ Cynnal ac atgyweirio 3,636.62 £ Gwres a Goleu 7,078.95 £ Yswiriant 2,441.84 £ Garddio a chynnal tir 1,890.00 £ Teleffon/gwasanaeth rhyngrwyd/Zoom 1,848.05 £ Gwariant swyddfa a'r gegin 195.76 £ Mudiad y Chwiorydd 20.00 £ Ffi'r Archwiliwr 3,030.00 £ Trethi Dwr 271.56 £ Yr Ysgol Sul 72.00 £ Organ 530.00 £ Trosglwyddiad yn ôl i Ymddiriedolwyr Pendref - £ Banc Bwyd (Cyfraniad yr Eglwys) 660.00 £ Llungopiwr 1,370.56 £ Amrywiol 573.81 £ Is-gyfanswm [B] [A] llai [B] Net o dderbyniadau/(taliadau) [C] Prynu Asedau a Gwariant eithriadol - Rhewgell £ 329.99 Is-gyfanswm (costau cyfalaf) [Ch] Net o dderbyniadau/(taliadau) rhedeg yr Eglwys [C] llai [Ch] Apeliadau allanol (derbyniadau) - nodyn (2) 2,550.60 £ Arian allan i'r mudiadau (ac eithrio cyfraniad yr Eglwys) Banc Bwyd (yn cynnwys £83 yn ddyledus o 2023) 1,233.00 £ BMS 810.35 £ Cymorth Cristnogol 300.60 £ 2,343.95 £ Swm yn ddyledus i'w dalu ar ô l diwedd y flwyddyn - nodyn (3) Cyfanswm yr incwm llai'r gwariant am y flwyddyn Cronfeydd ariannol 01/01/2023 Trosglwyddiadau addasiad ailbrisio llai alldyniadau Arian ar law ar ddiwedd y flwyddyn |
Cronfeydd dynodedig £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ 73,818.80 £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - 75,728.57 £ 1,909.77 -£ - £ 329.99 2,239.76 -£ - £ - - - - 206.65 £ 2,033.11 -£ 389,667.00 £ 5,000.00 £ 3,774.16 £ 396,408.05 £ |
Cronfeydd cyfyngedig £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - £ - - £ - - - £ - £ - - - - - - £ 137,102.00 £ 1,478.00 £ 138,580.00 £ |
£ - £ - - £ - - £ - - £ 148,391.00 £ 3,106.00 £ 151,497.00 £ |
Cyfanswm £ 31,044.00 £ 182.00 £ 1,959.99 £ 550.00 £ - £ 4,350.00 £ 5,500.00 £ 7,665.00 £ 6,542.47 £ 16,025.34 £ 73,818.80 £ 51,077.42 £ 1,032.00 £ 3,636.62 £ 7,078.95 £ 2,441.84 £ 1,890.00 £ 1,848.05 £ 195.76 £ 20.00 £ 3,030.00 £ 271.56 £ 72.00 £ 530.00 £ - £ 660.00 £ 1,370.56 £ 573.81 £ 75,728.57 1,909.77 -£ £ 329.99 £ 329.99 2,239.76 -£ £ 2,550.60 £ 1,233.00 £ 810.35 £ 300.60 2,343.95 £ £ 206.65 2,033.11 -£ 675,160.00 £ 5,000.00 £ 8,358.16 £ 686,485.05 £ |
Y Llynedd £ 32,395 £ 184 £ 1,615 £ 200 £ 2,000 £ 3,750 £ 5,500 £ 7,800 £ 5,593 £ 7,900 |
|
| £ 66,936 £ 47,996 £ 1,107 £ 3,528 £ 5,533 £ 2,536 £ 1,780 £ 1,858 £ 137 £ 20 £ 2,886 £ 287 £ - £ 515 £ 175 £ 660 £ 1,468 £ 323 |
||||||
| £ 70,810 3,874 -£ -£ 12,523 16,397 -£ |
||||||
| 3,083 £ £ 1,377 £ 116 £ 1,477 2,970 £ |
||||||
| £ 1,233.00 £ 810.35 £ 300.60 2,343.95 £ |
||||||
| 113 £ -£ 16,284 |
----- Start of picture text -----
Nodyn (1) Nodyn (2)
Costau'r Weinidogaeth £ 31,900 Banc Bwyd £ 1,225
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £ 3,130 BMS £ 990
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £ 8,159 Cymorth Cristnogol £ 336
Cytun Bangor £ 100 £ 2,551
Llogi Swyddfa £ 4,399 Nodyn (3)
Yr Ysgol Sul £ 205 Banc Bwyd £ 75
Pregethwyr £ 1,215 BMS £ 180
Undeb/Cymanfa Arfon £ 1,500 Cymorth Cristnogol £ 35
Undeb/Cyfundeb Yr Annibynwyr £ 470 £ 290
£ 51,077 llai £83 yn perthyn i 2023 -£ 83
£ 207
----- End of picture text -----
Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2024
----- Start of picture text -----
Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd
Cronfeydd Arian Parod Cyfanswm
anghyfyngedig dynodedig cyfyngedig
Cyfrif Banc - Arian allanol £ 908 £ - £ - £ 908
Cyfrifon Banc - Arian yr Eglwys £ 10,308 £ - £ - £ 10,308
Canaccord Genuity (Gwerthiant Pendref) £ - £ - £ 151,497 £ 151,497
M&G Charifund (ex Ymddiriedolwyr Penuel) £ 17,107 £ - £ - £ 17,107
Quilter £ 73,604 £ - £ - £ 73,604
Canaccord Genuity (ex Ymddiriedolwyr Pendref) £ 294,481 £ 138,580 £ - £ 433,061
Cyfanswm cronfeydd arian wrth gefn £ 396,408 £ 138,580 £ 151,497 £ 686,485
----- End of picture text -----
| Asedau Ariannol eraill | Cronfa anghyfyngedig |
|
|---|---|---|
| Rhodd Cymorth | 6,198 £ |
Asedau a gedwir at ddefnydd yr elusen yn unig
| Manylion | Cost | Gwerth 31/12/2024 |
||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Gliniadur (prynwyd yn 2020) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 1,371 | £ | 200 |
|
| Microdon (2022) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 87 | £ | 10 |
|
| Cloriau i'r rheiddiaduron yn y festri (2022) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 4,338 |
£ | 3,000 |
|
| Tostiwr (2023) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 48 |
£ | 30 |
|
| Ffôn Symudol (2023) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 489 |
£ | 15 |
|
| Prosiect Technoleg (2023) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 12,946 |
£ | 10,000 |
|
| Rhewgell (prynwyd yn 2024) | Cronfa anghyfyngedig | £ | 330 | £ | 200 |
Dyledion
| Dyledion | ||
|---|---|---|
| Cost | ||
| Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol | Cronfa anghyfyngedig | £ 2,014 |
| Creative Pension | Cronfa anghyfyngedig | £ 261 |
| Ecclesiastical Insurance | Cronfa anghyfyngedig | £ 1,424 |
| Nwy Cymru | Cronfa anghyfyngedig | £ 771 |
| Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr Trysorydd |
Llofnod |
|---|---|
| Enw | Dyddiad | |||
|---|---|---|---|---|
| David | Llewelyn | Jones | 22 Medi 2025 |
Eglwys Gydenwadol Emaus, Bangor
Mantolen 31 Rhagfyr 2024
Cyfalaf 01 Ionawr 2024
Cyfalaf 31 Rhagfyr 2024
| Banc- NatWest Cyfredol Banc - NatWest Cadw Banc - NatWest Cyfrif arian allanol HSBC Canaccord Genuity (Cronfa dynodedig) Canaccord Genuity (anghyfyngedig 68%) Canaccord Genuity (dynodedig 32%) Quilter (Cronfa anghyfyngedig) M&G (Cronfa anghyfyngedig) Elw/(Colled) Trosglwyddiad o Quilter i gyfrif cyfredol Cynnydd yng ngwerth asedau |
gwerthiant Pendref 278,161.48 £ 130,899.52 £ 2,033.11 -£ 5,000.00 £ 8,358.75 £ |
4,022.63 £ Banc- NatWest Cyfredol 3,642.17 £ Banc - NatWest Cadw 584.19 £ Banc - NatWest Cyfrif arian allanol 19,381.56 £ HSBC (Cronfa anghyfyngedig) 148,391.00 £ Canaccord Genuity (Cronfa cyfyngedig) Canaccord Genuity (anghyfyngedig 68%) 294,481.48 £ 409,061.00 £ Canaccord Genuity (dynodedig 32%) 138,579.52 £ 74,383.75 £ Quilter (Cronfa anghyfyngedig) 15,693.11 £ M&G (Cronfa anghyfyngedig) 11,325.64 £ 686,485.05 £ |
6,239.20 £ 4,069.08 £ 907.60 £ 0.00 £ 151,497.00 £ 433,061.00 £ 73,604.34 £ 17,106.83 £ Cynnydd Quilter Canaccord Canaccord M&G HSBC Cyfanswm 686,485.05 £ |
779.41 -£ 3,106.00 £ 4,292.46 £ 1,413.72 £ 325.98 £ 8,358.75 £ |
|---|---|---|---|---|
Rhif Elusen: 1188238
Docusign Envelope ID: 77CAE69C-6292-4CE8-A1C0-2418C8B3A038
Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon
Adran A Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol
Adroddiad i Enw'r Elusen ymddiriedolwyr/aelodau Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Ar y cyfrifon am y 31ain Rhagfyr 2024 Rhif yr Elusen 1188238 flwyddyn yn diweddu (os oes) I'w gweld ar dudalennau 1 - 11 (cofiwch gynnwys rhifau tudalennau dalennau ychwanegol)
Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod ("yr Ymddiriedolaeth") am y flwyddyn yn diweddu DD / MM / BBBB 31/12/2024 .
Cyfrifoldebau a'r sail Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth, rydych yn gyfrifol am baratoi'r adrodd cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf").
Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf.
-
Datganiad yr archwiliwr Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion annibynnol perthnasol wedi dod i'm sylw (heblaw'r hyn a ddatgelir isod *) mewn perthynas â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd berthnasol:
-
ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o'r Ddeddf neu
-
nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r cofnodion cyfrifyddu
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon.
- Dilëwch y geiriau mewn cromfachau os nad ydynt yn gymwys.
Llofnodwyd: Dyddiad: 16/09/2025 Enw: Sian M. Williams Cymhwyster ICAEW (cymwysterau) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes): Cyfeiriad: 36, Stryd Fawr Pwllheli Gwynedd, LL53 5RT
Hydref 2018
1
IER
Docusign Envelope ID: 77CAE69C-6292-4CE8-A1C0-2418C8B3A038
Adran B
Datgeliad
Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwiliwr dynnu sylw at faterion o bryder (gweler CC32, Archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwilwyr).
Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu.
Hydref 2018
2
IER