# **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 1 Ionawr 2023 hyd at 31 Rhagfyr 2023**

## **Enw’r Elusen:  Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE**

## **Rhif yr Elusen: 1188238**

##  **Amcanion a Gweithgareddau**

Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.

Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys. Gwnawn hynny trwy:

- Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol.

- Darparu gofal bugeiliol.

- Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd.

- Hybu gwaith cenhadol.

I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

Wrth gynllunio a datblygu rhaglen waith yr Eglwys, rydym yn ceisio dilyn anogaethau ein ffydd a gwrando ar leisiau’n haelodau ac ymateb i bobl anghenus yn ein cymdeithas a’n byd gan wneud hynny yn ymwybodol o ganllawiau arweiniad y Comisiwn sy’n ymwneud gyda budd i’r cyhoedd.

##  **Cyflawniadau a Pherfformiad**

## **Addoliad a Gweddi**

Yn ystod 2023, roedd modd i ni ddarparu oedfaon bob bore Sul ar nifer o themâu yn perthyn i’r ffydd Gristnogol. Roedd y gwasanaethau’n cynnwys y cyfle i addoli, i ddysgu mwy am ein ffydd ac i weddïo am faterion personol, lleol a rhyngwladol. Manteisiwyd ar gyfle yn fisol i

groesawu gweinidog gwadd i arwain ein gwasanaethau a’r gweddill yn cael eu harwain gan y gweinidog a nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion. Gyda dyfodiad sgriniau ac offer pwrpasol i’r Capel, bu modd i ni ddechrau cynnwys mwy o’r elfen weledol yn ein mawl.

Yn ystod y flwyddyn, dewisodd nifer o bobl ddod i’r capel i addoli ond roedd eraill, oherwydd rhesymau iechyd neu amgylchiadau arbennig, yn dewis ymuno ar Zoom naill ai drwy’r cyfrifiadur neu ar ffôn y tŷ. Gyda’r offer technolegol newydd, bu modd i ni wella ansawdd y lluniau a’r sain i’r rhai oedd yn ymuno o adre. Dosbarthwyd deunydd myfyrio wythnosol i 80 o gartrefi drwy’r We a dosbarthwyd yr un deunydd i 18 o gartrefi nad ydynt yn defnyddio’r We. Ar ddechrau 2023 roedd 150 o aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y We, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.

## **Plant, pobl ifanc a’u teuluoedd**

Er i ni lwyddo i gadw cysylltiad da gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod cyfnod Covid, bu’n fwy anodd gwneud hynny wedi i fudiadau a sefydliadau eraill ailagor eu drysau a threfnu gweithgareddau ar foreuau Sul, yr adeg draddodiadol i gynnal oedfa ac Ysgol Sul. Serch hynny, cawsom nifer o wasanaethau bendithiol pob oed a chadw cysylltiad gyda’r teuluoedd yn ystod y flwyddyn.

## **Addysg Oedolion**

Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd. Yn ystod 2023 roedd modd ini dderbyn arweiniad gwahanol aelodau o’r dosbarth oedd yn ychwanegu at gyfoeth y sesiwn gan fanteisio ar adnoddau gwerthfawr yn y Gymraeg gan Gyhoeddiadau’r Gair.

## **Cyfathrebu a Gofal Bugeiliol**

Yn ogystal â derbyn deunydd addoli wythnosol, roedd aelodau a chyfeillion yr Eglwys yn derbyn llythyrau yn ystod y flwyddyn ar ebost neu trwy’r drws yn cynnwys newyddion am gydaelodau, hysbysiadau am ddigwyddiadau ac unrhyw ddiweddariad am drefniadau addoli yn y capel.

Yn ogystal, dosbarthwyd cylchgrawn misol – _Y Negesydd_ –yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl oedd yn dymuno hynny drwy’r flwyddyn. Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau ddefnyddio eu doniau creadigol i gyfrannu erthyglau a lluniau i’r cylchgrawn ac yn ychwanegu at ein nod o gyfathrebu’n dda i gadw pawb gyda’i gilydd.

Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr.

Mae’r gweinidog a nifer o’r aelodau yn cadw cysylltiad hefyd gyda chleifion yn yr ysbyty, yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal. O dro i dro, yn dilyn profedigaeth, cynhaliwyd gwasanaethau angladd ac ymweliadau bugeiliol gyda theuluoedd mewn galar a hyn yn rhan o ofal bugeiliol naturiol yr eglwys i’r galarus.

Yn ystod 2023, cynhaliwyd cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd. Er mor brysur yw bywydau pawb y dyddiau hyn, bu criw cyson, ffyddlon yn dod i’r weithgaredd yma oedd yn help i greu’r ymdeimlad o deulu.

## **Gwaith cenhadol a chymdeithasol**

Mewn blwyddyn arferol, mae grŵp o’r aelodau yn cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad i hybu pryniant nwyddau Masnach Deg .  Trwy ymdrechion lew y trefnwyr, llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon yn 2023 gan gynnig ystod eang o nwyddau er gwaetha’r ffaith bod Traidcraft ei hun wedi gorfod dirwyn i ben.

Llwyddodd yr Eglwys unwaith eto i gyfrannu at weithgareddau Cytûn Bangor yn cynnwys cydaddoli a chefnogi elusennau lleol. Llwyddwyd i ddal ati i gefnogi’r Banc Bwyd lleol a hynny mewn cyfnod pan mae mwy o angen nag erioed am y ddarpariaeth yma oherwydd y dirwasgiad yn dilyn y cyfnod clo.

Er gwaetha’r argyfwng costau byw, llwyddwyd i ddal ati i gyfrannu i roi cymorth dyngarol yn rhyngwladol. Cafwyd cefnogaeth dda i weithgareddau Cymorth Cristnogol a’r BMS (Baptist Missionary Society) yn ystod y flwyddyn gyda’r aelodau’n cael y fraint o gyfrannu’n hael yn ôl eu harfer at yr angen mewn gwledydd sy’n datblygu. Bu’r byd a’i anghenion yn ein gwasanaethau ac yn ein gweddïau’n gyson.

Braf oedd medru parhau i groesawu a chefnogi Ti a Fi i Emaus yn wythnosol yn ystod y tymhorau ysgol, cynllun Mudiad Ysgolion Meithrin i gefnogi plant, eu rhieni a’u gofalwyr a hybu’r defnydd o’r Gymraeg gyda phlant bach dan oed ysgol.

Wedi i’r rhan fwyaf o’r ffoaduriaid o’r Wcrain symud o Fangor, penderfynwyd cynnig noson agored yn Emaus dan nawdd mudiad Pobl i Bobl i gynnig cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob cwr o’r byd. Yn fuan iawn, gwelwyd bod hyn yn ychwanegiad gwerthfawr i’r ddarpariaeth ar gyfer cyfeillion sydd wedi byw yma ers rhai blynyddoedd a phobl sydd newydd gyrraedd. Braf oedd medru gwneud defnydd llawn o adnoddau’r gegin i baratoi bwyd a chynnig ddillad yn enwedig cotiau cynnes ar gyfer y gaeaf.

Mae’r bartneriaeth ddechreuwyd ddwy flynedd yn ôl rhyngom ag Eglwys Uniongred Blaenau Ffestiniog wedi parhau a thyfodd yr Offeren yn gyfle cenhadol iddynt estyn allan i bobl o nifer o wahanol gefndiroedd ac ieithoedd yn ardal Bangor.

Braf oedd gweld Bugeiliaid y Stryd yn mynd allan ar eu teithiau bugeiliol ar benwythnosau yn ystod y tymor Coleg. Gyda phatrymau cymdeithasu myfyrwyr a phobl ifanc eraill yn newid, bu’r tîm yn addasu eu horiau a’u patrwm i ymateb i’r newidiadau.

Braint oedd gwasanaethu Crist yn ei Eglwys ac yn ei fyd yn ystod 2023 dan arweiniad ein Tad Nefol, yng nghwmni Crist ein ffrind a’n Gwaredwr ac yn nerth yr Ysbryd Glân. Braf oedd cael cwmni’n gilydd fel gweinidog, swyddogion, aelodau a chyfeillion ar y daith.

##  **Gwaith yr Is-bwyllgor Risg a Datblygu**

Yn ystod 2023 cymerwyd camau i ddatblygu Polisi Iechyd a Diogelwch dan arweiniad yr Isbwyllgor Risg a Datblygu, sy’n adrodd i’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr llawn a thrwy hwnnw i’r aelodau. Mae’r gwaith yn parhau, rhai camau wedi’u cwblhau ac eraill eto ar y gweill.

Cafodd yr Is-bwyllgor arweiniad cadarn ar lafar (yn unig) gan arbenigwr allanol ym maes Asesiad Risg yn sail i’r Polisi Iechyd a Diogelwch. O ganlyniad i hynny nodwyd materion oedd angen sylw yn yr adeilad a’r tir cyfagos a chreuwyd rhestr yn ystod 2023 gan flaenoriaethu’r gwaith oedd angen ei wneud i leihau unrhyw risgiau i rai sy’n defnyddio’r adeilad a’r tir. Nodwyd yr angen i greu ac arddangos rhagor o bosteri i dynnu sylw at faterion Iechyd a Diogelwch a chymerwyd camau penodol i leihau’r risgiau. Yn benodol:

- gosodwyd dau flwch cymorth cyntaf, un yn y gegin ac un yn y cyntedd.

- gosodwyd rhybuddion ar y drysau a’r grisiau i’r llawr isod a’r festri.

- gosodwyd gorchuddion ar y gwresogyddion a’r pibellau i sicrhau diogelwch plant.

- cliriwyd y mwsogl yn y maes parcio a’r llwybrau o amgylch yr adeilad gan grŵp o’r aelodau.

- nodwyd yr angen i sicrhau bod sticeri PAT ar offer trydanol a chofnodi pryd cawsant eu profi.

- mae Cwmni Snowdonia yn anfon rhestr o beth wnaethpwyd yn ystod pob archwiliad ar yr offer tân. Cedwir y manylion gan y Trysorydd.

Dros y flwyddyn, mae pwysigrwydd asesiadau risg wedi dod i’r brig yn gynyddol ac yn rhan naturiol o feddylfryd yr eglwys, ei phwyllgorau a’i haelodau. Mae rhagor o waith i’w gyflawni er mwyn sefydlu Polisi Iechyd a Diogelwch cynhwysfawr a rhagwelir y bydd rhannu profiadau gyda sefydliadau tebyg yn rhan o’r broses honno.

##  **Adolygiad Ariannol**

Ein hincwm net am y flwyddyn oedd £66,936, sy'n gynnydd o 42% dros y flwyddyn flaenorol. Gellir priodoli'r rhesymau am hyn yn bennaf i gynnydd mewn grantiau, a'r incwm o'r

buddsoddiadau a dderbyniwyd, ond yn galonogol hefyd mae incwm o'r offrymau a llogi ein festri hefyd yn uwch na’r llynedd.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Cymanfa Undeb Bedyddwyr Arfon a Chyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon am eu grantiau sylweddol o £16,550 a dderbyniwyd ganddynt yn 2023 tuag at gost cyflogi ein gweinidog. Gwariwyd 72% o’n hincwm net am y flwyddyn ar y weinidogaeth (96% y llynedd).

Hoffem hefyd ddiolch yn ddiffuant i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu grant o £2000, ac i Gymanfa Undeb Bedyddwyr Arfon am eu grant o £500, tuag at gost ein Prosiect Technoleg.

Cyfanswm yr offrymau gan ein haelodau am y flwyddyn (ac eithrio unrhyw ychwanegiad a wnaethpwyd ar gyfer Rhodd Cymorth) oedd £32,395, wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:

|**Nifer o aelodau yn cyfrannu:**|**Nifer o aelodau yn cyfrannu:**|**Nifer o aelodau yn cyfrannu:**|**Cyfanswm:**|**Cyfanswm:**|

||2023|_(2022)_|2023|_(2022)_|
|£750 neu fwy|8|_(7)_|£9730|_£5860_|
|Rhwng £500 a £749|8|_(10)_|£4820|_£6120_|
|Rhwng £250 a £499|26|_(26)_|£8915|_£8775_|
|Rhwng £100 a £249|42|_(40)_|£7485|_£6547_|
|Rhwng £10 a £99|28|_(27)_|£1445|_£1150_|
|Dim|35|_(50)_|£0|_£0_|
|**Cyfanswm**|**147**|**_160_**|**£32395**|**_£28452_**|

Am bob aelod sydd wedi ei gofrestru ar lyfrau’r Eglwys rydym yn talu tâl aelodaeth i’r ddau Undeb.  Y cyfanswm ar gyfer 2023 oedd £1921, sy'n cynrychioli £13 fesul aelod.  Telir hwn os yw'r aelod yn cyfrannu'n ariannol i'r Eglwys neu beidio.

Mae ein haelodau wedi ymateb yn arbennig o dda a hael unwaith eto i apeliadau argyfwng byd-eang a lleol dros y flwyddyn, a chodwyd cyfanswm o £3083 rhwng Cymorth Cristnogol, Ffoaduriaid, BMS a Banc Bwyd Bangor.

Cynyddodd ein gwariant ar gostau rhedeg yr Eglwys 17% o’i gymharu â 2022.  Roedd y cynnydd mwyaf sylweddol yn ymwneud â chostau ynni, a chynnal ac atgyweirio.  Cododd cost nwy a thrydan 143% oherwydd daeth ein contractau tair blynedd ar gyfer y ddau i ben ar ddechrau 2023. Yna cawsom ein hwynebu â’r cynnydd sylweddol yn y costau o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang fel y rhyfel yn yr Wcráin.

Ar ôl tynnu gwariant cyfalaf ac eithriadol mae'r cyfrifon yn dangos colled o £2914 am y flwyddyn.  Mae hyn yn cymharu’n ffafriol â’r golled o £12623 yn 2022.  Y ffactor mwyaf am hyn oedd yr incwm o £7900 o’n buddsoddiadau, cynnydd sylweddol o’r £52 a dderbyniwyd yn 2022.

Mae ein polisi cronfeydd wrth gefn fel a ganlyn:

“Mae Ymddiriedolwyr Emaus SCE yn ystyried yn ddoeth, yn amodol ar adolygiad blynyddol i:

• ddefnyddio'r incwm o'r buddsoddiadau i gryfhau incwm yr Eglwys a lleihau neu ddileu'r bwlch rhwng ein hincwm a'n gwariant.

• defnyddio'r cyfalaf a fuddsoddwyd yn ein cronfeydd anghyfyngedig yn unig, cyn belled ag y bo modd, ar brosiectau penodol sy'n arwain at gyfoethogi nodau ac amcanion ein heglwys a'i Chyfansoddiad.

• rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio'r cyfalaf i gyflwyno mesurau ataliol ac amddiffynnol i ddileu'r holl beryglon iechyd a diogelwch a nodir gan waith parhaus is-bwyllgor Rheoli Risg yr Ymddiriedolaeth.”

Gallwn adrodd bod yr holl gamau a phenderfyniadau ariannol a wnaethom yn ystod y flwyddyn wedi’u cyflawni yn unol â’r polisi hwnnw.  Penderfynodd yr is-bwyllgor cyllid ddod â’n perthynas â HSBC i ben a throsglwyddo’r holl gyfalaf a fuddsoddwyd gyda nhw i Canaccord Genuity ynghyd â’r elw o werthu Eglwys Pendref.  Mae hwn wedi bod yn benderfyniad llwyddiannus ar ein rhan.  Yn ogystal â thwf cyfalaf, rydym bellach yn derbyn incwm sylweddol o'r buddsoddiad hwn. Disgwyliwn dderbyn incwm o leiaf o £15000 o'r holl fuddsoddiadau eleni.

Ar ddiwedd y flwyddyn yr unig ased sydd ar ôl i'w drosglwyddo i'r SCE yw adeilad Penuel.  Yn amodol ar gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau, rydym bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen i drosglwyddo'r adeilad i Emaus.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ein buddsoddiadau neu asedau sydd wedi’u gwneud, neu eu pennu gan unrhyw bersonau neu gyrff allanol.  Pan fydd yr amser yn iawn bydd yr ymddiriedolwyr yn adolygu dynodiadau presennol ein buddsoddiadau i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu anghenion a dymuniadau ein haelodau. Mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus wrth nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl y bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol ym Mangor yn y dyfodol.

##  **Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth**

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar faterion seciwlar sydd o bryder cyffredinol a phwysig i’r Eglwys gan gynnwys sut mae cronfeydd yr Eglwys yn cael eu rheoli a’u defnyddio, ac ymdrin â materion risg a’r potensial i ddatblygu'r eglwys.  Mae chwech o’r ymddiriedolwyr naill ai’n ddiaconiaid neu’n swyddogion yr Eglwys, sy’n sicrhau bod perthynas cydlynol rhwng y ddau gorff.

Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais heblaw ei ymddiriedolwyr. Ysgrifennwyd y ddogfen hon yn dilyn canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr SCE yn Eglwys Emaus ar 26 Tachwedd 2023. Mynychodd 35 aelod y cyfarfod naill ai yn adeilad Emaus neu dros ZOOM.  Cymeradwyodd y rhai a oedd yn bresennol adroddiad blynyddol yr SCE am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2022. Yn unol â thelerau ein Cyfansoddiad, ymddeolodd chwe ymddiriedolwr presennol yn ffurfiol yn y cyfarfod, gyda phump ohonynt yn cynnig eu hunain i'w hailethol am gyfnod pellach.  Yn dilyn trafodaeth gan yr aelodau, cytunwyd yn unfrydol i ailethol y pump am flwyddyn arall.

Ymddeolodd David Ll Jones fel cadeirydd yr ymddiriedolwyr yn y cyfarfod ac etholwyd Gareth Ffowc Roberts yn gadeirydd yn ei le.

##  **Manylion cyfeirnodi a gweinyddol**

|Enw’r Elusen|Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor|SCE|

|Rhif elusen gofrestredig:|1188238||
|Prif gyfeiriad yr Elusen|Eglwys Gydenwadol Emaus||
||Lôn Cariadon||
||Bangor||
||Gwynedd LL57 2TE||
|Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen|11 Gorseddfa||
||Criccieth||
||Gwynedd LL52 0DW||
|**Enw’r ymddiriedolwr**|**Swydd**|**Dyddiadau'n**
**gweithredu (os nad**|
|||**am flwyddyn gyfan)**|
|Gareth Ffowc Roberts*|Cadeirydd; ysgrifennydd; aelod is-|**-**|
||bwyllgor cyllid||
|Gwyn Eurig Davies*|Cyfreithiwr; aelod is-bwyllgor cyllid|**-**|
|Dilwen Lloyd Jones*|Ysgrifennydd yr Aelodaeth; aelod is-|**-**|
||bwyllgor cyllid||
|David Llewelyn Jones*|Trysorydd; aelod is-bwyllgor cyllid|**-**|
|Parch Casi Mackenzie Jones*|Gweinidog yr Eglwys; aelod is-|-|
||bwyllgor Risg a Datblygu||
|Dylan Owen|Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu|-|
|Meriel Parry|Cadeirydd yr is-bwyllgor Risg a|-|
||Datblygu||
|Siân Arwel Davies*|Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu|-|
|Alison Carden*|Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu|Ionawr 2023 –|
|||Tachwedd 2023|

* _hefyd yn ddiaconiaid neu swyddogion yr eglwys_

**Ymddiriedolwyr corfforaethol** – Dim

**Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen** - Dim **Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill** - Dim **Eithriadau rhag datgelu** – Dim

##  **Datganiadau**

**Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.  Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:**

**Llofnod Enw llawn** Gareth Ffowc Roberts David Llewelyn Jones **Swydd** Cadeirydd ac ymddiriedolwr Ymddiriedolwr a thrysorydd

**Dyddiad** 30 Medi 2024

30 Medi 2024

**Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE           Rhif : 1188238**

## **Datganiadau Ariannol am y flwyddyn i 31 Rhagfyr 2023**

## **Cyfrif Incwm a Gwariant**

|**Incwm**
**anghyfyngedig**
**Incwm yr Eglwys**
Offrymau
32,395.00

Casgliad rhydd
183.50

Llogi'r Adeilad
1,615.00

Rhoddion
200.00

Rhodd Pantyfedwen (Prosiect Technoleg)
2,000.00

Undeb yr Annibynnwyr
3,750.00

Cyfundeb Arfon (Grant)
5,500.00

Cymanfa Arfon (Grant)
7,800.00

Rhodd Cymorth
5,592.73

Llog
7,899.93

**_Is-gyfanswm  [A]_**
**Costau cynnal yr Egwys o ddydd i ddydd**
Costau'r weinidogaeth -**nodyn (1)**
47,996.31

Glanhau
1,107.00

Cynnal ac atgyweirio
3,528.44

Gwres a Goleu
5,533.43

Yswiriant
2,535.86

Garddio a chynnal tir
1,780.00

Teleffon/gwasanaeth rhyngrwyd/Zoom
1,858.02

Gwariant swyddfa a'r gegin
136.93

Mudiad y Chwiorydd
20.00

Ffi'r Archwiliwr
2,886.00

Trethi Dwr
287.22

Organ
515.00

Trosglwyddiad yn ôl i Ymddiriedolwyr Pendref
174.99

Banc Bwyd (Cyfraniad yr Eglwys)
660.00

Llungopiwr
1,468.15

Amrywiol
323.00

**_Is-gyfanswm [B]_**
**_[A] llai [B] Net o dderbyniadau/(taliadau) [C]_**
**Prynu Asedau a Gwariant eithriadol**
Tostiwr
£                 47.99
Ffôn Symudol
£               489.00
Prosiect Technoleg
£         11,985.85
**_Is-gyfanswm (costau cyfalaf) [Ch]_**
**_Net o dderbyniadau/(taliadau) rhedeg yr Eglwys [C] llai [Ch]_**
**Apeliadau allanol (derbyniadau) - nodyn (2)**
**3,082.70**

**Arian allan i'r mudiadau**
Ffoaduriaid

Banc Bwyd
1,377.00

BMS
115.55

Cymorth Cristnogol
1,477.00

**2,969.55**

**_Swm yn ddyledus i'w dalu ar ô l diwedd y flwyddyn_**
**Cyfanswm yr incwm llai'r gwariant am y flwyddyn**
**_Cronfeydd ariannol 01/01/2023_**
**_Elw gwerthiant Pendref wedi eu trosglwyddo_**
**_addasiad ailbrisio llai alldyniadau_**
**_Arian ar law ar ddiwedd y flwyddyn_**|**Incwm**
**dynodedig**

**£      66,936.16**

**70,810.35**

**3,874.19**

**£      12,522.84**
**16,397.03**

**£            113.15**
**16,283.88**

**388,311**

**17,640**
**£**|**Incwm**
**cyfyngedig**

**129,878**

**7,224**

**146,568**

**1,823**
**£**|**Cyfanswm**
**£  32,395.00**
**£        183.50**
**£    1,615.00**
**£        200.00**
**£    2,000.00**
**£    3,750.00**
**£    5,500.00**
**£    7,800.00**
**£    5,592.73**
**£    7,899.93**
**£    66,936.16**
**£  47,996.31**
**£    1,107.00**
**£    3,528.44**
**£    5,533.43**
**£    2,535.86**
**£    1,780.00**
**£    1,858.02**
**£        136.93**
**£          20.00**
**£    2,886.00**
**£        287.22**
**£        515.00**
**£        174.99**
**£        660.00**
**£    1,468.15**
**£        323.00**
**£    70,810.35**
**3,874.19**

**£          47.99**
**£        489.00**
**£  11,985.85**

**£    12,522.84**
**16,397.03**

**£    3,082.70**

**£    1,377.00**
**£        115.55**
**£    1,477.00**
**2,969.55**

**£          113.15**

**16,283.88**

**518,189**

**146,568**

**26,686**
**£**|**Cyfanswm**
**£  32,395.00**
**£        183.50**
**£    1,615.00**
**£        200.00**
**£    2,000.00**
**£    3,750.00**
**£    5,500.00**
**£    7,800.00**
**£    5,592.73**
**£    7,899.93**
**£    66,936.16**
**£  47,996.31**
**£    1,107.00**
**£    3,528.44**
**£    5,533.43**
**£    2,535.86**
**£    1,780.00**
**£    1,858.02**
**£        136.93**
**£          20.00**
**£    2,886.00**
**£        287.22**
**£        515.00**
**£        174.99**
**£        660.00**
**£    1,468.15**
**£        323.00**
**£    70,810.35**
**3,874.19**

**£          47.99**
**£        489.00**
**£  11,985.85**

**£    12,522.84**
**16,397.03**

**£    3,082.70**

**£    1,377.00**
**£        115.55**
**£    1,477.00**
**2,969.55**

**£          113.15**

**16,283.88**

**518,189**

**146,568**

**26,686**
**£**|**Y Llynedd**||

|||||||_£         28,452_||
|||||||_£               105_||
|||||||_£               120_||
|||||||_£               200_||

|||||||_£           5,500_||
|||||||_£           6,960_||
|||||||_£           5,651_||
|||||||_£                 52_||
||||||||_£         47,040_|

|||||||_£         45,033_||
|||||||_£           1,185_||
|||||||_£               472_||
|||||||_£           2,278_||
|||||||_£           2,409_||
|||||||_£           1,230_||
|||||||_£           1,888_||
|||||||_£                 71_||
|||||||_£                 20_||
|||||||_£           2,520_||
|||||||_£               253_||
|||||||_£               515_||

|||||||_£           1,461_||
|||||||_£               328_||
|||||||5,698
£|_£         59,663_|
||||||||**12,623**

||||||||_£           7,011_|
||||||||**19,634**

||||||||3,103

**£    1,377.00**
**£        115.55**
**£    1,477.00**||_£               675_
_£           3,180_
_£           2,276_
_£           2,670_||
|||||**2,969.55**

||||||||_-£         22,737_|

||**389,667**
**£**|**137,102**
**£**|**148,391**
**£**||**675,159**
**£**||**_518,189_**

**Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE           Rhif : 1188238**

**----- Start of picture text -----**

Nodyn (1) Nodyn (2)
Costau'r Weinidogaeth £               29,798 Banc Bwyd £                1,500
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £                 3,007 BMS £                   933
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £                8,269 Cymorth Cristnogol £                   650
Cytun Bangor £                    100 £               3,083
Llogi Swyddfa £                 3,959
Yr Ysgol Sul £                       18
Pregethwyr  £                     925
Undeb/Cymanfa Arfon £                 1,462
Undeb/Cyfundeb Yr Annibynwyr £                    459
£              47,996
**----- End of picture text -----**

## **Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2023**

**----- Start of picture text -----**

Cronfeydd  Cronfeydd  Cronfeydd
Cronfeydd Arian Parod Cyfanswm
anghyfyngedig dynodedig cyfyngedig
Cyfrif Banc - Arian allanol  £                    584  £                  - £                 - £                    584
Cyfrifon Banc - Arian yr Eglwys  £                 7,665  £                  - £                 - £                 7,665
Canaccord Genuity (Gwerthiant Pendref)  £                        -    £                  - £          148,391 £            148,391
M&G Charifund (ex Ymddiriedolwyr Penuel)  £              15,693 £                  - £                 - £              15,693
HSBC (ex Ymddiriedolwyr Pendref)  £              13,179 £             6,202 £                 - £              19,382
Quilter   £               74,384  £                  - £                 - £              74,384
Canaccord Genuity (ex Ymddiriedolwyr Pendref) £            278,161 £         130,900  £                     -    £            409,061
Cyfanswm cronfeydd arian wrth gefn   £            389,667  £         137,102  £         148,391  £             675,159
**----- End of picture text -----**

||**Asedau Ariannol eraill**|**Cronfa**
**anghyfyngedig**|

||Rhodd Cymorth|**6,542**

## **Asedau a gedwir at ddefnydd yr elusen yn unig**

|**Manylion**|||**Cost**|||**Gwerth**
**31/12/2023**|

|Gliniadur (prynwyd yn 2020)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**1,371**|**£**|**350**

|Gasebo (prynwyd yn 2021)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**196**|**£**|**-**

|Microdon (2022)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**87**|**£**|**30**

|Cloriau i'r rheiddiaduron yn y festri (2022)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**4,338**
|**£**|**3,500**

|Tostiwr (2023)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**48**
|**£**|**40**

|Ffôn Symudol (2023)|Cronfa anghyfyngedig|**£**||**489**
|**£**|**350**

|Prosiect Technoleg (2023)|Cronfa anghyfyngedig|**£**|**12,946**
||**£**|**12,000**

## **Dyledion**

|Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
Creative Pension
Apeliadau allanol (Banc Bwyd)
Ecclesiastical Insurance
Nwy Cymru
**Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr**
**Trysorydd**|**Cost**
**£               2,263**
**£                  261**
**£                  113**
**£               1,730**
**£                  836**
**Llofnod**
Cronfa anghyfyngedig
Cronfa anghyfyngedig
Cronfa anghyfyngedig
Cronfa anghyfyngedig
Cronfa anghyfyngedig|**Dyddiad**
**30 Medi 2024**
**David Llewelyn Jones**
**Enw**|

Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon
Adran A
Adroddiad yr archwiliwr annibynnol
Adrodd i ymddiriedolwyr
Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE
Cyfrifon ar gyfer y
flwyddyn yn diweddu
318in Rhagfyr 2023
Rhif
Elusen
1188238
Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod am y
flwyddyn yn diweddu 31112 12023.
Cyfrifoldebau a sail yr
adroddiad
Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth, rydych yn gyfrifol am baraloi'r
cyfrifon yn unol a gofynion Deddf Elusennau 2011 {"y Ddeddf'l.
Adroddaf mewn perthynas a'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a
gwblhawyd o dan adran 145 0 Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd a'm
harchwiliad, dilynais y Cyfamyddiadau cymwyr a roddwyd gan y Comisiwn
Elusennau o dan adran 145{5)(b) o'r Ddeddf.
Datganiad yr
Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion
archwiliwr annibynnol perthnasol wedi dod i'm sylw mewn perthynas a'r archwiliad annibynnol sy'n
rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd berthnasol..
ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 O'r
Ddeddf neu
nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio a'r cofnodion cyfrifyddu
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw
faterion eraill mewn perthynas a'r archwiliad y dylid dwyn SY￿ atynt er mwyn
sicrhau deall￿rI3eth briodol o'r cyfrifon.
Dyddiad:
30109124
Arwyddwyd:
Enw:
Sian M Williams
Cymhwysterlau)
neu gorff proffesiynol
perthnasol los oes rhai):
ICAEW
Cyfeiriad:
36, Stryd Fawr
Pwllheli
Gwynedd, LL53 5RT
Hydref 2018