OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-12-31-accounts

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 1 Ionawr 2022 hyd at 31 Rhagfyr 2022

Enw’r Elusen: Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE

Rhif yr Elusen: 1188238

Amcanion a Gweithgareddau

Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.

Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys. Gwnawn hynny trwy:

Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol. Darparu gofal bugeiliol. Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd. Hybu gwaith cenhadol.

I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

Wrth gynllunio a datblygu rhaglen waith yr Eglwys, rydym yn ceisio dilyn anogaethau ein ffydd a gwrando ar leisiau’n haelodau ac ymateb i bobl anghenus yn ein cymdeithas a’n byd gan wneud hynny yn ymwybodol o ganllawiau arweiniad y Comisiwn sy’n ymwneud gyda budd i’r cyhoedd.

Cyflawniadau a Pherfformiad

Ailadeiladu

Cyfnod o ailadeiladu fu 2022 mewn llawer ffordd. Er cymaint y temtasiwn i fynd yn ôl i sut oedd pethau cyn y Pandemig, llwyddwyd i ddysgu o’r cyfnod clo ac i fabwysiadu rhai o’r pethau gorau oedd wedi codi fel rhan o strategaeth goroesi yn ystod y cyfnod hwnnw yn rhan annatod o fywyd a gwaith yr eglwys wrth symud ymlaen.

Addoliad a Gweddi

Yn ystod y flwyddyn, roedd modd i ni ddarparu oedfaon bob bore Sul ar nifer o themâu yn perthyn i’r ffydd Gristnogol. Roedd y gwasanaethau’n cynnwys y cyfle i addoli, i ddysgu mwy am ein ffydd ac i weddïo am faterion personol, lleol a rhyngwladol. Manteisiwyd ar gyfle yn fisol i groesawu gweinidog gwadd i arwain ein gwasanaethau a’r gweddill yn cael eu harwain gan y gweinidog a nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion. Rhoddwyd y cyfle i un o’n haelodau i baratoi a thraddodi pregeth am y tro cyntaf fel ffordd o gynyddu nifer y rhai sy’n hyderus i gynnig eu hunain i’r gwaith pwysig yma.

Yn ystod y flwyddyn, dewisodd nifer o bobl ddod i’r capel i addoli ond roedd eraill, oherwydd rhesymau iechyd neu amgylchiadau, yn dewis ymuno ar Zoom naill ai drwy’r cyfrifiadur neu ar ffôn y tŷ. Dosbarthwyd deunydd myfyrio wythnosol i 80 o gartrefi drwy’r We a dosbarthwyd yr un deunydd i 20 o gartrefi nad ydynt yn defnyddio’r We. Ar ddechrau 2022 roedd 160 o aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y We, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.

Plant, Pobl ifanc a’u teuluoedd

Er i ni lwyddo i gadw cysylltiad da gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod cyfnod Covid, bu’n fwy anodd gwneud hynny wedi i fudiadau a sefydliadau eraill ailagor eu drysau a threfnu gweithgareddau ar foreuau Sul, yr adeg draddodiadol i gynnal oedfa ac Ysgol Sul. Mewn ymateb i hyn, ceisiwyd trefnu gweithgareddau iddynt ar adegau penodol yn y mis (ee oedfa pob oed ar yr ail Sul yn y mis) a threfnu gweithgareddau o fath wahanol (ee te bach a gemau ddiwedd pnawn Sul a gwibdaith i Gastell Penrhyn) yn ogystal ag ambell wers Ysgol Sul mwy traddodiadol.

Addysg Oedolion

Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd. Yn ystod 2022 roedd modd ini dderbyn arweiniad gwahanol aelodau o’r dosbarth oedd yn ychwanegu at gyfoeth y sesiwn gan fanteisio ar adnoddau gwerthfawr yn y Gymraeg gan Gyhoeddiadau’r Gair.

Cyfathrebu a Gofal Bugeiliol

Yn ogystal â derbyn deunydd addoli wythnosol, roedd aelodau a chyfeillion yr eglwys yn derbyn llythyrau yn ystod y flwyddyn ar ebost neu trwy’r drws yn cynnwys newyddion am gydaelodau, hysbysiadau am ddigwyddiadau ac unrhyw ddiweddariad am drefniadau addoli yn y Capel.

Yn ogystal, dosbarthwyd cylchgrawn misol – Y Negesydd –yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl oedd yn dymuno hynny drwy’r flwyddyn. Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau ddefnyddio eu doniau creadigol i gyfrannu erthyglau a lluniau i’r cylchgrawn ac yn ychwanegu at ein nod o gyfathrebu’n dda i gadw pawb gyda’i gilydd.

Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr.

Mae’r gweinidog a nifer o’r aelodau yn cadw cysylltiad hefyd gyda chleifion yn yr ysbyty, yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal. O dro i dro, yn dilyn profedigaeth, cynhaliwyd

gwasanaethau angladd ac ymweliadau bugeiliol gyda theuluoedd mewn galar a hyn yn rhan o ofal bugeiliol naturiol yr eglwys i’r galarus.

Yn ystod 2022, cynhaliwyd cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol dros Zoom yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd. Er mor brysur yw bywydau pawb y dyddiau hyn, bu criw cyson, ffyddlon yn dod i’r weithgaredd yma oedd yn help i greu’r ymdeimlad o deulu.

Gwaith cenhadol a chymdeithasol

Mewn blwyddyn arferol, mae grŵp o’r aelodau yn cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad I hybu pryniant nwyddau Masnach Deg ac i gefnogi gwaith Traidcraft. Llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon yn 2022 er gwaetha’r ffaith bod Traidcraft yn mynd drwy ddyddiau dyrys yn dilyn dros ddeugain mlynedd o fasnachu llwyddiannus.

Llwyddodd yr Eglwys unwaith eto i gyfrannu at weithgareddau Cytûn Bangor yn cynnwys cydaddoli a chefnogi elusennau lleol. Llwyddwyd i ddal ati i gefnogi’r Banc Bwyd lleol a hynny mewn cyfnod pan mae mwy o angen nag erioed am y ddarpariaeth yma oherwydd y dirwasgiad yn dilyn y cyfnod clo.

Er gwaetha’r argyfwng costau byw, llwyddwyd i ddal ati i gyfrannu i roi cymorth dyngarol yn rhyngwladol. Cafwyd cefnogaeth dda i weithgareddau Cymorth Cristnogol a’r BMS (Baptist Missionary Society) yn ystod y flwyddyn gyda’r aelodau’n cael y fraint o gyfrannu’n hael yn ôl eu harfer at yr angen mewn gwledydd sy’n datblygu. Bu’r byd a’i anghenion yn ein gwasanaethau ac yn ein gweddïau’n gyson.

Daeth misoedd cyntaf 2022 â rhyfel erchyll i’r Wcrain ac ymhen rhai misoedd daeth nifer o ffoaduriaid oddi yno i wneud eu cartref yn ein plith yma ym Mangor. Cafwyd cyfraniadau o arian ac offer i’r tŷ gan aelodau Emaus a bu nifer ar rota canolfan ‘galw i mewn’ a gynhaliwyd yn Nhy’r Cyfeillion, Stryd y Deon dan nawdd y mudiad Croeso Menai. Datblygwyd noson gymdeithasu a chrefft ar nosweithiau Mercher yn Emaus oedd yn gyfle da i’r ymwelwyr o’r Wcrain i ddod i nabod ei gilydd yn well a gwneud gweithgareddau tawel a llesol i’w hiechyd meddwl gydag ambell i noson mwy bywiog o gemau a chwis. Roedd y cyfan dan arweiniad y mudiad Pobl i Bobl mewn cydweithrediad gydag aelodau Emaus.

Yn 2022 dechreuodd partneriaeth newydd rhyngom ag Eglwys Uniongred Blaenau Ffestiniog wrth iddynt drefnu i gynnal Offeren fisol yn adeilad Emaus. Yn wreiddiol, y bwriad oedd darparu ar gyfer ymwelwyr o’r Wcrain oedd yn lletya yn ymyl ond o dipyn i beth tyfodd yr Offeren yn gyfle cenhadol iddynt estyn allan i bobl o nifer o wahanol gefndiroedd ac ieithoedd yn ardal Bangor.

Braf oedd gweld Bugeiliaid y Stryd yn mynd allan ar eu teithiau bugeiliol ar benwythnosau yn ystod y tymor Coleg. Gyda rhai o’r gwirfoddolwyr yn ymddeol yn ystod y cyfnod clo, wynebodd y Bugeiliaid gyfnod o chwilio am wirfoddolwyr newydd a cheisio patrwm ychydig yn wahanol o weithredu wedi’r Pandemig.

Braint oedd gwasanaethu Crist yn ei Eglwys ac yn ei fyd yn ystod 2022 dan arweiniad ein Tad Nefol, yng nghwmni Crist ein ffrind a’n Gwaredwr ac yn nerth yr Ysbryd Glân. Braf oedd cael cwmni’n gilydd fel gweinidog, swyddogion, aelodau a chyfeillion ar y daith.

Adolygiad Ariannol

Ein hincwm net am y flwyddyn (ar ôl didynnu symiau a godwyd ar ran elusennau allanol) oedd £47,039. Mae hyn yn llai na'r llynedd oherwydd gostyngiad o 7% yng nghyfraniadau’r aelodau.

Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar iawn i Gymanfa Undeb Bedyddwyr Cymanfa Arfon a Chyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon am grantiau gwerth £12,460 a dderbyniwyd ganddynt tuag at gost cyflogi ein gweinidog. Gwariwyd 96% o’n hincwm net am y flwyddyn ar y weinidogaeth (81% y llynedd), yn cynnwys bron iawn £2000 a dalwyd fel ffioedd aelodaeth i’r ddau Undeb cenedlaethol a £3849 ar logi swyddfa bwrpasol i’r gweinidog ym Mhrifysgol Bangor.

Fe wnaethom barhau i fabwysiadu agwedd ofalus tuag at logi ein festri yn y cyfnod ar ôl COVID-19 ac yn lle hynny canolbwyntio ar wella'r amgylchedd i'r defnyddwyr. Yn hyn o beth gwariwyd £4338 ar warchodwyr rheiddiaduron pwrpasol fel gwelliant iechyd a diogelwch, yn enwedig i blant bach

Cyfanswm yr offrymau gan ein haelodau am y flwyddyn (ac eithrio unrhyw ychwanegiad a wnaethpwyd ar gyfer Rhodd Cymorth) oedd £28452, wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:

Nifer o aelodau yn cyfrannu: Nifer o aelodau yn cyfrannu: Cyfanswm:
£750 neu fwy 7 £5860
Rhwng £500 a £749 10 £6120
Rhwng £250 a £499 26 £8775
Rhwng £100 a £249 40 £6547
Rhwng £25 a £99 27 £1150
Dim 50 £0
Cyfanswm 160 £28452

Cynyddodd nifer yr aelodau na wnaeth unrhyw gyfraniad ariannol i gronfeydd yr Eglwys o 44 i 50 yn 2022, sef bron i draean yr aelodaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i'r Eglwys fynd i’r afael ag ef drwy ddyfeisio polisi cyhoeddedig sy’n cael ei weld yn deg a hefyd sy’n cydnabod y rhesymau niferus pam mae aelod yn dewis peidio â chyfrannu.

Ar nodyn mwy cadarnhaol mae ein haelodau wedi ymateb yn arbennig o dda a hael i apeliadau argyfyngus byd a lleol dros y flwyddyn, a chodwyd cyfanswm o £5698 rhwng Cymorth Cristnogol, Apêl Wcráin, BMS a Banc Bwyd Bangor. Er mwyn gwahanu’r arian a gasglwyd ar gyfer apeliadau o’r fath rydym bellach wedi agor cyfrif ar wahân at y diben hwn yn 2023.

Trosglwyddwyd buddsoddiadau gwerth £503,656 i Emaus SCE yn nhrydydd a phedwerydd chwarter 2022. Roedd y rhain yn cynrychioli asedau a ddelid gynt gan Ymddiriedolwyr Eglwysi Pendref a Phenuel. Roedd y trosglwyddiadau yn rhy hwyr yn y flwyddyn i gynhyrchu unrhyw incwm ond rydym yn rhagweld y byddant yn cynhyrchu o leiaf tua £12,000 y flwyddyn I’r Eglwys o 2023 ymlaen.

Ar ôl tynnu gwariant cyfalaf ac eithriadol mae'r cyfrifon yn dangos colled o £15726 am y flwyddyn. Gyda’r incwm y bydd ein buddsoddiadau ychwanegol yn ei gynhyrchu, rydym yn hyderus na fydd colled mor fawr â hyn yn digwydd yn y dyfodol. I'r perwyl hwn mae'r Ymddiriedolwyr wedi cynhyrchu a chytuno'r "Polisi Arian Wrth Gefn" canlynol:

“Mae Ymddiriedolwyr Emaus SCE yn ystyried yn ddoeth, yn amodol ar adolygiad blynyddol i:

• ddefnyddio'r incwm o'r buddsoddiadau i gryfhau incwm yr Eglwys a lleihau neu ddileu'r bwlch rhwng ein hincwm a'n gwariant.

• defnyddio'r cyfalaf a fuddsoddwyd yn ein cronfeydd anghyfyngedig yn unig, cyn belled ag y bo modd, ar brosiectau penodol sy'n arwain at gyfoethogi nodau ac amcanion ein heglwys a'i Chyfansoddiad.

• rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio'r cyfalaf i gyflwyno mesurau ataliol ac amddiffynnol i ddileu'r holl beryglon iechyd a diogelwch a nodir gan waith parhaus is-bwyllgor Rheoli Risg yr Ymddiriedolaeth.”

Yn olaf, mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus wrth nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl y bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol ym Mangor yn y dyfodol.

Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth

Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais heblaw ei ymddiriedolwyr. Ysgrifennwyd y ddogfen hon yn dilyn canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr SCE yn Eglwys Emaus ar 13 Tachwedd 2022. Mynychodd 42 aelod y cyfarfod naill ai yn adeilad Emaus neu dros ZOOM. Cymeradwyodd y rhai a oedd yn bresennol adroddiad blynyddol yr SCE am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2021. Yn unol â thelerau ein Cyfansoddiad, ymddeolodd tri ymddiriedolwr presennol yn ffurfiol yn y cyfarfod a chynnig eu hunain i’w hailethol am gyfnod pellach. Yn dilyn trafodaeth gan yr aelodau, cytunwyd yn unfrydol i’w hail-ethol am flwyddyn arall.

Dewisir ymddiriedolwyr yn unol ag Adran 13 o’r Cyfansoddiad. Penodwyd pum ymddiriedolwr newydd ym mis Tachwedd 2022 gan ddefnyddio pwerau'r ymddiriedolwyr presennol o dan Adran 13 Chymal [5] o’r Cyfansoddiad. Roedd hyn yn dilyn ymgyrch recriwtio ymhlith yr aelodau i benodi ymddiriedolwyr newydd i lunio polisi risg a datblygu ar gyfer y SCE.

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar faterion seciwlar sydd o bryder cyffredinol a phwysig i’r Eglwys gan gynnwys sut mae cronfeydd yr Eglwys yn cael eu rheoli a’u defnyddio. Mae saith o’r ymddiriedolwyr naill ai’n ddiaconiaid neu’n swyddogion yr Eglwys, sy’n sicrhau bod perthynas cydlynol rhwng y ddau gorff. Maent yn parhau i weithio'n agos gydag ymddiriedolwyr cyn-Eglwys Pendref a chyn-Eglwys Penuel i drosglwyddo

asedau'r ddau gorff i'r SCE. Ar ddiwedd y flwyddyn yr unig asedau ar ôl oedd adeilad presennol yr Eglwys a'r cyfrif banc yn dal elw gwerthiant hen Eglwys Pendref. Mae'r holl asedau eraill bellach yng ngofal yr SCE.

Manylion cyfeirnodi a gweinyddol

Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE
Rhif elusen gofrestredig: 1188238
Prif gyfeiriad yr Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus
Lôn Cariadon
Bangor
Gwynedd LL57 2TE
Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen 11 Gorseddfa
Criccieth
Gwynedd LL52 0DW
Enw’r ymddiriedolwr Swydd Dyddiadau'n
gweithredu (os nad
am flwyddyn gyfan)
Gareth Ffowc Roberts* Ysgrifennydd; aelod is-bwyllgor cyllid -
Gwyn Eurig Davies* Cyfreithiwr; aelod is-bwyllgor cyllid -
Dilwen Lloyd Jones* Ysgrifennydd yr Aelodaeth; aelod is- -
bwyllgor cyllid
David Llewelyn Jones* Cadeirydd; trysorydd; aelod is- -
bwyllgor cyllid
Parch Casi Mackenzie Jones* Gweinidog yr Eglwys; aelod is- 1af Tachwedd 2022
bwyllgor Risg a Datblygu
Dylan Owen Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu 1af Tachwedd 2022
Meriel Parry Cadeirydd yr is-bwyllgor Risg a 1af Tachwedd 2022
Datblygu
Siân Arwel Davies* Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu 1af Tachwedd 2022
Alison Carden* Aelod is-bwyllgor Risg a Datblygu 1af Tachwedd 2022
*hefyd yn ddiaconiaid neu swyddogion yr eglwys

Ymddiriedolwyr corfforaethol – Dim

Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen - Dim Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill - Dim Eithriadau rhag datgelu - Dim

Datganiadau

Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod. Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:

Llofnod Enw llawn David Llewelyn Jones Swydd Ymddiriedolwr a thrysorydd Dyddiad 02 Hydref 2023

Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif : 1188238

Datganiadau Ariannol am y flwyddyn i 31 Rhagfyr 2022

Cyfrif Incwm a Gwariant

----- Start of picture text -----
Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd
Cyfanswm Y Llynedd
anghyfyngedig dynodedig cyfyngedig
Incwm
Offrymau £ 28,452 - - £ 28,452 £ 30,485
Casgliad rhydd £ 105 - - £ 105 £ 7
Llogi'r Adeilad £ 120 - - £ 120 £ 25
Rhoddion arbennig £ 200 - - £ 200 £ 1,790
Cyfundeb Arfon (Grant) £ 5,500 - - £ 5,500 £ 5,500
Cymanfa Arfon (Grant) £ 6,960 - - £ 6,960 £ 6,630
Rhodd Cymorth £ 5,651 - - £ 5,651 £ 5,473
Llog £ 52 - - £ 52 £ 494
Apeliadau - nodyn (d) £ 5,698 - - £ 5,698 £ 5,486
Is-gyfanswm £ 52,737 - - £ 52,737 £ 55,890
Cyfanswm yr Incwm £ 52,737 £ - £ - £ 52,737 £ 55,890
Gwariant
Costau'r weinidogaeth - nodyn (a) £ 45,033 - - £ 45,033 £ 40,991
Glanhau £ 1,185 - - £ 1,185 £ 1,328
Cynnal ac atgyweirio £ 472 - - £ 472 £ 1,104
Gwres a Goleu £ 2,278 - - £ 2,278 £ 1,477
Yswiriant £ 2,409 - - £ 2,409 £ 2,557
Garddio a chynnal tir £ 1,230 - - £ 1,230 £ 2,255
Teleffon/gwasanaeth rhyngrwyd/Zoom £ 1,888 - - £ 1,888 £ 1,732
Gwariant swyddfa a'r gegin £ 71 - - £ 71 £ 325
Mudiad y Chwiorydd £ 20 - - £ 20 £ 20
Ffi'r Archwiliwr £ 2,520 - - £ 2,520 £ 2,400
Trethi Dwr £ 253 - - £ 253 £ 158
Organ £ 515 - - £ 515 £ -
Llungopiwr £ 1,461 - - £ 1,461 £ 1,405
Amrywiol £ 328 - - £ 328 £ 353
Apeliadau
Apêl Timothy Richards £ - - - £ - £ 800
Ffoaduriaid £ 675 - - £ 675 £ -
Cymorth Cristnogol £ - - - £ - £ -
Banc Bwyd £ 3,180 - - £ 3,180 £ 1,875
BMS £ 2,276 - - £ 2,276 £ 1,220
Apêl Wcráin £ 2,670 - - £ 2,670 £ 942
Is-gyfanswm £ 68,464 - - £ 68,464 £ 60,942
Prynu Asedau a Gwariant eithriadol
Gweler nodyn (b) £ 4,425 - - £ 4,425 £ 196
Gwariant eithriadol (c) £ 2,586 - - £ 2,586 £ 540
Is-gyfanswm £ 7,011 - - £ 7,011 £ 736
Cyfanswm y Gwariant £ 75,475 - - £ 75,475 £ 61,678
Net o dderbyniadau/(taliadau) -£ 22,737 0 0 -£ 22,737 -£ 5,788
Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd - - - - -
cronfeydd wedi ei trosglwyddo gan
Pendref a Penuel £ 373,778 £ 129,878 - 503,656
Cronfeydd ariannol 01/01/2022 £ 37,270 - - £ 37,270 £ 43,059
Arian ar law ar ddiwedd y flwyddyn £ 388,311 129,878 - £ 518,189 £ 37,271
Nodyn (a) Nodyn (b)
Costau'r Weinidogaeth £ 27,644 Microdon £ 87
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £ 2,759 Gwarchodwyr rheiddiaduron yn y festri £ 4,338
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £ 7,294 £ 4,425
Cytun Bangor £ 100
Llogi Swyddfa £ 3,849 Nodyn (c)
Yr Ysgol Sul £ 386 Noddi Hannah Smethurst (myfyriwr) £ 2,106
Pregethwyr £ 1,085 Cwmni Dafydd Hardy (prisio'r adeilad) £ 480
Undeb/Cymanfa Arfon £ 1,422 £ 2,586
Undeb/Cyfundeb Yr Annibynwyr £ 495
£ 45,033
----- End of picture text -----

Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif : 1188238

Nodyn (d)
Banc Bwyd
Apêl Wcráin
BMS
Cymorth Cristnogol
1,668
£
2,045
£
5,698
£
832
£
1,153
£

Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2022

Categoriau
Asedau Ariannol Eraill
Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr
Cadeirydd a Thrysorydd
Cronfeydd Arian Parod
Asedau a gedwir at ddefnydd yr
elusen yn unig
Dyledion
Banc Bwyd
Cyfrif Banc - Rhodd Cymanfa Arfon
(Gwerthiant Bethel)
Cyfrifon Banc (eraill)
Manylion
Cyfanswm cronfeydd arian parod
M&G Charifund (ex Ymddiriedolwyr
Penuel)
Quilter (ex Ymddiriedolwyr Penuel)
HSBC (ex Ymddiriedolwyr Pendref)
Manylion
Manylion
Gliniadur (prynwyd yn 2020)
Rhodd Cymorth
Cloriau i'r rheiddiaduron yn y festri
Microdon
Gordaliad i'r BMS
Manylion
Gasebo (prynwyd yn 2021)
Cymorth Cristnogol
Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
Ecclesiastical Insurance
Llofnod
Cronfeydd
anghyfyngedig
Cronfeydd
dynodedig
£ 8,024
-
£
£ 6,509
-
£
£ 15,311
-
£
£ 69,383
-
£
289,084
£
129,878
£
£ 388,311
129,878
£
OK
Agreement Error
Cronfeydd
anghyfyngedig
Cronfeydd
cyfyngedig
£ 825
£ -
5,593
£
£ -
Cost
Cronfa
anghyfyngedig
£ 1,371
Cronfa
anghyfyngedig
£ 196
Cronfa
anghyfyngedig
£ 87
Cronfa
anghyfyngedig
4,338
£
Cost
Cronfa
anghyfyngedig
£ 2,123
Cronfa
anghyfyngedig
£ 330
Cronfa
anghyfyngedig
£ 832
Cronfa
anghyfyngedig
£ 1,671
David Llewelyn Jones
Enw
Cronfeydd cyfyngedig
-
£
-
£
-
£
-
£
£ -
£ -
Gwerth 31/12/2022
500
£
30
£
80
£
4,000
£
Dyddiad
2 Hyd 2023

Adroddiad archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon

Adran A Adroddiad yr archwiliwr annibynnol Adrodd i ymddiriedolwyr Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Cyfrifon ar gyfer y 31ain Rhagfyr 2022 Rhif 1188238 flwyddyn yn diweddu Elusen Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 / 12 / 2022. Cyfrifoldebau a sail yr Fel ymddiriedolwyr elusennau'r Ymddiriedolaeth, chi sy'n gyfrifol am baratoi'r adroddiad cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac ymgymryd â’m harchwiliad, dilynais yr holl Gyfarwyddiadau perthnasol a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf.

Datganiad arholwr Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion annibynnol perthnasol wedi dod i'm sylw mewn perthynas â'r archwiliad annibynol sy'n rhoi achos i mi gredu mewn unrhyw ystyriaeth faterol:

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato er mwyn gallu cael dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon.

Arwyddwyd:
Enw:
Cymhwyster(au)
neu gorff proffesiynol
perthnasol (os oes rhai):
Cyfeiriad:
SMW
Dyddiad:
27/09/2023
Sian M. Williams
ICAEW
36, Stryd Fawr
Pwllhei
Gwynedd LL53 5RT

1

October 2018