# **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 1 Ionawr 2021 hyd at 31 Rhagfyr 2021**

## **Enw’r Elusen:  Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE**

## **Rhif yr Elusen: 1188238**

##  **Amcanion a Gweithgareddau**

Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.

Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys.  Gwnawn hynny trwy:

Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol. Darparu gofal bugeiliol.

Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd. Hybu gwaith cenhadol.

I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

Wrth gynllunio a datblygu rhaglen waith yr Eglwys, rydym yn ceisio dilyn anogaethau ein ffydd a gwrando ar leisiau’n  haelodau ac ymateb i bobl anghenus yn ein cymdeithas a’n byd gan wneud hynny yn ymwybodol o ganllawiau arweiniad y Comisiwn i wneud gyda budd i’r cyhoedd.

##  **Cyflawniadau a Pherfformiad**

## **Cyflawniad yn 2021**

Yn sgil Covid-19 bu 2021 yn flwyddyn heriol oherwydd yr angen i gadw cydbwysedd rhwng parhau gyda’r hyn roeddem yn ei ddarparu a gwneud ein gorau i sicrhau diogelwch ein haelodau drwy ddilyn canllawiau Cytûn a Llywodraeth Cymru, canllawiau oedd yn newid yn gyson i gyfarfod â’r newid yn yr amgylchiadau.  Gan mai dewis gwirfoddol pob unigolyn ydy

mynychu addoliad, roeddem yn darparu ar gyfer ystod eang o bobl oedd yn fwy neu yn llai parod i ddod i weithgareddau wyneb yn wyneb. Roedd angen bod yn fentrus, yn hyblyg ac yn ddoeth i ymateb i gyfnod ddigynsail fel hon.

## **Addoliad a Gweddi**

Yn ystod y flwyddyn, roedd modd i ni ddarparu oedfaon bob bore Sul ar nifer o themâu yn perthyn i’r ffydd Gristnogol.  Roedd y gwasanaethau’n cynnwys y cyfle i addoli, i ddysgu mwy am ein ffydd ac i weddïo am faterion personol, lleol a rhyngwladol.  Manteisiwyd ar gyfle yn fisol i groesawu gweinidog gwadd i arwain ein gwasanaethau a’r gweddill yn cael eu harwain gan y gweinidog a nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion.

Yn ystod y flwyddyn, dewisodd nifer o bobl ddod i’r capel i addoli dan drefn y canllawiau oedd mewn grym yn y cyfnod i atal lledaeniad Covid-19 ond roedd eraill, oherwydd rhesymau iechyd neu amgylchiadau Covid, yn dewis ymuno ar Zoom naill ai drwy’r cyfrifiadur neu ar ffôn y tŷ.  Dosbarthwyd deunydd myfyrio wythnosol i 80 o gartrefi drwy’r we a dosbarthwyd yr un deunydd i dros 20 o gartrefi nad ydynt yn defnyddio’r we.  Ar ddechrau 2021 roedd 159 o aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y we, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.

Llwyddwyd i ddal ati gydag Ysgol Sul y plant a’r bobl ifanc, gyda chefnogaeth rhieni a theuluoedd yn ogystal â gwirfoddolwyr o blith yr aelodau.  Yn ystod 2021 cafwyd amrywiaeth o gyfarfodydd yn cynnwys Ysgol Sul Zoom, cyfarfod mewn gazebo y tu allan i’r Capel i ddysgu mwy am ein cyfrifoldeb am y blaned, a gwasanaeth awyr agored ym Mharc Hamdden Gelli Gyffwrdd gyda phicnic yn dilyn a chyfle wedyn i fwynhau gweithgareddau awyr agored.

Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd.  Hawdd iawn oedd trosglwyddo’r cyfarfodydd yma i gyfarfodydd ar Zoom am gyfnod pan oedd angen gan sicrhau y gallem ddal ati. Roedd modd i ni dderbyn arweiniad gwahanol aelodau o’r dosbarth oedd yn ychwanegu at gyfoeth y sesiwn.

## **Cyfathrebu a Gofal Bugeiliol**

Yn ogystal â derbyn deunydd addoli wythnosol, roedd aelodau a chyfeillion yr eglwys yn derbyn llythyrau yn ystod y flwyddyn ar ebost neu trwy’r drws yn cynnwys newyddion am gydaelodau, hysbysiadau am ddigwyddiadau ac unrhyw ddiweddariad am ganllawiau addoli yn y Capel.

Yn ogystal, dosbarthwyd cylchgrawn misol – Y Negesydd –yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl oedd yn dymuno hynny drwy’r flwyddyn.  Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau ddefnyddio eu doniau creadigol i gyfrannu erthyglau a lluniau i’r cylchgrawn ac yn ychwanegu at ein nod o gyfathrebu’n dda i gadw pawb gyda’i gilydd.

Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr.

Mae’r gweinidog a nifer o’r aelodau yn cadw cysylltiad hefyd gyda chleifion yn yr ysbyty, yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal er na fu modd gwneud llawer o ymweld wyneb yn wyneb oherwydd y perygl o ledu Covid 19 ymhlith y rhai mwyaf bregus eu hiechyd.  O dro i dro, yn dilyn profedigaeth, cynhaliwyd gwasanaethau angladd ac ymweliadau bugeiliol gyda theuluoedd mewn galar a hyn yn rhan o ofal bugeiliol naturiol yr eglwys i’r galarus.

Ers dechrau’r pandemig, mae cynnig cyfleoedd i gymdeithasu wedi bod yn anodd oherwydd yr angen am hunan-ynysu. Yn ystod 2021, cynhaliwyd cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol dros Zoom fel dilyniant i’r cyfarfodydd yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd.

## **Gwaith cenhadol a chymdeithasol**

Mewn blwyddyn arferol, mae grŵp o’r aelodau yn cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad i hybu pryniant nwyddau Masnach Deg ac i gefnogi gwaith Traidcraft. Llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon yn 2021 drwy gydol y cyfnodau clo wrth addasu’r ffordd o dderbyn archebion a chludo’r nwyddau i gartefi unigol. Dim ond o fis Medi ymlaen roedd modd dechrau gwerthu nwyddau Masnach Deg yn yr adeilad unwaith eto gan ddilyn y canllawiau priodol. Llwyddodd yr Eglwys unwaith eto eleni i gyfrannu at weithgareddau Cytûn Bangor yn cynnwys cydaddoli a chefnogi elusennau lleol. Llwyddwyd i ddal ati i gefnogi’r Banc Bwyd Bangor a hynny mewn cyfnod pan mae mwy o angen nag erioed am y ddarpariaeth yma oherwydd y dirwasgiad yn dilyn y cyfnod clo a dal ati i gyfrannu i roi cymorth dyngarol yn rhyngwladol.

##  **Adolygiad Ariannol**

Ein hincwm net am y flwyddyn (ar ôl didynnu symiau a godwyd ar ran elusennau allanol) oedd £50,404.  Mae hyn yn dangos cynnydd dros y cyfnod blaenorol ond dylid nodi bod ein cyfrifon cyntaf fel elusen gofrestredig yn cwmpasu 10 mis yn unig. Fodd bynnag, yn hanesyddol patrwm arferol misoedd cyntaf ein blwyddyn arferol yw cynhyrchu incwm sy’n is na’r swm a gynhyrchir yn y misoedd olaf, yn arbennig ym mis Rhagfyr.

Roedd cyfyngiadau COVID yn parhau dros y rhan fwyaf o’r flwyddyn, felly nid oedd y festri ar gael i gynhyrchu incwm trwy ei logi i fudiadau allanol (ar wahân i swm bach o £25). Cyn COVID-19, roeddwn yn derbyn oddeutu £1700 y flwyddyn o'r ffynhonnell incwm hon. Er nad yw cyfyngiadau COVID yn eu lle erbyn hyn mae’r firws yn gwrthod mynd i ffwrdd ac felly, am resymau Iechyd a Diogelwch, rydym yn cymryd agwedd ofalus wrth ailgychwyn y ffynhonnell incwm hon.

Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar iawn i Gymanfa Undeb Bedyddwyr Cymru Arfon a Chyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon am grantiau gwerth £12,180 a dderbyniwyd ganddynt tuag at gost cyflogi ein gweinidog. Gwariwyd 81% o’n hincwm net am y flwyddyn

ar y weinidogaeth, yn cynnwys dros £2000 a dalwyd fel ffioedd aelodaeth i’r ddau Undeb cenedlaethol.

Cyfanswm yr offrymau gan ein haelodau am y flwyddyn (ac eithrio unrhyw ychwanegiad a wnaethpwyd ar gyfer Rhodd Cymorth) oedd £30485, wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:

|**Nifer o aelodau yn cyfrannu:**|**Nifer o aelodau yn cyfrannu:**|**Cyfanswm:**|

|£750 neu fwy|5|£4319|
|Rhwng £500 a £749|17|£9978|
|Rhwng £250 a £499|24|£7630|
|Rhwng £100 a £249|47|£7439|
|Rhwng £25 a £99|22|£1119|
|Dim|44|£0|
|**Cyfanswm**
|**159**|**£30485**|

Daeth incwm o fuddsoddiadau i ben wrth i ni drosglwyddo cyfrifon banc Emaus o HSBC i NatWest yn ystod y flwyddyn. Nid oedd gan ymddiriedolwyr hen Eglwysi Penuel a Phendref wedyn fodd i drosglwyddo unrhyw incwm a gynhyrchwyd o’u cronfeydd eu hunain i Emaus. Felly roedd unrhyw incwm a godwyd wedi hynny yn cael ei ailfuddsoddi ganddynt yn eu cronfeydd eu hunain.

Gwelwyd gostyngiad pellach o £5788 yn ein cronfeydd wrth gefn dros y flwyddyn (gan adlewyrchu'r golled a wnaethom) ac maent bellach yn gyfanswm o £37270 (i gyd yn gronfeydd anghyfyngedig). Bydd ein polisi cronfeydd wrth gefn presennol yn parhau dros y tymor byr o leiaf, a byddwn yn defnyddio’r cronfeydd hyn fel byffer yn erbyn unrhyw golledion pellach neu wariant eithriadol yn y dyfodol.

Mae datblygiad diweddar a phwysig sy’n werth ei gofnodi yn yr adroddiad hwn, gan y bydd yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar ein gallu i symud ymlaen i gyflawni undod cyflawn, ac i roi sicrwydd ariannol i ni ar gyfer y dyfodol. Mae ymddiriedolwyr Pendref a Phenuel wedi cytuno yn ffurfiol i drosglwyddo eu cronfeydd anghyfyngedig a chyfyngedig, sef cyfanswm o dros £500K, i Ymddiriedolaeth Emaus. Mae'r Comisiwn Elusennau wedi cymeradwyo'r trosglwyddiadau ac mae'n fodlon nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau yn codi. Unwaith y bydd y trosglwyddiadau wedi'u cyflawni, byddwn yn ceisio newid y buddsoddiadau hyn o gronfeydd cronni i gronfeydd cynhyrchu incwm i hybu ein hincwm. Bryd hynny byddwn yn adolygu ein polisi cronfeydd wrth gefn i adlewyrchu'r cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael i Emaus.

I gloi, mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus wrth nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl y bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol yn y dyfodol.

##  **Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth**

Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais heblaw ei ymddiriedolwyr. Ysgrifennwyd y ddogfen hon yn dilyn canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.

Dewisir ymddiriedolwyr yn unol ag Adran 13 o’r Cyfansoddiad.  Penododd yr ymddiriedolwyr Ysgrifennydd Aelodaeth yr Eglwys yn ymddiriedolwr ym mis Chwefror 2021 gan ddefnyddio ein pwerau o dan Adran 13 Chymal [5] o’n Cyfansoddiad.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf yr SCE yn Eglwys Emaus ar 12 Rhagfyr 2021, a oedd wedi’i ohirio tan hynny oherwydd cyfyngiadau COVID. Mynychodd 44 aelod y cyfarfod naill ai yn adeilad Emaus neu dros ZOOM.  Cymeradwyodd y rhai a oedd yn bresennol adroddiad blynyddol cyntaf yr SCE am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2020. Yn unol â thelerau ein Cyfansoddiad, ymddeolodd y pedwar ymddiriedolwr presennol yn ffurfiol yn y cyfarfod a chynnig eu hunain i’w hailethol am gyfnod pellach.  Yn dilyn trafodaeth gan yr aelodau, cytunwyd yn unfrydol i’w hail-ethol am flwyddyn arall.

Rydym wedi cychwyn y broses o benodi ymddiriedolwyr ychwanegol i’r Bwrdd gyda’r dasg benodol o ffurfio ac arwain gweithgor o fewn yr aelodaeth i lunio Polisi Risg manwl i’r Eglwys.  Ymgymerwyd â'r dasg hon drwy ymgyrch recriwtio o blith yr aelodau i chwilio am bobl â'r sgiliau a'r ymrwymiad angenrheidiol i wneud a chwblhau’r gwaith pwysig hwn.

Mae ymddiriedolwyr presennol yr SCE hefyd i gyd yn aelodau o fwrdd diaconiaid a swyddogion yr Eglwys.  Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda'r ddau gorff o ymddiriedolwyr sydd, ar hyn o bryd, yn gyfrifol am gronfeydd cyfyngedig yr Eglwys (ymddiriedolwyr cynEglwys Pendref a chyn-Eglwys Penuel).  Felly, ar hyn o bryd, mae gennym bedwar corff gwahanol sy’n rheoli cenhadaeth neu weledigaeth yr Eglwys ar gyfer y dyfodol.  Er bod y model hwn wedi ein gwasanaethu'n dda yn ystod y cyfnod o undod efallai nad dyma'r model delfrydol i'w ddilyn yn y dyfodol. Rhagwelir y gallai’r grŵp polisi risg ddymuno ei adolygu fel rhan o'i brosiect.

##  **Manylion cyfeirnodi a gweinyddol**

Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif elusen gofrestredig: 1188238 Prif gyfeiriad yr Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Lôn Cariadon Bangor Gwynedd LL57 2TE Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen 11 Gorseddfa Criccieth Gwynedd LL52 0DW

|**Enw’r ymddiriedolwr**|**Swydd**|**Dyddiadau'n**
**gweithredu (os nad**|**Enw'r person (neu'r corff)**
**sydd â hawl i benodi**|

|||**am flwyddyn gyfan)**|**ymddiriedolwr (os oes un)**|
|Gareth Ffowc Roberts|Ysgrifennydd|**-**|**-**|
|Gwyn Eurig Davies|Cyfreithiwr|**-**|**-**|
|Dilwen Lloyd Jones|Ysgrifennydd yr|19 Chwefror 2021|**-**|
||Aelodaeth|||
|David Llewelyn Jones|Trysorydd|**-**|**-**|

**Ymddiriedolwyr corfforaethol** – Dim

**Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen** - Dim

**Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill** - Dim

**Eithriadau rhag datgelu** - Dim

##  **Datganiadau**

**Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod. Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:**

|**Llofnod**
**Enw llawn**
**Swydd**
**Dyddiad**||

||David Llewelyn Jones|
||Ymddiriedolwr a thrysorydd|

||26 Medi 2022|

## **Adroddiad archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon**

||**Adran A                        Adroddiad yr archwiliwr annibynnol**|**Adran A                        Adroddiad yr archwiliwr annibynnol**||

|**Adrodd i ymddiriedolwyr**
**Cyfrifon ar gyfer y**
**flwyddyn yn diweddu**
**Cyfrifoldebau a sail yr**
**adroddiad**
**Datganiad arholwr**
**annibynnol**
**Arwyddwyd:**
**Enw:**
**Cymhwyster(au)**
**neu gorff proffesiynol**
**perthnasol (os oes rhai):**
**Cyfeiriad:**||||
|||Enw’r Elusen
Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE||

|||Sian M. Williams||

|||ICAEW||

|||36, Stryd Fawr||
|||Pwllhei||
|||Gwynedd LL53 5RT||

1

**October 2018**

## **Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE           Rhif : 1188238**

## **Datganiadau Ariannol am y flwyddyn i 31 Rhagfyr 2021**

**----- Start of picture text -----**

Cyfrif Incwm a Gwariant
Cronfeydd  Cronfeydd  Cronfeydd
Cyfanswm Y Llynedd
anghyfyngedig cyfyngedig gwaddol
Incwm
Offrymau £                     30,485                               -                                  -    £                 30,485  £              24,805
Casgliad rhydd £                               7                               -                                  -    £                           7  £                    211
Llogi'r Adeilad £                             25                               -                                  -    £                         25  £                    883
Rhoddion arbennig £                       1,790                               -                                  -    £                   1,790  £                    823
Cyfundeb Arfon (Grant) £                       5,500                               -                                  -    £                   5,500  £                6,100
Cymanfa Arfon (Grant) £                       6,630                               -                                  -    £                   6,630  £                6,500
Rhodd Cymorth £                       5,473                               -                                  -    £                   5,473  £                5,690
Llog   £                          494                               -                                  -    £                      494  £                    696
Apeliadau -  nodyn (b) £                      5,486                               -                                  -    £                   5,486  £                3,795
Is-gyfanswm £                    55,890                                -                                  -    £                 55,890  £              49,502
Cyfanswm yr Incwm £                    55,890  £                            -    £                            -    £                 55,890  £              49,502
Gwariant
Costau'r weinidogaeth -  nodyn (a) £                    40,991                               -                                  -    £                 40,991  £              35,594
Glanhau  £                       1,328                               -                                  -    £                   1,328  £                    990
Cynnal ac atgyweirio £                       1,104                               -                                  -    £                   1,104  £                    873
Gwres a Goleu £                       1,477                               -                                  -    £                   1,477  £                1,628
Yswiriant £                       2,557                               -                                  -    £                   2,557  £                2,344
Gwaith eithriadol  £                          540                               -                                  -    £                      540  £                8,441
Garddio a chynnal tir £                       2,255                               -                                  -    £                   2,255  £                1,170
Mudiad y Chwiorydd £                             20                               -                                  -    £                         20  £                      20
Teleffon/gwasanaeth rhyngrwyd/Zoom £                       1,732                               -                                  -    £                   1,732  £                1,266
Gwariant swyddfa a'r gegin £                          325                               -                                  -    £                      325  £                    126
Organ £                           -                               -                                  -    £                          -    £                    489
Achub y Plant £                       1,220                               -                                  -    £                   1,220  £                       -
Trethi Dwr £                          158                               -                                  -    £                      158  £                    235
Llungopiwr £                       1,405                               -                                  -    £                   1,405  £                1,236
Amrywiol £                          353                               -                                  -    £                      353  £                    446
Apêl Timothy Richards £                          800                               -                                  -    £                      800  £                       -
Cymorth Crisnogol £                           -                               -                                  -    £                          -    £                1,552
Banc Bwyd  £                       1,875                               -                                  -    £                   1,875  £                2,545
Ffi'r Archwiliwr £                       2,400                               -                                  -    £                   2,400  £                       -
BMS £                          942                               -                                  -    £                      942  £                    764
Is-gyfanswm £                    61,482                                -                                  -    £                 61,482  £              59,718
Prynu Asedau
Gasebo £                          196                                  -                                  -  £                      196  £                1,371
£                              -                                    -                                  -  £                          -    £                2,200
Is-gyfanswm £                          196                                  -                                  -  £                      196  £                3,571
Cyfanswm y Gwariant £                    61,678                                  -                                  -  £                 61,678  £              63,289
Net o dderbyniadau/(taliadau) -£                      5,788  0 0 -£                  5,788  -£              13,787
Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd                                   -                                -                                 -                                -                              -
Cronfeydd ariannol 01/01/2021 £                    43,059                                -                                 -    £                 43,059  £              56,846
Arian ar law ar ddiwedd y flwyddyn £                    37,270                                -                                  -   £                 37,270  £              43,059
Nodyn (a) Nodyn (b)
Costau'r Weinidogaeth £                     26,582 Tysteb Menna Jones £                                75
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £                       2,638 Banc Bwyd £                          2,215
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £                       7,310 Ffoaduriaid £                             675
Cytun Bangor £                          100 BMS £                          1,165
Llogi Swyddfa £                          622 Achub y Plant £                          1,201
Yr Ysgol Sul £                          786 Yr Ysgol Sul £                             155
Pregethwyr  £                          715 £                          5,486
Undeb Bedyddwyr Cymru £                       1,545
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg £                          694
£                    40,991
**----- End of picture text -----**

**----- Start of picture text -----**

Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2021
Cronfeydd  Cronfeydd
Categoriau  Manylion
anghyfyngedig cyfyngedig
Cronfeydd Arian Parod  Cyfrif Banc - Rhodd Cymanfa Arfon   £                  32,180  £                     -
(Gwerthiant Bethel)
Cyfrifon Banc (eraill)   £                     5,090   £                        -
Cyfanswm cronfeydd arian parod   £                  37,270   £                      -
OK OK
Cronfeydd  Cronfeydd
Asedau Ariannol Eraill  Manylion
anghyfyngedig cyfyngedig
Allens Organs blaendal 2022  £                        489                            -
Rhodd Cymorth  £                     5,651                            -
Asedau a gedwir at ddefnydd yr
Manylion  Cost Gwerth presennol
elusen yn unig
Cronfa
Gliniadur (prynwyd yn 2020)   £                   1,371  £                    1,000
anghyfyngedig
Cronfa
Gasebo   £                     196  £                        100
anghyfyngedig
Manylion  Cost
Dyledion  Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol  Cronfa   £                   1,900
anghyfyngedig
Cronfa
BMS   £                     223
anghyfyngedig
Cronfa
Ffoaduriaid   £                     675
anghyfyngedig
Cronfa
Banc Bwyd   £                   1,000
anghyfyngedig
Cronfa
Ecclesiastical Insurance   £                   1,573
anghyfyngedig
Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr Llofnod Enw Dyddiad
Cadeirydd a Thrysorydd David Llewelyn Jones 26 Medi 2022
**----- End of picture text -----**