Rhif cofrestredig: 09044650 (Cymru) Rhif yr elusen: 1187868

## **Menter Iaith Casnewydd**

(Cwmni cyfyngedig drwy warant ac elusen)

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Cynnwys**

## **Tudalen**

- 2 Gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol

- 3 Adroddiad y Cyfarwyddwyr

- 6 Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol

- 7 Datganiad o weithgareddau ariannol

- 8 Mantolen

- 9 - 15 Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol

Nid yw’r tudalennau canlynol yn ffurfio rhan o'r datganiadau ariannol statudol:

- 16       Datganiad manwl o'r gweithgareddau ariannol

Tudalen 1

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Manylion y Cwmni**

**Ymddiriedolwyr yr elusen** Mr S A Blundell **a chyfarwyddwyr y cwmni** Dr M Rees Mrs R Willis Ms S W Thomas Mr T Hughes Ms R Knight **Cadeirydd yr elusen** Dr M Rees Mrs R Willis **Trysorydd yr elusen** Mr T Hughes **Ysgrifennydd y cwmni** Mr D Rh Henry **Rhif cofrestredig** 09044650 (Cymru) **Swyddfa gofrestredig** Uned2/Unit 2 The Provision Market Casnewydd NP20 1DD **Archwilydd annibynnol** Llama Accounting Ltd 10 JR Quarter Moy Road Industrial Estate Taffs Well CF15 7QR

Tudalen 2

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024**

Mae'r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a'r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022. Mae'r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu'r "Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau" a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019 wrth baratoi'r adroddiad blynyddol, ac mae'r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2019).

Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y'i diffinir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe'i sefydlwyd yn unol â'r Memorandwm sy'n datgan manylion a phwerau'r cwmni, a chaiff ei reoli'n unol â'r Erthyglau Cymdeithasiad. Ymgorfforwyd y cwmni ar 16 Mai 2014 a chofrestrwyd fel elusen gyda'r Comisiwn Elusennau ar 11 Chwefror 2020.

## **Gair gan y Prif Swyddog**

Mae ein presenoldeb yn y farchnad dylanwadu’n sylweddol ar Gasnewydd a gwaith a chymuned y Fenter. Mae wedi galluogi’r Fenter i frwydro am fwy o arwyddion Cymraeg yn y Farchnad, mae’n rhoi presenoldeb i'r iaith ar y stryd fawr, yn croesawu ymwelwyr, ac ynhyrwyddo'r iaith trwy’r dydd, pob dydd.

Oherwydd lleoliad yr uned, mae'r Fenter wedi gallu bod yn rhan o ddigwyddiadau a dathliadau "mawr” Casnewydd, er enghraifft, marathon Casnewydd, gemau pêl-droed (felCasnewydd v Wrecsam) yr ŵyl fwyd ac ati. Mae’r uned hefyd wedi ein galluogi ni i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a chefnogi partneriaid lleol gan gynnig cartref yngnghanol y ddinas iddyn nhw e.e. sesiynau gwybodaeth (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Heddlu Gwent) ac arddangos gwaith disgyblion ysgolion Cymraeg lleol.

Er hyn oll, mae’n gost ac ymrwymiad sylweddol i'r Fenter. O fewn y 12 mis nesaf, bydd les y Fenter gyda'r farchnad yn dod i ben. Bydd angen pwyso a mesur a phenderfynu (yn seiliedig ar delerau, adborth cymunedol a sefyllfa ariannol y Fenter) ar ddyfodol yr Uned fel cartref i’r Fenter.

Y llynedd cafodd “Uwch Weithiwr Chwarae” ei gyflogi i arwain ein darpariaeth i blant a theuluoedd. Mae’r swydd hon wedi’i hariannu o gronfeydd a gweithgareddau masnachol y Fenter. Mae incwm y Fenter wedi cynyddu (pob blwyddyn) ers cyflogi Uwch Weithiwr Chwarae. Erbyn hyn mae gan y Fenter 2 glwb masnachol ar ôl ysgol (Clybiau Sbort a Sbri Bro Teyrnon ac Ifor Hael) a 2 gytundeb gyda Cyngor Casnewydd; cydlynu darpariaeth cyfrwng Cymraeg "Bwyd a Hwyl", a chynnal "Clybiau Gwyliau" cyfrwng Cymraeg.

Ond, ers 2022, mae gwariant y Fenter wedi bod yn uwch na’n incwm. Mae'r gwahaniaeth wedi lleihau'n flynyddol ac erbyn hyn mae’n llai na 50% y gwahaniaeth yn 2022; er hyn, rydyn ni’n dal i wario fwy nac ydyn ni’n ei gael. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn ni’ngweithio'n galed i ddileu'r gwahaniaeth hwn, gan ein galluogi i ystyried y cam nesaf yn nyfodol y fenter.

Tudalen 3

**Menter Iaith Casnewydd Adroddiad yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024 (parhad)**

Mae cyflogi Uwch Weithiwr Chwarae wedi rhyddhau amser a chapasiti’r Swyddog Datblygu Cymunedol. O ganlyniad i hyn, mae’r Swyddog Datblygu Cymunedol wedi cynyddu’r ddarpariaeth i weddill y gymuned, yn enwedig i ddysgwyr ac i bobl ifanc. Yn ystod y 12 mis nesaf, bydd y Swyddog Datblygu Cymunedol yn gweithio gyda’n partneriaid (hen a newydd) i ehangu’r ddarpariaeth i bobl ac oedolion ifanc Casnewydd.  Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd yn 2027, felly mae'r pwyslais hwn yn amserol ac yn holl bwysig.

Byddwn yn parhau i weithio a chefnogi'n partneriaid grant a chymunedol, a datblygu ein huned fel adnodd a chanolbwynt cymunedol.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn faes dynamic gyda phlatfformau newydd yn cychwyn yn aml a phlatfformau "traddodiadol" yn mynd yn llai poblogaidd wrth i’r byd digidol ddatblygu. Mae'r byd digidol yn ganolog i waith y Fenter ac i fywyd ein cymuned. Mae fideo yn gyfrwng gynyddol bwysig, gyda phob platfform erbyn hyn yn rhoi fwy o sylw a phwysigrwydd i fideo. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn ni’n ceisio adlewyrchu’r newid pwyslais hwn gan sicrhau bod y Fenter yn rhan o fywyd ein cymuned, gan gynnwys eubywyd digidol.

Themâu yn ystod y flwyddyn nesaf:

Cynyddu incwm

Ble mae “cartref” y Fenter?

Plant, theuluoedd, a Phobol ifanc

Gweithio gyda Phartneriaid hen a newydd Fideo

Tudalen 4

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024**

## **Ein diben a'n gweithgareddau**

Sefydlwyd Menter Iaith Casnewydd yn 2009 gan grŵp o wirfoddolwyr yn y gymuned oedd am weld y Gymraeg yn tyfu a ffynnu yng Nghasnewydd. Mae ganddom swyddogion llawn amser a gweithwyr achlysurol yn gweithio i ddatblygu rhaglen o weithgareddau Cymraeg yn y gymuned. Gweithiwn hefyd mewn partneriaieth gyda mudiadau cymunedol eraill i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas a’r Sir gan gyfrannu tuag at weledigaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Amcan y mudiad yw i wella addysg y cyhoedd am yr iaith Gymraeg drwy hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Gwnawn hyn drwy hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned drwy ddarparu clybiau gofal plant, gweithgareddau i ddysgwyr, clybiau ieuenctid, hybu’r defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat a chynnal a threfnu gweithgareddau cyson.

## **Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol**

Rheolir yr elusen gan ei ddogfen lywodraethu sef Memorandwm ac Erthyglau a fabwysiadwyd ar 16 Mai 2014. Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig. Mae’n fudiad nid-er-elw ac yn cael ei reoli gan bwyllgor o wirfoddolwyr sydd yn gyfarwyddwyr ac yn aelodau a adnabyddir fel y Pwyllgor Rheoli. Mae cyfraniad pob aelod o’r elusen wedi ei gyfyngu i £1 tuag at asedau os yw’r elusen yn cael ei ddiddymu. Etholir ein cyfarwyddwyr a’n hymddiriedolwyr yn y cyfarfod blynyddol cyffredinol drwy enwebiad yn ôl ein dogfen llywodraethiant.

## **Cyfarwyddwyr**

Datgelir y Cyfarwyddwyr a weithredodd yn ystod y flwyddyn a hyd at ddyddiad llofnodi'r datganiadau ariannol yma:

Mr S A Blundell Ms L K Harris – ymddiswyddodd ar 31 Mawrth 2024 Dr M Rees Ms R Willis Ms S W Thomas

## **Adolygiad ariannol**

Adroddir canlyniadau'r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol. Derbyniwyd cyfanswm incwm o £104,250 (2023: £85,791) a gwariwyd £107,034 (2023: £101,104) ac felly y gwariant net oedd £8,122 (2023: gwariant net £16,131).

Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Mawrth 2023 oedd £77,270 (2022: £91,583), lle roedd £dim yn perthyn i gronfa cyfyngedig (2023: £dim) a £30,888 (2022: £30,146) wedi ei gadw fel cronfa wrth gefn yn unol â'r polisi cronfeydd wrth gefn.

Tudalen 5

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024**

## **Adolygiad risg**

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu'r risgiau sylweddol hynny lle mae Menter Iaith Casnewydd yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau'r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau'r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis angen rhestri prif risgiau y cwmni, e.e. parhad y cwmni, materion ariannol, iechyd a diogelwch, data personol yr aelodau, staffio a'r amgylchedd.

## **Polisi cronfeydd wrth gefn a busnes gweithredol**

Mae gan Gyfarwyddwyr Menter Iaith Casnewydd yr hawl i gadw arian wrth gefn. Mae’r arian hyn er mwyn gwarchod y cwmni mewn sefyllfa o argyfwng. Gall yr arian gael ei ddefnyddio i dalu biliau a chyflogau pan fo sefyllfa ariannol Menter Iaith Casnewydd yn isel. Bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu yn unionsyth, hynny yw pan fo digon o arian yn y cyfrif cyfredol. Mae’r arian wrth gefn yn cael ei gadw mewn cyfrif cynilion y gellir cael mynediad ato unrhywbryd.

Caiff yr arian yma ei nodi fel ‘Cronfa Wrth Gefn’ ar gyfrifon Menter Iaith Casnewydd. Ymgeisia Menter Iaith Casnewydd gadw cyfanswm yr arian wrth gefn yn £30,000 oni phenderfynnir yn wahanol yng nghyfarfodydd y Cyfarwyddwyr. Anela’r Cyfarwyddwyr i gadw at y swm hwn ac ychwanegu ato er mwyn sicrhau bod mwy na digon i dalu costau rhedeg craidd y Fenter am 3 mis pe bai’r Fenter yn dod i ben. Bydd yr arian sy'n fwy na’r hyn sydd ei angen i gau'r Fenter yn arian y bydd posib ei ddefnyddio mewn argyfwng neu achos brys i gynnal digwyddiad, swydd neu ymgyrch benodol. Nid yw'r arian yma yn cael ei wario heb bleidlais fwyafrifol mewn cyfarfod llawn o'r Pwyllgor Cyfarwyddwyr.

Prif ffynhonnell incwm Menter Iaith Casnewydd yw Grant Llywodraeth Cymru. Mae Menter Iaith Casnewydd yn ymdrechu i ddenu incwm ychwanegol o ffynonellau arian eraill megis trwy geisiadau grant.

## **Polisi buddsoddi**

Rheolwyd polisi buddsoddi'r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu'r sefyllfa hon yn gyson.

## **Archwilydd annibynnol**

Archwilydd annibynnol y cyfrifon hyn oedd Llama Accounting  Ltd, 10 JR Quarter, Moy Road Industrial Estate, Taffs Well, CF15 7QR.

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau _Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd_ sy'n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019).

Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar .......31.1.2025................................... ac fe'i llofnodwyd ar eu rhan gan:

Enw: Thomas Hughes Ymddiriedolwr

Tudalen 6

**Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol i Ymddiriedolwyr Menter Iaith Casnewydd**

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Menter Iaith Casnewydd ('y Cwmni')**

Yr wyf yn adrodd i Ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

## **Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad**

Fel Ymddiriedolwyr y Cwmni (a hefyd y cyfarwyddwyr at ddibenion deddfwriaeth cwmnïau) chi sy'n gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 ('Deddf 2006').

Wedi bodloni fy hun nad oes angen i gyfrifon y Cwmni dderbyn awdit o dan Rhan 16 Deddf 2006, a'i bod yn gymwys ar gyfer archwiliad annibynnol, gallaf adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon yr elusen o dan Adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 ('Deddf 2011'). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn Cyfarwyddiadau y Comisiwn Elusennau o dan Adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

## **Datganiad yr Archwilydd Annibynnol**

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw fater wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'm harchwiliad sy'n peri i mi gredu:

1. nad yw'r cofnodion cyllido wedi eu cadw mewn perthynas â'r Cwmni yn unol â gofynion Adran 386 Deddf 2006;

## _neu_

2. nad yw'r cyfrifon yn cyd-fynd â'r cofnodion hyn;

## _neu_

3. nad yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion Adran 396 Deddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg nad yw'n rhan o'r materion gaiff eu hystyried fel rhan o archwiliad annibynnol;

## _neu_

4. nad yw'r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â methodoleg ac egwyddorion y Datganiad o Ymarfer a Argymhellwyd ( _Statement of Recommended Practice_ ) a ddefnyddir i gyfrifo ac adrodd gan elusennau sy'n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn ôl gofynion Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes gennyf unrhyw gonsyrn ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion mewn cysylltiad â'r archwiliad y dilyd tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn dod i ddealltwriaeth llawn o'r cyfrifon.

Dyddiad: 31.01.2025

L Hughes

Llama Accounting Ltd 10 JR Quarter Moy Road Industrial Estate Taffs Well CF15 7QR

Tudalen 7

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys cyfrif o incwm a gwariant)**

## **am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024**

|**Incwm**
Rhoddion
**Nodyn**
3
Llog
**Cyfanswm Incwm**
**Gwariant**
Gweithgareddau elusennol
4, 5
**Incwm net**
**Cysoni'r Cronfeydd**
Cysoni'r cronfeydd a ddygwyd ymlaen
**Cyfanswm y cronfeydd a gariwyd ymlaen**|**2024**

**103,717**
**532**
**104,250**
**(107,034)**
**(2,784)**
**77,270**
**74,486**|**2023**

85,633
128|

|||85,791
(101,922)|
|||(16,131)|
|||93,401|
|||77,270|

Tudalen 8

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Mantolen ar 31 Mawrth 2024**

|**Asedau sefydlog**
Asedau diriaethol
Nodyn
9
**Asedau cyfredol**
Dyledwyr
10
Arian yn y banc
**Credydwyr**
Yn ddyledus o fewn un blwyddyn
11
**Asedau net cyfredol**
**Cyfanswm asedau llai dyledion cyfredol**
**Asedau net**
**Cronfeydd**
Cronfeydd cyfyngedig
Cronfeydd wrth gefn
Cronfeydd cyffredinol
**Cyfanswm y cronfeydd**||**2024**

**5,249**
**12,464**
**61,374**|**2023**

6,407
7,193
69,750|

|||**73,838**
**(4,601)**|76,943
(6,080)|
|||**69,237**|70,863|
|||**74,486**|77,270|
|||**74,486**|77,270|

**30,889**
**43,597**
**74,486**|-
30,146
47,124|
||||77,270|

Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2022.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006.

## Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol:

(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac (b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol.

Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan.

Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar ....31.1.2025.................................  a’u llofnodi ar eu rhan gan:

Enw: Thomas Hughes Ymddiriedolwr

Mae'r nodiadau ar dudalennau 9 i 15 yn rhan annatod o'r datganiadau ariannol hyn.

Tudalen 9

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024**

## **1) Gwybodaeth Statudol**

Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cyfyngedig dan warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Gofrestredig yw Unit 2/Uned 2, The Provision Market, Casnewydd, Cymru, NP20 1DD.

Mae'r datganiadau ariannol wedi eu cyflwyno mewn Sterling (£), sef arian cyfred y cwmni, yn grwn i'r bunt agosaf.

Prif ddiben a natur yr elusen yw i gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd a’i gwneud yn iaith sy’n rhan o waed naturiol y ddinas gan alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.

Caiff y prif bolisïau cyfrifo a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn eu nodi isod. Cafodd y polisïau eu gweithredu'n gyson dros yr holl flynyddoedd a gyflwynir, oni nodir yn wahanol.

## **2) Polisïau Cyfrifyddu**

## **Sail paratoi’r datganiadau ariannol**

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) _Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice_ sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol.

Mae Menter Iaith Casnewydd yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol oni nodir yn wahanol yn y nodyn / nodiadau cyfrifo perthnasol.

## **Incwm o weithgareddau elusennol**

Mae’r incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm a dderbyniwyd dan gytundeb neu lle bo’r hawl yn amodol ar berfformiad dan amodau penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod gan bod y gwasanaethau perthynol yn cael eu darparu, ac y mae yna hawl, a thebygolrwydd o dderbynneb, a gellir mesur y swm gyda dibynadwyedd digonol. Caiff yr incwm ei ohirio lle bo’r arian yn cael ei dderbyn cyn cyflawni’r gwasanaeth neu’r digwyddiad mae’r arian yn berthnasol iddo.

## **Incwm buddsoddiadau**

Caiff incwm o fuddsoddiadau ei gydnabod ar sail ei dderbyn. Nid yw’n bolisi gan yr elusen i ddangos incwm net o wariant.

## **Gwariant**

Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle

Tudalen 10

nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi ei glustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau.

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (parhad)**

## **2) Polisïau Cyfrifyddu (parhad)**

## **Gwariant (parhad)**

Mae costau sy’n ymwneud â chodi arian yn cynnwys costau ymgyrchu, hysbysebu a marchnata, a defnyddiau postio uniongyrchol.

Mae gwariant ar weithgarwch elusennol yn cynnwys y costau hynny a delir gan yr elusen wrth gyflawni ei gweithgareddau a’i gwasanaethau er lles ei derbynwyr. Mae’n cynnwys nid yn unig y costau y gellir eu clustnodi’n uniongyrchol, ond hefyd y gweithgareddau a’r costau hynny o natur anuniongyrchol sy’n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

## **Asedau Sefydlog diriaethol**

Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar gost. Amcangyfrifir y dibrisiad er mwyn lleihau cost yr ased, namyn yr amcangyfrif o werth sy’n weddill, dros oes yr ased fel a ganlyn:

- 25% dull lleihau - 25% dull lleihau

## **Trethiant**

Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

## **Cyfrifo Cronfeydd**

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol. Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.

## **Offerynnau Ariannol**

Dim ond asedau ac ymrwymiadau ariannol o’r math sy’n gymwys ar gyfer offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Caiff offerynnau ariannol sylfaenol eu derbyn yn y lle cyntaf ar sail y gwerth ariannol, ac yna eu mesur ar sail eu gwerth setliad.

## **Dyledwyr**

Cydnabyddir dyledwyr yn ôl y swm y cytunwyd arno ar ôl cynnwys unrhyw ddisgownt masnachol.

## **Credydwyr**

Cydnabyddir credydwyr lle mae gan yr elusen ymrwymiad cyfredol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol sy’n debygol o arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti, a bod y swm i gwrdd â’r ymrwymiad yn un y gellir ei fesur neu ei amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, caiff credydwyr eu cydnabod wrth iddynt setlo’r swm ar ôl caniatáu unrhyw ddisgownt masnachol sy’n ddyledus.

Tudalen 11

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (parhad)**

## **2) Polisïau Cyfrifyddu (parhad)**

## **Trafodion cyfyngedig**

Dosberthir cronfeydd fel rhai cyfyngedig pan dyfarnwyd incwm grant ar gyfer gweithredu prosiectau penodol. Pan fydd yr elusen yn gwario costau cymorth wrth gyflawni amcanion y grantiau hyn, nid yw'n ymarferol rhannu'r gwariant rhwng elfennau cyfyngedig ac anghyfyngedig. Mae pob grant a wobrwywyd ar y sail bod elfen o gostau cymorth yn rhan o'r cais grant yn cael eu dosbarthu fel rhai gwbl anghyfyngedig.

## **3) Rhoddion**

|**Incwm**
Grant Craidd y Llywodraeth
Grant Haf o Hwyl
Grant Gweithwyr Chwarael
Ffioedd Gofal Plant (_gweler manylion isod)_
Grant clybiau ar ôl ysgol Cyngor Casnewydd
Grant i gefnogi dysgwyr
Grant Cymraeg yn y gymuned
Grant Cyngor casnewydd celf a chreft
Grant mentrau iaith cymru pel droed
Grant man cynnes
Grant bywd a hwyl
Grant Ar droed
Grant cwis mawr
Cymraeg I blant
Llog
**Cyfanswm incwm**|**2024**

**60,000**

**21,772**
**12,000**

**2,400**
**6,795**
**250**
**500**

**532**
**104,250**|**2023**

57,790
7,079
3,187
3,236
7,246
1,000
3,000
300
700
2,000

125
128|

|||85,791|

## **Ffioedd Gofal Plant**

Derbyniwyd £21,772 (2023: £3,236) o ffioedd gofal plant yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

## **Grantiau eraill**

Cyfanswm incwm grantiau eraill y cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 £dim (2023: £dim).

Tudalen 12

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (parhad)**

|**4) Gwariant**
**Costau uniongyrchol**
**Costau gweithgareddau craidd**
Hysbysebu gweithgareddau
Gweithgareddau
Adnoddau
**Cyfanswm costau gweithgareddau craidd**
**Costau clybiau ar ôl ysgol**
Bwyd ac adnoddau
Yswiriant
Gwiriadau DBS
**Cyfanswm costau clybiau ar ôl ysgol**
**Cyfanswm costau uniongyrchol**
**Costau cyflogaeth**
**Staff craidd**
Cyflogau
Yswiriant Gwladol
Costau pensiwn
Costau staff eraill
**Clybiau gwyliau**
Cyflogau
Costau pensiwn
**Staff clybiau ar ôl ysgol**
Cyflogau
**Cyfanswm costau cyflogaeth**
**Treuliau gweinyddol cyffredinol**
Rhent
Gwres a golau
Costau sefydlu swyddfa
Ffôn/WiFi
Treuliau TG
Ffioedd proffesiynol
Nwyddau swyddfa
Yswiriant
Aelodaeth
Hysbysebu
Costau eraill
Ffioedd bancio
**Cyfanswm costau gweinyddol cyffredinol**|||**2024**

**6,284**
**10,987**

**17,271**
**1,430**
**536**

**1,966**
**19,237**
**54,947**

**4,016**
**984**

**12,477**
**72,424**
**5,950**
**3,158**

**466**
**589**
**320**
**619**
**972**
**1,220**
**(272)**
**113**

**13,135**||**2023**

9,500
13,373
201
23,074
1,018
412
140
1,570
24,644
47,388

2,235
901

5,624
56,148|

||||**5,950**
**3,158**

**466**
**589**
**320**
**619**
**972**
**1,220**
**(272)**
**113**
**-**||5,903
2,257
1,274
382
200
929
523
788
1,035
1,284
1,461
60
**16,096**|

Tudalen 13

## **Menter Iaith Casnewydd**

**Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (parhad)**

## **5) Costau anuniongyrchol eraill**

|Dibrisio gosodiadau a ffitiadau
Ffi archwilio|**2024**

**1,158**
**1,080**
**3,216**|**2023**

2,136
1,080|

|||3,216|

## **6) Dadansoddiad o gostau staff a chydnabyddiaeth a threuliau'r Ymddiriedolwyr**

Ni chafodd yr Ymddiriedolwyr unrhyw enillion na chwaith unrhyw dreuliau yn ystod y flwyddyn (2023: £dim).

## **7) Costau staff**

Ar gyfartaledd misol, cyflogwyd 8 o staff yn ystod y flwyddyn (2023: 6).

## **8) Cwmni cyfyngedig drwy warant**

Mae'r cwmni yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac felly nid oes ganddo unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau. Mae pob un o'r aelodau yn atebol i gyfrannu swm nad yw'n fwy na £1 tuag at asedau'r cwmni os caiff y cwmni ei ddirwyn i ben.

Tudalen 14

## **Menter Iaith Casnewydd**

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (parhad)**

## **9) Asedau sefydlog diriaethol**

|**Cost**
Ar 1 Ebrill 2023
Ychwanegiadau
**Ar 31 Mawrth 2024**
**Dibrisiant**
Ar 1 Ebrill 2023
Tâl am y flwyddyn
**Ar 31 Mawrth 2024**
**Gwerth llyfr net**
**Ar 31 Mawrth 2024**
Ar 31 Mawrth 2023|**Offer**
**cyfrifiadurol**
**Offer a chyfarpar**
**Cyfanswm**

2,447
10,868
13,315

||**2,447**
**10,888**
**13,315**|
||(1,673)
(5,235)
(6,908)
(194)
(964)
(1,158)|
||**(1,867)**
**(6,199)**
**(8,066)**|

||**580**
**4,669**
**5,249**|
||774
5,633
6,407|

## **10) Dyledwyr: symiau'n ddyledus o fewn un blwyddyn**

|Grant Cyngor Casnewydd Clwb Gwyliau
Grant Cymraeg I blant
Ffioedd clybiau ar ôl ysgol
**11) Credydwyr: symiau'n ddyledus o fewn un blwyddyn**
Credydwyr masnach
Credydwyr eraill|**2024**

**12,464**
**12,464**
**2023**

**4,601**
**4,601**|**2023**

5,465
125
1,603|

|||7,193
**2022**

6,080
6,080|

Tudalen 15

## **Menter Iaith Casnewydd**

**Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (parhad)**

## **12) Symudiadau o fewn cronfeydd**

|**12) Symudiadau o fewn cronfeydd**|||||

|**Cronfeydd anghyfyngedig**
**Cronfa gyffredinol**
**Cronfa wrth gefn**
**Cronfeydd Cyfyngedig**
Grant Bwyd a hywl
Grant clybiau ar ôl ysgol Cyngor Casnewydd
Grant Ar Droed
Grant Cwis Mawr
Grant Man gynnes
**Cyfanswm cronfeydd cyfyngedig**
**Cyfansymiau cronfeydd**|**Ar 1/4/23**

**47,124**
**30,146**
**77,270**

**-**|**Adnoddau a**
**dderbyniwyd**

**81,562**
**743**|**Adnoddau**
**a wariwyd**

**(85,089)**

**(85,089)**
(6,795)
(12,000)
(250)
(500)
(2,400)
**(21,945)**
**(107,034)**|**Ar 31/3/24**

**43,597**
**30,889**|
|||**82,305**
6,795
12,000
250
500
2,400||**74,486**

|||**21,945**||**-**|
||**77,270**|**104,250**||**74,486**|

## **13) Offerynnau ariannol**

|Asedau ariannol ar sail cost amorteiddiad
Treuliau ariannol ar sail cost amorteiddiad|**2024**

**12,463**
**4,601**
**17,064**|**2023**

7,193
6,080|

|||13,273|

## **14) Trafodion â phartïon cysylltiedig**

Derbyniwyd cyfanswm o £dim (2023: £dim) gan bartïon cysylltiedig yn ystod y flwyddyn.

Tudalen 16

## **Menter Iaith Casnewydd Cyfrif Incwm a Gwariant manwl**

## **am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024**

|**am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024**|||

||**2024**|**2023**|

|**Incwm**|||
|Grant Craidd Llywodraeth Cymru|**60,000**|57,790|
|Grant clybiau ar ôl ysgol Cyngor Casnewydd|**12,000**|7,246|
|Grant Haf o Hwyl|**-**|7,079|
|Grant Uwch gweithwyr chwarae|**-**|3,187|
|Grant Cymraeg yn y gumuned|**-**|3,000|
|Grant Ar Droed|**250**|-|
|Grant bwyd a hwyl|**6,795**|-|
|Grant Cwis Mawr|**500**|-|
|Ffioedd gofal plant|**21,772**|3,236|
|Grant Man cynnes|**2,400**|2,000|
|Grant i gefnogi dysgwyr|**-**|1,000|
|Grant pel droed mentrau iaith Cymru|**-**|700|
|Grant Cyngor Casnewydd celf a chrefft|**-**|300|
|Cymraeg I blant|**-**|125|
|Llog|**532**|128|
|**Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd**|**104,250**|85,791|
|**Gwariant**|||
|Costau uniongyrchol|**(18,240)**|(24,644)|
|Costau cyflogaeth|**(72,427)**|(56,148)|
|Treuliau gweinyddol cyffredinol|**(14,135)**|(16,096)|
|Costau anuniongyrchol eraill|**(2,238)**|(3,216)|
|**Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd**|**(107,037)**|(101,104)|
|**Incwm net**|**(2,784)**|(14,313)|

_Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiad ariannol statudol_

Tudalen 17