## _**EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH**_

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL, EBRILL 2024 – MAWRTH 2025**

## **1.  Amcanion yr Eglwys**

- (1) Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â Chyffes Ffydd yr Eglwys, er budd y cyhoedd yn bennaf ond nid yn unig yn Aberystwyth a’r cyffiniau.

- (2) Amcanion elusennol eraill sydd, ym marn ymddiriedolwyr ac aelodau’r Eglwys, yn unol â gwaith yr Eglwys ac er budd y cyhoedd.

## **2.  Cyflawni’r amcanion**

Gan fod effeithiau Cofid-19 wedi cilio i raddau helaeth, roedd bywyd a gwaith yr Eglwys wedi gallu dychwelyd i batrwm mwy normal nag yn y blynyddoedd blaenorol. Anelwyd at gyflawni’r amcanion uchod, fel a ganlyn:

## _(1)  Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol:_

- A.  Cyfarfodydd

Ers Ionawr 2022 mae’r Eglwys wedi bod yn cynnal cyfarfodydd y Sul yn Neuadd Llanfarian, ac ers Ebrill 2022 cynhelir cwrdd gweddi nos Fawrth yn Neuadd Waun Fawr.

Darparwyd amrywiaeth o gyfarfodydd:

- Ar y Sul cynhaliwyd oedfaon bore a hwyr, ar gyfer addoli, gweddïo, pregethu efengyl Iesu Grist, egluro neges y Beibl i bobl heddiw, a gweinyddu Swper yr Arglwydd. Darlledwyd yr oedfaon hyn dros y we er mwyn y rhai oedd yn methu bod yn bresennol a nifer o bobl o’r tu allan i gynulleidfa arferol yr Eglwys.

- Ar nos Fawrth cynhaliwyd amrywiaeth o gyfarfodydd: astudiaeth feiblaidd a chwrdd gweddi, gyda’r astudiaeth hefyd yn cael ei darlledu dros y we; cwrdd gweddi cenhadol; seiat agored; a chyrddau gweddi lleol mewn gwahanol gartrefi.

- Cynhaliwyd ysgol Sul i’r plant yn gyson cyn oedfa’r bore.

- Cynhaliwyd oedfaon ar y cyd ag Eglwys Alfred Place ddydd Nadolig a Gwener y Groglith, ac ar ambell achlysur arall.

- Wrth ddathlu’r Nadolig a’r Pasg defnyddiwyd gwefan yr Eglwys a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn darparu darlleniadau dyddiol ac eitemau eraill.

- Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch/Dysgwyr yn yr hydref.

- Adeg troi’r goleuadau Nadolig ymlaen cynhaliwyd stondin yng nghanol y dref.

## B.  Gofal bugeiliol

- Yn ystod y flwyddyn mae’r henuriaid wedi ceisio sicrhau gofal bugeiliol i bob un sy’n gysylltiedig â’r Eglwys, gan gynnwys y rhai hŷn a gwan eu hiechyd, ac wedi annog pawb i ofalu am ei gilydd yn eu gwahanol amgylchiadau. Fe’u cynorthwywyd yn y gwaith hwn gan y diaconiaid.

- Mae’r cyrddau gweddi lleol misol wedi bod yn gyfle i bobl yr Eglwys gwrdd mewn gwahanol gartrefi a mwynhau cymdeithas anffurfiol â’i gilydd.

- Darparwyd paned wedi oedfa’r bore er mwyn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu â’i gilydd.

- Cynhaliwyd picnic Eglwys ar Sul cyntaf pob mis. Roedd yr achlysur hwn hefyd yn gyfle buddiol i hybu perthynas rhwng pobl.

- Gan fod yr Eglwys yn cwrdd yn Neuadd Llanfarian, trefnwyd lifftiau i’r rhai sydd heb eu cludiant eu hunain.

- Yn fisol ar nos Iau cynhaliwyd ‘Noson Hwyl’ dros Zoom er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa fwynhau egwyl ysgafn yng nghwmni ei gilydd. Calondid oedd gweld nifer o rai sy’n dysgu Cymraeg yn ymuno â’r Noson Hwyl, er nad oes ganddynt gysylltiad ffurfiol â’r Eglwys fel y cyfryw.

- Nid oedd yn bosibl cynnal parti Nadolig i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys oherwydd tywydd stormus.

- Cynhaliwyd prynhawn gweithgareddau ym mis Mehefin i bobl yr Eglwys ac eraill.

## C.  Cefnogaeth i waith yr Efengyl yn ehangach

- Gwahoddwyd pregethwyr o eglwysi eraill ledled Cymru i arwain oedfaon. Roedd eu parodrwydd yn hyn o beth yn gyfrwng i gefnogi a meithrin cysylltiadau â’r eglwysi hyn.

- Bu nifer o aelodau’r Eglwys yn pregethu mewn eglwysi eraill ar hyd a lled Cymru.

- Cafwyd cydweithio cadarnhaol ag Eglwys Saesneg y Bedyddwyr Alfred Place.

- Cefnogodd yr Eglwys waith cenhadon yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill fel a ganlyn:

Cymru 2 Ffrainc 1 Slofenia 1

Cyfrannwyd at gynhaliaeth y cenhadon hyn, a hefyd at gynhaliaeth rhywun sy’n mentora arweinwyr eglwysi yn nwyrain Ewrop. (Dros flynyddoedd lawer bu’r Eglwys hefyd yn cefnogi rhywun a fu’n ceisio cymodi pobloedd a brofodd wrthdaro ethnig; daeth y trefniant i ben yn ystod y cyfnod dan sylw oherwydd i’r person ymddeol o’r gwaith hwn.) Dosbarthwyd llythyrau newyddion gan y cenhadon uchod a chafwyd ymweliadau gan nifer ohonynt er mwyn iddynt sôn am eu gwaith.

• Anfonwyd cefnogaeth ariannol hefyd at nifer o fudiadau sy’n hyrwyddo’r Efengyl Gristnogol ac achosion elusennol, fel a ganlyn: Blythswood Care Plas Lluest (i bobl sydd ag anawsterau dysgu) Open Doors (cynorthwyo Cristnogion sy’n cael eu herlid)

Anogwyd yr aelodau i gyfrannu at y symiau a roddwyd. Cyfrannwyd hefyd at gostau ymgyrch efengylu Undeb Cristnogol ac Undeb Cristnogol Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

- Mae person o’r Eglwys yn ymweld ag ysgol leol yn gyson mewn cysylltiad â chynllun Agor y Llyfr.

- Cynhaliwyd cyfarfod i glywed am fwriad plannu eglwys newydd yn Llŷn.

## _(2)  Amcanion elusennol eraill_

- Parhawyd i noddi bachgen 16 oed yn Cenia, gan helpu darparu bwyd, addysg, a chymorth meddygol, trwy gyfrwng CompassionUK,

- Bu rhai o bobl yr Eglwys yn gyfrifol am ddarparu blychau Nadolig i’w hanfon at blant anghenus mewn gwledydd tramor.

- Ers Mai 2022 mae’r Eglwys wedi anfon cyfraniad ariannol misol at y Banc Bwyd lleol.

- Cynhaliodd yr Eglwys gyfres o gyfarfodydd misol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Hefyd bu defnydd cyson o offer cyfieithu-ar-y-pryd yn oedfaon y Sul er mwyn y rhai nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg.

- Mae nifer o achosion elusennol wedi eu cynnwys ymhlith y mudiadau a gefnogwyd yn ariannol gan yr Eglwys (gweler uchod).

## _(3)  Materion eraill_

## A.  Strwythur

Er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae gan yr Eglwys strwythur syml ond effeithiol:

- Mae tri henuriad (gan gynnwys gweinidog yr Eglwys), sy’n anelu at gwrdd yn fisol i drafod materion sy’n ymwneud yn bennaf â bywyd ysbrydol yr Eglwys.

- Ar ddechrau’r cyfnod roedd gan yr Eglwys hefyd bedwar diacon, a’r rheini’n cwrdd â’r henuriaid yn fisol mewn Cwrdd Swyddogion er mwyn trafod agweddau ymarferol ar fywyd a gwaith yr Eglwys. Yn ystod y flwyddyn ymddiswyddodd un o’r diaconiaid oherwydd pwysau gwaith, ac un arall oherwydd symud o Aberystwyth. Dechreuwyd trafod penodi henuriad a diaconiaid newydd.

- Cynhelir Cwrdd Eglwys nifer o weithiau mewn blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau drafod bywyd a gwaith yr Eglwys. Yn ystod y cyfnod dan sylw cynhaliwyd Cyrddau Eglwys ar 9 Gorffennaf 2024, 19 Tachwedd 2024 (Cyfarfod Blynyddol), a 25 Mawrth 2025. Yn ogystal cynhaliwyd Cwrdd Aelodau ar 18 Chwefror 2025 i roi sylw penodol i fater chwilio am weinidog newydd ymhen amser (gweler isod).

- Mae’r Cwrdd Swyddogion a’r Cwrdd Eglwys yn rhoi sylw manwl i sefyllfa ariannol yr Eglwys. Rhan o’u gwaith yw cymeradwyo’r cyfrifon ariannol, gan sicrhau fod y rhain wedi eu cadw’n foddhaol a bod arian wedi ei wario’n briodol yn unol ag amcanion yr Eglwys.

- Mae’r rhai sy’n gweithio gyda phlant yn cael eu dilysu’n swyddogol er mwyn cwrdd â gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwarchod. Yn ystod y flwyddyn cyflwynwyd polisi diogelu plant ac fe’i dosbarthwyd i bawb.

- Er 8 Rhagfyr 2017 mae’r Eglwys wedi ei chofrestru’n elusen gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif 1176181). Yn unol â’r amodau o fod yn elusen, yr henuriaid a’r diaconiaid yw ymddiriedolwyr yr elusen.

- Mae gan yr Eglwys wefan swyddogol sy’n darparu gwybodaeth amdani a’i gweithgareddau (egefaber.org). I’r un diben mae ganddi hefyd gyfrif X (Trydar gynt).

## B.  Cyhoeddiadau

- Ers Chwefror 2022 mae _Cwlwm_ yn cael ei gyhoeddi ar ei newydd wedd, sef taflen fisol sy’n cynnwys neges gan yr henuriaid, newyddion am yr Eglwys a’r bobl sy’n gysylltiedig â hi, a threfniadau pregethu. Fe’i hanfonir at bawb hefyd ar ffurf ddigidol.

- Dosbarthwyd cardiau gwahodd yn Llanfarian adeg y Nadolig a’r Pasg, ac mewn cysylltiad â’r Cwrdd Diolchgarwch. Hefyd dosbarthwyd dau rifyn o _Cwlwm Cymunedol_ yn Llanfarian.

- Yn ystod y flwyddyn dechreuwyd cynnwys manylion yn gyson am oedfaon yr Eglwys yn y _Cambrian News_ .

## **3.   Cloi**

Yn ystod y cyfnod dan sylw gwelwyd rhywfaint o gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu’r oedfaon. Derbyniwyd dau aelod newydd, ond collwyd dau aelod a’u teulu oherwydd iddynt symud o Aberystwyth. Roedd yn galondid sylwi ar nifer y rhai sy’n gwylio oedfaon yr Eglwys ar y we, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arfer mynychu’r Eglwys fel y cyfryw.

Mae diwedd cyfnod yr adroddiad hwn yn garreg filltir yn hanes gweinidog yr Eglwys, gan ei fod ar fin cyrraedd oed ymddeol. Dymuna ddiolch am yr holl gefnogaeth a chymorth a dderbyniodd ers dod yn weinidog yn 2007. Dechreuwyd ar broses chwilio am rywun i gymryd ei le, ond mae’r Eglwys yn falch iawn ei fod yn barod i barhau fel gweinidog rhan-amser am y tro.

Dymuna’r ymddiriedolwyr ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys am eu cymorth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Tystiant fod y cyfrifon i gyd yn gywir, a bod adnoddau ariannol yr Eglwys wedi eu defnyddio’n ddoeth ac yn gywir yn unol â’i hamcanion. Cymeradwyant weledigaeth yr Eglwys, ac edrychant ymlaen at hyrwyddo’i gwaith a’i thystiolaeth i’r dyfodol.

Llofnodwyd ar ran yr ymddiriedolwyr:

Derrick Adams 18/11/ 2025

## **EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH**

**Blwyddyn Ariannol 1 Ebrill 2024 - 31 Mawrth 2025**

|**INCWM**
Mewn Llaw 1 Ebrill 2024
Casgliadau Sul
Rhoddion Cymorth
Eraill (Banc)
Cyfrif Cadw
Ad-daliad|**GWARIANT**

5,483.10
1,311.52
Pregethu
40,012.00
Cylchgronau
20,405.00
Cyflog
80,000.00
Costau Derrick
8,567.27
Pensiwn
Cenhadon
- Lydia Adams
- Rhiannon Lloyd
- Rebecca Hughes (UFM)
- Mike Adams
Costau Cyson
- Neuadd Waunfawr
- Cyfrif Adeilad
- Cyfrif Cadw
- Banc Bwyd
- Compassion
- Neuadd Llanfarian
- Yswiriant
- Hawlfraint cerddoriaeth
- Costau Wefan
Amrywiol
- Cyfieithu "Good news for Everyone"
- Undeb Cristnogol
- Amrywiol
- Cyfraniad Gwersyll
- Posteri a Chardiau
- Hysbysebion
- Tabernacl Penthydeudraeth
- Costau Nadolig Maes Gwenfrewi
- Costau Zoom
Casgliadau Arbennig
- Plas Lluest
- Mudiad Efengylaidd Cymru
- Open Doors
- Blythswood
- Bryn y Groes
- Plas Lluest
- Y Gorlan
Mewn Llaw 31 Mawrth 2025
**155,778.89**
**Mantolen Cyfrif 1**|**£**
-1,843.00
-265.40
-33,965.82
-100.00
-6,191.31
-3,600.00
-750.00
-750.00
-750.00
-24.00
-325.00
-325.00
-450.00
-384.00
-3,395.00
-500.05
-170.00
-69.00
-500.00
-200.00
-535.00
-1,400.00
-213.57
-121.00
-500.00
-850.00
-155.88
-500.00
-1,250.00
-500.00
-500.00
-500.00
-500.00
-500.00
-93,195.86|

|||**-155,778.89**|

Tanrallt,
Penbontrhydybeddau,
Ceredigion.
SY23 3EZ
1010112026
Dear Sirs,
As requested, I have reviewed the accounts for E8lwys Efen8ylaidd Aberystwyth for the period I"
April 2024- 31 March 2025. The accounts appear to be well kept and in good order.
I hope thls is of assistance to you.
Yours sincerely,
pm
Patlence Jones