## _**EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH**_

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL, EBRILL 2023 – MAWRTH 2024**

## **1.  Amcanion yr Eglwys**

- (1) Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â Chyffes Ffydd yr Eglwys, er budd y cyhoedd yn bennaf ond nid yn unig yn Aberystwyth a’r cyffiniau.

- (2) Amcanion elusennol eraill sydd, ym marn ymddiriedolwyr ac aelodau’r Eglwys, yn unol â gwaith yr Eglwys ac er budd y cyhoedd.

## **2.  Cyflawni’r amcanion**

Yn ystod y flwyddyn hon llwyddwyd i ailafael mewn llawer o agweddau ar fywyd a gwaith yr Eglwys a effeithiwyd gan Cofid-19. O ganlyniad gwnaethpwyd ymdrech deg i gyflawni’r amcanion uchod, fel a ganlyn:

- _(1)  Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol:_

- A.  Cyfarfodydd

Ers Ionawr 2022 mae’r Eglwys wedi bod yn cynnal cyfarfodydd y Sul yn Neuadd Llanfarian, ac ers Ebrill 2022 cynhelir cwrdd gweddi nos Fawrth yn Neuadd Waun Fawr.

Llwyddwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfarfodydd:

- Oedfaon ar y Sul, bore a hwyr, ar gyfer addoli, gweddïo, pregethu Efengyl Iesu Grist, egluro neges y Beibl i bobl heddiw, a gweinyddu Swper yr Arglwydd. Parhawyd i ddarlledu’r oedfaon hyn dros y we er mwyn y rhai oedd yn methu bod yn bresennol a nifer o bobl o’r tu allan i gynulleidfa arferol yr Eglwys.

- Ar nos Fawrth cynhaliwyd amrywiaeth o gyfarfodydd: astudiaeth feiblaidd a chwrdd gweddi, gyda’r astudiaeth hefyd yn cael ei darlledu dros y we; cwrdd gweddi cenhadol; seiat agored; a chyrddau gweddi lleol mewn gwahanol gartrefi.

- Cynhaliwyd ysgol Sul i’r plant yn gyson cyn oedfa’r bore.  Cynhaliwyd oedfaon ar y cyd ag Eglwys Alfred Place ddydd Nadolig a Gwener y Groglith, ac ar ambell achlysur arall.

- Wrth ddathlu’r Nadolig a’r Pasg defnyddiwyd gwefan yr Eglwys a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn darparu darlleniadau dyddiol ac eitemau eraill. Trefnwyd i blant ysgolion cynradd lleol beintio modelau’n gysylltiedig â’r Nadolig; fe’u gosodwyd ym Mharc Gwenfrewi er mwyn i aelodau o’r cyhoedd eu gweld, a daeth nifer o gynghorwyr lleol i agoriad swyddogol yr arddangosfa.

- Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch yn yr hydref, a Chwrdd i Ddysgwyr yn y gwanwyn.

- B.  Gofal bugeiliol

- Mae’r henuriaid yn ceisio sicrhau gofal bugeiliol i bob un sy’n gysylltiedig â’r Eglwys, gan gynnwys y rhai hŷn a gwan eu hiechyd, ac yn annog pawb i ofalu am ei gilydd yn eu gwahanol amgylchiadau. Fe’u cynorthwyir yn y gwaith hwn gan y diaconiaid.

- Mae’r cyrddau gweddi lleol misol yn gyfle i bobl yr Eglwys gwrdd mewn gwahanol gartrefi a mwynhau cymdeithas anffurfiol â’i gilydd.

- Darperir paned wedi oedfa’r bore er mwyn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu â’i gilydd. Yn ystod y flwyddyn hefyd dechreuwyd cynnal picnic Eglwys ar Sul cyntaf pob mis.

- Gan fod yr Eglwys bellach yn cwrdd yn Neuadd Llanfarian, trefnir lifftiau i’r rhai sydd heb eu cludiant eu hunain.

- Yn fisol ar nos Iau cynhaliwyd ‘Noson Hwyl’ dros Zoom er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa fwynhau egwyl ysgafn yng nghwmni ei gilydd. Calondid oedd gweld nifer o rai sy’n dysgu Cymraeg yn ymuno â’r Noson Hwyl, er nad oes ganddynt gysylltiad ffurfiol â’r Eglwys fel y cyfryw.

- Fel arfer cynhelir parti Nadolig i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys, ond nid oedd yn bosibl gwneud hyn y tro yma oherwydd achosion o Cofid-19 mewn nifer o bobl.

- C.  Cefnogaeth i waith yr Efengyl yn ehangach

- Gwahoddwyd pregethwyr o eglwysi eraill ledled Cymru i arwain oedfaon. Roedd eu parodrwydd yn hyn o beth yn gyfrwng i gefnogi a meithrin cysylltiadau â’r eglwysi hyn.

- Bu nifer o aelodau’r Eglwys yn pregethu mewn eglwysi eraill ar hyd a lled Cymru

- Cafwyd cydweithio cadarnhaol ag Eglwys Saesneg y Bedyddwyr Alfred Place.

- Ym mai Medi bu’r Eglwys yn gwrando trwy Zoom ar anerchiad Emyr James (Caerdydd) yn Fforwm Arweinyddiaeth Cymru yn lle’r cwrdd arferol ar nos Fawrth.

- Cefnogodd yr Eglwys waith cenhadon yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill fel a ganlyn:

Cymru 2 Ffrainc 1 Slofenia 1 Iwerddon 1 Cyfrannodd at gynhaliaeth y cenhadon hyn, a hefyd at gynhaliaeth dau berson sy’n ceisio cadw cysylltiad cyson â gwahanol wledydd er mwyn hybu’r Efengyl Gristnogol, y naill yn mentora arweinwyr eglwysi yn nwyrain Ewrop a’r llall yn ceisio cymodi pobloedd sydd wedi profi gwrthdaro ethnig. Yn ystod y flwyddyn dosbarthwyd llythyrau newyddion gan y cenhadon hyn a chafwyd cyfle i siarad â nifer ohonynt er mwyn cael gwybod am eu gwaith a’u holi am eu cynlluniau i’r dyfodol.

- Trefnwyd cefnogaeth ariannol i nifer o fudiadau sy’n hyrwyddo’r Efengyl Gristnogol ac achosion elusennol, fel a ganlyn:

Y Gorlan (gwaith yn yr Eisteddfod)

Blythswood Care

Plas Lluest (i bobl sydd ag anawsterau dysgu) Open Doors (cynorthwyo Cristnogion sy’n cael eu herlid) Anogwyd yr aelodau i gyfrannu at y symiau a roddwyd. Cyfrannwyd hefyd at gostau ymgyrch efengylu Undeb Cristnogol Prifysgol Loughborough.

- Mae person o’r Eglwys yn ymweld ag ysgol leol yn gyson mewn cysylltiad â chynllun Agor y Llyfr.

_(2)  Amcanion elusennol eraill_

- Parhawyd i noddi bachgen 15 oed yn Cenia, gan helpu darparu bwyd, addysg, a chymorth meddygol, trwy gyfrwng CompassionUK,

- Bu rhai o bobl yr Eglwys yn gyfrifol am ddarparu blychau Nadolig i’w hanfon at blant anghenus mewn gwledydd tramor.

- Ers Mai 2022 mae’r Eglwys wedi anfon cyfraniad ariannol misol at y Banc Bwyd lleol.

- Yn ystod y flwyddyn ailgydiwyd yn y cyfarfodydd misol i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, gan gwrdd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar ben hynny, mae defnydd cyson o offer cyfieithu-ar-y-pryd yn oedfaon y Sul er mwyn y rhai nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg.

- Mae nifer o achosion elusennol wedi eu cynnwys yn ymhlith y mudiadau a gefnogwyd yn ariannol gan yr Eglwys (gweler uchod). Yn ogystal, yn sgîl y Cwrdd Diolchgarwch rhoddwyd cyfraniad at waith dyngarol Hwb Penparcau yn Wcráin.

## _(3)  Materion eraill_

## A.  Strwythur

Er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae gan yr Eglwys strwythur syml ond effeithiol:

- Mae tri henuriad (gan gynnwys gweinidog yr Eglwys), sy’n anelu at gwrdd yn fisol i drafod materion sy’n ymwneud yn bennaf â bywyd ysbrydol yr Eglwys.

- Mae gan yr Eglwys hefyd bedwar diacon, sy’n cwrdd â’r henuriaid yn fisol mewn Cwrdd Swyddogion er mwyn trafod agweddau ymarferol ar fywyd a gwaith yr Eglwys.

- Cynhelir Cwrdd Eglwys nifer o weithiau mewn blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau drafod bywyd a gwaith yr Eglwys. Yn ystod y cyfnod dan sylw cynhaliwyd Cyrddau Eglwys ar 11 Gorffennaf 2023, 28 Tachwedd 2023 (Cyfarfod Blynyddol), a 26 Mawrth 2024.

- Mae’r Cwrdd Swyddogion a’r Cwrdd Eglwys yn rhoi sylw manwl i sefyllfa ariannol yr Eglwys. Rhan o’u gwaith yw cymeradwyo’r cyfrifon ariannol, gan sicrhau fod y rhain wedi eu cadw’n foddhaol a bod arian wedi ei wario’n briodol yn unol ag amcanion yr Eglwys.

- Mae’r rhai sy’n gweithio gyda phlant yn cael eu dilysu’n swyddogol er mwyn cwrdd â gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwarchod. Yn ystod y flwyddyn lluniwyd polisi diogelu plant.

- Er 8 Rhagfyr 2017 mae’r Eglwys wedi ei chofrestru’n elusen gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif 1176181). Yn unol â’r amodau o fod yn elusen, yr henuriaid a’r diaconiaid yw ymddiriedolwyr yr elusen.

- Mae gan yr Eglwys wefan swyddogol sy’n darparu gwybodaeth amdani a’i gweithgareddau (egefaber.org). I’r un diben mae ganddi hefyd gyfrif X (Trydar gynt).

## B.  Cyhoeddiadau

- Ers Chwefror 2022 mae _Cwlwm_ yn cael ei gyhoeddi ar ei newydd wedd, sef taflen fisol sy’n cynnwys neges gan yr henuriaid, newyddion am yr Eglwys a’r bobl sy’n gysylltiedig â hi, a threfniadau pregethu. Fe’i ceir hefyd ar ffurf ddigidol.

- Dosbarthwyd cardiau gwahodd yn Llanfarian adeg y Nadolig a’r Pasg, ac mewn cysylltiad â’r Cwrdd Diolchgarwch.

## **3.   Cloi**

Yn ystod y flwyddyn gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu’r oedfaon, a derbyniwyd pedwar aelod newydd. Roedd hefyd yn galondid sylwi ar nifer y rhai sy’n gwylio oedfaon yr Eglwys ar y we, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arfer mynychu’r Eglwys fel y cyfryw.

Dymuna’r ymddiriedolwyr ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys am bob cymorth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Tystiant fod y cyfrifon i gyd yn gywir, a bod adnoddau ariannol yr Eglwys wedi eu defnyddio’n ddoeth ac yn gywir yn unol â’i hamcanion. Cymeradwyant weledigaeth yr Eglwys, ac edrychant ymlaen at hyrwyddo’i gwaith a’i thystiolaeth i’r dyfodol.

Llofnodwyd ar ran yr ymddiriedolwyr:

Derrick Adams

XXXXXXXXX 2024

## **EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH**

**Blwyddyn Ariannol 1 Ebrill 2023 - 31 Mawrth 2024 Mantolen Cyfrif 1**

|**INCWM**
Mewn Llaw 1 Ebrill 2023
Casgliadau Sul
Cylchgronau
Rhoddion Cymorth
Eraill (Banc)
Casgliadau Arbennig
Ad-daliad|**GWARIANT**

43,102.06
2,445.00
Pregethu
52.60
Cylchgronau
30,678.73
Cyflog
22,432.43
Costau Derrick
1,383.30
Pensiwn
14,700.92
Cenhadon
- Lydia Adams
- Esyllt Roberts
- Emanuel & Esther Durand
- Dafydd Job
- Heledd Job
Costau Cyson
- Neuadd Waunfawr
- Cyfrif Adeilad
- Cyfrif Cadw
- Banc Bwyd
- Compassion
- Neuadd Llanfarian
- Yswiriant
- Hawlfraint cerddoriaeth
- Costau Wefan
Amrywiol
- Y Gorlan
- Parti Nadolig
- Amrywiol
- Cyfraniad Gwersyll
- Posteri a Chardiau
- Hysbysebion
- Llyfrau
- Costau Nadolig Maes Gwenfrewi
- Costau Zoom
Casgliadau Arbennig
- Y Gorlan
- Eisteddfod
- Open Doors
- Blythswood
Mewn Llaw 31 Mawrth 2024
**114,795.04**|**£**
-1,231.50
-235.40
-30,634.43
-330.00
-4,095.24
-3,600.00
-4,500.00
-750.00
-750.00
-750.00
-1,084.00
-275.00
-50,275.00
-450.00
-364.00
-3,285.00
-500.05
-229.00
-589.86
-500.00
-63.00
-733.08
-500.00
-262.87
-71.72
-295.84
-980.57
-143.88
-500.00
-332.50
-500.00
-500.00
-5,483.10|

|||**-114,795.04**|

Tanrallt
PenbOntrhY¢*￿ddèU
Ceredi8lon
SY23 3EZ
iyoin5
Oear Slrs
As requested, I have ￿VIewed the èccounts for the Eglwys Efengylaidd Aberystwyth for the perlod
April 2023- 31 March 2024. The accounts appear to be well kept and In good order.
I hope thls Is of asslstance to you.
Your5 sincerely
Patlence Jones