EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH
ADRODDIAD BLYNYDDOL, EBRILL 2022 – MAWRTH 2023
1. Amcanion yr Eglwys
-
(1) Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â Chyffes Ffydd yr Eglwys, er budd y cyhoedd yn bennaf ond nid yn unig yn Aberystwyth a’r cyffiniau.
-
(2) Amcanion elusennol eraill sydd, ym marn ymddiriedolwyr ac aelodau’r Eglwys, yn unol â gwaith yr Eglwys ac er budd y cyhoedd.
2. Cyflawni’r amcanion
Er i rai o effeithiau Cofid-19 barhau i ddylanwadu ar fywyd yr Eglwys yn ystod 2022-23, mae’n dda adrodd i nifer o arwyddion mwy cadarnhaol a chalonogol ddod i’r golwg wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen. Llwyddwyd i gyflawni’r amcanion uchod yn ystod y flwyddyn, fel a ganlyn:
(1) Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol:
- A. Cyfarfodydd
Caewyd Canolfan Padarn, sef man cyfarfod yr Eglwys, ar ddechrau’r pandemig, ac roedd yn parhau i fod ar gau ddiwedd Mawrth 2023. Ers Ionawr 2022 mae’r Eglwys wedi bod yn cynnal cyfarfodydd y Sul yn Neuadd Llanfarian, ac ers Ebrill 2022 cynhelir cwrdd gweddi nos Fawrth yn Neuadd Waun Fawr.
Llwyddwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfarfodydd:
-
Oedfaon ar y Sul, bore a hwyr, ar gyfer addoli, gweddïo, pregethu Efengyl Iesu Grist, egluro neges y Beibl i bobl heddiw, a gweinyddu Swper yr Arglwydd. Parhawyd i ddarlledu’r oedfaon hyn dros y we er mwyn y rhai oedd yn methu bod yn bresennol a nifer o bobl o’r tu allan i gynulleidfa arferol yr Eglwys. Ym mis Mai penderfynwyd y dylai pawb sy’n mynychu’r cyfarfodydd fod yn rhydd i wisgo mwgwd neu beidio yn ôl eu dewis personol, ond parhawyd i osod cadeiriau ar yr ochrau i’r rheini oedd yn dymuno ymbellhau a sicrhau bwlch priodol rhwng rhesi’r canol.
-
O Ebrill 2022 ymlaen dechreuwyd cynnal cwrdd gweddi wyneb yn wyneb eto bob nos Fawrth. Pan oedd astudiaeth feiblaidd yn rhan o’r cwrdd hwn fe ddarlledwyd yr astudiaeth dros y we hefyd ar gyfer y rhai oedd yn methu bod yn bresennol. Ym mis Medi ailddechreuwyd cynnal cyrddau gweddi lleol yn fisol mewn gwahanol gartrefi.
-
O fis Mai 2022 ymlaen dechreuwyd cynnal ysgol Sul i’r plant eto.
-
Cynhaliwyd oedfaon gydag Eglwys Alfred Place noson Nadolig a bore Gwener y Groglith.
-
Wrth ddathlu’r Nadolig a’r Pasg defnyddiwyd gwefan yr Eglwys a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn darparu darlleniadau dyddiol ac eitemau eraill.
-
Yn yr haf bedyddiwyd dau o bobl ifainc yr Eglwys yn y môr.
-
B. Gofal bugeiliol
-
Mae’r henuriaid yn ceisio sicrhau gofal bugeiliol i bob un sy’n gysylltiedig â’r Eglwys, gan gynnwys y rhai hŷn a gwan eu hiechyd, ac yn annog pawb i ofalu am ei gilydd yn eu gwahanol amgylchiadau. Fe’u cynorthwyir yn y gwaith hwn gan y diaconiaid.
-
Mae’r cyrddau gweddi lleol misol yn gyfle i bobl yr Eglwys gwrdd mewn gwahanol gartrefi a mwynhau cymdeithas anffurfiol â’i gilydd.
-
Ym mis Medi dechreuwyd darparu paned wedi oedfa’r bore er mwyn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu â’i gilydd.
-
Gan fod yr Eglwys bellach yn cwrdd yn Neuadd Llanfarian, trefnir lifftiau i’r rhai sydd heb eu cludiant eu hunain.
-
Yn fisol ar nos Iau cynhaliwyd ‘Noson Hwyl’ dros Zoom er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa fwynhau egwyl ysgafn yng nghwmni ei gilydd. Calondid oedd gweld nifer o rai sy’n dysgu Cymraeg yn ymuno â’r Noson Hwyl, er nad oes ganddynt gysylltiad ffurfiol â’r Eglwys fel y cyfryw.
-
Cynhaliwyd parti Nadolig i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys.
C. Cefnogaeth i waith yr Efengyl yn ehangach
-
Gwahoddwyd pregethwyr o eglwysi eraill ledled Cymru i arwain oedfaon. Roedd eu parodrwydd yn hyn o beth yn gyfrwng i gefnogi a meithrin cysylltiadau â’r eglwysi hyn.
-
Bu nifer o aelodau’r Eglwys yn pregethu mewn eglwysi eraill ar hyd a lled Cymru
-
Cafwyd cydweithio cadarnhaol ag Eglwys Saesneg y Bedyddwyr Alfred Place, gan gynnwys nifer o oedfaon ar y cyd.
-
Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst, cydlynwyd ymweliadau gan bobl yr Eglwys er mwyn cefnogi gwaith Mudiad Efengylaidd Cymru yno.
-
Manteisiwyd ar y cyfle i wylio cyflwyniad Zoom gan Fforwm Arweinyddiaeth Cymru, ynghyd â fideos yn gysylltiedig â mudiad ‘ A Passion for Life ’.
Cefnogodd yr Eglwys waith cenhadon yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill fel a ganlyn: Cymru 1 Ffrainc 1 Slofenia 1 Iwerddon 1 Cyfrannodd at gynhaliaeth y cenhadon hyn, a hefyd at gynhaliaeth dau berson sy’n ceisio cadw cysylltiad cyson â gwahanol wledydd er mwyn hybu’r Efengyl Gristnogol, y naill yn mentora arweinwyr eglwysi yn nwyrain Ewrop a’r llall yn ceisio cymodi pobloedd sydd wedi profi gwrthdaro ethnig. Yn ystod y flwyddyn dosbarthwyd llythyrau newyddion gan y cenhadon hyn a chafwyd cyfle i siarad â nifer ohonynt er mwyn cael gwybod am eu gwaith a’u holi am eu cynlluniau i’r dyfodol. Ailsefydlwyd trefn cynnal casgliadau ariannol i gefnogi gweithgareddau sy’n hyrwyddo’r Efengyl Gristnogol ac achosion elusennol. a ganlyn:
European Mission Fellowship (gwaith yn Wcráin) Canolfan Gristnogol Bryn-y-groes Plas Lluest (i bobl sydd ag anawsterau dysgu) Dioddefwyr y daeargryn yn Nhwrci a Syria
(2) Amcanion elusennol eraill
-
Parhawyd i noddi bachgen 14 oed yn Cenia, gan helpu darparu bwyd, addysg, a chymorth meddygol, trwy gyfrwng CompassionUK,
-
Bu rhai o bobl yr Eglwys yn gyfrifol am ddarparu blychau Nadolig i’w hanfon at blant anghenus mewn gwledydd tramor.
-
Ers Mai 2022 mae’r Eglwys wedi anfon cyfraniad ariannol misol at y Banc Bwyd lleol.
-
Yn ystod y flwyddyn ailgydiwyd yn y cyfarfodydd misol i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, gan gwrdd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar ben hynny, mae defnydd cyson o offer cyfieithu-ar-y-pryd yn oedfaon y Sul er mwyn y rhai nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg.
(3) Materion eraill
A. Strwythur
Er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae gan yr Eglwys strwythur syml ond effeithiol:
-
Mae tri henuriad (gan gynnwys gweinidog yr Eglwys), sy’n anelu at gwrdd yn fisol i drafod materion sy’n ymwneud yn bennaf â bywyd ysbrydol yr Eglwys.
-
Yn ystod y flwyddyn ymddeolodd un diacon a phenodwyd tri diacon newydd. Mae’r diaconiaid yn cwrdd â’r henuriaid yn fisol mewn Cwrdd Swyddogion er mwyn trafod agweddau ar fywyd a gwaith yr Eglwys. Bu rhai o’r cyfarfodydd hyn dros Zoom.
-
Cynhelir Cwrdd Eglwys nifer o weithiau mewn blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau drafod bywyd a gwaith yr Eglwys. Yn ystod y cyfnod dan sylw cynhaliwyd Cyrddau Eglwys ar 12 Gorffennaf 2022, 22 Tachwedd 2022 (Cyfarfod Blynyddol), a 7 Mawrth 2023.
-
Mae’r Cwrdd Swyddogion a’r Cwrdd Eglwys yn rhoi sylw manwl i sefyllfa ariannol yr Eglwys. Rhan o’u gwaith yw cymeradwyo’r cyfrifon ariannol, gan sicrhau fod y rhain wedi eu cadw’n foddhaol a bod arian wedi ei wario’n briodol yn unol ag amcanion yr Eglwys.
-
Mae’r rhai sy’n gweithio gyda phlant yn cael eu dilysu’n swyddogol er mwyn cwrdd â gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwarchod.
-
Er 8 Rhagfyr 2017 mae’r Eglwys wedi ei chofrestru’n elusen gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif 1176181). Yn unol â’r amodau o fod yn elusen, yr henuriaid a’r diaconiaid yw ymddiriedolwyr yr elusen.
-
Mae gan yr Eglwys wefan swyddogol sy’n darparu gwybodaeth amdani a’i gweithgareddau (egefaber.org). I’r un diben mae ganddi hefyd gyfrif Trydar.
B. Cyhoeddiadau
-
Ers Chwefror 2022 mae Cwlwm yn cael ei gyhoeddi ar ei newydd wedd, sef taflen fisol sy’n cynnwys neges gan yr henuriaid, newyddion am yr Eglwys a’r bobl sy’n gysylltiedig â hi, a threfniadau pregethu. Fe’i ceir hefyd ar ffurf ddigidol.
-
Dosbarthwyd cardiau gwahodd yn Llanfarian yn y gwanwyn, ac eto cyn y Nadolig.
-
Dosbarthwyd copïau o Holi yn ardaloedd Llanfarian a Phenrhyn-coch adeg y Nadolig.
CH. Cloi
Gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu’r oedfaon. Symudodd dau aelod i eglwys arall, ond derbyniwyd chwe aelod newydd. Roedd hefyd yn
galondid sylwi ar nifer y rhai sy’n gwylio oedfaon yr Eglwys ar y we, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arfer mynychu’r Eglwys fel y cyfryw.
Wedi’r cyfyngiadau clo daethpwyd i werthfawrogi o’r newydd bwysigrwydd cydaddoli, cymdeithasu wyneb yn wyneb, annog ein gilydd, a gofalu am y rhai unig ac anghenus. Profwyd llawer o anogaethau, a bu gwerthfawrogi cyffredinol o’r ddarpariaeth yn yr amgylchiadau anarferol.
Dymuna’r ymddiriedolwyr ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys am bob cymorth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Tystiant fod y cyfrifon i gyd yn gywir, a bod adnoddau ariannol yr Eglwys wedi eu defnyddio’n ddoeth ac yn gywir yn unol â’i hamcanion. Cymeradwyant weledigaeth yr Eglwys, ac edrychant ymlaen at hyrwyddo’i gwaith a’i thystiolaeth i’r dyfodol.
Llofnodwyd ar ran yr ymddiriedolwyr:
Derrick Adams
14 Tachwedd 2023
EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH
Blwyddyn Ariannol 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023
| INCWM Casgliadau Sul Cylchgronau Rhoddion Cymorth Eraill (Banc) Casgliadau Arbennig Rhoddion Cymorth – Casgliadau Arbennig Cyfrif Cadw Ad-daliad Llog (Cyfrif 2 a 3) |
GWARIANT £ 6,845.00 Pregethu 313.47 Cylchgronau 31,917.00 Cyflog 18,395.00 Costau Derrick 1,339.00 Pensiwn 1,125.00 2,600.00 Cenhadon 6,799.37 - Lydia Adams 237.22 - Rhiannon Lloyd - Mike Adams - Emanuel & Esther Durand - Dafydd Job - Heledd Job Costau Cyson - Neuadd Llanfarian - Neuadd Buarth - Cyfrif Adeilad - Cyfrif Cadw - Jubilee Storehouse - Compassion - Neuadd Waunfawr - Yswiriant - Hawlfraint cerddoriaeth - Technoleg - Disclosure Services Amrywiol - Cyfraniad Gwersyll - Gweithgareddau Nadolig - Costau Cymun - Amrywiol Casgliadau Arbennig - MEC Eisteddfod - EMF Ukraine Appeal - Mount Elim Pontdawe Building Fund - MEC Bryn y Groes - Tearfund Turkey/Syria Earthquake - Plas Lluest 69,571.06 Pob Cyfrif |
£ -1,220.00 -718.80 -27,387.90 -310.00 -4,366.08 -3,600.00 -600.00 -600.00 -600.00 -600.00 -735.00 -3,140.00 -132.00 -300.00 -300.00 -450.00 -336.00 -1,320.00 -500.06 -214.00 -575.86 -88.40 -200.00 -61.22 -74.98 -22.99 -1,000.00 -2,000.00 -1,000.00 -800.00 -606.00 -500.00 |
|---|---|---|
| -54,359.29 |
EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH
| INCWM GWARIANT £ Mewn Llaw 1 Ebrill 2022 28,507.51 Casgliadau Sul 6,845.00 Pregethu Cylchgronau 313.47 Cylchgronau Rhoddion Cymorth 31,917.00 Cyflog Eraill (Banc) 18,395.00 Costau Derrick Casgliadau Arbennig 1,339.00 Pensiwn Rhoddion Cymorth – Casgliadau Arbennig 1,125.00 Cyfrif Cadw 2,600.00 Cenhadon Ad-daliad 6,799.37 - Lydia Adams - Rhiannon Lloyd - Mike Adams - Emanuel & Esther Durand - Dafydd Job - Heledd Job Costau Cyson - Neuadd Llanfarian - Neuadd Buarth - Cyfrif Adeilad - Cyfrif Cadw - Jubilee Storehouse - Compassion - Neuadd Waunfawr - Yswiriant - Hawlfraint cerddoriaeth - Technoleg - Disclosure Services Amrywiol - Cyfraniad Gwersyll - Gweithgareddau Nadolig - Costau Cymun - Amrywiol Casgliadau Arbennig - MEC Eisteddfod - EMF Ukraine Appeal - Mount Elim Pontdawe Building Fund - MEC Bryn y Groes - Tearfund Turkey/Syria Earthquake - Plas Lluest - - Mewn Llaw 31 Mawrth 2023 97,841.35 Blwyddyn Ariannol 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023 Mantolen Cyfrif 1 |
£ -1,220.00 -718.80 -27,387.90 -310.00 -4,366.08 -3,600.00 -600.00 -600.00 -600.00 -600.00 -735.00 -3,140.00 -132.00 -300.00 -300.00 -450.00 -336.00 -1,320.00 -500.06 -214.00 -575.86 -88.40 -200.00 -61.22 -74.98 -22.99 -1,000.00 -2,000.00 -1,000.00 -800.00 -606.00 -500.00 -43,482.06 |
|---|---|
| -97,841.35 |
EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH
Blwyddyn Ariannol 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023
Mantolen Cyfrif Cadw
----- Start of picture text -----
INCWM GWARIANT
£ £
Mewn Llaw 1 Ebrill 2022 93,397.82
O Cyfrif 1 300.00
Llog 204.35
Mewn Llaw 31 Mawrth 2023 93,902.17
93,902.17 93,902.17
Mantolen Cyfrif Adeilad
INCWM GWARIANT
£ £
Mewn Llaw 1 Ebrill 2022 14,871.51
O Cyfrif 1 300.00
Llog 32.87
Mewn Llaw 31 Mawrth 2023 15,204.38
15,204.38 15,204.38
----- End of picture text -----
Archwiliwyd ac fe gafwyd yn gywir:
__________ _____
2 Elizabeth Avenue Buxton SK17 7R8 2711212023 Dear Sirs As requested. I have reviewed the accounts for the Eglvlys Efengylaidd Aberystwyth for the period April 2022- 31. March 2023. The accounts appear to be well kept and in good order. Although l am not a qualified accountant or auditor I have a degree in Accounting and Finance and currently work in Financial Services. I hope this is of assistance to you. Yours sincerely Katie Eastwood