## _**EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH**_ 

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL, EBRILL 2021– MAWRTH 2022** 

## **1.  Amcanion yr Eglwys** 

- (1) Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â Chyffes Ffydd yr Eglwys, er budd y cyhoedd yn bennaf ond nid yn unig yn Aberystwyth a’r cyffiniau. 

- (2) Amcanion elusennol eraill sydd, ym marn ymddiriedolwyr ac aelodau’r Eglwys, yn unol â gwaith yr Eglwys ac er budd y cyhoedd. 

## **2.  Cyflawni’r amcanion** 

Bu’n rhaid i’r Eglwys fynd i’r afael ag effeithiau Cofid-19 unwaith eto yn ystod 2021–22, ond serch hynny gwelwyd hefyd ddigon o arwyddion cadarnhaol a chalonogol.  Llwyddwyd i gyflawni’r amcanion uchod yn ystod y flwyddyn, er y bu’n rhaid newid rhai o’r trefniadau ymarferol er mwyn mynd â’r maen i’r wal. 

## _(1)  Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol:_ 

## A.  Cyfarfodydd 

Caewyd Canolfan Padarn, sef man cyfarfod yr Eglwys, ar ddechrau’r pandemig, ac roedd yn parhau i fod ar gau ddiwedd Mawrth 2022. Oherwydd cyfyngiadau Cofid-19 nid oedd yn bosibl cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar ddechrau’r cyfnod, ond o dipyn i beth daeth cyfleoedd eto i gwrdd wyneb-yn-wyneb. 

Trwy wahanol gyfryngau llwyddwyd i ddarparu amrywiaeth o oedfaon: 

- Oedfaon ar y Sul, bore a hwyr, ar gyfer addoli, gweddïo, pregethu Efengyl Iesu Grist ac egluro neges y Beibl i bobl heddiw. Am rai misoedd ar ddechrau’r cyfnod roedd y rhain yn cael eu darlledu dros y we, ond ailddechreuwyd oedfa foreol ar 13 Mehefin 2021, yn Neuadd y Buarth. Gan nad Neuadd y Buarth ar gael gyda’r hwyr, ni fu’n bosibl cynnal oedfa hwyrol wyneb yn wyneb yno. O ganlyniad penderfynwyd symud yr oedfaon i Neuadd Llanfarian; cynhaliwyd oedfa foreol yno am y tro cyntaf ar 9 Ionawr 2022, ac oedfa hwyrol ar 6 Chwefror. Mae’r man cyfarfod newydd wedi bod yn dderbyniol iawn 



gan bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys. Er bod y symud i oedfaon wyneb yn wyneb yn cael ei groesawu’n gyffredinol, parhawyd i’w darlledu dros y we er mwyn y rhai oedd yn methu bod yn bresennol a nifer o bobl o’r tu allan i gynulleidfa arferol yr Eglwys. Roedd cwrdd wyneb yn wyneb eto’n golygu dilyn argymhellion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys paratoi asesiad risg, gwisgo mygydau, darparu deunydd glanweithdra, gosod digon o fwlch rhwng y cadeiriau, a sicrhau awyru effeithiol. Penderfynwyd gofyn i bawb gofrestru ymlaen llaw cyn dod i’r oedfaon a’u stiwardio o fewn yr adeilad. 

- Am ran o’r cyfnod cynhaliwyd ysgol Sul i’r plant dros y we. 

- Llwyddwyd i weinyddu ordinhad Swper yr Arglwydd yn rhithiol, ac yna’n gyhoeddus wedi’r symud i Neuadd y Buarth. 

- Bob nos Fawrth darlledwyd astudiaeth feiblaidd dros y we, ac yna cynhaliwyd cwrdd gweddi via Zoom. 

- Cynhaliwyd oedfa wyneb yn wyneb gydag Eglwys Alfred Place ar fore Nadolig, ac oedfa dros y we, eto gydag Alfred Place, ddydd Gwener y Groglith. Wrth ddathlu’r Nadolig a’r Pasg defnyddiwyd gwefan yr Eglwys a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn darparu darlleniadau dyddiol ac eitemau eraill. Ar ben hynny, trefnwyd ‘Llwybr y Nadolig’, yn bennaf ar gyfer plant, ym Mhenrhyn-coch. 

## B.  Gofal bugeiliol 

Oherwydd y cyfyngiadau ar gwrdd wyneb yn wyneb, bu’n rhaid hepgor nifer o weithgareddau mwy cymdeithasol eu naws. Ceisiwyd ymdopi â’r her hon mewn nifer o ffyrdd: 

   - Trwy wasanaeth WhatsApp trefnwyd ffordd i bobl yr Eglwys gadw mewn cysylltiad â’i gilydd. 

   - Am rai misoedd ar ddechrau’r cyfnod cynhaliwyd sesiynau anffurfiol via Zoom – gan gynnwys ‘ystafelloedd torri allan’ – ar ôl oedfaon bore Sul er mwyn i bawb sgwrsio â’i gilydd. Felly hefyd wedi’r cwrdd gweddi ar nos Fawrth. 

   - Cynhaliwyd ‘Noson Hwyl’ yn gyson ar nos Iau er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa fwynhau egwyl ysgafn yng nghwmni ei gilydd. Er nad oedd modd cynnal ein cyfarfodydd ar gyfer y rhai sy’n dysgu Cymraeg, calondid oedd gweld nifer o’r dysgwyr yn ymuno â’r Noson Hwyl. 

- C.  Cefnogaeth i waith yr Efengyl yn ehangach 

   - Gwahoddwyd pregethwyr o eglwysi eraill ledled Cymru i arwain oedfaon. Er nad oedd yn bosibl iddynt ddod yn gorfforol ar ddechrau’r 



cyfnod dan sylw, roeddynt yn barod i recordio negeseuon i’w darlledu dros y we. Roedd eu parodrwydd yn hyn o beth yn gyfrwng i gefnogi a meithrin cysylltiadau â’r eglwysi hyn. 

- Bu nifer o aelodau’r Eglwys yn pregethu mewn eglwysi eraill, wyneb yn wyneb a via Zoom. 

- Cafwyd cydweithio cadarnhaol ag Eglwys Saesneg y Bedyddwyr Alfred Place, gan gynnwys nifer o oedfaon ar y cyd. 

- Cefnogodd yr Eglwys waith cenhadon yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill fel a ganlyn: 

Cymru 2 Ffrainc 1 Slofenia 1 Iwerddon 1 Cyfrannodd at gynhaliaeth y cenhadon hyn, a hefyd at gynhaliaeth dau berson sy’n ceisio cadw cysylltiad cyson â gwahanol wledydd er mwyn hybu’r Efengyl Gristnogol, y naill yn mentora arweinwyr eglwysi yn nwyrain Ewrop a’r llall yn ceisio cymodi pobloedd sydd wedi profi gwrthdaro ethnig. Yn ystod y flwyddyn cafwyd cyfle i siarad â nifer o’r cenhadon hyn dros y we er mwyn cael gwybod am eu gwaith a’u holi am eu cynlluniau i’r dyfodol. 

- Oherwydd y cyfyngiadau ar gwrdd yn gyhoeddus, nid oedd yn ymarferol cynnal casgliadau ariannol i gefnogi gweithgareddau sy’n hyrwyddo’r Efengyl Gristnogol yn gyffredinol. O ganlyniad, penderfynwyd dosbarthu arian o gyfrif cyfredol yr Eglwys i’r cyrff a ganlyn: 

European Mission Fellowship (gwaith yn Wcráin) Mudiad Efengylaidd Cymru (yr Eisteddfod Genedlaethol) Y Gorlan (yr Eisteddfod Genedlaethol) Eglwys Pontardawe (adeilad newydd) Canolfan Gristnogol Bryn-y-groes 

## _(2)  Amcanion elusennol eraill_ 

Bu’n rhaid cwtogi ar nifer o weithgareddau elusennol eraill oherwydd gofynion y cyfnodau clo. Serch hynny, 

- Parhawyd i noddi bachgen 13 oed yn Cenia, gan helpu darparu bwyd, addysg, a chymorth meddygol, trwy gyfrwng CompassionUK, 

- Bu rhai o bobl yr Eglwys yn gyfrifol am ddarparu blychau Nadolig i’w hanfon at blant anghenus mewn gwledydd tramor. 



- Llwyddwyd i ddarparu cyfarfodydd misol via Zoom i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Ar ben hynny, mae defnydd cyson o offer cyfieithuar-y-pryd yn oedfaon y Sul er mwyn y rhai nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg. 

## _(3)  Materion eraill_ 

## A.  Strwythur 

Er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae gan yr Eglwys strwythur syml ond effeithiol: 

- Mae tri henuriad (gan gynnwys gweinidog yr Eglwys), sy’n anelu at gwrdd yn fisol i drafod materion sy’n ymwneud yn bennaf â bywyd ysbrydol yr Eglwys. Llwyddwyd i barhau i gynnal y cyfarfodydd hyn via Zoom. 

- Mae hefyd ddau ddiacon, sy’n cwrdd â’r henuriaid yn fisol mewn Cwrdd Swyddogion er mwyn trafod agweddau mwy ymarferol ar fywyd a gwaith yr Eglwys. Eto cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn via Zoom. 

- Cynhelir Cwrdd Eglwys nifer o weithiau mewn blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau drafod bywyd a gwaith yr Eglwys. Yn ystod y cyfnod dan sylw cynhaliwyd Cyrddau Eglwys via Zoom ar 13 Gorffennaf 2020, 28 Medi 2021, 23 Tachwedd 2021 (Cyfarfod Blynyddol), a 22 Mawrth 2022. 

- Mae’r Cwrdd Swyddogion a’r Cwrdd Eglwys yn rhoi sylw manwl i sefyllfa ariannol yr Eglwys. Rhan o’u gwaith yw cymeradwyo’r cyfrifon ariannol, gan sicrhau fod y rhain wedi eu cadw’n foddhaol a bod arian wedi ei wario’n briodol yn unol ag amcanion yr Eglwys. 

- Mae bwriad trefnu cwrs hyfforddi ynghylch diogelu plant a phobl ifainc, ond ni fu’n bosibl ei gynnal hyd yma oherwydd y cyfyngiadau. 

- • Er 8 Rhagfyr 2017 mae’r Eglwys wedi ei chofrestru’n elusen gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif 1176181). Yn unol â’r amodau o fod yn elusen, yr henuriaid a’r diaconiaid yw ymddiriedolwyr yr elusen. 

- Mae gan yr Eglwys wefan swyddogol sy’n darparu gwybodaeth amdani a’i gweithgareddau (egefaber.org). I’r un diben mae ganddi hefyd gyfrif Trydar. 

## B.  Cyhoeddiadau 

- Ers Chwefror 2022 mae _Cwlwm_ yn cael ei gyhoeddi ar ei newydd wedd, sef taflen fisol sy’n cynnwys neges gan yr henuriaid, 



newyddion am yr Eglwys a’r bobl sy’n gysylltiedig â hi, a threfniadau pregethu. Fe’i ceir hefyd ar ffurf ddigidol. 

- Oherwydd y cyfyngiadau clo ni fu’n bosibl argraffu cardiau i gyfleu cyfarchion Nadolig a rhoi gwybod am oedfaon Nadolig yr Eglwys. Serch hynny, llwyddwyd i ddosbarthu cardiau gwahodd yn ardal y Buarth. 

- Dosbarthwyd copïau o _Holi_ yn ardal Penrhyn-coch a mannau eraill adeg y Nadolig. 

CH.  Cloi 

Bu rhywfaint o lanw a thrai o ran nifer y rhai sy’n gysylltiedig â’r Eglwys. Yn dilyn y cyfnod clo, mae ambell un o aelodau hŷn yr Eglwys wedi methu mynychu’r oedfaon cyhoeddus, ond darperir y rhain iddynt dros y we. Am resymau teuluol symudodd gŵr a gwraig a fu’n fawr eu cyfraniad i’r Eglwys o’r cychwyn cyntaf i Gaerdydd; gwelir eu heisiau, ond dymunwn fendith helaeth Duw arnynt. Bu farw un o aelodau’r Eglwys yn ystod y flwyddyn. Ar yr ochr arall gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu’r oedfaon, a disgwylir y daw rhai ohonynt yn aelodau o’r Eglwys yn y dyfodol agos. Roedd hefyd yn galondid sylwi ar nifer y rhai sy’n gwylio oedfaon yr Eglwys ar y we, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arfer mynychu’r Eglwys fel y cyfryw. 

Oherwydd y newidiadau yn nhrefniadau’r cyfyngiadau clo cododd nifer o heriau newydd yn ystod y flwyddyn, ond mae’r Eglwys wedi ymdrechu i gyflawni’r amcanion a nodir uchod, gan anelu at fod yn halen ac yn oleuni yn y gymuned. Daethpwyd i werthfawrogi o’r newydd bwysigrwydd cydaddoli, cymdeithasu wyneb yn wyneb, annog ein gilydd, a gofalu am y rhai unig ac anghenus. Profwyd llawer o anogaethau, a bu gwerthfawrogi cyffredinol o’r ddarpariaeth yn yr amgylchiadau anarferol. 

Dymuna’r ymddiriedolwyr ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys am bob cymorth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn anodd hon. Gallant dystio fod y cyfrifon i gyd yn gywir, a bod adnoddau ariannol yr Eglwys wedi eu defnyddio’n ddoeth ac yn gywir yn unol â’i hamcanion. Cymeradwyant weledigaeth yr Eglwys, ac edrychant ymlaen at hyrwyddo’i gwaith a’i thystiolaeth wrth i’r sefyllfa ddod fwyfwy yn ôl i’r arferol. 

Llofnodwyd ar ran yr ymddiriedolwyr: 

Derrick Adams 



## 




## 




## 


## 





## 




## 




## 




## 


## 





## 


