OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2021-03-31-accounts

EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH

ADRODDIAD BLYNYDDOL, EBRILL 2020– MAWRTH 2021

1. Amcanion yr Eglwys

2. Cyflawni’r amcanion

Effeithiodd cysgod Cofid-19 yn helaeth ar yr Eglwys yn ystod 2020–21. Gwnaed ymgais lew i gyflawni’r amcanion uchod yn ystod y flwyddyn, ond oherwydd y cyfyngiadau a’r cyfnodau clo bu’n rhaid addasu’r gweithgareddau’n sylweddol. Ar ddechrau’r pandemig caeodd Cyngor Sir Ceredigion Ganolfan Padarn, lle mae’r Eglwys yn cyfarfod, ac roedd yn dal ar gau ar ddiwedd Mawrth 2021. Ond er methu cwrdd wyneb-yn-wyneb, llwyddwyd i gyflwyno’r ddarpariaeth a ganlyn:

(1) Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol:

A. Cyfarfodydd

Gwaetha’r modd, oherwydd y cyfyngiadau bu’n rhaid rhoi’r gorau am y tro i nifer o gyfarfodydd yr Eglwys. Serch hynny, darparwyd amrywiaeth o oedfaon:

cymdeithasol er mwyn darparu eitemau ychwanegol yn gysylltiedig â’r Ŵyl..

B. Gofal bugeiliol

Oherwydd nad oedd modd i aelodau’r gynulleidfa gwrdd â’i gilydd wyneb yn wyneb, nid oedd dewis ond hepgor nifer o weithgareddau mwy cymdeithasol eu naws. Ceisiwyd ymdopi â’r her hon mewn nifer o ffyrdd:

Cymru Ffrainc Slofenia Yr Eidal

Cyfrannodd at gynhaliaeth y cenhadon hyn, a hefyd at gynhaliaeth dau berson sy’n ymdrechu i gadw cysylltiad cyson â gwahanol wledydd er mwyn hybu’r Efengyl Gristnogol, y naill yn mentora arweinwyr eglwysi yn nwyrain Ewrop a’r llall yn ceisio cymodi pobloedd sydd wedi profi gwrthdaro ethnig. Yn ystod y flwyddyn cafwyd cyfle i siarad â nifer o’r cenhadon hyn dros y we er mwyn cael gwybod am eu gwaith a’u holi am eu cynlluniau i’r dyfodol. Cynhaliwyd cyfarfod dros y we hefyd gyda chynrychiolydd Cymreig Cymdeithas Gyfieithu Wycliffe.

Gan fod taliadau i rai o’r cenhadon heb eu cynnwys yn y cyfrifon ariannol am 2019–20, fe’u cafwyd yn y cyfrifon am 2020–21, ynghyd â’r taliadau priodol am y flwyddyn hon.

Canolfan Gristnogol Bryn-y-groes Cymdeithas Gofal Blythswood Cymdeithas Open Doors (Cristnogion dan erledigaeth) Cartref Gofal Plas Lluest Eglwys Efengylaidd Llanbedr Pont Steffan (costau adeilad newydd)

(2) Amcanion elusennol eraill

Fel yn achos nifer o agweddau eraill ar fywyd yr Eglwys, bu’n rhaid cwtogi’n sylweddol ar weithgareddau elusennol oherwydd cyfyngiadau’r cyfnodau clo. Serch hynny,

(3) Materion eraill

Er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae gan yr Eglwys strwythur syml ond effeithiol:

3. Diweddglo

Dyma’r flwyddyn fwyaf rhyfedd a heriol erioed yn hanes yr Eglwys. Ond er gwaethaf cyfyngiadau Cofid-19, mae’r Eglwys wedi ymdrechu i gyflawni’r

amcanion a nodir uchod, gan anelu at fod yn halen ac yn oleuni yn y gymuned. Gwelwyd cynnydd calonogol yn nifer y rhai sy’n gwylio oedfaon yr Eglwys ar y we, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arfer mynychu’r Eglwys fel y cyfryw. Profwyd llawer o anogaethau, a bu gwerthfawrogi cyffredinol o’r ddarpariaeth yn yr amgylchiadau anarferol.

Dymuna’r ymddiriedolwyr ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys am bob cymorth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn anodd hon. Gallant dystio fod y cyfrifon i gyd yn gywir, a bod adnoddau ariannol yr Eglwys wedi eu defnyddio’n ddoeth ac yn gywir yn unol â’i hamcanion. Cymeradwyant weledigaeth yr Eglwys, ac edrychant ymlaen at hyrwyddo’i gwaith a’i thystiolaeth yn y dyfodol, gan fawr obeithio y gellir dychwelyd i amgylchiadau mwy normal yn fuan.

Llofnodwyd ar ran yr ymddiriedolwyr:

Derrick Adams

9 Tachwedd 2021

CWM GWARIANT
Mewn Llaw I Eb「川2019 72,754.66
O Cyf「if l 300.00
O Cyf「if Adeilad 20,000.00
」Iog 33.87
Mewn Liaw 31 Mawrth 2020 93,088.53
93,088.53

lNCWM GWARIANT
Mewn LIaw I Eb「冊2019 14,262.94
O Cyf「if l 20,300.OO I Cy師Cadw 20,000.00
」iog 7.10
Mewn LIaw 31 Mawrth 2020 14,570.04

2 Kery Street, Montgomtry. SY15 9PG 20112r2021 Cjeaw &'r I r8vNMd th8 anNal accounts fort￿ Eg￿ At￿ryS￿h(ll7618l-0l th autumn120211 as requested The accounts are ll kapt and in gc<J crfder. In many ways they are simiLqrto Iho accounls woduced for rny thurd). I was the church trea5LffEf of Ihe SHnil•r thurch E0￿ Efer4W•k•J (11650971 fy effjht years. and arthough l am not 8 qU￿ffj￿d aco)unlant or 8LhJrtor I h8¥e rekvant waclKal in Ihis 1F+w•. I hop• thw i• of •••i•t•ri¢• to Yourn Isr￿•￿ A C Eas￿￿￿