RHIF COFRESTRU ELUSEN: 1170372
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol Anarchwiliedig
31 Mawrth 2026
PARKER O'REGAN TANN & CO
Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig Canolfan Fusnes Bangor 2 Ffordd Farrar Bangor Gwynedd LL57 1LJ
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Datganiadau Ariannol
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
| Tudalen | |
|---|---|
| Adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr | 1 |
| Adroddiad yr ymchwilydd annibynnol i’r ymddiriedolwyr | 5 |
| Datganiad o'r gweithgareddau ariannol | 6 |
| Datganiad o'r sefyllfa ariannol | 7 |
| Nodiadau i’r datganiadau ariannol | 8 |
1
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
Mae’r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol anarchwyliedig yr elusen ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.
Manylion cyfeirio a gweinyddol
Enw cofrestredig yr elusen Samariaid Gogledd-orllewin Cymru Rhif cofrestru’r elusen 1170372 Prif swyddfa 5 Llys Onnen Parc Menai Bangor Gwynedd LL57 4DF Yr ymddiriedolwyr Tudur Owen Williams Ann Catherine Evans Lynda Price Jones (Ymddiswyddo 10 Tachwedd 2025) Gillian Hubbard (Ymddiswyddo 18 Gorffennaf 2025) Linda Jane Macdonald Sian Bowen Beidas Lynda Helen Brookes-Fazakerley Alistair Langdon Janet Lowe (Ymddiswyddo 18 Gorffennaf 2025) Peter Edward Rendle (Ymddiswyddo 18 Gorffennaf 2025) Rhian Jones (Penodwyd 10 Tachwedd 2025) Cari Vaughan Griffiths (Penodwyd 18 Gorffennaf 2025) Ysgrifennydd y cwmni Tudur Owen Williams Ymchwilydd annibynnol Miss Buddug Ritchie FCCA Canolfan Fusnes Bangor 2 Ffordd Farrar Bangor Gwynedd LL57 1LJ
1
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
Strwythur, trefn a rheolaeth
Dogfen lywodraethol
Mae Samariaid Gogledd-orllewin Cymru yn fudiad elusennol corfforedig, a gofrestrwyd gyda’r Comisiwn Elusennol ar 24 Tachwedd 2016.
Apwyntio Ymddiriedolwyr
Penodir ymddiriedolwyr am gyfnod o chwe blynedd ar y mwyaf. Yr Elusen sydd yn apwyntio ymddiriedolwyr yn y Cyfarfod Blynyddol, yn cynnwys ysgrifennydd a thrysorydd neu un person i weithredu fel ysgrifennydd a thrysorydd, hyd at wyth o ymddiriedolwyr eraill a hyd at ddau ymddiriedolwr cyfetholedig. Penodir Cyfarwyddwr y Gangen hefyd fel ymddiriedolwr trwy broses sydd yn cynnwys ymgynghori â’r elusen ac wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Ganolog y Samariaid.
Cyfeillion y Samariaid
Mae grŵp o Gyfeillion y Samariaid ym Mhwllheli. Maent yn cefnogi'r elusen trwy godi arian a chynorthwyo mewn digwyddiadau eraill a gwerthfawrogir eu haelodau’n fawr fel cefnogwyr nad ydynt yn gwrando.
Amcanion a gweithgareddau
Rydym wedi cyfeirio at yr arweiniad sydd yng nghanllawiau cyffredinol y Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus wrth adolygu ein nodau a'n hamcanion ac wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y dyfodol.
Amcanion
Gweledigaeth yr elusen yw bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad. Mae’r elusen yn darparu cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i bobl sydd yn profi teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys teimladau a all arwain at hunanladdiad. Mae hefyd yn ymdrechu i roi gwell dealltwriaeth i gymdeithas o hunanladdiad, ymddygiad hunanladdol a gwerth mynegi teimladau a allai arwain at hunanladdiad.
Gweithgareddau
Caiff cefnogaeth emosiynol ei ddarparu dros y ffôn, a thrwy Sgwrs Ar-lein ac ymweliadau â'n Canolfan. Mae rhif Rhadffôn ar gael i ddarparu cefnogaeth yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Rhennir gwybodaeth am ein gwasanaethau trwy wefan cenedlaethol y Samariaid a gwefan ein cangen ni. Mae taflenni dwyieithog ar gael mewn mannau strategol ac mae hysbysebion sy'n rhoi manylion am ein Llinell Gymraeg yn ymddangos yn rheolaidd yn y papurau bro lleol. Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau hefyd ar gael ar gyfrif Facebook y Gangen.
Allgymorth
Mae estyn allan at bobl mewn trallod yn rhan bwysig o waith yr elusen. Rydym yn gofalu am ardal ddaearyddol eang ac yn mynychu digwyddiadau ac eisteddfodau. Yn arbennig, rydym yn targedu cymunedau sydd â chyfraddau hunanladdiad uwch na'r cyfartaledd, gan ymweld â marchnadoedd ffermwyr, sioeau amaethyddol, hybiau cymunedol a banciau bwyd lleol, canolfannau iechyd meddwl ac yn ymweld ag ysgolion, colegau a Phrifysgol Bangor. Mae gennym gerbyd cymunedol pwrpasol a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgareddau allgymorth hyn, ac mae hefyd yn ymweld â threfi a phentrefi ledled yr ardal i rannu gwybodaeth am wasanaethau'r Samariaid, gan gynnwys lleoliadau lle mae achosion o hunanladdiad wedi digwydd i gefnogi'r cymunedau hynny. Rhoddir sgyrsiau hefyd i Gymdeithasau sy'n gofyn am gael gwybod mwy am ein gwaith.
Rydym hefyd wedi gosod byrddau sy'n hysbysebu ein gwasanaethau gwrando mewn nifer o feysydd pêldroed a chriced, gan dargedu dynion ifanc a chanol oed gan fod achosion o hunanladdiad yn llawer uwch ymysg dynion o fewn yr ystodau oedran hyn.
2
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
Hyfforddiant
Mae recriwtio gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn broses barhaus. Cynhelir cyrsiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr newydd o leiaf deirgwaith y flwyddyn. Mae pob gwirfoddolwr hyfforddedig yn cael hyfforddiant pellach yn flynyddol. Trefnir cynhadledd flynyddol gan y Gangen ym Mehefin gyda siaradwyr allweddol a gweithdai.
Cyflawniadau a pherfformiad
Perfformiad
Sefydlwyd y gangen ym 1984.
Roedd gan yr elusen 75 o wirfoddolwyr gwrando cofrestredig ar 31 Mawrth 2026, cynnydd o 2 ers y flwyddyn flaenorol ac o gymharu â 69 yn 2023-24. Mae gan y Gangen 4 o wirfoddolwyr nad ydynt yn gwrando.
Atgyfnerthodd y gangen ei pherfformiad gwrando yn 2025/26 o gymharu â blynyddoedd blaenorol:
-
Oriau agor cyfartalog y Gangen am y flwyddyn oedd 131 awr yr wythnos; 129 awr yn 2024-25 a 122 awr yn 2023-24.
-
Treuliodd gwirfoddolwyr y Gangen 6,971 o oriau ar y ffôn, o gymharu â 7,206 awr yn 2024-25 a 6,220 awr yn 2023-24.
-
Cafodd 30,470 o alwadau ffôn eu hateb, o gymharu â 29,565 yn 2024-25 a 25,682 yn 2023-24.
-
Roedd nifer y Sgyrsiau Ar-lein a atebwyd yn is, 914 o gymharu â 1,049 yn 2024-25 a 1,041 yn 2023-24.
Adeilad
Mae gan yr elusen adeilad modern, llawn offer, a brynwyd yn 2016 ac sy'n cael ei gadw mewn cyflwr da iawn. Mae hyn yn sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynnig amgylchedd gwaith da iawn i'n gwirfoddolwyr ynghyd â chyfleusterau hyfforddi rhagorol.
Adolygiad ariannol
Incwm
Cyfanswm incwm yr elusen yn 2025-26 oedd £41,095 (2024-25 - £64,576), gan gynnwys rhoddion o £23,823 (2024-25 - £43,533). O gyfanswm y rhoddion am y flwyddyn, roedd £2,787 (2024-25 £7,934) wedi'i neilltuo ar gyfer costau fel gwariant yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Yn gynwysedig yn yr incwm hefyd oedd cymynroddion a chyfraniadau er cof o £5,867 (2024-25 - £3,546).
Roedd incwm o weithgareddau codi arian yn is: £6,047 (2024-25 £12,477) fel ymateb i ostyngiad yng nghostau cyffredinol yr Elusen, a chododd Cyfeillion y Samariaid £605 (2024-25 - £861). Cafwyd cymorth grant tuag at gostau o £1,836 gan Gyngor Gwynedd, sydd hefyd wedi ein heithrio rhag taliadau dewisol o 20% o ran trethi ar ein hadeilad, ac mae’r Gangen yn hynod ddiolchgar i’r Cyngor am y cymorth ariannol hwn. Cafwyd cymorth grant ychwanegol o £1,258 fel rhan o grant i bob un o ganghennau’r Samariaid yng Nghymru.
Gwariant
Roedd gwariant yn 2025-26 yn £39,195 (2024-25 £46,436). Roedd y gostyngiad mewn gwariant o ganlyniad i ostyngiad mewn newb cistau cerbydau a theithio a chostau cynnal a chadw a gwaith adnewyddu yn is na’r llynedd. Roedd costau ynghlwm â'r cerbyd cymunedol ar gyfer Gwaith Allgymorth yn £3,342 (2024-25 £4,321).
3
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
Arian mewn llaw
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol cafodd £57,740 ei gario ymlaen, £1,828 yn fwy nag yn 2024-25: mae hyn yn cyfateb i bron i 18 mis o gronfeydd wrth gefn, ymhell o fewn nod yr Elusen o gadw rhwng deuddeg a deunaw mis o gostau gweithredu wrth gefn i sicrhau sefydlogrwydd y Gangen.
Cymeradwywyd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ar 30 Mehefin 2026 a chafodd ei lofnodi ar ran bwrdd yr ymddiriedolwyr gan:
Tudur Williams Ymddiriedolwr
4
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Ymddiriedolwyr Samariaid Gogleddorllewin Cymru
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
Rwyf yn adrodd i’r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o ddatganiadau ariannol Samariaid Gogledd-orllewin Cymru (’yr elusen’) am y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026.
Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad
Fel ymddiriedolwyr yr elusen, rydych yn gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 (‘y Ddeddf’).
Adroddaf ynglŷn â fy archwiliad o ddatganiadau ariannol yr elusen a weithredwyd dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gwblhau fy archwiliad rwyf wedi dilyn pob Cyfarwyddyd perthnasol a roddir gan y Comisiwn Elusennau dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf.
Datganiad yr Archwilydd Annibynnol
Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Rwyf yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion materol wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’r archwiliad sydd yn achosi i mi gredu mewn unrhyw fodd materol:
-
na chadwyd cofnodion ariannol ar ran yr elusen yn unol ag adran 130 o’r Ddeddf; neu
-
nad yw’r datganiadau ariannol yn cydsynio â’r cofnodion hynny; neu
-
nad yw’r datganiadau yn cydymffurfio â gofynion perthnasol ffurf a chynnwys y cyfrifon a nodir yn Rheoliadau (Cyfrifon ac Adroddiadau) Elusennau 2008, ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' nad yw'n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol.
Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau gwir ddealltwriaeth o’r cyfrifon.
Buddug H Ritchie
Miss Buddug Ritchie ACCA Archwiliwr Annibynnol
Canolfan Fusnes Bangor 2 Ffordd Farrar Bangor Gwynedd LL57 1LJ
30 Mehefin 2026
5
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Datganiad Gweithgareddau Ariannol
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
| 2026 | 2025 | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | ||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | cronfeydd | cronfeydd | ||
| Nodyn | £ | £ | £ | £ | |
| Incwm a gwaddoliadau | |||||
| Cyfraniadau a chymynroddion | 4 | 30,603 | 2,787 | 33,389 | 50,940 |
| Gweithgareddau masnachol eraill | 5 | 6,047 | – | 6,047 | 12,477 |
| Incwm buddsoddiadau | 6 | 1,659 | – | 1,659 | 1,159 |
──────── |
──────── |
──────── |
──────── |
||
| Cyfanswm incwm | 38,309 | 2,787 | 41,095 | 64,576 | |
═══════ |
═══════ |
════════ |
════════ |
||
| Gwariant | |||||
| Gwariant codi arian: | |||||
| Cost gweithgareddau masnachol | 7 | – | 611 | 611 | 4,412 |
| Gwariant ar weithgareddau elusennol | 8,9 | 36,857 | 1,728 | 38,584 | 42,024 |
──────── |
──────── |
─────── |
──────── |
||
| Cyfanswm gwariant | 36,857 | 2,339 | 39,195 | 46,436 | |
════════ |
═══════ |
════════ |
════════ |
||
──────── |
──────── |
──────── |
──────── |
||
| Gwariant net a symudiad net mewn | |||||
| cronfeydd | 1,452 | 448 | 1,900 | 18,140 | |
════════ |
═══════ |
════════ |
════════ |
||
| Cysoniad cronfeydd | |||||
| Cyfanswm cronfeydd a ddygwyd ymlaen | 277,847 | 2,523 | 280,370 | 262,229 | |
───────── |
──────── |
───────── |
───────── |
||
| Cyfanswm cronfeydd a gariwyd drosodd | 279,299 | 2,971 | 282,270 | 280,370 | |
═════════ |
═════════ |
═════════ |
═════════ |
Mae’r datganiad o weithgareddau ariannol yn cynnwys yr holl enillion a cholledion a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn.
Mae pob incwm a gwariant yn deillio o weithgareddau parhaus.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 14 yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn .
6
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Datganiad Sefyllfa Ariannol
31 Mawrth 2026
| 2026 | 2025 | ||
|---|---|---|---|
| Nodyn | £ | £ | |
| Asedau sefydlog | |||
| Asedau sefydlog diriaethol | 15 | 221,564 | 224,957 |
| Asedau Cyfredol | |||
| Dyledwyr | 16 | 3,466 | – |
| Arian yn y banc ac wrth law | 57,740 | 55,912 | |
──────── |
──────── |
||
| 61,206 | 55,912 | ||
| Credydwyr: symiau’n ddyladwy ymhen blwyddyn | 17 | 500 | 500 |
──────── |
──────── |
||
| Asedau cyfredol net | 60,706 | 55,412 | |
───────── |
───────── |
||
| Cyfanswm asedau llai ymrwymiadau cyfredol | 282,270 | 280,369 | |
───────── |
───────── |
||
| Asedau clir | 282,270 | 280,369 | |
═════════ |
═════════ |
||
| Cronfeydd yr elusen | |||
| Cronfeydd cyfyngedig | 2,971 | 2,523 | |
| Cronfeydd anghyfyngedig | 279,299 | 277,847 | |
───────── |
───────── |
||
| Cyfanswm asedau’r elusen | 18 | 282,270═════════ |
280,370═════════ |
Mae’r datganiadau ariannol hyn wedi eu cymeradwyo gan fwrdd yr ymddiriedolwyr a’u dilysu ar gyfer eu cyhoeddi ar 25 Mehefin 2025, ac wedi eu harwyddo ar ran y bwrdd gan
Tudur Williams
Lin Macdonald
Tudur Williams Ymddiriedolwr
Linda Jane Macdonald Cadeirydd
Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 14 yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn .
7
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
1. Gwybodaeth gyffredinol
Mae’r elusen yn endid er budd y cyhoedd ac yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr ac yn anghorfforedig. Cyfeiriad y brif swyddfa yw 5 Llys Onnen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4DF.
2. Datganiad cydymffurfio
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol ag FRS 102, ‘Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon’, y Datganiad o Arferion Cymeradwy sy’n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (Elusennau SORP (FRS 102)) a Deddf Elusennau 2011.
3. Polisïau cadw cyfrifon
Sail paratoi
Paratowyd y datganiadau ariannol ar sail cost hanesyddol. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi mewn punnoedd sterling, sef arian gweithredol yr endid.
Mudiad gweithredol
Nid oes unrhyw amheuon materol ynglŷn â gallu’r elusen i barhau.
Dyfarniadau a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrifon
Wrth baratoi'r datganiadau ariannol mae'n rhaid i reolwyr wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a thybiaethau sy'n effeithio ar y symiau a adroddir. Adolygir yr amcangyfrifon a'r dyfarniadau hyn yn barhaus ac maent yn seiliedig ar brofiad a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
Cyfrifo cronfeydd
Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i’w defnyddio yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo dibenion yr elusen. Mae gwariant cronfeydd cyfyngedig yn amodol ar gyfyngiadau a osodwyd gan y rhoddwr neu drwy delerau apêl.
Adnoddau a dderbynnir
Mae’r holl incwm wedi’i gynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd hawl wedi'i throsglwyddo i’r elusen, mae’n debygol y bydd y buddion economaidd sy’n gysylltiedig â’r trafodiad yn llifo i’r elusen a gellir mesur y swm yn ddibynadwy. Caiff y polisïau penodol canlynol eu cymhwyso i gategorïau arbennig o incwm:
Caiff incwm o roddion neu grantiau ei gydnabod pan fo tystiolaeth o hawl i’r rhodd, pan fydd yn debygol y caiff yr arian ei dderbyn, a phan ellir mesur ei swm yn ddibynadwy.
Caiff incwm cymynrodd ei gydnabod pan fydd yn debygol y caiff yr arian ei dderbyn a phan fydd hawl wedi’i sefydlu.
Cynhwysir incwm o fuddsoddiadau pan fydd yn dderbyniadwy.
8
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
3. Polisïau cadw cyfrifon (parhad)
Adnoddau a wariwyd
Cydnabyddir gwariant ar sail croniadau pan fo rhwymedigaeth yn codi. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad yw'n bosibl ei hadennill yn llawn, a chaiff ei restru o dan benawdau’r datganiad o weithgareddau ariannol y mae’n berthnasol iddynt:
Mae gwariant ar godi arian yn cynnwys costau pob gweithgaredd codi arian, digwyddiadau, gweithgareddau masnachol nad ydynt yn elusennol, a gwerthu nwyddau a roddwyd.
Mae gwariant ar weithgareddau elusennol yn cynnwys yr holl gostau sy'n codi pan fydd elusen yn ymgymryd â gweithgareddau sy’n hyrwyddo ei hamcanion elusennol er budd ei buddiolwyr, gan gynnwys y costau cefnogi a’r costau sy’n ymwneud â llywodraethu’r elusen a ddyrannwyd i weithgareddau elusennol.
Pennir yr holl gostau i gategorïau gwariant sy'n adlewyrchu'r defnydd o'r adnodd. Mae costau uniongyrchol y gellir eu priodoli i un gweithgaredd yn cael eu dyrannu'n uniongyrchol i'r gweithgaredd hwnnw. Caiff costau a rennir eu dosrannu rhwng y gweithgareddau y maent yn cyfrannu atynt ar sail resymol, cyfiawn a chyson.
Asedau diriaethol
Nodir asedau diriaethol ar sail cost ar y dechrau, ac fe’u nodir yn ddiweddarach ar sail cost llai unrhyw ddibrisiant cronedig a cholledion amhariad.
Dibrisiant
Cyfrifir dibrisiant er mwyn dileu cost neu werth ased, llai’r gwerth sy’n weddill, yn ystod bywyd economaidd defnyddiol yr ased hwnnw fel a ganlyn:
| Eiddo ar brydles hir | - | Dros hyd y les |
|---|---|---|
| Gosodiadau a ffitiadau | - | Dull llinell syth dros 4 blynedd |
| Cerbydau modur | - | Dull llinell syth dros 15 mlynedd |
Diffygion mewn asedau sefydlog
Cynhelir adolygiad i chwilio am ddangosyddion amhariad ar bob dyddiad adrodd, ac amcangyfrifir y swm y gellir ei adennill lle mae dangosyddion o'r fath yn bodoli. Pan fo'r gwerth cario ymlaen yn fwy na'r swm adenilladwy, bydd gwerth yr ased yn cael ei amharu’n unol â hynny. Yn ogystal, adolygir amhariadau blaenorol er mwyn gweld a yw’n bosibl eu gwrthdroi ar bob dyddiad adrodd.
Pan nad yw’n bosibl amcangyfrif swm adenilladwy ased unigol, gwneir amcangyfrif o’r swm adenilladwy i’r uned sydd yn creu arian y perthyna’r ased iddi. Yr uned creu arian yw’r grŵp adnabyddadwy lleiaf o asedau sy’n cynnwys yr ased ac yn cynhyrchu llifau arian parod sydd i raddau helaeth yn annibynnol ar y llifau arian parod sy'n dod o asedau neu grwpiau o asedau eraill.
9
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
3. Polisïau cadw cyfrifon (parhad)
Offerynnau ariannol
Adnabyddir ased ariannol neu ddyled ariannol pan fo’r endid yn dod yn rhan o ddarpariaeth gytundebol yr endid yn unig.
Adnabyddir offerynnau ariannol sylfaenol ar y dechrau yn ôl y swm a dderbynnir neu sy’n ddyladwy gan gynnwys unrhyw gostau sydd yn ymwneud â’r trafodion, heblaw bod y trefniant yn golygu gweithred ariannol, ac fe’i derbynnir ar werth presennol y taliadau i’r dyfodol gyda gostyngiad cyfradd llog masnachol neu offeryn dyled tebyg.
Mesurir offerynnau dyled wedi hyn ar gost ddilead.
Mesurir offerynnau ariannol wedyn ar werth teg, gydag unrhyw newidiadau’n cael eu nodi yn y datganiad o weithgareddau ariannol, ac eithrio offerynnau rhagfantoli o fewn perthynas ragfantoli dynodedig.
Adolygir asedau ariannol a fesurir ar gost neu gost ddilead am dystiolaeth wrthrychol o ddiffyg ar ddiwedd pob dyddiad adrodd. Os bydd tystiolaeth wrthrychol o ddiffyg, adnabyddir colled ddiffygiol dan y pennawd priodol yn y datganiad o weithgareddau ariannol ble yr adnabuwyd y budd gyntaf.
Caiff pob offeryn ecwiti, ni waeth pa mor arwyddocaol, ac asedau ariannol eraill sydd o bwys unigol eu hasesu'n unigol am amhariad. Caiff asedau ariannol eraill eu hasesu'n unigol neu mewn grŵp ar sail nodweddion risg ariannol tebyg.
Caiff unrhyw wrthdroad o amhariad ei gydnabod ar unwaith, i’r graddau nad yw canlyniad y gwrthdroad yn golygu bod swm cludo’r ased ariannol yn fwy na fyddai’r swm cludo wedi bod pe na fyddai’r amhariad wedi’i gydnabod yn gynt.
4. Rhoddion a chymynroddion
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2026 | |
| £ | £ | £ | |
| Rhoddion | |||
| Rhoddion | 21,037 | 2,787 | 23,823 |
| Cyfeillion y Samariaid | 605 | – | 605 |
| Cymynroddion | |||
| Cymynroddion | 5,867 | – | 5,867 |
| Grantiau | |||
| Grantiau a dderbyniwyd | 3,094 | – | 3,094 |
──────── |
─────── |
──────── |
|
| 30,603 | 2,787 | 33,389 | |
════════ |
═══════ |
════════ |
10
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau ariannol (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
4. Rhoddion a chymynroddion (parhad)
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |||
|---|---|---|---|---|---|
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2025 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Rhoddion | |||||
| Rhoddion | 37,823 | 5,710 | 43,533 | ||
| Cyfeillion y Samariaid | 861 | – | 861 | ||
| Cymynroddion | |||||
| Cymynroddion | 3,546 | – | 3,546 | ||
| Grantiau | |||||
| Grantiau a dderbyniwyd | 3,000 | – | 3,000 | ||
──────── |
─────── |
──────── |
|||
| 45,230 | 5,710 | 50,940 | |||
| 5. | Gweithgareddau masnachu eraill | ||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2026 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Digwyddiadau codi arian | 6,047 | – | 6,047 | ||
─────── |
─────── |
─────── |
|||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2025 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Digwyddiadau codi arian | 10,253 | 2,224 | 12,477 | ||
─────── |
─────── |
─────── |
|||
| 6. | Incwm ar fuddsoddiadau | ||||
| Cronfeydd | Cyfanswm | Cronfeydd | Cyfanswm | ||
| anghyfyngedig | 2026 | anghyfyngedig | 2025 | ||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Llog banc a dderbyniwyd | 1,659 | 1,659 | 1,159 | 1,159 | |
════ |
════ |
════ |
════ |
||
| 7. | Cost gweithgareddau masnachu | eraill | |||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2026 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Costau digwyddiadau codi arian | – | 611 | 611 | ||
──── |
─────── |
─────── |
|||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2025 | |||
| £ | £ | £ | |||
| Costau digwyddiadau codi arian | 143 | 4,269 | 4,412 | ||
──── |
─────── |
─────── |
11
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
8. Cost gweithgareddau masnachu eraill
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2026 | |
| £ | £ | £ | |
| Costau cefnogol | 36,857 | 1,728 | 38,584 |
════════ |
═══════ |
════════ |
|
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | |
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2025 | |
| £ | £ | £ | |
| Costau cefnogol | 36,531 | 5,492 | 42,024 |
════════ |
════ |
════════ |
|
| Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math o gronfa | |||
| Costau | Cyfanswm | Cyfanswm | |
| cefnogol | 2026 | 2025 | |
| £ | £ | £ | |
| Costau rheolaeth | 38,584 | 38,584 | 42,024 |
════════ |
════════ |
════════ |
9. Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math o gronfa
10. Dadansoddiad o gostau cefnogi
| Costau | Costau | Gweithgareddau | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|---|
| llywodraethu | elusennol | cyfyngedig | 2026 | 2025 | |
| £ | £ | £ | £ | £ | |
| Adeiladau | 11,426 | – | – | 11,426 | 14,007 |
| Swyddfa gyffredinol | 3,068 | – | 2,338 | 5,406 | 5,809 |
| Treuliau aelodau | 10,660 | – | – | 10,660 | 11,743 |
| Ffioedd cyfrifydd | 500 | – | – | 500 | 500 |
| Dibrisiant | 4,407 | – | – | 4,407 | 4,154 |
| Cyfraniad I Swyddfa | |||||
| Ganolog | 2,009 | – | – | 2,009 | 1,240 |
| Costau cerbyd | |||||
| cymunedol | – | 3,342 | – |
3,342 | 4,321 |
| Hysbysebu a marchnata | 833 | – | – | 833 | 250 |
──────── |
─────── |
─────── |
──────── |
──────── |
|
| 32,903 | 3,342 | 2,338 |
38,583 | 42,024 | |
════════ |
═══════ |
═══════ |
════════ |
════════ |
Mae costau cefnogi’r elusen wedi eu hadnabod ac ar y cyd â’r costau llywodraethu wedi eu dosrannu rhwng y prif weithgareddau elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Mae’r costau cefnogi uchod wedi eu rhannu rhwng prif weithgareddau’r elusen ar sail costau uniongyrchol, dosraniad rhesymol a chostau llywodraethu.
11. Incwm net
Nodir incwm net ar ôl costio/(credydu):
Dibrisiant asedau sefydlog diriaethol
2026 2025 £ £ 4,407 4,154
12
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
12. Ffioedd archwilio annibynnol
| 2026 | 2025 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Ffioedd a delir i’r archwiliwr annibynnol am: | ||
| Archwiliad annibynnol o’r datganiadau ariannol | 500════ |
500════ |
13. Costau staff
Ni thalwyd unrhyw gyflog nac enillion i weithwyr yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys aelodau’r pwyllgor.
14. Treuliau a chydnabyddiaeth i’r ymddiriedolwyr
Yn ystod y flwyddyn, hawliodd un neu fwy o’r ymddiriedolwyr dreuliau a thalwyd y treuliau hyn gan yr elusen.
Ad-dalwyd treuliau gwerth £3,319 (2025 - £3,814). Costau teithio oedd y treuliau a daliwyd i’r ymddiriedolwyr. Ad-dalwyd treuliau i bump o ymddiriedolwyr.
15. Asedau sefydlog diriaethol
| Adeilad ar les tymor hir |
Gosodion a ffitiadau |
Cerbydau modur |
Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ | £ | £ | ||
| Cost | |||||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 208,345 | 15,057 | 46,715 | 270,117 | |
| Ychwanegiadau | – | 1,014 | – | 1,014 | |
───────── |
──────── |
──────── |
───────── |
||
| Ar 31 Mawrth 2026 | 208,345 | 16,071 | 46,715 | 271,131 | |
═════════ |
════════ |
════════ |
═════════ |
||
| Dibrisiant | |||||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 8,320 | 15,042 | 21,798 | 45,160 | |
| Costau am y flwyddyn | 1,040 | 253 | 3,114 | 4,407 | |
───────── |
──────── |
──────── |
───────── |
||
| Ar 31 Mawrth 2026 | 9,360 | 15,295 | 24,912 | 49,567 | |
═════════ |
════════ |
════════ |
═════════ |
||
| Swm sydd yn cario ymlaen | |||||
| Ar 31 Mawrth 2026 | 198,985 | 776 | 21,803 | 221,564 | |
═════════ |
════════ |
════════ |
═════════ |
||
| Ar 31 Mawrth 2025 | 200,025 | 15 | 24,917 | 224,957 | |
═════════ |
════════ |
════════ |
═════════ |
||
| 16. | Dyledwyr | ||||
| 2026 | 2025 | ||||
| £ | £ | ||||
| Rhagdaliadau ac incwm gohiriedig | 3,466 | – | |||
─────── |
─────── |
||||
| 17. | Credydwyr: taliadau’n ddyladwy o fewn un flwyddyn | ||||
| 2026 | 2025 | ||||
| £ | £ | ||||
| Croniadau ac incwm gohiriedig | 500 | 500 | |||
──── |
──── |
13
Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)
Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2026
18. Dadansoddiad o gronfeydd elusennol
Cronfeydd anghyfyngedig
| Cronfeydd anghyfyngedig | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1 Ebrill | Ar 2025 |
Incwm | Gwariant | Ar 31 Mawrth 2026 |
||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd cyffredinol | 277,847 | 38,309 |
(36,857) | 279,299 | ||
═════════ |
════════ |
════════ |
═════════ |
|||
| 1 Ebrill | Ar 2024 |
Incwm | Gwariant | Ar 31 Mawrth 2025 |
||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd cyffredinol | 257,879 | 56,642 |
(36,674) | 277,847 | ||
═════════ |
════════ |
════════ |
═════════ |
|||
| Cronfeydd cyfyngedig | ||||||
| 1 Ebrill | Ar 2025 |
Incwm | Gwariant | Ar 31 Mawrth 2026 |
||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd cyfyngedig | 2,523 | 2,787 |
(2,339) | 2,971 | ||
════ |
═══════ |
═══════ |
═══════ |
|||
| 1 Ebrill | Ar 2024 |
Incwm | Gwariant | Ar 31 Mawrth 2025 |
||
| £ | £ | £ | £ | |||
| Cronfeydd cyfyngedig | 4,350 | 7,934 |
(9,761) | 2,523 | ||
════ |
════ |
════ |
════ |
|||
| 19. | Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd | |||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | ||||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2026 | ||||
| £ | £ | £ | ||||
| Asedau sefydlog diriaethol | 221,564 | – | 221,564 | |||
| Asedau cyfredol | 58,236 | 2,970 | 61,206 | |||
| Credydwyr llai na blwyddyn | (500) | – | (500) | |||
───────── |
─────── |
───────── |
||||
| Asedau net | 279,300 | 2,970 | 282,270 | |||
═════════ |
═══════ |
═════════ |
||||
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | ||||
| anghyfyngedig | cyfyngedig | 2025 | ||||
| £ | £ | £ | ||||
| Asedau sefydlog diriaethol | 224,957 | – | 224,957 | |||
| Asedau cyfredol | 53,389 | 2,523 | 55,912 | |||
| Credydwyr llai na blwyddyn | (500) | – | (500) | |||
───────── |
─────── |
───────── |
||||
| Asedau net | 277,846 | 2,523 | 280,369 | |||
═════════ |
════ |
═════════ |
14