OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2025-03-31-accounts

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Datganiadau Ariannol

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

Tudalen
Adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr 1
Adroddiad yr ymchwilydd annibynnol i’r ymddiriedolwyr 5
Datganiad o weithgareddau ariannol 6
Datganiad o sefyllfa ariannol 7
Nodiadau i’r datganiadau ariannol 8

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

Mae’r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol anarchwyliedig yr elusen ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2025.

Manylion cyfeirio a gweinyddol

Enw cofrestredig yr elusen Samariaid Gogledd-orllewin Cymru
Rhif cofrestru’r elusen 1170372
Prif swyddfa 5 Llys Onnen
Parc Menai
Bangor
Gwynedd
LL57 4DF
Yr ymddiriedolwyr Tudur Owen Williams
Ann Catherine Evans
Veronica Hanson (Ymddiswyddo 12 Gorffennaf 2024)
Lynda Price Jones
Gillian Hubbard
Linda Jane Macdonald
Carys Wyn Rowlands (Ymddiswyddo 12 Gorffennaf 2024)
Sian Bowen Beidas
Lynda Helen Brookes-Fazakerley
Alistair Langdon (Penodwyd 12 Gorffennaf 2024)
Janet Lowe (Penodwyd 12 Gorffennaf 2024)
Peter Edward Rendle (Penodwyd 12 Gorffennaf 2024)
Ysgrifennydd y cwmni Janet Lowe
Ymchwilydd annibynnol Miss Buddug Ritchie FCCA
Canolfan Fusnes Bangor
2 Ffordd Farrar
Bangor
Gwynedd
LL57 1LJ

.

1

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

Strwythur, trefn a rheolaeth

Dogfen lywodraethol

Mae Samariaid Gogledd-orllewin Cymru yn fudiad elusennol corfforedig, a gofrestrwyd gyda’r Comisiwn Elusennol ar 24 Tachwedd 2016.

Apwyntio Ymddiriedolwyr

Apwyntir ymddiriedolwyr am gyfnod o chwe blynedd. Yr Elusen sydd yn apwyntio ymddiriedolwyr yn y Cyfarfod Blynyddol, yn cynnwys ysgrifennydd a thrysorydd neu un person i weithredu fel ysgrifennydd a thrysorydd, hyd at wyth o ymddiriedolwyr eraill a hyd at ddau ymddiriedolwr cyfetholedig. Apwyntir Cyfarwyddwr y Gangen hefyd fel ymddiriedolwr trwy broses sydd yn cynnwys ymgynghori â’r elusen ac wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Ganolog y Samariaid.

Cyfeillion y Samariaid

Mae grŵp o Gyfeillion y Samariaid ym Mhwllheli. Maent yn cefnogi'r elusen trwy godi arian a chynorthwyo mewn digwyddiadau eraill a gwerthfawrogir eu haelodau’n fawr fel cefnogwyr nad ydynt yn gwrando.

Amcanion a gweithgareddau

Wrth adolygu ein nodau ac amcanion, ac wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyfeirio at yr arweiniad a geir yng nghanllawiau cyffredinol y Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus.

Amcanion

Gweledigaeth yr elusen yw bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad. Mae’r elusen yn darparu cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i bobl sydd yn profi teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys teimladau a all arwain at hunanladdiad. Mae hefyd yn ymdrechu i roi gwell dealltwriaeth i gymdeithas o hunanladdiad, ymddygiad hunanladdol a gwerth mynegi teimladau a allai arwain at hunanladdiad.

Gweithgareddau

Mae cefnogaeth emosiynol yn cael ei ddarparu dros y ffôn, trwy Sgwrs Ar-lein ac ymweliadau â'n Canolfan.

Mae rhif Rhadffôn ar gael i ddarparu cefnogaeth yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Rhennir gwybodaeth am ein gwasanaethau trwy wefan cenedlaethol y Samariaid a gwefan ein cangen ni. Sicrheir bod taflenni dwyieithog ar gael mewn mannau strategol ac mae hysbysebion sy'n rhoi manylion am ein Llinell Gymraeg yn ymddangos yn rheolaidd yn y papurau bro lleol. Mae ffonau sy'n cysylltu â'n Canolfan ni ar y ddwy bont dros y Fenai.

Allgymorth

Rhan bwysig o waith yr elusen yw estyn allan at bobl mewn trallod. Rydym yn gofalu am ardal ddaearyddol eang ac yn mynychu digwyddiadau, sioeau amaethyddol, eisteddfodau, marchnadoedd ffermwyr, yn ymweld ag ysgolion, colegau a Phrifysgol Bangor. Mae gennym gerbyd cymunedol pwrpasol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau allgymorth hyn, ac mae hefyd yn ymweld â threfi a phentrefi ledled yr ardal i rannu gwybodaeth am wasanaethau’r Samariaid, gan gynnwys lleoliadau lle mae achosion o hunanladdiad wedi digwydd. Rhoddir sgyrsiau i gymdeithasau sy'n gofyn am gael gwybod mwy am ein gwaith.

Rydym hefyd wedi gosod byrddau sy'n hysbysebu ein gwasanaethau gwrando mewn nifer o feysydd pêldroed a chriced yn ein hardal, gan dargedu dynion ifanc a chanol oed gan fod achosion o hunanladdiad yn llawer uwch ymysg dynion o fewn yr ystodau oedran hyn.

Hyfforddiant

Mae recriwtio gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn broses barhaus. Cynhelir cyrsiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr newydd o leiaf deirgwaith y flwyddyn. Mae pob gwirfoddolwr hyfforddedig yn cael hyfforddiant pellach yn flynyddol. Trefnir cynhadledd flynyddol gan y Gangen ym Mehefin gyda siaradwyr allweddol a gweithdai.

2

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

Cyflawniadau a pherfformiad

Perfformiad

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl wirfoddolwyr am eu hymroddiad diflino.

Ym mis Mai 2024 dathlodd y Gangen ei phen-blwydd yn 40 oed. Cyhoeddwyd llyfr, 40 Mlynedd o Wrando - 40 Years of Listening, yn adrodd hanes a gweithgareddau’r Gangen dros y blynyddoedd.

Roedd gan yr elusen 73 o wirfoddolwyr gwrando cofrestredig ar 31 Mawrth 2025, cynnydd o 7 ers y flwyddyn flaenorol ac o gymharu â 77 yn 2022-23. Mae gan y Gangen 6 o wirfoddolwyr nad ydynt yn gwrando. Mae’r cynnydd yn y nifer o wirfoddolwyr yn cael ei adlewyrchu yn y gwelliant ym mherfformiad y Gangen yn ystod y flwyddyn, o gymharu â 2023-24:

Adeilad

Mae gan yr elusen adeilad modern, llawn offer, a brynwyd ac a adnewyddwyd yn 2016, sy'n rhoi sefydlogrwydd a diogelwch i'r gangen ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynnig amgylchedd gwaith da iawn i'n gwirfoddolwyr ynghyd â chyfleusterau hyfforddi rhagorol. Cafodd rhai rhannau o’r adeilad eu hadnewyddu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Adolygiad ariannol

Incwm

Cyfanswm incwm yr elusen yn 2024-25 oedd £64,576 (2023-24 - £48,487) gan gynnwys rhoddion o £43,533 (2021-22 - £15,990). O gyfanswm y rhoddion am y flwyddyn, roedd £7,934 (2023-24 £9,578) wedi'i gyfyngu ar gyfer costau fel gwariant ar weithgareddau yn yr iaith Gymraeg a’r llyfr dathlu 40 mlynedd. Yn gynwysedig yn yr incwm hefyd oedd cymynroddion a chyfraniadau er cof o £3,546 (2023-24 - £500).

Roedd incwm o weithgareddau codi arian yn uwch: £12,477 (2023-24 - £11,784) fel ymateb i gynnydd yng nghostau cyffredinol yr Elusen, a chododd Cyfeillion y Samariaid £861 (2023-224- £1,804). Cafwyd cymorth grant o £1,500 gan Gyngor Gwynedd, sydd hefyd wedi ein heithrio rhag taliadau dewisol o 20% o ran trethi ar ein hadeilad, ac mae’r Gangen yn hynod ddiolchgar i’r Cyngor am y cymorth ariannol hwn. Cafwyd cymorth grant ychwanegol o £1,500 fel rhan o grant i bob un o ganghennau’r Samariaid yng Nghymru.

Gwariant

Roedd gwariant yn 2024-25 yn £46,436 (2023-24 £44,681). Roedd y cynnydd mewn gwariant o ganlyniad i gynnydd mewn costau’r adeilad gyda chynnal a chadw a gwaith adnewyddu bron wedi dyblu yn ystod y flwyddyn. Roedd costau ynghlwm â'r cerbyd cymunedol ar gyfer Gwaith Allgymorth yn £4,321 (2023-24 - £5,866).

Arian mewn llaw

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol cafodd £55,913 ei gario ymlaen, £22,294 yn fwy nag yn 2023-24: mae hyn yn cyfateb i 17 mis o gronfeydd wrth gefn, ymhell o fewn nod yr Elusen o gadw rhwng deuddeg i ddeunaw mis o gostau gweithredu wrth gefn i sicrhau sefydlogrwydd y Gangen.

3

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

Cymeradwywyd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ar 25 Mehefin 2025 a chafodd ei lofnodi ar ran bwrdd yr ymddiriedolwyr gan:

Tudur Williams

Tudur Williams Ymddiriedolwr

4

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Ymddiriedolwyr Samariaid Gogleddorllewin Cymru

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

Rwyf yn adrodd i’r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o ddatganiadau ariannol Samariaid Gogledd-orllewin Cymru (’yr elusen’) am y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr yr elusen, rydych yn gyfrifol am baratoi’r datganiadau yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 (‘y Ddeddf’).

Adroddaf ynglŷn â fy archwiliad o ddatganiadau ariannol yr elusen a weithredwyd dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gwblhau fy archwiliad rwyf wedi dilyn pob Cyfarwyddyd perthnasol a roddir gan y Comisiwn Elusennau dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf.

Datganiad yr Archwilydd Annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Rwyf yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion materol wedi dod i’m sylw yn yr archwiliad sydd yn achosi i mi gredu mewn unrhyw fodd materol:

  1. na chadwyd cofnodion ariannol ar ran yr elusen yn unol ag adran 130 o’r Ddeddf; neu

  2. nad yw’r datganiadau ariannol yn cydsynio â’r cofnodion hynny; neu

  3. nad yw’r datganiadau yn cydymffurfio â gofynion perthnasol ffurf a chynnwys y cyfrifon a nodir yn Rheoliadau (Cyfrifon ac Adroddiadau) Elusennau 2008, ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' nad yw'n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol.

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau gwir ddealltwriaeth o’r cyfrifon.

Buddug H Ritchie

Miss Buddug Ritchie ACCA Archwiliwr Annibynnol

Canolfan Fusnes Bangor 2 Ffordd Farrar Bangor Gwynedd LL57 1LJ

25 Mehefin 2025

5

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Datganiad Gweithgareddau Ariannol

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

2025 2024
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig cronfeydd cronfeydd
Nodyn £ £ £ £
Incwm a gwaddoliadau
Cyfraniadau a chymynroddion 4 45,230 5,710 50,940 36,294
Gweithgareddau masnachol eraill 5 10,253
2,224
12,477
11,784
Incwm buddsoddiadau 6 1,159 -- 1,159 409
──────── ─────── ──────── ────────
Cyfanswm incwm 56,642 7,934 64,576 48,487
════════ ═══════ ════════ ════════
Gwariant
Gwariant codi arian ar:
Cost gweithgareddau masnachol 7 143 4,269 4,412 1,401
Gwariant ar weithgareddau elusennol 8,9 36,531 5,492 42,024 43,280
──────── ─────── ──────── ────────
Cyfanswm gwariant 36,674 9,761 46,436 44,681
════════ ═══════ ════════ ════════
──────── ───────
────────
────────
Gwariant clir a symudiad clir mewn
cronfeydd 19,968 (1,827) 18,140 3,806
════════ ═══════ ════════ ════════
Cysoniad cronfeydd
Cyfanswm cronfeydd a dygwyd ymlaen 257,879 4,350 262,229 258,423
───────── ─────── ───────── ─────────
Cyfanswm cronfeydd a gariwyd drosodd 277,847 2,523 280,370 262,229
════════ ═══════
═════════
═════════

Mae’r datganiad o weithgareddau ariannol yn cynnwys yr holl enillion a cholledion a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn.

Mae pob incwm a gwariant yn deillio o weithgareddau parhaus.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 14 yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn .

6

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Datganiad Sefyllfa Ariannol

31 Mawrth 2025

2025 2024
Nodyn £ £
Asedau sefydlog
Asedau sefydlog diriaethol 15 224,957 229,111
Asedau Cyfredol
Dyledwyr 16 - 862
Arian yn y banc ac wrth law 55,913 32,756
──────── ────────
55,913 33,618
Credydwyr: symiau’n ddyladwy ymhen blwyddyn 17 500 500
──────── ────────
Asedau cyfredol clir 55,413 33,118
───────── ─────────
Cyfanswm asedau llai ymrwymiadau cyfredol 280,370 262,229
───────── ─────────
Asedau clir 280,370 262,229
═════════ ═════════
Cronfeydd yr elusen
Cronfeydd cyfyngedig 2,523 4,350
Cronfeydd anghyfyngedig 277,847 257,879
───────── ─────────
Cyfanswm asedau’r elusen 18 280,370 262,229
═════════ ═════════

Mae’r datganiadau ariannol hyn wedi eu cymeradwyo gan fwrdd yr ymddiriedolwyr a’u dilysu ar gyfer eu cyhoeddi ar 25 Mehefin 2025, ac wedi eu harwyddo ar ran y bwrdd gan

Tudur Williams

Lynda P Jones

Tudur Williams Ymddiriedolwr

Lynda Price Jones Ymddiriedolwr

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 14 yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn .

7

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

1. Gwybodaeth gyffredinol

Mae’r elusen yn endid er budd y cyhoedd ac yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr ac yn anghorfforedig. Cyfeiriad y brif swyddfa yw 5 Llys Onnen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4DF.

2. Datganiad cydymffurfio

Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol ag FRS 102, ‘Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon’, y Datganiad o Arferion Cymeradwy sy’n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (Elusennau SORP (FRS 102)) a Deddf Elusennau 2011.

3. Polisïau cadw cyfrifon

Sail paratoi

Paratowyd y datganiadau ariannol o dan y confensiwn cost hanesyddol. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi mewn punnoedd sterling, sef arian gweithredol yr endid.

Mudiad gweithredol

Nid oes unrhyw amheuon materol ynglŷn â gallu’r elusen i barhau.

Dyfarniadau a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrifon

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol mae'n rhaid i reolwyr wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a thybiaethau sy'n effeithio ar y symiau a adroddir. Adolygir yr amcangyfrifon a'r dyfarniadau hyn yn barhaus ac maent yn seiliedig ar brofiad a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Cyfrifo cronfeydd

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i’w defnyddio yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo dibenion yr elusen. Mae gwariant cronfeydd cyfyngedig yn amodol ar gyfyngiadau a osodwyd gan y rhoddwr neu drwy delerau apêl.

Adnoddau a dderbynnir

Mae’r holl incwm wedi’i gynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd hawl wedi'i throsglwyddo i’r elusen, mae’n debygol y bydd y buddion economaidd sy’n gysylltiedig â’r trafodiad yn llifo i’r elusen a gellir mesur y swm yn ddibynadwy. Caiff y polisïau penodol canlynol eu cymhwyso i gategorïau arbennig o incwm:

Caiff incwm o roddion neu grantiau ei gydnabod pan fo tystiolaeth o hawl i’r rhodd, pan fydd yn debygol y caiff yr arian ei dderbyn, a phan ellir mesur ei swm yn ddibynadwy.

Caiff incwm cymynrodd ei gydnabod pan fydd yn debygol y caiff yr arian ei dderbyn a phan fydd hawl wedi’i sefydlu.

Cynhwysir incwm o fuddsoddiadau pan fydd yn dderbyniadwy.

8

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

3. Polisïau cadw cyfrifon (parhad)

Adnoddau a wariwyd

Cydnabyddir gwariant ar sail croniadau wrth i rwymedigaeth godi. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw TAW nad yw'n bosibl ei hadennill yn llawn, a chaiff ei restru o dan benawdau’r datganiad o weithgareddau ariannol y mae’n berthnasol iddynt:

Mae gwariant ar godi arian yn cynnwys costau pob gweithgaredd codi arian, digwyddiadau, gweithgareddau masnachol nad ydynt yn elusennol, a gwerthu nwyddau a roddwyd.

Mae gwariant ar weithgareddau elusennol yn cynnwys yr holl gostau a dynnir gan elusen wrth ymgymryd â gweithgareddau sy’n hyrwyddo ei hamcanion elusennol er budd ei buddiolwyr, gan gynnwys y costau cefnogi a’r costau sy’n ymwneud â llywodraethu’r elusen ac a ddyrannwyd i weithgareddau elusennol.

Pennir yr holl gostau i gategorïau gwariant sy'n adlewyrchu'r defnydd o'r adnodd. Mae costau uniongyrchol y gellir eu priodoli i un gweithgaredd yn cael eu dyrannu'n uniongyrchol i'r gweithgaredd hwnnw. Caiff costau a rennir eu dosrannu rhwng y gweithgareddau y maent yn cyfrannu atynt ar sail resymol, cyfiawn a chyson.

Asedau diriaethol

Nodir asedau diriaethol ar sail cost ar y dechrau, ac fe’u nodir yn ddiweddarach ar sail cost llai unrhyw ddibrisiant cronedig a cholledion amhariad.

Dibrisiant

Cyfrifir dibrisiant er mwyn dileu cost neu werth ased, llai’r gwerth sy’n weddill, yn ystod bywyd economaidd defnyddiol yr ased hwnnw fel a ganlyn:

Eiddo ar brydles hir - Dros hyd y les Gosodiadau a ffitiadau - Dros 4 blynedd yn olynol Cerbydau modur - Dros 15 mlynedd yn olynol

Diffygion mewn asedau sefydlog

Cynhelir adolygiad i chwilio am ddangosyddion amhariad ar bob dyddiad adrodd, ac amcangyfrifir y swm y gellir ei adennill lle mae dangosyddion o'r fath yn bodoli. Pan fo'r gwerth cario ymlaen yn fwy na'r swm adenilladwy, bydd gwerth yr ased yn cael ei amharu’n unol â hynny. Yn ogystal, adolygir amhariadau blaenorol er mwyn gweld a yw’n bosib eu gwrthdroi ar bob dyddiad adrodd.

Pan nad yw’n bosibl amcangyfrif swm adenilladwy ased unigol, gwneir amcangyfrif o’r swm adenilladwy i’r uned sydd yn creu arian y perthyna’r ased iddi. Yr uned creu arian yw’r grŵp adnabyddadwy lleiaf o asedau sy’n cynnwys yr ased ac yn cynhyrchu llifau arian parod sydd i raddau helaeth yn annibynnol ar y llifau arian parod o asedau neu grwpiau o asedau eraill.

9

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

3. Polisïau cadw cyfrifon (parhad)

Offerynnau ariannol

Adnabyddir ased ariannol neu ddyled ariannol pan fo’r endid yn dod yn rhan o ddarpariaeth gytundebol yr endid yn unig.

Adnabyddir offerynnau ariannol sylfaenol ar y dechrau yn ôl y swm a dderbynnir neu sy’n ddyladwy gan gynnwys unrhyw gostau sydd yn ymwneud â’r trafodion, heblaw bod y trefniant yn golygu gweithred ariannol, ac fe’i derbynnir ar werth presennol y taliadau i’r dyfodol gyda gostyngiad cyfradd llog masnachol neu offeryn dyled tebyg.

Mesurir offerynnau dyled wedi hyn ar gost ddilead.

Mesurir offerynnau ariannol wedyn ar werth teg, gydag unrhyw newidiadau’n cael eu nodi yn y datganiad o weithgareddau ariannol, ac eithrio offerynnau rhagfantoli o fewn perthynas ragfantoli dynodedig.

Adolygir asedau ariannol a fesurir ar gost neu gost ddilead am dystiolaeth wrthrychol o ddiffyg ar ddiwedd pob dyddiad adrodd. Os bydd tystiolaeth wrthrychol o ddiffyg, adnabyddir colled ddiffygiol dan y pennawd priodol yn y datganiad o weithgareddau ariannol ymhle yr adnabuwyd y budd gyntaf.

Ar gyfer pob offeryn ecwiti heb ystyried pwysigrwydd ac asedau ariannol eraill o bwys unigol, fe’u hasesir yn unigol ar gyfer diffyg. Asesir pob asesiad ariannol eraill yn unigol neu fe’u cyfyngir ar sail nodweddion risg credyd tebyg.

Adnabyddir unrhyw wrthdroi diffyg ar unwaith, i’r graddau nad yw canlyniad y gwrthdroi’n golygu swm cludo’r ased ariannol sydd yn fwy na fyddai’r swm cludo wedi bod pe na fyddai’r diffyg wedi’i adnabod yn gynt.

4. Rhoddion a chymynroddion

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2025
£ £ £
Rhoddion
Rhoddion 37,823 5,710 43,533
Cyfeillion y Samariaid 861 861
Cymynroddion
Cymynroddion 3,546 3,546
Grantiau
Grantiau a dderbyniwyd 3,000 3,000
──────── ─────── ────────
45,230 5,710 50,940
════════ ═══════ ════════

10

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Nodiadau i’r Datganiadau ariannol (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

4. Rhoddion a chymynroddion (parhad)

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2024
£ £ £
Rhoddion
Rhoddion 6,412 9,578 15,990
Cyfeillion y Samariaid 1,804 1,804
Cymynroddion
Cymynroddion 500 500
Grantiau
Grantiau a dderbyniwyd 18,000 18,000
──────── ──── ────────
26,716 9,578 36,294
════════ ════ ════════
5. Gweithgareddau masnachu eraill
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2025
£ £ £
Digwyddiadau codi arian 10,253 2,224 12,477
─────── ─────── ───────
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2024
£ £ £
Digwyddiadau codi arian 11,784 -- 11,784
─────── ─────── ───────
6. Incwm ar fuddsoddiadau
Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig 2025 anghyfyngedig 2024
£ £ £ £
Llog banc a dderbyniwyd 1,159 1,159 409 409
════ ════ ════ ════
7. Cost gweithgareddau masnachu eraill
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2025
£ £ £
Costau digwyddiadau codi arian 143 4,269 4,412
──── ─────── ───────
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2024
£ £ £
Costau digwyddiadau codi arian
786
────
615
───────
1,401
───────

11

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

8. Cost gweithgareddau masnachu eraill

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2025
£ £ £
Costau cefnogol 36,531 5,492 42,024
════════ ═══════ ════════
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2024
£ £ £
Costau cefnogol 37,582 5,698 43,280
════════ ════ ════════
Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math o gronfa
Costau Cyfanswm Cyfanswm
cefnogol 2025 2024
£ £ £
Costau rheolaeth 42,024 42,024 43,280
════════ ════════ ════════

9. Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math o gronfa

10. Dadansoddiad o gostau cefnogi

Costau Costau Gweithgareddau Gweithgareddau Cyfanswm
Cyfanswm
Cyfanswm
Cyfanswm
Cyfanswm
Cyfanswm
llywodraethu elusennol cyfyngedig 2025 2024
£ £ £ £ £
Adeiladau 10,374 3,633 14,007 9,984
Swyddfa gyffredinol 3,950 -- 1,859 5,809 10,416
Treuliau aelodau 11,743 11,743 11,637
Ffioedd cyfrifydd 500 500 500
Cyfraniad I Swyddfa
Ganolog 1,240 1,240 523
Dibrisiant 4,154 4,154 4,354
Costau Cerbyd
Cymunedol 4,321 -- 4,321 5,866
Hysbysebu a marchnata 250 250 --
──────── ─────── ─────── ──────── ────────
32,211 1,299 9,500 40,335 30,351
════════ ═══════ ═══════ ════════ ════════

Mae costau cefnogi’r elusen wedi eu hadnabod ac ar y cyd â’r costau llywodraethu wedi eu dosrannu rhwng y prif weithgareddau elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Mae’r costau cefnogi uchod wedi eu rhannu rhwng prif weithgareddau’r elusen ar sail costau uniongyrchol, dosraniad rhesymol a chostau llywodraethu.

11. Incwm clir

Nodir incwm clir ar ôl costio/(credydu):

Dibrisiant asedau sefydlog diriaethol

2025 2024 £ £ 4,154 4,354 ═══════ ═══════

12

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

12. Ffioedd archwilio annibynnol

2025 2024
£ £
Ffioedd a delir i’r archwiliwr annibynnol am:
Archwiliad annibynnol o’r datganiadau ariannol 500 500
════ ════

13. Costau staff

Ni thalwyd unrhyw gyflog nac enillion i weithwyr yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys aelodau’r pwyllgor.

14. Treuliau a chydnabyddiaeth i’r ymddiriedolwyr

Yn ystod y flwyddyn, hawliodd un neu fwy o’r ymddiriedolwyr dreuliau a thalwyd y treuliau hyn gan yr elusen.

Ad-dalwyd treuliau gwerth £3,814 (2024 - £3,144). Teithio oedd y treuliau a daliwyd i’r ymddiriedolwyr. Tri oedd nifer yr ymddiriedolwyr a dderbyniodd dreuliau.

15. Asedau sefydlog diriaethol

Adeilad ar les
tymor hir
Gosodion a
ffitiadau
Cerbydau
modur
Cyfanswm
£ £ £ £
Cost
Ar 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 208,345 15,057 46,715 270,117
═════════ ════════ ════════ ═════════
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2022 7,280 15,042 18,684 41,006
Costau am y flwyddyn 1,040 -- 3,114 4,154
───────── ──────── ──────── ─────────
Ar 31 Mawrth 2023 8,320 15,042 21,798 45,160
═════════ ════════ ════════ ═════════
Swm syddyn cario ymlaen
Ar 31 Mawrth 2023 200,025 15 24,917 224,957
═════════ ════════ ════════ ═════════
Ar 31 Mawrth 2022 201,065 15 28,031 229,111
═════════ ════════ ════════ ═════════

16. Dyledwyr

2025 2024
£ £
Rhagdaliadau ac incwm gohiriedig -- 862
─────── ───────
17. Credydwyr: taliadau’n ddyladwy o fewn un flwyddyn
2025 2024
£ £
Croniadau ac incwm gohiriedig 500
────
500
────

13

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol (parhad)

Samariaid Gogledd-orllewin Cymru

Blwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2025

18. Dadansoddiad o gronfeydd elusennol

Cronfeydd anghyfyngedig

Cronfeydd anghyfyngedig
1 Ebrill Ar
2024
Incwm Gwariant Ar 31 Mawrth
2025
£ £ £ £
Cronfeydd cyffredinol 257,879 56,642 (36,674) 277,847
═════════ ════════ ════════ ═════════
1 Ebrill Ar
2023
Incwm Gwariant Ar 31 Mawrth
2024
£ £ £ £
Cronfeydd cyffredinol 257,338 38,909 (38,368) 257,879
═════════ ════════ ════════ ═════════
Cronfeydd cyfyngedig
1 Ebrill Ar
2024
Incwm Gwariant Ar 31 Mawrth
2025
£ £ £ £
Cronfeydd cyfyngedig
4,350 7,934 (9,761) 2,523
════ ═══════ ═══════ ═══════
1 Ebrill Ar
2023
Incwm Gwariant Ar 31 Mawrth
2024
£ £ £ £
Cronfeydd cyfyngedig 1,085 9,578
(6,313)
4,350
════ ════ ════ ════
Dadansoddiad o asedau clir rhwng cronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2025
£ £ £
Asedau sefydlog diriaethol 224,957 224,957
Asedau cyfredol 53,389 2,523 55,913
Credydwyr llai na blwyddyn (500) (500)
───────── ─────── ─────────
Asedau clir 277,846 2,523 280,370
═════════ ═══════ ═════════
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
anghyfyngedig cyfyngedig 2024
£ £ £
Asedau sefydlog diriaethol 229,111 229,111
Asedau cyfredol 29,268 4,350 33,618
Credydwyr llai na blwyddyn (500) (500)
───────── ──── ─────────
Asedau clir 257,879 4,350 262,229
═════════ ════ ═════════

19. Dadansoddiad o asedau clir rhwng cronfeydd

14