COFNODION PWYLLGOR BLYNYDDOL CFFI ERYRI
DYDDIAD: NOS WENER, 12fed o FEDI 2025 AMSER: 7:00y.h. LLEOLIAD: Clwb Rygbi Bethesda
1 YMDDIHEURIADAU
Judith Owen, Caernarfon
- 2 PRESENNOL
Mari Hughes – Llywydd y Sir 2024-2025 Iwan Harper – Cadeirydd CFfI Eryri 2024-2025 Elin Owen Jones – Is-gadeirydd CFfI Eryri 2024-2025 Morgan Jones – Trysorydd CFfI Eryri 2024-2025 Gwen Thomas – Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Anwen Bumby – Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio Lois Williams – Rowen Mari Lois – Y Rhiw Cian Iolen Rhys – Dyffryn Ogwen Geraint Harper – Aelod Oes Myfanwy Harper – Aelod Oes Arthur Emyr Williams – Llanrwst Siôn Arfon Roberts – Llanrwst Huw Arfon Roberts – Llanrwst Dafydd Williams – Dyffryn Nantlle Elen Williams – Dyffryn Nantlle Anna Wyn Jones – Porthdinllaen Catrin Glwys Williams – Dyffryn Madog Efa Gwynedd Jones – Dyffryn Madog Nanw Lewis – Llangybi Mared Jones – Llangybi Mari Lewis Jones – Llangybi Cai Edwards – Llangybi Sallie Roberts – Dyffryn Ogwen Catrin Jones – Dyffryn Ogwen Sioned Gwynn Pritchard – Dyffryn Ogwen Lora Jên Pritchard – Dyffryn Ogwen Neli Rhys – Caernarfon Sioned Wyn Jones – Caernarfon Betsan Siencyn - Caernarfon Gwynedd Watkin Gwenlli Thomas – Godre’r Eifl (ysgrifenyddes)
3 DERBYN COFNODION – 6 Medi 2024
Cyflwynwyd y cofnodion ar y sgrin. Cynigiodd Rhodri Jones (Godre’r Eifl) eu bod yn gywir ac eiliodd Elin Owen Jones (Is-gadeirydd).
4 MATERION YN CODI O’R COFNODION
Ni chodwyd unrhyw fater
5 GOHEBIAETH
Ni dderbynwyd unrhyw ohebiaeth.
6 ADRODDIAD CADEIRYDD Y MUDIAD
Cyflwynwyd yr adroddiad isod gan Iwan Harper, Cadeirydd CFfi Eryri 2024-2025:
‘Wnes i erioed feddwl byswn yn cael y braint o fod yn gadeirydd, yn enwedig wrth feddwl am yr holl aelodau ardderchog sydd heb cael bod. Dwi’n eitha siŵr mai fi fydd un o’r cadeiryddion olaf sydd methu deall ‘google drive’ na ‘Whattsapp’, ond mae gan bob cadeirydd ei sgiliau gwahanol. Felly gobeithio fy mod i heb eich gadael lawr yn ofnadwy! o
Dwi ddim am fynd ymlaen ac ymlaen am y flwyddyn diwethaf felly dyma rhai o’n uchafbwyntiau i. Er mod i’n bell o fod yn steddfodwr, wnes i fwynhau stiwardio gefn y llwyfan trwy’r dydd gan wylio’r talent ardderchog sydd yn y sir ’ma. Ffair aeaf adra hefyd - braf iawn oedd weld gymaint yna yn cystadlu. Fues i yn cynnal noson i ambell i glwb - roedd yn braf cael cymysgu gyda aelodau eraill y sir. Rali Berth Aur wedyn gyda Dyffryn Ogwen yn dod i’r brig - rywbeth neshi feddwl y byswn i’n rhan ohono.
Dwi wedi bod ar ambell bwyllgor eleni a di cal yn nal yn day dreamio neu beidio gwrando aml dro. Fyswn i yn hoffi diolch i swyddogion y sir sydd wedi gweithio yn galed iawn ar hyd y flwyddyn, mae’r gwaith rydych yn ei wneud yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Fyswn i’n licio diolch i Elin y swyddog cefnogi am ei holl waith, er ar adegau mai wedi bod eisiau fy nhagu am fod mor di-ddallt am rhai pethau sydd mor syml i eraill dwi’n siŵr. Fyswn i’n llicio llongyfarch yr aelodau a’r clybiau am y flwyddyn diwethaf a phob lwc i’r flwyddyn sydd i ddod. Yn olaf hoffaf ddymuno lwc dda i Elin Goetra ar ei flwyddyn fel cadeirydd, mae’n anodd feddwl am neb sydd yn haeddu’r fraint o fod yn cadeirydd fwy nag Elin.
Diolch yn fawr.
7 ADRODDIAD ARIANNOL Y MUDIAD
Cyflwynwyd yr adroddiad isod gan Morgan Jones, CFfI Llangybi, Trysorydd y sir: Ar y 30 o Fehefin eleni, dyma’r balansau oedd yng nghyfrifon banc y ffederasiwn:
-
Cyfrif Cyfredol Natwest £2,185.36
-
Cyfrif Clwb 200 Natwest £4,961.00
-
Cronfa Hyfforddiant Natwest £5,090.49
-
Cyfrif Cyfredol HSBC £68,512.97
-
Cyfrif Cadw HSBC £88,534.79
-
Cyfrif Tripiau HSBC £910.00
-
Cyfrif Hyfforddiant HSBC £5.00
Doedd dim symudiadau yn y Cyfrif Cadw Natwest eleni a felly roedd ei falans yn parhau yn wag.
Mae gwerth y ffederasiwn wedi cynyddu o £154,791.80 i £170,569.60 rhwng dechrau a diwedd y flwyddyn ariannol eleni.
Diolchwn i bawb am eu cefnogaeth barhaus tuag at ein digwyddiadau. Hoffwn i ddiolch i deulu Berthaur, clwb Porthdinllaen; holl noddwyr y Rali a phawb fuo gefnogi yr Erwau am sicrhau fod y Rali wedi creu dros £20,000 o elw eleni. Yn ogystal, diolch i bawb fuo ynghlwm â’n Heisteddfod Sirol y llynedd, fe greodd y digwyddiad bron i £1,400 o elw.
Diolchwn hefyd am yr holl gyfraniadau, rhoddion a grantiau amrywiol mae’r Sir wedi ei dderbyn gan amryw sefydliadau.
Cyfeiriwn ein diolchiadau o’r mwyaf i NFU Canolbarth Gwynedd. Eto eleni mae taliad ar ei ffordd i gyfrannu’n hael tuag at ein Rali flynyddol ac hefyd tuag at ein costau staffio. Yn ogystal, rydyn ni’n andros o ffodus o gael gofod swyddfa ganddynt heb unrhyw gostau sydd yn hwyluso trefniadau y Sir ac rydan ni’n ddiolchgar iawn o hyn.
Diolchwn hefyd i FUW am eu cefnogaeth ariannol hael tuag at ein Heisteddfod ac am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch ar hyd y flwyddyn. Diolchwn i Bwyllgor Apêl Dwyfor tuag at y Sioe Frenhinol am eu cyfraniad hael o £1,000 a gasglwyd i’r mudiad wrth iddynt gynnal Digwyddiad Brecwast Fferm ar y cyd â FUW i godi arian.
Pwysig ydy cydnabod hefyd mor gefnogol ydy cynghorau cymuned lleol â ni, a rydym yn ddiochgar iawn o’r holl gyfraniadau a gawn gan pob un ohonynt.
Yn ogystal rydym wedi bod yn ffodus i gael nifer o gyfraniadau eraill eleni - cafwyd £2,400 o grant “Arfor” gan Llywodraeth Cymru a £500 gan Tesco fel rhodd (a diolch i Sioned, cyngadeirydd y Sir am drefnu â nhw). Eto eleni, rydyn ni’n ddiolchgar i dderbyn £7,000 gan Llywodraeth Cymru am weithredu drwy’r Gymraeg.
Hawdd ydy nodi fod y mudiad yn ddiolchgar tu hwnt o’r gefnogaeth a gawn gan holl ffrindiau a chyfranogwyr y mudiad sydd yn sicrhau sefyllfa ariannol sefydlog i’r Sir ar hyn o bryd.
Hoffwn dynnu eich sylw at gynllun arall sydd yn helpu’r Sir yn ariannol. Os ydych chi neu ’ ’ ’ - rhywun o ch teulu yn gwerthu wyn i r cwmni Dunbia, mae r cwmni yn cyd weithio gyda CFFI
Cymru i sicrhau y caiff y mudiad fuddion ariannol os ydy eu haelodau yn gwerthu eu cynnyrch i Dunbia.
Ga i ddiolch i gwmni cyfrifydd Richard Williams a’i gwmni am eu parodrwydd i weinyddu’r cyflogau ar ein rhan eto eleni.
Diolchwn hefyd i aelodau Cynllun Ffrindiau’r mudiad am eu cefnogaeth eto eleni. Mae pob aelod yn buddsoddi unai £100 yn flynyddol neu £8.50 pob mis gan dderbyn amrywiol fuddiannau yn sgîl eu haelodaeth. Rydym yn bwriadu gweithio ar y cynllun hwn fwyfwy eleni a chryfhau’r cysylltiad gyda aelodau’r Cynllun.
Diolch i Anwen, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio am ein arwain ni drwy’r Pwyllgorau a chynnig cyngor doeth drwy gydol y flwyddyn. Diolch i Iwan Harper, ac i weddill swyddogion Sir sydd wedi bod yn gweithio’n galed eto eleni i sicrhau fod blwyddyn y mudiad yn cylch-droi yn drefnus.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i Elin, Swyddog Cefnogi’r Sir. Diolch i Elin am drefnu cymaint ar ein rhan dros y flwyddyn ddiwethaf ac am y cyd-weithio braf.
Diolch yn fawr - Morgan Jones
Diolchwyd hefyd i deulu Morgan am rhodd ariannol eleni a gyflwynwyd i’r sir er cof am ei daid.
8 ADRODDIAD SWYDDOG CEFNOGI’R MUDIAD
Cyflwynwyd yr adroddiad isod gan Elin Jones, Swyddog Cefnogi CFFI Eryri:
Dwi’n siŵr eich bod chi gyd wedi darllen hanes y flwyddyn yn yr Erwau felly nai ddim mynd mewn i adrodd am ddigwyddiadau.
Ond hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch yn fawr iawn i bawb am fy nghefnogi unwaith eto dros y flwyddyn ddiwethaf. Anwen am fod yn reolwr llinell hynod gefnogol, Iwan am fod yn gadeirydd gwych, Elin Goetre am neud lot o bach o bob dim, ond yn swyddogol am fod isgadeirydd. A’r holl swyddogion eraill sydd yn helpu neu ar bwyllgorau, yr holl ffermwyr, beirniaid a stiwardiaid sydd wastad mor barod i helpu’r mudiad allan pan mai’n dod i gynnal digwyddiadau ac wrth gwrs yr aelodau gwych sydd ganddo ni yma yn Eryri.
Rydych yn gwybod lle ydw i os ydych chi angen unrhyw help, ’does yr un cwestiwn rhy fawr neu fach, ac felly plîs peidiwch oedi cyn cysylltu. Dwi’n edrych mlaen am flwyddyn arall o weld aelodau yn dysgu, datblygu, a gobeithio mwynhau eu hunain yn nigwyddiadau’r mudiad.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i Wayne a’r tîm am ein croesawu ni heno ac am y bwyd bendigedig, Hefyd am yr holl nosweithiau eraill dwi’n swnian amdanynt, mae’n braf iawn cael clwb sydd mor fodlon i’n croesawu ni beth bynnag ydi’r digwyddiad.
Diolch – Elin.
9 ANERCHIAD Y LLYWYDD
Cyflwynodd Mari Hughes ei hanerchiad gan nodi ei bod wedi bod yn fraint bod yn llywydd y sir eleni, yn enwedig gan ein bod wedi cymryd y cam mawr o ail ymuno efo NFYFC. Amlygodd bod y sir wedi ffynnu mewn sawl digwyddiad yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf a llongyfarchodd yr aelodau am roi y sir ar y map. Diolchodd i Elin, Swyddog Cefnogi’r Sir am ei gwaith a diolchodd i’r holl swyddogion am eu amser ac ymroddiad. Llongyfarchwyd Porthdinllaen am gynnal chwip o rali a llongyfarchodd Dyffryn Ogwen am ennill. Dywedodd wrth yr aelodau am fanteisio ar holl gyfleoedd, pob un yn gyfle i ddysgu sgiliau a mwynhau.
10 ADRODDIADAU PWYLLGORAU SIROL
Galw ar y canlynol i wneud eu adroddiadau, yn eu tro:
10.1 Cyllid a Staffio - Ms Anwen Bumby
Cyflwynwyd yr adroddiad isod gan Ms Anwen Bumby, Cadeirydd PCAS:
Dyma grynodeb o waith y pwyllgor cyllid a staffio am y flwyddyn diwethaf. Cafodd y materion canlynol sylw:
Cynhaliwyd adolygiad o raddfa cyflog ein swyddog cyswllt er mwyn sicrhau fod ei chyflog yn un cyffelyb i swyddi tebyg allan yn y farchnad gwaith. Cychwynnwyd ar y gwaith o geisio strwythur pwyllgorau a newid cyfansoddiad y mudiad er mwyn cael llai o ymddiriedolwyr, gan fod y nifer sydd gennym ar hyn o bryd yn llesteirio rhai agweddau o waith y mudiad. Gobeithir dod ac argymhellion i’r pwyllgor gwaith yn fuan.
Prynwyd mwy o declynnau talu hefo cerdyn er mwyn gallu bod mewn sefyllfa fod yn derbyn llai o arian parod mewn gweithgareddau, gan gofio fod banciau stryd fawr yn lleihau yn ein cymunedau.
Yn dilyn penderfyniad fod y sir yn ail ymuno a NFYFC bydd y pwyllgor yn wedi cychwyn ar y gwaith o adolygu polisïau NFYFC i sicrhau eu od yn addas i ni yma yn Eryri.
Braf yw adrodd fod sefyllfa cyllidol y mudiad ar hyn o bryd yn gadarn ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd yn cefnogi y mudiad yn ariannol unai trwy grantiau neu nawdd,
Cyn cloi hoffwn ddiolch i Elin ein swyddog Cyswllt, Iwan Harper, Elin Goetra a Morgan Jones am ei gwaith di-flino drwy’r flwyddyn, ond yn olaf hoffwn ddiolch i holl arweinyddion, swyddogion clybiau a’r aelodau am ei ymroddiad a’i brwdfrydedd. Hebddoch ni fyddai mudiad yma yn yr Eryri.
10.2 Pwyllgor Hyfforddiant
Cyflwynodd Miss Gwen Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant, ei hadroddiad gan nodi mai’r prif nod oedd cynyddu nifer y ceisiadau hyfforddiant a dderbynnir. Ymgynghorwyd gyda’r pwyllgor gwaith ynghylch ffyrdd o gyflawni hyn, gan gynnwys dileu’r rheol cyllid cyfatebol. Mae cysylltiad wedi bod â cholegau a swyddogion cyswllt ffermio er mwyn sicrhau, os nad oes modd iddynt ariannu, y byddant yn cyfeirio unigolion at y pwyllgor. Pwysleisiwyd bwysigrwydd rhannu gwybodaeth am y mathau o hyfforddiant sydd ar gael yn ogystal ag astudiaethau achos i ddarparu enghreifftiau ymarferol. Esboniwyd y broses newydd sy’n galluogi pob clwb i wneud un cais y flwyddyn, gyda’r gofyniad bod o leiaf chwe aelod yn cymryd rhan. Nodwyd fod nifer y ceisiadau wedi cynyddu’n raddol, gyda thua £4,000 yn weddill felly mae cyfle i wneud ceisiadau pellach. Ymhlith y themâu hyfforddiant diweddar mae cneifio ac ATV, gyda chefnogaeth Ffermwyr Ifanc Cymru. Hyd yma, Llangybi yw’r unig glwb i gyflwyno cais, ac fe anogwyd mwy o glybiau i fanteisio ar y cyfle.
10.3 Pwyllgor Eisteddfod - Miss Angharad Rhys
Cyflwynwyd yr adroddiad isod gan Miss Angharad Rhys, Cadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant:
Cynhaliwyd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Eryri ar y 19 o Hydref y llynedd, yn Neuadd Goffa Cricieth. Diolchwn i’r neuadd am eu cyd-weithio braf unwaith eto y llynedd.
Gwych oedd gweld pob clwb yn cystadlu yn eleni - boed hynny ar y llwyfan neu drwy law y gwaith cartref. Roedd hi’n Eisteddfod o safon a braf oedd gweld cynulleidfa llawn yn mwynhau’r arlwy o dalent drwy gydol y diwrnod.
Llongyfarchiadau gwresog i Nanw Swyn Williams (Clwb Llanrwst) ar ennill y Gadair ac hefyd i Angharad Rhys Roberts-Williams (Clwb Godre’r Eifl) ar ennill y Goron! Wedi i’r gystadleuaeth olaf ddod i ben, a’r tlysau i gyd wedi eu dosbarthu, roedd hi’n amser
datgelu’r buddugwyr! Llongyfarchiadau mawr i Glwb Llangybi am gipio Tarian yr Eisteddfod eleni.
Diolchwn i FUW am fod yn brif noddwyr yr Eisteddfod eto eleni a chyfrannu’n hael tuag at ein digwyddiad. Diolch i Mari Hughes, Llywydd y Sir eleni am ei haelioni drwy noddi ein prif wobrau i’r seremoni gadeirio a choroni. Hoffwn estyn diolch i Elin Angharad am fod yn Llywydd yr Eisteddfod eleni.
Diolch i Robat Arwyn, Sian Emlyn, Tudur Eames, Mali Dafydd, Iola Bryn, Elen Williams, Dewi Davies a Liz Saville Roberts am feirniadu ein cystadlaethau ac am rannu adborth adeiladol! Yn ogystal, diolch yn fawr iawn i Catrin Alwen, ein cyfeilyddes amryddawn am ei gwaith a’i chefnogaeth unwaith eto eleni!
Mae angen cymuned o bobol i gynnal Eisteddfod cystal a hoffai’r Pwyllgor ddiolch i’r holl arweinwyr llwyfan, stiwardiaid y swyddfa; y drysau, y te a’r rhai cefn llwyfan, i’r cofnodwyr marciau; y technegwyr sain, Sioned Rhent am ddarparu bwyd i’r beirniaid, Bwn Jackson ein ffotograffydd a phawb arall sydd wedi cyfrannu at y diwrnod.
Yn olaf, diolch i swyddogion Pwyllgor yr Eisteddfod am eu gwaith diflino yn yr wythnosau cyn y diwrnod mawr, yn paratoi ar gyfer pob sefyllfa a all godi. Mae hi yn waith caled i fod yn trefnu’r Eisteddfod tra hefyd yn ceisio mynychu ymarferion yn eich clybiau. Er hynny, cofiwch ei fod yn gwneud gwahaniaeth os yw pob clwb gyda cynrychiolaeth ar y Pwyllgor, gan bod llais pawb yn cael ei glywed! Roedd gweld yr Eisteddfod yn ffynu yn gwneud yr holl waith caled yn werthfawr iawn!
10.4 Pwyllgor Rali
Cyflwynwyd yr adroddiad isod gan Miss Anna Wyn ar ran Mrs Ela Bryn, Cadeirydd y Pwyllgor Rali:
Noswaith dda, braint enfawr oedd gan Glwb Porthdinllaen ar gynnal y rali 2025. Roedd pawb mewn cyffro wrth dderbyn yr her er niferoedd bach oedd ganddom yn y clwb. Braf oedd gweld gymaint o gefnogaeth tuag at y clwb â’r ffederasiwn. Roedd parodrwydd, cefnogaeth a chyngor cyn-aelodau, rhieni a’r gymuned wedi bod yn fantais mawr i ni yn y clwb wrth gynnal y rali. Er y trafferthion cychwynnol cawsom i ffeindio lleoliad, roedd parodrwydd Teulu Berthaur i gefnogi a gadael i ni gynnal y rali yno yn wych. Fedrwn ni fel clwb ddim diolch digon i’r teulu am eu cefnogaeth a chymorth yn rhedeg fyny i’r diwrnod. Roedd caredigrwydd cwmnïau lleol i gefnogi’r rali hefyd yn wych. Er bod gwahanol ddigwyddiadau yn digwydd o fewn y sir a nifer o gwmnïau yn noddi y sioe fawr eleni, roedd pawb dal eisiau helpu ni fel clwb a’r ffederasiwn. O fod yn brif noddwyr i roid rhoddion ar gyfer y caffi, ni fysa’r diwrnod yn bosib heb caredigrwydd y busnesau lleol gwerthfawr sydd gennym yn yr ardal. Cawsom andros o hwyl yn creu y cystadlaethau sir ac wrth gwrs gorfod cael ambell “test run” cyn y diwrnod. Roeddem yn lwcus iawn bod cymaint o bobl wedi cynnig stiwardio ac mor barod i feirniadu cystadlaethau ac wrth gwrs, diolch hefyd i’r genod a Gwyn Rhydderch (y lejand) am helpu yn y caffi! Diolch o galon i bawb wnaeth gyfrannu mewn unrhyw fodd i sicrhau llwyddiant y rali. Pan ddaeth yn amser paratoi ar gyfer y rali, buodd Glyn Bryn Mawr, Lowri Lloyd, arweinyddion a phartneriaid yn gymorth anhygoel i ni. Hebddynt ni fyddai rali wedi bod yn llwyddiannus, credwch chi fi!! Diolch i Sioned Rhent, Awel, Mam a’r holl griw caffi am eu hamser a chymorth wrth hel a chael rhoddion ar gyfer y diwrnod. Diolch am Chris Brady a’i fan fwyd gyda’r nos – cafodd pawb wledd! Diolch i Elin a bob swyddog sydd wedi cyfrannu at y diwrnod mewn unrhyw ffordd.
Daeth y diwrnod gyda phawb yn gwenu yn edrych ymlaen at gystadlu. Roedd yr holl stiwardiaid a beirniad wedi sicrhau bod cystadlaethau yn digwydd yn hwylus a phrydlon a diolch iddynt. Roedd hi’n braf gweld clybiau yn mwynhau ac yn y Rali. Pleser a braint oedd bod yn Gadeirydd y Rali a trio gwneud y gorau ar ran clwb Porthdinllaen. Anodd credu ein bod wedi cael pumed ar diwedd y dydd a ninnau yn glwb mor fach. Roeddwn yn falch o’r clwb ac yr aelodau sydd yn gwneud ein clwb ni yn arbennig!
Felly, un peth oedd i’w wneud ar ôl hynny, oedd dathlu!! Dechreuodd y ddawns nos gyda band lleol TewtewTennau a’r DJ Emyr Gibson. Roedd y sied yn llawn cyffro gyda phob aelod yn mwynhau a falch nad oedd yna drafferth mawr diolch i’n swyddogion nos am hwyluso a sicrhau diogelwch pawb er mwyn i’r aelodau mwynhau wedi diwrnod prysur yn cystadlu. Ar ran clwb Porthdinllaen hoffwn ategu diolch o waelod calon i bawb, chi gyd, aelodau, swyddogion y sir, a’r gymuned ehangach a wnaeth gyfrannu mewn unrhyw ffordd i greu atgofion a hanner i ni ym Mhorthdinllaen.. Pob lwc i Glwb Dyffryn Ogwen wrth westeio Rali 2026 eleni, edrych ymlaen at y diwrnod yn barod!
10.5 Fforwm Ieuenctid
Cyflwynodd Neli Rhys, Cadeirydd y Fforwm Ieuenctid ei hadroddiad gan amlygu bod Fforwm Ieuenctid CFfI Eryri wedi’i sefydlu gyntaf eleni, ac roedd y gweithgareddau cyntaf – trip i airsoft a chrasu coed cyn yr haf – yn llwyddiant ysgubol. Mae cynlluniau ar y gweill i drefnu digwyddiad arall cyn y Nadolig. Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth wrth sefydlu’r fforwm a gobeithiodd am flwyddyn arall llwyddiannus i’r fforwm.
11 ADRODDIADAU CLYBIAU
11.1 Adroddiad CFfI Caernarfon - Neli Rhys ar ran Non Griffith
Braf iawn oedd croesawu nifer iawn o aelodau newydd nol ym mis Medi! A braf gweld yr un hen aelodau yn dod yn ôl yn barod am flwyddyn arall llawn bwrlwm! Wedi seibiant byr dros yr haf roedd mis Medi ar ein sodlau a rhaglen newydd ar fin ei chychwyn.
Fel yr holl flynyddoedd diwethaf fe gychwynnodd flwyddyn y clwb gyda'r un hen draddodiad - Helfa Drysor Ceir! A hwyl dda y cafodd bawb arni wrth i bawb ddod i'r fei ar y diwedd lle'r oedd pizza i bawb! Rydym wedi cael llawer o nosweithiau difyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!
Roedd hi’n flwyddyn fawr i CFFI Caernarfon eleni wrth i’r clwb ddathlu 80eg mlynedd! Nos Sadwrn 12fed o Hydref fe ddathlodd Aelodau a Chyn-aelodau CFFI Caernarfon ddathliad 80eg y Clwb yng Nghlwb Golff Caernarfon! Neis iawn oedd gweld gymaint o genedlaethau yn dod at ei gilydd a chlywed gwahanol straeon am eu hamser a'u profiadau yn y clwb!
Mae'r aelodau wedi bod yn brysur yn cystadlu a wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn nifer o gystadlaethau yn Sirol ac yng Nghymru! Llongyfarchiadau mawr iddynt! Yn ogystal a Chwipio'r ail wobr yn y Rali ym Mhorthdinllaen, ac hynny'n uchafbwynt y flwyddyn ac wedi fy ngwneud yn gadeirydd balch iawn o'n clwb bach ni!
Yn mhwyllgor blynyddol ein clwb Rhoddwyd tarian newydd i’r clwb eleni er cof am Eivion Thomas, Coed y Brain. Bydd y darian yn cael ei gyflwyno yn flynyddol gan arweinyddion y clwb i’r aelod sydd wedi dangos ymroddiad ac wedi datblygu y mwyaf dros y flwyddyn. Tamsin aeth a'r gwpan eleni!
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu'r clwb mewn unrhyw ffordd yn y flwyddyn ddiwethaf! Edrychaf ymlaen i groesawu pawb yn ôl!
11.2 Dyffryn Madog - Catrin Glwys / Efa Jones
Wel am flwyddyn llawn bwrlwm yng Nghlwb Dyffryn Madog! Cychwynnwyd ein blwyddyn gyda noson agoriadol ar y 5ed o Fedi gyda noson slip’n’slide , sydd bellach yn ddigwyddiad flynyddol yn y clwb yn Llwyn Mafon Isaf. Croesawgar iawn ‘oedd Llifon a Ffion. Ar ôl y slip’n’silde cawsom farbeciw flasus iawn gan Ffion, Miriam a Marian.
TARIANAU ENNILLODD YN Y FLWYDDYN CLWB
-
Parti deusain - Tarian Tudor Owen & cwpan goffa G.R.Davies ( eitem orau yn yr adran gerdd)
-
Ddeuawd orau gan Beca Dafydd ac Erin Jones Parry – Tlws Bro’r Eifl
-
Tomos Jones - mwyaf o facriau yn yr adran gneifio
-
Tair tarian tynnu rhaff
Rydym ni fel clwb yn hoff iawn o gynnal oleiaf un trip yn y flwyddyn glwb, felly aethom yn ôl i go cartio yng Ngherrigydrudion ym mis Hydref. Roedd pawb wedi mwynhau y cystadleuaeth yno. Roedd noson bowlio a ambell i gem o pwl yn rai o uchafbwyntiau yr aelodau. Noson hynod o dda gyda chriw da o’r aelodau hŷn a ifanc.
Mae’n saff i ddweud ‘na yr uchafbwynt fwyaf roedd gan y clwb drwy gydol y flwyddyn roedd y cyfnod tynnu rhaff, enwedig cystadlu yn yr sioe frenhinol ar ddydd mercher, a diweddu’r diwrnod yn ail safle rhwng y 3 tim. Roedd pawb yn mwynhau dod i’r ymarferion ag yn esgys berffaith i fynd am beint ar ol ymarfer.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros y blwyddyn diwethaf boed yn aelodau, swyddogion y clwb neu rhieni, enwedig i Robat a Catrin Wiiliams am cymryd drosodd fy swydd fel
Cadeirydd tra roeddwn i ffwr. Diolchwyd yn bennaf i Elin am fod mor effeithlon efo bob dim o’r pwyllgorau i drefnu digwyddiadau.
11.3 Dyffryn Nantlle - Elen Williams
Dechreuwyd ein blwyddyn eleni ychydig yn wahanol wrth i ni fynd allan ar ymweliad i fferm odro defaid yn Sir Fôn ble daeth aelodau hen a newydd at ei gilydd.
Rydym ni fel clwb wedi cael ambell i lwyddiannau ar hyd y flwyddyn. Yn yr eisteddfod fe gawsom gyntaf gyda ein ensemble lleisiol ac hefyd y wobr cyntaf gyda’r meim. Buom yn hynod lwcus i gael teithio i lawr i Sir Gar er mwyn cystadlu yn Eisteddfod CFfI Cymru gyda’r ddau eitem. Hefyd eleni bu ein clwb yn dathlu 80 oed felly fe gawsom ddathliad yn Nghlwb Golff Caernarfon.
Y noson wnaeth ein aelodau fwynhau fwyaf oedd noson yn Llŷn Golf. Hefyd fe wnaeth ambell aelod hŷn y clwb fwynhau y trip dirgel yn fawr iawn.
Buaswn yn hoffi cymryd y cyfle yma i ddiolch i holl swyddogion y sir am eu gwaith caled dros y flwyddyn diwethaf ac hefyd am drefnu’r holl weithgareddau a digwyddiadau i ni fel clybiau. Diolch.
11.4 Dyffryn Ogwen – Cian Rhys ar ran Glesni Owen
Cychwynwyd drwy nodi mai uchafbwynt y flwyddyn oedd ennill y rali. Dechreuwyd eu blwyddyn gyda noson gemau a braf iddynt oedd cael croesawu aelodau newydd eleni. Bu cynnydd cadarnhaol yn yr aelodaeth, ac fe bwysleisiwyd na fyddai’r clwb wedi cyrraedd ei safle presennol heb gyfraniad yr aelodau. Diolchwyd yn arbennig i Glesni am ei gwaith rhagorol fel cadeirydd, yn ogystal ag i’r arweinyddion am eu cefnogaeth barhaus. Yn ystod y flwyddyn trefnwyd ambell drip, gan gynnwys ymweliad â Emyr Evans a’r Driving Range. Rhoddwyd diolch hefyd i Borthdinllaen am gynnal rali lwyddiannus.
11.5 Godre’r Eifl - Rhodri Jones
Cychwynnodd blwyddyn brysur iawn i’r clwb ar Nos Lun yr 2il o Fedi, pan gynhaliwyd Helfa Drysor Ceir. Dyma noson cofiadwy iawn i’r aelodau, wrth iddyn nhw ddilyn y cyfarwyddiadau a osodwyd gan Gwenlli a minnau …. Nes cyrraedd ‘roadworks’ a achosodd dipyn o benbleth!
Yn fuan wedyn, cynhaliwyd noson Pwyllgor Blynyddol y Sir. Dyma noson lwyddiannus iawn i’r clwb. Roedd Elin wedi ei hethol fel Is-gadeirydd y Sir a llwyddodd Gwenlli i gipio teitl Aelod Hŷn y flwyddyn. Bu’n flwyddyn brysur iawn i’r ddwy ohonynt ac mae hoel eu gwaith i’w gweld yn glir ar y mudiad!
Bu’r llwyddiannau yn parhau drwy’r flwyddyn gan gychwyn gyda camp Angharad Rhys o gipio Coron y Sir yn yr Eisteddfod! Roedd cystadlaethau eraill y Sir wedi dod a llwyddiant i Odre’r Eifl hefyd megis cipio’r wobr gyntaf am y Seital holi yn y noson Siarad Cyhoeddus a minnau yn llwyddo gyda’r Ymgeisio am Swydd. Yn y Rali, roedd y Llyfr Lloffion, gwaith hysbysebu’r Rali, Arddangosfa Prif Gylch a gwaith coed Angharad a Luned yn llwyddiannus iawn! Daeth llwyddiant ar lefel Cymru hefyd wrth i mi gael fy newis i fynd ar drip rhyngwladol i Batagonia a cael fy ethol fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Digwyddiadau a Marchnata!
Ynghanol yr holl fwrlwm roedd nifer o nosweithiau clwb cofiadwy yn rhan o’r Rhaglen. Roedd rhain yn cynnwys ymweliad â busnes teuluol Cig Carw Llŷn, hanes taith anhygoel Gwenlli i Ganada, gwersi Ukulele yn Amguddfa Forwrol Llŷn, dysgu sgiliau gyda gôf Hen Siop y Crydd, heb anghofio trip i Escape Room ym Mhorthmadog!
Ac felly roedd nifer o uchafbwyntiau posib i’w dewis ar gyfer y flwyddyn hon. Ond prif uchafbwynt y clwb ar gyfer y flwyddyn oedd yr Eisteddfod. Roedd hi’n braf gweld pawb yn cydweithio a mwynhau yn yr ymarferion unwaith eto eleni, gyda llwyddiant yn dod ar draws cystadlaethau Seremoni’r Eisteddfod, ac fel y soniais - Angharad yn ennill y goron. Yn ogystal, bu i Elin dderbyn Cwpan Griff Roberts Porthdinllaen am yr eitem orau yn yr adran llefaru yn ogystal â Pencampwyr y Pencampwyr! Roedd eitem orau’r adran ysgafn hefyd wedi dod i Odre’r Eifl yn dilyn perfformiad cofiadwy Elin a
Minnau fel Blodwen a Rhisiart - aelodau hynaf y Clwb! Daethom i’r trydydd safle o holl glybiau’r Sir ar ddiwedd y cystadlu! Llongyfarchiadau mawr i’r holl glybiau ar eu holl lwyddiannau dros y flwyddyn diwethaf!
Diolch yn fawr iawn i aelodau’r clwb am au gwaith caled dros y flwyddyn ac i’r rhieni, y gymuned leol, clyblau’r mudiad, a holl swyddogion y Sir am eich cefnogaeth parhaus dros y 12 mis diwethaf!
Rydym yn edrych ymlaen am flwyddyn brysur arall i’r clwb eleni, gan gychwyn gyda dathliad y Clwb yn 60 nos yfory 13 Medi yn Efailnewydd!
11.6 Llangybi – Nanw Jones
Eleni, rydyn wedi cael blwyddyn gwahanol i’r arfer yn dilyn ffarwelio gyda ein cyn arweinwyr - Mererid Owen a Bethan Thomas. Roedd Mererid yn arweinydd ar glwb llangybi am flynyddoedd maith ac Bethan wedi bod yn gefnogol iawn ar hyd y blynyddoedd. Fel clwb bysan yn hoffi diolch iddynt am fod yn gefn i ni dros y blynyddoedd. Yn eu lle, cawsom Merfyn Owen ac Mari Coecia i gadw trefn ar pawb am y blynyddoedd i ddod!
Fel noson agoriadol y clwb ar yr unfed ar ddeg o fedi, cawsom noson slip ‘n slide a BBQ yn Bryn mawr ac roedd yn llwyddiant enfawr, gan ddenu aelodau hen a newydd i’r clwb. Diolch i Harlech Frozen Food am cyflenwi ‘burgers’ i ni ar gyfer y noson.
Yn fuan wedyn roedd pwyllgor blynyddol 2024 a oedd yn noson fawr i’r clwb. Enillom gwpan W J Owen, a cawsom y fraint o benodi Morgan Jones fel is-drysorydd y sir a bellach yn drysorydd y mudiad. Derbyniodd Glyn Owen yr anrhydedd o fod yn aelod oes ar y mudiad , ar ol ei holl ymroddiad i’r clwb ar mudiad drost y blynyddoedd, llongyfarchiadau mawr iddo.
Cafodd ein aelodau amrywiawth o nosweithia llynedd o ymweliadau fferm yn tyddyn cae a Ty Newydd gyda Dyffryn Nantlle ac Nanhoron gyda Clwb Y Rhiw i nosweithiau mwy ymarferol gan gynnwys Noson gyda Lisa Eurgain yng nghwmni clwb Porthdinllaen. Cawsom hefyd nosweithia i ymddiddori ein aelodau fel golffio, saethu airsoft a noson ready, steady cook nadolig fuodd yn lwyddiant mawr - diolch i’n trefnwyr rhaglen am nosweithiau at ddant bawb.
Mi lwyddodd y clwb mewn sawl agwedd eleni, yn dilyn cystadlu brwd, cawsom y safle cyntaf yn yr eisteddfod ar ol canlyniadau gwych trwy gydol y dydd. Noson lwyddiannus arall oedd y Siarad Cyhoeddus ble ddaeth y tîm dan 14 yn 1af a thîm dan 16 yn ail. Braint oedd cael gweld gymaint o aelodau yn llwyddo yn y Barnu ffair aeaf ac Barnu rali, llongyfarchiadau calonog iddynt i gyd! Ar ddiwedd y rali ym Mhorthdinllaen, daeth y clwb yn 6ed gan gael y cyfle i fynd ar arddangosfa ffederasiwn i lawr i Lanelwedd ac dod yn 7fed drwy Gymru.
Bu ir clwb drefnu sawl digwyddiad cymunedol rhwng ein nosweithiau clwb, gan gynnwys taith tractors a gasglodd £780 at y clwb, Ysgol a Cylch Meithrin Llangybi, noson Garolau yn y gwynt ar glaw yn ystod storm darah ac dathlu penblwydd y clwb yn 80 gan gynnal arddangosfa lluniau a BBQ ir holl cyn-aelodau a ffrindiau ein clwb. Ar ben hynny, aethom ati i beintio ardal tu allan y Cylch.
Fel Clwb bysan yn hoffi diolch i bawb sydd wedi rhoi croeso i ni eleni neu wedi cynnal noson ar ein cyfer. Diolch i holl swyddogion ac aelodau sydd wedi helpu drost y flwyddyn dwytha i rhedeg y clwb, ac i teulu Bryn Mawr am ein cefnogi trwy gydol y flwyddyn, bysa clwb llangybi yn ddim heb eich ymroddiad ac eich parodrwydd i ateb ein holl cwestiynau. Diolch i Merfyn a Mari am eu cymorth bob amser ac yn olaf, diolch yn fawr i Elin a swyddogion y Sir am eu gwaith di-flino i ddarparu profiadau bythgofiadwy i ieuenctid y fro.
11.7 Llanrwst - Arthur Williams
Mae’n anodd credu bod blwyddyn arall wedi mynd heibio o lawn hwyl a chwerthin. Dyma grynodeb o be wnaethm fel clwb dros y tymor diwethaf. I ddechrau y tymor cawsom helfa drysor ceir ar y 8fed o Fedi gyda chriw da ohonom yn dod ynghyd gan orffen am fwyd yn yr Eagles Llanwst. Roedd pawb yn llawn brwdfrydedd i wneud sioe dda ohoni yn
yr eisteddfod, felly amdani i ddechrau ymarferion yn sydyn. Diolch i Rhian Henblas a Anna Glyn am ein helpu gyda eitemau Eisteddfod. Cawsom ychydig o Iwyddiant ond yr uchafbwynt mwyaf i’r clwb oedd gweld Nanw Swyn yn dod i’r brig ac ennill y gadair. Cynhaliom noson eitemau Eisteddfod yn neuadd Coffa Betws y Coed fis Tachwedd - yr un cyntaf ers ambell flwyddyn a mi oedd yn lwyddiant. Yr her mwyaf cawsom y llynedd oedd medru cael lleoliad i cynnal nosweithiau gan bod y ganolfan, ein lleoliad arferol, wedi cau am 4 mis. Roeddem yn ffodus iawn o gael defnyddio Traed Bach gan Ger, un o’n harweinyddion. Un o’r uchafbwyntiau yn sicr hefyd oedd medru cystadlu efo tair sgets yn Dramau Odyn. Braf medru cefnogi dramâu papur lleol Dyffyn Conwy. Mae’n rhaid dweud diolch i Porthdinllaen am drefnu chwip o rali dda chwarae teg i ddyn nhw. Diolch hefyd i holl swyddogion ac arweinyddion am eu gwaith a braint oedd cael bod yn gadeirydd a cael pasio’r baton i Sion Arfon. Gobeithiwn am flwyddyn lwyddiannus unwaith eto!!
11.8 Rowen – Lois Williams
Hoffwn ddechra drwy diolch i Borthdinllaen am westeio chwip o rali ac llongyfarch Dyffryn Ogwen am ei churo . Diolch i holl swyddogion y sir unwaith eto eleni am eu gwaith ddi-ddiwedd a gwaith Elin y swyddog cefnogi. Cafwyd noson gynta clwb Rowen ar y ail o Fedi gyda Gethin yn gwneud noson croesawgar o gemau gwirion i croesawu aelodau hen a newydd. Drwy’r flwyddyn cafwyd llawer o nosweithiau hwyliog eto eleni gyda nosweithiau’n amrywio o bêl droed mewn peli zwarbs gyda CFFI Llanrwst a hyfforddiant cymorth cyntaf diddorol iawn gan Marcus o Realism Training. Unwaith eto eleni fel clwb cynhaliwyd nifer o nosweithiau yn y gymuned gan gynnwys noson lawen llwyddiannus gyda’r neuadd yn llawn unwaith eto, gyrfa chwist a helfa drysor i Apêl y Sioe. Llongyfarchiadau mawr i’r holl aelodau am cystadlu yn y sir yn yr Eisteddfod, Ffair Aeaf a Rali. Llongyfarchiadau hefyd i’r aelodau aeth ymlaen i cystadlu ar lefel cymru.
11.9 Porthdinllaen - Ioan Jones
Gawn ddechrau gyda'r llwyddiant ar uchafbwynt fwyaf y Clwb eleni, cawsom y fraint o westeio’r Rali draw ar Fferm Berthaur ar y pedwerydd ar hugain o Fai, roedd hi’n ddiwrnod mawr i’n Clwb bach ni ond gyda'u brwdfrydedd, eu gwaith caled a'u hangerdd tuag at wneud diwrnod y Rali yn llwyddiannus fe ddaeth pob dim at ei gilydd ac rydym yn falch o gael dweud ei’n bod ni wedi dod yn bumed ar ddiwedd y diwrnod gyda niferoedd o lwyddiannau yn cynnwys ennill y darian cystadlaethau crefftau'r Eisteddfod am y tro cyntaf ar darian brwdfrydedd am y tro cyntaf ers 2012. Yn dilyn diwrnod y Rali fe gafodd Cadi'r profiad o ganu ar lwyfan CFfI Cymru ar faes y Sioe.
Dros y flwyddyn rydym wedi cael sawl noson clwb i’w gofio a rheini yn cynnwys noson o fowlio deg yng nghwmni clwb Y Rhiw, noson helfa drysor, noson o weithdy celf yng nghwmni clwb Llangybi, noson pwl a darts y sir a noson yn Golff Llyn.
Cawsom hwyl ar ddiwrnod barnu’r sir ble gafodd Bob drydydd yn y barnu gwartheg dan 18 a trydydd yn barnu defaid dan 18, Anna yn drydydd yn y barnu defaid dan 16, Gethin yn bedwerydd yn barnu defaid dan 18, Nansi yn cydio’r wobr gyntaf yn barnu defaid dan 21, Anna yn bedwerydd yn y barnu moch dan 21 a chawsom bedwerydd fel tîm yn y barnu moch ar defaid.
Ar ôl blwyddyn prysur cynhaliwyd noson agoriadol Porthdinllaen ar y Pymthegfed o Fedi yn Ysgol Edern yn chwarae gemau ac yn mwynhau pitsa wrth groesawu aelodau hen a newydd. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn prysur a llwyddiannus arall.
Hoffem ddiolch i Elin a swyddogion y Sir am eich cefnogaeth i gynnal y Rali, hefyd i holl aelodau'r Sir wnaeth y cystadlu yn bosib. Ac mi fyswn yn hoffi diolch yn bersonol i aelodau ac arweinyddion Porthdinllaen am eu gwaith caled dros y flwyddyn.
11.10 Y Rhiw - Mari Evans
Cynhaliwyd noson agoriadol y Clwb yn Nghongl Meinciau, gyda noson lawn gemau, chwerthin a hwyl. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o wynebau newydd yn ymuno â’r criw bywiog. Ymhlith nosweithiau mwyaf cofiadwy’r flwyddyn roedd noson bwll a darts yn y Lion, Tudweiliog – digwyddiad llawn mwynhad, lle bu pawb yn cymryd rhan yn gystadleuol ac yn chwareus. Cafwyd noson gymdeithasol fendigedig gyda Chlwb Porthdinllaen yng Nglasfryn, sef cyfle gwych i gydgynnal a chymdeithasu. Yn ogystal â hynny, bu taith addysgiadol a chofiadwy i fferm Nanhoron gyda Chlwb Llangybi, profiad a adawodd argraff ar bawb.
Roedd nifer o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’w dathlu, gan gynnwys y ffaith ein bod bellach wedi tyfu i fod y clwb mwyaf yn Sir Eryri. Cafwyd llwyddiannau arbennig gan y parti llefaru yn yr Eisteddfod, a buom yn fuddugol mewn nifer o gystadlaethau yn y Rali, gan gynnwys cipio Tarian Huw Rowlands am y gystadleuaeth ganu a Chwpan T.O. Williams am yr unigolyn gorau gyda pheiriant yn Ysgol Yrru Dwyfor. Yn bennaf oll, roedd hi’n brofiad anhygoel curo’r Rygbi a chynrychioli Sir Eryri yn y Sioe – roedd yr awyrgylch yn drydanol, a braf oedd gweld Clwb y Rhiw yn hawlio’r brif wobr. Ar ran y clwb, hoffwn ddiolch yn fawr i’n swyddogion am eu gwaith caled a’u hymroddiad, i Elin am ei chefnogaeth ddi-ysgog (hyd yn oed pan fyddwn ni’n swnian!), ac i Ganolfan Congl Meinciau am gynnig cartref croesawgar i ni. Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i’r pedair arweinyddes gefnogol sy’n sail i’n gweithgareddau o ddydd i ddydd. Ond, yn bwysicaf oll, diolch i’n haelodau am eich brwdfrydedd, eich ymdrech barhaus i gefnogi’r clwb, eich cyfraniad i gynnal ei enw da, a’ch gallu i wneud pob noson yn un arbennig i’w chofio. Diolch yn fawr iawn i bawb.
11.1 Ysbyty Ifan - Ynyr Roberts
Ni chyflwynwyd adroddiad ar ran clwb Ysbyty Ifan.
12 ETHOL SWYDDOGION Y MUDIAD AM 2024 / 2025
-
Llywydd – Mr Elfed Jackson, Dyffryn Ogwen Cynnig: Iwan Harper, Dyffryn Ogwen Eilio: Dafydd Williams, Dyffryn Nantlle Amlygwyd fod Elfen Jackson yn unigolyn gweithgar, ymroddgar a’i gyfraniad yn arbennig yn fawr o fewn y maes cneifio. Nodwyd mai braint oedd cael ei enwebu’n llywydd y sir. Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill
-
Is-Llywydd – Mrs Helen Jones, Godre’r Eifl Cynnig: Rhodri Jones, Godre’r Eifl Eilio: Sioned Jones, Caernarfon Amlygwyd fod Helen Jones pob amser yn barod ei chymwynas i’r mudiad ac i droi ei llaw at unrhyw beth mewn unrhyw ddigwyddiad sirol, ac felly’n llawn haeddu ei hethol. Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill
-
Cadeirydd – Miss Elin Owen Jones, Godre’r Eifl Cynnig: Sophie Pritchard, Godre’r Eifl Eilio: Sion Arfon, Llanrwst Amlygwyd fod Elin yn rhan greiddiol o Glwb Godre’r Eifl, bob amser yn barod i roi cynnig ar bopeth ac yn annog aelodau iau i gymryd rhan. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn dros y sir ers blynyddoedd, gan gyfrannu’n sylweddol at lwyddiant a bywiogrwydd y clwb. Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill.
-
Is-Gadeirydd – Miss Sallie Roberts, Dyffryn Ogwen Cynnig: Catrin Jones, Dyffryn Ogwen Eilio: Elen Williams, Dyffryn Nantlle Etholwyd Sallie yn is-gadeirydd, gan gydnabod ei hymroddiad ysbrydoledig wrth gynnal Clwb Dyffryn Ogwen. Mae hi’n aelod brwd ac yn gefnogol o’r pwyllgor gwaith, bob amser yn barod i helpu ac i gynnig safbwynt doeth. Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill.
-
Trysorydd – Mr Morgan Jones, Llangybi Cynnig: Nanw Jones, Llangybi Eilio: Huw Arfon, Llanrwst Etholwyd Morgan yn drysorydd y clwb, gan gael ei ganmol fel unigolyn tawel a diymhongar wrth ei waith, yn drefnus iawn ac yn gwbl addas i’r swydd. Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill.
-
Is-drysorydd - Miss Betsan Siencyn, Caernarfon Cynnig: Neli Rhys, Caernarfon Eilio: Gwenlli Thomas, Godre’r Eifl Etholwyd Betsan yn is-drysorydd, oherwydd ei brwdfrydedd a’i dealltwriaeth gref o’r mudiad. Pwysleisiwyd ei haddasrwydd i’r swydd, gan fod ganddi brofiad helaeth o reoli cyllidebau yn rhinwedd ei swydd. Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill.
13 ETHOL AELOD OES
Etholwyd Miss Anwen Bumby, Dyffryn Nantlle gan Elen Williams, Dyffryn Nantlle â’r cyflwyniad isod:
Ar ran Pwyllgor Gwaith y Sir, pleser yw cynnig ein bod yn ethol Anwen Bumby yn Aelod Oes o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri.
Yn gyn aelod gweithgar o Glwb Dyffryn Nantlle, mae Anwen yn wyneb cyfarwydd o fewn y Mudiad ar lefel Clwb, Sir ac yn Genedlaethol.
Heriol oedd tynnu rhestr gyflawn o ymwneud Anwen â’r Ffermwyr Ifanc at ei gilydd ond dyma flas i chi o’r ymroddiad a’r gefnogaeth amhrisiadwy mae Anwen wedi ei roi i’r Mudiad dros y blynyddoedd.
Mae Anwen yn feistres ar gadw trefn. Bu Anwen yn Ysgrifennyddes ar Glwb Dyffryn Nantlle yn ystod yr un cyfnod ag oedd Ifan Caerdoa yn Gadeirydd ar y Clwb ac yng ngeiriau Ifan “Dim ond troi fyny ag arwain oedd rhaid i fi ei wneud – roedd Anwen wedi sortio bob dim arall!”
Bu Anwen yn ddigon ffodus o gael ei dewis i fod yn rhan o dîm Rali Ewropeaidd CFFI Cymru yn ystod ei chyfnod fel aelod. Gyda dwy o Dyffryn Nantlle yn rhan o’r tîm – Anwen a Iona Bodychain, i fwrdd a’r ddwy ohonynt holl ffordd i……. Loegr!
I’r rheini ohonoch sy’n gyfarwydd â chloriau hanesyddol Erwau Eryri fe fyddwch yn ymwybodol mai’r Frenhines Amaeth ar gyfer y flwyddyn honno oedd y meddiannu’r clawr. Dyma deitl oedd yn anrhydeddu ymroddiad unigol i’r Mudiad. Dim syndod felly mai Anwen gafodd ei choroni yn Frenhines Amaeth yn 1984.
Bu Anwen yn aelod o sawl Pwyllgor ar lefel Sirol a Chymru yn ystod ei chyfnod fel aelod – profiadau a osododd seiliau cadarn ar gyfer ei mewnbwn amhrisiadwy ym mhwyllgorau Eisteddfod a Chyllid a Staffio’r Sir dros y blynyddoedd diweddaf. Anwen fel y gwyddoch ydi Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio’r Sir ers sawl blwyddyn ac o fewn y rôl honno mae Anwen yn reolwr llinell hynod gefnogol i Elin fel aelod cyflogiedig y mudiad, wastad ar ben arall y ffôn os oes unrhyw broblem.
Anodd ydi gwneud cyfiawnder ag ymwneud Anwen â’r Mudiad ond yn sicr, mae’r teitl “Aelod Oes” yn adlewyrchiad o ymroddiad a chefnogaeth ddiflino Anwen i’r Mudiad dros y degawdau. Anwen – rydym yn hynod ddiolchgar i chi.
14 CADARNHAU YMDDIREDOLWYR Y MUDIAD
Mae angen cynnig Ymddiriedolwyr y Mudiad neu “Trustees” dros y flwyddyn nesaf i wneud yn siwr ein bod yn cydymffurfio gyda rheolau’r Comiswin Elusenau.
Cynigiodd Elin Owen Jones y canlynol yn Ymddiriedolwyr Mudiad Ffermwyr Ifanc Eryri am y flwyddyn 2025-26.
Cynrychioli CFfI Caernafon
-
Neli Rhys
-
- Non Griffith
Cynrychioli CFfI Dyffryn Madog
-
Efa Jones
-
- Catrin Glwys Jones
Cynrychioli CFfI Dyffryn Nantlle
-
Elen Williams
-
Lois Elen Jones
Cynrychioli CFfI Dyffryn Ogwen
-
Iwan Huw Harper
-
- Cian Iolen Rhys
Cynrychioli CFfI Godre’r Eifl
-
Gwenlli Thomas
-
- Rhodri Jones
Cynrychioli CFfI Llanrwst
-
Arthur Emyr Williams
-
- Sion Arfon Roberts
Cynrychioli CFfI Porthdinllaen
-
Ioan Rhys Jones
-
- Anest Hughes
Cynrychioli CFfI Rowen
-
Lois Williams
-
- Gethin Wynne
Cynrychioli CFfI Y Rhiw
-
Awel Evans
-
- Mari Evans
Cynrychioli CFfI Ysbyty Ifan
-
Ynyr Roberts
-
Erin Jones
Cynrychioli CFfI Llangybi
-
Nanw Lewis Jones
-
Meinir Jones
Cynigiodd Sallie Ann Roberts y canlynol i fod yn Ymddiriedolwyr Ex Officio Mudiad Ffermwyr Ifanc Eryri am y flwyddyn 2025-2026.
Llywydd CFFI Eryri
Mr Elfed Jackson Dyffryn Ogwen
Is-lywydd CFFI Eryri Mrs Helen Jones, Godre’r Eifl
Cadeirydd CFFI Eryri Miss Elin Owen Jones, Llanrwst
Is-Gadeirydd CFFI Eryri Miss Sallie Roberts, Dyffryn Ogwen
Trysorydd Mr Morgan Jones, Llangybi
Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio Anwen Bumby
Cadeirydd Pwyllgor Rali Miss Sallie Roberts
Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Anghrad Rhys Hughes-Jones
Aelod Hyn XXX Gwybod ar y noson
Aelod Iau XXX Gwybod ar y noson
Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle
Aelod Hŷn – Lois Williams, Rowen Aelod Iau – Neli Rhys, Caernarfon Cynigiodd Morgan Jones, Llangybi ac eiliodd Huw Arfon, Llanrwst.
15 TÂL AELODAETH Medi 2025 – Awst 2026
Lefi NFYFC eleni yw £35.00/aelod
Mae’r Pwyllgor Gwaith yn gytûn y dylai Tâl Aelodaeth Eryri godi i £35.00/aelod, gyda’r Sir yn talu am gostau yswiriant i bob aelod.
Cynigwyd gan Gwen Thomas (Cadeirydd Pwyllgor Hyffroddiant) ac eiliwyd gan Morgan Jones (Llangybi).
Ni chafwyd unrhyw gynigion eraill.
16 CYFLWYNO TLYSAU
(Chi i gyflwyno’r tlysau i’r buddugwyr plis)
Tlws Hafod y Llan
(I’r Clwb gyda’r cynnydd mwyaf mewn aelodaeth)
1 – Y Rhiw (+16)
- 2 - Godre’r Eifl (+6)
3 - Dyffryn Ogwen (+5)
Cwpan Barhaol W.J Owen
(Marciau uchaf yn y Siarad Cyhoeddus)
1 - Caernarfon
2 – Llangybi
Tlws y Flwyddyn
(I’r Clwb sydd wedi cynrychioli Eryri fwyaf yng nghystadlaethau Cymru 2023-2024)
1 - Caernarfon
- 2 - Rowen & Godre’r Eifl
3 - Dyffryn Ogwen
Tarian Aelod Iau y Flwyddyn (I Aelod Iau CFFI Eryri 2024-25)
Neli Rhys, Caernarfon
3 – Godre’r Eifl
4 – Dyffryn Nantlle
Tarian Goffa Llinos Owen Jones
(Diwylliant - Cwis a Siarad Cyhoeddus)
Tarian Aelod Hŷn y Flwyddyn (I Aelod Hŷn CFFI Eryri 2024-25)
Lois Williams, Rowen
1 - Caernarfon
2 – Godre’r Eifl
3 - Llangybi
4 – Dyffryn Ogwen
Tlws Hwsmon Iau y Flwyddyn
(I’r Barnwr Gorau (dan 18)
Tarian Henblas
(I’r Clwb uchaf ei farciau yng nghystadlaethau’r Ffederasiwn drwy’r flwyddyn o’r 5 Clwb lleiaf)
1 - Caernarfon
1 – Aron Hedd, Rowen 2 - Megan Williams, Rowen 3 – Neli Rhys, Caernarfon
4 – Wil Wyn, Rowen
2 - Porthdinllawn
3 – Godre’r Eifl 4 - Ysbyty Ifan
Tarian Catherine Rhian.
Tlws Stocmon y Flwyddyn
(I’r Barnwr Gorau (dros 18)
1 - Gethin Wynne, Rowen
2 – Iwan Harper, Dyffryn Ogwen
3 – Ynyr Roberts, Ysbyty Ifan
4 – Sallie Roberts, Godre’r Eifl
Cwpan Barhaol Bob Parry
(Barnu)
(I’r Clwb uchaf ei farciau yng nghystadlaethau’r Ffederasiwn drwy’r flwyddyn)
1 - Rowen
2 - Caernarfon
3 - Llangybi
- 4 - Dyffryn Ogwen
1 - Caernarfon
2 – Dyffryn Ogwen
3 - Rowen
4 – Ybsyty Ifan
17 UNRHYW FATER ARALL
Ni chodwyd unrhyw unrhyw fater arall.
18 DIOLCHIADAU
Diolchodd Elin Owen Jones i Glwb Rygbi Bethesda am eu croesawu, ac i Mari am gadeirio a gweithredu fel llywydd. Rhoddwyd diolch i Gwynedd Watkins am feirniadu cystadlaethau’r aelodau hŷn ac iau, ac i Gwenlli am gofnodi. Mynegwyd hefyd ddiolch i’r holl aelodau am ddod ynghyd ac am weithio mor galed dros y flwyddyn. Diolchwyd yn arbennig i Elin Jones, Swyddogion Cefnogi’r Sir am ei holl waith ac i Iwan Harper am fod yn gadeirydd wych dros y flwyddyn diwethaf.
Datganwyd fod y cyfarfod yn gorffen am 20:55.
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI GWERTH Y FFEDERASIWN AR MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Cyfredol (NATWEST) £2,185.36 Cyfrif Cadw (NATWEST) £0.00 Cyfrif Clwb 200 (NATWEST) £4,961.00 Cyfrif Hyfforddiant (NATWEST) £5,090.49 Cyfrif Cyfredol (HSBC) £68,512.97 Cyfrif Cadw (HSBC) £88,534.79 Cyfrif Tripiau (HSBC) £910.00 Cyfrif Hyfforddiant (HSBC) £5.00 Cyfanswm £ 170,199.61 (Gwerth y Ffederasiwn ar Mehefin 30ain 2024 = £154,791.80)
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Cyfredol Natwest 15500039
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Swyddfa Cyflog Trosglwyddiad gan Natwest –Hyfforddiant Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
8,399.33 0.00 0.00 0.00 |
287.25 1,711.11 4,215.61 2,185.36 |
| CYFANSWM | 8,399.33 | 8,399.33 |
- Talwyd cyflogau staff o’r cyfrif yma am gyfnod eleni, tra’r oeddem wedi ein cloi o’r cyfrifon HSBC, yn ogystal â ad-dalu’r cyfrif hyfforddiant am daliad oedd yn ymwneud â’r Dathliad 80.*
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Cadw Natwest - 15511588
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
0.00 | 0.00 |
| CYFANSWM | 0.00 | 0.00 |
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Clwb 200 Natwest – 15500063
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Tâl Aelodaeth Gwobrau 2023-24 Trosglwyddiad i’r Natwest (Hyfforddiant) Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
3,727.00 1,604.00 |
330.00 30.00 4,961.00 |
| CYFANSWM | 5,331.00 | 5,331.00 |
| TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones |
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Hyfforddiant Natwest – 73751073
Gelwir y cyfrif yma yn ‘Natwest – Tripiau’ tan eleni, bellach wedi ei ail-enwi yn ‘Natwest – Hyfforddiant’.
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Trosglwyddiad o’r Natwest Clwb 200 Trosglwyddiad o’r Natwest Cyfredol Gwobrau Clwb 200 Cyflog Dathliad 80 Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
5,090.49 40.00 4,215.61 0.00 0.00 0.00 |
0.00 0.00 40.00 1711.11 2504.50 5,090.49 |
| CYFANSWM | 9,346.10 | 9,346.10 |
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Cyfredol HSBC - 51846477
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Aelodaeth 2023-24 Aelodaeth 2024-25 Apêl Pwyllgor Sioe Frenhinol Arfor (Grant) CFfI Cymru – Cynllun Wyn Dunbia Cyflog Cyfraniad NFU Cyfrifydd Cynghorau Cymuned Cylch Meithrin Cynllun Ffrindiau Dathliad 80 Dawns Ionawr (Sirol) DBS Dirwy Diwrnod Gwaith Maes Cymru Eisteddfod Cymru Eisteddfod Sir Eryri Engrafu Tariannau Erwau 2024 Erwau 2025 Ffair Aeaf Ffi Banc - HSBC Grant Llywodraeth Cymru Her Cadeirydd CFfI Cymru Hyfforddiant Staff Hyrwyddo a Marchnata Paypal (Cyfraniadau) |
50,276.29 975.00 10,719.00 1,000.00 2,400.00 62.50 0.00 5,000.00 0.00 925.00 3,277.54 4,530.50 4,845.00 1,489.45 21.60 40.00 292.40 215.00 3,747.26 103.00 100.00 5,580.00 49.20 0.00 7,256.00 0.00 0.00 0.00 24.32 |
8,648.46 0.00 0.00 4,215.60 0.00 19,419.52 0.00 122.40 0.00 3,277.54 0.00 64.68 1,355.29 388.80 0.00 331.40 215.00 2,375.24 50.00 0.00 3,270.00 139.20 228.54 0.00 100.00 65.00 573.98 0.00 |
| Pŵl a Darts Pwyllgor Blynyddol Rali 2024 Rali 2025 Ras Aredig 2024 Ras Aredig 2025 Rhodd er cof Mr Glyn Griffiths Rhodd Elusennol Tesco Rhodd am fenthyg eiddo Rygbi Siarad Cyhoeddus Swyddfa Teithio Staff Trip Fforwm Ieuenctid Trosglwyddiad o/i Gyfrif Hyfforddiant(HSBC) Trosglwyddiad o Gyfrif Tripiau(HSBC) Yswiriant(Aelodau) Yswiriant(Atebolrwydd Cyfarwyddwyr a Swyddogion) Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
23.80 0.00 1,526.04 32,557.27 40.00 90.00 1,851.60 500.00 50.00 0.00 0.00 0.00 0.00 50.00 55.00 25.00 0.00 0.00 |
119.30 214.40 114.10 15,747.67 120.00 0.00 0.00 0.00 0.00 40.00 57.40 3,975.20 583.02 1,070.70 115.00 35.00 1,086.40 3,065.96 68,512.97 |
|---|---|---|
| CYFANSWM | 139,697.77 | 139,697.77 |
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Cadw HSBC 81846612
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Llog Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
86,928.68 1,606.11 |
88,534.79 |
| CYFANSWM | 88,534.79 | 88,534.79 |
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Tripiau HSBC - 61846590
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Ffioedd Banc Trip Dirgel Trip Highland Trip Fforwm Trosg. i gyfrif cyfredol HSBC Trosg. o gyfrif cyfredol HSBC Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
0.00 5.00 1,875.00 1,300.00 925.00 0.00 115.00 |
60.00 1,875.00 1,300.00 50.00 25.00 0.00 0.00 910.00 |
| CYFANSWM | 4,220.00 | 4,220.00 |
- Talwyd am gostau teithio, cadair swyddfa a blaen-dal dramâu CFfI Cymru o’r cyfrif yma mewn cam-gymeriad eleni, a trosglwyddwyd arian o’r cyfredol i wneud yn iawn amdano. *
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2025
Cyfrif Hyfforddiant HSBC - 81846604
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorffennaf 1af 2024 Ffioedd Banc Ad-daliad ffioedd Erwau * Trosglwyddiadau o/ i’r HSBC Cyfredol Yn y Banc Mehefin 30ain 2025 |
0.00 0.00 25.00 60.00 35.00 |
60.00 0.00 0.00 55.00 5.00 |
| CYFANSWM | 120.00 | 120.00 |
- Derbynir daliad am hysbyseb Erwau i’r cyfrif hwn mewn cam-gymeriad eleni, a trosglwyddwyd yr arian i’r cyfrif Cyfredol *
** Bwriedir geisio cau’r cyfrif hwn yn 2025-26 **
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Lewis Cyn Is-Drysorydd CFFI Eryri
ADOLYGIAD ANNIBYNNOL CYFRIFYDD SIARTREDIG I SWYDDOGION CLYBIAU FFERMWYR IFANC ERYRI Rydym wedi adolygu oofnodion ariannol Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 30*n Mehofin 2025, yn unol a pholisiau a safonau cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig (DUI. Cyfrifoldeb cyfarwyddwyrlswyddogion Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri yw paratoi a chynnal cofnodion sy'n rhoi dariLsn gwir a theg o'r sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 304n Mehefin 2025. Ein cyfrifoldeb ni fel Cyfrifwyr Annibynnol yw 8dolygu'r cofnodion hynny a chanfod a oes unrhyw faterion sy'n peri pryder neu'n codi amheuaeth bod y cyf rifon yn anghyson a safon8U cyfrifyddu'r DU neu egwyddorion yr ICAEW. EIN BARN Yn seiliedig ar ein hadolygiad, ein barn ni yw bod y cofnodion a'r sefyllfa ariannol yn rhoi d8rlun gwir a theg o weithgared(18u'r mudiad Iclybiau Ffermwyr Ifanc Eryri) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 30." Mehefin 2025, ac yn unol a safon8u cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig. Richard Williams & Co Cyfrifwyr Siartredig Hen Orsat Heddlu Gaerwen Ynys Mon LL60 6BL Arwyddwyd: Dyddiad;