COFNODION PWYLLGOR BLYNYDDOL CFFI ERYRI
P G
Dyddiad:24 Medi 2021
Amser: 19:30
Lleoliad: Sied Bryn Mawr, Llanaelhaearn
Croesawodd Beca pawb i'r Pwyllgor.
Atgoffwyd pawb i sicrhau eu bod wedi darparu eu manylion at ddibenion tracio ac olrhain. Gofynnwyd yn garedig i bawb wisgo mwgwd wrth gerdded o amgylch y sied. Nodwyd y byddwn yn galw ar bawb fesul bwrdd i fynd i nôl bwyd.
1. YMDDIHEURIADAU:
Mair Parry, Sian ac Eilir Evans, Mari Roberts, Geraint Harper, Ela Fflur.
2. PRESENNOL :
Beca Glyn (Cadeirydd y Sir), Meinir Owen (Is-gadeirydd y Sir), Ann Williams (Llywydd y Sir), Elin Jones (Trysorydd), Caryl Haf (Cadeirydd CFFI Cymru), Glyn Owen, Hafwen Owen, Myfanwy Harper, Geraint Roberts, Gwen Thomas, Robat Thomas, Sioned Thomas, Glesni Owen, Elenid Alun, Rhodri Sion, Huw Arfon, Sara Evans, Rhodri Jones, Elin Jones, Miriam Williams, Lisa Evans, Gwenno Jones, Gwynedd Watkin (FUW), Iwan Harper, Gethin Harper, Glesni Jones, Aled Williams, Gwilym Roberts, Manon Bryn, Non Griffith, Alaw Morgan, Elin Morgan, Eleri Evans, Eirian Owen, Osian Jones, Cynwal ap Myrddin, Geraint Puw, Eleri Roberts, Glyn Roberts (FUW), Dafydd Parry, William Owen, Elis Griffith, Sioned Roberts, Gethin Wynne, Huw Roberts, Ifan Hughes, Aron Lewis, Jac Wyn, Morgan Owen, Llion, Owain Lewis, Morgan Hughes, Rhodri Lloyd ac Elis Jones.
3. DERBYN COFNODION :
– Derbyn Cofnodion 04.11.2020: Derbyniwyd y cofnodion yn gywir gan Manon ac eiliodd Meinir.
4. MATERION YN CODI :
Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion.
5. GOHEBIAETH
Nodwyd bod Taith Feics Ffermwyr Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal Dydd Sadwrn, 9 Hydref. Nodwyd eu bod yn cychwyn o Fart Bryncir ac yn beicio i Abersoch. Bydd Swper am £20 y pen ac Ocsiwn i ddilyn. Bydd yr elw yn mynd tuag at Awyr Las, Canolfan Gwystl a'r DPJ Foundation.
6. ADRODDIAD CADEIRYDD Y MUDIAD - BECA GLYN - YSBYTY IFAN
*Mae copi wedi ei atodi
7. ADRODDID ARIANNOL - ELIN JONES
*Mae copi wedi ei atodi
8. ANERCHIAD Y LLYWYDD - MRS ANN WILLIAMS, BRYN MEIRION, LLITHFAEN
Rwyf yn teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael bod yn llywydd mudiad Ffermwyr Ifanc Eryri a hynny am ddwy flynedd. Mewn amser, pan fyddwch yn hen fel fi dwi’n siŵr y caiff rhai ohonoch wadd i fod yn llywydd, cofiwch chi dderbyn, peidiwch â meiddio gwrthod.
Rhwystrodd y covid lawer o bethau o fewn y mudiad yn y flwyddyn a hanner dwytha ond dalwyd i gael rhai cystadlaethau a chyfarfodydd yn rhithiol. Diolch i'r rhai a fu yn ymwneud a’r zoom ayyb.
Fel y gwyddoch, mudiad unigryw iawn yw mudiad y ffermwyr ifanc, mudiad sy’n rhoi cyfleoedd i aelodau, arweinyddion a llywyddion.
Eleri, Eleri Trefnydd, Babsen, llawer o enwau ond un person ydi hi ,un person a gyflawnodd lawer iawn tra yn drefnydd Eryri am tua 15eg mlynedd. Dwi’n cyfri fy hun yn andros o lwcus fy mod i wedi bod yn arweinydd Clwb Godre’r Eifl tra roedd Eleri yn drefnydd. Dwi ddim am ddweud dim mwy am Eleri, gwaith Beca Glyn yw gwneud hynny bellach ymlaen yn y cyfarfod.
Er nad oes arweinydd ar hyn o bryd mae’r mudiad yn Eryri yn dal mewn dwylo saff Swyddogion y Sir, Pwyllgor Gwaith a Phwyllgor Cyllid a Staffio; diolch i chi gyd.
Mae yna her och blaenau chi aelodau, her i godi’r clybiau yn nol ar eu traed ar ôl toriad hir oherwydd covid a her o gael mwy o aelodau i ymuno. Dwi’n hollol ffyddiog y gwnewch chi lwyddo i gyflawni hyn oherwydd bod gennych y brwdfrydedd, ffydd a chariad tuag at y mudiad gwych yma.
Daliwch ati bobol ifanc , annwyl Eryri.
9. ADRODDIADAU PWYLLGORAU
a. Cyllid a Staffio: Miriam Williams, Is Gadeirydd
- Mae copi wedi ei atodi
Rali: Robat Thomas, Cadeirydd, Y Rhiw
Nodwyd nad oedd fawr o ddiweddariad a'u bod yn croesi bysedd y cawn ni groesawu Rali wyneb yn wyneb i Fferm Gwythrian ym mis Mai. Nodwyd bod rhan helaeth o'r trefniadau yn eu lle ers Rali 2020.
b. Eisteddfod: Rhodri Sion, Cadeirydd, Llanrwst
-
Nodwyd bod Eisteddfod CFFI Eryri yn cael ei chynnal ar 23 Hydref.
-
Nodwyd bod y pecynnau cystadlu i gyd wedi eu rhannu gyda'r Clybiau.
-
Nodwyd bod CFFI Cymru wedi cyhoeddi na fydd yna gystadleuaeth Côr eleni.
-
Nodwyd nad cheir mwy na 16 mewn unrhyw eitem eleni.
-
Anogwyd i Glybiau a'r aelodau i gystadlu.
c. Hyfforddiant: Gwen Thomas. Cadeirydd, Dyffryn Nantlle
- Nodwyd nad yw'r Pwyllgor wedi cyfarfod ers cyn cyfnod Cofid ond eu gobaith ydi gallu ail afael yn y rhaglen hyfforddiant unwaith y bydd y Clybiau a'r Sir wedi cael cyfle i gael eu traed oddi tanynt.
10 ETHOL SWYDDOGION Y MUDIAD am 2021/2022
.
a. Llywydd
- Cynigiodd Rhodri Sion, Llanrwst Mr Geraint Roberts, Tyddyn Wilym ac eiliodd Gethin Wynne, Rowen. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law.
b. Is Lywydd
- Cynigiodd Dafydd Parry, Dyffryn Madog Mr Geraint Puw ac eiliodd Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law.
c. Cadeirydd
- Cynigiodd Cynwal ap Myrddin, Llangybi Meinir Owen, Llangybi ac eiliodd Non Griffith, Caernarfon. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law.
Ch. Is-Gadeirydd
- Cynigiodd Glesni Jones, Dyffryn Nantlle Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle ac eiliodd Cynwal ap Myrddin, Llangybi. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law.
d. Trysorydd ac Is Drysorydd
- Cynigiodd Beca Glyn, Ysbyty Ifan Elin Jones, Godre'r Eifl yn Drysorydd a Glesni Jones, Dyffryn Nantlle yn Is Drysorydd, eiliodd Meinir Owen, Llangybi. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law.
11 CADARNHAU CYFANSODDIAD AC YMDDIRIEDOLWYR Y MUDIAD
.
Cynigiodd Meinir Owen, Llangybi bod y canlynol yn gweithredu fel ymddiriedolwyr y Mudiad am y flwyddyn 2021/2022:
-
CFFI Caernarfon: Sioned Jones a Non Griffith
-
CFFI Dyffryn Madog: Dafydd Parry ac Elis Griffith
-
CFFI Dyffryn Nantlle: Glesni Bowness Jones a Lois Elan Jones
-
CFFI Dyffryn Ogwen: Iwan Harper ac Elin Thomas.
-
CFFI Godre'r Eifl: Manon Jones a Miriam Williams
-
CFFI Llangybi: Cynwal ap Myrddin a Morgan Jones
-
CFFI Llanrwst: Huw Arfon Roberts a Dylan Roberts
-
CFFI Porthdinllaen: Ela Fflur Jones ac Anna Wyn Jones
-
CFFI Rowen: Gethin Wynne ac Elliw Jones
-
CFFI Y Rhiw: Robat Thomas a Sioned Thomas
-
CFFI Ysbyty Ifan: Elenid Alun ac Erin Evans
-
Llywydd: Geraint Roberts
-
Is Lywydd: Geraint Puw
-
Cadeirydd: Meinir Owen
-
Is-Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant: Gwen Thomas
-
Trysorydd: Elin Jones
-
Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio: Myfanwy Harper
-
Cadeirydd Pwyllgor Rali: Robat Thomas
-
Aelod Hyn: Mari Roberts
-
Aelod Iau: Deio Owen
-
Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod: Rhodri Sion
-
Eiliodd Beca Glyn, Ysbyty Ifan y cynnig.
Ni chafwyd cynnig arall a chytunodd pawb.
12 OED AELODAETH
-
. Nodwyd bod Cymru bellach wedi codi oed aelodaeth CFFI Cymru i 28. Nodwyd bod Pwyllgor Gwaith CFFI Eryri yn awyddus i newid oed aelodaeth y Sir i fod yn 13 - 30 mlwydd oed.
-
Cynigiodd Miriam Williams, Godre'r Eifl ac eiliodd Meinir Owen, Llangybi.
-
Ni chafwyd unrhyw gynnig arall.
13 TÂL AELODAETH
-
. Nodwyd bod CFFI Cymru wedi gostwng lefi tâl aelodaeth i £10 eleni. Nodwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi pleidleisio i gadw lefi tâl aelodaeth CFFI Eryri'r un fath am eleni sef £15.
-
Cynigiodd Elin Jones, Trysorydd ac eiliodd Glesni Jones, Is Drysorydd.
-
Ni chafwyd unrhyw gynnig arall.
14 CYFLWYNO TYSTYSGRIFAU 2020-2021
-
. Hwsmon Iau'r Flwyddyn : Elis Jones, Caernarfon
-
Stocmon Hŷn y Flwyddyn : Beca Glyn, Ysbyty Ifan
-
Tîm Barnu'r Flwyddyn : Ysbyty Ifan
-
Llenor y Flwyddyn : Angharad Ellis, Dyffryn Madog
-
Bardd y Flwyddyn : Meinir Owen, Llangybi
-
Pencampwr yr Eisteddfod (o'r Clybiau lleiaf) : Porthdinllaen
-
Pencampwr yr Eisteddfod : Llangybi
-
Pencampwr y Rali (o'r Clybiau lleiaf): Godre'r Eifl a Phorthdinllaen
-
Cynrychiolwyr y Flwyddyn : Llangybi
-
Pencampwr y Flwyddyn (o'r Clybiau lleiaf): Godre'r Eifl a Chaernarfon
-
Pencampwr y Flwyddyn : Ysbyty Ifan
15 UNRHYW FATER ARALL
-
. Diolchodd Caryl Haf (Cadeirydd CFFI Cymru) am y croeso ac i'r Sir am gystadlu ar lefel Cymru yn ystod y flwyddyn. Atgoffwyd ni i ofyn am gymorth yn ystod y flwyddyn.
-
Diolchodd Eleri Evans (Cyn Trefnydd CFFI Eryri) am bob cymorth a
chefnogaeth. Anogodd yr aelodau i wneud y mwyaf o bob cyfle a dymunodd yn dda i'r Sir.
16 DIOLCHIADAU
- . Talodd Meinir Owen, Is-Gadeirydd y Sir y diolchiadau.
Ar ddiwedd blwyddyn go wahanol mae gennym fel Ffermwyr Ifanc le i ddiolch yn fwy nac erioed.
Yn gyntaf hoffem ddiolch i Mrs Ann Williams am ei chefnogaeth fel Llywydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
I Beca Glyn ein cadeirydd am ein harwain yn hwyliog trwy’r cyfnod pryderus hwn.
Diolch anferthol i Elin a Glesni am eu gwaith fel Trysoryddion- coeliwch chi fi, nid hawdd oedd hyn eleni gyda chynllun furlough yn newid trwy’r amser. Diolch genod.
Dwy a gafodd dipyn o gur pen yn ystod y flwyddyn oedd Mrs Harper a Miriam. Diolch o galon i chi’ch dwy am eich gwaith diflino a’ch cefnogaeth barhaus i’r swyddogion.
Diolch yn fawr i Gwen am gadw cofnodion graenus yn ein pwyllgorau Zoom dros y flwyddyn.
I gadeiryddion yr is-bwyllgorau am eu parodrwydd i fod yn hyblyg gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf.
Diolch yn fawr i’r clybiau a’r swyddogion am ddal ati gan sicrhau fod y Ffermwyr Ifanc dal yma er gwaetha’r Cofid.
Diolch yn fawr I Oink Oinc a Cwt Cwrw am ein bwydo a’n disychedu heno.
Ella fod yna rhoi ohonoch wedi sylwi fod yna ddau enw pwysig iawn ar ôl ac yn sicr i chi mae ein diolch yn fawr iawn i Eleri ac Elin Swyddfa, nid yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf ond yn hytrach dros y blynyddoedd diwethaf.
Ar hynny, mi awn drosodd at Beca.
Diolch yn fawr i chi gyd am ddod.
Cyflwynwyd flodau i Eleri ac Elin fel arwydd o ddiolch am eu gwaith dros y blynyddoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 21:05.
Adroddiad y Cadeirydd
Croeso cynnes i chi gyd yma heno i Bryn Bychan , mae ein diolch yn fawr i'r teulu am fod mor barod i gynnal ein pwyllgor blynyddol yn eich sied- diolch yn fawr i chi .
Braint ac anrhydedd oedd cael fy ethol yn Gadeirydd y sir nol yn Medi 2019. Roedd gennai dipyn o sgidia i’w llenwi yn dilyn llwyddiant Miraim fel cadeirydd . Roedd cadeirio fy mhwyllgor gwaith cyntaf yn reit frawychus, gan nad oeddwn wedi cael lawer o gyfle i gadeirio pwyllgorau o’r blaen . Dwi’n cofio dreifio am Gaernarfon yn poeni fy mod am neu smonach o’r pwyllgor, ond gyda geiriau doeth gan Eleri roedd y nerfau wedi diflannu a’r pwyllgor cyntaf wedi darfod .
Ers yn ifanc roeddwn yn deall pwysigrwydd y mudiad, dwi’n cofio mynd i rali yn flynyddol ac ysu am gael bod yr oed i ymaelodi a chael gwisgo crys ysbyty , er donim yn edrych mlaen i ganu yn y parti canu chwaith, yn anffodus llais canu fy nhad sgenai !
Pan ges fy ethol yn gadeirydd sir, rhybuddiodd aml un wrtha i fod ar amser, gan i bod nhw’n gwybod yn iawn fy mod yn hwyr i bob man a bod fy oriawr hanner awr tu ôl bawb arall , a doeddwn i fethu bod yn hwyr i bwyllgor gwaith gan mai fi oedd yn cadeirio .
Fel cadeirydd sir un o’r pethau mi oni i yn sicr isho ei wneud oedd ymweld â bob clwb .Es i ar goll yn trio ffeindio aelodau clwb godre’r eifl a rywsut mynd i neuadd yn rwla ym mhen llyn a strybio clwb henoed yn gweu , mi o i reit sicr fy mod i yn y lle anghywir - doedd yna ddim lawer o olwg ffermwyr ifanc arnynt .Esi draw at glwb y rhiw hefyd i ysgol Botwnnog a chynnal cwis er i’r aelodau fy nghywiro gan fod rhai o atebion fy nghwis yn anghywir! Es i draw at ddyffryn Nantlle a rwsut cael fy double bwcio efo hanesydd lleol ,gesim neud y cwis ond gesi ddysgu dipyn am ardal dyffryn Nantlle!!
Daeth y steddfod fel bob blwyddyn a fy rôl i oedd nol bobl o gefn llwyfan - mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwynhau cefn y llwyfan yn cael sgwrs efo bob cystadleuydd , helpu bach ar eu nerfau wrth rannu fferins a’r peth fwyaf cŵl i mi oedd cael walkie talkie er mwyn siarad efo’r boi Sain, er mai gofyn am baned oedd
Aled ar walkie talkie rhan fwyaf . Dwi ddim yn dallt lawer am ganu ond roedd clywed côr Eryri yn canu ein halaw ni yn steddfod Cymru yn hollol wych ac yn rhoi trydan yn fy esgyrn ac yn gymaint o falchder i fi o’r aelodau, mae’r geiriau dal mor glir heddiw
Ma na hyder yn ein nodau ,ma na undod yn ein can ,Mae na fudiad syn gyfeiliant ir holl leisiau mawr a man,paid ag ofni maint y llwyfan paid a amau grym y gan
Yma fe fydd lle ith ddoniau yma fe wnei ffrindiau oes
Mae geiriau yn dweud gymaint i ni am y ffermwyr ifanc
Bob blwyddyn rydym yn cynnal diwrnod ffair aeaf ac am y tro cyntaf yn 2019 penderfynwyd neu'r barnu carcas a chystadleuaeth cyw iâr gydag Arwel y cigydd yn Llanrwst .Fel cadeirydd sir teimlais gyfrifoldeb i drio yn y gystadleuaeth cyw iâr newydd yma , felly dyma fi gofyn am gymorth gan Jane Pennant i ddysgu sut ma trin cyw iâr .Felly dyma ni yn cyraedd y cigydd efo gear i gyd i baratoi cyw iar a neb arall efo ddim byd tebyg i fi!! Yn anffodus i fi mi nes i ddarllen y rheolau yn anghywirtorri cyw iâr yn ddarnau oedd angen a doedd genais syniad su ma neud a gwyn bach oedd yn fy erbyn yn gwybod iawn su ma neu wel yn 2il agos nesi ddod !!!
Dwi fwy o berson barnu ac mae bob amser yn gystadleuaeth rhyngof i ar chwaer ar gael y go r e .Mae yna bob tro ryw gyffro ar ddiwrnod ffair aeaf lle ma pawb isho mynd drwodd i'r ffair aeaf a rhyw naws Nadoligaidd braf .Er bob blwyddyn ma pawb yn ysu am fynd adre erbyn diwedd wedi oeri yn sefyll o gwmpas drwy ddydd !Pan da chi ennill yn y sir a mynd drwodd i gynrychioli Eryri yn yng Nghymru mae’n anrhydedd yn ogystal â thipyn o gyfrifoldeb . Dwi’n cofio un flwyddyn cystadlu yn y barnu gwartheg yng Nghymru .Wrth gwrs fues i yn cymdeithasu gormod y noson gynt ,mi oedd Eleri wedi warnio fi beidio bod yn hwyr a bod yn lle cffi Cymru am 10 .Wel nesi godi hwyr efo cur pen mawr, rasio lawr am cffi Cymru a chyrraedd 11. Diolch byth fod Eleri wedi deuthai i ddod erbyn 10 yn gwybod iawn fyddai’n hwyr- 11 oedd y gystadleuaeth yn cychwyn .Dyma ni dechrau ar y barnu a gorfod mynd nôl a blaen i'r toilet i daflu fyny .Gorffen barnu syth wedyn at fy ffrindiau i members ,cal galwad gan Eleri i ddod i cffi Cymru, rhedeg yno a dallt fod fi wedi ennill y barnu o dan 26. Dipyn o sioc ,dwi ddim yn meddwl i fi neud lawer o argraff yn ol fy nharian yn fy nillad mynd allan .Ond weithiau ma pethe gorau yn digwydd pan da chi lleiaf yn ei ddisgwyl ,Rhaid i fi ddweud fod yna dipyn o ddathlu yn y members noson honno .
Wrth gwrs , blwyddyn yma ma hi wedi bod yn flwyddyn heriol gyda delio gyda covid .Pan roedd son am covid dwi cofio trafod y peth yn ysgafn iawn yn ein steddfod ffug ,a ninnau pythefnos yn ddiweddarach yn cael cyfarfod brys yn NFU Caernarfon ar y ffordd ymlaen a sut i ddelio gyda covid , dwi’n meddwl bod pawb oedd yno noson honno ddim wedi dychmygu y byddem wedi gormod delio efo gymaint o broblemau yn sgil y covid. Rydym yn hynod o ffodus o gael pwyllgor cyllid a staffio pen i gamp a lwyddodd i ddygymod a phopeth a sicrhau fod materion fel y furlough yn cael ei ddelio yn broffesiynol iawn .
Yr hyn ddangosodd covid i ni oedd cryfder y mudiad a cymunedau gwledig ni yng nghymru. Roeddwn yn ffodus o gael byw yng nghefn gwlad lle roeddem yn cael
crwydro ein hardaloedd a chael mwy o ryddid na llawer o rhai mewn trefi a dinasoedd mawr .Roedd gennym ni gefnogaeth ein cymunedau ac mae ein diolch yn fawr iawn i'r aelodau hynny aeth allan i helpu rhai mewn angen yn eich cymunedau .
Rhaid oedd canslo holl ddigwyddiadau yn cynnwys y Rali a oedd yn dipyn o sioc a thristwch i ni , felly ers y noson honno, rydym wedi bod yn ddibynnol ar zoom a diolch byth amdano dros y flwyddyn ddiwethaf .
Rhaid dweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi’r Sir er mwyn ein galluogi i gario mlaen ac diolch fawr ir holl aelodau am aros ân amyneddgar drwy’r holl heriau. Braf oedd gweld video ar facebook gan yr aelodau yn ganol lockdown yn canu ‘Gorwedd gyda’i nerth’ rhaid dweud fe gododd galon nifer iawn o bobl .
Braf iawn nol yng ngwanwyn eleni oedd o’r diwedd cael cynnal pwyllgor gwaith wyneb yn wyneb cyntaf ers Chwefror 2019 .Roedd hi mor braf cael sgwrs gyda phawb a chael gossip lle oedd yn amhosib cael dros zoom
Rhaid i mi ddiolch i bawb am roi hyder ,arweiniad a chymorth i mi dros y ddwy flynedd diwethaf ma, mae hi wedi bod yn gyfnod reit ryfedd i fod yn gadeirydd sir ond rwy’n werthfawrogol iawn i'r mudiad am roi'r cyfle gwerthfawr yma i mi a phob lwc i ti Meinir, ti’n siŵr o wneud gwaith arbennig o dda yn llywio’r sir yn y flwyddyn nesa . Mae fy nyled yn fawr i'r swyddogion sir sydd bob amser wedi bod yno i roi help llaw a chymorth drwy gydol fy nwy flynedd .
Felly i gloi efo darn allan o Gwawr , gan Mei Mac sydd yn cyfleu mudiad y ffermwyr ifanc
Ni yw sŵn y presennol - ni yw’r
Her ,yn dwf o hyder
Ni yw’r dyfodol
Adroddiad Trysorydd Eryri 2020-21
Ar y 30 o Fehefin eleni, dyma’r balansau oedd yng nghyfrifon banc y ffederasiwn:
-
Cyfrif Cyfredol Natwest £6,212.06
-
Cyfrif Clwb 200 Natwest £45.00
-
Cyfrif Cyfredol HSBC £9,782.30
-
Cyfrif Cadw HSBC £63,086.55
-
Cyfrif Tripiau £676.30
-
Cyfrif Hyfforddiant £6,435.49
Ni aeth arian i mewn nac allan o gyfrif Cadw na Thripiau Natwest eleni a felly roedd eu balansau yn £0.00 a gwerth y ffederasiwn yn yn £86,237.70 ar y 30 o Fehefin, 2020. £78,118.12 oedd gwerth y ffederasiwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol blaenorol. Rydym yn falch ar ôl blwyddyn tra gwahanol i bawb yn sgîl y pandemic, fod y ffederasiwn wedi gallu sefyll ar ei thraed yn ariannol. Mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd rhoddion hael gan Gynghorau Cymuned yn ogystal â grantiau un-tro sylweddol ydym wedi ei dderbyn gan haelioni sefydliadau megis yr NFU, prosiect Mantell Gwynedd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, a rydym yn werthfawrogol iawn o hyn.
Nid oedd hi’n bosib cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb eleni a rhyfedd ydi gweld dim gwariant a dim incwm yn erbyn penawdau megis yr Eisteddfod, Ffair Aeaf a’r Rali eleni. Bu rhaid i ni fod ychydig yn fwy creadigol eleni wrth gynnal digwyddiadau codi arian i’r mudiad. Bûm i ni gyflawni sialens rhithiol gan gerdded, rhedeg neu feicio o Swyddfa Eryri i’r Swistir, Twrci ac yna’r Eidal oedd yn 5,557.10 millitir a hynny mewn mis. Yn ogystal cynhaliwyd Raffl Nadolig rhithiol ble roeddem yn ffodus o gwmnïau lleol wnaeth gynhyrchu ambell i hamper arbennig i ni. Diolch i rhai oedd yng nghlwm â’r digwyddiadau fel rhain ac i bawb am eu parodrwydd i gefnogi drwy gydol y flwyddyn wahanol hon.
Eto eleni, diolchwn i Gyngor Sir Conwy sydd wedi rhoi £2,500 yn grant i ni.
Diolchwn hefyd i aelodau Cynllun Ffrindiau’r mudiad am eu haelioni eto eleni. Mae pob aelod yn buddsoddi unai £100 yn flynyddol neu £8.50 pob mis gan dderbyn amrywiol fuddiannau yn sgîl eu haelodaeth. Bellach mae gennym dros 70 aelod yn rhan o’r Cynllun felly mae’r mudiad yn derbyn dros £7,000 o’r cynllun ac rydym yn ddiolchgar dros ben i pob un o aelodau’r cynllun. Mae croeso i unrhyw un o’r newydd ymuno â’r cynllun neu ymuno â Chlwb 200 y Sir ble gellir ennill symiau ariannol drwy gydol y flwyddyn.
Hoffwn dynnu eich sylw at ddau gynllun arall sydd yn helpu’r Sir yn ariannol. Os ydych chi neu rhywun o’ch teulu yn gwerthu wyn i’r cwmni Dunbia, mae’r cwmni yn cyd-weithio gyda CFFI Cymru i sicrhau y caiff y mudiad fuddion ariannol os ydy eu haelodau yn gwerthu eu cynnyrch i Dunbia. Croeso i chi ddod ata i os ydych eisiau mwy o fanylion am hynny. Yn ail, os ydych chi’n berson sydd yn gwneud tipyn o siopa ar-lein, gallwch greu cyfrif ar wefan a elwir yn ‘Easy Funding’ sydd yn ymrwymo i roi canran o’ch gwariant chi yn syth i elusen, ac mae CFFI Eryri wedi cofrestru fel elusen ar y wefan hon. Rydym eisoes wedi gwneud ychydig o arian drwy’r cynlluniau bychain hyn a rydym yn ddiolchgar dros ben.
Rydym yn parhau i fod yn gyfrifol am ein cyflogres ein hunain ac hoffwn ddiolch yn arbennig i gwmni cyfrifydd Richard Williams a’i gwmni am eu parodrwydd i weinyddu’r cyflogau ar ein rhan eto eleni. Mae’r cyfrifwyr wedi bod yn gefn mawr i ni drwy gydol y cyfnod ansefydlog hwn a greuwyd yn sgil y pandemic ac roedd eu parodrwydd i ddelio â chyflwyno hawliadau Furlough ar ein rhan yn arbennig.
Hoffwn roi sylw i’r gefnogaeth ydw i’n ei dderbyn gan holl swyddogion, is-bwyllgorau ac aelodau’r Sir. Mae eu gwaith di-flino nhw yn sicrhau parhad llewyrchus i’r mudiad. Diolch yn arbennig i Meinir a deulu Bryn Mawr am drefnu’r noson arbennig hon – braf ydy cael dod at ein gilydd i gyd wedi blwyddyn ar wahân.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i ddwy ddynes arbennig iawn sef Eleri ac Elin. Fel sydd eisoes wedi ei grybwyll heno, mi fydd y mudiad ar ei cholled yn aruthrol heb y ddwy ohonynt. Mae’r ddwy wedi bod yn gefn aruthrol imi drwy gydol fy amser fel aelod ac yna fel Trysorydd. Mae gen i atgofion melys o sgyrsiau hir efo Elin yn y swyddfa yn rhoi’r byd yn ei le. Ac atgofion llu efo Eleri o’r Trip Dirgel i Langollen, i ddawnsio’n y Silent Disgo’n y Sioe a bwyta Madonalds cyn Bwyllgorau gyda’r nos. Yn sicr dwi a phawb arall yn mynd i’w methu yn fawr, nid yn unig am eu sgiliau trefnus a’u dawn yn eu gwaith, ond hefyd am y cyfeillgarwch a charedigrwydd Eleri ac Elin. Diolch i’r ddwy ohonoch am bob un dim ac edrychaf ymlaen i’ch gwahodd yn ôl i ddigwyddiadau’r Sir dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Diolch yn fawr i bawb.
Elin
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI GWERTH Y FFEDERASIWN AR MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Cyfredol (NATWEST) £6,212.06 Cyfrif Cadw (NATWEST) £0.00 Cyfrif Clwb 200 (NATWEST) £45.00 Cyfrif Tripiau (NATWEST) £0.00
Cyfrif Cyfredol (HSBC) £9,782.30 Cyfrif Cadw (HSBC) £63,086.55 Cyfrif Tripiau (HSBC) £676.30 Cyfrif Hyfforddiant (HSBC) £6,435.49 Cyfanswm £ 86,237.70 (Gwerth y Ffederasiwn ar Mehefin 30ain 2020 = £78,118.12)
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Cyfredol Natwest 15500039
----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2020 8,085.10
Swyddfa 0.00 424.88
Llungopiwr 0.00
1,448.16
Grant gan Cyngor Conwy 5,000.00
0.00
Trosglwyddo i’r Cyfrif Cyfredol 0.00
HSBC 5,000.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2021 6,212.06
CYFANSWM 13,085.10 13,085.10
----- End of picture text -----
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Cadw Natwest - 15511588
----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2020 0.00
Trosglwyddo i’r Cyfredol Natwest 0.00
Llôg
0.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2021 0.00
CYFANSWM 0.00 0.00
----- End of picture text -----
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Clwb 200 Natwest – 15500063
----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2020 1,350.00
Tal Aelodaeth 1,754.00
Canslo hen sieciau heb eu 20.00
cyflwyno
2,021.00
Trosglwyddiad i Gyfrif Cyfredol
HSBC
401.00
Gwobrau 2019-20
657.00
Gwobrau 2020-21
45.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2021
CYFANSWM 3,124.00 3,124.00
Canslo hen sieciau heb eu cyflwyno:
001169 1af Tachwedd 2019 (89) 20.00
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones
----- End of picture text -----
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Tripiau Natwest - 73751073
----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2020 0.00
Trosglwyddo i’r cyfrif Cyfredol 0.00 0.00
HSBC
0.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2021
CYFANSWM 0.00 0.00
----- End of picture text -----
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________
Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Cyfredol HSBC - 51846477
----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2020 8,955.63
Aelodaeth 2019-20 925.00 7,129.20
Yswiriant 2019-20 2,930.69 0.00
Yswiriant 2020-21 2,810.64 2,807.91
Cardiau Aelodaeth 518.75 508.78
Rali 2020-21 0.00 0.00
Erwau 2020-21 0.00 0.00
Eisteddfod Sir Eryri 0.00 0.00
Eisteddfod Cymru 0.00 0.00
Eisteddfod Rithiol 0.00 20.00
Ffair Aeaf 0.00 0.00
Siarad Cyhoeddus 0.00 0.00
Cynghorau Cymuned 2,080.00 0.00
Raffl Nadolig 542.00 109.98
CFfI Cymru – Cynllun Wyn Dunbia 59.60 0.00
Taith Gerdded i’r Ewros – Rhithiol 598.60 0.00
Swyddfa 75.00 1,092.73
DBS 24.00 0.00
Clwb 100 12.00 12.00
Cynllun Ffrindiau 5,532.00 0.00
Grant Llywodraeth Cymru 5,517.00 0.00
----- End of picture text -----
----- Start of picture text -----
Grant Busnes Covid 20,000.00 0.00
Grant Mantell Gwynedd 1,000.00 0.00
Gwariant Grant Mantell Gwynedd 0.00 350.00
Grant NFU 6,451.62 0.00
Paypal – ‘Easy Funding’ 274.09 0.00
Calender CFFI Cymru 52.50 80.00
CFFI Cymru 0.00 50.00
Costau Teithio 0.00 0.00
CFFI Porthdinllaen 875.28 875.28
Marchnata 384.00 384.00
Cyfrifydd 0.00 450.00
Hysbysebu Swydd 0.00 150.00
Trosglwyddo o’r Cyfrif Cyfredol 5,000.00 0.00
Natwest
21,539.75 0.00
Trosglwyddo o’r Cyfrif Cadw HSBC
2,021.00 0.00
Trosglwyddo o’r Cyfrif Clwb 200
0.00 32,004.00
Trosglwyddo i’r Cyfrif Cadw HSBC
0.00 21,539.75
Cyflogau 2018-19
0.00 27,362.08
Cyflog 2020-21
16,528.86 0.00
Cynllun Furlough
9,782.30
Yn y Banc Mehefin 30ain 2021
CYFANSWM 104,708.01 104,708.01
----- End of picture text -----
TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
| Cyfrif Cadw HSBC 81846612 | Cyfrif Cadw HSBC 81846612 | Cyfrif Cadw HSBC 81846612 |
|---|---|---|
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
| Yn y Banc Gorfennaf 1af 2020 Trosglwyddo o’r Cyfredol HSBC Trosglwyddo i’r Cyfredol HSBC Llog Yn y Banc Mehefn 30ain 2021 |
52,615.60 32,004.00 6.70 |
21,539.75 63,086.55 |
| CYFANSWM | 84,626.30 | 84,626.30 |
| TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones |
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________
Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Tripiau HSBC - 61846590
----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2020 676.30
Yn y Banc Mehefin 30ain 2021
676.30
CYFANSWM 676.30 676.30
----- End of picture text -----
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________
Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI
MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2021
Cyfrif Hyfforddiant HSBC - 81846604
| DERBYNIADAU £ |
TALIADAU £ |
|
|---|---|---|
| Yn y Banc Gorfennaf 1af 2020 Yn y Banc Mehefn 30ain 2021 |
6,435.49 | 6,435.49 |
| CYFANSWM | 6,635.49 | 6,635.49 |
| TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones |
Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd
ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri
Adroddiad Pwyllgor Cyllid a Staffio
Wel, lle mae dechrau? Mae hi wedi bod yn 12 mis anodd a dweud y lleiaf. Tua’r adeg yma y llynedd, death Eleri ac Elin yn nol i weithio yn rhan amser ar y cynllun flexi furlough, ar ôl bod adref o’u gwaith ers ganol Mawrth. ‘Da ni wedi bod yn ffodus iawn o ddau beth dros y flwyddyn ddiwethaf, sef cefnogaeth ariannol drwy’r cynllun furlough a hefyd parodrwydd ein staff i dderbyn y trefniadau gweithio newydd. Am gyfnod felly, bu’r ddwy yn gweithio 40% o’u horiau arferol, ac roedd hynny’n help mawr wrth i ni drio ail gydio ym mhethau o ran gweigareddau a threfniadau sirol ac yn y clybiau.
Ymlaen â ni wedyn at y gwanwyn eleni, a’r newyddion trist bod Eleri ac Elin eu dwy yn ein gadael ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth. Nid fi fydd yr unig un heno i dalu diolch i chi’ch
dwy am eich gwasanaeth a’ch cefnogaeth dros y blynyddoedd, ond diolch o galon i chi yr un fath.
Ymlaen a ni wedyn at y dasg o recriwtio olynydd – fel pwyllgor, gyda chefnogaeth y pwyllgor gwaith, mi benderfynom ni beidio recriwtio am ysgrifennydd am y tro, tan i bethau ail godi’n iawn, ac yn hytrach canolbwyntio ar geisio recriwtio ar gyfer rôl y Trefnydd. Yn anffodus, cafwyd dwy rownd aflwyddianus o recriwtio. Ond, mae’r Pwyllgor, gyda chymorth rhai o swyddogion y pwyllgor gwaith, wedi penderfynu addasu’r swydd ddisgrifiad riw fymryn, a newid y teitl swydd. Yn fuan iawn felly mi fyddwn ni’n recriwtio am Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri, ac yn gofyn unwaith eto am bob cefnogaeth wrth rannu’r swydd yn eang er mwyn dennu ymgeiswyr.
Yn y cyfamser, rhaid i mi ddiolch i’ch swyddogion – dyma griw gweithgar tu hwnt sydd wedi bwrw mlaen gyda’r gwaith gweinyddol o redeg y sir, a hynny ar ben eu swyddi llawn amser. Diolch o galon i bob un ohonoch chi, a dwi’n mawr obeithio na fydd angen i chi wneud hyn yn hir iawn eto.
Gobeithio felly y gallwn eich diweddaru gyda newyddion da ein bod yn gallu cyflogi aelod o staff yn fuan iawn. Tan hynny, ac ar ran Mrs Harper a minnau, mi faswn i’n licio diolch i bob un sydd yn cyfrannu at waith y Pwyllgor Cyllid a Staffio, a diolch i chi am bob cydweithrediad a chefnogaeth dros y 12 mis diwethaf. Mae’n diolch ni’n fawr hefyd i’r ddwy aelod o staff, Eleri ac Elin, am fod mor barod i gydweithio hefo ni dros y flwyddyn heriol a fu. Mae’r pwyllgor yn dymuno pob hwyl i chi’ch dwy yn y dyfodol.
Diolch.