Llanw
Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO)
Rhif yr Elusen: 1166349
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol Ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2025
Cynnwys
| Cynnwys | |
|---|---|
| Tudalen | |
| Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol | 2 |
| Adroddiad yr Ymddiriedolwyr | 3-4 |
| Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol | 5-6 |
| Datganiad o Weithgaredd Ariannol | 7 |
| Mantolen | 8 |
| Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol | 9 – 10 |
Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol
Enw'r Sefydliad: Llanw Cofrestrif yr Elusen: 1166349 Cyfeiriad: Llechryd Sunny Hill Llandysul Ceredigion SA44 4DT Ymddiriedolwyr: Parch Meirion Morris (Cadeirydd) Heledd Fflur Iago (Ysgrifennydd) Dr Alice Jeffs (Trysorydd) (tan 23 Ebrill 2025) Mrs Lydia Power (Is-Drysorydd) (tan 23 Ebrill 2025) Mr Emrys Owen Mr Arwel Ellis Jones Miss Sian Wyn Rees Dr Cynan Dafydd Llwyd Mr Steffan Rhys Morris (tan 17 Chwefror 2025) Mr Celfyn Williams Mrs Angharad Clwyd Edwards Parch Nan Wyn Powell-Davies Miss Anna Mari Huws Mr Christopher Hywel Macey (Trysorydd) (o 23 Ebrill 2025) Archwilydd Annibynnol: Mr Ian D Taylor Bancwyr: The Co-operative Bank 1 Balloon Street Manchester M4 4BE
2
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr
Am y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2025
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a'r datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2025. Yr Ymddiriedolwyr a wasanaethodd yn ystod y cyfnod yw'r rhai a restrir ar dudalen 2.
Cynhaliwyd ein Gŵyl flynyddol yn Llangrannog rhwng y 21ain a'r 24ain o Ebrill 2025. Y Prif siaradwr oedd Jonathan Thomas, a mynychwyd yr Ŵyl gan oddeutu 400 o bobl.
Strwythur Llywodraethiad a Rheolaeth
Mae’r Elusen yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolwyr, ac fe drefnir yr Ŵyl gan amryw o grwpiau arbennig. Etholir yr Ymddiriedolwyr yn unol â'r Cyfansoddiad, a bydd yr Ymddiriedolwyr yn ymrwymo i Gyffes Ffydd a Datganiad Ethos Llanw.
Dogfen Lywodraethol
Llywodraethir yr elusen gan ei chyfansoddiad.
Nodau ac Amcanion
Mae nod ac amcanion yr elusen yn cael eu mynegi yn y ddogfen lywodraethol ac, o grynhoi: Hyrwyddo'r Ffydd Gristnogol, yn unol â'r Gyffes Ffydd a'r Datganiad o Ethos yng Nghymru a'r byd, yn unol â phenderfyniad yr Ymddiriedolwyr a'r aelodau. Mi fydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio incwm a chyfalaf Llanw i hyrwyddo'r amcanion.
Adolygiad Ariannol
Yn dilyn trefnu a chynnal Gŵyl 2025, mae'r Ymddiriedolwyr yn nodi bod yna warged ar y flwyddyn o £890. Er nad yw’r Ymddiriedolwyr yn fwriadol yn gweithio i sicrhau gwarged blynyddol, eto yr ydym yn diolch am ganlyniadau eleni. Ein bwriad yw sicrhau bod yr Elusen yn cael ei Ilywodraethu'n gyfrifol, a bod yr Ymddiriedolwyr yn stiwardiaid gonest o'n hadnoddau, tra ar yr un pryd ddiogelu nad yw ystyriaeth ariannol yn cau pobl allan o elwa o Llanw.
Polisi arian wrth gefn
Ar hyn o bryd, mae'r Ymddiriedolwyr yn cytuno y dylai £1,000 fod yn ein cyfrif fel arian wrth gefn. Gyda'r cynnydd mewn incwm a gwariant, bydd yr Ymddiriedolwyr yn adolygu'r penderfyniad hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
3
Datganiad o gyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr
Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r adroddiad blynyddol a'r datganiadau
ariannol a hynny yn unol ag unrhyw gyfraith berthnasol ac Ymarfer Cyfrifo Derbyniol y Deyrnas Unedig.
Mae'r gyfraith sy'n berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr yn mynnu fod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun cywir a theg o weithgaredd ariannol yr elusen a'i sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, rhaid i’r ymddiriedolwyr:
Ddewis polisïau cyfrifo priodol a'u cymhwyso'n gyson
Dod i farn a chyflwyno amcangyfrifon sy'n rhesymol a gofalus; a
Pharatoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol os nad yw'n amhriodol i ragdybio y bydd yr elusen yn parhau i weithredu.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifo cywir sy’n datgelu gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw amser sefyllfa gyllidol yr elusen, gan ganiatáu iddynt sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â gofyn y Ddeddf Elusennol 2011. Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen, ac o ganlyniad, am gymryd camau rhesymol i ddiogelu rhag, ac i adnabod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.
Mae'r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.
Ar ran corff yr Ymddiriedolwyr
Arwyddwyd:
Enw: Sian Wyn Rees Dyddiad: 31 Mai 2026
4
Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon
Adran A Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol Adroddiad i Enw'r Elusen LLANW ymddiriedolwyr Ar y cyfrifon am y 31 Gorffennaf 2025 Rhif yr Elusen 1166349 flwyddyn yn diweddu (os oes) I'w gweld ar dudalennau (cofiwch gynnwys rhifau tudalennau dalennau ychwanegol) Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod ("yr Ymddiriedolaeth") am y flwyddyn yn diweddu 31 / 07 / 2025 . Cyfrifoldebau'r a'r sail Fel yr ymddiriedolwyr elusen, rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol adrodd â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais yr holl Gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf. Datganiad yr archwiliwr annibynnol Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i'm sylw mewn perthynas â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol: ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o'r Ddeddf Elusennau; neu nid yw'r cyfrifon yn cyfateb â'r cofnodion cyfrifyddu; neu nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys yn ymwneud â ffurf a chynnwys cyfrifon a amlinellir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' nad yw'n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol.
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon.
| Enw: Llofnodwyd: |
||
|---|---|---|
| 26 Mai 2026 | ||
| Ian D Taylor |
Hydref 2018
IER
1
5
Aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus
Cymhwyster (cymwysterau) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes):
(Member of Chartered Institute of Public Finance)
Cyfeiriad: 2 Rhes Y Bont, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion. SY23 3RD
Adran B Datgeliad
Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwiliwr dynnu sylw at faterion o bryder perthnasol (gweler CC32, Archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwilwyr).
Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu.
Hydref 2018
IER
2
6
DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL am y flwyddyn yn diweddu 31ain Gorffennaf 2025
| nodyn | 2025 | 2024 | |
|---|---|---|---|
| Incwm | |||
| Incwm Rhoddion | 5,254 | 2,268 | |
| Incwm o Werthiant Tocynnau | 40,960 | 34,717 | |
| Incwm Arall | 70 | 1,689 | |
| Cyfanswm Incwm | 46,285 | 38,674 | |
| Gwariant | |||
| Gwariant Elusennol | 3 | 42,585 | 34,177 |
| Adnoddau | 3 | 2,809 | 3,767 |
| Cyfanswm Gwariant | 45,395 | 37,944 | |
| Incwm Net | 890 | 730 | |
| Symud Net mewn Cronfeydd | 890 | 730 | |
| Cyfanswm Cronfeydd a Ddygwyd Ymlaen | 8,898 | 8,168 | |
| Cyfanswm Cronfeydd a Gariwyd Ymlaen | 9,788 | 8,898 |
7
MANTOLEN ar 31ain Gorffennaf 2025
| nodyn | 2025 | 2024 |
|---|---|---|
| Asedau Cyfredol | ||
| Dyledwyr a Blaendaliadau | 0 | 678 |
| Banc ac Arian Parod | 10,554 | 9,313 |
| Cyfanswm Asedau Cyfredol | 10,554 | 9,991 |
| Rhwymedigaethau Cyfredol (yn ddyledus o fewn blwyddyn) | ||
| Credydwyr a Chrondiadau | 1,175 | 1,094 |
| Cyfanswm Rhwymedigaethau Cyfredol | 1,175 | 1,094 |
| Asedau Cyfredol Net | 9,379 | 8,897 |
| Cyfanswm Asedaullai Rhwymedigaethau Cyfredol | 9,379 | 8,897 |
| Rhwymedigaethau Cyfredol (yn ddyledus ar ôl | ||
| blwyddyn) | 0 | 0 |
| Cyfanswm Asedau Net | 9,379 | 8,897 |
| Balans Cronfeydd | ||
| Cronfeydd a Ddygwyd Ymlaen | 8,898 | 8,168 |
| Symud Net yn y Cronfeydd | 890 | 730 |
| Cyfanswm Cronfeydd | 9,788 | 8,898 |
8
Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol
Ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Gorffennaf 2024
1. Sail Paratoi
1.1. Sail Cyfrifyddu
Mae'r cyfriflenni ariannol yn cael eu paratoi o dan y confensiwn cost hanesyddol ac yn unol â'r Datganiad o Ymarfer a Argymhellir i Gyfrifo, ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Ymarfer Argymhellir (SORP FRS102), â'r Ddeddf Elusennau.
1.2. Newid yn Sail Cyfrifo
Ni fu unrhyw newid yn y polisïau cyfrifyddu (rheolau a ffurf o gyfrifo) ers y flwyddyn ddiwethaf.
1.3. Newid i Gyfrifon Blaenorol
Ni waned unrhyw newidiadau i gyfrifon o flynyddoedd blaenorol.
2. Polisïau Cyfrifyddu
Mae'r prif bolisïau cyfrifyddu wedi'u crynhoi isod. Mae'r polisïau cyfrifyddu wedi cael eu cymhwyso'n gyson trwy gydol y flwyddyn.
2.1 Adnoddau sy'n dod i mewn
Mae'r holl adnoddau sy'n dod i mewn yn cael eu cynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd gan yr elusen hawl i'r incwm a gellir meintioli'r swm gyda chywirdeb rhesymol. Mae'r polisïau penodol canlynol yn cael eu cymhwyso i gategorïau penodol o incwm:
Derbynnir incwm gwirfoddol drwy roddion ac fe'i cynhwysir yn llawn yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol pan fo wedi ei dderbyn.
Nid yw gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan wirfoddolwyr wedi'i gynnwys.
2.2 Adnoddau a wariwyd
Mae gwariant yn cael ei gydnabod ar sail croniad pan fo rhwymedigaeth yn dod yn ddyledus. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW na ellir ei adennill yn llawn, ac fe'i hadroddir fel rhan o'r gwariant y mae'n ymwneud ag ef.
Mae adnoddau a wariwyd yn cael eu cydnabod yn y flwyddyn y maent yn dod yn ddyledus.
Costau cymorth yw'r costau hynny a werir yn uniongyrchol i gefnogi gwariant ar amcanion yr elusen.
9
3. Dadansoddiad Gwariant
| 2025 | 2024 | |
|---|---|---|
| Llety | 40,012 | 33,678 |
| Oedfaon | 2,382 | 1,560 |
| Diogelu | 1,096 | 0 |
| Argraffu | 495 | 522 |
| Costau Eraill | 1,410 | 1,961 |
| 45,395 | 37,721 |
4. Treuliau'r Ymddiriedolwy
Ni dderbyniodd yr un ymddiriedolwyr rodd na thaliad yn ystod y flwyddyn hon na'r flwyddyn flaenorol.
5. Gwariant Cyflogai
Nid oedd unrhyw gyflogai gan y sefydliad y flwyddyn hon na'r flwyddyn flaenorol.
10