CAPEL HOPE-SILOH PONTARDDULAIS
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr 2020
1
Hope-Siloh
Eglwys Annibynnol Cymraeg yw Hope-Siloh a leolir ym Mhontarddulais, Abertawe. Mae’r Eglwys wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (Rhif 1166170). Mae’r adeiladau hefyd yn ‘gofrestredig’ (‘Grade II Listed Building’). Gweinidog yr eglwys yw’r Parchedig Llewelyn Picton Jones.
Aelodaeth a strwythur rheoli
Yn 2020 roedd 167 o aelodau cyflawn, gyda 56 o blant ar gofrestrau’r Ysgol Sul a’r Clwb Ieuenctid.
2
Rheolir ochr weinyddol yr eglwys gan 18 o ddiaconiaid. Mae tri ohonynt yn Ymddiriedolwyr. Etholir diaconiaid o blith corff yr aelodau, ac ers 2010 fe’u hetholir am gyfnod o bedair blynedd yn unig. Yn ystod 2020 ymddeolodd un diacon, ac ni fu unrhyw newidiadau pellach. Ymddiswyddodd Eric Jones fel Ymddiriedolwr yn 2020, ac ail-etholwyd Ann Easter. Aeth Jennifer Clarke i’r Gadair.
Oherwydd y pandemig COVID, bu’n hadeiladau ar gau o fis Mawrth ac am weddill y flwyddyn. Parhaodd ein hoedfaon, yr Ysgol Sul a’r Clwb Ieuenctid yn rhithiol, ond yn anffodus bu’n rhaid gohirio ein holl weithgareddau arferol eraill (gweler isod). Llwyddwyd i gynnal cyfarfodydd diaconiaid yn rhithiol hefyd, a chadw mewn cysylltiad trwy alwadau ffôn ac e-byst. Cyhoeddwyd cylchlythyr, Cadwyn , yn rheolaidd, gan gynnwys gwybodaeth a newyddion a’i ddosbarthu i bob aelod.
Amcanion
Hyrwyddo'r grefydd Gristnogol yn unol ag egwyddorion Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Adeiladau
Adeiladwyd y capel bach gwreiddiol (y festri fach bellach) ym 1868. Ychwanegwyd adeilad sylweddol ei faint fel capel newydd bedair blynedd yn ddiweddarach ym 1872 (y Capel presennol). Adeiladwyd neuadd fawr a chegin ym 1909. Cwblhawyd gwaith adfer sylweddol ar yr holl adeiladau yn 2009-10, gan wneud newidiadau amrywiol er mwyn eu gwneud yn addas ar gyfer addoli yn yr unfed ganrif ar hugain. Prif ddefnydd yr adeiladau yw ar gyfer addoliad, ond fe’u defnyddir yn helaeth gan y gymuned leol ar gyfer gweithgareddau amrywiol fel y nodir isod. Cwblhawyd gwaith sylweddol ar wal a ffenestri blaen y prif adeilad, ynghyd â’r ffenestri ochr yn Rhagfyr 2016. Eto yn 2020 gwnaethpwyd gwaith ychwanegol angenrheidiol ar yr adeiladau.
Effeithiwyd yn helaeth ar ein gweithgareddau arferol, gwaith yr isbwyllgorau, a’n cyfraniad i’r gymuned, y cyfan a nodir isod, gan bandemig COVID 19. Er gwaethaf hyn, llwyddwyd i godi arian ar gyfer elusennau amrywiol ac i’r Banc Bwyd lleol.
Addoliad a gweithgareddau’r eglwys
-
Cynhelir gwasanaeth o addoli bob bore Sul am 9.45. Yn mynychu’r oedfaon mae plant ac oedolion, gyda’r plant yn gadael yr oedfa ar ôl yr ail emyn er mwyn mynd i’r Ysgol Sul a gynhelir yn y ddwy festri.
-
Ar nos Sul cynhelir Clwb Ieuenctid ac Astudiaeth Feiblaidd yn y festrïoedd.
-
Cynhelir Astudiaeth Feiblaidd cydenwadol bob yn ail brynhawn Mawrth yn ein chwaer Eglwys o fewn yr ofalaeth, sef Bethesda Llangennech.
3
-
Ar fore Mercher mae’r eglwys yn cynnal Clwb Babanod sy’n agored i blant o dan oed ysgol gyda’u rhiant/mam-gu.
-
Dan ofal y Gweinidog, gweinyddir Sacrament Swper yr Arglwydd yn fisol, a’r Sacrament o Fedydd, gwasanaethau priodasol ac angladdol yn ôl y galw.
-
Yn fisol ar fore Gwener trefnir Bore Cofi, sydd eto’n agored i’r gymuned.
-
Yn achlysurol, bydd Cymdeithas Cyfeillion yr Eglwys yn trefnu cyfarfodydd diwylliannol amrywiol.
-
Cesglir at y Banc Bwyd lleol bob dydd Sul.
-
Bydd Ieuenctid o’n heglwys yn mynychu Gwersyll Cristnogol yn flynyddol.
-
Mae Hope-Siloh yn Eglwys Fasnach Deg.
-
Mae’r Eglwys wedi noddi Octavio, bachgen 18 oed sy’n byw yn Mozambique dan nawdd World Vision. Daeth y nawdd hwn i ben yn 2017. Yn 2018 cychwynwyd noddi merch saith oed, Bezawit, yn Ethiopia, ac mae hyn yn parhau.
-
Mae Hope-Siloh yn cefnogi’r ymgyrch Bocsys Nadolig wedi’i threfnu gan Operation Christmas Child
-
Mae’r Eglwys yn perthyn i Gyngor Eglwysi Cymraeg yr ardal a chynhelir gwasanaethau a gweithgareddau’r gymdeithas honno yn rheolaidd o fewn Hope-Siloh.
-
Cynhelir rhai o weithgareddau mudiad Cymorth Cristnogol yn yr adeiladau.
-
Cynhelir hefyd yn ein heglwys Gymanfa Ganu Undebol y pentref.
-
Rydym yn rhan o fenter MIC (Menter Ieuenctid Cristnogol), mudiad cydenwadol i hybu gwaith yr efengyl ym mhlith plant ac ieuenctid Sir Gaerfyrddin.
-
Mae’r Eglwys y perthyn i Gyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog o Undeb yr
Annibynwyr.
- Mae’r Eglwys yn gyson yn cefnogi Cymorth Cristnogol ac elusennau rhyngwladol a lleol.
Anogir aelodau i gyfrannu at fywyd yr Eglwys trwy gysylltu â’r canlynol:
Rota blodau wythnosol: Rhiannon Killa Rota croesawu yn y cyntedd: Gwen Jones Rota glanhau: Jennifer Clarke a Jennifer Dark Bore Coffi Misol ac Arlwyo: Gwenda Evans, Jennifer Clarke, Ann Easter Cynorthwyo yn Yr Ysgol Sul: Marie Lynne Jones
Cynorthwyo gyda’r Clwb Babanod: Gwen Jones, Jennifer Clarke Cyfrannu at Cwlwm a’r Wefan: Luned Manon Jones Cyfrannu at y Banc Bwyd Lleol: Ann Easter Darllen yn y gwasanaeth boreol: y Gweinidog Cymryd rhan mewn gwasanaethau yn y Cartrefi Preswyl lleol: Marie Lynne Jones a Gwen Jones
Cymdeithasu a chiniawa: Jennifer Dark a Meinir Davies Swyddog y Wasg: Jennifer Clarke
4
Gweithgareddau’r Gymuned
-
Mae rhai o gorau’r ardal yn defnyddio’r adeiladau ar gyfer ymarferion.
-
O bryd i’w gilydd, bydd mudiadau eraill, megis Merched y Wawr, yn cyfarfod yma a phwyllgor Cymanfa Ganu’r pentref.
-
Defnyddir y Capel a’r Neuadd gan fudiadau lleol ar gyfer cyngherddau, cyfarfodydd pwyllgorau ac arholiadau cerdd yn ogystal â digwyddiadau cyhoeddus, megis ymgynghoriadau Llywodraeth Leol, neu lansio llyfr.
Adnoddau
Fel eglwys, rydym yn ymwybodol o’r angen am adnoddau safonol i gynorthwyo’r addoliad a hyrwyddo’n hamcanion. Ers troad y ganrif, gwnaethpwyd sawl cais llwyddiannus am grantiau i’n cynorthwyo wrth brynu cegin newydd; piano traws; taflunydd, sgrin a chyfarpar technoleg; llwyfan symudol; organ ddigidol.
Pwrcaswyd sawl baner ar gyfer eu gosod ar ein reilins o flaen y capel i hysbysebu oedfaon a gweithgareddau penodol.
Pwyllgor Cyllid, Adeiladau ac Adnoddau
Ar gyfer y defnydd helaeth o’r adeiladau, mae Pwyllgor Cyllid, Adeiladau ac Adnoddau sy’n gwarchod ein heiddo, gan sicrhau gwelliannau a chynnal a chadw cyson yn ogystal â sicrhau diogelwch yr adeilad, e.e. diogelwch tân. Yn 2017, yn dilyn Asesiad Risg Tân, sefydlwyd polisi priodol o ran diogelwch, sy’n cynnwys monitro offer, ac fe brynwyd diffoddyddion tân gan sefydlu cytundeb blynyddol i’w harchwilio. Yn 2018 cwblhawyd arolwg trydanol swyddogol. Mae’r trefniadau diogelwch yn parhau.
Bugeilio a Chyfathrebu
Un arall o bwyllgorau’r eglwys yw'r pwyllgor Bugeilio a Chyfathrebu sy’n gyfrifol am y trefniadau canlynol:
Bore Coffi Misol Te/coffi ar ôl yr oedfa yn achlysurol Cinio mas yn achlysurol mewn bwyty lleol Ffair Nadolig Rhoddion Nadolig i aelodau sy’n gaeth i’w cartrefi Gwasanaethau mewn cartrefi preswyl a nyrsio lleol tua phedair gwaith y flwyddyn
Blodau yn y capel bob Sul a sicrhau eu bod yn mynd i aelod teilwng (claf, un sy’n dathlu neu un sy’n galaru)
Masnach deg, - cofrestrwyd yr eglwys fel eglwys Masnach Deg. Ymweld â chleifion
5
Trefnu rota o aelodau i groesawu pawb i’r oedfa yn y cyntedd ar fore Sul Sicrhau nawdd trwy ‘World Vision’. Trefnu’r ‘Bererindod’ flynyddol
Y defnydd o dechnoleg wrth gyfathrebu: Cyhoeddi ac argraffu cylchlythyr yr eglwys, Cwlwm . Cyhoeddir hwn bedair gwaith y flwyddyn, gyda nifer o aelodau yn cyfrannu ato. Mae’n cynnwys erthyglau, newyddion, lluniau a rhoi gwybodaeth am wasanaethau a digwyddiadau sydd i ddod. Gwefan yr eglwys E-bost yr eglwys Gweplyfr ac ati
Cyhoeddiadau wythnosol, - danfonir y rhain yn wythnosol i aelodau sydd ar e-bost.
Pwyllgor Addysgu ac Addoli
Y pwyllgor Addysgu ac Addoli sy’n trefnu :
Rota ar gyfer athrawon yr Ysgol Sul ynghyd â rhaglen waith briodol i’r plant. Parti Nadolig Trip blynyddol y plant a’r ieuenctid Y clwb ieuenctid, a gweithgareddau megis cymryd rhan ym mabolgampau a chwaraeon yr Ysgolion Sul
Y Clwb Babanod Penwythnos y Clwb Ieuenctid yn y Gwersyll Haf yn flynyddol Operation Christmas Child yn flynyddol Rhai o’n casgliadau ar gyfer elusennau Gwasanaethau
Aelodaeth Hope-Siloh
Mae aelodau’r Eglwys yn cyfrannu’n ariannol at gostau’r eglwys fel y nodir isod. Mae’r Trysorydd yn gwneud cais yn flynyddol i sicrhau Rhodd Cymorth. Mae’r aelodau yn weithgar a pharod iawn eu cymwynas. Dibynnir yn drwm ar gefnogaeth yr aelodau yng ngweithgareddau amrywiol ein heglwys gan gynnwys ein hoedfaon. Mae gennym sawl rota fel y gwelir uchod ble gall aelodau wirfoddoli i gynorthwyo.
EGLWYS ANNIBYNOL CAPEL HOPE-SILOH PONTARDDULAIS 2020
e-bost: hopesiloh@hotmail.co.uk gwefan; www.hopesiloh.tk
Gweinidog:
Y Parchedig LLEWELYN PICTON JONES, B.Sc., M.Ed. “Lowri”, 50, Heol Glanffrwd, Pontarddulais. Ffôn: 882889, Symudol: 07792823877
Diaconiaid:
6
1983 ERIC JONES, Craig Afon, 9, Heol Clayton, Yr Hendy. Ffôn: 881172 1983 HUW KILLA, 48A, Heol Llanedi, Fforest. 1983 IFOR MILES, Gelli Deg, 70, Heol y Pentre. Ffôn: 883329 1983 PERCY THOMAS, 27, Heol Glanyrafon. Ffôn: 882917 1998 JENNIFER CLARKE, 2, Clôs Sandringham, Pontybrenin. Ffôn: 511250 1998 ANN EASTER, 18, Pantglas, Gorseinon. Ffôn: 521401 2010 MEINIR DAVIES, Fferm y Pentre, Heol y Pentre. Ffôn: 882428 2010 GWENDA EVANS, 31, Heol y Bolgoed. Ffôn: 883491 2010 IWAN JONES,1, Maes Morrison, Parc San Teilo. Ffôn: 881079 2010 LUNED MANON JONES, 6, Twyniago. Ffôn: 882346 2010 HUW MILES, 13, Heol Glasfryn. Ffôn: 882714 2014 NIA BESLEY, 2, Golwg yr Eglwys, Parc San Teilo. Ffôn: 882493 2014 RHIAN EVANS, 14, Clôs Vernon Watkins, Penyrheol. Ffôn: 894741 2014 MARK FORD, 41, Heol Birchrock, Cae Rebecca. Ffôn: 885501 2014 MARC TIPLADY, 2, Cwrt Sawel, Yr Hendy. 2018 CATHY IRONS, Llys yr Onnen, 8, Vaughan Place, Casllwchwr. Ffôn: 896611 2018 SIAN HOWELLS, 30, Golwg y Garn, Penllergaer. Ffôn: 892057 2018 JOHN HARRY, 22 Heol Dulais. Ffôn: 882188 2018 WYNFORD LEYSHON, 24, Clare Court, Casllwchwr. Ffôn: 898238
Swyddogion:
Ysgrifennydd:
Is-Ysgrifennydd:
ERIC JONES JENNIFER CLARKE
Trysorydd:
ANN EASTER
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Cadeirydd y Diaconiaid:
MARIE LYNNE JONES ERIC JONES
Cyhoeddwyr:
JENNIFER CLARKE, MEINIR DAVIES
Organydd: ERIC JONES
ANERCHIAD Y GWEINIDOG
Mehefin 2021 Annwyl Gyfeillion,
Cyfarchion cynnes i chi gyd wrth i mi gyflwyno'r adroddiad hwn am y flwyddyn 2020 i'ch sylw. Bu'n flwyddyn heriol iawn, na welwyd mo’i thebyg yn ein hanes. Bu effaith y pandemig , Covid 19, yn ddifrifol ar ein cymuned leol, ein gwlad a'n byd. Mawr bu'r effaith arnom fel Eglwys a chynhaliwyd ein gwasanaeth olaf yn y capel ar yr 8fed o Fawrth, 2020 pan gynhaliwyd Oedfa Gymun fendithiol a gwefreiddiol wrth i ni dderbyn 14 aelod newydd i'n plith fel Eglwys. Yn ystod yr wythnos flaenorol
7
cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn y capel i ddathlu Gŵyl Ddewi gan gynnwys gwasanaeth arbennig ar fore Sul Mawrth 1, noson o Gawl a Chân ar y Nos Fawrth, dathliad y clwb babanod ar fore Mercher ac ymweliad rhai o blant Ysgol Gymraeg Bryniago i'r bore coffi ar y bore Gwener. Yn dilyn y dechreuad cyffrous yma i'r flwyddyn bu rhaid cau'r capel am dros flwyddyn nes i ni ail-agor yr adeiladau ar Sul y Pentecost eleni.
Er i’r capel fod ar gau yn ystod y pandemig bu i'n tystiolaeth fel Eglwys barhau trwy gyfrwng gwasanaethau ar-lein/digidol ar y Sul ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i'r gwasanaethau yma mewn unrhyw fodd. Er mwyn ymdrechu i gadw mewn cysylltiad â'n gilydd tra byddai adeiladau'r capel ar gau, dosbarthwyd ein cylchlythyr Cadwyn yn gyson ynghyd â rhifyn arbennig o Cwlwm adeg y Nadolig, a hefyd sefydlwyd cynllun ffonio aelodau. Diolch i bawb a fu'n gweithio'n gydwybodol i gynnal gwaith a bywyd yr Eglwys dros y cyfnod anodd yma.
Er bod Suliau 2021 wedi eu llenwi bu rhaid newid a darparu oedfaon arlein /digidol ac mae'r Suliadur a welwch yn yr adroddiad yma yn adlewyrchu'r oedfaon a gynhaliwyd nes roedd yn bosib i ni ddychwelyd i'r Capel ar 23 Mai, 2021.
Bu cyd-weithio hapus rhwng Hope-Siloh a Bethesda wrth ddarparu’r gwasanaethau ar-lein/digidol gyda nifer dda o blant, ieuenctid ac aelodau yn cyfrannu'n gyson. Bu'r Ysgol Sul a'r Clwb Ieuenctid yn cyfarfod yn rhithiol yn rheolaidd ac rydym i gyd wedi mwynhau gwylio'r fideos a gynhyrchwyd yn wythnosol gan blant yr Ysgol Sul. Ymysg yr uchafbwyntiau roedd gwasanaethau rhithiol Cymorth Cristnogol, Diolchgarwch ac Ymgyrch Plentyn y Nadolig - Operation Christmas Child. Yn ogystal bu i wasanaeth Nadolig y Plant a'r Ieuenctid, y gwasanaeth o dan ofal yr aelodau, y Noson golau cannwyll a'r Noson Garolau sicrhau cyffro cyfnod y Nadolig sydd mor bwysig i ni fel Cristnogion. 'Ry'n ni'n ddiolchgar i bawb a fu'n paratoi ac yn cynhyrchu'r gwasanaethau a'r fideos yma.
Er bod y trefniadau ar gyfer yr oedfaon arbennig yma yn wahanol i’r arfer, nid anghofiodd yr Eglwys ei dyletswydd i gynorthwyo pobl mewn angen - mae hyn yn rhan bwysig o'n gwaith fel Eglwys. Fel y gwelwch yn yr adroddiad yma, yn ystod y flwyddyn anfonwyd cyfraniadau i Gymorth Cristnogol, y Banc Bwyd, Ymgyrch Plentyn y Nadolig, World Vision (Bezawit yn Ethiopia), Tŷ Hafan a Mind Cymru. Yn ychwanegol at y rhain, cyflwynwyd dau dabled cyfrifiadurol i ysbytai ardal Abertawe a dau i Ysbyty Llanelli. Fe fu'r ocsiwn ar-lein a gynhaliwyd ddechrau Rhagfyr yn hwyl ac yn llwyddiant mawr ac fe ddefnyddiwyd yr arian a godwyd i gefnogi rhai o'r elusennau a enwyd. Diolch yn fawr i chi'r aelodau am eich haelioni i'r achosion da yma yn ystod y flwyddyn.
Ar lefel bersonol, roeddwn i’n dathlu pum mlynedd ar hugain yn y weinidogaeth ar y 15fed o Ionawr, 2020 a braint oedd mynd yn ôl i'r Tabernacl, Hendy-gwyn i ddathlu'r achlysur yno ym mis Ionawr. Bu'n siom fawr pan fu rhaid i ni ohirio'r oedfa arbennig a drefnwyd gan yr ofalaeth yng Nghapel Hope-Siloh ar y 15fed o Fawrth ar y funud olaf oherwydd bod sefyllfa'r pandemig wedi gwaethygu. Ga'i ddiolch i chi gyd am y rhodd a'r
8
cyfarchion a dderbyniais oddi wrth yr Eglwys er bod yr oedfa ei hun wedi ei gohirio.
Yn ystod y flwyddyn buom yn llongyfarch rhai o'n haelodau wrth iddynt ddathlu eu penblwyddi yn 90 mlwydd oed tra bod eraill wedi dathlu penblwyddi priodas aur. Fel Eglwys dymunwn yn dda iddynt i'r dyfodol.
Trist yw cofnodi inni golli, trwy farwolaeth, naw aelod yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Rwy'n cyfeirio at Megan Thomas, Lemuel Davies, Vicky Jones, Pat Bishop, Mair Evans, Tegwen Herbert, Rhys Thomas, Vernon Lewis a Heulwen Rees. Roedd y rhain yn annwyl iawn yn ein golwg ni i gyd ac fe welwn ei heisiau yn fawr iawn. Yn bersonol, ac ar ran yr holl aelodau hoffwn gyflwyno fy nghydymdeimlad dwysaf â theuluoedd y cyfeillion yma a dymuno iddynt dangnefedd a gobaith Duw i'w cynnal yn y dyddiau sydd i ddod. Hefyd cofiwn am eraill o'n haelodau sy wedi colli perthnasau agos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dymunwn fendith Duw hefyd ar yr aelodau sy'n dioddef o afiechyd, y rhai sy wedi cael eu heffeithio gan y coronafeirws, y rhai sy'n gaeth i'w cartrefi, y rhai sy mewn cartrefi preswyl a'r rhai sy mewn gofid am wahanol resymau. Boed iddynt ganfod Duw yn Dduw hawdd ei gael mewn cyfyngder.
Diolchwn i Dduw am ein cynnal yn ystod y flwyddyn anodd a aeth heibio ac am ein galluogi i bwyso ar yr adnod yma o'r Salmau: "Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder" (Salm 46:1). Boed i'r Ysbryd Glân ein harwain i'r dyfodol gydag ymrwymiad a brwdfrydedd. Ni wyddom beth fydd profiadau'r flwyddyn hon wrth i ni ail ddechrau cynnal oedfaon yn y capel ond gadewch i ni wynebu pob sialens newydd trwy gyflawni ein gwaith yn hyderus gan gofio y bydd Duw yn ein cynnal, yn ein nerthu ac yn ein hysbrydoli yn ein hymdrechion er lles Ei Deyrnas.
"Bydded trugaredd yr Arglwydd arnom; llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo". (Salm 90:17)
Yr eiddoch yng Nghrist,
Llewelyn Picton Jones
AELODAU NEWYDD
Elfed Bowen Margaret Davies Aled Francis Sarah Horan Gareth Huxtable
9
Rhoda Jones Gareth jones Tregellis Jones Nerys Rhys Rhys Thomas Diana Williams Nia Rhys Williams Gareth Williams Rhiannon Williams
Y RHAI A HUNODD
2 Ionawr, 2020 – Mrs Elizabeth Megan Thomas (yn 85 mlwydd oed)
22 Ionawr, 2020 – Mr David Lemuel Davies (yn 96 mlwydd oed)
11 Chwefror, 2020 – Mrs Dorothy Victoria (Vicky) Jones (yn 75 mlwydd oed)
10 Ebrill, 2020 – Mrs Patricia (Pat) Bishop (yn 74 mlwydd oed)
4 Mehefin, 2020 – Mrs Mair Evans (yn 83 mlwydd oed)
20 Mehefin, 2020 – Mrs Tegwen Herbert (yn 102 mlwydd oed)
18 Hydref, 2020 – Mr William Rhys Jones (yn 76 mlwydd oed)
15 Rhagfyr, 2020 – Mr Vernon Lewis (yn 97 mlwydd oed) 31 Rhagfyr, 2020 – Mrs Heulwen Rees (yn 85 mlwydd oed)
GOFALWYR LLYFRAU ARIANNOL Y DOSBARTHIADAU
Dosbarth A
10
Meinir Davies Dosbarth B Rhian Evans Dosbarth C Gwenda Evans Dosbarth D Ifor Miles
Rhif yr Aelodau: 167
PWYLLGORAU
Is-bwyllgor Cyllid, Adeiladau ac Adnoddau: Cad: Eric Jones, Ysg: Jennifer Clarke Is-bwyllgor Cyfathrebu a Bugeilio: Cad: Gwen Jones, Ysg: Ifor Miles Is-bwyllgor Addoli, Addysgu, Plant ac Ieuenctid: Cad: Marie Lynne Jones, Ysg: Nia Besley
----- Start of picture text -----
DOSBARTH A £ c
Margaret Davies Delfryn, Mount Pleasant, Llangnnwr 10 00
0
Sian Teggin Woodstock, Little Rake Lane, Chester 12 00
0
Aled Francis 8, Clôs Benallt Fawr, Fforest 90 00
Tregellis Jones 4, Llyn y Felin, Fforest 20 00
0
Petrina Evans 27, Rhodfa’r Wiwer, Fforest 20 00
Elisha Evans 3, Clôs Penllwyngwyn, Bryn 7 00
Heledd Clarke 66, Rhodfa’r Wiwer, Fforest 15 00
0
Meinir Jones 164, Rhodfa’r Wiwer, Fforest 20 00
0
Elen Jones 18 00
0
Robert Davies 65, Heol Bronallt, Fforest 30 00
0
----- End of picture text -----
11
----- Start of picture text -----
Karen Davies eto 30 00
0
Gareth Williams 106, Pentre Nicklaus, Machynys 22 00
1
Hywel Watkins 31, Heol y Plâs, Fforest 30 00
0
Gareth Watkins 25, William Morris Drive, Casnewydd 30 00
0
Harri Williams 36, Heol y Plâs, Fforest 28 00
0
Elna Davies 48, Heol Llanedi, Fforest 12 00
0
Huw Killa 48A, Heol Llanedi, Fforest 24 00
0
Rhiannon Killa eto 24 00
0
Eric Jones Craigafon, 9, Heol Clayton, Hendy 45 00
0
Gwen Jones eto 45 00
0
Steffan Griffiths 1, Clôs Glyndŵr, Hendy. 18 00
0
Garry Owen 39, Heol y Parc, Hendy 42 00
0
Lee Owen eto 42 00
0
Gerald Davies 83A, Heol y Parc, Hendy 31 00
0
Betty Davies eto 31 00
0
- -
Mair Evans (M)
Eryl Buist 26, Midland Place, Llansamlet 10 00
0
Rhys Thomas (M) Golwg yr Aber, Fferm Tir Eglwys, Llangennech 20 00
0
Margaret Thomas eto 30 00
0
Ruth Lewis 24, Denham Avenue, Llanelli. 24 00
0
Adrian Killa 19, Y Garreg Lwyd, Llanedi 12 00
0
----- End of picture text -----
12
Janice Byrne
3, Llys Bronallt, Heol Bronallt, Hendy 30 00 0
----- Start of picture text -----
Dosbarth B £ c
Huw Richards 15, Rhyd yr Helyg, Derwen Fawr 600 00
John Harry 22, Heol Dulais 415 00
Ann Ohlsson 144, Stryd Sant Teilo - -
Huw Miles 13, Heol Glasfryn 182 50
Gaynor Miles eto 182 50
Angela Killa 14, Heol Dulais 120 00
Robert Francis 46, Heol Glasfryn - -
Ceri Francis 7, Elm Tree Road, Penllergaer - -
Dorcas Walters 6, Clôs Wyndham - -
Averil Williams 9, Clôs Wyndham 220 00
Bethan Mair Y Berth, 29, Coedbach 96 00
Alun Wyn Evans 31, Heol Bolgoed 212 00
Gwenda Evans eto 212 00
Rhoda Jones 23, Clôs Benallt Fawr, Fforest 100 00
Carol Griffiths Siding Fach, 94, Heol Bolgoed 220 00
- -
Megan Thomas
(M)
Nia Besley 2, Golwg-yr-Eglwys, Parc Sant Teilo 240 00
Iwan Jones 1, Maes Morrison, Parc Sant Teilo 240 00
Luned Mair eto 240 00
Jones
Vernon Lewis 50 00
(M)
Mark Ford 41, Birchrock Road, Cae Rebecca 240 00
Rhian Evans Golwg y Tŵr, Parc Sant Teilo - -
Non Jones 120 00
Jennifer Dark 113, Heol y Gopa 54 00
Minna Thomas Coedlan, Lôn Bolgoed 113 00
Meirion Rees 16, Heol Dylan, Gorseinon 150 00
----- End of picture text -----
13
----- Start of picture text -----
Olwen Davies Bron y Gân, 196, Heol Bryntirion 78 00
Alice Lloyd 16, Christopher Rise, Pontlliw 180 00
Stuart Evans 61, Llyn Tircoed, Penllergaer 120 00
Iestyn Davies 24, Clôs Benallt Fawr, Fforest 90 00
Jean Huxtable 464, Heol Birchgrove, Abertawe 240 00
Dianne Thomas Y Whit, 24, Heol Bolgoed 220 00
Nia Rhys 84, Y Llanerch, Pontlliw 150 00
Williams
----- End of picture text -----
----- Start of picture text -----
DOSBARTH C £ c
Mathew Jones 46, Heol Tynybonau 65 00
Dianne Jones eto 65 00
Ian Jones 9, Golwg y Tŵr 65 00
Gary Thomas 15 00
0
Elizabeth Thomas 15 00
0
Sarah Thomas 21, Stryd Williams 12 00
0
Percy Thomas 27, Heol Glanyrafon 14 00
4
Iris Thomas eto 14 00
4
Andrea Williams 31, Heol Glanyrafon 96 00
Lisa Tucker 32, Heol Glanyrafon 12 00
0
Sioned Evans 57, Heol Glanyrafon 36 00
0
Eryl Evans 58, Heol Glanyrafon 25 00
0
Philip Jones 22, Cross Street 12 00
0
Vicky Jones (M) 12 00
0
Sara David 5, Caeglas, Cwmafan, Port Talbot 18 00
0
Tegwen Herbert (M) 60 00
----- End of picture text -----
14
----- Start of picture text -----
Eileen Edwards 71, Heol Alltiago 13 00
0
Luned Manon Jones 6, Twyniago 24 00
0
Rhys Jones eto 24 00
0
Marie Davies 7, Twyniago 12 00
0
Maureen Lewis Flat 2, Stanwell Road, Penarth 11 00
0
Pat Bishop (M)
Kathryn Thomas 13A Maesteg 70 00
Sheila Brenchley 1, The Bungalow, Upper Mill 18 00
0
Adrian Davies Fferm Heol Wyllt, Upper Mill 90 00
Eira Davies eto 90 00
Cerith Davies eto = =
Ffion Davies eto = =
Alan Richards 14, Heol Plasgwyn 50 00
Meriel Evans 82, Heol Glynhir 15 00
0
Eirwen Richards 124, Heol Glynhir 17 00
0
Garry Richards 35, Heol Glynne, Canton, Caerdydd 50 00
Lynda Card 126, Heol Glynhir 12 00
0
Leonard Rees 147, Heol Glynhir 72 00
Heulwen Rees (M) 72 00
Barbara Rees 2, Pant y Felin, Glynhir 20 00
0
Gwyn Stephens 23, Heol Glanffrwd, Glynhir 50 00
Nia Stephens eto 50 00
Gareth Jones 44, Heol Glanffrwd, Glynhir 50 00
Lisa Jones eto 60 00
Marie Lynne Jones 50, Heol Glanffrwd, Glynhir 60 00
0
Rhian Gealy 64, Heol Glanffrwd, Glynhir 12 00
0
----- End of picture text -----
15
----- Start of picture text -----
Hilary Cotterell 12 00
0
DOSBARTH D £ c
Diana Williams 42, Plasnewydd, Pengelli 15 00
0
Ian Samuel = =
Carole Richardson 17, Heol Gwynfryn 10 00
0
Margaret Evans 12 00
0
Rhian Thomas 12, Heol Gwynfryn 12 00
0
Catrin Thomas eto 10 00
0
Huw Philpot 13, Heol Gwynfryn 12 00
0
Handel Evans 25 00
Ifor Miles 70, Heol y Pentre 25 00
0
Gwenda Miles eto 25 00
0
Meic Williams 60, Glanymor Park Drive, Casllwchwr 24 00
0
Rahel Williams eto 24 00
0
Hugh Davies 6, Rhoslan, Tymbl Uchaf, Llanelli 18 00
0
Meinir Davies eto 18 00
0
Vivian Williams Fferm Llwynadam, Waungron 28 00
0
Michael Irons Llys yr Onnen, 8, Vaughan Place, 42 00
Casllwchwr 0
Cathy Irons eto 42 00
0
Aled Davies 18, Grove Street, Gorseinon 90 00
Ann Easter 18, Pantglas, Gorseinon 28 00
0
Joanne Easter-Thomas Wayside, Heol Casnewydd, Caerdydd 15 00
----- End of picture text -----
16
----- Start of picture text -----
0
Claire Evans 11, Coed y Graig, Ystrad Mynach 15 00
0
Jennifer Clarke 2, Clôs Sandringham, Pontybrenin 42 00
0
Owain Clarke 2, Cwrt Tŷ Mawr, Caerdydd 15 00
0
Nerys Rhys 42, Plas Newydd, Pengelli 15 00
0
Wynford Leyshon 24, Clare Court, Casllwchwr 51 00
0
Susan Leyshon eto 51 00
0
Hywel Powell 20, Heol Gwili, Gorseinon 18 00
0
Undeg Powell eto 18 00
0
Eluned Lloyd 12 00
0
Rhif 33 12 00
0
Rhif 34 12 00
0
----- End of picture text -----
----- Start of picture text -----
Dosbarth E
Anita Appleton 58, Glanymor Park Drive,
Casllwchwr
Rhian Evans 14, Clôs Vernon Watkins, Penyrheol
Susan Goss Bolgoed Ganol, Lôn Bolgoed
Joshua Goss Bolgoed Ganol, Lôn Bolgoed
Hannah Goss Bolgoed Ganol, Lôn Bolgoed
Meinir Hughes 31, Mayflower Close, Chineham,
Basingstoke
Anne Morgan Hafod, 43, Heol y Plas, Fforest
Mair Renowden 18, Heol Pencefnarda, Penyrheol
Jonathan Williams 3, Ffwrn Clai, Parc Sant Teilo
Rhiannon Williams 3, Ffwrn Clai, Parc Sant Teilo
Sarah Horan 13, Vaughan Crescent
Elfed Bowen 75, Clayton Drive
Ann Biston
Ashley Evans
----- End of picture text -----
17
Gareth Huxtable Sian Huxtable Desna Thomas Marc Tiplady Nest Tiplady Vivian Jones Mary Jones Cyfanswm y £2,206 Cyfraniadau
7 aelod sy’n dymuno aros yn ddi-enw Cyfanswm y cyfraniadau £520.00
AELODAU – MYFYRWYR YSGOL / COLEGAU
Tesni Davies 172, West Street, Gorseinon
Elin Ohlsson Jones 10, Oakwood Drive, Tregŵyr Heledd Jones 1, Maes Morrison, Parc San Teilo Lowri Jones 1, Maes Morrison, Parc San Teilo
Bethan Biston
PWYSIG
(1) ANOGIR POB AELOD OS YN BOSIB I DALU EI CYFRANIADAU DRWY ORCHYMYN
SEFYDLOG Y BANC (STANDING ORDER) YN FISOL-BYDD O LÊS I’R CAPEL
(2) YSTYRIR BOD UNRHYW AELOD FYDD YN ESGEULUSO CYFRANNU AT YR EGLWYS AM DDWY FLYNNEDD YN OLYNOL YN DI-AELODI EI HUNAN
(3) RHAID I BOB CYFRANIAD DDOD I LAW ERBYN RHAGFYR 31
18
Y GRONFA GYFFREDINOL 2020
Datganiad o Dderbyniadau a Thaliadau DERBYNIADAU
----- Start of picture text -----
£ c £ c
Mewn llaw ar ddiwedd 2019 148,630
36
Casgliadau:
Amlenni 5,961
00
Archebion Sefydlog 20,756 26,717 00
00
Cynllun Rhodd Cymorth: 6,839 6,839 18
18
Casgliadau Arbennig:
Tabledi i GIG 730
00
Cymorth Cristnogol 420 00
Banc Bwyd (Diolchgarwch) 460 00
Ymgyrch Plentyn y Nadolig 210 00
Ocsiwn 1,632 3,452 50
50
Rhoddion:
Er côf am Mr Denzil John 1,000
00
Er côf am Mr Lemuel Davies 175 00
Er côf am Mrs Pat Bishop 200 00
Er côf am Mrs Jean Samuel 100 00
Rhodd Mrs Nalda Evans 100 00
Rhodd di-enw 150 00
Rhodd Gwyndaf a Marian Jones 50 00
Rhodd i’r banc bwyd 40 00
Cardiau dathlu 2019 20 00
Ceiniogau (arian rhydd Harri 20 00
Williams)
Treuliau Anrheg 25 (Bethesda) 380 2,235 50
50
187,874 54
----- End of picture text -----
19
TALIADAU
----- Start of picture text -----
£ £ c
c
Y Weinidogaeth:
Y Gweinidog (Cyfraniad 5,000
tuag at Cyflog, Treuliau 04
ac Yswiriant
Genedlaethol
Pregethwyr Gwadd 225 5,225 04
00
Y Capel:
Nwy a Thrydan 2,659
91
Yswiriant y Capel a’r 2,382
Festri 47
Treth Dŵr 234 96
Argraffu 419 00
Gwefan y Capel 38 86
Nwyddau 393 02
Glanhau 112 00
Nwyddau covid19 209 74
Cardiau Nadolig 180 80
Cwlwm Nadolig 137 00
Anrhegion Nadolig 44 50
Ail brynu Goleuadau 39 97
Nadolig
Treuliau Anrheg 25 813 93 7,666 16
Undeb yr Annibynwyr:
Tâl Aelodaeth 704 00 704 00
Cyfundeb 30 00
Trysorfa Gweddwon 45 00
Dydd Gweddi’r 20 00 95 00
Chwiorydd
Casgliadau Arbennig:
----- End of picture text -----
20
----- Start of picture text -----
Tabledi NHS 789 46
Cymorth Cristnogol 420 00
Banc Bwyd 460 00
(Diolchgarwch)
Ymgyrch plentyn y 210 00 1,879 46
Nadolig
Rhoddion:
Y Genhadaeth 200
00
World Vision UK 300
(Bezawit) 00
Rhodd Cymorth i’r Ysgol 570
Sul 85
Tŷ Hafan 660
00
Mind Cymru 660
00
Banc Bwyd 240 2,630 85
00
18,200 51
Cronfa Adeiladau:
Rhodd Cymorth 6,268 33
(Cyfraniadau)
Gweddill y Cyfraniadau 2,061 00 8,329 33
26,529 84
Mewn llaw ar ddiwedd 161,344 70
2020
187,874 54
----- End of picture text -----
Archwiliwyd a chafwyd yn gywir: Mrs G Francis. (31.1.2021)
21
Y GRONFA ADEILADAU 2020
Datganiad o Dderbyniadau a Thaliadau
Derbyniadau
----- Start of picture text -----
£ c £ c
Mewn llaw ar ddiwedd 7,613 82
2019
Llôg Banc 164 57
Y Gronfa Gyffredinol 8,329 33 8,493 90
16,107 72
----- End of picture text -----
Taliadau
----- Start of picture text -----
£ c £ c
Kingfisher Electrics 300 00
Bylbiau 538 23
Goleuadau 79 90
Saer 160 00
Paent 14 00
Gwasanaeth Tân 48 00 1.140 13
Mewn llaw ar ddiwedd 14,967 59
2020
16,107 72
----- End of picture text -----
Archwiliwyd a chafwyd yn gywir: Mrs G Francis. (31.1.2021)
MANTOLEN YR EGLWYS AR DDIWEDD 2020
----- Start of picture text -----
£ c
Y Gronfa Gyffredinol 161,344 70
Y Gronfa Adeiladau 14,967 59
Cyfanswm 176,312 29
----- End of picture text -----
Archwiliwyd a chafwyd yn gywir: Mrs G Francis. (31.1.2021)
22
INDEPENDENT AUDITOR'S REPORT
Trustees and members of Hope-Siloh Chapel St Teilo Street, Pontarddulais, Swansea
I have audited the accompanying balance sheet of Hope-Siloh Chapel as of December 31, 2020, and the related statements of income and expenditure for the year then ended. These financial statements are the responsibility of the charity’s Trustees. My responsibility is to express an opinion on these financial statements based on my audit.
I conducted the audit in accordance with auditing standards generally accepted in the UK. Those standards require that the audit is planned and performed in order to obtain reasonable assurance about whether the financial statements are free of material mis-statement. Documents were examined relating to income and expenditure, including invoices, receipts and bank accounts. The accounting principles and methods were assessed, including the presentation of the overall financial statement.
In my opinion, the financial statements referred to above present a true and fair view of the financial position of Hope-Siloh Chapel as of December 31, 2020, and the results of its operations and its cash flows for the year then ended in accordance with generally accepted accounting principles in the UK.
AUDITOR'S SIGNATURE
Mrs. G Francis Address 37 Llysgwyn Terr. Pontarddulais Date: 31 January 2021
Cynllun Rhodd Cymorth Cyfraniadau 2019
----- Start of picture text -----
£ c
Nia Besley 60 00
Sheila Brenchley 45 00
Janice Byrne 75 00
Linda Card 30 00
Jennifer Clarke 105 00
----- End of picture text -----
23
----- Start of picture text -----
Heledd Clarke 37 50
Owain Clarke 37 50
Hilary Cotterell 30 00
Jennifer Dark 70 00
Sara David 45 00
Nerys Davidson 30 00
Adrian a Eira Davies 45 00
Cerith Davies 12 50
Ffion Davies 5 00
Brinley Davies (M) 25 00
Mair Davies 37 50
Gerald Davies 75 00
Betty Davies 75 00
Hugh Davies 45 00
Meinir Davies 45 00
Aled Davies 22 50
Iestyn Davies 22 50
Robert Davies 75 00
Karen Denise Davies 75 00
Susan Delbridge 15 00
Alun a Gwenda Evans 106 00
Claire Evans 72 50
Eryl Evans 87 50
Handel Evans 25 00
Mair Evans 30 00
Petrina Evans 31 25
Sioned Evans 90 00
Stuart Evans 30 00
Mark Ford 60 00
Aled Francis 75 00
Robert Francis 50 00
Rhian Gealy 30 00
Carol Griffiths 30 00
Steffan Griffiths 45 00
John Harry 102 50
Bethan Mair Hughes 30 00
Jean Huxtable 45 00
Michael Irons 90 00
----- End of picture text -----
24
----- Start of picture text -----
Cathy Irons 90 00
Elen Jones 45 00
Eric Jones 112 50
Gwen Jones 112 50
Iwan Jones 60 00
Luned Mair Jones 60 00
Lisa Jones 7 50
Marie Lynne Jones 150 00
Mathew Jones 6 25
Dianne Jones 6 25
Ian Jones 6 25
Meinir Jones 51 00
Rhys Jones 60 00
Luned Manon Jones 60 00
Philip a Vicky Jones 60 00
Vivian Jones 125 00
Mary Jones 125 00
Adrian Killa 30 00
Angela Killa 30 00
Huw a Rhiannon Killa 120 00
Maureen Lewis 5 13
Ruth Lewis 60 00
Wynford Leyshon 87 50
Susan Leyshon 87 50
Eluned Lloyd 30 00
Huw a Gaynor Miles 105 00
Ifor Miles 62 50
Gwenda Miles 62 50
Ann Ohlsson 35 25
Garry a Lee Owen 210 00
Huw Philpot 30 00
Hywel a Indeg Powell 90 00
Barbara Rees 50 00
Leonard a Heulwen Rees 36 00
Meirion Rees 42 50
Eirwen Richards 45 00
Alan Richards 12 50
Garry Richards 12 50
----- End of picture text -----
25
----- Start of picture text -----
Huw Richards 150 00
Carole Richardson 12 50
Jean Samuel (M) 50 00
Gwyn a Nia Stephens 25 00
Sian Teggin 30 00
Dianne Thomas 60 00
Garry a Elizabeth Thomas 75 00
Joanne Easter Thomas 72 50
Margaret Thomas 75 00
Rhian Thomas 55 00
William Thomas (M) 71 25
Lisa Tucker 30 00
Gareth Watkins 71 25
Hywel Watkins 75 00
Andrea Williams 24 00
Averil Williams 55 00
Harri Williams 70 00
Meic Williams 60 00
Rahel Williams 60 00
Rhif 33 37 50
Rhif 34 40 00
Cyfanswm y Cyfraniadau 5,749 88
Anita Appleton
Ann Biston
Rhian Evans (Edwards)
Ashley Evans
Susan Goss
Meinir Hughes
Sian Huxtable
Anne Morgan
Mair Renowden
Marc Tiplady
Nest Tiplady
Desna Thomas
Jonathan Williams
Cyfanswm y cyfraniadau
465.25
----- End of picture text -----
26
| 2 aelod sy’n dymuno aros yn ddi-enw Cyfanswm cyfraniadau 40.00 |
2 aelod sy’n dymuno aros yn ddi-enw Cyfanswm cyfraniadau 40.00 |
|---|---|
| Cyfanswm | 6,255.13 |
| Llôg | 13.20 |
| Casgliadau Rhydd (Yr Ysgol Sul) |
570.85 |
| CYFANSWM | 6,839.18 |
Cymeradwywyd yr Adroddiad hwn ac fe’i harwyddwyd gan yr Ymddiriedolwyr:
Ann Easter
Huw Killa Jennifer Clarke
Medi 2021
27