OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

Adroddiad y Cadeirydd

2023–24

Braint unwaith eto oedd cael mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan i rannu efengyl Iesu Grist yn 2023. Ein prif waith oedd crwydro’r maes yn sgwrsio â phobl ifanc, ac at hyn defnyddiwyd thema ‘lle i enaid gael llonydd’. Roeddem yn gofyn i bobl ble roedden nhw’n cael llonydd neu heddwch, ac esgorodd hyn ar sawl sgwrs fendithiol. Ar gyfer y rheini oedd â diddordeb yn yr efengyl, roedd gennym dractiau i’w rhoi iddynt; ar un ochr roedd llun hardd a geiriau Salm 121:1–2, ac ar y llall roedd crynodeb o’r hyn yr ydym fel Cristnogion yn ei gredu. Roedd aelodau o’r tîm hefyd yn gwisgo hwdis â’r un dyluniad â’r tractiau, ac roedd hyn yn gallu bod yn help ar gyfer dechrau sgwrs. Cafwyd sawl her, ac roedd dechrau sgwrs yn un ohonynt, yn ogystal â chyrraedd pobl dan 21 oed ar faes llawn teuluoedd a phobl hŷn. Er hyn, gwnaed gwaith gwerthfawr, a’n gweddi nawr yw y bydd Duw yn parhau â’i waith yng nghalonau’r bobl a welsom ac y byddant yn dod i gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist a’i gyffesu yn Arglwydd ac yn Waredwr.

Yn ogystal â hyn, roedd aelodau o dîm y Gorlan yn cydweithio â gwirfoddolwyr Mudiad Efengylaidd Cymru ar stondin ‘Bywyd’. Ar y stondin hon, roeddem yn gofyn i bobl fyfyrio ar eu bywyd, ac i ystyried sut y byddent yn eu disgrifio eu hunain. Eto, esgorodd hyn ar nifer o sgyrsiau da, a gwelsom rai pobl yn dychwelyd atom am sgwrs sawl gwaith yn ystod yr wythnos. Ein gweddi yw y bydd Duw yn rhoi bywyd newydd yng nghalonau’r bobl hyn hefyd er clod iddo ef ei hun.

Bob bore, roeddem yn cynnal cyfarfodydd gweddi ar gyfer y tîm dan arweiniad aelodau o’r pwyllgor yn ogystal â’n caplaniaid, Y Parch Bryn a Nia Williams, Pwllheli. Roedd y cyfarfodydd hyn yn fendithiol iawn i aelodau’r tîm ac rydym yn ddiolchgar i’r Arglwydd am ei gynhaliaeth gydol yr wythnos. Darllenasom lythyr cyntaf Ioan gyda’n gilydd, ac roedd ymdeimlad bod y Gair hwn wedi siarad â ni mewn ffordd real a pherthnasol iawn.

Hoffwn fynegi fy niolch personol i bwyllgor a thîm y Gorlan am eu cariad tuag at yr Arglwydd Iesu a’r gymdeithas sydd gennym â’n gilydd trwyddo. Braint yn wir oedd cael bod yn rhan o dîm o bobl a oedd mor frwd dros waith y Deyrnas. Hoffem fel pwyllgor ddiolch i’r Parch Bryn a Nia Williams am eu cefnogaeth cyn ac yn ystod yr wythnos, ac i Wini Jones am agor ei chartref ym Mynydd Nefyn inni yn ystod yr wythnos. Hoffem ddiolch hefyd i bawb a gefnogodd y gwaith, yn ariannol, ond yn bwysicaf mewn gweddi.

Ein gweddi yw y bydd y gwaith pwysig o rannu am gariad aberthol Iesu Grist yn parhau yng Nghymru am flynyddoedd, ac y bydd yna dywalltiad o’r Ysbryd Glân yn ein gwlad gan ddod â llawer eto i gredu yn y Gwaredwr. Dyma’r unig obaith i fyd diobaith a phechadurus, a chawn gysur yng ngeiriau ein Duw: ‘Myfi, myfi yw’r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi.’ (Eseisa 43.11).

1

Mantolen

Derbyniadau (£) Taliadau (£)
Yn y Cyfrif ar 31ain Mawrth
2023
3,829.23
Ymgyrch 2,498.33
Rhoddion 1,145.00
Yn y Cyfrif ar 31ain Mawrth
2024
2,475.90
Dyddiad Arian Disgrifad Categori
02/06/2023 -£591 Pebyll Ymgyrch
03/07/2023 +£1,000 Rhodd Rhodd
20/09/2023 -£23 Ad-dalu tocyn Eisteddfod Ymgyrch
20/09/2023 -£77 Ad-dalu tocynau Eisteddfod Ymgyrch
20/09/2023 -£80.79 Ad-dalu costau Eisteddfod Ymgyrch
20/09/2023 -£167 Ad-dalu tocynau Eisteddfod Ymgyrch
20/09/2023 -£713.54 Ad-dalu tocynau Eisteddfod
& Crysau-T
Ymgyrch
20/09/2023 -£846 Ad-dalu costau Eisteddfod Ymgyrch
20/03/2024 +£145 Rhodd Rhodd