OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-03-31-accounts

Adroddiad y Cadeiryddion

Y Gorlan

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd am alluogi i’r Gorlan gynnal ymgyrch ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn 2022. Roedd dwy brif elfen i’n cenhadaeth yn Nhregaron. Yr elfen gyntaf oedd cynorthwyo pabell ‘Bywyd’ gyda’i hymgyrch genhadol ar brif faes yr Eisteddfod. Wedi’i noddi gan Fudiad Efengylaidd Cymru, bwriad pabell Bywyd oedd tystio i Iesu a’r ‘bywyd yn ei holl gyflawnder’ (Ioan 10:10) sydd i’w gael ynddo. Yn ystod yr wythnos, cafodd tîm y Gorlan nifer o sgyrsiau diddorol ag eisteddfodwyr ynglŷn â Duw, yr Arglwydd Iesu a chwestiynau mawr bywyd. Er mwyn ein helpu i gychwyn sgyrsiau â’r rhai oedd yn pasio, roedd Steff Job wedi paratoi holiadur defnyddiol a oedd yn annog pobl i fod yn onest ynglŷn â’u barn am Dduw a Christnogaeth.

Yr ail elfen o’n cenhadaeth oedd cynnal sgyrsiau â phobl ifanc ar faes yr Eisteddfod trwy ofyn iddynt gymryd rhan mewn cyfweliad voxpop. Voxpop ( vox populi : ‘llais y bobl’) yn syml yw cyfweliad fideo byr lle mae nifer o bobl yn cael eu holi i ateb cwestiwn penodol. Mae nifer o’r cyfweliadau hyn i’w gweld ar ein sianel YouTube (https://www.youtube.com/@ygorlan8444). Y cwestiwn mawr a ofynnwyd i eisteddfodwyr ifanc Tregaron oedd: ‘Ydy Cristnogaeth yn fwy na thraddodiad yng Nghymru heddiw?’ Cynigiwyd atebion amrywiol i’r cwestiwn hwn, sy’n awgrymu’n gryf nad oedd ieuenctid Cymru’n sicr o natur eu perthynas â Christnogaeth. Er hynny, roedd yr atebion hefyd yn awgrymu bod rhai’n gallu gwahaniaethu rhwng traddodiad marw a ffydd fyw yn Iesu Grist.

Yn ogystal â’r uchod, cafwyd cyfarfodydd gweddi dyddiol yn ystod yr Eisteddfod o dan arweiniad aelodau o dîm y Gorlan er mwyn gofyn i’r Arglwydd ein helpu trwy nerth yr Ysbryd Glân. Rydym yn ddiolchgar i’r Arglwydd am ein cynnal drwy’r gwaith, ac am gwmni ac anogaethau Cristnogion eraill ar y maes gydol yr wythnos. Cafodd tîm y Gorlan hefyd y fraint o recordio oedfa Radio Cymru gyda John Roberts yn ystod yr wythnos. Roedd hwn yn gyfle gwych i dystio i gynulleidfa genedlaethol am Iesu a’i efengyl.

Rydym yn hynod o ddiolchgar i bwyllgor a thîm y Gorlan am eu cariad tuag at yr Arglwydd Iesu a’u parodrwydd i rannu’r newyddion da amdano yn Nhregaron. Hoffem fynegi ein diolch yn arbennig i Lewis Brunt a Siwan Fflur Davies sy’n ymddeol o’r pwyllgor wedi blynyddoedd o wasanaeth. Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd Duw yn eu defnyddio yn y dyfodol.

Bydded i’r Arglwydd fod ar waith yng nghalonnau’r bobl a glywodd yr efengyl er mwyn iddynt ymddiried ynddo a phrofi diogelwch ei gorlan ef. Ein gobaith yw y caiff llawer o bobl glywed efengyl iachawdwriaeth yn yr

1

Eisteddfod ym Moduan eleni, ac y caiff rhai eto eu hachub drwy ras yr Arglwydd Iesu Grist.

Gwilym Tudur (cyn-gadeirydd), Gruffydd Rhys Davies (cadeirydd)

2

Mantolen Y Gorlan 2022-23 Mantolen Y Gorlan 2022-23 Mantolen Y Gorlan 2022-23
Derbyniadau Taliadau
£ £
Yn y Cyfrif ar 31ain
Mawrth 2022
3,247.23
Storio 600.00
Gwefan 108.00
Rhoddion 1,290.00
Yn y Cyfrif ar 31ain
Mawrth 2023
3,829.23

Wedi’i archwilio a’i gael yn gywir:

Dyddiad Arian (£) Disgrifad Categori
01/04/2022
-£50.00
Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
03/05/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/06/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/07/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/08/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/09/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
03/10/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/11/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/12/2022 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
03/01/2023 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/02/2023 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
06/02/2023 -£108.00 1310 Wix.com
10383
Gwefan
01/03/2023 -£50.00 Bedwyr T Davies
StoreRooms
Storio
01/03/2023 +£540.00 EGLWYS EFENG
ARDUDWY
Rhodd
13/03/2023 +£500.00 TABERNACL
RESOLVEN
Rhodd
31/03/2023 +£250.00 cheque Rhodd

3