## **Adroddiad y Cadeirydd**

Yn ddi-os, bu 2020 yn flwyddyn dra gwahanol i bawb yng Nghymru a’r byd. Nid yw’n syndod, felly, y bu 2020 yn flwyddyn cwbl unigryw i waith a chenhadaeth y Gorlan hefyd. Pan wnaeth Pwyllgor Gwaith y Gorlan gyfarfod yn yr Amwythig ar gyfer cyfarfod cyntaf y flwyddyn ym mis Chwefror, nid oeddwn yn gwybod bryd hynny fod pandemig byd-eang yn mynd i effeithio ar bob agwedd o’n bywydau bob dydd. Yn y cyfarfod hwn, roeddem yn cymryd yn ganiataol fod yr Eisteddfod yn mynd i ddigwydd yn Nhregaron ym mis Awst 2021 a dyna, yn wir, oedd prif destun ein trafodaeth.

Erbyn ail gyfarfod y pwyllgor ar Skype ym mis Mawrth 2020, nid oedd Covid-19 bellach yn firws pell yn China ond yn afiechyd difrifol oedd yn effeithio ar bob rhan o’r byd. Bryd hynny, roedd hi’n gwbl amlwg fod sefyllfa’r Eisteddfod Genedlaethol yn ansicr. Ar 30[ain] o Fawrth 2020, cadarnhawyd ein holl bryderon wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi na fyddai’r wŷl yn cael ei chynnal eleni. Yn amlwg, nid oedd y cyhoeddiad hwn yn un annisgwyl, ond er gwaetha hynny, roedd yn sialens i waith y Gorlan. Gan mai ein prif nod ni yw rhannu’r newyddion da am Iesu Grist ar amrywiol feysydd yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd y cyhoeddiad hwn yn ein gorfodi ni i ofyn y cwestiwn: Sut fyddai gwaith a chenhadaeth y Gorlan yn edrych eleni heb yr Eisteddfod Genedlaethol? Yn fuan wedi’r cyhoeddiad hwn, dyma’r Gorlan hefyd yn cyhoeddi hysbyseb ar ein gwefan yn esbonio ein bod yn cytuno gyda phenderfyniad yr Eisteddfod i ohirio a’n bod yn gweddïo dros drefnwyr yr Eisteddfod yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Gwaith y Gorlan ym mis Mai 2020, dyma ni’n mynd ati i drafod beth allwn ni wneud i rannu’r Efengyl eleni. Yn y cyfarfod hwn, dyma ni’n trafod y syniad o recordio a rhannu fideos byr o bobl yn rhannu eu tystiolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Ein bwriad oedd casglu fideos gan bobl sydd wedi gwirfoddoli i’r Gorlan ar hyd y blynyddoedd gan ofyn iddynt sut mae’r gwirfoddoli i’r Gorlan wedi cryfhau eu ffydd yn Iesu Grist. Ar ôl ffilmio’r fideos, y bwriad oedd eu rhannu ar Facebook a Twitter yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen. Er bod y syniad yma yn un da, gwaetha’r modd, ddaru ni ddim llwyddo i wneud hyn yn y diwedd.

Er ei bod hi wedi bod yn flwyddyn heriol (a thawel) i’r Gorlan eleni, rydym – fel Pwyllgor Gwaith – yn edrych ymlaen at bob cyfle a gawn yn ystod y flwyddyn nesaf i rannu’r newyddion da am Iesu Grist gyda’r Cymry Cymraeg. Ni fydd Covid-19 yn diflannu yn fuan: mae hynny bellach yn gwbl amlwg. Felly, mae’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd newydd a gwreiddiol i’r Gorlan fynd ati i rannu’r Efengyl yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Ni allwn ni fod yn sicr y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd yn 2021. Yn wir, mae’n amhosibl rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol! Ond, er bod ein hamgylchiadau yn gwbl ansicr, gallwn ni fod yn gwbl sicr yn Iesu Grist. Fel mae Hebreaid 13:8 yn dweud: ‘Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth.’ Gallwn ni fod yn gwbl sicr am wirionedd y newyddion da am Iesu ac am angen y Cymry i edifarhau a chredu ynddo Fe. Boed yr Eisteddfod yn digwydd flwyddyn nesaf neu boed lockdown arall ym mis Awst – mae’r Cymry angen clywed am Iesu. Ar faes yr Eisteddfod neu trwy fideos ar y we, ein braint yw rhannu am Iesu gyda’r Cymry Cymraeg.

Yn ychwanegol at hyn, mae amryw o faterion ymarferol mae’n rhaid i’r Gorlan ddelio â nhw cyn gynted â phosibl:

1

1. **Aelodau newydd i’r Pwyllgor Gwaith.** Yn gyntaf, mae’n rhaid i’r Gorlan gael aelodau newydd ar y Pwyllgor Gwaith. Yn dilyn ymddeoliad Angharad fel Trysorydd y Pwyllgor ym mis Hydref, rydym yn chwilio am drysorydd newydd. Hyd yn hyn, nid ydym wedi ffeindio unrhyw un i ymgymryd â’r gwaith. Mae’n rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, wedi ymddeoliad Trey fel Swyddog Ariannol y Pwyllgor ym mis Medi, rydym angen aelod newydd ar y pwyllgor i ymgymryd gyda’r gwaith hwn.

2. **Codi Arian.** Mae’n rhaid i’r Gorlan fynd ati i godi arian yn ystod y misoedd nesaf. Gan nad yw’r Gorlan wedi bod yn gwneud elw ar werthiant bwyd a diod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym bellach mewn tipyn o argyfwng ariannol gan nad ydym wedi derbyn elw cyson. Ar hyn o bryd, mae gennym ddigon o arian i ariannu un genhadaeth arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Wedi hynny, nid fydd arian ar ôl yng nghyfrif banc y Gorlan. Oherwydd hyn, mae’n rhaid i ni fynd ati o ddifrif i gynnal ymgyrch codi arian ymhlith Cristnogion, eglwysi, ac enwadau Cymru.

3. **Gweddi.** Mae’n rhaid i ni weddïo yn fwy cyson dros waith a chenhadaeth y Gorlan ac annog eraill i wneud hynny! Fel mae Salm 127:1 yn ei ddweud: ‘Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ, mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer.’ Rydym angen dibynnu yn llwyr ar yr Arglwydd yn ein gwaith! Wedi’r cyfan, hebddo Fe a heb waith yr Ysbryd Glân yn eu calonnau, ni all neb droi ato Fe a chredu yn Iesu. Dylai’r flwyddyn nesaf, felly, fod yn un lle’r ydym yn canolbwyntio yn benodol ar weddïo. Ffordd wych o wneud hyn ydy trwy sicrhau fod pwyntiau gweddi misol yn cael eu hanfon at holl gefnogwyr y Gorlan ar ein cylchlythyr.

Gwilym Tudur _Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Gorlan_

2

## **Mantolen Y Gorlan 2020-21**

**----- Start of picture text -----**

Derbyniadau Taliadau

Yn y Cyfrif 31ain 4,606.03
Mawrth 2020
Storio 550
Gwefan 104.40
Yn y cyfrif 31ain 3,951.63
Mawrth 2021
**----- End of picture text -----**

Wedi ei archwilio a’r ddarganfod yn gywir

Daron Stewart-Jones Arwyddwyd 14/01/2022

## **Taliadau**

**----- Start of picture text -----**

Dyddiad Arian (£) Disgrifad Categori
01/05/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
01/06/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
01/07/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
03/08/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
01/09/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
01/10/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
02/11/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
01/12/2020 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
04/01/2021 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
01/02/2021 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
08/02/2021 86.40 1310 WIX Gwefan
COM*PREMI
22/02/2021 18.00 1310 and 1 Gwefan
IONOS
01/03/2021 50.00 Bedwyr T Davies Storio
Store Rooms
**----- End of picture text -----**