ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y cyfnod 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024
Sefydliad Corfforedig Elusennol Rhif elusen: 1155539 www.eisteddfod.cymru
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYNNWYS
| Adroddiad yr Ymddiriedolwyr: | |
|---|---|
| Amcanion a Gweithgareddau’r elusen | 2 |
| Cyflawniadau a Pherfformiad | 4 |
| Adolygiad Ariannol | 11 |
| Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol | 14 |
| Strwythur, Llywodraethu a Rheoli | 15 |
| Cynlluniau’r Dyfodol | 18 |
| Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol | 19 |
| Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol | 22 |
| Mantolen | 23 |
| Datganiad o’r Llif Arian | 24 |
| Nodiadau i’r datganiadau ariannol | 25 |
1
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Adroddiad yr ymddiriedolwyr am y cyfnod 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024
Mae'r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a datganiadau ariannol yr elusen am y cyfnod o 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024. Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â'r polisïau cyfrifyddu a nodir yn nodyn 1 i'r cyfrifon ac yn cydymffurfio â chyfansoddiad yr elusen, Deddf Elusennau 2011, Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau (SORP) sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102).
AMCANION A GWEITHGAREDDAU'R ELUSEN
Amcanion yr Eisteddfod, er budd y cyhoedd yng Nghymru a ledled y byd, yw:
- hyrwyddo addysg y cyhoedd yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru, y gwyddorau a’r iaith Gymraeg; a hyrwyddo, cadw a diogelu treftadaeth a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, drwy unrhyw ddull a modd yr ystyrir yr ymddiriedolwyr yn dda yn cynnwys trwy gynnal gŵyl genedlaethol yn flynyddol, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn gweithredu i gyflawni’r amcanion hyn trwy ddilyn yr ymrwymiadau a ganlyn:
-
Y Gymraeg yw iaith gweithgareddau’r Eisteddfod a’r Ŵyl. Tra’n parchu’r egwyddor hon, dylid sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r di-gymraeg, a gweithgareddau i’r rhai hynny
-
sy’n dysgu’r Gymraeg.
-
Bwriedir i’r Eisteddfod barhau i fod yn Ŵyl deithiol/symudol. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r cymunedau lleol, Cymdeithas awdurdodau lleol Cymru a chyrff eraill, dylid ymdrechu i sicrhau bod yr ymweliadau’n gymorth i hyrwyddo adnewyddiad y cymunedau, a bod y budd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i’r ardaloedd hynny yn sylweddol a pharhaol.
-
Bwriedir i’r Eisteddfod Genedlaethol ddathlu egni a chyfoesedd yr iaith Gymraeg, ardderchowgrwydd diwylliant Cymru, a thraddodiadau gwerthfawr a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth.
-
Bwriedir i’r Eisteddfod barhau i fod yn Ŵyl gystadleuol yn ei hanfod. Dylid adolygu nifer
-
a natur y cystadlaethau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn addas a pherthnasol i’r cyfnod.
-
Bwriedir i’r Eisteddfod hefyd fod yn llwyfan i’r goreuon yn amrywiol agweddau’r diwylliant Cymreig a’r celfyddydau yng Nghymru, boed amatur neu broffesiynol.
-
Rhaid sicrhau strwythur rheoli a threfnu effeithiol sy’n cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol ac ymarferol sy’n bodoli er mwyn sicrhau gweithredu amserol a diwastraff gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau. Dylai’r rheolaeth fod yn agored a thryloyw ac yn parchu egwyddorion sylfaenol priodoldeb a llywodraeth gorfforaethol yn gyffredinol.
-
Dylid cydweithio gyda chyrff lleol a chenedlaethol (cyrff cyhoeddus, cyrff gwirfoddol a chwmnïau preifat) a chymunedau Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant yr Ŵyl.
-
Ni ddefnyddir eiddo’r Eisteddfod at ddibenion nad ydynt yn elusennol.
2
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
AMCANION A GWEITHGAREDDAU'R ELUSEN
Budd cyhoeddus
Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod nhw wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd yn adran 17 o Ddeddf Elusennau 2011 i roi sylw priodol i'r canllawiau budd cyhoeddus a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennol wrth benderfynu ar ein gweithgareddau.
Amcanion craidd yr Eisteddfod Genedlaethol yw hyrwyddo diwylliant Cymru a diogelu iaith, hanes a thraddodiadau Cymru mewn cymdeithas amrywiol fodern. Mae gŵyl flynyddol yn cael ei chynnal i ddathlu popeth Cymreig ac i ddatblygu diwylliant Cymru o fewn y brif ffrwd drwy:
-
Annog pobl i ddefnyddio a dysgu’r iaith Gymraeg;
-
Hyrwyddo diwylliant, bwyd, tirlun a threftadaeth Cymru sy’n adlewyrchu Cymru;
-
Arddangos perfformwyr Cymreig i gynulleidfa ehangach;
-
Darparu canolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
Mae’r ŵyl yn hyrwyddo a’n hybu'r defnydd o’r iaith Gymraeg, trwy arddangos talent o Gymru. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ymglymu artistiaid, cerddorion, perfformwyr, busnesau, addysg a darparwyr cymdeithasol. Mae’r holl bobl leol a’r holl fusnesau lleol yn cael eu hannog i fynd ati i gymryd rhan, gan greu cyfuniad â blas Cymreig arbennig i adlewyrchu diwylliant, traddodiadau a gwerthoedd pobl Cymru.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cyflawni ei hamcanion craidd trwy:
-
Arddangos hunaniaeth ddiwylliannol unigryw a threftadaeth Cymru; annog pobl i ddathlu hanes a diwylliant Cymru;
-
Feithrin a chynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ymysg pob grŵp oedran;
-
Ddarparu cyfleoedd cyffrous i ysgolion a chymunedau trwy gydol Cymru i gymryd rhan ynddynt;
-
Ddarparu cyfleoedd i’n hartistiaid Cymreig blaenllaw i arddangos eu talentau;
-
Ddod yn hygyrch i gynulleidfa fwy eang o wahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd, trwy ddod â’r Eisteddfod i mewn i’r oes fodern;
-
Hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymysg busnesau yn y sector preifat;
-
Gynyddu proffil Cymru ar lefel rhyngwladol;
-
Gydlyniant cymunedol trwy weithredu a chymryd rhan yn wirfoddol yn lleol;
-
Weithio gyda sefydliadau lleol i gryfhau Cymru a’i chymunedau;
-
Godi proffil a phoblogrwydd canu corawl yng Nghymru;
-
Arloesi gyda thechnoleg newydd e.e. y cyntaf yn y Byd i we-ddarlledu’n fyw yn y Gymraeg yn 2000, a’r rhaglen Gymraeg gyntaf ar gyfer yr iPhone yn 2010;
-
Annog datblygiad addysgol;
-
Gryfhau llwyfan Cymru;
-
Gynyddu cystadleuaeth iach a gwaith tîm;
-
Annog pobl i gyfrannu o gefndiroedd di-gymraeg;
-
Adeiladu pontydd rhwng pobl o ethnigrwydd a chenhedloedd amrywiol.
3
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023
Y Cronfeydd lleol a nawdd: Llwyddodd y Gronfa Leol i gyrraedd £522,000, diolch i gymunedau Llŷn, Eifionydd ac Arfon. Yn ogystal â chodi arian, Pwyllgor y Gronfa Leol fu’n arwain y gwaith o harddu’r ardal, ac unwaith eto eleni, roedd y dalgylch yn lliwgar ac yn hwyliog iawn.
Rydyn ni’n ddiolchgar i gadeiryddion Bangor a Chaernarfon am gytuno i gymryd rhan mewn prosiect peilot i gynnig cefnogaeth a chyngor i rai o bwyllgorau Rhondda Cynon Taf, fel ffordd o rannu arbenigedd a syniadau rhwng ardaloedd. Mae hyn yn ffordd o ddefnyddio ein gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau ei gilydd. Braf hefyd oedd gweld cydweithio rhwng pwyllgorau testun a’r pwyllgorau cronfa leol, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal ar y cyd, wedi’u hysbrydoli gan syniadau’r pwyllgorau testun.
Roedd y gronfa nawdd yn dalcen caled ar adegau, ond llwyddwyd i gyrraedd y nod, a diolch i Michael Strain am ein helpu i sicrhau hyn. Rydyn ni’n gweithio ar gyfres o becynnau nawdd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf er mwyn cychwyn ar y gwaith o sicrhau nawdd yn Wrecsam yr un pryd â’r Gronfa Leol.
Cystadlu: Eleni, am y tro cyntaf, roedd rhaid i bawb gofrestru i gystadlu ar-lein. Diolch i Iwan Standley am ddatblygu system sy’n unigryw i’r Eisteddfod, sy’n gofalu am ein cystadleuwyr o’r diwrnod maen nhw’n penderfynu cystadlu hyd at dderbyn tystysgrif, gwobr a beirniadaeth yn electronig. Mae angen mireinio’r system, ac rydyn ni’n gweithio ar fersiwn 2.0 ar gyfer 2024.
Rydyn ni’n parhau i gael trafferthion gyda chystadleuwyr yn peidio â chyflwyno copïau perfformio mewn pryd. Mae hon yn broblem oesol, ac unwaith eto eleni, rydyn ni’n argymell ein bod yn cadw at y dyddiadau cau’n fwy haearnaidd, er mwyn ceisio torri i lawr ar y pwysau ar feirniaid, cyfeilyddion a staff.
Problem oesol arall yw’r ffaith fod unigolion yn tynnu’n ôl yn hwyr yn y dydd, ac rydyn ni’n awyddus i gael gwybod pam. Rydyn ni’n ymwybodol bod rhai pobl yn tynnu’n ôl oherwydd nad ydyn nhw wedi ymarfer digon, ac rydyn ni’n bwriadu cynnal ymarferiad i weld beth yw’r ganran o gystadleuwyr yn tynnu’n ôl neu ddim yn troi i fyny i ragbrawf ar ôl derbyn eu tocyn maes drwy e-bost.
Gweithiodd yr egwyddor o gynnal rhagbrofion yn y canolfannau sy’n ymwneud â’r genre’n dda, a byddwn yn dymuno parhau â hyn, er nad yw’n sicr y bydd modd gwneud pob blwyddyn oherwydd gofod ar y Maes.
Eleni, arbrofwyd gyda chystadlaethau dawns, gan gynnal Gŵyl Ddawns yn y Pafiliwn Mawr nos Lun. Roedd hyn yn gyfuniad o gystadlaethau dawnsio cyfoes a gwerin, gan roi gwell ffocws i ddawnsio yng Nghymru. Gweithiodd elfennau o’r ŵyl, gydag awyrgylch hyfryd yn y Pafiliwn a chynulleidfa dda ar gyfer y rhan fwyaf o’r noson. Crëwyd ecstrafagansa ddawns-perfformiad uchelgeisiol yn cyfuno’r cyfoes a’r gwerin-a gorffennodd y noson gyda thwmpath arbennig ar lwyfan y Pafiliwn. Yn gyffredinol, roedd yr ymateb yn bositif, ond bydd angen edrych ar y cystadlaethau i’w cynnwys, er mwyn sicrhau nad oes disgwyl i’r un cystadleuwyr ddawnsio gormod mewn un noson, ynghyd â pha noson y dylid cynnal yr ŵyl.
Rydyn ni’n ymwybodol nad yw ein gwobrau wedi codi ers blynyddoedd, ac mae’r tal cystadlu cyfredol yn ei le ers degawd a mwy. Mae angen edrych ar ein grantiau teithio ac ystyried ai creu bwrsariaethau lle mae’n rhaid ymgeisio’n ffurfiol amdanyn nhw.
4
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Darlledu: Yn gyffredinol, roedd yr ymateb i’r darlledu’n bositif, er bod y cystadleuwyr dawns yn siomedig gyda’r ffaith na ddangoswyd yr Ŵyl Ddawns yn ei chyfanrwydd. Roedd y darlledwyr yn fodlon gyda’r ymateb i’r rhaglenni, gyda S4C a BBC yn canmol nifer y gwylwyr a’r gwrandawyr, gan nodi mai dyma’r nifer mwyaf dros y ddegawd ddiwethaf, a bod ffigurau gwylio’r rhaglenni’n uwch na ffigurau unrhyw ddigwyddiadau byw eraill ar y sianel.
Cyngherddau: Gwerthodd y cyngerdd agoriadol, Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory a dwy noson Cabarela o fewn ychydig oriau. Doedd dim modd gynnal berfformiad arall o gyngerdd y Côr yn y Pafiliwn felly roedd dau berfformiad ychwanegol wedi’u trefnu yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar 20 - 21 Ionawr 2024.
Roedd y Pafiliwn yn llai na hanner llawn ar gyfer Gig y Pafiliwn, ac ni fyddwn yn trefnu digwyddiad tebyg yn y dyfodol agos.
Penderfynwyd cynnal ymarferion y cyngherddau cyn i’r cystadlu gychwyn yn y boreau, er mwyn lleihau cyfnod llogi’r pafiliynau a’r offer. Yn sgil hyn, cododd costau goramser ein staff technegol yn arw, gan effeithio ar wir gostau’r cyngherddau.
Yr incwm darlledu sy’n sicrhau fod ein rhaglen gyngherddau’n hyfyw, ac eleni, dim ond dwy noson a brynwyd gan S4C (y cyngerdd agoriadol a’r Gymanfa). Rydyn ni’n ymwybodol bod llai o bobl yn fodlon talu i ddod i gyngerdd ar ôl talu am fynediad i’r Maes. Gyda chymaint o weithgareddau amrywiol o amgylch y Maes tan yn hwyr, mae angen cwestiynu nifer y cyngherddau a drefnir, os nad dyfodol y rhaglen gyngherddau yn ei chyfanrwydd.
Eleni, penderfynodd y tîm artistig arbrofi gyda fformat gwahanol ar Lwyfan y Maes nos Lun, drwy ddilyn patrwm Proms yn y Parc a chynnal noson gyda Welsh of the West End ar y Llwyfan yn hytrach nag yn y Pafiliwn. Gweithiodd hyn yn dda gyda miloedd yn gwylio, heb orfod talu am docyn ychwanegol. Rydyn ni’n awyddus i arbrofi gyda’r cysyniad ‘cyngerdd’ ar Lwyfan y Maes ymhellach yn y dyfodol, gan gymharu costau noson o’r fath gyda chyngerdd traddodiadol yn y Pafiliwn.
Is-bafilynau: Yn dilyn beirniadaeth bod gormod o ddigwyddiadau nos ar y Maes y llynedd, penderfynwyd torri i lawr eleni, gan greu rhaglen boblogaidd a deniadol. Rhannwyd y Cwt Cabaret rhwng y Babell Lên ac Encore, gyda’r noson reggae a noson hwyr Mei Gwynedd yn boblogaidd.
Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r arlwy theatrig yng Nghaffi Maes B, gan ddenu cynulleidfaoedd o bob oed i gael blas ar berfformiadau amrywiol. Roedd y Tŷ Gwerin yn orlawn bob noson, gyda nifer fawr yn galw am adeilad mwy, gan fod cannoedd heb allu cael lle.
Roedd y niferoedd a arhosodd ar y Maes yn hwyr eleni’n uwch nag erioed o’r blaen, a’r cyfuniad o’r lleol a’r cenedlaethol yn y rhaglen nos wedi apelio at y gynulleidfa graidd yn arbennig.
Tân yn Llŷn: Tân yn Llŷn oedd y ‘sbectacl’ mawr ar ddiwedd yr ŵyl eleni, yn sioe dân gweledol, gan ddatblygu’r hyn a gafwyd gyda Dadeni yn 2022. Roedd y sioe’n edrych yn wych, ond roedd y trefniadau’n heriol iawn. Yn ogystal â pherfformiad gweladwy, roedd Tân yn Llŷn, fel Dadeni y llynedd, yn cynnwys elfen gref o fentora a datblygu sgiliau perfformwyr a thechnegwyr. Cafodd cwmni Cimera brofiad gwerthfawr wrth fod ynghlwm â phrosiect ar raddfa mor eang, a bydd hyn yn eu galluogi nhw i ddatblygu perfformiadau mwy uchelgeisiol yn y dyfodol.
5
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Mae cynnal sbectacl yn rhan bwysig o’r weledigaeth artistig, ac yn ddibynnol ar ddenu arian ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac felly mae’r gallu i drefnu digwyddiad gweladwy ar raddfa’n ddibynnol ar gyllid o flwyddyn i flwyddyn.
Maes B: Gyda’r tocynnau cyfnod wedi’u gwerthu cyn dechrau’r ŵyl, a thocynnau gig Bwncath ar y nos Sadwrn olaf wedi gwerthu allan, eleni oedd gwerthiant gorau Maes B ers dros ddegawd.
Gwerthwyd y rhan fwyaf o’r tocynnau i bobl ifanc o dan 18 oed, a chan gyplysu hyn gyda’r ffaith fod miloedd yn fwy na’r disgwyl wedi cyrraedd wrth i Faes B agor y giatiau amser cinio dydd Mawrth, bu’n rhaid i rai pobl ifanc giwio am oriau. Rhoddwyd y tîm lles i oruchwylio’r ciw er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw broblemau.
Pafiliwn Mawr a’r Pafiliwn Bach: Gyda llai o gyngherddau’n cael eu gwerthu i S4C, a dim angen adnoddau ffilmio a goleuo mor gymhleth ar gyfer y cystadlu, eleni roedd dau bafiliwn llai ar y Maes, gan arbed costau sylweddol. Cyhoeddwyd hyn yr un pryd â’r penderfyniad i newid trefn cystadlaethau torfol, ac felly, roedd yr ymateb i’r pafiliynau newydd hefyd yn negyddol, gyda rhai’n cwyno na fyddai digon o le i’r gynulleidfa.
Serch hynny, erbyn diwedd yr wythnos, roedd y farn wedi newid a nifer yn croesawu’r drefn newydd, gan deimlo bod awyrgylch gysurus yn y ddau adeilad. Anaml oedd y Pafiliwn Mawr yn hollol lawn, gyda phobl yn ciwio y tu allan. Roedd y gofod y tu ôl i’r llwyfan yn rhy gyfyng, heb ddigon o le i gystadleuwyr newid, yn enwedig ar ddyddiau seremonïau’r Orsedd.
Y Babell Lên: Gweithiodd yr arlwy’n dda, ac un o lwyddiannau’r wythnos oedd y rhaglen ‘Llên ar hyd y lle’, gyda gweithgareddau llenyddol mewn gwahanol leoliadau, yn denu cynulleidfaoedd amgen. Ni weithiodd y sesiynau llenyddiaeth yn y Pentref Plant, ac ni fyddwn yn eu cynnal eto, gan ganolbwyntio ar sesiynau chwarae yn y pentref.
Braf oedd defnyddio’r Babell Lên ar gyfer gweithgareddau amgen gyda’r nos, a denodd hyn gynulleidfa dda drwy gydol yr wythnos, ac rydyn ni’n ddiolchgar i’r pwyllgor lleol, dan arweiniad Esyllt Maelor am fod mor agored i syniadau newydd ac am fod mor awyddus i gydweithio gyda phwyllgorau eraill.
Encore: Roedd Encore mewn lleoliad canolog, gyda rhaglen lawn gan gydweithio gyda nifer o bartneriaid. Roedd sesiynau Tŷ Cerdd yn llwyddiannus, ac mae’r berthynas hon yn rhan bwysig o apêl Encore. Gweithiodd cynnal y rhagbrofion cerddorol unigol yn Encore yn dda, gyda mwy yn cael cyfle i fwynhau’r perfformiadau. Hefyd, gweithiodd y cyfuniad o feinciau a chadeiriau’n dda. Rydyn ni hefyd yn bwriadu ystyried cynnal ambell gig ‘agos atoch’ yn Encore gyda’r nos yn y dyfodol. Cafwyd problemau gyda’r llawr a chaed llifogydd yn yr adeilad ar y Sadwrn cyntaf.
Tŷ Gwerin: Y gŵyn fwyaf am Tŷ Gwerin eleni oedd bod yr yurt yn rhy fach, ac mae’n amlwg na fydd yurt o’r maint hwn yn ddigonol pan fyddwn yn dychwelyd i faes traddodiadol yn 2025. Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n cadw’r naws agos-atoch, ynghyd â’r cyfle i eistedd neu sefyll i fwynhau sesiwn, ac mae cael adeilad diddorol megis yurt hefyd yn elfen bwysig o apêl Tŷ Gwerin.
Roedd canmoliaeth i’r cymysgedd o’r lleol a’r cenedlaethol a gweithiodd y sesiynau hwyr am 22:30 yn dda. Ychwanegiad difyr arall i’r rhaglen oedd Brwydr y Bandiau Tŷ Gwerin, a gynhaliwyd am y tro cyntaf eleni.
6
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Y Lle Celf: Gweithiodd y panel canolog a’r pwyllgor lleol yn dda gyda’i gilydd. Roedd dwy ran i Y Lle Celf, sef yr arddangosfa a’r ardal Cymry ar Gynfas, a oedd hefyd yn ardal ar gyfer gweithdai a gweithgareddau llai ffurfiol, er roedd y sŵn yn cario i’r oriel. Roedd teimlad fod Y Lle Celf wedi colli’r ‘wow factor’ a’i statws fel oriel gelf genedlaethol.
Mae angen trafod y curadu. Mae’r tîm a fu wrthi am y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ymddiswyddo, ac mae gennym gyfle i edrych ar sut y gallwn wireddu’r prosiect. Rydyn ni’n ymwybodol bod diffyg curaduron sy’n siarad Cymraeg, a byddwn yn sgwrsio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i weld a oes cyfle i gydweithio er mwyn meithrin curaduron newydd drwy ddefnyddio Y Lle Celf.
Cymdeithasau: Nid oedd gofodau Cymdeithasau’n ddigon da. Er bod maint y ddwy babell yn iawn, gwael iawn oedd eu hansawdd, gyda sŵn yn broblem. Effeithiodd hyn ar nifer o sesiynau a rhagbrofion.
Ffilmiwyd y cyflwyniadau, gyda’r rhan fwyaf yn gweithio’n dda ac ar gael ar sianel YouTube yr Eisteddfod, fel adnodd gwerthfawr. Arbrawf oedd hyn, ac yn 2024, bydd angen sicrhau bod gennym ni ddau gamera bach yn y ddau ofod, a chyflwyno canllaw ar gyfer ffilmio.
Caffi Maes B: Gweithiodd Caffi Maes B yn dda, gyda lleoliad ardderchog yn agos at y brif fynedfa a bar Syched. Llwyfannwyd nifer o’r perfformiadau theatrig yn y caffi, gyda naws agos-atoch y gofod yn ychwanegu at y profiad.
Maes D – Pentre Dysgu Cymraeg: Roedd Maes D yn un o lwyddiannau’r Maes, gyda’r cysyniad o Bentref Dysgu Cymraeg yn cael ei wireddu’n llwyddiannus, diolch i’r bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru. Yn hytrach nag adeilad mawr, roedd gan y Llywodraeth babell gyda rhaglen o weithgareddau a weithiodd yn dda, gyda chynnydd o 900% yn nifer yr ymwelwyr arferol a hynny’n cael ei gyrraedd ar y dydd Sadwrn cyntaf yn unig. Cafwyd canmoliaeth i’r rhaglen amrywiol o weithgareddau.
Pentref Plant: Gweithiodd y Pentref Plant yn dda iawn, ac mae’n rhaid canmol y cydlynydd, Ross, am ei frwdfrydedd. Mae angen llefydd bwydo plant a newid clytiau mewn rhannau eraill o’r Maes hefyd. Mae trafodaethau i greu ardal synhwyraidd ar gyfer y dyfodol wedi cychwyn ar y cyd gyda Pontio, Prifysgol Bangor.
Llwyfan y Maes: Un o atyniadau mwyaf poblogaidd y Maes unwaith eto eleni. Mae angen rhagor o amser rhwng y bandiau er mwyn osgoi problemau gyda pherfformwyr yn rhedeg dros amser. Hefyd, mae angen gwella’r elfen diogelwch yn ardal y Llwyfan, gan fod maint y gynulleidfa’n gallu bod yn beryglus ar adegau, yn enwedig yn ystod sesiynau hwyr.
Gweithiodd y ‘stretch tents’ yn yr ardal, gan adael digon o le i’r gynulleidfa fod yn agos at y bandiau a’r perfformwyr.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â churadu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y dyfodol. Roedd rhai yn teimlo bod y darlithoedd yn rhy fyr, ond yn gyffredinol, cafwyd ymateb da iawn i’r pentref, er bod y lleoliad yn broblematig gan ei fod yn rhy agos at Lwyfan y Maes.
Arlwy Dawns: Yn dilyn gwerthusiad y llynedd, penderfynwyd fod arlwy dawns o amgylch y Maes wedi datblygu cymaint, fel nad oes angen adeilad, ac yn dilyn trafodaethau gyda’r panel dawns, penderfynwyd cynnal Gŵyl Ddawns yn y Pafiliwn er mwyn rhoi ffocws newydd i’r cystadlaethau.
7
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Arlwy Theatr: Roedd y rhan fwyaf o gwmnïau’n awyddus i arbrofi a pherfformio mewn gofodau amgen ac felly, penderfynwyd hepgor adeilad Theatr y Maes am eleni, gan nodi bod rhaid trafod hyn yn flynyddol. Roedd ymateb y gynulleidfa’n gadarnhaol gan fwyaf, gyda’r cysyniad o theatr ar hyd y Maes wedi gweithio.
Roedd nifer o’r perfformiadau theatr stryd yn rhai statig eleni, ac mae’n rhaid sicrhau fod perfformiadau o’r fath yn cychwyn o rywle amlwg ac wedi’i nodi yn ein deunyddiau hyrwyddo. Nodwyd nad oedd Caffi’r Theatrau ar y Maes eleni, a byddwn yn trafod a oes angen ailgyflwyno’r caffi dros y flwyddyn nesaf.
Arlwy Mas ar y Maes: Roedd diffyg sgyrsiau a sesiynau trafod eleni, gyda’r pwyslais wedi’i osod yn bendant ar berfformiadau. Rydyn ni’n croesawu bod amryw o artistiaid Mas ar y Maes wedi perfformio yn y Gymraeg am y tro cyntaf, ac yn edrych ymlaen at nodi canmlwyddiant pryddest enwog Prosser Rhys, ‘Atgof’, mewn amrywiol ffyrdd yn 2024, gan gynnwys datblygu’r sioe ‘Corn Gwlad’ ymhellach.
Rydyn ni hefyd yn awyddus i greu panel canolog ar gyfer Mas ar y Maes fel ein bod yn gallu elwa o arbenigedd y gymuned o flwyddyn i flwyddyn.
Arlwy Llefaru: Cynhaliwyd bob math o weithgareddau llefaru, gyda hashnod #llwyd@60 yn cysylltu popeth. Cafodd hyn ei yrru gan y pwyllgor llefaru lleol, dan arweiniad Siân Teifi. Yn ogystal â gweithgareddau ar hyd y Maes, croesawyd cyn-enillwyr Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn ôl i Lwyfan y Pafiliwn mewn seremoni arbennig, a chyhoeddwyd diweddariad o gyfrol boblogaidd R Alun Evans fel rhan o ddathliadau’r wythnos.
Y Maes: Roedd y Maes yn hyfryd, gydag ardal Cerrig yr Orsedd yn agor allan i’r Pentref Bwyd a Llwyfan y Maes, gan gynnig digonedd o le i bawb yn yr ardaloedd prysuraf.
Cyflwynwyd trefn archebu newydd ar gyfer archebu stondin gan ddefnyddio’r system docynnau. Bwriad y system oedd torri i lawr ar waith gweinyddol, a sicrhau bod popeth ar gael mewn un lle i’r stondinau. Gweithiodd hyn yn hwylus i nifer fawr o stondinau, ond roedd rhaid prosesu stondinau sefydliadau mwy yn y ffordd draddodiadol gan fod angen eu hanfonebu yn hytrach na disgwyl iddyn nhw dalu gyda cherdyn ar y dydd neu mewn rhandaliadau fel pawb arall.
Hwb elusennol: Roedd yr Hwb Elusennol yn cynnig gofod i elusennauam bris gostyngol, mewn partneriaeth gyda Mantell Gwynedd a CGGC, gyda18 o sefydliadau trydydd sector wedi’u lleoli yno. Rydyn ni’n bwriadu parhau gyda’r gofod, ac mae Interlink (Rhondda Cynon Taf) a CGGC eisoes wedi datgan diddordeb i reoli’r trefniadau.
Cyfathrebu a digidol: Cyhoeddwyd y rhaglen ar ei newydd wedd, a chafodd groeso gan y mwyafrif o’r darllenwyr. Roedd y gyfrol yn cynnwys nifer o erthyglau nodwedd eleni, gan greu llyfryn mwy deniadol a difyr. Byddwn yn dilyn y fformat hwn eto, a diolch i Eryl Crump am ei gymorth yn ysgrifennu nifer o’r erthyglau.
Cafodd yr App ei lawrlwytho i 12,000 o declynnau unigol, gyda thros 290,000 o sesiynau defnydd unigol yn ystod yr wythnos. Rydyn ni wedi treulio’r flwyddyn yn datblygu gwefan newydd, ac wedi symud draw yn raddol, gan gyflwyno elfennau dros gyfnod o fisoedd.
8
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Mae’r system gystadlu newydd yn rhan greiddiol o’r prosiect, ynghyd â’r system archebu gwobrau, sy’n golygu fod pobl yn gallu archebu a thalu am wobrau ar-lein, gan dorri i lawr ar waith gweinyddol. Mae’r diwyg yn gliriach ac mae’n haws cael hyd i wybodaeth. Bydd yr app yn dilyn yr un diwyg y flwyddyn nesaf.
Gyda’r wefan newydd yn llawer mwy hygyrch, byddwn yn arwain ein dilynwyr i amserlenni arlein yn hytrach nag amserlenni static ar gyfryngau cymdeithasol, gan arbed oriau lawer o waith i staff a chostau dylunio.
Hygyrchedd: Cawsom grant i benodi Oliver Griffith-Salter fel Swyddog Hygyrchedd am bythefnos ar y safle. Yn dilyn adolygiad y llynedd, cafodd ein darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl ei chanmol gan ‘siopwr cudd’ ar ran Attitude is Everything eleni, gan ddatgan ein bod ni wedi llwyddo i gynnig yr un profiad i bawb a ddaeth i’r Maes.
Gweithiodd lleoliad y Llecyn Llonydd, swyddfa hygyrchedd, Byw Bywyd a’r ardal orffwys ar gyfer cŵn gofal yn dda, ac roedd sicrhau bod modd dychwelyd sgwteri i Byw Bywyd ar ddiwedd y noson hefyd yn ddatblygiad pwysig.
Arlwyo: Roedd cymysgedd dda o fwyd ar y Maes, gyda’r arlwywyr wedi cael wythnos lwyddiannus iawn. Cafwyd ymateb derbyniol i’r ddarpariaeth newydd yn Platiad ar y cyfan.
Partneriaethau: Trawsnewidiwyd y Pentref Dysgu Cymraeg ac ardal Maes D yn sgil ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, gan greu rhaglen ddeinamig a difyr a ddenodd fwy o ymwelwyr i’r ardal nag erioed. Roedd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn rhan allweddol o’r berthynas, ac mae’r ardal yn enghraifft dda o sut y gall sefydliadau gydweithio’n llwyddiannus.
Roedd y bartneriaeth gyda Frân Wen yn rhan bwysig o’r Eisteddfod a’r prosiect cymunedol. Cafodd pobl ifanc y dalgylch gyfle arbennig i fod yn rhan o brosiect artistig cyffrous, a hynny’n rhad ac am ddim yn y cyfnod hyd at yr Eisteddfod, gyda chyfle ar y diwedd i fod yn rhan o’r perfformiad theatrig cyntaf ym Maes B.
Mae Merched yn Gwneud Miwsig, partneriaeth gyda Chlwb Ifor Bach, Maes B ac yn fwy diweddar, yr Urdd, yn mynd o nerth i nerth gyda dwy o gyfranogwyr y prosiect, Frances Rees ac Alis Glyn, wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau eleni.
Roedd gennym berthynas dda gyda Menter Iaith Gwynedd, a phan aethpwyd ati i lansio ein hapêl am wirfoddolwyr eleni, roedd y fenter yn rhan o’r prosiect, wrth i ni gynnwys apêl am wirfoddolwyr lleol i ymwneud â gweithgareddau Cymraeg yng Ngwynedd.
Perthynas arall sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf yw honno gyda Tŷ Cerdd, ac yn 2024, byddwn yn cyflwyno cystadleuaeth Tlws y Cerddor ar ei newydd wedd, fel Tlws y Cyfansoddwr, a hynny mewn partneriaeth gyda Tŷ Cerdd. Mae Tŷ Cerdd hefyd yn trefnu amryw o weithgareddau ar y Maes fel rhan o arlwy Encore.
Rydyn ni’n gweithio gyda chyrff a grwpiau amrywiol ar brosiectau Cysylltu a Ffynnu, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau, ac eleni, bu dau ohonyn nhw’n llwyddiannus.
Mae prosiect Talent mewn Tafarn, wedi grymuso’r byd stand yp mewn tafarndai cydweithredol yng ngogledd a gorllewin Cymru, ar y cyd gyda Chanolfan yr Egin, gan gynnal nosweithiau comedi ahyfforddiant i’r rheini sydd eisiau dechrau perfformio.
9
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
Prosiect arall a fu’n llwyddiant yw Twmpdaith, rhan o gynllun Wyth, sy’n bartneriaeth gyda Menter Iaith Maldwyn, Cwlwm Celtaidd a nifer o artistiaid llawrydd, yn dathlu dawnsio gwerin a chlocsio, gan fynd ar daith oamgylch Cymru gyda’r pinacl ar y Maes yn ystod yr Eisteddfod. Mae’r berthynas gyda Stonewall Cymru, fel rhan o brosiect Mas ar y Maes gyda Balchder wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r ddealltwriaeth a’r awydd i fod yn ymwneud â’r
Gymraeg wedi pylu, ac mae hyn wedi creu problemau wrth i ni weithio ar ddatblygu Mas ar y Maes, prosiect sydd â’r iaith yn greiddiol iddo. Yn anffodus, mae’r agwedd yma hefyd wedi dylanwadu ar ein perthynas gyda’r partneriaid eraill yn y prosiect.
Rydyn ni’n awyddus i ddatblygu’r berthynas gyda chyrff fel Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Yr Ŵyl Gerdd Dant a’r corau dros y flwyddyn nesaf hefyd.
Dangosyddion gweithgareddau wyneb yn wyneb
| Allbynnau | Nifer | Nifer |
|---|---|---|
| Nifer o weithgareddau i blant | 270 | |
| Nifer o blantyn mynychu | 5,400 | |
| Nifer o weithgareddau i bobl ifanc (11-25 oed) | 175 | |
| Nifer o bobl ifanc(11-25 oed) yn mynychu | 10,000 | |
| Nifer o weithgareddau i deuluoedd | 270 | |
Nifer o oedolion a nifer o blant yn mynychu gweithgareddau i deuluoedd |
Plant 5,400 |
Oedolion 700 |
| Nifer o weithgareddau i oedolion | 1050 | |
| Nifer o oedolionyn mynychu | 100,000 |
Yr Orsedd: Er yn sefydliadau ar wahân, mae’r berthynas rhwng yr Orsedd a’r Eisteddfod yn un bwysig, gyda chydweithio agos dros y blynyddoedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Cyhoeddi, gan argymell bod y Cyhoeddi’n cael ei symud i ddechrau Mai a hynny am gyfnod o dair blynedd i gychwyn.
Gweithiodd y berthynas rhwng yr Eisteddfod a’r Orsedd yn dda wrth hyrwyddo cyfleoedd seremonïol yr Orsedd yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni’n ddiolchgar i Christine a Beti Wyn, ac yn edrych ymlaen at gychwyn y broses yn ardal Wrecsam yn fuan.
Stiwardiaid: Ar hyn o bryd, mae’r ffocws i gyd ar ddenu stiwardiaid ar gyfer cyfnod yr ŵyl, ac mae angen datblygu strategaeth wirfoddoli, sy’n cynnwys cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cyfleoedd cymunedol, artistig (ar ein panelau canolog), ar ein Cyngor a’r Bwrdd. Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddatblygu ymgyrchoedd cyfathrebu fel ein bod yn cysylltu gyda’r rheini sydd eisoes yn rhan o’r tîm a denu gwirfoddolwyr newydd. Yn sgil hyn, rydyn ni’n teimlo y dylai’r rôl o gydlynu gwirfoddolwyr ddychwelyd i ofal uniongyrchol staff.
Trefnwyd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion iechyd a diogelwch, hygyrchedd, gofal cwsmer a’r polisi parch, ynghyd â thrafod cyfrifoldebau penodol. Gweithiodd y rhain yn dda a byddwn yn dda a byddwn yn dilyn y fformat eto yn y dyfodol.
Staff: Braf yw nodi bod Lliwen Williams, Llŷr Jones, Martha Rhys, Rhys Edwards a Steffan Prys wedi ymuno â’r tîm i sicrhau strwythur staffio addas i wireddu gŵyl.
10
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
ADOLYGIAD ARIANNOL
Mae'r adroddiad eleni yn adlewyrchu cyfnod ariannol o 15 mis, sef 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024. Mae'r cam hwn wedi'i wneud am nifer o resymau ymarferol, rheoleiddiol a strategol ac o hyn allan bydd yr adroddiadau blynyddol yn diweddu ar 31 Mawrth. Mae gan yr elusen yr hawl i newid ei chyfnod cyfrifyddu yn unol â'r deddfau a'r rheoliadau cymwys, yn benodol Deddf Elusennau 2011. Derbyniwyd y newid yng Nghyfarfod y Llys ar 9 Awst 2024 a nodwyd gan y Comisiwn Elusennau ar 2 Medi 2024. O ganlyniad i’r newid hwn yn y cyfnod cyfrifyddu, nid oes modd cymharu'r symiau a gyflwynir yn y cyfrifon yn llwyr.
Derbyniwyd cyfanswm o £8.686m o incwm i mewn yn ystod y cyfnod i gymharu gyda £7.080m yn 2022 a gwariwyd cyfanswm o £7.729m (£6.434m yn 2022). Gan gynnwys hefyd y cynnydd o £80,000 yng ngwerth y buddsoddiadau (lleihad o £143,000 yn 2022), mae hyn yn gadael gweddill (cyn y cynnydd yng ngwerth y cynllun pensiwn) ar ddiwedd y cyfnod o £1.037m (2022: Gweddill o £0.503m).
Ar 31 Mawrth 2024 roedd yr asedau net yn £9.070m (£7.233m yn 2022).
Cronfeydd
Mae'r Eisteddfod yn cadw cronfeydd ariannol mewn nifer o gategorïau:
Cronfeydd Anghyfyngedig - ar gael i'w defnyddio, yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr, i unrhyw un o ddibenion elusennol yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2024 oedd £2.362m (2022 - £1.867m).
Cronfeydd Cyfyngedig - arian a roddir i’w defnyddio ar gyfer pwrpas penodol, ac mae eu defnydd yn gyfyngedig i’r pwrpas hwnnw. Cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2024 oedd £1.039m (2022: £0.980m).
Cronfeydd Penodol - yn cynrychioli incwm a dderbynnir ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol. Yn ystod y cyfnod, derbyniwyd cyfanswm o £589,000 ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 a Wrecsam 2025. Yn ogystal rhyddhawyd swm o £477,000 yn ôl mewn perthynas ag arian a godwyd ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd cyn 2023. Dangosir y symudiadau i’r gronfa yn nodyn 16 o’r cyfrifon. Roedd cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2024 yn £610,000 (31 Rhagfyr 2022 - £498,000).
Cronfeydd Gwaddol - cronfeydd sydd i'w cadw er budd yr elusen fel Cronfa Cyfalaf. Cyfanswm y gronfa yma ar 31 Mawrth 2024 oedd £1.769m (£1.398m ar ddiwedd 2022).
Cronfa Bensiwn – Ar 31 Mawrth 2024 roedd gwarged yn y gronfa bensiwn o £3.290m (2022 – Gwarged o £2.490m).
Polisi Cronfeydd wrth gefn
Mae'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu cynnal ar gyfer unrhyw ddiffyg dros dro (e.e. colled mewn Eisteddfod benodol neu gynnydd anrhagweladwy yn y gwariant) fel y gall yr elusen parhau i weithredu ar unrhyw adeg.
Oherwydd natur ansicr nifer o ffynonellau incwm a gwariant, fel y gronfa leol, grantiau, nawdd, gwerthiant tocynnau a chostau ychwanegol o ran tywydd drwg, mae’r ymddiriedolwyr wedi cytuno ar bolisi lle dylai’r cronfeydd anghyfyngedig fod yn werth 50% o leiaf o gyfanswm y gwariant (yn seiliedig ar gyfrifon eleni), sy’n cyfartalu i dua £4m mewn cronfeydd wrth gefn. Ar y lefel yma, teimlai’r ymddiriedolwyr y bydd yr elusen yn gallu parhau i weithredu mewn achos o ddiffyg sylweddol naill ai oherwydd amgylchiadau fel y pandemig Covid-19 neu fod un o wyliau’r Eisteddfod yn gwneud colled ariannol. Nid yw’r cronfeydd rhydd o £2.362m (2022: £1.867m) yn cyrraedd y nod ar hyn o bryd. Er mwyn cyflawni hyn, ar ddiwedd 2024, mae'r elusen wedi gwireddu gwarged o £2.45m ar ei chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Ar gyfer y tymor hwy, mae’r strategaeth yn parhau i gynyddu’r arian rhydd drwy greu gwarged blynyddol ar ei weithgareddau.
11
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
ADOLYGIAD ARIANNOL
Arferion codi arian
Rydym yn ffodus ac yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a chyfraniad ariannol, rhai a dderbynnir yn flynyddol ac eraill ar gyfer Eisteddfodau penodol. Mae’r ymddiriedolwyr, gan gynnwys swyddogion y pwyllgorau cyllid ar draws Cymru, yn ymdrechu bob amser i sicrhau y safonau uchaf, llywodraethu da ac adolygiad parhaus mewn perthynas â'n gweithgareddau codi arian.
Cronfeydd Lleol a Chyffredinol - Mae’r mwyafrif o’r rhoddion a dderbyniwyd gan yr elusen yn cael eu derbyn trwy bwyllgorau apêl leol i godi arian i'r Eisteddfod sydd yn ymweld â'u hardal. Hwn yw gyfraniad dalgylch yr Eisteddfod i’r gost o gynnal yr ŵyl ac yn arferol mae’r pwyllgorau apêl yn codi arian am gyfnod o ddwy i dair blynedd hyd at gynnal yr Eisteddfod. Mae’r derbyniadau yma’n cynnwys rhoddion gan unigolion i ddigwyddiadau codi arian cyffredinol.
Mae pob pwyllgor apêl newydd yn derbyn cyfarwyddiadau gweithredu gan yr elusen. Mae cynrychiolwyr o bob pwyllgor apêl yn cyfarfod yn rheolaidd i adrodd yn nôl i’r Pwyllgor Cyllid Canolog.
Mae swyddogion y pwyllgor cyllid hefyd yn sicrhau:
-
Dim ymyrraeth afresymol ar breifatrwydd unigolyn;
-
Dim ymagweddau parhaus at ddiben cyfreithloni neu gaffael arian neu eiddo arall ar ran yr elusen;
-
Bod neb yn rhoi pwysau gormodol ar rywun i roi arian neu eiddo arall.
Yn ystod 2023/24, derbyniwyd £328,000 (2022: £264,000) ar gyfer y cronfeydd lleol a chyffredinol. Mae’r swm a godwyd yn flynyddol yn gallu amrywio gan ei fod yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae pwyllgorau'r apêl yn codi arian.
Mae’r ffigwr yma yn cynrychioli derbyn arian o £206,000 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 a £122,000 a gasglwyd yn ystod y cyfnod tuag at Eisteddfodau Rhondda Cynon Taf 2024 a Wrecsam 2025.
Mae’r cyfrifon hefyd yn cynnwys incwm o £467,000 a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod i Incwm o’r Ŵyl sydd yn cynrychioli gwerthiant tocynnau Maes B, stondinau, nawdd a cheisiadau maes carafanau a gwersylla gogyfer ag Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Cyfrifwyd am yr incwm yma trwy’r Cronfeydd Penodol a dangosir y symudiadau yn nodyn 16.
Rhoddion trwy ewyllys – Derbyniwyd naw rhodd eleni, gwerth cyfanswm o £534,000, lle mae cefnogwr yr Eisteddfod wedi dewis rhoi rhodd yn eu ewyllys (2022: tair rhodd – gwerth £100,000). Derbyniwyd hefyd tri gymynrodd, gwerth £233,000 (2022: Dim) i’r Cronfeydd Gwaddol Parhaol lle bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi i’w ddefnyddio at ddiben penodol.
Ymgyrchoedd eraill - Ymgymerir â phob marchnata uniongyrchol arall gan staff yr Eisteddfod i sicrhau nad yw'n afresymol ymwthiol na pharhaus. Gwneir cyswllt trwy farchnata uniongyrchol mailchimp ar gyfartaledd tua unwaith y mis. Mae'r holl ddeunydd marchnata yn cynnwys cyfarwyddiadau clir ar sut y gellir tynnu person oddi ar restrau postio.
Nid yw'r Eisteddfod yn defnyddio unrhyw gorff proffesiynol i godi arian. Ni fu unrhyw gwynion yn ystod y cyfnod am weithgaredd codi arian yr elusen.
Polisi Buddsoddi
Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu buddsoddi arian am y tymor hir mewn portffolio risg canolig – cyfuniad o stoc y llywodraeth, cyfranddaliadau rhestredig ac unedau buddsoddi er mwyn cwrdd â gofynion am gynhyrchu incwm a thyfiant cyfalaf. Yr ymgynghorwyr buddsoddi annibynnol Brewin Dolphin sydd yn buddsoddi cronfeydd yr Eisteddfod ar ei rhan. Caiff y cronfeydd hyn eu hadolygu’n gyson.
12
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
ADOLYGIAD ARIANNOL
Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu na ddylid buddsoddi mewn cwmnïau sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu neu ddosbarthu arfau a thybaco. Roedd gwerth y buddsoddiadau hir dymor ar ddiwedd y cyfnod yn £1.869m o gymharu â £1.599m ar 31 Rhagfyr 2022.
Gwirfoddolwyr
Mae’r elusen yn ddiolchgar iawn am gyfraniad eu gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddi-dâl, o godi arian i stiwardio ar faes yr Eisteddfod . Nid ydym yn gallu rhoi gwerth ariannol ar yr holl waith yma ac felly, nid yw’n cael ei gynnwys yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol.
Trafodion partïon cysylltiol
Nid oes unrhyw drafodion partïon cysylltiol yn ystod y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2024 gan yr ymddiriedolwyr neu unrhyw aelod o’r Bwrdd Rheoli.
Rheoli risg
Mae’r Tîm Rheoli yn gyfrifol am adnabod a gwerthuso’r risgiau sylweddol sy’n berthnasol i’w meysydd busnes, ynghyd â chynllunio a gweithredu rheolaeth fewnol briodol. Asesir y risgiau hyn ar sail barhaus ac yn cofnodi risgiau materol yn y gofrestr risg.
Mae’r Panel Archwilio a’r Bwrdd Rheoli yn arolygu’r gofrestr risg o leiaf ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau hynny. Mae’r risgiau yn cynnwys parhad yr Eisteddfod, materion ariannol, Iechyd a Diogelwch, staffio a’r amgylchedd.
Rhagdybiaeth Busnes Byw
Mae'r Ymddiriedolwyr o'r farn bod yr Elusen mewn sefyllfa dda i reoli ei risgiau busnes trwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd a bod disgwyliad rhesymol gan yr Eisteddfod bod yr adnoddau yn ddigonol i barhau i weithredu'n hyd y gellir rhagweld. Am y rhesymau hyn maent yn parhau i fabwysiadu sail busnes sy’n fyw wrth baratoi’r cyfrifon.
13
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL
Enw’r elusen: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cyfansoddiad: Sefydliad Corfforedig Elusennol Rhif yr elusen: 1155539 Swyddfa gofrestredig: 40 Parc Tŷ Glas Llanisien Caerdydd CF14 5DU Bwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr: Ashok Ahir (Llywydd y Llys) Gethin Thomas (Cadeirydd y Cyngor) Heulwen Jones (Is-gadeirydd y Cyngor) Gwenno Williams (Trysorydd) Christine James (Gorsedd y Beirdd) Michael Strain (Cadeirydd Eisteddfod 2023) Helen Prosser (Cadeirydd Eisteddfod 2024 o 24/06/2023) Aneurin Brown (Penodwyd ar 08/08/2024) Heledd Bebb (hyd at 08/08/2024) Elin Jones Elin Haf Gruffydd Jones Gwerfyl Pierce Jones (hyd at 08/08/2024) Trystan Lewis Deian Rhys Aled Walters Rhian Huws Williams (hyd at 08/08/2024) Ysgrifennydd Catrin Jones (Penodwyd ar 08/08/2024) Heulwen Jones (Dros dro – hyd at 08/08/2024) Llyr Roberts (m) (Hyd at 28/06/2023) Prif Weithredwr: Betsan Moses Archwilwyr: Ashmole & Co. 3 Stryd y Farchnad Llandeilo SA19 6AH Bancwyr: HSBC 56 Heol y Frenhines Caerdydd CF10 9NA Brocer Buddsoddiadau: Brewin Dolphin 5 Sgwâr Callaghan Caerdydd CF10 5BT Cyfreithwyr Mygedol: Emyr Lewis Aled Walters
14
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI
Cyfansoddiad
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi cofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda’r Comisiwn Elusennau ar 29 Ionawr 2014. Trosglwyddwyd asedau a rhwymedigaethau Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru (rhif elusen 219171) i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig ar 1[af] Ionawr 2015. Mae’r elusen newydd yma’n weithredol o’r dyddiad hwn.
Y Llys
Mae’r Llys yn cynnwys holl aelodau’r Elusen, gyda holl hawliau arferol i’w gweithredu trwy Gyfarfodydd Cyffredinol. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) yr hawl i benodi ac i ddiswyddo Swyddogion, Ymddiriedolwyr, ac aelodau’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, Rheolau Sefydlog yr elusen ac yn unol â Deddf Elusennau 2011. Mae’r Llys, mewn cyfarfodydd cyffredinol, yn ystyried ac yna’n derbyn neu wrthod adroddiadau’r Ymddiriedolwyr, y Cyngor a Bwrdd yr Orsedd, ac mae’r hawl gan y Llys i sicrhau fod yr amcanion a’r ymrwymiadau’n cael eu gweithredu’n briodol ac yn unol â dymuniad y Llys ac yn unol â’r Ddeddf. Mae’r Prif Weithredwr llawn amser yn rheoli gweithgareddau’r elusen gyda chymorth aelodau staff. Mae aelodaeth o’r Llys yn agored i bawb.
Y Cyngor
Swyddogaeth y Cyngor ydi gweithredu fel bwrdd goruchwylio a chorff ymgynghorol sydd yn cymryd golwg strategol ar waith a datblygiad yr Eisteddfod. Mae’r Cyngor yn cynnwys 36 aelod ynghyd a’r Cymrodyr a Chyn-Lywyddion– caiff 24 o aelodau eu hethol gan y Llys, 6 gan yr Ymddiriedolwyr, a hawl gan y Cyngor i gyfethol hyd at 6 aelod. Rhaid i aelodau o’r Cyngor a’r Bwrdd Rheoli fod yn aelodau o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Cyngor yn cynnal o leiaf dri chyfarfod bob blwyddyn.
Mae gan y Cyngor ddau bwyllgor, sef
-
Pwyllgor Archwilio;
-
Pwyllgor Gweithredu’r Rheol Gymraeg – i arolygu ac adrodd ar weithredu’r Rheol Gymraeg ym mhob Gŵyl.
Bwrdd Rheoli/Ymddiriedolwyr
Y Bwrdd Rheoli sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel ymddiriedolwyr. Disgwylir i Brif Weithredwr a phrif staff yr elusen fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli, ond heb hawl pleidleisio gan nad ydynt yn ymddiriedolwyr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf wyth gwaith yn ystod y flwyddyn.
Er mwyn cyflawni gwaith yr elusen sefydlwyd y Pwyllgorau a ganlyn:
Pwyllgor Llywio/Pwyllgor Gwaith ar gyfer pob Gŵyl.
Pwyllgor Diwylliannol – i gydlynu gwaith panelau sefydlog i gynnig cyngor arbenigol ar feysydd cystadleuol penodol ac i gymryd cyfrifoldeb am y rhestr gystadlaethau.
Pwyllgor Technegol – i gynnig cyngor arbenigol am y maes, adeiladau, trafnidiaeth, a’r holl agweddau ar iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r Ŵyl.
Pwyllgor Marchnata – i gynnig cyngor arbenigol ar weithgareddau hyrwyddo a marchnata’r Eisteddfod a’r Ŵyl.
Pwyllgor Adnoddau Dynol – i gynnig cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud â staffio a chyflogau.
15
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI
Pwyllgor Cynhwysedd ac Amrywiaeth – i edrych ar holl weithdrefnau a gweithgareddau’r Eisteddfod i sicrhau eu bod yn agored a chynhwysol.
Pwyllgor Artistig - i gynnig cyngor arbenigol ar raglenni hwyr; a phrosiectau artistig mawr.
Panel Enwebu – i argymell enwau Ymddiriedolwyr, aelodau’r Cyngor ac aelodau Pwyllgorau a phanelau sefydlog er mwyn cyflawni gofynion y Rheolau Sefydlog.
Panel Cwynion, Disgyblu a Diswyddo – i gwrdd yn ôl yr angen i ystyried unrhyw gŵyn ysgrifenedig a dderbynnir am Swyddogion yr elusen a chwynion am Ymddiriedolwyr yr elusen a’r staff.
Penodi Ymddiriedolwyr
Mae cymalau 12 ac 13 o’r Cyfansoddiad a’r Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer penodi/ethol ymddiriedolwyr fel a ganlyn:
-
Penodir tri ymddiriedolwr yn rhinwedd eu swyddi, sef:
-
Llywydd y Llys; Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor.
-
Dim llai na phedwar na mwy nag wyth ymddiriedolwr enwebedig wedi eu henwebu fel a ganlyn:
-
(i) Bwrdd yr Orsedd (1);
-
(ii) Pwyllgorau Gwaith y tair eisteddfod gyfredol (3);
-
(iii) Cyngor (4).
-
Dim llai na phedwar na mwy na chwe ymddiriedolwr etholedig i’w hethol gan y Llys gyda’r hawl i’r ymddiriedolwyr benodi i lenwi bylchau hyd y cyfarfod nesaf o’r Llys;
-
Dim mwy na dau ymddiriedolwr wedi eu cyfethol gan yr ymddiriedolwyr eraill.
Bwriedir sicrhau y bydd ystod eang o sgiliau a phrofiad o fewn y Bwrdd Ymddiriedolwyr gan gynnwys sgiliau a phrofiad diwylliannol, marchnata, technegol, busnes, ariannol, cyfreithiol a rheolaeth, ynghyd â phrofiad blaenorol o waith Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bydd yn ofynnol i bob Ymddiriedolwr allu cyfathrebu’n rhugl drwy’r Iaith Gymraeg;
Bwriedir hefyd geisio sicrhau cydbwysedd rhesymol ar draws yr holl Ymddiriedolwyr o safbwynt rhyw, oedran a chysylltiadau lleol;
Hyfforddiant ac anwytho Ymddiriedolwyr
Mae gan yr holl Ymddiriedolwyr presennol gysylltiad hir gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Maent yn cael cynnig derbyn gwybodaeth am eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau. Pe bai ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi fe fyddai hynny’n golygu y byddant yn cael hyfforddiant ar weithdrefnau a pholisïau’r Eisteddfod. Byddai asesiad yn cael ei wneud o’r anghenion hyfforddi, gyda darpariaeth ar gyfer hyfforddiant pellach yn ystod y flwyddyn.
Datganiad o gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr
Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig (Arfer Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig).
Mae'r gyfraith sy'n berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi golwg wir a theg o sefyllfa'r elusen ac o'r adnoddau sy'n dod i mewn a chymhwyso adnoddau'r elusen am y cyfnod hwnnw.
16
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI
Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’n ofynnol i’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
-
dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu cymhwyso'n gyson;
-
arsylwi ar y dulliau a'r egwyddorion yn SORP yr Elusennau;
-
llunio dyfarniadau ac amcangyfrifon sy'n rhesymol ac yn ddarbodus;
-
nodi a ddilynwyd safonau cyfrifyddu cymwys, sy'n cynnwys FRS 102, yn amodol ar unrhyw ymadawiadau perthnasol a ddatgelwyd ag eglurir yn y datganiadau ariannol; a
-
• paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd yr elusen yn parhau mewn busnes.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu cywir sy'n datgelu sefyllfa ariannol yr elusen gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg ac yn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfanrwydd yr elusen a'r wybodaeth ariannol sydd wedi'i chynnwys ar wefan yr elusen. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu paratoi a lledaenu datganiadau ariannol fod yn wahanol i ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill.
Cyn belled ag y mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol:
-
nid oes gwybodaeth archwiliad perthnasol nad yw’n wybyddus i archwilwyr y cwmni elusennol;
-
mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd pob cam angenrheidiol i’w gwneud yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwiliad perthnasol ac i sefydlu bod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.
Prif Weithredwr ac Uwch Reolwyr
Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am reoli materion yr elusen o ddydd i ddydd ac am weithredu polisïau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Rheoli. Mae'r Prif Weithredwr yn cael ei gynorthwyo gan grŵp o uwch reolwyr sy'n ffurfio'r Tîm Rheoli.
Mae’r Tîm yma yn cynnwys: Betsan Moses (Prif Weithredwr) Elen Elis (Cyfarwyddwr Artistig) Gwenllïan Carr (Cyfarwyddwr Strategol) Peter Davies (Cyfarwyddwr Cyllid)
Polisi cyflogi
Mae’r Eisteddfod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Nid yw’n caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol, gweithwyr rhan neu llawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall, ac mae’n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Defnyddir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored ac mae penodiadau yn ddibynnol ar deilyngdod.
Cydnabyddiaeth
Mae pob ymddiriedolwr yn rhoi o'u hamser am ddim. Ni chafodd yr ymddiriedolwyr unrhyw dâl yn ystod y cyfnod.
17
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
CYNLLUNIAU’R DYFODOL
Daw ein strategaeth i ben yn 2025, ac rydym wrthi’n cynnal sgyrsiau, sy’n gyfle i wyntyllu popeth, i edrych yn fanylach ar ein blaenoriaethau strategol.
Gyda’r byd wedi newid yn sylweddol ers cyfnod datblygu’r strategaeth bresennol, a ninnau yn dod at ddiwedd cyfnod y strategaeth, mae’n amserol ein bod yn cychwyn ar y broses o ymgysylltu gyda’n rhanddeiliaid a’n cymunedau er mwyn gwrando ar eu barn, cynnal trafodaeth agored ac adnabod blaenoriaethau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae’n hollbwysig ein bod yn taflu’r rhwyd yn eang –gan glywed wrth ein partneriaid, ein cefnogwyr a’r rheini sydd eto i’w denu atom.
Blaenoriaethau Strategol yr Eisteddfod
-
Codi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod fel prif ŵyl ddiwylliannol Cymru, adref ac yn rhyngwladol;
-
Hyrwyddo’r Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc a siaradwyr Cymraeg newydd;
-
Dyfnhau ymrwymiad yr Eisteddfod i gymunedau Cymru;
-
Cryfhau gwytnwch yr Eisteddfod yn ariannol a gweithredol;
-
Cydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn lledaenu cyfoeth ieithyddol a diwylliannol Cymru;
-
Creu Eisteddfod sydd yn hygyrch ac yn groesawus i bobl o bob oed a chymuned;
-
Anrhydeddu ein cyfrifoldeb i lesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Bwriadwn sicrhau fod drafft cyntaf y strategaeth nesaf yn cael ei baratoi er mwyn ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, a chasglu mewnbwn pellach gan ein rhanddeiliaid a’n cynulleidfaoedd am yr hyn a gynigir er mwyn sicrhau tryloywder ac er mwyn annog perchnogaeth o’r ffordd ymlaen i’r Eisteddfod wrthi iddi gefnogi Strategaeth y Gymraeg 2050.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a’n cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ar ran yr ymddiriedolwyr
Gethin Thomas Ymddiriedolwr (Cadeirydd y Cyngor)
30 Ionawr 2025
18
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU
Adroddiad ar y datganiadau ariannol
Barn
Archwiliwyd cyfrifon Eisteddfod Genedlaethol Cymru am y cyfnod 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024; maent yn cynnwys y Datganiad o Symudiadau Ariannol, y Fantolen a’r nodiadau perthnasol. Paratowyd y cyfrifon yn unol â’r polisïau cyfrifo a nodir yn y cyfrifon. Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
Yn ein barn ni:
-
Mae’r cyfrifon yn rhoi adlewyrchiad cywir a theg o gyflwr ariannol yr elusen ar 31 Mawrth 2024 a’r adnoddau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod ariannol;
-
Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â’r gyfraith berthnasol o Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifo Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
-
Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi’n gywir yn unol â Deddf Elusennau 2011 a Rheoliad 8 o Reoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008.
Sail y farn
Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (“ISA’s (UK)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan ISAs (DU) ymhellach yn adran Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Fe wnaethom aros yn annibynnol o’r elusen yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, sy'n cynnwys Safon Foesegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i’n barn ni.
Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r cyfrifon, rydym o’r farn bod defnydd yr ymddiriedolwyr o sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r elusen i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.
Fodd bynnag, oherwydd na ellir rhagweld holl ddigwyddiadau neu amodau'r dyfodol, nid yw'r datganiad hwn yn warant o allu'r elusen i barhau fel busnes gweithredol.
Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.
Gwybodaeth arall
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol ac Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol.
Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno.
19
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)
Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn anghyson yn sylweddol â'r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos eu bod wedi'i camddatgan yn sylweddol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylweddol o'r fath neu gamddatganiadau ymddangosiadol sylweddol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym ddim i'w adrodd yn hyn o beth.
Materion yr ydym yn rwymedig i adrodd drwy eithriad
Nid oes gennym ddim i’w adrodd mewn perthynas â’r eitemau canlynol lle mae’r Ddeddf Elusennau 2011 yn gofyn i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni:
-
mae’r wybodaeth a roddir yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr yn anghyson mewn unrhyw berthynas materol â’r datganiadau cyllid; neu
-
bod yr elusen heb gadw cofnodion cyfrifo derbyniol; neu
-
bod y datganiadau cyllid ddim yn cyd fynd â’r cofnodion cyfrifo a ffurflenni statudol:neu
-
nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau anghenrheidiol i gyflawni ein archwiliad.
Cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau Ymddiriedolwyr, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy'n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny oherwydd twyll neu wall.
Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r elusen i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, unrhyw fater ynghylch defnyddio sail busnes gweithredol cyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r elusen neu roi'r gorau i weithrediadau, neu nad oes ganddynt ddewis amgen realistig ond gwneud hynny.
Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol
Rydym wedi'n penodi'n archwilwyr o dan Adran 144 o Ddeddf Elusennau 2011 ac yn adrodd yn unol â'r Ddeddf a'r rheoliadau perthnasol a wnaed neu sy'n cael effaith o dan y Ddeddf honno.
Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi Adroddiad gan yr Archwilwyr Annibynnol sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyfan, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yw afreoleidd-dra. Amcanion ein harchwiliad yw cael digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau sy'n cael effaith uniongyrchol ar benderfynu ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol, cyflawni gweithdrefnau archwilio er mwyn helpu nodi achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau eraill a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol, ac i ymateb yn briodol i ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a nodwyd yn ystod yr archwiliad.
20
Eisteddfod Genedlaethol Cymru ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD) O ran twyll, amcanion ein harchwiliad yw nodi ac asesu'r risg o gamddatganiad sylweddol o'r datganiadau ariannol oherwydd twyll, casglu digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch y risgiau aseswyd o gamddatganiad sylweddol trwy dwyll gan ddylunio a gweithredu ymatebion priodol ac ymateb yn briodol i dwyll neu dwyll tybiedig a nodwyd yn ystod yr archwiliad. Fodd bynnag, prif gyfrifoldeb y rheolwyr, gyda goruchwyliaeth y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, yw sicrhau bod gweithrediadau'r endid yn cael eu cynnal yn unol a darpariaethau cyfreithiau a rheoliadau ac ar gyfer atal a chanfod twyll. Wrth asesu a nodi'r risgiau o gamddatganiad sylweddol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, fe wnaeth y tim archwilio: gael dealltwriaeth o natur y diwydiant a'r sector, gan gynnwys y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol y mae'r elusen yn gweithredu ynddo a sut mae'n cydymffurfio a'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol; holi'r rheolwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, am eu hasesiad a chydnabyddiaeth eu hunain o beryglon afreoleidd-dra, gan gynnwys unrhyw achosion gwirioneddol, tybiedig neu honedig o dwyll. drafod materion ynghylch peidio a chydymffurfio a chyfreithiau a rheoliadau a sut y gallai twyll ddigwydd gan gynnwys asesu sut a ble y gallai'r datganiadau ariannol fod yn agored i dwyll. O ganlyniad i'r gweithdrefnau hyn, rydym yn ystyried y cyfreithiau a'r rheoliadau mwyaf arwyddocaol sy'n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol yw SORP Elusennau, FRS 102 a Deddf Elusennau 2011. Gwnaethom gynnal gweithdrefnau archwilio i ganfod diffyg cydymffurfio a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol a oedd yn cynnwys adolygu'r datgeliadau yn y cyfrifon. Nododd y tim archwilio mai'r risg mwyaf i gamddatganiad sylweddol trwy dwyll fyddai o ganlyniad i'r rheolwyr yn diystyru rheolaethau mewnol. Roedd y gweithdrefnau archwilio a berfformiwyd yn cynnwys ond nid oeddent wedi'u cyfyngu i brofi cyfnodolion ac addasiadau eraill a gwerthuso'r rhesymeg fusnes mewn perthynas ag unrhyw drafodion sylweddol, anarferol a wnaed y tu allan i gwrs busnes arferol. Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau dros archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilwyr annibynnol. Defnyddio'r adroddiad hwn Paratowyd yr adroddiad hwn ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen yn unigi fel corff yn unol ag Adran 144 Deddf Elusennau 2011 a rheoleiddiadau a wnaed o dan adran 154 o'r Ddeddf honno (Rhan 4 o'r Elusennau {Cyfrifon ac Adroddiadau) Rheoliadau 2008). Mae ein gwaith archwilio wedi'i wneud fel y gallem ddatgan i ymddiriedolwyr yr elusen y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilwyr ac nid at unrhyw ddiben arall. I'r graddau Ilawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw'r elusen ac ymddiriedolwyr yr elusen fel corff, am ein gwaith archwilio, ar gyfer yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi'i ffurfio. Ashmole & Co (Archwilydd Statudol) Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig & Archwilwyr Cofrestredig 3 Stryd y Farchnad Llandeilo SA19 6AH Dyddiad: .$1 213 1.5 21
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
DATGANIAD O'R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL (GAN GYNNWYS CYFRIF INCWM A GWARIANT) AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
| 2024 Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Anghyfyngedig Cyfyngedig Gwaddol Cyfanswm Nodyn £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 INCWM Rhoddion a chymynroddion: 2 / 4 1,226 - 233 1,459 Gweithgareddau elusennol: Grantiau 3 - 1,847 - 1,847 Gŵyl yr Eisteddfod 5 5,272 - - 5,272 Gweithgareddau masnachu 6 14 - - 14 Incwm o fuddsoddiadau 7 36 - 58 94 Cyfanswm incwm 6,548 1,847 291 8,686 GWARIANT Gweithgraeddau codi arian 8 22 - - 22 Gweithgareddau elusennol: Gŵyl yr Eisteddfod 8 5,919 1,788 - 7,707 Cyfanswm gwariant 5,941 1,788 - 7,729 Enillion/(Colledion) ar fuddsoddiadau - - 80 80 Incwm/Gwariant Net 607 59 371 1,037 Enillion cydnabyddedig eraill Cynnydd actiwaraidd ar y cynllun pensiwn 18 800 - - 800 Symudiad net yn y cronfeydd 1,407 59 371 1,837 Cysoni'r Cronfeydd Balansau ddygwyd ymlaen 1 Ionawr 4,855 980 1,398 7,233 Balansau gariwyd ymlaen 31 Rhagfyr 6,262 1,039 1,769 9,070 |
2022 |
|---|---|
| Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Anghyfyngedig Cyfyngedig Gwaddol Cyfanswm £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 661 - - 661 - 2,594 - 2,594 3,768 10 - 3,778 13 - - 13 - - 34 34 |
|
| 4,442 2,604 34 7,080 |
|
| 19 - - 19 4,556 1,859 - 6,415 |
|
| 4,575 1,859 - 6,434 |
|
| - - (143) (143) (133) 745 (109) 503 1,540 - - 1,540 |
|
| 1,407 745 (109) 2,043 3,448 235 1,507 5,190 |
|
| 4,855 980 1,398 7,233 |
22
Eisteddfod Genedlaethol Cymru MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024 2024 £000 2022 £000 Nodyn Asedau sefydlog Asedau annirlaethol Elddo parhaol Buddsoddladau 10 10 11 20 1,115 30 1,202 2,831 Asedau cyfredol Dyledwyr Buddsoddladau tymor byr Banc 12 11 1,022 1,770 171 1,286 885 48 Credydwyr: Symlau sy'n dod yn ddyledus o fewn blwyddyn Asedau cyfredol net 13 (187) (307) Cyfanswm yr asedau Ilal dyledlon cyfredol 5,780 4,743 Cynllun penslwn a buddlon wedl'u dlffinlo 18 3,290 2,490 Asedau net 9,070 7,233 Cronfeydd Cadw Cronfeydd Gwaddol Cronfeydd Cyffredlnol Cronfeydd Penodol Cronfeydd Cyfyngedlg Cronfa Benslwn 1,769 2,362 610 1,398 1,867 498 16 17 1,039 980 18 3,290 2,490 Cyfanswm Cronfeydd 9,070 7,233 Cymeradwywyd gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ar 30 lonawr 2025 ac fe'l Ilofnodwyd ar eu rhan gan: Gwenno Wllliams Trysorydd 23
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
DATGANIAD O'R LLIF ARIAN AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
| Llif arian o Weithgareddau Gweithredol Llif arian o Weithgareddau buddsoddi Enillion ar fuddsoddiadau Taliadau am eiddo parhaol Derbyniadau trwy werthu buddsoddiadau Taliadau am fuddsoddiadau newydd Mewnlif/(allanlif) net ariannol o weithgareddau buddsoddi Arian a chyfwerthoedd arian ar ddechrau'r cyfnod Arian a chyfwerthoedd arian ar ddiwedd y cyfnod |
2024 2022 £ 000 £ 000 1,190 41 94 34 (86) (937) 387 108 (597) (98) 988 (852) 1,433 2,285 2,421 1,433 |
|---|---|
Cysoniad y llif arian a'r symudiad mewn gweithgareddau gweithredol
| Incwm net Dibrisiad asedau diriaethol Amorteiddiad asedau anniriaethol (enillion)/colledion ar fuddsoddiadau Llog a dderbynnir Lleihad mewn dyledwyr cyfredol Lleihad mewn credydwyr cyfredol Mewnlif net ariannol o weithgareddau gweithredol Dadansoddiad o arian a chyfwerthoedd arian Buddsoddiadau eiddo parhaol - COIF ac arian buddsoddi Buddsoddiadau tymor byr - Cyfrif banc Banc Cyfanswm arian a chyfwerthoedd arian |
2024 £ 000 1,037 168 15 (80) (94) 264 (120) 1,190 2024 £ 000 480 1,770 171 2,421 |
2022 £ 000 503 125 14 130 (34) (852) 155 |
|---|---|---|
| 41 | ||
| 2022 £ 000 500 885 48 |
||
| 1,433 |
24
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 Mawrth 2024
1. Polisïau Cyfrifo
a. Sail paratoi
Paratowyd y cyfrifon (datganiadau ariannol) yn unol â'r Datganiad o Arfer a Argymhellir (SORP): Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2014 a'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a Deddf Elusennau 2011 ac Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig fel y mae'n berthnasol o 1 Ionawr 2015.
Mae'r cyfrifon (datganiadau ariannol) wedi'u paratoi sy’n rhoi darlun 'cywir a theg' ac maent wedi ymadael o Reoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 dim ond i'r graddau y mae eu hangen i ddarparu 'darlun cywir a theg'. Mae'r ymadawiad hwn wedi cynnwys dilyn Cyfrifon ac Adrodd gan Elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2014 yn hytrach na'r Cyfrifon ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Argymhellir Ymarferwch yn effeithiol o 1 Ebrill 2005 sydd wedi'i dynnu'n ôl ers hynny.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn bodloni'r diffiniad o endid budd cyhoeddus o dan FRS 102. Mae’r Asedau a rhwymedigaethau yn cael eu cydnabod ar gost hanesyddol neu eu gwerth trafodiad oni nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifyddu(au) perthnasol.
b. Incwm
Cydnabyddir incwm pan fydd gan yr elusen yr hawl i dderbyn yr arian a bod unrhyw amod ynghlwm wrth yr eitem neu eitemau o incwm wedi cael eu bodloni, ac yn debygol y bydd yr incwm yn cael eu derbyn a gall y swm ei fesur yn ddibynadwy.
Mae incwm oddi wrth y llywodraeth a grantiau eraill, boed yn grantiau 'cyfalaf' neu’n grantiau 'refeniw' yn cael ei gydnabod yn y flwyddyn y cynhelir yr Eisteddfod.
Cydnabyddir incwm ewyllys a chymynroddion pan fydd gan yr elusen yr hawl i’r incwm, mae derbyn yr arian yn debygol a gellir mesur y swm yn ddibynadwy.
Lle mae cymynroddion wedi eu hysbysu i'r elusen, neu mae’r elusen yn ymwybodol o'r profiant, a'r meini prawf ar gyfer cydnabod incwm wedi heb gael eu bodloni, yna mae'r gymynrodd yn cael ei thrin fel ased wrth gefn a ddatgelir os yn berthnasol.
c. Llogau a dderbynnir
Mae llog ar gyfrifon cadw yn cael ei gynnwys pan gaiff ei dderbyn a gall y swm ei fesur yn ddibynadwy gan yr elusen; mae hyn fel arfer ar hysbysiad am y llog a delir neu yn daladwy gan y banc.
ch. Cronfeydd
Cronfeydd anghyfyngedig - ar gael i'w defnyddio, yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr, i unrhyw un o ddibenion elusennol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cronfeydd Cyfyngedig yw’r arian a roddir i’w defnyddio ar gyfer pwrpas penodol, ac mae eu defnydd yn gyfyngedig i’r pwrpas hwnnw.
Mae’r cronfeydd penodol yn cynrychioli incwm anghyfyngedig lle mae’r ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn, wedi ei roi o'r neilltu i'w ddefnyddio at ddiben penodol.
Mae’r cronfeydd gwaddol yn cynnwys rhoddion lle mae'r rhoddwr wedi nodi eu bod yn cael eu defnyddio yn unig ar gyfer pwrpas penodol o waith yr elusen neu ar gyfer prosiectau artistig penodol a wneir gan yr elusen.
25
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 Mawrth 2024
d. Gwariant a TAW na ellir ei adennill
Mae gwariant yn cael ei gydnabod unwaith mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliad i drydydd parti, ac yn debygol y bydd setliad yn ofynnol a swm y rhwymedigaeth yn cael ei fesur yn ddibynadwy. Mae’r gwariant wedi'i ddosbarthu o dan y penawdau gweithgarwch canlynol:
-
Costau codi arian yn cynnwys costau masnachu masnachol ar gyfer loteri'r Eisteddfod.
-
Mae gwariant ar weithgareddau elusennol yn cynnwys costau o berfformiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau addysgol eraill a wnaed i hyrwyddo dibenion yr elusen a'u costau cymorth cysylltiedig.
-
Mae gwariant yn cael ei gyfrif ar sail groniadau ac mae'n cynnwys TAW na ellir ei adfer.
-
Mae gwariant arall yn cynrychioli eitemau hynny nad ydynt yn dod i mewn i unrhyw bennawd arall.
dd. Dyrannu costau cefnogi
Costau cynnal yw’r costau hynny sy'n cynorthwyo gwaith yr elusen ond nid ydynt yn uniongyrchol yn ymgymryd â gweithgareddau elusennol. Maent yn cynnwys costau swyddfa, cyllid, personél, cyflogau a llywodraethu sy'n cefnogi gwaith yr elusen.
Mae'r costau hyn wedi cael eu dyrannu o dan gweithgareddau elusennol.
e. Prydlesi gweithredol
- Prydlesi gweithredol yw offer lle mae’r teitl i'r offer yn parhau gyda'r prydleswr. Mae taliadau rhent yn cael eu cyflwyno i’r Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol ar sail llinell syth dros dymor y brydles.
f. Asedau treftadaeth
Cofnodir asedau treftadaeth yn ôl y gost wreiddiol. Gan fod asedau treftadaeth yr elusen wedi eu cynnal dros gyfnod o gan mlynedd a mwy mae’r gost wreiddiol yn rhy fach i gofnodi yn y Fantolen.
ff. Asedau anniriaethol
Mae’r Eisteddfod yn cyfrifo am ei feddalwedd fel asedau anniriaethol. Cynhwysir asedau anniriaethol ar eu cost hanesyddol. Mae’r asedau yma’n cael eu hamorteiddio drwy randaliadau cyfartal blynyddol droes eu hoes economaidd defnyddiol amcangyfrifedig o bum mlynedd.
g. Asedau parhaol
Polisi’r Eisteddfod yw cofnodi asedau sefydlog ar y gost wreiddiol hyd yma, llai’r dibrisiant a grynhowyd.
ng. Dibrisiant
| Dibrisiant | Dibrisiant | |
|---|---|---|
| Mae’r prif gyfraddau, gan ddefnyddio’r dull llinell | syth, fel a ganlyn: | |
| Moduron, dodrefn ac offer swyddfa | - | 20% |
| Adeiladau parhaol | - | 2% |
| Adeiladau ac eiddo arall | - | 10% |
| Eiddo i’r Orsedd (Cyffredinol) | - | 10% |
| Eiddo i’r Orsedd (Cylch yr Orsedd symudol) | - | Dim |
26
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 Mawrth 2024
h. Buddsoddiadau
Dangosir buddsoddiadau yn ôl gwerth y farchnad. Mae hyn yn golygu cadw cofnodion prisio cyfoes, felly pan fydd buddsoddiadau yn cael eu gwerthu nid oed enillion na cholledion mewn perthynas â blynyddoedd blaenorol. Cydnabuwyd unrhyw enillion neu golled yn eu gwerth yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol.
i. Stoc
Mae stoc yn cael ei gynnwys ar yr isaf o'r gost neu'r gwerth gwireddadwy net.
j. Dyledwyr
Mae dyledwyr masnach a dyledwyr eraill yn cael eu cydnabod ar y swm sy'n ddyledus ar ôl setlo unrhyw ddisgownt masnach a gynigir. Mae rhagdaliadau wedi eu prisio ar y swm a dalwyd ymlaen llaw, net o unrhyw ostyngiadau masnachol sy'n ddyledus.
l. Arian yn y banc ac mewn llaw
Mae arian yn y banc ac arian mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau byr rhybudd hylifol iawn gydag aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o’r dyddiad caffael neu agor y cyfrif.
ll. Credydwyr
Mae credydwyr a darpariaethau yn cael eu cydnabod pan fydd gan yr elusen rwymedigaeth bresennol sy'n deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd yn ôl pob tebyg yn arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti ac mae'r swm sy'n ddyledus i setlo'r rhwymedigaeth yn cael ei fesur neu amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, mae credydwyr ac unrhyw ddarpariaethau eraill yn cael eu cydnabod fel y swm setliad ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau dyledus.
m. Tanysgrifiadau am Oes
Trosglwyddir tanysgrifiadau aelodau newydd y Llys, sy’n dymuno ymaelodi am oes, sef £100, i gyfrif Tanysgrifiadau am Oes yn y credydwyr. Rhyddheir un rhan o ddeg pob blwyddyn i’r Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol.
n. Offerynnau ariannol
Dim ond asedau ariannol a rhwymedigaethau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Mae offerynnau ariannol sylfaenol yn cael eu cydnabod ar werth trafodiad ac wedyn mesur ar eu gwerth anheddiad.
o. Costau pensiwn budd diffiniedig
Mae’r Eisteddfod yn gweithredu cynllun pensiwn gyda Chyngor Sir Caerdydd, sy’n statudol cyfrannol lle mae’r budd wedi’i ddiffinio ac sy’n seiliedig ar gyflog terfynol. Gweinyddir gan Gyngor Sir Caerdydd. Cyfrannodd yr elusen 27.9% (2022: 26.7%) o gyflogau pensiynadwy i’r cynllun am y cyfnod 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024, sef £0.12m (2022: £0.09m).
Mae'r rhwymedigaeth a gydnabyddir yn y fantolen o ran y cynllun buddion diffiniedig yw’r gwerth presennol y rhwymedigaeth buddiannau diffiniedig ar ddiwedd y dyddiad adrodd llai gwerth teg asedau'r cynllun ar y dyddiad adrodd.
Mae'r rhwymedigaeth buddion diffiniedig yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r dull rhagamcanu unedau. Yn flynyddol mae'r elusen yn defnyddio actiwarïaid annibynnol i gyfrifo'r rhwymedigaeth. Mae'r gwerth presennol yn cael ei gyfrifo drwy ddisgowntio'r taliadau amcangyfrifedig yn y dyfodol gan ddefnyddio arenillion y farchnad ar fondiau corfforaethol o safon uchel sy'n cael eu cadw mewn sterling a thelerau sy'n debyg i gyfnod amcangyfrifedig y taliadau yn y dyfodol (‘cyfradd ddisgownt’).
27
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 Mawrth 2024
Mae gwerth teg asedau'r cynllun yn cael ei fesur gyda'r hierarchaeth gwerth teg FRS102 ac yn unol â pholisi'r elusen ar gyfer asedau a gedwir yn yr un modd. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o dechnegau prisio priodol.
Mae enillion a cholledion sy'n deillio o addasiadau profiad a newidiadau mewn tybiaethau actiwaraidd yn cael eu codi neu eu credydu i incwm cynhwysfawr arall. Mae'r symiau hyn ynghyd â'r adenillion ar asedau'r cynllun, llai symiau a gynhwysir yn y llog net, yn cael eu datgelu fel 'ar ôl ailbrisio atebolrwydd net diffiniedig'.
Mae cost y cynllun buddion diffiniedig, a gydnabyddir yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol fel costau gweithwyr, ac eithrio pan maent wedi ei gynnwys yng nghost yr ased, yn cynnwys:
-
y cynnydd yn rhwymedigaeth budd pensiwn yn deillio o wasanaeth gweithiwr yn ystod y cyfnod; a
-
cost y cyflwyniadau cynllun, newidiadau budd-dal, cwtogiadau ac aneddiadau.
Mae cost llog net wedi ei gyfrifo drwy gymhwyso'r gyfradd ddisgownt i gyfanswm net y rhwymedigaeth buddiannau diffiniedig a gwerth teg asedau'r cynllun. Mae'r gost hon yn cael ei gydnabod yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol fel 'draul cyllid'.
Yn ystod 2023/2024 trafododd yr elusen delerau gyda chynllun Pensiwn Caerdydd a'r Fro i adael y cynllun hwn ar 31 Mai 2024. Mae hyn wedi arwain at warged ymadael o £2.45m i'r elusen a dderbyniwyd ar 2 Rhagfyr 2024.
p. Costau pensiwn cyfraniadau diffiniedig
Mae’r Eisteddfod hefyd wedi trefnu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau wedi’u diffinio. Mae cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn gynllun pensiwn lle mae’r Eisteddfod yn talu cyfraniadau penodedig i mewn i endid ar wahân. Rheolwyd y cynllun yn annibynnol ac mae’r elusen yn cyfrannu 6% o gyflog pensiynadwy. Ar ôl talu’r cyfraniadau, nid yw’r Eisteddfod dan ragor o rwymedigaethau talu.
Pan fydd y cyfraniadau’n daladwy, fe’u cydnabyddir yn gost yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol. Mae’r symiau nas talwyd i’w gweld yn credydwyr eraill, ar ffurf rhwymedigaeth, yn y Fantolen.
Cafwyd tâl pensiwn o £18,348 ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr i 31 Mawrth 2024 (blwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 - £ Dim).
ph. Treth
- Mae’r Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig ac felly, nid yw’n gorfod talu treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.
28
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
2. Rhoddion
| Rhoddion | ||||
|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd Anghyfyngedig £ 000 Y Cronfeydd Lleol a Chyffredinol 206 Ymddiriedolaeth Edwin Griffiths, UDA 337 Rhoddion trwy ewyllys 534 Rhoddion gan sefydliadau eraill 20 Tanysgrifiadau aelodaeth 7 1,104 |
Cronfeydd Penodol £ 000 122 - - - - 122 |
Cronfeydd Cyfyngedig £ 000 - - - - - - |
||
| 2024 £ 000 328 337 534 20 7 1,226 |
2022 £ 000 264 269 100 22 6 |
|||
| 661 | ||||
3. Grantiau
Mae'r grantiau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod fel a ganlyn:
| Cronfeydd Anghyfyngedig £ 000 Llywodraeth Cymru - Grant craidd 2023/24 - Llywodraeth Cymru - Cynllun fforddiadwy 2024 - Cyngor Celfyddydau Cymru - Llywodraeth Cymru - Isadeiledd 2023 - Stonewall - Prosiectau Mas ar y Maes - Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig Cymru 2024 - British Council Cymru - Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig Cymru 2023 - Grantiau eraill - Llywodraeth Cymru - Cynllunio Eisteddfod 2022+ - Cyngor Celfyddydau Cymru - Llywodraeth Cymru - Cyfalaf (Stondinau) - Llywodraeth Cymru - Gweithgareddau lles plant - Cronfa Treftadaeth y Loteri - Proseict Cymunedol - Ty Cerdd - Prosiect Ysbrydoli - Cyfanswm y grantiau - |
Cronfeydd Cyfyngedig £ 000 1,000 350 168 150 65 44 22 20 28 - - - - - - 1,847 |
||
|---|---|---|---|
| 2024 £ 000 1,000 350 168 150 65 44 22 20 28 - - - - - - 1,847 |
2022 £ 000 943 - - - - - - - - 600 119 800 100 31 1 |
||
| 2,594 |
29
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
4. Cymynroddion gwaddol parhaol
| Derbyniwyd tri gymynrodd yn ystod 2023/24 (2022: Dim). Cronfa Ysgoloriaeth Eira Francis Davies Cronfa John Harry, Pontarddulais Tlws Coffa Leah Owen Cyfanswm |
2024 £ 000 200 28 5 |
|---|---|
| 233 |
5. Gweithgareddau elusennol:
| Gweithgareddau elusennol: | ||||
|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd Anghyfyngedig Gŵyl yr Eisteddfod: £ 000 Incwm o'r Ŵyl 2,623 Incwm o'r Maes 1,108 Awdurdodau a chynghorau Lleol 404 Cynlluniau nawdd 212 Incwm arall ar weithgareddau elusennol 63 Maes Carafanau 395 Cyfanswm 4,805 |
Cronfeydd Penodol £ 000 74 267 - 32 - 94 467 |
Cronfeydd Cyfyngedig £ 000 - - - - - - - |
||
| 2024 £ 000 2,697 1,375 404 244 63 489 |
2022 £ 000 2,352 841 388 115 44 38 |
|||
| 5,272 | 3,778 |
6. Gweithgareddau masnachu
| Gweithgareddau masnachu | ||
|---|---|---|
| 2024 | 2022 | |
| £ 000 | £ 000 | |
| Cynllun loteri | 14 | 13 |
7. Incwm o fuddsoddiadau
| Incwm o fuddsoddiadau | |||
|---|---|---|---|
| Cronfeydd Anghyfyngedig £ 000 Llog y buddsoddiadau 13 Llog buddsoddiadau byr 23 Cyfanswm 36 |
Cronfeydd Gwaddol £ 000 57 1 58 |
||
| 2024 £ 000 70 24 |
2022 £ 000 34 - |
||
| 94 | 34 |
30
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
8. Gwariant
Gweithgareddau codi arian Cynllun loteri Ffi broceriaid buddsoddiadau Cyfanswm Gweithgareddau elusennol Gŵyl yr Eisteddfod Cyfanswm Dadansoddiad o'r costau cynnal Rheolaeth (Swyddfa a gwasanaethau TG) Dibrisiad adnoddau Costau cyllid Llywodraethu Cyfanswm |
Gwariant Uniongyrchol £ 000 12 10 22 7,055 7,077 |
Costau Cynnal £ 000 - - - 652 652 |
||
|---|---|---|---|---|
| 2024 £ 000 12 10 22 7,707 7,729 288 168 106 90 652 |
2022 £ 000 11 8 |
|||
| 19 6,415 |
||||
| 6,434 | ||||
| 352 126 48 32 |
||||
| 558 |
Mae'r costau llywodraethu yn cynnwys tâl i'r archwiliwyr am wasanaethau archwilio cyfrifon 2023/24 o £9,500 (2022: £9,000).
9. Costau staff
Cyflogau gros Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr Cost pensiwn y cyflogwr |
2023/24 2022 £ 000 £ 000 611 352 61 36 134 92 806 480 |
2023/24 2022 £ 000 £ 000 611 352 61 36 134 92 806 480 |
|---|---|---|
| 480 |
Yn ystod y flwyddyn cyflogwyd, ar gyfartaledd misol, 12 o swyddogion cyflogedig llawn amser (2022 - 8) yn y meysydd canlynol:
| (2022 - 8) yn y meysydd canlynol: | ||
|---|---|---|
| 2023/24 | 2022 | |
| Gweithgareddau'r elusen | 10 | 6 |
| Gweinyddiaeth a rheoli | 2 | 2 |
Personél Rheoli Allweddol
Y personél rheoli allweddol yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ymddiriedolwyr ynghyd â'r Tîm Rheoli sydd yn gweithredu trwy'r Bwrdd Rheoli.
Mae aelodau'r Tîm Rheoli yn cynnwys y Prif Weithredwr, Trefnydd a'r Pennaeth Artistig, Pennaeth Cyfathrebu a'r Pennaeth Cyllid. Cyfanswm y tâl gros a buddion i weithwyr y personél rheoli allweddol am y cyfnod o 15 mis oedd £435,125 - 4 aelod (2022: £224,525 - 4 aelod).
Nifer o gyflogeion yr oedd eu taliadau, yn seilieig ar gyflogau gros a gwerth trethadwy nwyddau mewn da ond heb gyfraniadau pensiwn y cyflogwr, o fewn yr ystodau canlynol:
| 2023/24 | 2022 | ||
|---|---|---|---|
| £90,000 | - £99,999 | 1 | - |
| £80,000 | - £89,999 | - | - |
| £70,000 | - £79,000 | 2 | 1 |
| £60,000 | - £69,000 | 1 | 1 |
Mae pob cyflogeion sydd yn ennill dros £60,000 yn aelod o gynllun pensiwn lle mae'r budd wedi'i ddiffinio.
Ymddiriedolwyr - Ni chafodd yr ymddiriedolwyr unrhyw dâl yn ystod y flwyddyn (2022: Dim) Ni dderbyniodd unrhyw ymddiriedolwr dâl am wasanaethau proffesiynol a gyflenwyd i'r elusen (2022: £ dim). Costau teithio i'r ymddiriedolwyr ac aelodau eraill yn ystod 2023/24 oedd £44.60 (2022: £177.30).
31
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
10. Eiddo parhaol
Asedau treftadaeth
Gan nad oes cost ar gyfer regalia'r Orsedd (sydd yn cynnwys y Cleddyf Mawr a'r Corn Hirlas) nid ydym yn cynnwys yr eitemau hyn fel eiddo. Amcangyfrif gwerth ariannol y regalia ar gyfer pwrpas yswiriant yw £222,000 (Mehefin 2016).
Asedau anniriaethol
| Cost 1 Ionawr 2023 Ychwanegiadau Gwarediadau 31 Mawrth 2024 Amorteiddiad 1 Ionawr 2023 Cost am y flwyddyn Gwarediadau 31 Mawrth 2024 Gwerth net yr asedau 31 Mawrth 2024 31 Rhagfyr 2022 Asedau parhaol Cost 1 Ionawr 2023 Ychwanegiadau Gwarediadau 31 Mawrth 2024 Dibrisiad 1 Ionawr 2023 Cost am y flwyddyn Gwarediadau 31 Mawrth 2024 Gwerth net yr eiddo 31 Mawrth 2024 31 Rhagfyr 2022 |
Gwefan Cyfanswm £ 000 £ 000 102 102 5 5 (39) (39) 68 68 72 72 15 15 (39) (39) 48 48 20 20 30 30 Adeiladau Adeiladau Peiriannau/ Dodrefn Dodrefn Eiddo Parhaol Eraill Offer Maes Llwyfan Swyddfa i'r Orsedd £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 570 976 863 19 144 33 - 47 - 11 23 - - - - - (37) - 570 1,023 863 30 130 33 293 128 831 19 124 8 14 126 8 3 16 1 - - - - (37) - 307 254 839 22 103 9 263 769 24 8 27 24 277 848 32 - 20 25 |
Cyfanswm £ 000 2,605 81 (37) |
|---|---|---|
| 2,649 | ||
| 1,403 168 (37) |
||
| 1,534 | ||
| 1,115 | ||
| 1,202 |
32
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
11. Buddsoddiadau
Dewiswyd y buddsoddiadau i gwrdd â gofynion yr Eisteddfod am logau sylweddol, diogelwch cyfalaf, a'r rhwyddineb i droi rhai ohonynt yn arian yn ôl gofynion y llif arian.
Buddsoddiadau Eiddo Parhaol
| Gwerth y | Farchnad | Y Gost | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Cronfeydd |
Cronfeydd | 31.03.24 | 31.12.22 | 31.03.24 | Llog | |
| Anghyfyngedig | Gwaddol |
Cyfanswm | Cyfanswm | Cyfanswm | 2023/24 | |
| £ 000 | £ 000 | £ 000 | £ 000 | £ 000 | £ 000 | |
| COIF Cyfrif Cadw | ||||||
| (Charities Official Investment Fund) | 241 | 231 | 472 | 472 | 472 | 25 |
| Llog Sefydlog | - | 362 | 362 | 275 | 392 | 11 |
| Cyfranddaliadau | - | 856 | 856 | 693 | 741 | 27 |
| Nwyddau | - | 38 | 38 | 34 | 28 | - |
| Eiddo | - | 60 | 60 | 42 | 64 | 4 |
| Buddsoddiadau eraill | - | 73 | 73 | 55 | 85 | 3 |
| Arian ar gyfer dibenion buddsoddi | - | 8 | 8 | 28 | 8 | - |
| Cyfanswm Buddsoddiadau parhaol | 241 | 1,628 | 1,869 | 1,599 | 1,790 | 70 |
| Buddsoddiadau Tymor Byr | 1,629 | 141 | 1,770 | 885 | 1,770 | 23 |
| Cyfanswm Buddsoddiadau | 1,870 | 1,769 | 3,639 | 2,484 | 3,560 | 93 |
Mae'r arian yng ngyfrif COIF Cadw yn arian hylifol iawn ar gyfer buddsoddi yn y tymor hwy.
Mae'r arian a gynhwysir fel Buddsoddiadau Tymor Byr yn cynrychioli'r arian a dderbyniwyd i'w ddefnyddio ar gyfer yr Eisteddfodau a gynhelir yn y dyfodol agos.
Symudiadau yn y Buddsoddiadau Eiddo Parhaol
| Gwerth y Farchnad - 31 Rhagfyr 2022 Gwerthu buddsoddiadau (Gwerth y farchnad) Prynu buddsoddiadau newydd (Cost) Lleihad yn yr arian ar gyfer dibenion buddsoddi Enillion ar fuddsoddiadau Gwerth y Farchnad - 31 Mawrth 2024 |
Cyfanswm £ 000 1,599 (387) 597 (20) 80 |
|---|---|
| 1,869 |
33
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
12. Dyledwyr
| Dyledwyr - Masnachol Dyledwyr - Eraill Ad-daliad Treth Incwm a TAW Rhagdaliadau ac incwm cronedig |
2024 2022 £ 000 £ 000 341 252 10 531 483 473 188 30 1,022 1,286 |
|---|---|
Mae'r Rhagdaliadau ac incwm cronedig uchod yn cynnwys gwariant o £144,902 ar gyfer blaendaliadau am wasanaethau i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
13. Credydwyr: Dyledus mewn llai na blwyddyn
| Credydwyr Masnachol Credydwyr eraill Croniadau Tanysgrifiadau am Oes |
2024 2022 £ 000 £ 000 115 274 43 14 18 9 11 10 187 307 |
|---|---|
14. Dadansoddiad o'r Asedau net
| Cronfeydd Anghyfyngedig £ 000 Eiddo anniriaethol 20 Eiddo Parhaol 475 Buddsoddiadau 241 Asedau cyfredol 2,423 Credydwyr cyfredol (187) Cynllun pensiwn 3,290 6,263 |
Cronfeydd Cyfyngedig £ 000 - 640 - 399 - - 1,039 |
Cronfeydd Gwaddol £ 000 - - 1,628 141 - - 1,769 |
|
|---|---|---|---|
| 2024 2022 £ 000 £ 000 20 30 1,115 1,202 1,869 1,599 2,963 2,219 (187) (307) 3,290 2,490 |
|||
| 9,070 7,233 |
15. Cytundebau prydles
Dadansoddiad o'r rhent sydd i'w dalu o dan gytundebau prydles am y ceir swyddogol:
| Y cytundeb yn dod i ben: Mewn llai na blwyddyn Rhwng blwyddyn a dwy flynedd Rhwng dwy a phum mlynedd |
2024 2022 £ 000 £ 000 4 4 - - - - 4 4 |
|---|---|
34
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
16. Symudiadau yn y Cronfeydd Penodol
| Balans 1 Ionawr 2023 (Rhyddhau incwm) / incwm a dderbyniwyd ar gyfer yr Eisteddfod gyfredol: Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023: Cronfeydd lleol a chyffredinol Incwm o'r Ŵyl Incwm a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer Eisteddfodau'r dyfodol: Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Tâf 2024: Cronfeydd lleol a chyffredinol Incwm o'r Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wresam 2025: Cronfeydd lleol a chyffredinol Balans 31 Mawrth 2024 |
2024 £ 000 498 (316) (161) 119 467 3 |
|---|---|
| 610 |
17. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig
| Llywodraeth Cymru - Cynllunio 2022+ Llywodraeth Cymru - Cyfalaf Llywodraeth Cymru - Grant Llywodraeth Cymru - Fforddiadwy 2024 Cyngor Celfyddydau Cymru Llywodraeth Cymru - Isadeiledd 2023 Stonewall - Prosiectau Mas ar y Maes Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig 24 Grantiau eraill British Council Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig 23 Cyfanswm |
01.01.23 Derbyniwyd Gwariwyd Arall 31.03.24 £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 260 - (260) - - 720 - (80) - 640 - 1,000 (1,000) - - - 350 - - 350 - 168 (168) - - - 150 (150) - - - 65 (65) - - - 44 (17) - 27 - 28 (28) - - - 22 - - 22 - 20 (20) - - |
|---|---|
| 980 1,847 (1,788) - 1,039 |
35
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
18. Cynllun Pensiwn
Mae'r Eisteddfod yn gweithredu cynllun pensiwn Enillion Ailbrisiedig Gyrfa Cyfartalog (CARE). Gweinyddir y Gronfa gan Adran Bensiynau Cyngor Dinas Caerdydd. Mae'r asedau'r cynllun wedi'u cadw mewn cronfeydd ar wahân.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar werth actiwaraidd llawn y gronfa ar 31 Mawrth 2022 a ddiweddarwyd i 31 Mawrth 2024 gan actiwari annibynnol.
| 2024 |
2022 | 2021 | |
|---|---|---|---|
| Cyfradd gostyngiad | 4.8% | 4.7% | 2.0% |
| Chwyddiant Mynegai Pris Defnyddwyr (CPI) | 2.6% | 2.6% | 2.7% |
| Cyfradd cynnydd mewn tâl pensiynau | 2.6% | 2.6% | 2.7% |
| Cyfradd cynnydd mewn pensiynau wedi'u gohirio | 2.6% | 2.6% | 2.7% |
| Cyfradd cynnydd mewn cyflogau | 3.6% | 3.6% | 3.7% |
Ar sail y rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd ar gyfer disgwyliadau einioes, disgwylir i bensiynwr sydd yn 65 ar 31 Ragfyr i fyw am:
| 2024 |
2022 | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwrywaidd | Aelod sydd yn | 65 | ar | 31 | Ragfyr | 22.1 | 22.1 |
| Aelod sydd yn | 45 | ar | 31 | Ragfyr | 22.7 | 23.2 | |
| Benywaidd | Aelod sydd yn | 65 | ar | 31 | Ragfyr | 24.3 | 24.6 |
| Aelod sydd yn | 45 | ar | 31 | Ragfyr | 25.3 | 26.0 |
Cyfradd adennill a ddisgwyliad ar 31/03/2024:
| Buddsoddiadau ecwiti Eiddo Bondiau'r llywodraeth Bondiau corfforaethol Credyd aml-ased Arian Arall Cyfanswm |
Canran asedau ar 2024 (%) 69.7 6.3 8.4 7.3 5.4 2.3 0.6 100.00 |
Gwerth 2024 (£m) 5.47 0.49 0.66 0.57 0.42 0.18 0.05 7.84 |
Canran asedau ar Gwerth 2022 2022 (%) (£m) 67.0 4.53 8.4 0.57 8.8 0.60 7.5 0.51 5.2 0.35 3.1 0.21 0.0 0.00 100.0 6.77 |
|---|---|---|---|
Sefyllfa y gronfa ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru:
| 2024 | 2022 | |
|---|---|---|
| £m | £m | |
| Canran o'r asedau | 7.84 | 6.77 |
| Amcangyfrif o'r rhwymedigaethau | (4.55) | (4.28) |
| (Rhwymedigaeth)/Ased a gydnabyddir ar y fantolen | 3.29 | 2.49 |
| Mae'r symiau a gydnabuwyd yn y cyfrif elw a cholled fel y canlynol: | ||
| 2024 | 2022 | |
| £m | £m | |
| Cost gwasanaeth presennol | 0.09 | 0.17 |
| Llog ar rwymedigaethau'r cynllun pensiwn | (0.15) | (0.02) |
| Cyfanswm cost gweithredu | (0.06) | 0.15 |
36
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL
AR GYFER Y CYFNOD 1 IONAWR 2023 I 31 MAWRTH 2024
| Newidiadau i werth presennol oblygiadau'r budd diffiniedig yn ystod y cyfnod: | Newidiadau i werth presennol oblygiadau'r budd diffiniedig yn ystod y cyfnod: | Newidiadau i werth presennol oblygiadau'r budd diffiniedig yn ystod y cyfnod: | Newidiadau i werth presennol oblygiadau'r budd diffiniedig yn ystod y cyfnod: |
|---|---|---|---|
| 2024 | 2022 | 2021 | |
| £m | £m | £m | |
| Oblygiadau agoriadol y budd diffiniedig | 4.28 | 6.59 | 6.61 |
| Cost gwasanaeth presennol | 0.09 | 0.17 | 0.17 |
| Llog ar rwymedigaethau'r cynllun pensiwn | 0.25 | 0.13 | 0.09 |
| Cyfraniadau gan aelodau'r cynllun | 0.04 | 0.03 | 0.03 |
| Lleihad/(Cynnydd) actiwaraidd ar rwymedigaethau | 0.07 | (2.51) | (0.10) |
| Buddion a dalwyd | (0.18) | (0.13) | (0.15) |
| Cost cwtogi | 0.00 | 0.00 | (0.06) |
| Oblygiadau terfynol y budd diffiniedig | 4.55 | 4.28 | 6.59 |
| Newidiadau i werth farchnad asedau'r cynllun yn ystod y cyfnod: | |||
| 2024 | 2022 | 2021 | |
| £m | £m | £m | |
| Gwerth farchnad asedau'r cynllun ar ddechrau'r cyfnod | 6.77 | 7.54 | 6.55 |
| Enillion disgwyliedig asedau'r cynllun | 0.40 | 0.15 | 0.09 |
| Cynnydd actiwaraidd ar asedau | 0.69 | (0.91) | 0.91 |
| Cyfraniadau'r cyflogwr | 0.12 | 0.09 | 0.11 |
| Cyfraniadau'r cyflogedig | 0.04 | 0.03 | 0.03 |
| Buddion a dalwyd | (0.18) | (0.13) | (0.15) |
| Gwerth farchnad asedau'r cynllun ar ddiwedd y cyfnod | 7.84 | 6.77 | 7.54 |
| Gwir enillion asedau'r cynllun: | |||
| 2024 | 2022 | 2021 | |
| £m | £m | £m | |
| Enillion disgwyliedig asedau'r cynllun | 0.40 | 0.15 | 0.09 |
| Cynnydd (Colled) actiwaraidd ar asedau | 0.69 | (0.91) | 0.91 |
| Gwir enillion/(colledion) ar asedau'r cynllun | 1.09 | (0.76) | 1.00 |
| Dadansoddiad hanesyddol gwerthoedd asedau, rhywmedigaethau'r cynllun, | Dadansoddiad hanesyddol gwerthoedd asedau, rhywmedigaethau'r cynllun, | Dadansoddiad hanesyddol gwerthoedd asedau, rhywmedigaethau'r cynllun, | Dadansoddiad hanesyddol gwerthoedd asedau, rhywmedigaethau'r cynllun, | Dadansoddiad hanesyddol gwerthoedd asedau, rhywmedigaethau'r cynllun, |
|---|---|---|---|---|
| cyfanswm y diffyg a phrofiad enillion a cholledion: | ||||
| 2024 | 2022 | 2021 | 2020 | |
| £m | £m | £m | £m | |
| Gwerth farchnad asedau'r cynllun | 7.84 | 6.77 | 7.54 | 6.55 |
| Rhwymedigaethau'r cynllun | (4.55) | (4.28) | (6.59) | (6.61) |
| Gweddill/(Diffyg) yn y cynllun | 3.29 | 2.49 | 0.95 | (0.06) |
37