CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adroddiad Blynyddol 2024 – 2025 RHIENI DROS ADDYSG GYMRAEG
1
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Cynnwys
| 1. | Clawr : Logos Ysgolion Cymraeg newydd agorodd yn 2023 | 1 |
|---|---|---|
| Ysgol Gymraeg Trefynwy, Sir Fynwy | Ysgol Gymraeg Trefynwy, Sir Fynwy | |
| Ysgol Bro Penfro, Sir Penfro | Ysgol Bro Penfro, Sir Penfro | |
| Ysgol Bro Aeron, Felinfach, Ceredigion | ||
| Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, Rhondda Cynon Taf | ||
| 2. | Cynnwys | 2 |
| 3. | Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol | 3 |
| 4. | Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg | 4 |
| 5. | Pwy ydym ni? | 4 |
| 6. | Rhwydweithio | 5 |
| 7. | Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus | 6 |
| 8. | Rhagair a Gair gan y Cadeirydd | 6 |
| 9. | Gwaith y flwyddyn | 7 |
| 10. | Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol | 13 |
| 11. | Cyfarfodydd a chynrychiolaeth | 13 |
| 12. | Cysylltiadau Lleol | 15 |
| 13. | Cysylltu | 16 |
| 14. | Adolygiad ac Adroddiad Ariannol | 16 |
2
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol
Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)
Rhif Elusen:
1153403
Swyddfa Gofrestredig:
Rhieni Dros Addysg Gymraeg
Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Treforgan, Caerdydd, CF15 8LW
Bwrdd Cyfarwyddwyr
Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a’i aelodau yw ymddiriedolwyr yr elusen.
Etholir yr ymddiriedolwyr am dymor o 3 mlynedd am uchafswm o 3 chyfnod yn ôl y cyfansoddiad.
Ymddiriedolwyr:
David Wyn Williams (Cychwyn 15.1. 2018) Elin Mair Mannion (Cychwyn 5.6. 2022) Owain Rhys (Cychwyn 13.6.2022) Tomos Rodrigues (Cychwyn 1.7. 2023)
Apwyntir y Cyfarwyddwr Cenedlaethol gan y Bwrdd a nhw sydd yn gofalu am waith dydd i ddydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Elin Maher a chyswllt elusen: Swyddog Hyrwyddo ac Glesni Edwards Ymgysylltu Gogledd Cymru Banc: Natwest Archwilwyr: RJ Finance, Casnewydd.
Gosodir dargedau blynyddol gan y Cyfarwyddwr Cenedlaethol yn unol â blaenoriaethau RhAG a’r gyllideb sydd ar gael. Cânt eu monitro a’u craffu gan y bwrdd yn eu cyfarfodydd ar hyd y flwyddyn yn ogystal â chyfarfodydd cyson gyda’r cyrff ariannu.
Mae’r ymddiriedolwyr wedi gweithredu drwy gydol y flwyddyn yn unol â’u dyletswyddau statudol fel ymddiriedolwyr Sefydliad Corfforedig Elusennol o dan Ddeddf Elusennau 2011 ac wedi sicrhau llywodraethiant cadarn, rheolaeth ariannol briodol, a chydymffurfiaeth â’r ddogfen lywodraethu. Maent wedi goruchwylio gwaith y mudiad, gosod amcanion strategol, monitro perfformiad a risgiau, adolygu trefniadau ariannol, a sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei wneud er budd y cyhoedd ac er mwyn hyrwyddo amcanion elusennol RhAG.
3
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
Dymuna’r ymddiriedolwyr, sef aelodau Bwrdd Rhieni Dros Addysg Gymraeg, gyflwyno eu hadroddiad ar waith a’r adroddiad ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31.3.2025.
Llywodraethiant a rheolaeth
Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethu sef Cyfansoddiad Sefydliad Cofrestredig Elusennol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a fabwysiadwyd ar 14 Awst 2013. Yr ydym yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE).
Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn fudiad nid-er-elw ac yn cael ei arwain gan bwyllgor cenedlaethol o wirfoddolwyr a adnabyddir fel Y Pwyllgor Cenedlaethol. Bwrdd Cyfarwyddwyr mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yw aelodau craidd y Pwyllgor Cenedlaethol. Yn ychwanegol i’r Bwrdd daw ymgynghorwyr eraill i gynghori’r Bwrdd ar amrywiaeth o faterion yn ôl y gofyn.
Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg
Amcan y mudiad yw hyrwyddo Addysg Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn hygyrch i bawb a’i mynno.
Cyflawnwn hyn trwy gydweithio ag amrywiol gyrff cenedlaethol, cynnal gwefan gyfredol yn hyrwyddo addysg Gymraeg, cyhoeddi adroddiadau ac ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau, cynghorwn rieni gwahanol ardaloedd Cymru gan gynnig iddynt wybodaeth, cefnogaeth ac eiriolaeth ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag Addysg Gymraeg.
Mae’r ymddiriedolwyr wedi sicrhau bod gweithgareddau’r flwyddyn yn parhau i gyflawni’n uniongyrchol amcanion elusennol RhAG, sef hyrwyddo addysg Gymraeg fel ei bod yn hygyrch i bawb sy’n dymuno ei dewis. Mae’r gwaith o roi cyngor i rieni, ymateb i ymgynghoriadau, cyfrannu at gynllunio strategol, cefnogi teuluoedd gyda phrosesau derbyn a chludiant, ac annog datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru, i gyd yn darparu budd cyhoeddus pendant drwy gynyddu mynediad, tegwch ac ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg.
Pwy ydym ni?
Mudiad cenedlaethol o rieni a sefydlwyd yn 1952 yw Rhieni dros Addysg Gymraeg . Prif amcanion y mudiad yw cefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ledled Cymru trwy roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant a’u caniatáu i gaffael dwyieithrwydd cyflawn.
Mae RhAG yn credu, fel y gwna Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru, mai ysgolion Cymraeg yw’r model sy’n cyflwyno orau sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Trwy ei waith, y mae RhAG yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg. Mae RhAG hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg trwy roi gwybodaeth i rieni am fanteision addysg Gymraeg a’u cefnogi ar hyd y daith addysg yn ogystal.
Mae RhAG wedi datblygu arbenigedd mewn cefnogi, datblygu a chyfrannu at gynllunio addysg Gymraeg. Gweithiwn ar ran rieni a gofalwyr gyda rhwydwaith o gefnogwyr ar draws Cymru sy'n gallu cynghori a helpu rhieni, awdurdodau lleol ac adrannau’r Llywodraeth i ddatblygu a gwireddu cynlluniau i gynyddu darpariaethau addysg Gymraeg. Mae gan y mudiad rôl bwysig i gynrychioli rhieni sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg. Mae RhAG felly’n ddolen gyswllt
4
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
werthfawr a hanfodol rhwng rhieni, mudiadau trydydd sector gofal plant, ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a llywodraeth ganol fel ei gilydd.
Mae rôl RhAG wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i nifer yr ysgolion Cymraeg gynyddu, ac wrth i addysg Gymraeg ddod yn fwy hygyrch i rieni fel cyfrwng addysg. Yr hyn sydd wedi newid yn arwyddocaol yw sefydlu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn y 22 sir a chyfraniad RhAG i’r fforymau addysg Gymraeg sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru mewn ymateb i flaenoriaeth strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr.
Gweithredir erbyn hyn un o egwyddorion sylfaenol y mae RhAG wedi bod yn gofyn amdano ar lefel sirol sef yr angen am strategaeth addysg Gymraeg. Rydym wedi cyfrannu hefyd at lunio Deddf Addysg Gymraeg a ddaw i rym yng nghylch presennol y Senedd. Ymatebodd RhAG i’r papur gwyn ar Fil y Gymraeg ac Addysg yn 2023 ac edrychwn ymlaen at gyfrannu ymhellach at gam nesaf hynt y ddeddfwriaeth a fydd yn digwydd yn nhymor yr Hydref 2024.
Ystyriwn fod pob rhiant neu ofalwr sydd am neu wedi dewis Addysg Gymraeg i’w plant yn gymwys i dderbyn cefnogaeth RhAG. Gweithiwn hefyd gyda chymunedau lle nad yw’r dewis hwnnw wedi ei wneud eto, gan ddylanwadu’n gadarnhaol drwy rannu gwybodaeth ac ateb ymholiadau yn ôl ein gallu.
Datganiad Risg
Mae’r ymddiriedolwyr wedi adolygu’r prif risgiau sy’n wynebu’r elusen ac yn ystyried bod y systemau rheoli presennol yn gymesur â maint a natur y mudiad. Prif risgiau gweithredol RhAG yw dibyniaeth ar gyllid grant blynyddol, capasiti staffio cyfyngedig, a risgiau allanol sy’n effeithio ar gynllunio addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol. Caiff y rhain eu lliniaru drwy fonitro ariannol rheolaidd, prosesau llywodraethu cadarn, chynllunio ymlaen llaw gyda phartneriaid cenedlaethol, a chydweithio agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir y gwaith.
Rhwydweithio
Gweithreda RhAG mewn sawl ffordd i hybu a hyrwyddo addysg Gymraeg yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn cwrdd tua 6 gwaith y flwyddyn ac yn cynrychioli rhieni ar sail genedlaethol gerbron y llywodraeth a chyrff eraill. Mae'r swyddogion gyda chefnogaeth y Pwyllgor, yn llunio polisïau ac ymatebion i ymgynghoriadau sydd yn adlewyrchu natur ac anghenion gwahanol ranbarthau Cymru trwy hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a chryfhau systemau cynllunio addysg Gymraeg yn ogystal.
Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn annog cynrychiolaeth o bob sir i sefydlu pwyllgor lleol, ac mae pwyllgorau neu gynrychiolaeth yn bodoli yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o weithgareddau, gan gynnwys:
-
Rhwydweithio’n lleol i hysbysu a rhoi cymorth i rieni newydd
-
Cwrdd â swyddogion yr awdurdodau lleol i roi mewnbwn ar bolisïau Addysg Gymraeg a sicrhau darpariaeth ddigonol
-
Ymateb i ymgynghoriadau ar amrywiol agweddau sy’n effeithio ar ddatblygiad addysg Gymraeg
-
Ceisio arbenigedd y Pwyllgor Cenedlaethol ac arbenigwyr eraill ar faterion penodol
-
Aelodau o Fforymau Addysg Gymraeg Awdurdodau lleol
-
Aelodau o Fforymau Iaith Awdurdodau Lleol
5
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus
Cytunir ar raglen waith ar ddechrau’r flwyddyn gyda thargedau penodol gyda’n cyllidwyr a’n cyfarwyddwyr. Ein targedau eleni oedd fel a ganlyn:
-
Cefnogi/cydweithio efo’r Siroedd parthed CSCA Gweithio'n agosach gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol gan sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn datblygu ledled Cymru gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd
-
Parhau i ehangu rhwydwaith y mudiad yn effeithiol ym mhob rhan o Gymru. Datblygu presenoldeb a chefnogaeth ar gyfer siroedd y Gogledd gyda’r swyddog newydd wedi llleoli yno. Sylw penodol ar siroedd lle nad oes Fforwm Addysg Gymraeg.
-
Parhau i fod â phresenoldeb hyrwyddo cyson ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y 2 wefan ac adeiladu’r wybodaeth sydd ar gael i rieni drwy weithio mewn partneriaeth gyda phob rhanddeiliad i wella ansawdd ac amlder y wybodaeth a rennir ganddynt.
-
Presenoldeb yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol digwyddiadau a gwyliau pan yn briodol. 5. Cefnogi ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.
-
Darparu cymorth, cefnogaeth ac eiriolaeth am ddim i rieni mewn achosion penodol yn ymwneud ag anawsterau mynediad i ysgolion Cymraeg.
Yn unol â’n cyfrifoldeb cyfreithiol fel cyfarwyddwyr, yr ydym wedi darllen canllawiau ar fudd cyhoeddus ac yn ystyried y canllawiau wrth i waith y flwyddyn gael ei bennu a’i ddatblygu. Os daw cyfarwyddwyr newydd i’r pwyllgor yna cyflwynir copi o’r canllaw iddynt i’w ddarllen yn ystod eu cyfnod anwytho.
Gall unrhyw riant/ofalwr gael cymorth uniongyrchol gan RhAG er mwyn eu cynorthwyo i gael gwybodaeth neu gefnogaeth ynghylch sicrhau mynediad at addysg Gymraeg yn eu hardal hwy drwy hunan-gyfeiriad neu eu cyfeirio gan fudiad partner.
Rhagair
Wrth edrych yn ôl ar 2024-25, mae hi wedi bod yn flwyddyn o herio systemau a sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda theuluoedd ledled Cymru. Ein nod eleni oedd nid dim ond ymateb i anawsterau dysgwyr unigol, ond ysgogi newid parhaol er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar sefyllfa nifer. O drafodaethau uniongyrchol gydag Ysgrifenyddion y Cabinet, i ddiogelu mynediad at addysg Gymraeg mewn cymunedau o Fôn i Fynwy, rydym wedi profi bod llais rhieni yn rymus. Mae’r adroddiad hwn yn dathlu ein llwyddiannau ond hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sydd eto i’w wneud i sicrhau bod y daith i addysg Gymraeg yn decach ac yn hygyrch i bawb ym mhob cymuned yng Nghymru.
Gair gan ein Cadeirydd - Wyn Williams
Dechreuodd blwyddyn ariannol 2024 gyda chrefftau a chanu yn Llyfrgell Llandudno, a oedd yn gyfle i siarad gyda rhieni yng Nghonwy am eu hopsiynau addysg. Conwy oedd tref leol yr heriwr Dafydd ap Siencyn yn fy hoff gyfres o lyfrau Cymraeg pan oeddwn i'n blentyn yn derbyn addysg yng Nghymru, ac mewn rhai mannau mae cyflenwi targedau addysg Gymraeg yn heriol i'r Awdurdodau Lleol, ond mae'n rhaid iddynt gael eu cyflawni ar ran holl blant Cymru. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn gwneud gwaith arbennig yn sicrhau bod Awdurdodau Lleol Cymru yn deall ac yn ceisio cyflawni eu dyletswyddau.
6
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Yn ôl barn un o brif siaradwyr cynhadledd RhaG ym mis Ionawr y llynedd, mae angen treblu'r nifer o swyddogion RhAG er mwyn sicrhau bod y gwaith yma yn cael y buddsoddiad sydd angen.
Mae'n bleser gen i felly cyflwyno adroddiad am barhad ein gwaith mawr yn ystod 2024-25 gan obeithio bydd ein gwaith yn parhau i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru wedi'r etholiadau sydd ar y gweill eleni.
Gwaith y flwyddyn CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Braf yw medru adrodd iddi fod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn arall i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg unwaith eto eleni. Gyda chynlluniau Strategol Cymraeg mewn addysg deng mlynedd yr Awdurdodau lleol erbyn hyn yn eu trydedd flwyddyn, a’r datblygiadau ar draws Cymru i gynyddu niferoedd mewn addysg Gymraeg yn mynd yn eu blaen yn raddol. Gwelwyd ôl gwaith amlwg ein dau swyddog cyflogedig, ar draws Cymru, gyda grwpiau lleol gwirfoddol newydd yn sefydlu a phresenoldeb RhAG unwaith eto yn amlwg ac yn ganolog wrth gynyddu’r niferoedd mewn addysg Gymraeg.
BLAENORIAETH 1 – Cefnogi a Chydweithio â’r Siroedd (CSCA)
Bu’r ddau swyddog yn cynnal presenoldeb cryf ar draws pob rhan o Gymru. Roedd cludiant yn thema a gododd yn aml yn ystod y flwyddyn, gyda phryderon ynghylch diffyg polisi ôl-16 mewn rhai siroedd yn parhau, anhegwch tâl cludiant rhwng siroedd a diffyg Asesiadau Effaith ar y Gymraeg mewn ymgynghoriadau. Parhau y mae’r gwaith i herio penderfyniadau i wrthod ceisiadau derbyn i ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hyn o ganlyniad i ddiffyg cynllunio lleoedd digonol gan awdurdodau lleol. Roedd hefyd heriau o ran oedi gwariant cyfalaf, cynllunio annigonol a diffyg strwythurau is-grwpiau mewn rhai siroedd.
BLAENORIAETH 2 – Ehangu Rhwydwaith RhAG ledled Cymru
Cynyddodd RhAG ein presenoldeb mewn sawl sir, yn enwedig yn y Gogledd. Cryfhawyd partneriaethau gyda’r Mentrau Iaith ac ysgolion, a sefydlwyd grwpiau rhieni newydd. Roedd rhai siroedd yn dangos cynnydd clir, tra roedd eraill yn parhau’n heriol.
BLAENORIAETH 3 – Rhieni, Cadernid Iaith a Grwpiau Lleol
Cynhaliwyd nifer o sesiynau Cadernid Iaith i rieni. Crëwyd grwpiau rhieni newydd mewn sawl sir. Bu llawer o ddigwyddiadau cymunedol yn targedu rhieni newydd, teuluoedd di-Gymraeg a chefnogi ysgolion Cymraeg i ddarbwyllo rhieni i astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg a dylanwadu i wella ystod darpariaeth pynciau cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion uwchradd dwy ffrwd.
BLAENORIAETH 4 – Cymunedau Ieithyddol Amrywiol
Crëwyd taflenni amlieithog ac adeiladwyd perthynas waith gyda sefydliadau fel Oasis Caerdydd. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch trochi hwyr, cefnogaeth i geiswyr lloches ac amlieithrwydd.
BLAENORIAETH 5 – Ymgysylltu, Hyrwyddo a'r Cyhoedd
Roedd RhAG yn bresennol mewn digwyddiadau cenedlaethol gan gynnwys y Sioe Frenhinol a’r ddwy Eisteddfod genedlaethol, yn ogystal â degau o ddigwyddiadau lleol. Nodwyd bod
7
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
angen gwaith pellach ar drafod pynciau cyfrwng Cymraeg gyda rhieni a throsglwyddo rhwng cyfnodau addysg, o’r blynyddoedd cynnar i’r cynradd ac yna i’r uwchradd.
Gwaith y Siroedd a CSCAau
Bu ein Swyddogion, Elin Maher a Glesni Edwards, yn parhau i weithredu fel 'beirniaid cyfeillgar' ar draws y 22 awdurdod lleol. Eleni, rydym wedi gweld mwy o ffocws ar sicrhau bod Cynlluniau Strategol y Siroedd (CSCAau) yn troi’n gamau gweithredu diriaethol.
Monitro a Dylanwadu: Rydym wedi mynychu fforymau addysg Gymraeg ym mhob cwr o Gymru, gan sicrhau bod llais y rhiant wrth y bwrdd penderfynu.
Heriau Trafnidiaeth: Mae RhAG wedi bod yn flaenllaw yn tynnu sylw at sut mae diffyg cludiant am ddim yn rhwystro twf addysg Gymraeg, gan gyflwyno papur tystiolaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2025.
Ffocws ar hyrwyddo:
Digwyddiad Cymerwch Ran / Take pART Venue Cymru, Llandudno yn Sir Conwy. Ionawr 2024
50 mlynedd yn ôl, rhyddhaodd Label Recordiau Sain un o'r recordiau cyntaf o hwiangerddi Cymraeg i blant, wedi'i ganu gan neb es at he aia « llai na Dafydd Iwan a'i ffrind Edward Morus Jones. Mae Cwm Rhyd-y-Rhosyn yn cael ei gydnabod fel un o'r recordiau pwysicaf yn yr iaith Gymraeg. Mae'r record yn plethu stori ffantasi drwy Jj - SBN hwiangerddi clasurol Cymraeg, caneuon gwerin traddodiadol a chyfansoddiadau newydd, am ddyffryn hudolus Cwm Rhyd-y-Rhosyn. Dyffryn hudolus Cymreig sy'n gartref i'r holl gymeriadau rhyfedd a rhyfeddol a geir yn ein hwiangerddi. Hanner canrif yn ddiweddarach, mae'r record yn dal yn boblogaidd ymhlith teuluoedd ledled Cymru a thu hwnt.
I nodi'r pen-blwydd arbennig hwn, fe wnaeth RhAG a Mentrau Iaith Cymru gydweithio ar brosiect i ail-greu hud Cwm Rhyd-y-Rhosyn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mai/Mehefin ym Meifod, Sir Drefaldwyn ac yna yn Venue Cymru, Llandudno. Gweithiwyd gyda dylunydd setiau proffesiynol i greu profiad amlsynhwyraidd, lle bu i gannoedd o blant a’u teuluoedd ymgolli ym myd cyfrinachol Cwm Rhyd-y-Rhosyn.
Dychmygwch fynd i mewn i ogof Caradog y Cawr, neu fynd am dro drwy’r coed gyda’r “dau gi bach”, neu ddringo toeau’r tai gyda Jac-y-do. Darparwyd clustffonau Disgo Tawel a gwrando ar drac sain Cwm Rhyd-y-Rhosyn gyda thywyswyr yn arwain ymwelwyr drwy’r gwahanol ardaloedd synhwyraidd. Roedd dawnswyr lleol wedi’u gwisgo fel cymeriadau o Gwm Rhyd-y-Rhosyn gan ddefnyddio arwyddion Makaton i wneud y caneuon yn hygyrch i bawb. Mae’n brosiect a oedd yn wir wedi cyfuno’r awydd gwirioneddol i sbarduno’r elfen o drosglwyddo a mwynhau’r Gymraeg ar draws y cenedlaethau mewn teuluoedd a phrofwyd hyn heb os nag oni bai gan gymaint o deuluoedd. Ein gobaith yw parhau gyda’r fenter hon flwyddyn nesaf er mwyn i fwy o deuluoedd Cymru fwynhau caneuon a straeon y Cwm.
Cefnogi Teuluoedd gydag apelau
Yn 2024-25, bu RhAG yn eiriol i dros 50 o deuluoedd a fu’n gorfod llywio drwy brosesau cymhleth apelau ysgo a chludiantl. Ein nod yw sicrhau nad yw rhwystrau gweinyddol yn atal plentyn rhag cael addysg Gymraeg ac felly mae sicrhau nad yw newidiadau ym mholisïau awdurdodau lleol yn ei gwneud yn anoddach i rieni gyrchu addysg Gymraeg. Gyda nifer o
8
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
awdurdodau lleol yn adolygu eu polisïau cludiant eleni, gwelwyd bod dad-gysylltiad rhwng y polisi cludiant - a oedd yn cwtogi pellteroedd cludiant am ddim - â pholisi addysg sydd yn statudol i fod yn ehangu mynediad at addysg Gymraeg. Er efallai bod siroedd yn “cysoni” gyda pholisi cenedlaethol y Mesur Teithio, daeth hi’n amlwg i RhAG bod awdurdodau lleol yn araf gefnu ar fedru ymateb i anghenion lleol, fel y mae’r Mesur Teithio yn ei ganiatáu a bod yr awdurdodau lleol hyn yn gweld cyfle i gwtogi ar wariant ar gludiant yn hytrach nag ymateb i anghenion lleol.
Llwyddiannau: Rydym wedi gweld llwyddiant sylweddol ym Mhowys a Chaerdydd ond ni fuom yn llwyddiannus ym Mro Morgannwg eleni a collwyd y teulu hwnnw i addysg Gymraeg. Er hyn, parhau y mae ein hymgyrchu a’n llythyrru ac y mae wedi helpu nifer sylweddol o deuluoedd i sicrhau lleoedd mewn ysgolion.
Heriau Parhaus: Er gwaethaf y llwyddiannau, mae pryderon yn parhau mewn rhai siroedd. Rydym yn sicrhau ein bod yn cael sgyrsiau monitro cyson ac adeiladol gyda siroedd ar hyd y flwyddyn i osgoi argyfwng munud olaf ac ailadrodd heriau diangen i deuluoedd.
Mynediad Teg: Mae RhAG yn parhau i ddadlau bod angen proses apêl gliriach ar gyfer y cyfnod Meithrin, er mwyn sicrhau dilyniant o'r cychwyn cyntaf. Ar hyn o bryd nid oes proses apêl i gael i rieni meithrin. Mae hyn yn rhwystr yn enwedig pan nad yw’r cynllunio a’r cyfathrebu’n ddigon eglur rhwng y sector nas cynhelir a’r sector statudol ac yn anad dim os collir y plant i’r sector Saesneg yn gynnar, maent yn llai tebygol o ymuno â sector Gymraeg ar ôl ymgartrefu yn yr ysgol.
Dechrau’n Deg: Yr Her Bontio
Bu un o heriau mwyaf y flwyddyn yn ymwneud â cheisio sicrhau bod ehangiad y rhaglen Dechrau’n Deg yn sicrhau tegwch ac ystod o ddarpariaethau cynnar Cymraeg newydd. Yn sir Wrecsam er enghraifft, roedd perygl o golli plant i ysgol cyfrwng Saesneg er eu bod wedi gwneud cais am ddarpariaeth Gymraeg mewn dosbarth derbyn ac wedi derbyn darpariaeth gynnar yn y Gymraeg drwy rhaglen Dechrau’n Deg.
Y Broblem: Cafwyd achosion lle roedd plant mewn gofal Dechrau’n Deg Cymraeg yn methu cael lle yn y dosbarth Meithrin yn yr un ysgol gan bod dalgylchoedd yn wahanol. Golygodd hyn bod teuluoedd yn colli hyder ac, yn anffodus, yn troi at addysg Saesneg.
Gweithredu RhAG: Cyflwynwyd cwynion swyddogol a phwyso ar yr Awdurdod Lleol i greu llwybrau cliriach i deuluoedd. Ers i ni godi’r mater gyda’r sir, cyhoeddwyd y bydd dosbarth Dechrau’n Deg newydd yn agor yn Ysgol Hooson o Fedi 2025 i ddatrys y broblem hon yn y dyfodol.
Dylanwad ar Bolisi Cenedlaethol
Bu 2024-25 yn flwyddyn bwysig i drafodaethau lefel uchel unwaith eto, gan ddefnyddio tystiolaeth o lawr gwlad i lywio polisi cenedlaethol. Roedd cam nesaf y Bil Addysg Gymraeg yn datblygu o fewn amserlen y Senedd a bu RhAG yn gwneud gwaith hyrwyddo a chyflwyno tystiolaeth er mwyn sicrhau bod addysg gyflawn Gymraeg yn cael lle canolog yn y ddeddfwriaeth newydd.
Cyfarfod Gweinidogol: Ym mis Ionawr 2025, cafodd RhAG gyfarfod adeiladol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, Ken Skates. Cyflwynwyd papur tystiolaeth yn nodi heriau dyddiol dysgwyr addysg Gymraeg, gyda gwahoddiad yn dilyn ganddo i ni fynychu uwchgynhadledd ar y Mesur Teithio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
9
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Argyfwng y Mesur Teithio: Mae costau trafnidiaeth a rheolau llym y siroedd yn parhau i fod yn "dreth ar yr iaith" yn ein tyb ni. Mae RhAG wedi bod yn pwyso am adolygiad trylwyr i sicrhau bod cludiant teg yn hawl, nid yn fraint, i bawb sy'n dewis addysg Gymraeg. Nid yw’r Mesur Teithio ar hyn o bryd yn cydnabod y gwahaniaeth yn niffyg ehangder y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r gymharu ag addysg cyfrwng Saesneg. Mae angen bod y Mesur Teithio yn gwneud yn iawn am y gwahaniaeth daearyddol o fewn ein cymunedau yn enwedig yn y siroedd lle y mae darpariaeth cyfrwng Saesneg yn sylweddol uwch. Parhawn i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weld diwygio’r mesur hwn.
Cydweithio gyda’n partnerniaid allweddol: Mentrau Iaith a Mudiad Meithrin
Mae’r cydweithio gyda’r Mentrau Iaith a Mudiad Meithrin i gryfhau negeseuon am ofal ac addysg Gymraeg yn parhau gyda rhannu stondinau gwybodaeth mewn sesiynau gyda’r cymeriad Magi Ann neu fod yn rhan o ddigwyddiadau diwrnod Chwarae cenedlaethol. Anelwn at dargedu rhieni a gofalwyr sydd heb wneud y penderfyniad am gyfrwng addysg eu plant eto, gan yn rhy aml clywn am rwystrau o hyd sydd yn dangos nad yw gwybodaeth rhieni a gofalwyr am addysg Gymraeg yn parhau’n gyflawn ac nid yw’r cynnig lleol o hyd yn un teg a chytbwys.
Sesiynau Miri
Wrth drefnu digwyddiadau hyrwyddo’r Gymraeg ac addysg Gymraeg i rieni yn ystod paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, trefnwyd ar y cyd gyfres o weithgareddau hyrwyddo byr a syml oedd yn cwmpasu holl rhanddeiliad y Gymraeg mewn ardal benodol.
Nid yw’r digwyddiadau hyn yn wreiddiol o bell ffordd. Rydym yn sicr ein bod ni gyd wedi cynnal sesiynau o’r fath o’r blaen. Ond yr hyn sy’n wahanol efallai am sesiynau Miri yw eu bod yn 2 awr o hyd yn unig ac yn cael eu cynnal mewn ymateb i angen hyrwyddo meicro o fewn cymunedau yn hytrach nag ar draws awdurdod lleol.
Roedd hyn mewn ymateb i’r angen i hyrwyddo’r Eisteddfod ei hun ar draws sir Rhondda Cynon Taf yn bennaf ac mewn ardaloedd eraill lle roedd ysgolion neu ddarpariaethau newydd yn cael eu hagor yn Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chasnewydd.
Yr hyn a’n trawodd ni oedd sylwadau gan rieni oedd yn dweud nad oeddynt yn sywleddoli faint o gefnogaeth sydd i’w plant wrth gychwyn ar daith addysg Gymraeg, yn enwedig pan nad oes Cymraeg yn y cartref a bod y sesiwn wedi bod o fudd i nifer wneud y penderfyniad i barhau gan fod y gefnogaeth yn amlwg ac yn hawdd ei gyrraedd a’i gyrchu. Roedd y ffaith bod pawb gyda’i gilydd yn ffactor arall bwysig ac yn amlwg yn adnabod ei gilydd ac yr oedd gallu cyfeirio at waith ein gliydd hefyd yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol y rhieni.
Ac felly, mae’r model wedi aros yn dynn at ddwy awr yn bwrpasol er mwyn peidio â chymlethu’n ormodol ac i greu model fyddai’n gynaliadwy i bawb gan ystyried cyfyngiadau staffio pob mudiad partner ac amserlen ddyddiol teuluoedd o ran dod i ddigwyddiadau yn yr wythnos. Mae yna erbyn hyn ganllaw cynhwysfawr sydd wedi ei rannu gan bob Menter Iaith er mwyn ei ddefnyddio’n sail i gynllunio Miri ar draws Cymru. Gellir gwel y canllaw hefyd ar ein gwefan o dan yr adran Adnoddau.
Cynllunio, cynllunio, cynllunio
Y mae arwyddion pendant o gryfhau’r cynllunio mewn ambell i sir, yn enwedig o ganlyniad i asesiadau effaith ar y Gymraeg wrth gynnal ymgynghoriad ar agor neu newid amgylchiad ysgol. Gwelwyd newid mewn nifer bychan eto eleni o siroedd lle roedd yr asesiadau hyn yn cael eu paratoi ar yr adeg gynnar, sef yn ystod y cyfnod ffurfiannol o baratoi’r cynnig, a bod yr asesiad yn llywio’r cynnig. Fodd bynnag, nid yw’n arferiad digon systemataidd o hyd, a hyd yn oed ar yr achlysuron lle cynhyrchir yr asesiad, nid yw ansawdd yr asesiadau hyn o reidrwydd yn rhai o safon. Y mae mwy o waith i’w wneud i sicrhau hyfforddiant pellach ar yr agwedd hon o’r gwaith cynllunio. Elfen bwysig er mwyn mynd i’r afael â hyn fyddai newid y Cod Trefniadaeth ysgolion i alinio’r cod yn agosach at ddatblygiadau cynllunio addysg Gymraeg y CSCAau a safonau’r Gymraeg. Ymgynghorwyd ar ddiwygio’r Cod Trefniadaeth Ysgolion eleni
10
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
a gobeithiwn y bydd ein hymateb i’r ymgynghoriad hwn yn cael effaith gadarnhaol ac yn sicrhau’r newid sydd ei angen i’r cod
Mae hygyrchedd at addysg Gymraeg yn parhau’n her i nifer o deuluoedd o hyd. Mae gwelededd Addysg Gymraeg o fewn ein cymunedau yn fratiog a dibynnwn yn ormodol ar waith hyrwyddo yn hytrach na gwaith gosod delfryd gan Lywodraeth ganol ac Awdurdodau Lleol.
Agorodd dwy ysgol Gymraeg newydd - Ysgol Gymraeg Tredegar ac Ysgol Gymraeg Bro Penfro, a ffurfiwyd ysgol newydd Gymraeg, Ysgol Dyffryn Aeron, o ganlyniad i uno ysgolion yn ardal Felinfach, Ceredigion ac ysgol Gymraeg Awel Taf yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn cau Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton ac aildrefnu darpariaeth de Rhondda Cynon Taf.
Ar un llaw mae agor ysgolion newydd sbon yn newyddion ardderchog wrth gwrs, ond y gwir yw ei bod yn parhau’n rhy anodd i deuluoedd gyrraedd Addysg Gymraeg mewn nifer o siroedd yng Nghymru ac y mae hynny o ganlyniad i’r ffaith nad oes digon o ysgolion Cymraeg ar gael mewn cymunedau ar draws Cymru. Y mae yna ddisgwyliad o hyd i blant sydd yn gofyn am addysg Gymraeg i deithio ymhellach. Yn anffodus, er bod Ysgol Gymraeg Awel Taf mewn ardal ddaearyddol newydd, mae presenoldeb addysg Gymraeg yn y sir wedi symud o ardal Cilfynydd a chanol y sir. Gwnaethpwyd ymdrech aruthrol i gynnal darpariaeth gynnar Gymraeg gyda chylch meithrin Cilfynydd yn ymdrechu’n aruthrol i bontio’r bwlch, ond nid oedd yna gefnogaeth ddigonol gan y sir o ran cynnig safle cynaliadwy i’r cylch.
Mae gan RhAG bresenoldeb ar bron bob fforwm Addysg neu Iaith Gymraeg ar draws Cymru - 19 allan o’r 22. Yr ydym yn aros yn eiddgar i gael llais rhieni ar fforwm addysg Gymraeg Sir Penfro, Abertawe a Sir Gâr, gan obeithio y bydd hynny’n digwydd yn y flwyddyn nesaf.
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n holl rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws Cymru, sydd yn parhau i gysylltu gyda ni i gydweithio ar nifer o faterion. Parhau i dyfu y mae ein rhwydwaith ar draws Cymru gyda materion yn dod i’n sylw yn amrywio o gymorth ar gyfer ceisiadau i ysgolion a chludiant yn ogystal â hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni a gofalwyr a darparwyr addysg.
Carwn nodi unwaith eto eleni ein gwerthfawrogiad i Lywodraeth Cymru am gynnal y grant sydd wedi caniatáu inni barhau i ehangu a chynyddu ein gweithgarwch fel mudiad ac i gryfhau ein cyfraniad yn yr ymdrech genedlaethol i wireddu targedau Cymraeg 2050. Mae’r cydweithio cadarnhaol gyda swyddogion y Llywodraeth wedi parhau i’n galluogi fel mudiad i herio a chefnogi awdurdodau lleol ymhellach gyda’r gwaith o gynyddu canran sydd yn derbyn addysg Gymraeg ar draws Cymru. Y mae hefyd wedi galluogi mwy o rieni i glywed am ein gwaith ac i ddod atom am gymorth penodol pan y mae’r galw yn codi.
Cyfrannu at ysgogi newid
Ymateb i ymgynghoriadau
Ymatebwyd i nifer o ymgynghoriadau eleni unwaith eto. Yn eu mysg roedd:
‑ ‑ Pen y bont ar Ogwr – ymgynghoriad newid y polisi cludiant ‑ Merthyr Tudful – ymgynghoriad i newid polisi cludiant ôl 16 Sir Fynwy – ymgynghoriad newid y polisi cludiant Caerffili – ymgynghoriad newid y polisi cludiant
Rhondda Cynon Taf – ymgynghoriad i newid Ysgol Dolau i’r Saesneg ac agor Ysgol Gymraeg newydd ar safle Llanilid
Powys - Newid cyfrwng ieithyddol ysgol Bro Caereinion i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg Ceredigion - newid dysgu sylfaen 5 ysgol cyfrwng Saesneg i’r Gymraeg
11
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Llywodraeth Cymru – Ymgynghoriad ar ddiwygio’r Cod Trefniadaeth Ysgolion
Cymraeg i Bawb
Parhaodd waith Pencampwr y Gymraeg yn siroedd y De Ddwyrain i hyrwyddo Addysg Gymraeg ar draws 10 sir. Y mae gan y cynllun wefan gynhwysfawr gyda nifer dda o adnoddau megis fideos o brofiadau teuluoedd am addysg Gymraeg a syniadau am daflenni i hyrwyddo digwyddiadau a darpariaethau yn ogystal. www.cymraegibawb.cymru
Mae RhAG wedi bod yn parhau i gefnogi gwaith bwrdd y pencampwr ac wedi bod yn cyfrannu at y gweithgarwch. Gwelwn fel mudiad bod y gwaith hwn wedi parhau i ychwanegu at ein gwaith ni fel mudiad ac yn cynyddu’r gefnogaeth sydd i gael o ran hyrwyddo addysg Gymraeg a gwella cymhwysedd Awdurdodau Lleol a phartneriaid cymunedol eraill i sicrhau bod addysg Gymraeg yn fwy gweladwy o fewn cymunedau ar draws a 10 sir. Mae ein cyfarwyddwr cenedlaethol wedi bod yn gweithredu fel aelod o’r bwrdd rheoli ac wedi bod yn ddiolchgar iawn o’r gwaith cydweithio sydd wedi digwydd ar hyd y flwyddyn. Gobeithiwn yn daer y bydd modd i’r cynllun hwn fod yn fodel i gynllun cenedlaethol.
Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Ym Medi 2022 cychwynwyd ar y gwaith o weithredu’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda chynllunio’r 5 mlynedd gyntaf yn dasg i bob sir. Erbyn hyn y mae’r cynlluniau wedi cwblhau tair blynedd o gynllunio gydag enillion amlwg mewn rhai siroedd, gydag ysgolion Cymraeg newydd wedi agor a’r cynnydd yn amlwg ond mewn nifer helaeth o siroedd araf yw’r cynnydd o hyd.
Yn y siroedd hynny lle mae Fforymau Addysg Gymraeg wedi eu sefydlu ac yn gweithredu’n gyson ac yn strategol, mae’r canlyniadau’n amlwg. Mae modd gweld holl gynlluniau Addysg Gymraeg y 22 sir ar eu gwefannau.
Eisteddfodau yr Urdd a’r Genedlaethol
Roedd gyda ni bresenoldeb yn yr Eisteddfodau eleni fel arfer gyda’r Mentrau Iaith yn Eisteddfod yr Urdd a gyda mudiad Dyfodol i’r Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Meifod oedd ein cyrchfan gydag Eisteddfod yr Urdd a Phontypridd oedd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae pwyslais ein presenoldeb ychydig yn wahanol yn y ddwy Eisteddfod. Defnyddiwn y cyfle yn Eisteddfod yr Urdd i siarad gyda rhieni yn uniongyrchol ac i hyrwyddo addysg Gymraeg, addysg drochi cynnar a hwyr a’r dilyniant i addysg bellach ac uwch. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae’r cyfle yma i rannu gwybodaeth amdanom ni fel mudiad ac i rannu gwybodaeth a gweithgarwch i ddenu cefnogwyr i’r mudiad er mwyn gallu gweithredu ar draws Cymru yn y flwyddyn ganlynol. Trefnwyd rhaglen o weithgarwch ar y stondin fel arfer yn ystod yr wythnos er mwyn ychwanegu at fwrlwm y gwyliau.
Welsh4parents
Mae gwefan Welsh4Parents.cymru a grewyd dros gyfnod y clo er mwyn cefnogi rhieni a gofalwyr gyda dolenni i adnoddau ar-lein yn parhau i gael ei defnyddio’n dda. Mae’r wefan yn parhau i gael ei diweddaru yn ôl ein gallu. Yn y flwyddyn ddiwethaf cyrchodd 2,400 o ddefnyddwyr y wefan.
Edrych ymlaen at flwyddyn newydd…
Mae ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi gosod sylfaen gref, ond mae heriau mawr o’n blaenau o hyd. Er mwyn cyrraedd targed Cymraeg 2050, mae angen cynyddu’r momentwm:
12
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Monitro Medi 2025: Byddwn yn dechrau sgyrsiau cynnar gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod digon o leoedd ar gael ac nad oes yr un teulu’n cael eu gwrthod oherwydd diffyg cynllunio neu amwysedd rhwng polisi cludiant ac addysg.
Ymgyrch Cludiant: Rydym yn disgwyl ymgysylltu’n ddwys â’r uwchgynhadledd ar y Mesur Teithio i sicrhau bod polisi a chostau cludiant yn peidio â bod yn rhwystr i rieni.
Cryfhau llais rhieni: Byddwn yn parhau i rymuso rhieni i fod yn hyrwyddwyr dros addysg Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain, gan ddarparu’r offer a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i herio a dylanwadu.
Mae RhAG wedi profi blwyddyn o gryfder, gweithredu ac ymyrraeth gadarnhaol. Er hynny, mae heriau sylweddol yn parhau o ran cludiant, cyfalaf, ADY, gweithredu is-grwpiau lleol er mwyn gyrru strategaeth awdurdodau lleol a chynllunio strategol ar draws portffolios awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae gwaith y flwyddyn nesaf yn galw am fframwaith cenedlaethol ar gyfer trochi hwyr, sicrhau tegwchi addysg Gymraeg mewn polisi cludiant, ac adnoddau hyrwyddo cyson lleol a chenedlaethol i sicrhau bod rhieni’n deall y deilliannau a dulliau dysgu ieithyddol sydd eu hangen i’w plant fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg.
Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol
Cynhaliwyd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cenedlaethol ar:
15/4/24 15/7/24 4/11/25 25/1/25
Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn ddeufisol fel arfer.
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar: 25 Ionawr 2025 yn Llety’r Parc, Aberystwyth.
Siaradwyr Gwadd: Eleri Vaughan Roberts, Yr Athro Gwennan Higham, Dr. Gwenllian Lansdowne Davies - Ein thema eleni oedd Addysg Drochi Gyflawn: Seiliau Cadarn i System Addysg Cymru
Mae fideos ein siaradwyr ar gael i’w gweld ar ein sianel YouTube.
Cyfarfodydd a chynrychiolaeth
Cyfarfodydd a gohebu gydag ASau a chynghorwyr lleol
Parhaodd y gwaith o gyfarfod a gohebu gyda gwleidyddion yn y Senedd ac yn ein hawdurdodau lleol, gyda nifer o gyfarfodydd amrywiol yn digwydd i drafod materion yn penodol megis cludiant a diffyg datblygiad addysg Gymraeg mewn ardaloedd penodol a materion polisi penodol. Cyflwynodd RhAG dystiolaeth unwaith eto i bwyllgorau'r Senedd hefyd gan gyfrannu at sesiynau ymchwilio yn ogystal â nifer o ymgynghoriadau.
Cyfarfodydd gyda Swyddogion Uned y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru:
Cyfarfu’r swyddogion yn aml dros y flwyddyn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chyfarfodydd monitro’r grant blynyddol, trafodwyd materion penodol yn enwedig o ganlyniad i
13
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
waith y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn datblygu a pharatoi ar gyfer cam nesaf y Bil Addysg Gymraeg yn dilyn ymateb i’r papur gwyn.
Cyfarfodydd gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg:
Yr ydym wedi cyfarfod gyda swyddogion swyddfa’r Comisiynydd yn gyson dros y flwyddyn yn ogystal, yn rhannu gwybodaeth a chodi pryderon wrth i gynlluniau addysg Gymraeg gael eu llunio a’u gweithredu.
Rhwydwaith Addysg a’r Gymraeg CGGC:
Mae RhAG yn parhau i eistedd ar rwydwaith Addysg a’r Gymraeg gyda’r CGGC. Mae’n gyfle da i ddod â materion at fwrdd rhwydwaith y trydydd sector ac yn ystod y flwyddyn hon yr oedd parhau i ymateb i heriau cyfnod ôl-cofid yn thema gyffredin. Roedd cyfarfodydd gweinidogol hefyd yn rhan o’r gwaith hwn oedd o fudd mawr i ni fel mudiad yn gallu dod â materion addysg Gymraeg o du’r trydydd sector.
Cynrychiolaeth RhAG ar Fforymau Addysg Gymraeg
Mae cynrychiolaeth gan RhAG ar y fforymau addysg sirol canlynol:
Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Ceredigion, Conwy, Gwynedd,Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen, Powys, Sir Gâr, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Dathlu’r Gymraeg
Mae RhAG yn aelod gweithredol o’r grŵp ymbarél sy’n cydweithio er mwyn hyrwyddo a dathlu’r iaith Gymraeg. Y mae RhAG wedi bod yn curadu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni sydd yn ddathliad o gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg. Hydref y 15fed yw’r diwrnod yn flynyddol.
Cronfa Glyndŵr
Mae’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol yn cynrychioli RhAG ar bwyllgor y Gronfa sy’n gweithio i hyrwyddo addysg Gymraeg ledled Cymru. Cynhelir cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhannu gwybodaeth am gynlluniau a lleoliadau posibl all wneud ceisiadau am gymorth gan y gronfa.
ELEN
Bu RhAG yn aelod o Rwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) unwaith eto eleni. Ei nod yw hyrwyddo, diogelu a buddio ieithoedd Ewropeaidd llai defnyddiedig a gweithio tuag at gydraddoldeb ieithyddol i’r ieithoedd hyn, ac amlieithrwydd, o dan y fframwaith ehangach o hawliau dynol, a bod yn llais i siaradwyr yr ieithoedd hyn ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol . Sefydliad anllywodraethol yw ELEN.
Mynychodd swyddogion RhAG y gynhadledd flynyddol ELEN eleni yn Bilbo yng ngwlad y Basgiaid.
Daeth gweithredwyr iaith o bob cwr o Ewrop ynghyd yn Bilbao ar gyfer Cynulliad Cyffredinol ELEN 2024, prif ddigwyddiad Ewrop ar gyfer sefydliadau sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn ieithoedd lleiafrifol. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Kontseilua gyda chefnogaeth llywodraeth leol a rhanbarthol.
Cyflwynwyd nifer o benderfyniadau gan aelodau ELEN, gan gynnwys galwadau i weithredu o blaid y Fasgeg, Galiseg, Catalaneg, Astureg a Chymraeg, yn ogystal ag ar effaith ail gartrefi a gordwristiaeth. Cymeradwywyd yn unfrydol benderfyniad Kontseilua yn datgan argyfwng ieithyddol y Fasgeg.
14
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Cafwyd cyfraniadau gan arweinwyr ELEN a chynrychiolwyr y llywodraeth Fasgeg, a darlledwyd y digwyddiad yn fyw ar EiTB. Amlygodd y Dirprwy Lehendakari yr angen i gynyddu defnydd cymdeithasol y Fasgeg fel cam allweddol mewn normaleiddio iaith.
Clywodd y gynhadledd gan siaradwyr arbenigol, gan gynnwys cyflwyniad am “Wyrth Tolosa” gan Kike Amonarriz yn olrhain y gwaith o adfywio’r Fasgeg yn yr ardal honno, trafodaeth ar ofodau byw neu arnasguneak oedd yn trafod creu mannau lle gall ieithoedd anadlu a thyfu’n organic, yn ogystal â chrynodeb o adroddiad Llywodraeth Cymru ar rymuso cymunedau i gryfhau’r Gymraeg.
Cynhaliwyd gweithdai ar bolisïau cyhoeddus llwyddiannus, cyllid yr UE ar gyfer prosiectau iaith, gweithio gyda sefydliadau’r UE, effaith gordwristiaeth ar ieithoedd lleiafrifol, hawliau ieithyddol strategol, a datblygu ELEN Youth. Croesawyd aelodau ymgeisiol newydd o Cademia Siciliana, a rhannwyd gwybodaeth am brosiectau Ewropeaidd newydd fel Fosterlang.
Daeth y sesiynau i ben gydag adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf ar ysgolion trochi Diwan a rhwydwaith Eskolim yn Llydaw.
Cysylltiadau Lleol
Sir
Abertawe Blaenau Gwent Helen Greenwood Bro Morgannwg Caerdydd Nona Evans Ceri McEvoy Casnewydd Castell-nedd Port Talbot Caerffili
Ceredigion Sir Ddinbych
Sir Fflint Merthyr
Cyswllt Heini Gruffudd Meryl Darkins
Mark Bowen Owain Rhys
Elin Maher Roger Williams Ben Jones Phil Bevan Lowri Jones Owain Harpwood Elfed Williams Ruth Williams Nick Thomas Gill Stephens Mark Ward
15
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Mynwy Lynne Davies Natalie Eaton Pen-y-bont ar Ogwr Elin Mannion Powys Lorraine Davies Bethan Price Angharad Davies Lowri Roberts Rhondda Cynon Taf Helen Prosser Osian Rowlands Torfaen Helen Greenwood Wrecsam Rhodri Davies Gellir cysylltu gyda’r swyddfa ganolog i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r cysylltiadau lleol.
Cysylltu
Elin Maher Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Treforgan, Caerdydd, CF15 8LW 07970 304219 post@rhag.cymru www.rhag.cymru Facebook: www.facebook.com/RhAGCymru Trydar: @RhAG1 Instagram: rhag_pfwme rhag.cymru
Adolygiad Ariannol
Derbyniodd RhAG grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru o £100,000 i’w ddefnyddio ar gyllido gwaith y mudiad. Cyllidir gwaith 2 swyddog o’r arian hwn sef swydd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol a’r Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu Gogledd Cymru.
Mae gan RhAG bolisi cronfeydd wrth gefn sydd yn ymdrechu i gadw digon o arian ar gyfer 4 mis o wariant o gronfa anghyfyngedig. Gellir gwario yr arian hwn ar gynnal yr elusen am gyfnod petai rhaid dirwyn yr elusen i ben ac unrhyw wariant perthnasol.
Gair gan y Trysorydd
Mae’n fraint i mi gael parhau fel Trysorydd ar Fwrdd Cenedlaethol RhAG dros y flwyddyn ddiwethaf – a hynny’n flwyddyn llawn gweithgareddau cyffrous wedi’u gyrru gan waith diflino ein staff gwych!
Mae’n bleser gennyf nodi bod sefyllfa ariannol RhAG yn parhau’n iach, gyda phrosesau a gweithdrefnau ariannol cadarn yn sail i’n holl weithredoedd.
16
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25 derbyniom £146,889 (2023/24 £100,000) o ariannu. Roedd £100,000 a hynny yn deillio o Grant Lywodraeth Cymru, £44,800 o rodd garedig iawn gan Mr Okey, a’r gweddill o gyfraniadau a grantiau.
Roedd gwariant y cyfnod ychydig yn fwy na’r Grant Lywodraeth Cymru, gyda gwariant o £112,850 (2023/24 £117,987) am y flwyddyn ariannol 2024/25. Roedd y gwariant ychwanegol yma yn ein caniatáu i gyflawni llu o brosiectau hyrwyddo hollbwysig. Mae ein prif wariant yn parhau yn gostau cyflogau a chostau yn gysylltiedig â chyflogaeth.
Cyfanswm cronfeydd RhAG ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2024/25 oedd £93,766 (2023/24 £59,728). Mae’r cynnydd sylweddol o 2023/24 oherwydd rhodd hael Mr Robert Okey.
Mae RhAG yn wynebu’r un heriau â sefydliadau tebyg yn yr hinsawdd chwyddiant uchel sydd wedi parhau dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae Bwrdd Cenedlaethol RhAG yn parhau i wneud penderfyniadau ariannol er mwyn sicrhau’r gwerth fwyaf am arian wrth hybu addysg Gymraeg i blant ledled Cymru. Mae’n ardderchog i nodi bod y cyfrifydd Rob Jones FCCA o gwmni Gwasanaethau Cyfrifyddu R J Financial wedi cyhoeddi Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol yn cadarnhau ei fod yn hapus gyda chyfrifon RhAG am 2024/25.
Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn ariannol nesaf, mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill er mwyn gweithio tuag at gynyddu ein hincwm yn y blynyddoedd i ddod. Bydd y rhain yn ein cefnogi i barhau i wneud cyfleodd addysg yng Nghymru yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
T O Rodrigues
Cyfarwyddwr a Thrysorydd, Bwrdd Cenedlaethol RhAG
17
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adroddiad ariannol 2024 – 25
Archwiliwyd gan
R J Financial Accounting Services Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig 220a Stow Hill Casnewydd NP20 4HA
Llofnod y cadeirydd:
Wyn Williams Cadeirydd Cenedlaethol RhAG
18
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
TYFU GROW GYDA'R GYMRAEG WELSH hi9ni dros Addysg Gymra8g Par9nls lor W61sli ME:(JILlm Educallon 19 RhAG CEFNOGI I YMATEB | YSGOGI NEWID
CHARITY COMMISSION FOR ENGLAND ANO WALES Independent examinerfs report on the accounts Section A Independent Examiner's Report Report to the trusteesl members of Rhieni Dros Addysg Gymraeg On accounts for tho year ondod 31S1 March 2025 Charity no (if any) 1153403 Set out on pages I report to the trustees on my examination of the aGGounts of the above charity (Ihe Trust.) for year ended 31st March 2025. Responsibilities and basis of report As the Gharity's trustees, you are responsible for the preparation of the accounts in acCdanCe with the requirements of the Charities Act 2011 ('the Acf). I report in SpeCt of my examination of the Trust's accounts carried out under eedion 145 of the 2011 Act and in carrying out my examination, I have followed all the applicable Directions given by the Charity Commission under section 145(5)(b) of the Act. Independent I have completed my examination. I confinn that no material matters have examinerfs statement come to my attention in connection with the examination (other than that disclosed below") which gsves me cause to believe that in. any material respect. the accounting records were not kept in accordance wth section 130 of Chanties Acl., or the accounts did not accord with the accounting records., or the accounts did not comply with the applicable requirements conceming the fonn and content of accounts set out in the Charities (Accounts and Reports) Regulations 2006 Other than any requirement that the accounts grve a Irue and fairf view which is not a matter considered as part of an independenl examinalion. I have no concems and have come across no other matters in connec*ion with the examination to which attention should be drawn in this report in order to enable a prope erstanding of the accounts to be reached. the wo the br8ckcts if thoy do not apply. Signed: Date: 1611212025 me: obert Jones Relevant professlonal qualification(s) or body (if any)- FCCA Addre55: 220 Stow Hill. Newport. NP20 4HA IER Oct 2018
Section B Disclosure Qnly complete if the examiner needs to highlight material matters of concem (see CC32, Independent examination of charity accounts: directions arKI guidance for examiners). Give here brief details of any itsms that the examiner wishes to disclose. Not applicable IER Oct 2018
COMISIWN ELUSENNAU AR GYFER (YMRU A LLOEGR Adroddlad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrlfon Adran A Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol Adroddiad i ymddiriedolwyrlaelodau hieni Dros Addysg Gymraeg Ar y cyfrlfon am y fWddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 Rhlf yr Elusen (os oes) 153403 Ilv gweld ar dudalennau Adroddaf i'r ymddiriedowr ar fy archwiliad o grif0n yr elusen uchod ('yr Ymddiriedolaeth,) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 Fel yr yrnddiriedolwyr elusen, rydych yn gyfrrfol am baratoi'r cyfrrfon yn unol - gofynion Deddf Elusennau 2011 ('¥ Ddeddr,). Cyfrifoldebau'r a'r sail adrodd Adroddaf mewn perthynas a'm hymctrAviliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth gwblhawid o dan adran 145 0 t)deddf 2011 ac wrth ymgymryd a'm harchwiliad, dilynais yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comlstwn Elusennau o ¢Jan adran 145(5)(b) o'r txleddf. Datganiad yr archwiliwr Rwyf wedi Lrywblhau fy archwtliad. Rydw I'n gallu cadanhau nad yw unrhyw annibynnol faterion perthna301 wedi dod I m rnewn perthynas a'r archwiliad (heblawr hyn a ddatgelir isod I svn rhoi achos i mi gredu, melvn unrhyw agwedd perthnasol: ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 O'r Ddeddf Elusennau. reu nKY ywr cyfnfon yn cyfateb a'r Cofnodion cyfrrfyddu. neu nid *r cyfrrfon yn cydymffurfio a'r gofynion cymwys yn ymwneud a ffijrf a chynnwys cyfrrfon a amlinellir yn Rheoliadau Elusennau (Grrfon aG Adroddiadau) 2008 kEblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi dartun 'glr a theg, nad ywn fater ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol. Nid oes Unrh Exyderon gennyf ac nid vryf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas a'r archwiliad y dylid dwyn SY atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sic au dealltwriaeth briodol o'r Gyfrifon. 'Di7e geiriau me chau os nad ydynt yn gYMs. Llofno¢tsyd: Dyddiad: 61121202S nw: ones Cymhwyster Icymwy6tèrau) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes): FCCA IER Hydref 2018
Cyfeirlad: ow asnewy Adran B Datgeliad Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwliwr dynnu sylw at faterion o bryder perthnasol (gweler CC32, Archwiliad annibynnol o gyfrrfon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwrlwyr). Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu. Ddim yn berthnasol IER Hydref 2018