CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adroddiad Blynyddol 2023 – 2024 RHIENI DROS ADDYSG GYMRAEG
1
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Cynnwys
| 1. | Clawr : Logos Ysgolion Cymraeg newydd agorodd yn 2023 | |
|---|---|---|
| Ysgol Gymraeg Tregeles Castell-nedd Port Talbot 1 |
||
| Ysgol Gymraeg Tredegar, Blaenau Gwent | ||
| Ffrwd Gymraeg, Ysgol Gynradd Groes-wen, Caerdydd | ||
| 2. | Cynnwys 2 |
|
| 3. | Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol 3 |
|
| 4. | Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg 4 |
|
| 5. | Pwy ydym ni? 4 |
|
| 6. | Rhwydweithio 5 |
|
| 7. | Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus 5 |
|
| 8. | Gair gan y Cadeirydd 6 |
|
| 9. | Gwaith y flwyddyn 7 |
|
| 10. | Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol | 12 |
| 11. | Cyfarfodydd a chynrychiolaeth 12 |
|
| 12. | Cysylltiadau Lleol 14 |
|
| 13. Cysylltu 14 |
||
| 14. | Adolygiad ac Adroddiad Ariannol 15 |
2
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol
Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)
Rhif Elusen: 1153403 Swyddfa Gofrestredig: Rhieni Dros Addysg Gymraeg Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Treforgan, Caerdydd, CF15 8LW
Bwrdd Cyfarwyddwyr
Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a’i aelodau yw ymddiriedolwyr yr elusen.
Etholir yr ymddiriedolwyr am dymor o 3 mlynedd am uchafswm o 3 chyfnod yn ôl y cyfansoddiad.
| Ymddiriedolwyr: David Wyn Williams |
(Cychwyn 15.1. 2018) |
|---|---|
| Elin Mair Mannion (Cychwyn 5.6. 2022) |
|
| Owain Rhys (Cychwyn 13.6.2022) |
|
| Tomos Rodrigues (Cychwyn 1.7. 2023) |
Apwyntir y Cyfarwyddwr Cenedlaethol gan y Bwrdd a nhw sydd yn gofalu am waith dydd i ddydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
| Cyfarwyddwr Cenedlaethol | Elin Maher |
|---|---|
| a chyswllt elusen: Swyddog Hyrwyddo ac Glesni Edwards |
|
| Ymgysylltu Gogledd Cymru Banc: Natwest |
|
| Archwilwyr: RJ Finance, Casnewydd. |
Gosodir dargedau blynyddol gan y Cyfarwyddwr Cenedlaethol yn unol â blaenoriaethau RhAG a’r gyllideb sydd ar gael. Cânt eu monitro a’u craffu gan y bwrdd yn eu cyfarfodydd ar hyd y flwyddyn yn ogystal â chyfarfodydd cyson gyda’r cyrff ariannu.
3
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
Dymuna’r ymddiriedolwyr, sef aelodau Bwrdd Rhieni Dros Addysg Gymraeg, gyflwyno eu hadroddiad ar waith a’r adroddiad ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31.3.2024.
Llywodraethiant a rheolaeth
Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethu sef Cyfansoddiad Sefydliad Cofrestredig Elusennol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a fabwysiadwyd ar 14 Awst 2013. Yr ydym yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE).
Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn fudiad nid-er-elw ac yn cael ei arwain gan bwyllgor cenedlaethol o wirfoddolwyr a adnabyddir fel Y Pwyllgor Cenedlaethol. Bwrdd Cyfarwyddwyr mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yw aelodau craidd y Pwyllgor Cenedlaethol. Yn ychwanegol i’r Bwrdd daw ymgynghorwyr eraill i gynghori’r Bwrdd ar amrywiaeth o faterion yn ôl y gofyn.
Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg
Amcan y mudiad yw hyrwyddo Addysg Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn hygyrch i bawb a’i mynno.
Cyflawnwn hyn trwy gydweithio ag amrywiol gyrff cenedlaethol, cynnal gwefan gyfredol yn hyrwyddo addysg Gymraeg, cyhoeddi adroddiadau ac ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau, cynghorwn rieni gwahanol ardaloedd Cymru gan gynnig iddynt wybodaeth, cefnogaeth ac eiriolaeth ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag Addysg Gymraeg.
Pwy ydym ni?
Mudiad cenedlaethol o rieni a sefydlwyd yn 1952 yw Rhieni dros Addysg Gymraeg . Prif amcanion y mudiad yw cefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ledled Cymru trwy roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant a’u caniatáu i gaffael dwyieithrwydd cyflawn.
Mae RhAG yn credu, fel y gwna Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru, mai ysgolion Cymraeg yw’r model sy’n cyflwyno orau sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Trwy ei waith, y mae RhAG yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg. Mae RhAG hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg trwy roi gwybodaeth i rieni am fanteision addysg Gymraeg a’u cefnogi ar hyd y daith addysg yn ogystal.
Mae RhAG wedi datblygu arbenigedd mewn cefnogi, datblygu a chyfrannu at gynllunio addysg Gymraeg. Gweithiwn ar ran rieni a gofalwyr gyda rhwydwaith o gefnogwyr ar draws Cymru sy'n gallu cynghori a helpu rhieni, awdurdodau lleol ac adrannau’r Llywodraeth i ddatblygu a gwireddu cynlluniau i gynyddu darpariaethau addysg Gymraeg. Mae gan y mudiad rôl bwysig i gynrychioli rhieni sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg. Mae RhAG felly’n ddolen gyswllt werthfawr a hanfodol rhwng rhieni, mudiadau trydydd sector gofal plant, ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a llywodraeth ganol fel ei gilydd.
4
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Mae rôl RhAG wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i nifer yr ysgolion Cymraeg gynyddu, ac wrth i addysg Gymraeg ddod yn fwy hygyrch i rieni fel cyfrwng addysg. Yr hyn sydd wedi newid yn arwyddocaol yw sefydlu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn y 22 sir a chyfraniad RhAG i’r fforymau addysg Gymraeg sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru mewn ymateb i flaenoriaeth strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr.
Gweithredir erbyn hyn un o egwyddorion sylfaenol y mae RhAG wedi bod yn gofyn amdano ar lefel sirol sef yr angen am strategaeth addysg Gymraeg. Rydym wedi cyfrannu hefyd at lunio Deddf Addysg Gymraeg a ddaw i rym yng nghylch presennol y Senedd. Ymatebodd RhAG i’r papur gwyn ar Fil y Gymraeg ac Addysg yn 2023 ac edrychwn ymlaen at gyfrannu ymhellach at gam nesaf hynt y ddeddfwriaeth a fydd yn digwydd yn nhymor yr Hydref 2024.
Ystyriwn fod pob rhiant neu ofalwr sydd am neu wedi dewis Addysg Gymraeg i’w plant yn gymwys i dderbyn cefnogaeth RhAG. Gweithiwn hefyd gyda chymunedau lle nad yw’r dewis hwnnw wedi ei wneud eto, gan ddylanwadu’n gadarnhaol drwy rannu gwybodaeth ac ateb ymholiadau yn ôl ein gallu.
Rhwydweithio
Gweithreda RhAG mewn sawl ffordd i hybu a hyrwyddo addysg Gymraeg yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn cwrdd tua 6 gwaith y flwyddyn ac yn cynrychioli rhieni ar sail genedlaethol gerbron y llywodraeth a chyrff eraill. Mae'r swyddogion gyda chefnogaeth y Pwyllgor, yn llunio polisïau ac ymatebion i ymgynghoriadau sydd yn adlewyrchu natur ac anghenion gwahanol ranbarthau Cymru trwy hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a chryfhau systemau cynllunio addysg Gymraeg yn ogystal.
Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn annog cynrychiolaeth o bob sir i sefydlu pwyllgor lleol, ac mae pwyllgorau neu gynrychiolaeth yn bodoli yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o weithgareddau, gan gynnwys:
-
Rhwydweithio’n lleol i hysbysu a rhoi cymorth i rieni newydd
-
Cwrdd â swyddogion yr awdurdodau lleol i roi mewnbwn ar bolisïau Addysg Gymraeg a sicrhau darpariaeth ddigonol
-
Ymateb i ymgynghoriadau ar amrywiol agweddau sy’n effeithio ar ddatblygiad addysg Gymraeg
-
Ceisio arbenigedd y Pwyllgor Cenedlaethol ac arbenigwyr eraill ar faterion penodol
-
Aelodau o Fforymau Addysg Gymraeg Awdurdodau lleol
-
Aelodau o Fforymau Iaith Awdurdodau Lleol
Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus
Cytunir ar raglen waith ar ddechrau’r flwyddyn gyda thargedau penodol gyda’n cyllidwyr a’n cyfarwyddwyr. Ein targedau eleni oedd fel a ganlyn:
-
Cefnogi/cydweithio efo’r Siroedd parthed CSCA Gweithio'n agosach gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol gan sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn datblygu ledled Cymru gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd
-
Parhau i ehangu rhwydwaith y mudiad yn effeithiol ym mhob rhan o Gymru. Datblygu presenoldeb a chefnogaeth ar gyfer siroedd y Gogledd gyda’r swyddog
5
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
newydd wedi llleoli yno. Sylw penodol ar siroedd lle nad oes Fforwm Addysg Gymraeg.
-
Parhau i fod â phresenoldeb hyrwyddo cyson ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y 2 wefan ac adeiladu’r wybodaeth sydd ar gael i rieni drwy weithio mewn partneriaeth gyda phob rhanddeiliad i wella ansawdd ac amlder y wybodaeth a rennir ganddynt.
-
Presenoldeb yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol digwyddiadau a gwyliau pan yn briodol.
-
Cefnogi ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.
-
Darparu cymorth, cefnogaeth ac eiriolaeth am ddim i rieni mewn achosion penodol yn ymwneud ag anawsterau mynediad i ysgolion Cymraeg.
Yn unol â’n cyfrifoldeb cyfreithiol fel cyfarwyddwyr, yr ydym wedi darllen canllawiau ar fudd cyhoeddus ac yn ystyried y canllawiau wrth i waith y flwyddyn gael ei bennu a’i ddatblygu. Os daw cyfarwyddwyr newydd i’r pwyllgor yna cyflwynir copi o’r canllaw iddynt i’w ddarllen yn ystod eu cyfnod anwytho.
Gall unrhyw riant/ofalwr gael cymorth uniongyrchol gan RhAG er mwyn eu cynorthwyo i gael gwybodaeth neu gefnogaeth ynghylch sicrhau mynediad at addysg Gymraeg yn eu hardal hwy drwy hunan-gyfeiriad neu eu cyfeirio gan fudiad partner.
Gair gan ein Cadeirydd - Wyn Williams
Pleser yw gallu cyflwyno i chi ein hadroddiad ar waith y flwyddyn unwaith eto. Mae gallu goruchwylio a chyfrannu at waith llywio elusen Rhieni dros Addysg Gymraeg, wedi bod yn fraint unwaith eto eleni. Mae derbyn nawdd craidd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu polisïau sydd o fudd i addysg Gymraeg, yn cael ei groesawu’n fawr, ac rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas iach ac adeiladol sydd gennym gyda’n holl rhanddeiliaid.
Mae’n diolch i’n Cyfarwyddwr Cenedlaethol Elin Maher am arwain y gwaith hollbwysig hwn. Parhau mae gwaith RhAG i sicrhau bod gan holl blant Cymru fynediad at addysg iaith Gymraeg felly. Mae ein gwaith yng ngogledd Cymru wedi cael budd sylweddol o’n swyddog rhanbarthol yno, sef Glesni Edwards – ac y mae’r gwaith hwn wedi codi’r angen pellach am swyddogion mewn rhannau eraill o Gymru yng ngorllewin Cymru er enghraifft. Gwyliwch y gofod!
Gobeithiaf y gwelwch o’r adroddiad eleni effaith ein gwaith fel mudiad. Rydym yn cyrraedd y teuluoedd unigol er mwyn eu cefnogi mewn cyfnodau o ansicrwydd mewn apeliadau am leoedd mewn ysgolion ac ar gyfer heriau cludiant i’r ysgol, ond hefyd wedi dylanwadu ar waith polisi lleol a chenedlaethol drwy ein hymatebion cynhwysfawr i ymgynghoriadau a chyfraniadau tystiolaeth.
Ydy, mae’n dda gweld ysgolion Cymraeg newydd yn agor, ond mae’r datblygiadau hyn yn parhau’n rhy araf. Gyda chyllidebau’n gwegian a chostau adeiladu wedi codi’n sylweddol, mae cynlluniau cyfalaf nifer fawr o awdurdodau lleol wedi oedi, ac ambell i gynllun wedi’i gyflwyno heb ystyriaeth lawn i’r elfen hanfodol o ddilyniant o un cyfnod addysgol i’r llall nac ein gweithlu.
6
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Mae ein pwyllgor cenedlaethol yn ceisio cefnogi ein swyddogion cymaint â phosib, a gobeithiwn y bydd ariannu craidd Llywodraeth Cymru yn parhau hyd 2050 a thu hwnt – sef y flwyddyn dyngedfennol o ran mesur a oes gennym filiwn o bobl yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yng Nghymru. Ond sylweddolwn hefyd bod yn rhaid i ni chwilio am ffynonellau ariannol eraill er mwyn i ni fedru dylanwadu ymhellach ar gynyddu niferoedd ysgolion Cymraeg ar draws Cymru. Mi fydd hyn yn rhan o waith y flwyddyn i ddod heb os.
Cefnogwn deuluoedd hefyd y tu hwnt i addysg. Mae ein gwefan www.welsh4parents.cymru yn parhau i gael ei diweddaru gan ein bod yn sylweddoli taw un rhan o’r jigsô yw addysg. Sut mae annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg? Sut allwn ni ddylanwadu’n gadarnhaol ar drosglwyddiad y Gymraeg o fewn y teulu? Mae yna ddewis eang o gemau, caneuon, adnoddau, gweithgarwch cymunedol ar gael a bydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yn chwarae ein rhan unwaith eto i godi ymwybyddiaeth o’r adnoddau hyn sydd ar gael.
Trwy arbrofi ac arloesi, mae’r Gymraeg wedi goresgyn pob her hyd heddiw – ar-lein ac yn ein bywydau beunyddiol. Cefnogwch y bobl ifanc sydd wedi gadael addysg Gymraeg yn ddiweddar trwy wisgo bathodyn oren Comisiynydd y Gymraeg er mwyn iddynt barhau i siarad Cymraeg wedi gadael yr ysgol. Byddwn yn cydweithio’n helaeth unwaith eto gyda’n partneriaid i sicrhau bod y cyfleoedd ôl 16 yn y Gymraeg yn flaenoriaeth i bawb.
Diolch i bawb sy’n gwirfoddoli yn ein pwyllgorau lleol a gobeithio bod ein hadroddiad wedi eich symbylu i ymwneud â’n gwaith fel mudiad eto eleni. Rhannwch eich syniadau, ac os ydych mewn ardal yng Nghymru lle mae angen ein cymorth, cysylltwch â ni!
Gwaith y flwyddyn CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Braf yw medru adrodd iddi fod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg unwaith eto eleni. Gyda chynlluniau Strategol Cymraeg mewn addysg deng mlynedd yr Awdurdodau lleol erbyn hyn yn eu hail flwyddyn, a’r datblygiadau ar draws Cymru i gynyddu niferoedd mewn addysg Gymraeg yn mynd yn eu blaen yn raddol, a hyn ynghyd â bod ail swyddog cyflogedig gan RhAG yn gweithio yng Ngogledd Cymru, roedd presenoldeb RhAG yn amlwg ac yn ehangach eleni yn y gwaith o gynyddu’r niferoedd mewn addysg Gymraeg o Fôn i Fynwy.
Bu ffocws ein gwaith ar sicrhau bod y targedau sydd wedi eu nodi yng nghynlluniau deng mlynedd yr awdurdodau lleol, yn cael eu gwireddu cyn gynted ag y bo modd, fel bod y twf erbyn diwedd y cynllun, yn arwyddocaol ac yn mynd y tu hwnt i’r targedau a osodwyd. Elfen bwysig i ni fel mudiad hefyd yw gweld bod y dulliau y mae Awdurdodau Lleol ac yn wir llywodraeth ganol yn eu defnyddio i gynllunio a hyrwyddo addysg Gymraeg yn cryfhau ac yn gwreiddio o fewn systemau corfforaethol er budd twf addysg Gymraeg. Golyga hyn gynllunio llawer mwy cyfannol o ran y gwaith corfforaethol gan sicrhau bod adrannau yn cydweithio’n well ac mewn cytgord â’i gilydd.
Y mae saith deilliant y cynlluniau strategol heb os wedi cael effaith ar y newid hwn gyda nifer o enghreifftiau da o gychwyn cydweithio er budd y llun cyfan. Mae cynllunio’r
7
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
blynyddoedd cynnar heb os yn agosach at gynllunio lleoedd mewn addysg oed statudol. Mae’r cydweithio agos gyda Mudiad Meithrin er mwyn hyrwyddo llwybrau at sicrhau gwell dilyniant o ofal plant at addysg Gymraeg, wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac y mae dilyniant o’r gweithgarwch hyrwyddo i fabanod ifanc iawn, gyda gwaith Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a grwpiau babanod ifanc mewn nifer o Fentrau Iaith wedi dangos twf yn y cyfraddau dilyniant lleol hynny. Gwelwyd cyfres o sesiynau yn cael eu trefnu yn ardal Rhondda Cynon Taf er enghraifft i baratoi ar gyfer dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol, lle trefnwyd gweithgaredd 2 awr o hyd i blant bach oed cyn ysgol gan ddod ag asiantaethau addysg, gofal plant, gwybodaeth i deuluoedd ac ysgolion Cymraeg yr ardal i gyd at ei gilydd. Y mae’r model wedi ei sefydlu fel arfer dda yn ar ardal hon erbyn hyn a nifer o siroedd eraill yn edrych ar y model er mwyn ei efelychu mewn siroedd eraill.
Mae Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu Gogledd Cymru RhAG wedi cychwyn ar sefydlu perthnasau cryfion ar draws siroedd y gogledd, o gydweithio gyda grwpiau Dechrau Da yn Sir Ddinbych ac yn sicrhau presenoldeb mewn gwyliau megis Cymerwch Ran / Take pART yn Venue Cymru, Llandudno yn Sir Conwy. Mae’r cydweithio gyda’r Mentrau Iaith i gryfhau negeseuon am addysg Gymraeg yn parhau gyda rhannu stondinau gwybodaeth mewn sesiynau gyda’r cymeriad Magi Ann neu fod yn rhan o ddigwyddiadau diwrnod Chwarae cenedlaethol. Anelwn at dargedu rhieni a gofalwyr sydd heb wneud y penderfyniad am gyfrwng addysg eu plant eto, gan yn rhy aml clywn am rwystrau o hyd sydd yn dangos nad yw gwybodaeth rhieni a gofalwyr am addysg Gymraeg yn parhau’n gyflawn ac nid yw’r cynnig lleol o hyd yn un teg a chytbwys.
Y mae arwyddion pendant o gryfhau’r cynllunio mewn ambell i sir, yn enwedig yn yr asesiadau effaith ar y Gymraeg wrth gynnal ymgynghoriad ar agor neu newid amgylchiad ysgol. Gwelwyd newid mewn nifer bychan o siroedd lle roedd yr asesiadau hyn yn cael eu paratoi ar yr adeg gynnar, sef yn ystod y cyfnod ffurfiannol o baratoi’r cynnig, a bod yr asesiad yn llywio’r cynnig. Fodd bynnag, nid yw’n arferiad digon systemataidd o hyd, a hyd yn oed ar yr achlysuron lle cynhyrchir yr asesiad, nid yw ansawdd yr asesiadau hyn o reidrwydd yn rhai o safon. Y mae mwy o waith i’w wneud i sicrhau hyfforddiant pellach ar yr agwedd hon o’r gwaith cynllunio. Elfen bwysig er mwyn mynd i’r afael â hyn fyddai newid y Côd Trefniadaeth ysgolion i alinio’r côd yn agosach gyda datblygiadau cynllunio addysg Gymraeg y CSCA a safonau’r Gymraeg. Mae sôn wedi bod y bydd y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn cael ei ddiwygio dros y flwyddyn nesaf i adlewyrchu hyn a bydd hyn heb os nag onibai yn gam cadarn ymlaen ac yn dystiolaeth uniongyrchol o’n dylanwad ac effaith ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae hygyrchedd at addysg Gymraeg yn parhau’n her i nifer o deuluoedd o hyd. Mae gwelededd Addysg Gymraeg o fewn ein cymunedau yn fratiog a dibynnwn yn ormodol ar waith hyrwyddo yn hytrach na gwaith gosod delfryd gan Lywodraeth ganol ac Awdurdodau Lleol. Digwyddiad arwyddocaol eleni oedd mynychu digwyddiad i ddiolch a dathlu gwaith Yr Athro Emeritws Colin H. Williams a ysgrifennodd yn wir am arwyddocâd delfrydiaeth wrth gynllunio adferiad iaith. Y mae gosod delfryd yn gam allweddol wrth gwrs, ond y mae gosod delfryd heb yr adnoddau llawn i gyflawni’r delfryd yn beryglus ac yn gallu cymhlethu agweddau a chanfyddiadau ynghylch amcanion a bwriadau'r delfryd gwreiddiol.
Agorodd 2 ysgol Gymraeg newydd ac un ffrwd Gymraeg eleni ac ehangu niferoedd mewn nifer o ysgolion Cymraeg yn ogystal. Y gwir yw ei bod yn parhau’n rhy anodd i deuluoedd gyrraedd Addysg Gymraeg mewn nifer o siroedd yng Nghymru ac y mae hynny o ganlyniad i’r ffaith nad oes digon o ysgolion Cymraeg ar gael mewn cymunedau
8
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
ar draws Cymru. Y mae yna ddisgwyliad o hyd i blant sydd yn gofyn am addysg Gymraeg i deithio ymhellach er enghraifft.
Mae gan RhAG bresenoldeb ar bron bob fforwm Addysg neu Iaith Gymraeg ar draws Cymru - 19 allan o’r 22. Yr ydym yn aros yn eiddgar i gael llais rhieni ar fforwm addysg Gymraeg Sir Penfro, Abertawe a Sir Gâr, gan obeithio y bydd hynny’n digwydd yn y flwyddyn nesaf.
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n holl rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws Cymru, sydd yn parhau i gysylltu gyda ni i gydweithio ar nifer o faterion. Parhau i dyfu y mae ein rhwydwaith ar draws Cymru gyda materion yn dod i’n sylw yn amrywio o gymorth ar gyfer ceisiadau i ysgolion a chludiant yn ogystal â hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni a gofalwyr a darparwyr addysg.
Carwn nodi unwaith eto eleni ein gwerthfawrogiad i Lywodraeth Cymru am gynnal y grant sydd wedi caniatáu inni barhau i ehangu a chynyddu ein gweithgarwch fel mudiad ac i gryfhau ein cyfraniad yn yr ymdrech genedlaethol i wireddu targedau Cymraeg 2050. Mae’r cydweithio cadarnhaol gyda swyddogion y Llywodraeth wedi parhau i’n galluogi fel mudiad i herio a chefnogi awdurdodau lleol ymhellach gyda’r gwaith o gynyddu canran sydd yn derbyn addysg Gymraeg ar draws Cymru. Y mae hefyd wedi galluogi mwy o rieni i glywed am ein gwaith ac i ddod atom am gymorth penodol pan y mae’r galw yn codi.
Cefnogaeth ac eiriolaeth
Ni ddylai’r un teulu orfod fynd i apêl am fethiant awdurdod lleol i gynllunio lleoedd ysgol yn briodol nac ychwaith i gamarwain proses apêl heb ystyried yn ofalus yr effaith ar y teuluoedd. Ar ôl galwad gan grŵp o 12 o rieni yn ardal Ynys Cybi, Ynys Môn ar gychwyn 2024, sylwyd nad oedd nifer o . ‘iy ddysgwyr oedd wedi gwneud cais i Ysgol Uwchradd Bodedern o ardal Ynys Cybi, wedi cael eu cynnwys o dan y maen prawf cywir wrth ddyrannu lleoedd ar gyfer Medi 2024. Roedd nifer mwy o ddysgwyr wedi gwneud cais nag yr oedd o le ac felly roedd nifer o deuluoedd wedi derbyn gwybodaeth y byddai’n rhaid iddynt fynd i apêl. Rhaid nodi bod y nifer cynyddol o geisiadau i Ysgol Uwchradd Bodedern yn stori o lwyddiant gan fod Sir Ynys Môn yn wir wedi dynodi fod bron ‘ ( i bob ysgol gynradd ar draws yr ynys yn ysgol categori 3 a bod y gwaith o gynyddu ymwybyddiaeth rhieni ac yn wir sgiliau ieithyddol y dysgwyr fel bod rhieni yn dewis addysg uwchradd Gymraeg, yn destun o
lwyddiant i waith caled penaethiaid ysgolion cynradd Môn. Bu’n rhaid i swyddogion RhAG gefnogi rhieni dros gyfnod yr apêl drwy lythyru ac eirioli gyda swyddogion a chynghorwyr. Yn y diwedd, cafwyd canlyniad cadarnhaol i’r apêl gan i’r panel benderfynu bod angen mwy o wybodaeth ar ôl Cam 1 yr apêl ond i’r Awdurdod Lleol sicrhau y byddai pawb a wnaeth gais i Fodedern yn cael lle ar gyfer Medi 2024 wedi’r cyfan. Hyderwn i ni nid yn unig gefnogi carfan newydd o ddysgwyr i gael mynediad at addysg Gymraeg yn Ynys Cybi, Sir Fôn, ond hefyd gosod sylfaen gref o ran proses ceisiadau trylwyr a threfniadaeth ysgolion rhagweithiol.
9
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Ni allwn bwysleisio gormod bwysigrwydd sicrhau bod prosesau awdurdodau lleol yn rhai cadarn ond eu bod hefyd yn cydnabod pan nad yw’r broses wedi ei dyrannu’n deg ar rhai adegau. Mae RhAG wedi cael blynyddoedd o brofiad o graffu ar y prosesau hyn ac y mae cyrraedd pwynt o orfod mynd â theulu drwy apêl yn gallu bod yn bryderus. Y mae’n gallu amharu ar gyfnod edrych ymlaen y plentyn at fynd i’r ysgol gynradd neu’r uwchradd ac yn gallu amharu hefyd ar y cyfnod pontio pwysig sy’n digwydd yn y cyfnod hwn cyn cychwyn. Ein gobaith yw ein bod yn ysgwyddo’r baich hwn
Cefnogwyd deuluoedd hefyd mewn ardaloedd eraill o Gymru - yng Nghaerdydd ac ym Mhowys. Yn Sir Wrecsam bu trafodaethau niferus gyda heriau cludiant ôl 16. Y mae diffyg polisi cludiant ôl 16 yn Sir Wrecsam yn parhau yn rhwystr i’r dysgwyr a byddwn fel mudiad yn sicrhau ein bod yn pwyso ar swyddogion a chynghorwyr y sir er mwyn cadw’r mater o dan y chwyddwydr fel bod mynediad at gludiant teg i fyfyrwyr dosbarth 6 Ysgol Morgan Llwyd yn troi’n bolisi. Yn yr un modd byddwn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau cludiant mewn siroedd eraill ar draws Cymru. Hanfodol yw sicrhau y gall bob dysgwr barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hawdd o fewn pellter rhesymol i’w cartref.
Cyfrannu at ysgogi newid
Ymateb i ymgynghoriadau Ymatebwyd i nifer o ymgynghoriadau eleni unwaith eto. Yn eu mysg roedd:
-
Sir Fynwy - ymgynghoriad i sefydlu ysgol Gymraeg Trefynwy
-
Caerdydd - ymgynghoriad i aildrefnu ysgolion ardal Cathays, sydd yn cynnwys Ysgol Gymraeg Mynyddbychan
-
Ceredigion - ymgynghoriad i newid cyfrwng addysgu sylfaen 5 o ysgolion cynradd y sir i fod yn Gymraeg
-
Casnewydd - methiant o fesur yr effaith ar y Gymraeg ac ar addysg Gymraeg wrth ehangu niferoedd mewn ysgol cyfrwng Saesneg yn ardal Dyffryn
-
Wrecsam - dim asesiad effaith ar y Gymraeg wrth ymgynghori ar agor Ysgol newydd cyfrwng Saesneg y Santes Fair, Brymbo
-
Rhondda Cynon Taf - ymgynghoriad i gwtogi pellter cludiant am ddim i ysgolion a’i effaith anghymesur ar addysg Gymraeg
-
Powys - ymgynghoriad i newid categori ieithyddol Ysgol Bro Caereinion i fod yn un cyfrwng Cymraeg
-
Sir Ddinbych - mynegi pryder am ostyngiad i oriau agor Llyfrgelloedd Sir Ddinbych
-
Caerdydd - ymgynghoriad agor canolfan ADY cyfrwng Cymraeg
-
Sir Conwy - ymgynghoriad ar gludiant ysgol
Cymraeg i Bawb
Yn dilyn blynyddoedd o drafod gan aelodau Grŵp Deddf, sef swyddogion y Gymraeg, awdurdodau lleol de ddwyrain Cymru, llwyddwyd i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i greu cynllun peilot i gyflogi swydd Pencampwr hyrwyddo Addysg Gymraeg ar draws 10 sir. Cychwynnodd Llio Elgar yn y swydd honno yn 2023 gan greu cynllun a chomisiynu adnoddau i hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws yr holl siroedd. Y mae gan y cynllun wefan gynhwysfawr gyda nifer dda o adnoddau megis fideos o brofiadau teuluoedd am addysg Gymraeg a syniadau am daflenni i hyrwyddo digwyddiadau a darpariaethau yn ogystal. www.cymraegibawb.cymru
Mae RhAG wedi bod yn cefnogi gwaith bwrdd y pencampwr ac wedi bod yn cyfrannu at y gweithgarwch ddatblygu. Gwelwn fel mudiad bod y gwaith hwn yn ychwanegu at ein
10
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
gwaith ni fel mudiad ac yn cynyddu’r gefnogaeth sydd i gael o ran hyrwyddo addysg Gymraeg a gwella cymhwysedd Awdurdodau Lleol a phartneriaid cymunedol eraill i sicrhau bod addysg Gymraeg yn fwy gweladwy o fewn cymunedau ar draws a 10 sir.
Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Ym Medi 2022 cychwynwyd ar y gwaith o weithredu’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda chynllunio’r 5 mlynedd gyntaf yn dasg i bob sir. Erbyn hyn y mae’r cynlluniau wedi cwblhau dwy flynedd o gynllunio gydag enillion amlwg mewn rhai siroedd, gydag ysgolion Cymraeg newydd wedi agor a’r cynnydd yn amlwg ond mewn nifer helaeth o siroedd araf yw’r cynnydd.
Yn y siroedd hynny lle mae Fforymau Addysg Gymraeg wedi eu sefydlu ac yn gweithredu’n gyson ac yn strategol, mae’r canlyniadau’n amlwg. Mae modd gweld holl gynlluniau Addysg Gymraeg y 22 sir ar eu gwefannau.
Cydweithio wrth hyrwyddo
Trwy ein gwaith rhyngweithio rhyngwladol gyda’n cyfeillion yn ELEN, cawsom gyfle euraidd ar gychwyn 2024 i groesawu N PHo es g dirprwyaeth o elusen Fis An Phobail o orllewin Belfast i Gymru i rannu arfer dda mewn trosglwyddo’r Gymraeg i deuluoedd is | .cs mewn ardal lle nad yw’r dwysedd siaradwyr yn uchel. Roedd y %= berthynas gyda’r elusen wedi ei ffurfio wrth i ni gwrdd yng 4“Ann pert?AY nghynadleddau ELEN dros y blynyddoedd cynt a braf oedd cael cyfle i drefnu tridiau llawn o brofiadau i’r grŵp i weld gwaith gwych Mudiad Meithrin, Y Mentrau Iaith lleol a’r cynllunio adeiladwaith mewn ambell sir lle roedd y dilyniant o
ofal plant i addysg yn digwydd mewn adeilad newydd sbon yn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Caerffili.
Yn dilyn yr ymweliad, lluniwyd arolygiad manwl o’r gwasanaethau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a theuluoedd ar gyfer y Wyddeleg yng ngorllewin Belffast ga nodi’r daith i Gymru yn astudiaeth achos yn y ddogfen. Braf oedd medru trefnu’r ymweliad a gallu rhannu arferion da gyda’r elusen hon sydd yn gwneud gwaith mor ardderchog yng ngogledd Iwerddon. Ein gobaith yw medru mynd i weld y gwaith ein hunain yn fuan iawn.
www.glornamona.com/fis-an-phobail-family-services-book-english/
Eisteddfodau yr Urdd a’r Genedlaethol
Roedd gyda ni bresenoldeb yn yr Eisteddfodau eleni fel arfer gyda’r Mentrau Iaith yn Eisteddfod yr Urdd a gyda mudiad Dyfodol i’r Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Llanymddyfri oedd ein cyrchfan gydag Eisteddfod yr Urdd a Boduan ym Mhen Llŷn oedd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae pwyslais ein presenoldeb ychydig yn wahanol yn y ddwy Eisteddfod. Defnyddiwn y cyfle yn Eisteddfod yr Urdd i siarad gyda rhieni yn uniongyrchol ac i hyrwyddo addysg Gymraeg, addysg drochi cynnar a hwyr a’r dilyniant i addysg bellach ac uwch. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae’r cyfle yma i rannu gwybodaeth amdanom ni fel mudiad ac i rannu gwybodaeth a gweithgarwch i ddenu cefnogwyr i’r mudiad er mwyn gallu gweithredu ar draws Cymru yn y flwyddyn ganlynol.
11
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Mae’r gwaith partneriaeth wedi parhau i dyfu eto drwy waith yr is-bwyllgorau hyn gyda’r berthynas gyda’n cydweithwyr ym Mudiad Meithrin a’r Mentrau Iaith ar hyd a lled Cymru yn cydgordio’n effeithiol.
Welsh4parents
Mae gwefan Welsh4Parents.cymru a grewyd dros gyfnod y clo er mwyn cefnogi rhieni a gofalwyr gyda dolenni i adnoddau ar-lein yn parhau i gael ei defnyddio’n dda. Mae’r wefan yn parhau i gael ei diweddaru yn ôl ein gallu. Ers 2020 mae 4,000 o ddefnyddwyr wedi cyrchu’r wefan gyda bron i 1,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.
Apelau ceisiadau lleoedd mewn ysgolion 2023-2024
Cefnogwyd rhieni mewn 3 sir gyda cheisiadau am apeliadau eleni: Powys - 2 deulu. Llwyddiant i bawb. Ynys Môn - 12 teulu. Llwyddiant i bawb. Caerdydd - 12. Llwyddiant i bawb.
Edrych ymlaen at flwyddyn newydd…
Diolch yn fawr unwaith eto eleni i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn aeth heibio. Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus newydd lle y byddwn yn gweld ffrwyth gwaith y Cynlluniau Strategol a dylanwad ein gwaith ar hyd a lled Cymru yn ysgogi newid o’r newydd drwy agor ysgolion newydd a gweld cynnydd cadarn a sylweddol yn niferoedd disgyblion Cymru sydd yn derbyn addysg Gymraeg ym mhob cyfnod addysgol. Wrth gynyddu’r niferoedd sydd yn mynd i mewn addysg Gymraeg bydd mwy yn dod allan y pen arall ac yn dod yn siaradwyr hyderus yn y pendraw.
Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol
Cynhaliwyd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cenedlaethol ar:
23/5/23 12/6/23 14/11/23 15/1/24 23/1/24
Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn ddeufisol fel arfer.
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar: 23 Ionawr 2024
Siaradwr Gwadd: Efa Gruffudd - Comisiynydd y Gymraeg
Cyfarfodydd a chynrychiolaeth
Cyfarfodydd a gohebu gydag ASau a chynghorwyr lleol
Mae’r gwaith o gyfarfod a gohebu gyda gwleidyddion yn y Senedd ac yn ein hawdurdodau lleol wedi parhau eleni gyda nifer o gyfarfodydd amrywiol yn digwydd i drafod materion yn ymwneud â materion penodol megis cludiant a diffyg datblygiad addysg Gymraeg mewn ardaloedd penodol a materion polisi penodol. Cyflwynodd RhAG dystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd hefyd gan gyfrannu at sesiynau ymchwilio yn ogystal.
12
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Cyfarfodydd gyda Swyddogion Uned y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru:
Cyfarfu’r swyddogion yn aml dros y flwyddyn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chyfarfodydd monitro’r grant blynyddol, trafodwyd materion penodol yn enwedig o ganlyniad i waith y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn datblygu a pharatoi ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg yn dilyn ymateb i’r papur gwyn.
Cyfarfodydd gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg:
Yr ydym wedi cyfarfod gyda swyddogion swyddfa’r Comisiynydd yn gyson dros y flwyddyn yn ogystal, yn rhannu gwybodaeth a chodi pryderon wrth i gynlluniau addysg Gymraeg gael eu llunio a’u gweithredu.
Rhwydwaith Addysg a’r Gymraeg CGGC:
Mae RhAG yn parhau i eistedd ar rwydwaith Addysg a’r Gymraeg gyda’r CGGC. Mae’n gyfle da i ddod â materion at fwrdd rhwydwaith y trydydd sector ac yn ystod y flwyddyn hon yr oedd parhau i ymateb i heriau cyfnod ôl-cofid yn thema gyffredin. Roedd cyfarfodydd gweinidogol hefyd yn rhan o’r gwaith hwn oedd o fudd mawr i ni fel mudiad yn gallu dod â materion addysg Gymraeg o du’r trydydd sector.
Cynrychiolaeth RhAG ar Fforymau Addysg Gymraeg
Mae cynrychiolaeth gan RhAG ar y fforymau addysg sirol canlynol:
Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Ceredigion, Conwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen, Powys, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Dathlu’r Gymraeg
Mae RhAG yn aelod gweithredol o’r grŵp ymbarél sy’n cydweithio er mwyn hyrwyddo a dathlu’r iaith Gymraeg. Y mae RhAG wedi bod yn curadu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni sydd yn ddathliad o gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg. Hydref y 15fed yw’r diwrnod yn flynyddol.
Cronfa Glyndŵr
Mae’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol yn cynrychioli RhAG ar bwyllgor y Gronfa sy’n gweithio i hyrwyddo addysg Gymraeg ledled Cymru. Cynhelir cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhannu gwybodaeth am gynlluniau a lleoliadau posibl all wneud ceisiadau am gymorth gan y gronfa.
ELEN
Bu RhAG yn aelod o Rwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) unwaith eto eleni. Ei nod yw hyrwyddo, diogelu a buddio ieithoedd Ewropeaidd llai defnyddiedig a gweithio tuag at gydraddoldeb ieithyddol i’r ieithoedd hyn, ac amlieithrwydd, o dan y fframwaith ehangach o hawliau dynol, a bod yn llais i siaradwyr yr ieithoedd hyn ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol . Sefydliad anllywodraethol yw ELEN.
Mynychodd swyddogion RhAG cynhadledd flynyddol ELEN eleni yn Casteddu ar ynys Sardigna gan glywed cyfraniadau amrywiol gan nifer o gyfranwyr o bob cwr o Ewrop yn rhannu arferion da ac yn rhannu heriau sydd yn parhau i godi mewn nifer o wledydd lle y mae eu hieithoedd yn parhau heb gydnabyddiaeth swyddogol. Rhwydweithir gyda’r mudiadau hefyd sydd yn aml yn agor drysau i gyfleoedd cyfnewid arbenigedd pellach. Roedd y gynhadledd eleni yn rhan o ŵyl ffilmiau lle cafodd y ffilm o Gymru, Gwledd, enwebiad am wobr hyd yn oed!
13
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Cysylltiadau Lleol
Sir Cyswllt Abertawe Heini Gruffudd Blaenau Gwent Meryl Darkins Helen Greenwood Bro Morgannwg Mark Bowen Caerdydd Owain Rhys Nona Evans Ceri McEvoy Casnewydd Elin Maher Castell-nedd Port Talbot Roger Williams Caerffili Ben Jones Phil Bevan Lowri Jones Ceredigion Owain Harpwood Sir Ddinbych Elfed Williams Ruth Williams Sir Fflint Nick Thomas Gill Stephens Merthyr Mark Ward Mynwy Lynne Davies Natalie Eaton Pen-y-bont ar Ogwr Elin Mannion Powys Lorraine Davies Bethan Price Rhondda Cynon Taf Helen Prosser Osian Rowlands Torfaen Helen Greenwood Wrecsam Rhodri Davies
Gellir cysylltu gyda’r swyddfa ganolog i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r cysylltiadau lleol.
Cysylltu
Elin Maher Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Treforgan, Caerdydd, CF15 8LW
07970 304219 post@rhag.cymru www.rhag.cymru
Facebook: www.facebook.com/RhAGCymru Trydar: @RhAG1 Instagram: rhag_pfwme
14
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adolygiad Ariannol
Derbyniodd RhAG grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru o £100,000 i’w ddefnyddio ar gyllido gwaith y mudiad. Cyllidir gwaith 2 swyddog o’r arian hwn sef swydd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol a’r Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu Gogledd Cymru.
Mae gan RhAG bolisi cronfeydd wrth gefn sydd yn ymdrechu i gadw digon o arian ar gyfer 4 mis o wariant o gronfa anghyfyngedig. Gellir gwario yr arian hwn ar gynnal yr elusen am gyfnod petai rhaid dirwyn yr elusen i ben ac unrhyw wariant perthnasol.
Gair gan y Trysorydd
Mae’n fraint i mi gael parhau fel Trysorydd RhAG dros y flwyddyn ddiwethaf – a hynny’n flwyddyn llawn gweithgareddau cyffrous wedi’u gyrru gan waith diflino ein staff gwych!
Mae’n bleser gennyf nodi bod sefyllfa ariannol RhAG yn parhau’n iach, gyda phrosesau a gweithdrefnau ariannol cadarn yn sail i’n holl weithredoedd.
Yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24 derbyniom £100,000 o ariannu, a hynny i gyd yn deillio o Grant Lywodraeth Cymru.
Roedd gwariant y cyfnod ychydig yn fwy na’r derbyniadau, gyda gwariant o £117,987 am y flwyddyn ariannol 2023/24. Roedd y gwariant ychwanegol y tu hwnt i’r derbyniadau yn ein caniatáu i gyflawni llu o brosiectau hyrwyddo hollbwysig. Mae ein prif wariant yn parhau yn gostau cyflogau a chostau yn gysylltiedig â chyflogaeth. Cyfanswm cronfeydd RhAG ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2023/24 oedd £59,728.
Mae RhAG yn wynebu’r un heriau â sefydliadau tebyg yn yr hinsawdd chwyddiant uchel sydd wedi bod ohoni yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae Bwrdd Cenedlaethol RhAG yn parhau i wneud penderfyniadau ariannol er mwyn sicrhau’r gwerth fwyaf am arian wrth hybu addysg Gymraeg i Blant ledled Cymru.
Mae’n ardderchog i nodi bod y cyfrifydd Rob Jones FCCA o gwmni Gwasanaethau Cyfrifyddu R J Financial wedi cyhoeddi Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol yn cadarnhau ei fod yn hapus gyda chyfrifon RhAG am 2023/24.
Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn ariannol nesaf, mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill er mwyn gweithio tuag at gynyddu ein hincwm yn y blynyddoedd i ddod. Bydd y rhain yn ein cefnogi i barhau i wneud cyfleodd addysg Gymraeg yng Nghymru yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Tomos Rodrigues
15
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
Adroddiad ariannol 2023 – 24
Archwiliwyd gan
R J Financial Accounting Services Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig 220a Stow Hill Casnewydd NP20 4HA Llofnod y cadeirydd:
Wyn Williams Cadeirydd Cenedlaethol RhAG
16
CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID
COMISIWN ELUSENNAU AR GYFER CYMRU A LLOEGR Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon Adran A Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol Adroddiad i ymddiriedolwyrlaelodau hieni Dros Addysg Gymraeg Ar y cyfrifon am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 Rhif yr Elusen (os oes) 1153403 l%Y gweld ar dudalennau Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod ("yr Ymddiriedolaeth ) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 Cyfrifoldebau'r a'r sail adrodd Fel yr ymddiriedolwyr elusen, rydych yn gyfrrfol am baratoi'r Crif0n yn unol gofynion Deddf Elusennau 2011 ( y Ddeddf,) Adroddaf mewl perthynas a'm hymchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth gwblhawyd o dan adran 145 0 Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd a'm harchwiliad. dilynais yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'i Ddeddf. Datganiad yr archwiliwr Rwyf wedi cvknlhau fy archwli2d. Rydw I'n gallu cadanhau nad yw unrhyw annibynnol faterion perthnasol wedi dod i'm syhN mewn perthynas a'r archwiliad (heblawr hyn a ddatgelir isod ") sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol: ni chafodd cofnodion cyfnfyddu eu cadw yn unol ag adran 130 O'r Ddeddf EIu8enn8u', neu nid yvlr cyfrifon yn cyfateb a'r cofnodion cr1fyddu. neu nid ywr cyfrifon yn cydymffuffjio a'r gofynion cymwys yn ymwneud a ffurf a chynnwys cyfrtfon a amlinellir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrrfon ac Adroddiadau) 2008 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrrfon yn rhoi darlun 'gwr a theg, nad yv/n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol. Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid W wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill meTr perthynas a'r archwliad y dylid dwyn syfw atynt yn yr adroddiad hvm er mwyn sicrh dealltwriaeth briodol o'r cyfrrfon. iriau mew mfaGhau os nad ydynt yn gymwys. Llofnodwyd: Dyddiad: 1711212024 ones Cymhwyster (cymwysterau) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes): FCCA IER Hydref 2018
Cyfeiriad". ow asnewy Adran B Datgeliad Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwiliwr dynnu sylw at faterion o bryder perthnasol (gweler CC32, Archwliad annibynnol o gyfrrfon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwilwyr). Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu. Ddim yn berthnasol IER Hydref 2018