

## **CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 

## **Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023 RHIENI DROS ADDYSG GYMRAEG** 




1 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 




## **Cynnwys** 

|1.|Clawr||
|---|---|---|
||Llun:<br>Canolfan Gwladys : Ysgol Gymraeg Gwynllyw|1|
|2.|Cynnwys|2|
|3.|Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol|3|
|4.|Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg|4|
|5.|Pwy ydym ni?|4|
|6.|Rhwydweithio|5|
|7.|Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus|5|
|8.|Gair gan y Cadeirydd|6|
|9.|Gwaith y flwyddyn|7|
|10.|Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol|11|
|11.|Cyfarfodydd a chynrychiolaeth|11|
|12.|Cysylltiadau Lleol|12|
|13.|Cysylltu|13|
|14.|Adroddiad Ariannol|14|




2 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol** 

**Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) Rhif Elusen:** 1153403 **Swyddfa Gofrestredig:** Rhieni Dros Addysg Gymraeg Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Treforgan, Caerdydd, CF15 8LW 

## **Bwrdd Cyfarwyddwyr** 

Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a’i aelodau yw ymddiriedolwyr yr elusen. 

Etholir yr ymddiriedolwyr am dymor o 3 mlynedd am uchafswm o 3 chyfnod yn ôl y cyfansoddiad. 

Ymddiriedolwyr: David Wyn Williams Elin Mair Mannion Owain Rhys Tomos Rodrigues (Cychwyn 1.7.23) 

Apwyntir y Cydlynydd Cenedlaethol gan y Bwrdd a nhw sydd yn gofalu am waith dydd i ddydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg. 

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Elin Maher a chyswllt elusen: Swyddog Hyrwyddo ac Glesni Edwards Ymgysylltu Gogledd Cymru Banc: Natwest Archwilwyr: RJ Finance, Casnewydd. 

Gosodir dargedau blynyddol gan y Cydlynydd Cenedlaethol yn unol â blaenoriaethau RhAG a’r gyllideb sydd ar gael. Cânt eu monitro a’u craffu gan y bwrdd yn eu cyfarfodydd ar hyd y flwyddyn yn ogystal â chyfarfodydd cyson gyda’r cyrff ariannu. 


3 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r ymddiriedolwyr, sef aelodau Bwrdd Rhieni Dros Addysg Gymraeg, gyflwyno eu hadroddiad ar waith a’r adroddiad ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31.3.2023. 

## **Llywodraethiant a rheolaeth** 

Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethu sef Cyfansoddiad Sefydliad Cofrestredig Elusennol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a fabwysiadwyd ar 14 Awst 2013. Yr ydym yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE). 

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn fudiad nid-er-elw ac yn cael ei arwain gan bwyllgor cenedlaethol o wirfoddolwyr a adnabyddir fel Y Pwyllgor Cenedlaethol. 

## **Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg** 

Amcan y mudiad yw hyrwyddo Addysg Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn hygyrch i bawb a’i mynno. 

Cyflawnwn hyn trwy gydweithio ag amrywiol gyrff cenedlaethol, cynnal gwefan gyfredol yn hyrwyddo addysg Gymraeg, cyhoeddi adroddiadau ac ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau, cynghorwn rieni gwahanol ardaloedd Cymru gan gynnig iddynt wybodaeth a chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag Addysg Gymraeg. 

## **Pwy ydym ni?** 

Mudiad cenedlaethol o rieni a sefydlwyd yn 1952 yw **Rhieni dros Addysg Gymraeg** . Prif amcanion y mudiad yw cefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ledled Cymru trwy roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant a’u caniatáu i gaffael dwyieithrwydd cyflawn. 

Mae RhAG yn credu, fel y gwna Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru, mai ysgolion Cymraeg yw’r model sy’n cyflwyno orau sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Trwy ei waith, y mae RhAG yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg. Mae RhAG hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg trwy roi gwybodaeth i rieni am fanteision addysg Gymraeg a’u cefnogi ar hyd y daith addysg yn ogystal. 

Mae RhAG wedi datblygu arbenigedd mewn cefnogi, datblygu a chynllunio addysg Gymraeg. Gweithiwn ar ran rieni a gofalwyr gyda rhwydwaith o gefnogwyr ar draws Cymru sy'n gallu cynghori a helpu rhieni, awdurdodau lleol ac adrannau’r Llywodraeth i ddatblygu a gwireddu cynlluniau i gynyddu darpariaethau addysg Gymraeg. Mae gan y mudiad rôl bwysig i gynrychioli rhieni sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg. Mae RhAG felly’n ddolen gyswllt werthfawr a hanfodol rhwng rhieni ac ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a llywodraeth ganol fel ei gilydd. 


4 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Mae rôl RhAG wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i nifer yr ysgolion Cymraeg gynyddu, ac wrth i addysg Gymraeg ddod yn fwy hygyrch i rieni fel cyfrwng addysg. Yr hyn sydd wedi newid yn arwyddocaol yw sefydlu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn y 22 sir a chyfraniad RhAG i’r fforymau addysg Gymraeg sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru mewn ymateb i flaenoriaeth strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr. 

Gweithredir erbyn hyn un o egwyddorion sylfaenol y mae RhAG wedi bod yn gofyn amdano ar lefel sirol sef yr angen am strategaeth addysg Gymraeg. Rydym wedi cyfrannu hefyd at ymateb at lunio Deddf Addysg Gymraeg a ddaw i rym yng nghylch presennol y Senedd. 

Ystyriwn fod pob rhiant neu ofalwr sydd am neu wedi dewis Addysg Gymraeg i’w plant yn gymwys i dderbyn cefnogaeth RhAG. Gweithiwn hefyd gyda chymunedau lle nad yw’r dewis hwnnw wedi ei wneud eto, gan ddylanwadu’n gadarnhaol drwy rannu gwybodaeth ac ateb ymholiadau yn ôl ein gallu. 

## **Rhwydweithio** 

Gweithreda RhAG mewn sawl ffordd i hybu a hyrwyddo addysg Gymraeg yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn cwrdd 6 gwaith y flwyddyn ac yn cynrychioli rhieni ar sail genedlaethol gerbron y llywodraeth a chyrff eraill. Mae'r Pwyllgor hefyd yn llunio polisïau ac ymatebion i ymgynghoriadau sydd yn adlewyrchu natur ac anghenion gwahanol ranbarthau Cymru trwy hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a chryfhau systemau cynllunio addysg Gymraeg yn ogystal. 

Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn annog pob sir i sefydlu pwyllgor lleol, ac mae pwyllgorau neu gynrychiolaeth yn bodoli yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o weithgareddau, gan gynnwys: 

- Rhwydweithio’n lleol i hysbysu a rhoi cymorth i rieni newydd 

- Cwrdd â swyddogion yr awdurdodau lleol i roi mewnbwn ar bolisïau Addysg Gymraeg a sicrhau darpariaeth ddigonol 

- Ymateb i ymgynghoriadau ar amrywiol agweddau sy’n effeithio ar ddatblygiad addysg Gymraeg 

- Ceisio arbenigedd y Pwyllgor Cenedlaethol ac arbenigwyr eraill ar faterion penodol 

- Aelodau o Fforymau Addysg Gymraeg Awdurdodau lleol 

## **Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus** 

Cytunir ar raglen waith ar ddechrau’r flwyddyn gyda thargedau penodol gyda’n cyllidwyr a’n hymddiriedolwyr. Ein targedau eleni oedd fel a ganlyn: 

1. Cefnogi/cydweithio efo’r Siroedd parthed CSCA Gweithio'n agosach gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol gan sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn datblygu ledled Cymru gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd 

2. Parhau i ehangu rhwydwaith y mudiad yn effeithiol ym mhob rhan o Gymru 

3. Parhau i ddatblygu gwefan i gynnwys deunydd hyrwyddo i gefnogi rhieni. 

4. Cefnogi ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru. 

5. Darparu cymorth, cefnogaeth ac eiriolaeth am ddim i rieni mewn achosion penodol yn ymwneud ag anawsterau mynediad i ysgolion Cymraeg. 


5 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Yn unol â’n cyfrifoldeb cyfreithiol fel ymddiriedolwyr, yr ydym wedi darllen canllawiau ar fudd cyhoeddus ac yn ystyried y canllawiau wrth i waith y flwyddyn gael ei bennu a’i ddatblygu. Os daw ymddiriedolwyr newydd i’r pwyllgor yna cyflwynir copi o’r canllaw iddynt i’w ddarllen yn ystod eu cyfnod anwytho. 

Gall unrhyw riant/ofalwr gael cymorth uniongyrchol gan RhAG er mwyn eu cynorthwyo i gael gwybodaeth neu gefnogaeth ynghylch sicrhau mynediad at addysg Gymraeg yn eu hardal hwy. 

## **Gair gan ein Cadeirydd - Wyn Williams** 

Fel y gwyddoch, mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn ymgyrchu ledled Cymru i sicrhau bod holl blant ein gwlad yn cael mynediad at addysg iaith Gymraeg. Mae teithio i bob cwr o’n gwlad tipyn yn haws erbyn hyn wedi i ni apwyntio Glesni Edwards yn swyddog i’r gogledd. Croeso Glesni! Mae Glesni yn aml diweddaru ein cyfrif instagram gyda'i gweithgaredd, felly chwiliwch am ‘Rhag’ ar y llwyfan hwnnw i ddod o hyd i’n cyfrif yno. 

Mae pethau’n parhau i newid wedi'r cyfnod clo, ac roedd hi'n bleser cwrdd wyneb-yn-wyneb gyda ffrindiau hen a newydd yn yr eisteddfodau cenedlaethol sydd yn ôl yn ein dyddiaduron yn awr. Bu ein Cyfarfod Cyffredinol ar gyfer 2022 yng Nghanolfan Gartholwg a cheir fideo ar-lein ar ein sianel YouTube (eto, chwiliwch am “RhAG” i ddod o hyd i’n sianel yno). 

O ran targedau addysg penodol awdurdodau lleol Cymru, gwaith RhAG yw ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol dros Gymru gyfan yn dilyn cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru, ac i'n Cyfarwyddwr diflino Elin Maher mae'r diolch am ei gwaith yn arwain y ddyletswydd hollbwysig hon. Mi fydd hi hefyd am glywed am unrhyw ofidion sydd gennych am sector sydd yn parhau i fod dan bwysau. Mae’r penawdau diweddar am y pwysau sydd ar athrawon fel unigolion wedi ein hatgoffa ni oll eu bod nid yn unig yn adnodd pwysig ond hefyd yn gig a gwaed yn ystod pob diwrnod gwaith. 

Mae’r frwydr gyfreithiol yng Nghastell Nedd Port Talbot a deilliodd o anwybyddu addysg Gymraeg wrth ddatblygu addysg Saesneg yno wedi arwain at RhAG a Chomisiynydd y Gymraeg yn brwydro – yn llwyddiannus – dros hawliau addysg Gymraeg yn yr ardal. Cam pwysig arall yn y daith tuag at ein nod o fynediad teg i bob plentyn yng Nghymru i’r iaith - er bod yna waith meddwl ar y gweill wrth ystyried beth yn union bydd dehongliad nesaf y llywodraeth genedlaethol o'r dymuniad hynny y dyfodol agos wedi'r newidiadau nesaf yn arweiniaeth a gweinidogion y Blaid Lafur yng Nghymru. 

Erbyn hyn mae’n bum mlynedd a mwy yn ôl ers imi gael fy ngwahodd i fod yn Gadeirydd, felly bydd fy amser i fel ymddiriedolwr yn dod i ben yn weddol fuan - ac er bod hi wedi bod yn pum mlynedd heriol o ran y sector addysg, mae’r nifer o lwyddiannau wedi twymo fy nghalon, hyd yn oed yng nghanol gaeafau hir a gwlyb! Diolchaf yn daer eleni eto i bawb sy’n rhan o bwyllgorau lleol RhAG dros Gymru. 


6 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Gwaith y flwyddyn** 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 

Gwyddwn fod gan y sector addysg gyfraniad aruthrol at ddyhead mudiadau fel RhAG ac at bolisi cenedlaethol erbyn hyn, i sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg. A gellid nodi bod y siom o weld niferoedd cyffredinol siaradwyr Cymraeg Cyfrifiad 2021 yn syrthio unwaith eto, wedi sigo’r ysbryd er gwaethaf ymdrechion y ddegawd ddiwethaf. Roedd anghysonderau parhaus yn cymhlethu agweddau o’r data megis niferoedd y cyfrifiad ddim yn cyfateb i niferoedd mewn addysg Gymraeg. Y mae gwaith pellach yn cael ei wneud i graffu ar hyn. Ond y tu ôl i’r penawdau roedd yna rhai tameidiau o obaith. Un o’r rhain oedd y twf yn y grŵp oed sydd fel arfer yn cychwyn teulu sef 25-45 oed o 14.9% i 15.9%. Dyma ein rhieni a’n gofalwyr. 

Blwyddyn felly oedd hi o newyddion da a newyddion drwg. 

Y newyddion drwg yw bod hi’n parhau i fod yn **rhy** anodd i deuluoedd gyrraedd Addysg Gymraeg mewn nifer o siroedd yng Nghymru. Er bod yna ysgolion Cymraeg newydd wedi agor yn ystod y flwyddyn a nifer o ysgolion wedi gweld cynnydd yn eu niferoedd, fel yn ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen, sydd wedi symud i fod yn ysgol 3-18 oed, araf yw’r datblygu mewn ardaloedd daearyddol newydd ac y mae effaith costau uwch adeiladu yn golygu bod yr esgid yn gwasgu’n fwy nag erioed. 

Ond, roedd data CYBLD Llywodraeth Cymru yn dangos llun cenedlaethol rhwystredig unwaith eto eleni. O’n profiad ar fforymau addysg Gymraeg nifer o siroedd, mae agweddau o fewn ein systemau cynllunio addysg yn parhau i osod addysg cyfrwng Saesneg fel y dewis diofyn ac y mae’r **dewis** hwn y parhau i rwystro twf. 

Er mwyn i addysg Gymraeg fod yn fwy hygyrch y mae yna heriau eraill o’n blaenau, sef diffyg tir a chyllid a diffyg archwaeth i wneud penderfyniadau anodd i ymateb i anghenion cymunedau a strategaethau lleol a chenedlaethol. 

Mae heriau megis gwahaniaethau mewn darpariaeth cludiant ysgol yn parhau i fod yn fwrn gyda phenderfyniadau ar bolisïau cludiant yn niweidiol i allu teuluoedd i gyrchu addysg Gymraeg o fewn ein cymunedau yn hawdd. 

## **OND** mae yna newyddion da hefyd! 

Roedd RhAG yn bresennol yn agoriad Ysgol Santes Tudful, Safle’r Gurnos ym Merthyr wrth fod y sir yn sefydlu trydedd ysgol gynradd y sir a Mudiad Meithrin yn agor Cylch Meithrin y Gurnos yn ogystal. Mae hyn yn batrwm cyffredin ac effeithiol erbyn hyn lle y mae datblygiad cynradd yn golygu agor darpariaeth blynyddoedd cynnar yno hefyd i fwydo’r ysgol. 

Daeth cyfnod dod yn ôl at ein gilydd mewn cae unwaith eto, i’n llonni a’n cysylltu o’r newydd, gydag eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn Sulgwyn 2022 a Thregaron ym mis Awst wrth i ni rannu pabell gyda Menter Sir Dinbych a Mentrau Iaith Cymru a mudiad Dyfodol yr Iaith. Cawsom gyfle i siarad gyda rhieni a chefnogwyr o Fôn i Fynwy gan dderbyn nerth i fwrw ati am flwyddyn arall a chadw clust agored am faterion llosg yr ardaloedd. 


7 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Cyflwynodd RhAG dystiolaeth ym Medi 2022 o flaen y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Senedd Cymru oedd yn edrych ar y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Tra efallai gellid dweud ar un llaw bod y casglu tystiolaeth braidd yn gynnar, roedd yn gyfle ar gychwyn blwyddyn gyntaf y cynlluniau i gloriannu barn nifer o rhanddeiliaid a gwleidyddion ar gychwyn y broses o weithredu’r cynlluniau a luniwyd dros y misoedd cynt gan obeithio cynnig cyfeiriad a gobeithion ar gyfer y cyfnod i ddod. 

Mae gan RhAG erbyn hyn bresenoldeb ar bron bob fforwm Addysg neu Iaith Gymraeg ar draws Cymru - 19 allan o’r 22. Nid ar chwarae bach y mae hynny’n digwydd gan y golyga hyn gyfarfodydd di-ri. Caffaeliad mawr i RhAG yn 2023 oedd cael Glesni Edwards yn ymuno â ni fel swyddog ymgysylltu a hyrwyddo Gogledd Cymru ac y mae Glesni wedi gwneud gwaith ardderchog yn chwilio am gyfleoedd i rannu gwybodaeth a chydweithio gyda phartneriaid ar hyd y gogledd ers iddi ddechrau ym mis Ebrill. 

Rydym hefyd yn parhau’n ddiolchgar iawn i’n holl rhanddeiliad a phartneriaid ar draws Cymru, sydd yn parhau i gysylltu gyda ni am amrywiaeth o faterion. Tyfu y mae ein rhwydwaith ar draws Cymru gyda materion yn dod i’n sylw yn amrywio o gymorth ar gyfer ceisiadau i ysgolion a chludiant yn ogystal â hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni a gofalwyr a darparwyr addysg. 

Carwn nodi eto ein gwerthfawrogiad i Lywodraeth Cymru am gynnal y grant sydd wedi caniatáu inni barhau i ehangu a chynyddu ein gweithgarwch fel mudiad ac i gryfhau ein cyfraniad yn yr ymdrech genedlaethol i wireddu targedau Cymraeg 2050. Mae’r cydweithio cadarnhaol gyda swyddogion y Llywodraeth wedi parhau i’n galluogi fel mudiad i herio a chefnogi awdurdodau lleol ymhellach gyda’r gwaith o gynyddu canran sydd yn derbyn addysg Gymraeg ar draws Cymru. Y mae hefyd wedi galluogi mwy o rieni i glywed am ein gwaith ac i ddod atom am gymorth penodol pan y fo galw yn codi. 

## **Cefnogaeth ac eiriolaeth** 

Yr ydym yn pwyso a mesur effaith ehangach ein cefnogaeth i rieni a gofalwyr yn ofalus. Yr hyn a welwn yn aml yw bod sefyllfa heriol i un teulu yn gallu golygu newid posib 


mewn polisi a fydd, yn y pendraw, yn cynorthwyo mwy o rieni. Mae hyn yn elfen bwysig i ni fel mudiad sef yr effaith pellach ac ehangach a ddaw o gefnogi un teulu gydag un mater. 

Daw rhieni atom yn gofyn am gefnogaeth gyda nifer o wahanol agweddau yn eu herio bob blwyddyn. Mae cyfnod gwneud cais am ysgol yn gallu bod yn un digon heriol i rieni ac felly gallwn gynorthwyo gydag agweddau sy’n codi wrth wneud cais am ysgol, yn enwedig os nad yw awdurdod lleol wedi bod yn cynllunio digon o leoedd ar gyfer addysg Gymraeg mewn ardal benodol. Yn 2022-2023 daeth 8 teulu atom o wahanol rannau o Gymru yn gofyn am gymorth gyda hyn. 

Teulu Rees, Gilfach Goch 

Newid ym mholisi cludiant oedd her y teulu Rees o Gilfach Goch, sir Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y sir wedi newid y polisi cludiant i wrthod cludiant am ddim i ddysgwyr dderbyn cludiant am y tu hwnt i ffin ddaearyddol y sir. Roedd hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar y teulu Rees gan nad oedd ei mab yn gymwys mwyach i gael ei gludo 


8 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



am ddim i’r ysgol uwchradd lle yr oedd ei gymheiriaid yn mynd. Roedd ei ysgol Gymraeg agosaf ym mhentref Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf ac yntau’n symud i Ysgol Gyfun Llanhari i flwyddyn 7. Y mae sir Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gludo dysgwyr i Ysgol Gymunedol Tonyrefail o’r sir, sef yr ysgol uwchradd Saesneg, ond nid i Ysgol Gyfun Llanhari. Rydym wedi ein rhyfeddu at annhegwch y sefyllfa hon ac yn parhau i gefnogi’r teulu Rees. Mae RhAG o’r farn y dylai dysgwyr allu croesi ffiniau sirol heb gael eu cosbi os yw’r ysgol Gymraeg yn agosach na’r ysgol agosaf o fewn eu sir hwy a chael rhyddid hefyd i ddilyn i’r ysgol glwstwr uwchradd gyda’i gymheiriaid. Parhau y mae’r frwydr! 

Mae ein gwaith i ymateb i ymgynghoriadau yn parhau ac ymatebwn yn gynyddol i ymgynghoriadau am dwf addysg cyfrwng Saesneg. Dyna oedd sail yr adolygiad barnwrol yn erbyn Castell nedd Port Talbot ac yn wir hefyd ein cwyn i’r Comisiynydd a ddaeth gerbron y Tribiwnlys y llynedd a oedd yn ddyfarniad arwyddocaol i ni ac i’r modd y mae Awdurdodau Lleol yn mynd ati i gynllunio twf mewn addysg cyfrwng Saesneg yn eu siroedd. 

Yn yr un modd, ymatebwyd i ymgynghoriad ar gynnydd i nifer mynediad Ysgol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle yr oedd hyn yn amlwg am fod yn niweidiol i ddatblygiad Ysgol Gymraeg Bro Ogwr. Gwrthod ein sylwadau a wnaethpwyd yn y diwedd ond gan obeithio bod y sir wedi sylweddoli bod cynyddu niferoedd mewn addysg Saesneg am danseilio gwaith y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac nad oes modd cael un heb i’r llall ddioddef. 

Roedd gan sir Powys gyfle i sefydlu ysgol Gymraeg yn ardal Abercraf yn Ysgol Cribarth. Roedd yr ysgol ar daith drosiannol yn barod ond penderfynodd y sir sefydlu ysgol dwy ffrwd yn hytrach nag ysgol benodedig - sydd yn siom fawr i ni gan fod Ysgol Dyffryn y Glowyr yn orlawn yn Ystradgynlais a chyfle gwirioneddol i gynnig addysg Gymraeg mewn ardal arall o’r sir. 

Y mae sir Wrecsam yn parhau heb bolisi cludiant ôl-16 i ddysgwyr mewn addysg Gymraeg. Ar hyn o bryd rydym yn parhau i ymateb i geisiadau gan rieni bod eu plant yn gorfod mynd trwy brosesau apelio a chyfathrebu bob blwyddyn cyn bod swyddogion yn derbyn ceisiadau am gludiant consesiynol. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae’n oedi cychwyn tymor y dysgwr ac yn annheg ar y garfan hon o ddysgwyr gyda rhai wedi gorfod cludo dysgwyr eraill ddyddiau ar ôl llwyddo yn y prawf gyrru. 

## **Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg** 

Ym Medi 2022 cychwynnwyd ar y gwaith o weithredu’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda chynllunio’r 5 mlynedd gyntaf yn dasg i bob sir. Amrywiol oedd llunio’r camau gweithredu hyn gyda rhai siroedd yn cynnwys aelodau’r fforwm yn rhan o’r gwaith ac eraill yn bwrw ati heb fewnbwn allanol. Yn y siroedd hynny lle sefydlwyd Fforymau Addysg Gymraeg ac a rannodd yn is-bwyllgorau ar gyfer 7 deilliant y cynlluniau, mae’r gwaith yn datblygu’n dda. Mae modd gweld holl gynlluniau Addysg Gymraeg y 22 sir ar eu gwefannau. Pan mae yna gydweithio manwl a chadarnhaol yn digwydd y mae’r datblygiad yn amlwg hefyd. 

## **Cydweithio wrth hyrwyddo** 

Mae’r gwaith partneriaeth wedi cynyddu eto drwy waith yr is-bwyllgorau hyn gyda’r berthynas gyda’n cydweithwyr ym Mudiad Meithrin a’r Mentrau Iaith ar hyd a lled Cymru yn cydgordio’n effeithiol. Trefnwn ddigwyddiadau gyda’n gilydd pan fo angen hyrwyddo agor ysgol newydd megis Miri Mynwy yn Nhrefynwy neu Bwrlwm Blaenau Gwent i hyrwyddo ysgol Gymraeg newydd Tredegar. 


9 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Welsh4parents** 

Ers i ni greu gwefan Welsh4Parents.cymru dros gyfnod y clo, mae’r wefan yn parhau i gael ei diweddaru yn ôl ein gallu a’i defnyddio. Ers y cychwyn y mae 3,000 o ddefnyddwyr wedi cyrchu’r wefan. 

## **Apeliadau ceisiadau lleoedd mewn ysgolion 2022-2023** 

Cefnogwyd rhieni mewn 3 sir gyda cheisiadau am apeliadau eleni: Powys - 2 deulu. Llwyddiant i’r ddau deulu. 

Ynys Môn - 2 deulu. Llwyddiant i’r ddau deulu. 

Bro Morgannwg - 1 teulu i wedi bod yn llwyddiannus. Cefnogwyd 3 theulu arall gyda chyngor am wneud apeliadau hefyd yng Nghaerdydd. Yn dilyn proses gwneud cais ac apêl, rydym bob amser yn dilyn y cyfnod gyda chyfarfodydd gyda’r Awdurdod Lleol i drafod y materion sy’n codi megis diffyg lle neu ddiffyg eglurder yn y broses gwneud cais. 

## **Bil Addysg Gymraeg** 

Paratôdd RhAG ymateb manwl i’r papur gwyn yn 2023. Nodwyd ein disgwyliadau o’r Bil a’r hyn y dylai’r gyfraith newydd sicrhau i gryfhau addysg Gymraeg. Dylai grym y bil alluogi bod addysg Gymraeg 

- Yn hygyrch a gweladwy o fewn cymunedau Cymru 

- Yn ddealladwy gan holl rieni a gofalwyr Cymru 

- Yn ddealladwy i, a’i hyrwyddo gan holl weithwyr y sector addysg, llywodraeth leol, ac yn ein cymunedau, y rhanbarthau i’r cenedlaethol – yn cynnwys gwleidyddion. 

- Yn cael ei gynllunio’n fwriadus a thryloyw gan Awdurdodau Lleol ar draws Cymru 

- Yn ganolog i gynllunio addysg Awdurdodau Lleol Cymru 

- Yn ganolog i gynllunio addysg Llywodraeth Cymru 

- Yn cael ei gyllido mewn modd sy’n adlewyrchu delfryd creu Cymru ddwyieithog. 

- Yn meddu ar gyfleoedd i gael mynediad at addysg Gymraeg ar wahanol gyfnodau mewn bywyd 

- Yn cael ei haddysgu mewn ysgolion sy’n trochi plant yn llawn yn y Gymraeg, gan gynnwys trochi ieithyddol wrth gael eu haddysgu, a throchi llawn cymdeithasol wrth fod mewn ysgol sydd â’r Gymraeg yn rhan o fywyd cyflawn yr ysgol. 

- Addysgu’r Gymraeg i hyfedredd ac o’r safonau uchaf 

- Â digon o weithlu hyfedr dwyieithog sydd yn medru gofalu, addysgu a gweinyddu o fewn cymunedau ein hysgolion. 

- Â chefnogaeth eang ar gyfer dysgwyr sydd yn dod i Gymru heb y Gymraeg na’r Saesneg i fedru cael eu trochi’n llawn yn y Gymraeg. 

- Yn adlewyrchu ein cymunedau amrywiol 

- Yn cefnogi anghenion pob dysgwr yn y Gymraeg 

## **Gair i gloi…** 

Diolch yn fawr unwaith eto eleni i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn aeth heibio. Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus newydd lle y byddwn yn gweld ffrwyth gwaith y Cynlluniau Strategol a dylanwad ein gwaith ar hyd a lled Cymru yn ysgogi newid o’r newydd drwy agor ysgolion newydd a gweld cynnydd cadarn a sylweddol yn niferoedd disgyblion Cymru sydd yn derbyn addysg Gymraeg. 



10 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol** 

Cynhaliwyd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cenedlaethol ar: 

7/4/22 21/6/22 14/9/22 20/9/22 15/10/22 28/1/23 21/3/23 

Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn ddeufisol fel arfer. 

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar: 28 Ionawr 2023 

Siaradwr Gwadd: Gwion Lewis CB. 

## **Cyfarfodydd a chynrychiolaeth** 

## **Cyfarfodydd a gohebu gydag ASau a chynghorwyr lleol** 

Mae’r gwaith o gyfarfod a gohebu gyda gwleidyddion yn y Senedd ac yn ein hawdurdodau lleol wedi parhau eleni gyda nifer o gyfarfodydd amrywiol yn digwydd i drafod materion yn ymwneud â materion penodol megis cludiant a diffyg datblygiad addysg Gymraeg mewn ardaloedd penodol a materion polisi penodol. Cyflwynodd RhAG dystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd hefyd gan gyfrannu at sesiynau ymchwilio yn ogystal. 

## **Cyfarfodydd gyda Swyddogion Uned y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru:** 

Cyfarfu’r swyddogion yn aml dros y flwyddyn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chyfarfodydd monitro’r grant blynyddol, trafodwyd materion penodol yn ogystal yn enwedig o ganlyniad i gychwyn gwaith y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, trefniadau categoreiddio newydd a pharatoi ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg drwy ymateb i’r papur gwyn. 

## **Cyfarfodydd gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg:** 

Yr ydym wedi cyfarfod gyda swyddogion swyddfa’r Comisiynydd yn gyson dros y flwyddyn yn ogystal, yn rhannu gwybodaeth a chodi pryderon wrth i gynlluniau addysg Gymraeg gael eu llunio a’u gweithredu. 

## **Rhwydwaith Addysg a’r Gymraeg CGGC:** 

Mae RhAG yn parhau i eistedd ar rwydwaith Addysg a’r Gymraeg gyda’r CGGC. Mae’n gyfle da i ddod â materion at fwrdd rhwydwaith y trydydd sector ac yn ystod y flwyddyn hon yr oedd parhau i ymateb i heriau cyfnod ôl-cofid yn thema gyffredin. Roedd cyfarfodydd gweinidogol hefyd yn rhan o’r gwaith hwn oedd o fudd mawr i ni fel mudiad yn gallu dod â materion addysg Gymraeg o du’r trydydd sector. 

## **Cynrychiolaeth RhAG ar Fforymau Addysg Gymraeg** 

Mae cynrychiolaeth gan RhAG ar y fforymau addysg sirol canlynol: 

Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerffili; Caerdydd; Casnewydd; Ceredigion; Pen-y-bont ar Ogwr; Rhondda Cynon Taf; Merthyr; Castell-nedd Port Talbot; Torfaen; Powys, Sir Fynwy, Sir Ddinbych; Wrecsam; Sir y Fflint. Mae cyfarfodydd cyson gydag Abertawe a Bro Morgannwg. 


11 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Dathlu’r Gymraeg** 

Mae RhAG yn aelod gweithredol o’r grŵp ymbarél sy’n cydweithio er mwyn hyrwyddo a dathlu’r iaith Gymraeg. Y mae RhAG wedi bod yn curadu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni sydd yn ddathliad o gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg. Hydref y 15fed yw’r diwrnod yn flynyddol. 

## **Cronfa Glyndŵr** 

Mae’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol yn cynrychioli RhAG ar bwyllgor y Gronfa sy’n gweithio i hyrwyddo addysg Gymraeg ledled Cymru. Cynhelir cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhannu gwybodaeth am gynlluniau a lleoliadau posibl all wneud ceisiadau am gymorth gan y gronfa. 

## **ELEN** 

Bu RhAG yn aelod o Rwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) unwaith eto eleni. Ei nod yw hyrwyddo, diogelu a buddio ieithoedd Ewropeaidd llai defnyddiedig a gweithio tuag at gydraddoldeb ieithyddol i’r ieithoedd hyn, ac amlieithrwydd, o dan y fframwaith ehangach o hawliau dynol, a bod yn llais i siaradwyr yr ieithoedd hyn ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol . Sefydliad anllywodraethol yw ELEN. Mynychodd RhAG cynhadledd flynyddol ELEN eleni eto gan glywed cyfraniadau amrywiol gan nifer o gyfranwyr o bob cwr o Ewrop yn rhannu arferion da ac yn rhannu heriau sydd yn parhau i godi mewn nifer o wledydd lle y mae eu hieithoedd yn parhau heb gydnabyddiaeth swyddogol. Rhwydweithir gyda’r mudiadau hefyd sydd yn aml yn agor drysau i gyfleoedd cyfnewid arbenigedd pellach. 

## **Cysylltiadau Lleol** 

|**Sir**|**Cyswllt**|
|---|---|
|Abertawe|Heini Gruffudd|
|Blaenau Gwent|Meryl Darkins|
||Helen Greenwood|
|Bro Morgannwg|Mark Bowen|
|Caerdydd|Owain Rhys|
||Michael Jones|
||Ceri McEvoy|
|Casnewydd|Elin Maher|
|Castell-nedd Port Talbot|Roger Williams|
|Caerffili|Ben Jones|
||Phil Bevan|
||Lowri Jones|
|Ceredigion|Owain Harpwood|
|Sir Ddinbych|Elfed Williams|
||Ruth Williams|
|Sir Fflint|Nick Thomas|
||Gill Stephens|
|Merthyr|Mark Ward|
|Mynwy|Lynne Davies|
|Pen-y-bont ar Ogwr|Elin Mannion|
|Powys|Freddy Greaves|
||Bethan Price|
|Rhondda Cynon Taf|Helen Prosser|
||Osian Rowlands|
|Torfaen|Helen Greenwood|
|Wrecsam|Rhodri Davies|




12 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Gellir cysylltu gyda’r swyddfa ganolog i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r cysylltiadau lleol. 

## **Cysylltu** 

Elin Maher Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg Tŷ Cymru Greenwood Close Parc Busnes Porth Caerdydd Caerdydd. CF23 8RD 

07970 304219 post@rhag.cymru www.rhag.cymru 

Facebook: www.facebook.com/RhAGCymru Trydar: @RhAG1 Instagram: rhag_pfwme 

## **Adolygiad Ariannol** 

Derbyniodd RhAG grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru o £104,000 i’w ddefnyddio ar gyllido gwaith y mudiad. Cyllidir gwaith 2 swyddog o’r arian hwn sef swydd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol a’r Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu Gogledd Cymru. 

Mae gan RhAG bolisi cronfeydd wrth gefn sydd yn ymdrechu i gadw digon o arian ar gyfer 4 mis o wariant o gronfa anghyfyngedig. Gellir gwario yr arian hwn ar gynnal yr elusen am gyfnod petai rhaid dirwyn yr elusen i ben ac unrhyw wariant perthnasol. 

Archwiliwyd y cyfrifon eleni gan RJ Finance, Casnewydd. 


13 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Adroddiad ariannol 2022 – 23** 


## Archwiliwyd gan 

R J Financial Accounting Services Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig 220a Stow Hill Casnewydd NP20 4HA Llofnod y cadeirydd: 



Wyn Williams Cadeirydd Cenedlaethol RhAG 

14 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 

