

## **CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Adroddiad Blynyddol 2021 – 2022 RHIENI DROS ADDYSG GYMRAEG** 




1 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 




## **Cynnwys** 

|1.|Clawr||
|---|---|---|
||Llun:<br>Plant Ysgol Gymraeg y Ffin,Cil-y-coed, Sir Fynwy|1|
||Teulu Lewis, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.||
||Clawr Llyfryn Hyrwyddo Addysg Gymraeg Powys||
|2.|Cynnwys|2|
|3.|Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol|3|
|4.|Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg|3|
|5.|Pwy ydym ni?|4|
|6.|Rhwydweithio|4|
|7.|Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus|5|
|8.|Gair gan y Cadeirydd|5|
|9.|Gwaith y flwyddyn|7|
|10.|Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol|13|
|11.|Cyfarfodydd a chynrychiolaeth|13|
|12.|Canghennau Lleol|14|
|13.|Cysylltu|15|
|14.|Adroddiad Ariannol|16|




2 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol** 

**Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)** 

**Rhif Elusen:** 1153403 **Swyddfa Gofrestredig:** Rhieni Dros Addysg Gymraeg Tŷ Cymru Greenwood Close Parc Busnes Porth Caerdydd Pontprennau CF23 8RD Ymddiriedolwyr: Michael Lynn Norman Jones Heini Gruffudd Lynne Feakes David Wyn Williams Cyfarwyddwr Cenedlaethol a chyswllt elusen: Elin Maher Cydlynydd Prosiect Hyrwyddo Elin Maher ac Ymgysylltu Banc: Natwest 

## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r ymddiriedolwyr gyflwyno eu hadroddiad ar waith a’r adroddiad ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31.3.2022. 

## **Llywodraethiant a rheolaeth** 

Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethu sef Cyfansoddiad Sefydliad Cofrestredig Elusennol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a fabwysiadwyd ar 14 Awst 2013. Yr ydym yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE). 

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn fudiad nid-er-elw ac yn cael ei arwain gan bwyllgor cenedlaethol o wirfoddolwyr a adnabyddir fel Y Pwyllgor Cenedlaethol. 

## **Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg** 

Amcan y mudiad yw hyrwyddo Addysg Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn hygyrch i bawb a’i mynno. 

Cyflawnwn hyn trwy gydweithio ag amrywiol gyrff cenedlaethol, cynnal gwefan gyfredol yn hyrwyddo addysg Gymraeg, cyhoeddi adroddiadau ac ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau, cynghorwn rieni gwahanol ardaloedd Cymru gan gynnig iddynt wybodaeth ar faterion yn ymwneud ag Addysg Gymraeg. 


3 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Pwy ydym ni?** 

Mudiad cenedlaethol o rieni a sefydlwyd yn 1952 yw **Rhieni dros Addysg Gymraeg** . Prif amcanion y mudiad yw cefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ledled Cymru trwy roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant a’u caniatáu i gaffael dwyieithrwydd cyflawn. 

Mae RhAG yn credu, fel y gwna Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru, mai ysgolion Cymraeg yw’r model sy’n cyflwyno orau sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Trwy ei waith, y mae RhAG yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg. Mae RhAG hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg trwy roi gwybodaeth i rieni am fanteision addysg Gymraeg a’u cefnogi ar hyd y daith addysg yn ogystal. 

Mae RhAG wedi datblygu arbenigedd mewn addysg Gymraeg, gyda rhwydwaith o aelodau ar draws Cymru sy'n gallu cynghori a helpu awdurdodau lleol ac adrannau’r Llywodraeth ar ddatblygu a gwireddu cynlluniau i ddarparu addysg Gymraeg. Mae gan y mudiad rôl bwysig i gynrychioli rhieni sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg. Mae RhAG felly’n ddolen gyswllt werthfawr a hanfodol rhwng rhieni ac ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a llywodraeth ganol. 

Mae rôl RhAG wedi newid yn sylweddol ar draws y blynyddoedd, wrth i nifer yr ysgolion Cymraeg gynyddu, ac wrth i addysg Gymraeg gael ei derbyn yn gyffredinol. 

Derbyniwyd bellach egwyddorion sylfaenol RhAG ar lefel sirol a chenedlaethol, gan gynnwys dau beth allweddol: 

- Yr angen am Strategaeth addysg Gymraeg 

- Deddfu pellach – Deddf Addysg Gymraeg 

Ystyriwn fod pob rhiant neu ofalwr sydd am neu wedi dewis Addysg Gymraeg i’w plant yn gymwys i dderbyn cefnogaeth RhAG. Gweithiwn hefyd gyda chymunedau lle nad yw’r dewis hwnnw wedi ei wneud eto, gan ddylanwadu’n gadarnhaol drwy rannu gwybodaeth ac ateb ymholiadau. 

## **Rhwydweithio** 

Gweithreda RhAG mewn sawl ffordd i hybu a hyrwyddo addysg Gymraeg yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn cwrdd 6 gwaith y flwyddyn ac yn cynrychioli rhieni ar sail genedlaethol gerbron y llywodraeth a chyrff eraill. Mae'r Pwyllgor hefyd yn llunio polisïau ac ymatebion i ymgynghoriadau sydd yn adlewyrchu natur ac anghenion gwahanol ranbarthau Cymru trwy hyrwyddo manteision addysg Gymraeg. 

Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn annog pob sir i sefydlu pwyllgor lleol, ac mae pwyllgorau neu gynrychiolaeth yn bodoli yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o weithgareddau, gan gynnwys: 

- Rhwydweithio’n lleol i hysbysu a rhoi cymorth i rieni newydd 

- Cwrdd â swyddogion yr awdurdodau lleol i roi mewnbwn ar bolisïau Addysg Gymraeg a sicrhau darpariaeth ddigonol 

- Ymateb i ymgynghoriadau ar amrywiol agweddau sy’n effeithio ar ddatblygiad addysg Gymraeg 

- Ceisio arbenigedd y Pwyllgor Cenedlaethol ac arbenigwyr eraill ar faterion penodol 

- Aelodau o Fforymau Addysg Gymraeg Awdurdodau lleol 


4 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus** 

Cytunir ar raglen waith ar ddechrau’r flwyddyn gyda thargedau penodol gyda’n cyllidwyr a’n hymddiriedolwyr. Ein targedau eleni oedd fel a ganlyn: 

1. Cefnogi/cydweithio efo’r Siroedd parthed CSCA Gweithio'n agosach gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol gan sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn datblygu ledled Cymru gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd 

2. Parhau i ehangu rhwydwaith y mudiad yn effeithiol ym mhob rhan o Gymru 

3. Parhau i ddatblygu gwefan i gynnwys deunydd hyrwyddo i gefnogi rhieni. 

4. Cefnogi ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru. 

5. Darparu cymorth, cefnogaeth ac eiriolaeth am ddim i rieni mewn achosion penodol yn ymwneud ag anawsterau mynediad i ysgolion Cymraeg. 

Yn unol â’n cyfrifoldeb cyfreithiol fel ymddiriedolwyr, yr ydym wedi darllen canllawiau ar fudd cyhoeddus ac yn ystyried y canllawiau wrth i waith y flwyddyn gael eu bennu a’i ddatblygu. Os daw ymddiriedolwyr newydd i’r pwyllgor yna cyflwynir copi o’r canllaw iddynt i’w ddarllen yn ystod eu cyfnod anwytho. 

## **Gair gan ein Cadeirydd** 

Yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol ar-lein y llynedd mae’n bleser cwrdd wyneb-yn-wyneb eleni wrth i effeithiau’r pandemig lleihau. Ond, rhaid i ni fod yn ymwybodol a sensitif iawn i ba effaith mae Cofid wedi cael ar nid yn unig ein disgyblion ond hefyd ein hathrawon yng Nghymru. Gall y sgil effeithiau barhau am rai blynyddoedd. Mae nifer ohonom yn adnabod pobl dda a gollwyd yn ddiweddar, ac ar ran Rhieni dros Addysg Gymraeg, hoffwn gydnabod gwaith diwyd Aled Roberts ar ran yr iaith – yn arbennig o gofio ei fod wedi cyfarch ein Cyfarfod Blynyddol yn Llandrindod pum mlynedd yn ôl yn 2018. 

Bryd hynny, fel heddiw, mae RhAG yn gweithio’n galed i sicrhau bod awdurdodau lleol dros Gymru yn dilyn cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru o ran eu targedau wrth i ni fel cenedl baratoi a gobeithio am filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Pob dymuniad da i Efa Gruffudd Jones yn ei gwaith wedi ei phenodiad i fod yn Gomisiynydd Iaith newydd i Gymru a’r Gymraeg er mwyn ceisio sicrhau’r twf hwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn naturiol mae ambell i awdurdod lleol wedi cymryd mwy o’n sylw na’r gweddill, ac yn wir mae Castell-nedd Port Talbot yn parhau i fod yn destun trafod yn ein Pwyllgor Cenedlaethol wedi i ni gymryd y penderfyniad dewr – a chywir – i sicrhau tegwch i blant (a theuluoedd) addysg Gymraeg yr ardal. 

Mae’n bleser felly croesawu’r un a aeth i ffau’r llewod ar ein rhan i’n Cyfarfod Blynyddol eleni, unwaith eto roeddwn ni yn gallu dibynnu ar ymroddiad a deallusrwydd arbennig Gwion Lewis yn y frwydr honno. Yn ogystal â’r gwaith sydd wedi bod yn dwyn sylw’r cyfryngau cenedlaethol, yn unol ag ein harfer, mae RhAG wedi bod yn ddiwyd tu hwnt yn ymateb i niferoedd maith o ymgynghoriadau felly hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'n Cyfarwyddwr newydd Elin am ei gwaith yn cydlynu ac arwain y gwaith 


5 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



hollbwysig hwn, ac i longyfarch hi am ei dyrchafiad a bydd yn rhoi’r cyfle iddi apwyntio swyddogion i’w chefnogi hi gyda’r gwaith eleni. 

Fe ges i fy ethol i fod yn Gadeirydd yn yr un gynhadledd a siaradodd Aled Roberts ynddi pum mlynedd yn ôl, ac mae hi wedi bod yn pum mlynedd heriol o ran y sector addysg, ond hefyd yn gyffrous o ran cydweithio gyda rhai o arbenigwyr addysg a charedigion yr iaith fwyaf blaenllaw yng Nghymru, felly hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb sy’n rhan o gefnogi Rhieni dros Addysg Gymraeg, boed hynny yn rhithiol, lle mae’n cefnogwyr yn rhoi hwb i ni ar ein cyfryngau cymdeithasol – yn arbennig Facebook a twitter yn feunyddiol ( mae yna instagram nawr hefyd cofiwch! ) – ac wrth gwrs i bawb sy’n rhan o bwyllgor lleol RhAG ac sy’n mynychu ein cyfarfodydd. 

Yn sicr roedd bod yn rhan o deulu RhAG yn gysur mawr imi yn ystod y cyfnod clo, ac yn cadw fy ngolwg i ar beth sy’n bwysig i ni fel pobl. Gofynnaf eto i chi eleni felly i barhau i gadw llygad barcud ar safon darpariaeth addysg Gymraeg yng Nghymru, ac i’n hysbysu ni o unrhyw ofidion fel ein bod ni yn gallu cymryd y camau cywir i wella system addysg sydd yn gyfoethog iawn o ran traddodiad, ond sydd o dan bwysau cynyddol o ran adnoddau – gan gynnwys adnoddau dynol ac felly gair bach i ddiolch a chefnogi ein hathrawon eleni hefyd cyn cloi. Diolch yn fawr i chi gyd. 

## Wyn Williams 



6 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



**Gwaith y flwyddyn** 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 

Nid oes modd dadlau i’r flwyddyn a aeth heibio fod yn un o’r mwyaf heriol ond cynhyrchiol eto. Efallai’r elfen fwyaf arwyddocaol i ni eleni oedd i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Ceri McEvoy benderfynu camu o’i swydd ddiwedd Ionawr. Rhaid nodi ein diolch diffuant i Ceri am ei holl waith trefnus a manwl dros RhAG. Y mae’r mudiad wedi symud ymlaen cryn dipyn ers i Ceri ddod i’r adwy ac fe roddodd 13 o flynyddoedd cynhyrchiol iawn i’r mudiad. Bydd wrth gwrs yn parhau i gefnogi gwaith RhAG yng Nghaerdydd fel rhiant ac rydym yn dymuno’n dda iddi hi gyda’r bennod nesaf. 

Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n holl gefnogwyr ar draws Cymru sydd yn parhau i gysylltu gyda ni am amrywiaeth o faterion. Her fwyaf y flwyddyn hon oedd ymateb i 22 o ymgynghoriadau'r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg drafft a ymddangoswyd o Awst 2021 hyd at Ionawr 2022. Roedd yn dasg a hanner a bu’n swyddogion yn brysur yn ymateb i bob un yn fanwl. Yr her fawr gyda’r cynlluniau hyn oedd na fyddai modd gweld y fersiynau llawn tan Haf 2022 pan fyddai’r Gweinidog yn eu cymeradwyo - neu ddim. 

Er i gefnlen ddigynsail y pandemig byd-eang a’r newidiadau pellgyrhaeddol a ddaeth yn sgil hynny gychwyn pellhau, yr oedd yr effeithiau’n ond yn cychwyn cael eu teimlo a’r cyfnod clo olaf yn dod i ben yn Rhagfyr 2021. 

Yn dilyn derbyn gwybodaeth bod cyllid ychwanegol wedi ei gynnig i gael ail swyddog i edrych ar y gwaith hyrwyddo, gwych oedd clywed i ni sicrhau grant o £100,000 ar gyfer 2022-2023 a fyddai’n sicrhau ein bod yn medru cael mwy o swyddogion i wneud gwaith pellach ar draws Cymru. 

Carwn nodi eto ein gwerthfawrogiad i Lywodraeth Cymru am gynyddu’r grant sydd wedi caniatáu inni barhau i ehangu a chynyddu ein gweithgarwch fel mudiad ac i gryfhau ein cyfraniad yn yr ymdrech genedlaethol i wireddu targedau Cymraeg 2050. 

Gweithiodd y Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu gyda nifer o Awdurdodau Lleol yn ystod y cyfnod hwn gan fwydo awgrymiadau ar sut i wella elfennau o hyrwyddo mewn cyfarfodydd y Fforymau Addysg sirol ac i weithio ar brosiectau penodol megis prosiect gyda Sir Powys i ddatblygu llyfryn hyrwyddo i rieni a hefyd tudalennau ar eu gwefan oedd yn hyrwyddo Addysg Gymraeg ac yn ei gysylltu gyda’r ddarpariaeth yn y sir hefyd. 


**----- Start of picture text -----**<br>
7<br>**----- End of picture text -----**<br>


Taith at Ddwy Iaith oedd teitl cynllun hyrwyddo Powys. Y mae gan nifer o Awdurdodau Lleol enwau gwahanol i’w llyfrynnau ond yr un yw’r nod. Y syniad oedd creu cysyniad o daith ieithyddol i blant a’u teuluoedd gan roi gwybodaeth, ateb unrhyw gwestiynau a chyfeirio at y ddarpariaeth sydd ar gael yn y sir tra hefyd yn cydnabod bod y sir ar daith yn ogystal. 


**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Roedd ambell sylwad a ddaeth o arolwg RhAG i fesur effaith y Cyfnod Clo ar rieni a disgyblion mewn Addysg Gymraeg yn parhau i fod yn wir - nid oedd rhieni’n deall o hyd beth oedd addysg Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd a bod angen i’r wybodaeth fod ar gael drwy’r amser gan fod y rhieni oedd yn gwneud dewisiadau addysg yn newid bob blwyddyn. Nid ymgyrch un flwyddyn ddylai fod o gwbl ond ymgyrch barhaus! Roedd yr hyrwyddo yn gorfod mynd law yn llaw gyda datblygu a chynyddu'r ddarpariaeth yn ogystal. Beth yw pwynt hyrwyddo darpariaeth sydd ddim yn bodoli eto! Ond mae yna gyfle i addysgu ac i waredu unrhyw gamganfyddiadau sydd yn parhau o fewn ein cymunedau ar draws Cymru gyda’r gwaith allweddol hwn. 

Mae’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod y gwaith a wnaed gan y byd addysg, y mudiadau trydydd sector a hefyd ein rhieni a gofalwyr ar hyd a lled Cymru, wedi bod yn sylweddol a’i fod yn parhau angen digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae effeithiau’r cyfnod wedi dod yn fwy amlwg erbyn hyn gyda llesiant ar ben y rhestr o flaenoriaethau y mae’r sector yn gorfod eu hwynebu ac ymyraethau amlwg yn cael eu rhoi mewn lle. Y mae hyn wrth gwrs weithiau’n cystadlu gyda’r gwaith o hyrwyddo neu’r sylw i hyrwyddo. Ond gobeithiwn fel mudiad bod ein mewnbwn ni i gynlluniau hyrwyddo ar draws Cymru wedi pwysleisio bod addysg Gymraeg yn rhan o’r ymateb i anghenion llesiant ein dysgwyr gan ei fod yn sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle gorau i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru o oed cynnar. 

## **Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg** 

Agwedd bwysig adroddwyd arno’r llynedd oedd i ni deimlo cyfrifoldeb i sicrhau bod ein cymunedau’n gallu ymateb i’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg drafft oedd am gael ei llunio yn ystod y flwyddyn. 

Trefnwyd cyfres o sesiynau ym mis Hydref 2021 yn rhithiol ar gyfer unrhyw un i ddod i glywed ein syniadau ar yr hyn yr oeddwn fel mudiad yn ei ddisgwyl ei weld mewn cynlluniau o safon uchel. Seiliwyd ein sesiynau ar 7 deilliant o fewn y cynlluniau gan ystyried beth fyddai modd i Awdurdodau Lleol eu cynnwys ym mhob deilliant. Mynychwyd y sesiynau hyn gan 21 o bobl dros yr 4 sesiwn gyda rhai yn mynychu pob un. Roedd yn wych, fel bob tro, medru rhannu ein syniadau gyda rhieni, addysgwyr a phartneriaid addysg Gymraeg yn ogystal. Y mae’r gwaith partneriaeth hwn wedi cynyddu’n arwyddocaol dros gyfnod llunio’r cynlluniau hyn a’r cydweithio’n cryfhau o ddydd i ddydd. 


Dymunwn ddiolch yn fawr i’n cydweithwyr ym Mudiad Meithrin yn benodol a’r Mentrau Iaith ar hyd a lled Cymru sydd wedi cydweithio ar nifer o agweddau yn cryfhau ac yn sicrhau bod datblygiad addysg a defnydd o’r Gymraeg yn ogystal â’r ddarpariaeth gynnar yn cael y cyfle gorau i ffynnu. 

Mae’r gwaith o ddiweddaru’r wefan www.Welsh4parents.cymru, sef cyfeiriadur yn cynnwys ystod eang o adnoddau ar gyfer rhieni i’w defnyddio dros y Cyfnod Clo gyda’u plant yn y cartref, wedi parhau dros y cyfnod diwethaf ac wedi cyrraedd dros 1,700 o ddefnyddwyr ers ei gychwyn. Bydd y wefan hon yn parhau i’w chael ei diweddaru ond y mae hefyd yn fwriad cydweithio gyda phrosiectau eraill hefyd i greu adnodd newydd. Daw mwy o newyddion am hyn dros y misoedd nesaf gobeithio! 


8 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Ymgynghoriadau cynlluniau ehangu addysg cyfrwng Saesneg  Awdurdodau Lleol** 

Agwedd bwysig o’n gwaith yw ymateb i ymgynghoriadau Awdurdodau Lleol. Trwy ein rhwydweithiau lleol daw ambell fater i’n sylw sydd angen cwestiynu ymhellach ac ambell dro y mae’n amlwg fod yr effeithiau negyddol ar y Gymraeg neu ar ysgolion Cymraeg yn ardal yr ymgynghori heb gael ystyriaeth deilwng. Enghraifft o hyn oedd pan ymgynghorodd Sir Fynwy ar ymestyn lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn nhref Cil-y-Coed ac wrth edrych ar yr ymgynghoriad nid oedd yna asesiad effaith ar y Gymraeg nac ar Addysg Gymraeg, fel y mae’r cod trefniadaeth ysgolion yn gofyn amdano. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad ac yn dilyn cyfarfodydd adeiladol gan swyddogion y sir, cytunwyd ar gam lliniaru cadarnhaol tu hwnt ar gyfer yr ysgol a hynny oedd agor canolfan drochi hwyr yn yr ysgol yn syth gan geisio lleihau’r effeithiau niweidiol ar ymestyn yr ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hyn yn ganlyniad ardderchog i ni fel mudiad ac y mae’n fodel o gydweithio er budd addysg Gymraeg o fewn ein cymunedau. Gwnaed astudiaeth achos ar gyfer yr achos hwn ar fideo. Gallwch ei weld yma. https://www.youtube.com/watch?v=25UQMr9q70M 

Ysgrifennodd RhAG ym mis Gorffennaf 2021 at Gyngor Sir Castell-nedd a Phort Talbot i nodi eu bod wedi methu cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Safonau a Thrafnidiaeth (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2013) ac o ganlyniad i’r diffygion sylfaenol hynny nodi nad oedd yr ymgynghoriad i gau tair ysgol Saesneg yng Nghwm Tawe’n ddilys. 

Nododd RhAG nad oedd y ddogfen ymgynghori’n gyflawn ac nad oedd felly’n cydymffurfio â gofynion ymgynghoriad cyfreithlon sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y broses ymgynghori yn: 

- cael ei chynnal pan fydd cynigion yn dal ar gam ffurfiannol; 

- cynnwys digon o wybodaeth a rhesymau dros gynigion penodol er mwyn sicrhau ystyriaeth ac ymateb deallus; 

- rhoi digon o amser i ystyried y cynigion ac ymateb iddynt; 

- sicrhau y caiff yr hyn sy’n deillio o’r ymgynghoriad ei ystyried mewn ffordd gydwybodol pan wneir y penderfyniad yn y pen draw. 

Nid oedd RhAG wedi’n hargyhoeddi bod y cynlluniau wedi’u datblygu gan roi sylw dyledus i’r egwyddorion a restrir uchod wrth gyflwyno’r cynigion oedd yn sail i’r ymgynghoriad a’r hysbysiad statudol dan sylw. 

Nid oedd yr asesiad effaith ieithyddol yn rhan o’r ymgynghoriad gwreiddiol ac felly heb ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad, pan gafodd yr ymgynghoriad ei gyflwyno (Hydref 2020) a dod i ben ar 19 Ionawr 2021, ni fu cyfle i’r cyhoedd a rhanddeiliaid ystyried effaith y cynllun ar y Gymraeg ac nid oedd y sir wedi cynnwys hyn yn egwyddor graidd i’r ymgynghoriad, er i’r ymgynghoriad nodi bod 

“... ardal Cwm Tawe yn ardal ieithyddol arwyddocaol am ei bod yn cynnwys y nifer a'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae ymysg yr uchaf yng Nghymru gyfan.” 


9 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Cyflwynwyd cais am adolygiad barnwrol i herio penderfyniad y cyngor i fwrw ati gyda’r cynllun er gwaethaf ein llythyr. Llwyddodd y cais a chafodd yr achos wrandawiad yn Haf 2022 gan glywed i’r achos lwyddo yn yr Hydref. 

Rhaid nodi, nid ar chwarae bach y mae mynd i adolygiad barnwrol. Mae’r sefyllfa’n parhau, yn anffodus, ond rhaid i Awdurdodau Lleol sylweddoli eu cyfrifoldeb i fesur effaith unrhyw gynllun ar y Gymraeg ac ar Addysg Gymraeg os ydym am gyrraedd y Miliwn. Mae’n diolch ni’n fawr i Gwion Lewis CB ac i Siôn Fôn o gwmni Darwin Gray am eu cyngor a’u cefnogaeth ar hyd y ffordd ac i’r bwrdd am gefnogi’r cais hefyd. Ein gobaith yn awr y bydd y dyfarniad yn gosod cynsail a fydd yn newid y modd y bydd Awdurdodau Lleol yn mesur yr effaith ar y Gymraeg o hyn ymlaen. 

## **Effeithiau cofid** 

Mynychwyd seminar Ymchwil Mewn Addysg Prifysol Aberystwyth ar effeithiau cyfnod y pandemig ar 16.6.2021. Roedd yn ddiddorol clywed y canfyddiadau am yr effeithiau pellach oedd yn cychwyn dod i’r adwy a da yw bod yna ymchwil wedi ac yn parhau yn cael ei wneud gan Brifysgolion ar hyn er mwyn cynllunio camau lliniaru ar gyfer y dyfodol. 

## **‘Addysg Gymraeg i Bawb: Ehangu Mynediad Mewnfudwyr Rhyngwladol at Addysg Cyfrwng Cymraeg Statudol’,** 

Braf oedd medru cymryd rhan mewn prosiect newydd dan arweiniad Dr Gwennan Higham ar ran Prifysgol Abertawe a chwmni IAITH: y ganolfan cynllunio iaith, yn rhannu profiad Joseph Gnagbo wrth iddo chwilio am le mewn ysgol i’w blant a’r angen am gymorth canolfan hwyrddyfodiaid iddynt. O’r Arfordir Ifori daw Joseph. Y mae wedi dysgu Cymraeg ac yr oedd yn awyddus i’w blant fynychu canolfan hwyrddyfodiaid Caerdydd. Mae’r plant wedi sefyldu’n dda mewn addysg Gymraeg erbyn hyn. Bydd y cynllun hwn yn parhau i gasglu profiadau mewnfudwyr gyda’r bwriad o greu adnodd yn y pen draw i’w ddefnyddio ar hyd a lled Cymru. 

## **Ysgolion newydd - cipolwg** 

Er y siom na agorodd rhan gynradd o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen, da oedd gweld bod yr ysgol am agor ym Medi 2022 fel egin ysgol gynradd gyda’r blynyddoedd yn dilyn. 

Bydd ysgol gynradd newydd yn agor hefyd yn Nhredegar, Blaenau Gwent yn 2023 yn dilyn ymgynghoriad llwyddiannus yng ngwanwyn 2022. 

Gwych oedd gweld ysgol newydd Llan-y-pwll yn mynd i agor yn Wrecsam ym Medi 2022. Datblygiad ardderchog a hir-ddisgwyliedig i’r ardal yn wir. 

Gwireddwyd y cynnig i droi Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn ysgol cyfrwng Cymraeg sydd yn golygu mai hon yw’r ysgol Gymraeg bob oed gyntaf yn y sir. Parhawn i bryderu er hyn, na fydd hynny’n digwydd dros nos ac y bydd yn cymryd 14 mlynedd i’w wireddu’r cynllun yn llawn a bod angen i’r Sir sicrhau cryfhau darpariaeth uwchradd yn gynt o lawer er budd y cenedlaethau o blant sydd yn yr ysgol yn barod. 

Daeth mwy o newyddion da o Bowys hefyd gydag Ysgol Dyffryn Trannon yn newid categori iaith o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg. 

Braf hefyd oedd clywed am gynlluniau Sir Gâr i symud ysgolion ar hyd y continwwm hefyd ymhell o flaen y cynlluniau newydd. Bydd RhAG yn barod i gefnogi’r siroedd gyda hyn wrth gwrs ond y mae angen cyfundrefn ganolog llawer tynnach, gyda strwythurau 


10 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



cefnogi cadarn ac adnoddau arbenigol i fynd i’r afael â materion addysgu dysgwyr ond hefyd i ymrafael â materion llywodraethiant ysgolion a chefnogi’r staff yn broffesiynol yn ogystal. 

Da clywed bod cymeradwyaeth wedi bod i adeilad newydd i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon erbyn hyn yn Sir Caerffili. Gobeithiwn weld y disgyblion yn symud o’r adeilad presennol i’r adeilad newydd yn Abercarn ym Medi 2023. 

Ansicr o hyd yw’r datblygiadau mewn siroedd eraill sydd wedi nodi addewid am ddatblygiadau newydd mewn ardaloedd penodol megis Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd a Phort Talbot ac Abertawe. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd ysgol gynradd newydd yn ardal Plasdŵr yn mynd yn ei flaen ac fe gyhoeddwyd y bydd y gwaith o adeiladu’r ysgol newydd yn cael ei gwblhau erbyn Awst 2023, yr ysgol yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym Medi 2023, a’r ceisiadau am fynediad yn agor yn Hydref 2022. 

## **Apeliadau ceisiadau lleoedd mewn ysgolion 2021** 

Cefnogwyd rhieni mewn 4 sir gyda cheisiadau am apeliadau eleni: Sir Penfro - 4 teulu - i Ysgol Caer Elen. Roeddwn yn llwyddiannus gyda’r 4 Pen-y-bont ar Ogwr - 2 deulu. 1 yn llwyddiannus ac 1 yn aflwyddiannus Caerdydd - heb fynd i apêl yn y diwedd gan i le ddod i’r plentyn oedd yn yr ysgol. Bro Morgannwg - Dim lle yn Ysgol Iolo Morgannwg. Aflwyddiannus 

## **Stori Billy** 


Efallai i chi gofio Billy. Gwrthodwyd le i 22 o blant i ddosbarth derbyn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn 2021. Yr oedd yna hefyd brinder llefydd codi’n dair Cymraeg arwyddocaol hefyd yn y Sir. Dyma ganlyniad diffyg cynllunio addysg Gymraeg amlwg mewn sir. Gofynnwyd i ni gefnogi apêl Billy. Yn anffodus, nid oedd yn llwyddiannus. Y mae plant ardal Pencoed wedi cael lle yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ers y cychwyn, ac er i nifer godi’r mater o gynnydd yn y galw am leoedd o’r ardal hon, gyda swyddogion y sir yn gyson, ni weithredwyd ar y mater. Dyma’r ysgol agosaf i Bencoed ac y mae’r ysgol nesaf tipyn pellach na’r cynnig cyfrwng Saesneg. Er bod y sir yn parhau heb osod dalgylchoedd ar ysgolion Cymraeg, er bod dalgylchoedd ar ysgolion Saesneg, mae’r sir yn credu fod cludiant am ddim i’r ysgol Gymraeg 

nesaf yn ateb y broblem o orboblogi yn yr ysgol Gymraeg agosaf. Rhaid diolch i deulu Billy am ddyfalbarhau gyda’r achos. Gallwn ddatgelu i Billy gael lle yn y diwedd ond dim ond gan i blant eraill adael yr ysgol. Rhaid bod yn onest gyda theuluoedd yn ein gwaith, gan nodi’r heriau a’r posibiliadau ac weithiau eu cysuro pan nad yw’r canlyniadau’n mynd o’n plaid. Yn yr achos hwn, yr oedd rhwystredigaeth y sefyllfa’n anodd iawn. Mae diffyg cynllunio addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau’n her ond bydd y nerth a roddodd teulu Billy i ni i fwrw ati i ddyfalbarhau yn ein grymuso ar gyfer teuluoedd eraill tebyg. 


11 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Bil Addysg Gymraeg** 

Parhau’n ddi-syfl y mae barn RhAG bod angen cymryd camau llawer mwy pellgyrhaeddol i lunio Bil Addysg Gymraeg, er mwyn gosod fframwaith cyfreithiol newydd a fyddai’n rhoi’r amodau gorau i addysg Gymraeg ffynnu a datblygu. Nid ydym yn ofni ailadrodd yr hyn yr ydym wedi ei osod yn glir mewn adroddiadau yn y gorffennol bod mewn sawl maes nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn bodoli o gwbl. Mewn rhai meysydd mae canllawiau ond nid deddfau, ac mewn ambell faes, nid oes deddfwriaeth yn bodoli. Er bod nifer o’r Deddfau a Chanllawiau yn gefnogol i addysg Gymraeg, nid oes eglurder ar sut i weinyddu neu orfodi’r rhain. Mae dyletswyddau awdurdodau addysg yn gallu bod yn amwys, a hyd yn oed os gwelir eu bod yn gweithredu’n ddiffygiol neu’n negyddol, nid oes llwybrau amlwg i’w dal i gyfrif. 

Mae RhAG yn argymell llunio Bil Addysg Gymraeg a fyddai'n cwmpasu ystod o anghenion yn y maes trwy dynnu ynghyd yr holl edafedd deddfwriaethol presennol a chynnig eglurder cyfreithiol diamwys yn y dyfodol. Y mae’n amlwg ein bod wedi dod ar draws ambell god sydd yn wir yn milwrio'n erbyn Addysg Gymraeg. Mae angen ystyried Cod Trefniadaeth Ysgolion, Y cod derbyn i ysgolion a Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i enwi dim ond tri. Gydag Awdurdodau Lleol yn dehongli sut i fesur effaith ar y Gymraeg yn hytrach na sylweddoli eu cyfrifoldeb cyfannol a ddim yn arfer eu gallu i hyrwyddo addysg Gymraeg trwy fesur sydd yn bodoli’n barod, colli dysgwyr newydd fyddwn ni os na fyddwn ni’n ofalus. 

## **Heriau Cyfalaf** 

Yr ydym yn ddiolchgar iawn am y cyfraniad cyfalaf sydd wedi dod o gyfeiriad Llywodraeth Cymru gyda’r buddsoddiad o £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae heriau costau adeiladu cynyddol wedi dod i’r amlwg, gyda nifer o brosiectau’n gorfod cael eu cwtogi neu eu gohirio oherwydd costau uwch y cynlluniau o ganlyniad i Brexit a Chofid a rhyfel Rwsia. 

Ond rhaid hefyd nodi nad oes hanner digon o gyllid wedi bod ar gael ar gyfer yr holl geisiadau am gyllid cyfalaf o’r pot hwn. Ydyn, mae’r Awdurdodau lleol, yn sydyn iawn, wedi gweld y foronen ac wedi ymateb gyda chynlluniau niferus. Ond, nid ddylai’r pot hwn fod ar draul defnyddio cyfalaf yr Awdurdodau Lleol eu hunain nac ychwaith yn lle bod yn rhan o raglen gynhwysfawr cyfalaf yr Awdurdodau Lleol i gynyddu niferoedd mewn Addysg Gymraeg ar draws Cymru. 

## **I gloi…** 

Yn 2022 wrth gwrs roedd RhAG yn cychwyn ar ddathlu’r 70. Yr ydym yn parhau i ddathlu wrth gwrs a daw cyfle i ni nodi’r achlysur wrth gwrs yn ystod y flwyddyn ond nes y bydd addysg Gymraeg yn hygyrch i bawb a'i mynno, bydd gwaith RhAG yn parhau. 

Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn aeth heibio. Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus newydd lle y byddwn yn gweld ffrwyth gwaith y Cynlluniau Strategol a dylanwad ein heriau’n dwyn ffrwyth mewn ysgolion newydd a chynnydd cadarn a sylweddol yn niferoedd disgyblion Cymru sydd yn derbyn addysg Gymraeg. 


12 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol** 

Cynhaliwyd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cenedlaethol ar: 

27/4/21 24/6/21 30/9/21 16/11/21    11/01/22     14/2/22 

Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn ddeufisol fel arfer. 

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol Rhithiol ar: 11 Ionawr 2022 

## **Siaradwr Gwadd: Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg** 

## **Cyfarfodydd a chynrychiolaeth** 

## **Cyfarfodydd a gohebu gydag ASau a chynghorwyr lleol** 

Mae’r gwaith o gyfarfod a gohebu gyda gwleidydd yn y Senedd ac yn wir yn ein hawrudodau lleol wedi parhau eleni gyda nifer o gyfarfodydd amrywiol yn digwydd i drafod materion yn ymwneud â materion penodol a chyffredinol. 

## **Cyfarfodydd gyda Swyddogion Uned y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru:** 

Cyfaru’r swyddogion yn aml dros y flwyddyn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chyfarfodydd monitro’r grant blynyddol, trafodwyd faterion penodol yn ogystal yn enwedig o ganlyniad i greu’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r ymgynghori arnynt yn ystod y flwyddyn hon. 

## **Cyfarfodydd gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg:** 

Ergyd drom i ni fel mudiad, i’r Gymraeg ac i Gymru oedd colli Aled Roberts yn Chwefror 2022. Rhaid i ni gydnabod y gwaith arbennig a wnaeth Aled i ddod â chyfundrefn y Cynlluniau Strategol mewn Addysg yn dilyn gorchymyn y Gweinnidog ar y pryd, Alun Davies AS, i gynnal adolygiad brys or cynlluniau hyn. Roedd gwaith trylwyr Aled a’i dîm wedi golygu system ehangach sydd erbyn hyn wedi golygu bod 7 deilliant yn gosod ac yn monitro’r gwaith o gynllunio datblygiad addysg Gymraeg sy’n llawer cadarnach. Diolch am ei waith. Bu’r cydweithio’n gyson eleni unwaith eto. 

## **Rhwydwaith y Addysg a’r Gymraeg CGGC:** 

Mae RhAG yn eistedd ar rwydwaith Addysg a’r Gymraeg gyda’r CGGC. Mae’n gyfle da i ddod â materion at fwrdd rhwydwaith y trydydd sector ac yn ystod y flwyddyn hon yr oedd ymateb i heriau cyfnod cofid yn thema gyffredin. Roedd cyfarfodydd gweinidogol hefyd yn rhan o’r gwaith hwn oedd o fudd mawr i ni fel mudiad yn gallu dod â materion addysg Gymraeg o du’r trydydd sector. 

## **Cynrychiolaeth RhAG ar Fforymau Addysg Gymraeg** 

Mae cynrychiolaeth gan RhAG ar y fforymau canlynol: Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerffili; Caerdydd; Casnewydd; Pen-y-bont ar Ogwr; 


13 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Rhondda Cynon Taf; Merthyr; CNPT; Powys, Sir Fynwy, Sir Ddinbych. Mae cyfarfodydd cyson gydag Abertawe a Wrecsam. 

## **Dathlu’r Gymraeg** 

Mae RhAG yn aelod gweithredol o’r grŵp ymbarél sy’n cydweithio er mwyn hyrwyddo a dathlu’r iaith Gymraeg. 

## **Cronfa Glyndŵr** 

Mae’r Swyddog Cenedlaethol yn cynrychioli RhAG ar bwyllgor y Gronfa sy’n gweithio i hyrwyddo addysg Gymraeg ledled Cymru. Cynhelir cyfarfodydd ar foreau Sadwrn bob chwarter. 

## **ELEN** 

Mae RhAG yn aelod o Rwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN). Ei nod yw hyrwyddo, diogelu a buddio ieithoedd Ewropeaidd lai defnyddiedig a gweithio tuag at gydraddoldeb ieithyddol i’r ieithoedd hyn, ac amlieithrwydd, o dan y fframwaith ehangach o hawliau dynol, a bod yn llais i siaradwyr yr ieithoedd hyn ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol . Sefydliad anllywodraethol yw ELEN. Bu cyfarfod blynyddol ELEN eleni yn Galicia. 

https://elen.ngo/2021/11/06/language-activists-from-across-europe-set-to-meet-in-galici a-for-the-european-language-equality-network-2021-general-assembly/ 


## **Canghennau Lleol – Cysylltiadau** 

**Sir Cyswllt** Abertawe Heini Gruffudd Blaenau Gwent Meryl Darkins Helen Greenwood Bro Morgannwg Mark Bowen Caerdydd Owain Rhys Michael Jones Ceri McEvoy Casnewydd Elin Maher 


14 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



Castell-nedd Port Talbot Roger Williams Caerffili Ben Jones Ceredigion Owain Harpwood Sir Ddinbych Elfed Williams Sir Fflint Nick Thomas Gill Stephens Merthyr Mark Ward Mynwy Lynne Davies Pen-y-bont ar Ogwr Elin Mannion Powys Aberhonddu / Pontsenni Lynne Griffin Canol Powys Freddy Greaves Buallt Steve Mason Bethan Price Rhondda Cynon Taf Helen Prosser Torfaen Helen Greenwood Thomas Hughes Wrecsam Rhodri Davies 

Gellir cysylltu gyda’r swyddfa ganolog i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r cysylltiadau lleol. 

## **Cysylltu** 

Elin Maher Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg Tŷ Cymru Greenwood Close Parc Busnes Porth Caerdydd Caerdydd. CF23 8RD 

07970 304219 elin@rhag.cymru www.rhag.cymru 

Facebook: www.facebook.com/RhAGCymru Trydar: @RhAG1 Instagram: rhag_pfwme 


15 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 



## **Adroddiad ariannol 2021 – 22** 


Llofnod y cadeirydd: 


Wyn Williams Cadeirydd Cenedlaethol RhAG 


16 

**CEFNOGI | YMATEB | YSGOGI NEWID** 

