**Adroddiad Blynyddol 2020 – 2021** 

Dan nawdd: 

1 



## **Cynnwys** 

|1.|Clawr||
|---|---|---|
||Llun:  Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, Casnewydd|1|
|2.|Cynnwys|2|
|3.|Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol|3|
|4.|Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg|3|
|5.|Pwy ydym ni?|4|
|6.|Rhwydweithio|4|
|7.|Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus|5|
|8.|Gwaith y flwyddyn|5|
|9.|Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol|12|
|10.|Cyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru|13|
||ac Aelodau Senedd Cymru||
|11.|Canghennau Lleol|14|
|12.|Cysylltu|14|
|13.|Adroddiad Ariannol|15|



2 



**Manylion Cyfreithiol a Gweinyddol** 

## **Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)** 

**Rhif Elusen:** 1153403 **Swyddfa Gofrestredig:** Rhieni Dros Addysg Gymraeg Tŷ Cymru Greenwood Close Parc Busnes Porth Caerdydd Pontprennau CF23 8RD 

Ymddiriedolwyr: Michael Lynn Norman Jones Heini Gruffudd Lynne Feakes Lynne Griffin David Wyn Williams Cyfarwyddwr Cenedlaethol a chyswllt elusen: Ceri McEvoy Cydlynydd Prosiect Hyrwyddo Elin Maher ac Ymgysylltu Banc: Natwest 

## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r ymddiriedolwyr gyflwyno eu hadroddiad ar waith a’r adroddiad ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31.3.2021. 

## **Llywodraethiant a rheolaeth** 

Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethu sef Cyfansoddiad Sefydliad Cofrestredig Elusennol Rhieni Dros Addysg Gymraeg a fabwysiadwyd ar 14 Awst 2013. 

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn fudiad nid-er-elw ac yn cael ei reoli gan bwyllgor cenedlaethol o wirfoddolwyr a adnabyddir fel Y Pwyllgor Cenedlaethol. 

## **Amcanion Elusennol Rhieni dros Addysg Gymraeg** 

Amcan y mudiad yw hyrwyddo Addysg Gymraeg yng Nghymru fel ei bod yn hygyrch i bawb a’i mynno. 

Cyflawnwn hyn trwy gydweithio ag amrywiol gyrff cenedlaethol, cynnal gwefan gyfredol yn hyrwyddo addysg Gymraeg, cyhoeddi adroddiadau ac ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau, cynghorwn rieni gwahanol ardaloedd Cymru gan gynnig iddynt wybodaeth ar faterion yn ymwneud ag Addysg Gymraeg. 

3 



**Pwy ydym ni?** 

Mudiad cenedlaethol o rieni a sefydlwyd yn 1952 yw **Rhieni dros Addysg Gymraeg** . Prif amcanion y mudiad yw cefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ledled Cymru trwy roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant a’u caniatáu i gaffael dwyieithrwydd cyflawn. 

Mae RhAG yn credu, fel y gwna Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru, mai ysgolion Cymraeg yw’r model sy’n cyflwyno orau sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Trwy ei waith, y mae RhAG yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg.  Mae RhAG hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg trwy roi gwybodaeth i rieni am fanteision addysg Gymraeg a’u cefnogi ar hyd y daith addysg yn ogystal. 

Mae RhAG wedi datblygu arbenigedd mewn addysg Gymraeg, gyda rhwydwaith o aelodau ar draws Cymru sy'n gallu cynghori a helpu awdurdodau lleol ac adrannau’r Llywodraeth ar ddatblygu a gwireddu cynlluniau i ddarparu addysg Gymraeg.  Mae gan y mudiad rôl bwysig i gynrychioli rhieni sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg.   Mae RhAG felly’n ddolen gyswllt werthfawr a hanfodol rhwng rhieni ac ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a llywodraeth ganol. 

Mae rôl RhAG wedi newid yn sylweddol ar draws y blynyddoedd, wrth i nifer yr ysgolion Cymraeg gynyddu, ac wrth i addysg Gymraeg gael ei derbyn yn gyffredinol. 

Derbyniwyd bellach egwyddorion sylfaenol RhAG ar lefel sirol a chenedlaethol, gan gynnwys dau beth allweddol: 

- Yr angen am Strategaeth addysg Gymraeg 

- Deddfu pellach – Deddf Addysg Gymraeg 

Ystyriwn fod pob rhiant neu ofalwr sydd am neu wedi dewis Addysg Gymraeg i’w plant yn gymwys i dderbyn cefnogaeth RhAG. 

## **Rhwydweithio** 

Gweithreda RhAG mewn sawl ffordd i hybu a hyrwyddo addysg Gymraeg yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn cwrdd yn gyson ac yn cynrychioli rhieni ar sail genedlaethol gerbron y llywodraeth a chyrff eraill. Mae'r Pwyllgor hefyd yn llunio polisïau sydd yn adlewyrchu natur ac anghenion gwahanol ranbarthau Cymru trwy hyrwyddo manteision addysg Gymraeg. 

Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol yn annog pob sir i sefydlu pwyllgor lleol, ac mae pwyllgorau neu gynrychiolaeth yn bodoli yn y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phob math o weithgareddau, gan gynnwys: 

- Rhwydweithio’n lleol i hysbysu a rhoi cymorth i rieni newydd 

- Cwrdd â swyddogion yr awdurdodau lleol i roi mewnbwn ar bolisïau Addysg Gymraeg a sicrhau darpariaeth ddigonol 

- Ymateb i ymgynghoriadau ar amrywiol agweddau sy’n effeithio ar ddatblygiad addysg Gymraeg 

- Ceisio arbenigedd y Pwyllgor Cenedlaethol ac arbenigwyr eraill ar faterion penodol 

- Aelodau o Fforymau Addysg Gymraeg Awdurdodau lleol 

4 



## **Effaith ein gwaith a budd cyhoeddus** 

Cytunir ar raglen waith ar ddechrau’r flwyddyn gyda thargedau penodol gyda’n cyllidwyr a’n hymddiriedolwyr. Ein targedau eleni oedd fel a ganlyn: 

1. Cefnogi a chydweithio gyda’r siroedd drwy gynnig cefnogaeth ddwys ar eu gwaith hyrwyddo a chynllunio wrth baratoi gogyfer â Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg y 10 mlynedd nesaf. 

2. Hyrwyddo a marchnata drwy gydweithio gyda mudiadau eraill ar fanteision dwyieithrwydd i rieni. 

3. Datblygu gwefan i gynnwys deunydd hyrwyddo i gefnogi rhieni. 

4. Cefnogi ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru. 

5. Cyfathrebu gyda rhieni ar y newyddion diweddaraf am Addysg Gymraeg drwy ein cylchlythyr Rhagolwg. 

6. Darparu cymorth, cefnogaeth ac eiriolaeth am ddim i rieni mewn achosion penodol yn ymwneud ag anawsterau mynediad i ysgolion Cymraeg. 

Yn unol â’n cyfrifoldeb cyfreithiol fel ymddiriedolwyr, yr ydym wedi darllen canllawiau ar fudd cyhoeddus ac yn ystyried y canllawiau wrth i waith y flwyddyn gael eu bennu a’i ddatblygu. Os daw ymddiriedolwyr newydd i’r pwyllgor yna cyflwynir copi o’r canllaw iddynt i’w ddarllen yn ystod eu cyfnod anwytho. 

## **Gwaith y flwyddyn** 

Braf yw cael y cyfle i edrych yn ôl ar flwyddyn brysur a chynhyrchiol arall i’r mudiad eto eleni gyda’n haelodau yn parhau i weithio’n ddiwyd wrth gadw golwg fanwl ar gynlluniau’r siroedd ym mhob cwr o’r wlad. 

Wrth gwrs, bu hyn oll yn erbyn cefnlen ddigynsail pandemig byd-eang a’r newidiadau pellgyrhaeddol a ddaeth yn sgil hynny. Prin y byddai unrhyw un wedi rhagweld yr effaith y byddai COVID-19 yn ei chael ar ein bywydau bob dydd. Bu’n gyfnod cwbl eithriadol. 

Wrth i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol dreulio ysbaid o’r gwaith ar gyfnod mamolaeth bu RhAG yng ngofal medrus a chadarn Elin Maher – diolch iddi am ei harweiniad yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Ar ddiwedd 2020, cafwyd cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddyblu grant blynyddol RhAG, sydd wedi caniatáu i’r mudiad gyflogi ail swyddog i weithio gyda’r awdurdodau lleol er mwyn cynnig cefnogaeth ddwys ar eu gwaith hyrwyddo a chynllunio wrth baratoi gogyfer â Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg y 10 mlynedd nesaf. Penodwyd Elin Maher i’r swydd a chychwynnodd ar y gwaith ym mis Rhagfyr 2020. 

Carwn ddatgan ein gwerthfawrogiad i Lywodraeth Cymru am gynyddu’r grant sydd wedi caniatáu inni ehangu a chynyddu ein gweithgarwch fel mudiad ac i gryfhau ein cyfraniad yn yr ymdrech genedlaethol i wireddu targedau Cymraeg 2050. 

Gyda’r Cyfnod Clo yn cychwyn ar ddiwedd Mawrth daeth yn amlwg yn gyflym iawn bod angen ymateb i’r heriau oedd yn wynebu ysgolion. Yn sydyn, nid ystafell ddosbarth oedd y man dysgu ond cartref y dysgwr, gyda theuluoedd yn gorfod ymdopi i’r heriau newydd a ddaeth yn sgil hynny. 

5 



Roedd RhAG yn gadarn o’r farn y dylai rhieni gael y cyfle i wyntyllu’r heriau oedd yn eu hwynebu a bod angen trosglwyddo’r heriau hynny yn ôl i’r mudiadau a oedd yn gweithio’n ddyfal i geisio ymateb i’r sefyllfa eithriadol hon trwy gynllunio a pharatoi prosiectau penodol ac addasu eu gwasanaethau a’u darpariaethau. 

Dyma oedd y symbyliad i RhAG i fynd ati i gynnal arolwg er mwyn mesur effaith y Cyfnod Clo ar rieni a disgyblion Addysg Gymraeg a chyhoeddwyd yr adroddiad ym Medi 2020. 

Bu’n gyfnod cwbl ddigynsail i’n cymunedau ar draws Cymru ac mae’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod y gwaith a wnaed gan y byd addysg, y mudiadau trydydd sector a hefyd ein rhieni ar hyd a lled Cymru, wedi bod yn sylweddol. 

Amlygodd yr ymchwil sawl agwedd y dylid mynd i’r afael â hwy o ran addysg Gymraeg a’r cymorth sydd ar gael i rieni, gan osod sail i’n gwaith fel mudiad er mwyn: 

- Canolbwyntio ar gynorthwyo awdurdodau lleol i hyrwyddo Addysg Gymraeg wrth iddynt baratoi eu cynlluniau strategol 10 mlynedd; 

- Cyfrannu i fforymau addysg sirol dros y misoedd nesaf gyda mewnbwn yn dilyn ein holiadur gan nodi ein canfyddiadau ar gyfer ysgolion a phartneriaid; 

- Rhannu ein gwybodaeth gyda phartneriaid wrth i’r cynllunio addysg gyfunol ddigwydd dros y misoedd nesaf; 

- Edrych ar ffyrdd uniongyrchol i gefnogi rhieni ymhellach dros y cyfnod nesaf yn enwedig ar lwyfannau digidol. 

Rhannodd Elin Maher bapur ar yr holiadur mesur effaith cofid yng nghynhadledd Academi Hywel Teifi ar 10.3.2021. 

Agwedd arall o’r gwaith yn ystod y cyfnod hwn oedd lansio gwefan www.Welsh4parents.cymru ar Chwefror 1af 2021, sef cyfeiriadur yn cynnwys ystod eang o adnoddau ar gyfer rhieni i’w defnyddio dros y Cyfnod Clo gyda’u plant yn y cartref.  Y bwriad yw datblygu’r adnodd fel llwyfan wybodaeth barhaol y tu hwnt i gyfnod Covid. Mae’n amlwg fod y wefan wedi llenwi bwlch, wrth dderbyn 1,050 o drawiadau yn ystod y 6 wythnos gyntaf. 

Cafwyd cyfle i ddathlu cynnydd a thwf mewn ardaloedd newydd gan weld darpariaeth addysg Gymraeg ar gael i gymunedau nas chafwyd o’r blaen. Un enghraifft o hynny yw’r llun ar glawr yr adroddiad hwn, sef disgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, yn ardal Caerllion, am y tro, cyn iddynt symud i’w safle newydd ym Mhilgwenlli ym Medi 2023. 

Agorwyd yr ysgol ym Medi 2021, gyda 7 disgybl ar y gofrestr, ac mae’n cynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg ymhellach yn ne orllewin y ddinas - ardal sydd wedi dangos galw cyson dros y blynyddoedd. 

Braf yw nodi bod yr ysgol yn ffynnu ac yn prysur wreiddio yn ei chymuned newydd. Mae sefydlu’r ysgol yn dynodi cyfnod cyffrous arall i addysg Gymraeg yn y Sir wrth i ardal newydd gael mynediad rhwydd i addysg Gymraeg am y tro cyntaf. 

Da yw nodi hefyd fod mintai gyntaf o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, a sefydlwyd yn 2016, wedi sefyll eu harholiadau TGAU'r haf diwethaf. Mae’r datblygiadau hyn yn cadarnhau fod ymgyrchoedd hyrwyddo diweddar yn sicr wedi dwyn ffrwyth yn y sir. 

Daeth newyddion da o Flaenau Gwent wrth i’r Sir gynnal ymgynghoriad i sefydlu ysgol newydd ar gyfer Tredegar a Chwm Sirhywi i agor ym Medi 2023. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar Fawrth y 1af. Mae’r ysbryd o gydweithio wedi cynyddu’n sylweddol 

6 



yno dros y blynyddoedd diwethaf ac awydd gwirioneddol i gryfhau’r ddarpariaeth, sy’n chwa o awyr iach ac yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol. 

Rydym eisoes wedi llongyfarch Cyngor Sir Penfro ar ddatblygiadau’r blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys agor Ysgol Hafan y Môr, yn Ninbych-y-pysgod ac Ysgol Caer Elen, yn Hwlffordd, sy'n gerrig milltir arwyddocaol yn natblygiad addysg Gymraeg yn y Sir. Yn yr un modd, daeth cadarnhad y bydd ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg newydd yn agor ym Mhenfro ym mis Ionawr 2023. Mae’r datblygiadau hir-ddisgwyliedig hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir i addysg Gymraeg yn Sir Penfro, ac yn benodol o safbwynt ardal Hwlffordd, lle bu twf sylweddol. Amlygwyd hynny yn ystod y flwyddyn hon wrth i ni gefnogi teulu yn apelio am le yn y dosbarth Derbyn i’w plentyn. Mae’n dda nodi i’r apêl honno fod yn llwyddiannus ond mae’n glir fod y twf aruthrol yn y galw am addysg Gymraeg yn Hwlffordd a’r cylch, o ganlyniad uniongyrchol i agor Ysgol Caer Elen, yn dangos y bydd yn rhaid i’r Sir weithredu ar fyrder i gynyddu’r lleoedd sydd ar gael. 

Cafwyd cadarnhad ar 1 Chwefror 2021 fod Cyngor Wrecsam yn bwriadu bwrw ymlaen a’u cynlluniau hir disgwyliedig i sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn ardal Borras. Roedd y Cyngor wedi gwneud cynlluniau i godi’r ysgol newydd ym mis Medi 2017 gan obeithio ei hagor ym mis Medi 2019, cyn symud i’w lleoliad parhaol yn Borras yn 2021. Gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam yn llawn neu bron iawn yn llawn, roedd angen ysgol Borras i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol ar yr ochr honno o’r dref. O ganlyniad i oedi gyda’r cynllun, cafodd Ysgol Bro Alun ei ehangu fel datrysiad dros dro. Felly mae’n galonogol gweld y cynllun hwn bellach yn cael ei wireddu. 

Daeth newyddion hefyd am fuddsoddiad mewn adeiladau newydd i sawl ysgol Gymraeg gan gynnwys Ysgol Cwm Gwyddon yng Nghaerffili ac Ysgol Tirdeunaw ac Ysgol Tan-ylan yn Abertawe. 

Cafwyd sawl datblygiad arwyddocaol ym Mhowys yn ystod y flwyddyn dan sylw. Daeth hyn mewn ymateb uniongyrchol i adroddiad Estyn yn 2019, oedd yn nodi’n glir yr angen am newid sylweddol yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn darparu addysg Gymraeg. Cyhoeddwyd cyfres o gynigion yn deillio o’u strategaeth ar gyfer _Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020 – 2030._ 

Croesawyd gennym gynigion i droi Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn ysgol cyfrwng Cymraeg a fyddai’n golygu mai hon fyddai’r ysgol Gymraeg bob oed gyntaf yn y sir. Nodwn er hynny na fydd hynny’n digwydd dros nos ac y bydd yn cymryd 14 mlynedd i’w wireddu’r cynllun yn llawn. 

Cyflwynwyd ymateb i ymgynghoriad ar y cynnig i uno ysgolion uwchradd a chynradd Llanfair Caereinion, nad oedd yn cynnig ymrwymiad pendant i adolygu categori ieithyddol yr ysgol. Roedd CSGA 2014-17 yn nodi bwriad i sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg dynodedig yn Nyffryn Hafren. Ond rhoddwyd y cynllun hwnnw i’r neilltu, gan newid cyfeiriad polisi a datgan bwriad i greu ysgolion gydol oes dwy ffrwd mewn tri safle yn Nwyrain Maldwyn. Roedd hyn yn destun siom a rhyfeddod i ni fel mudiad. Cafodd y cynnig ei ‘alw i mewn’ mewn cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2021 gyda RhAG yn cefnogi’r ymdrechion hynny. 

Mae cynlluniau yn yr arfaeth hefyd ar gyfer sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed newydd yn Llanfair-ym-muallt: datblygiad sydd i’w groesawu’n fawr. Disgwylir ymgynghoriad cychwynnol ar y cynigion yn gynnar yn 2022. 

Wrth ystyried y datblygiadau diweddar ym Machynlleth, a’r hyn sydd yn yr arfaeth ar gyfer ardal Llanfair-ym-muallt, mae’n dwysáu eto fyth yr anghydraddoldeb y byddai 

7 



gwireddu’r cynlluniau yma’n ei greu i blant Dwyrain Maldwyn sydd eisoes yn derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg. 

Ein rhwystredigaeth bennaf ym Mhowys ar hyn o bryd yw’r diffyg ymrwymiad i sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg dynodedig i wasanaethu Dwyrain Maldwyn, fel y cafwyd yn eu Cynllun Addysg Gymraeg ar gyfer 2017-20 ond na’i wireddwyd, fel bod dilyniant ieithyddol llawn a di-dor ar gael i dros 800 o ddisgyblion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol yr ardal honno, sy’n cyfateb i 43% o holl ddisgyblion cynradd cyfrwng Cymraeg y sir. 

Mae’n destun pryder mawr i ni fod nifer mor sylweddol o ddisgyblion yn dal i fethu cyrchu dilyniant ieithyddol llawn. Yn wir, mae’n anodd meddwl am unrhyw ardal arall yng Nghymru ble mae sefyllfa o’r fath yn bodoli. Rhaid i Gyngor Powys osgoi unrhyw oedi pellach ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb o ddarparu’r dilyniant ieithyddol hwnnw a ddylai fod ar gael i’r disgyblion hyn. 

Yn gymysg â’r uchelfannau profwyd sawl her a rhwystredigaeth ble bu’n rhaid ymyrryd mewn achosion a oedd yn niweidiol i dwf addysg Gymraeg. 

Yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen ymgynghori _Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol_ , Llywodraeth Cymru, ysgrifennwyd llythyr ar y cyd gan nifer o fudiadau iaith yn mynegi pryder difrifol am y bwriad i wneud Saesneg yn orfodol ym mhob ysgol a chylch meithrin yn y wlad. 

Byddai gorfodi cylchoedd meithrin ac ysgolion cyfrwng Cymraeg i addysgu Saesneg yn y Cyfnod Sylfaen, cyn bod plant yn 7 oed, wedi bod yn gam enfawr yn ôl, ac yn tanseilio degawdau o waith yn y maes hwn. 

Wedi cryn bwyso croesawyd penderfyniad y Llywodraeth na fyddent yn bwrw ymlaen gyda’r cynnig o dan y gyfundrefn newydd. 

Bu RhAG yn galw ar Gyngor Caerdydd i ymateb ar fyrder i sefyllfa prinder lleoedd yn ysgolion gogledd-canol Caerdydd yn dilyn derbyn nifer o gwynion gan rieni yn pryderu na fyddai modd i’w plant gael mynediad i Addysg Gymraeg. Daeth yn amlwg fod tua 15 o blant wedi eu gwrthod i Ysgol Mynydd Bychan, gyda phob un yn byw o fewn dalgylch yr Ysgol. Ceisiwyd annog Cyngor Caerdydd i wneud yr hyn y mae wedi'i wneud lawer gwaith o'r blaen ac agor “egin ddosbarth” dan oruchwyliaeth Ysgol Mynydd Bychan mewn adeilad cyfagos. 

Bu RhAG yn cefnogi a chynrychioli’r 15 teulu mewn apeliadau, ond yn anffodus aflwyddiannus fu’r ymdrech honno ac er bod rhai o’r teuluoedd wedi derbyn lle mewn ysgolion Cymraeg eraill yn y ddinas, mae’n bryder gennym fod nifer helaeth wedi eu colli i’r sector cyfrwng Cymraeg. 

Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddwyd cynnig i gynyddu nifer y lleoedd cynradd Cymraeg sy'n gwasanaethu dalgylch presennol Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd i 315 o leoedd o fis Medi 2022, trwy sefydlu dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ar safle Ysgol Allensbank, sef ysgol cyfrwng Saesneg cyfagos. 

Amlygodd y cynnig sawl mater allweddol, gan gynnwys y manylion ymarferol ynghylch sut y byddai safle Allensbank yn cael ei rannu, gan godi cwestiynau pellach o ran dealltwriaeth wirioneddol y swyddogion o addysg drochi. 

Yn sgil ymgynghori gyda rhieni’r ysgol, nid oedd yn bosibl inni gefnogi’r cynnig yn ei ffurf bresennol. Nid ar chwarae bach y mae RhAG yn gwrthod cynnig sydd yn amcanu i 

8 



gynyddu lleoedd cyfrwng Cymraeg ond daethpwyd i’r casgliad mai annoeth fyddai cefnogi cynnig a oedd, yn ein tyb ni, yn brin o fanylion a sicrwydd yn y tymor hir. 

Mae’n drueni na achubwyd ar y cyfle i gyflwyno datrysiad cadarn a oedd yn dangos gweledigaeth gref ar gyfer ehangu addysg Gymraeg yn ardal gogledd-canol Caerdydd, ond roedd y cynllun a gyhoeddwyd yn disgyn yn brin o’r nod hwnnw. Ac er bod y Sir wedi derbyn cyllid o dan Grant Cyfalaf Addysg Gymraeg, Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn yn 2018, yn benodol i ehangu darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn y rhan yma o’r ddinas, mae’r ansicrwydd yn parhau o safbwynt amserlen i roi cynlluniau ar waith i gynnig datrysiad yn yr ardal hon. 

Yn dilyn cryn wrthwynebiad, penderfynodd Cyngor Caerdydd oedi gyda’r elfen cyfrwng Cymraeg o’r cynllun, sy’n peri ansicrwydd mawr yn y tymor byr. 

Daeth yn amlwg ers peth amser fod gormod o benderfyniadau pellgyrhaeddol yn cael eu gwneud yn y maes addysg yng Nghymru ar sail asesiadau ieithyddol cwbl ddiffygiol. 

Mynegodd RhAG anfodlonrwydd RhAG mewn perthynas ag ymgynghoriad i ymestyn addysg Saesneg mewn dwy ysgol yn ardal Cil-y-coed, Sir Fynwy gydag un ysgol o fewn tafliad carreg i Ysgol y Ffin. Cyflwynwyd cŵyn i sylw Comisiynydd y Gymraeg gan nad oedd yr asesiad effaith ar y Gymraeg yn ddigonol gan fod y Sir wedi anwybyddu'r effaith negyddol posibl ar Ysgol Y Ffin, a heb nodi camau lliniaru hawdd i hyrwyddo Addysg Gymraeg yn y dref. 

Dengys yr enghraifft hon yn glir fod methiannau systemig yn parhau, fel yr amlygwyd gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis gydag achos Ysgol Pentrecelyn, yn Sir Ddinbych. Mae’n amlwg mai prin iawn yw’r gwersi a ddysgwyd a bod angen newid yn y gyfraith – a chreu canllawiau mwy cadarn. Dyma pam fod RhAG yn galw am lunio canllaw ar sail statudol ar gyfer asesiadau effaith ieithyddol. 

Rydym yn falch o nodi bod canghennau RhAG yn parhau’n weithgar gyda grŵp wedi’i ffurfioli ym Mro Morgannwg a changen RhAG Canolbarth Powys wedi ei hatgyfodi yn ystod 2020. Mae awydd a brwdfrydedd rhieni ar lawr gwlad mor fyw ac erioed wrth bwyso ar y siroedd i ymateb yn rhagweithiol er mwyn ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. 

Mae fforymau Addysg Gymraeg bellach wedi’i hen sefydlu yn y mwyafrif o siroedd lle y ceir trafodaeth strategol ar ddatblygu addysg Gymraeg a chyfle i graffu ar y cynlluniau a ddaeth i rym yn 2017. Mae gwirfoddolwyr a staff RhAG yn ymdrechu i fynychu’r rhan fwyaf o’r fforymau hyn ac yn cyfrannu’n adeiladol i’w datblygiad. 

Pleser oedd croesawu’r Cyng. Cefin Campbell, Aeron Rees a Catrin Griffiths o Gyngor Sir Gaerfyrddin i’n hannerch yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni. Cafwyd braslun ganddynt o’r gwaith blaengar sydd ar droed yno o ran symud rhai o’u hysgolion cynradd ac uwchradd ar hyd y continwwm ieithyddol, gyda sylw penodol ar eu hysgolion trawsnewidiol. 

Roedd hynny’n amserol wrth inni ymateb i nifer o ymgynghoriadau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys ymgynghoriad ar ganllaw anstatudol yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. 

Bu RhAG yn galw ers degawd a mwy am adolygu’r polisi categoreiddio ac felly’n croesawu bwriad y Llywodraeth i weithredu ar hyn. 

9 



Mawr yw’r angen i sefydlu trefn sy’n cynnig eglurder i ddisgyblion, rhieni, ysgolion ac awdurdodau lleol gyda’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg. Heb awdurdod pendant a chlir ar y diffiniadau hyn byddwn yn parhau i fodoli mewn gwagle o ansicrwydd. 

Mae angen i awdurdodau addysg leol a llywodraethwyr ysgolion nodi’n glir i ba ddiffiniad ieithyddol y mae eu hysgolion yn perthyn, fel bod modd i rieni wneud dewisiadau ystyrlon. Rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ddeilliannau ieithyddol tebygol y gwahanol fodelau: mae’n hanfodol cael mwy o onestrwydd ynghylch hyn. 

O safbwynt RhAG, y brif egwyddor a ddylai yrru’r gwaith yw’r angen i’r holl rhanddeiliaid - a rhieni yn arbennig - i gael gwybodaeth glir am yr hyn yw ysgolion Cymraeg a’r sgiliau a enillir trwy eu mynychu. Ni ddylid symud at sefydlu trefn newydd a fyddai’n gorsymleiddio patrymau ieithyddol yr ysgolion, gan arwain at ganlyniadau anffafriol i addysg Gymraeg. Wrth anelu i sicrhau eglurder, rhaid osgoi creu sefyllfa a all arwain at ddryswch, camddehongli neu gamddefnyddio’r diffiniadau hyn. 

Felly mae diogelu categori'r ysgolion Cymraeg penodedig yn gwbl allweddol: rhaid osgoi creu sefyllfa a fyddai’n gwanhau a thanseilio addysg Gymraeg, a fyddai’n gerbyd i rai ysgolion, sydd eisoes yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, i lithro yn ôl. 

Y man cychwyn amlwg yw rhoi diffiniad clir o’r hyn ydyw ysgol Gymraeg ac yna darparu llwybrau clir ar sut i fynd ati i ehangu’r sector Cymraeg. 

Ar drothwy cyfnod tyngedfennol o ran twf a datblygiad addysg Gymraeg, gwelwyd y siroedd yn dechrau paratoi ar gyfer y gwaith o lunio eu Cynlluniau 10 mlynedd, ar gyfer y cyfnod 2022 – 2032. Yn wir, i lawer o awdurdodau lleol, y categorïau ieithyddol newydd fydd y sbardun ar gyfer cyrraedd eu targedau yn eu Cynlluniau unigol. Felly mae sicrhau fframwaith cadarn ac arweiniad clir yn allweddol. 

Mae RhAG wedi bod yn pwyso am yr angen i awdurdodau lleol ddatblygu dulliau newydd o sefydlu ysgolion Cymraeg. I wneud hyn, mae angen polisi cenedlaethol fydd yn rhoi arweiniad cadarn a chlir ar: 

• ei gwneud yn hwylus i ysgolion unigol drosi’n ysgolion Cymraeg; 

• mynnu, lle mae nifer o ysgolion Saesneg mewn ardal, bod un neu ragor yn cael eu trosi’n ysgolion Cymraeg; 

• sefydlu dosbarthiadau cychwynnol. 

Ar sail profiad y blynyddoedd diwethaf, daeth yn amlwg nad yw’r drefn gynllunio a’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas at y diben ac yn llwyddo i osod yr amodau gorau er mwyn cyflawni canlyniadau a thargedau polisi Cymraeg 2050. 

Mae RhAG wedi croesawu bod Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn mynd i roi nodau twf dros 10 mlynedd i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn croesawu ymdrech y Llywodraeth i roi targedau penodol i bob sir. Mae’n hanfodol, fodd bynnag, bod cyllid digonol ar gael i awdurdodau i gyrraedd eu nodau. 

Ac mae’n gadarnhaol gweld y flaenoriaeth a roddir i blant ar gychwyn eu haddysg. Rydym o'r farn mai drwy ganolbwyntio ar strategaethau i gynyddu'r niferoedd mewn dosbarthiadau Meithrin a Derbyn mae modd llwyddo i'r eithaf i sicrhau nifer uchel o blant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gosod targedau penodol ar gyfer y sector Meithrin a’r dosbarth Derbyn - a fydd yn galluogi’r siroedd i ddangos cynnydd a llwyddiant wrth hybu dilyniant o’r sector Meithrin i’r sector cynradd - gan mai dyma le bydd modd gyrru’r twf er mwyn mesur llwyddiant. 

10 



Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu, trwy’r Fforymau Addysg Gymraeg, at y gwaith o lunio’r Cynlluniau newydd hyn, er mwyn sicrhau ton o Gynlluniau cadarn, cryf ac uchelgeisiol, a fydd yn ein symud yn nes at wireddu targedau cenedlaethol Cymraeg 2050. 

Mae RhAG wedi bod o’r farn ers cryn amser fod angen cymryd camau llawer mwy pellgyrhaeddol i wyrdroi’r sefyllfa ac wedi galw ers rhai blynyddoedd am lunio **Bil Addysg Gymraeg** , (Maniffesto Etholiadau’r Cynulliad 2016 & 2021), er mwyn gosod fframwaith cyfreithiol newydd a fyddai’n rhoi’r amodau gorau i addysg Gymraeg ffynnu a datblygu. 

Ar hyn o bryd mae'r holl ddeddfwriaeth berthnasol yn dameidiog, annigonol neu'n cael ei ymgorffori mewn deddfau eraill. Mewn sawl maes nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn bodoli o gwbl. Mewn rhai meysydd mae canllawiau ond nid deddfau, ac mewn ambell faes, nid oes deddfwriaeth yn bodoli. Er bod nifer o’r Deddfau a Chanllawiau a nodwyd yn gefnogol i addysg Gymraeg, nid oes eglurder ar sut i weinyddu neu orfodi’r rhain. Mae dyletswyddau awdurdodau addysg yn gallu bod yn amwys, a hyd yn oed os gwelir eu bod yn gweithredu’n ddiffygiol neu’n negyddol, nid oes llwybrau amlwg i’w dal i gyfrif. 

Felly rydym yn croesawu’r ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru i wireddu hynny trwy ddeddfu i gryfhau a chynyddu darpariaeth mewn addysg Gymraeg yn ystod cyfnod y Senedd bresennol. 

Bydd gwaith RhAG yn parhau i ganolbwyntio ar yr angen i Lywodraeth Cymru ehangu’n sylweddol eu rhaglen cyllid cyfalaf i fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn arbennig o fewn cyd-destun y fframwaith gynllunio newydd arfaethedig ar gyfer y ddegawd nesaf a gwireddu’r targed o gynyddu’r gyfran o bob grŵp blwyddyn ysgol sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg i 30% erbyn 2031. 

Mae canfod arian cyfatebol yn aml yn rhwystr sydd wedi llesteirio sawl sir rhag gweithredu cyn hyn. Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith ac mae sicrhau cyllid digonol i wireddu hynny yn gwbl allweddol. Galwn ar y Llywodraeth felly i gynyddu’r cyllid refeniw a chyfalaf sydd ar gael er mwyn galluogi’r siroedd i weithredu. 

Wrth edrych ymlaen, bydd RhAG yn dathlu’r 70 yn 2022. Dyma garreg filltir nodedig i fudiad sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn hanes twf Addysg Gymraeg. Ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, nes y bydd addysg Gymraeg yn hygyrch i bawb a'i mynno, bydd gwaith RhAG yn parhau. 

Felly i gloi, dyma ddiolch yn ddiffuant i’n holl aelodau a’n cefnogwyr am eu dycnwch a’u dyfalbarhad eto eleni wrth inni weithio tuag at wireddu’r genhadaeth honno. 

11 



## **Cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol a’r Cyfarfod Blynyddol** 

Cynhaliwyd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cenedlaethol ar: 

13/5/20 2/7/20 5/10/20 30/11/20 25/02/21 

Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn fisol neu’n ddeufisol, Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar: 28 Ionawr 2021 

## **‘Addysg Gymraeg a’r gymuned: heriau’r ugain mlynedd nesaf’** 

## **Siaradwyr Gwadd:** 

**Cynghorydd Cefin Campbell,** Aelod Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, Cyngor Sir Gâr 

**Aeron Rees,** Pennaeth Cwricwlwm a Lles, Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, 

**Catrin Griffiths,** Rheolwr Datblygu’r iaith Gymraeg, Cyngor Sir Gâr 

12 



## **Cyfarfodydd a chynrychiolaeth** 

## **Cyfarfodydd a gohebu gydag ASau:** 

- 23/07/20 Dr Dai Lloyd 

Teulu yn ardal Evanstown yn methu cael mynediad at le codi’n 3 cyfrwng Cymraeg dros y ffin yn yr ysgol agosaf. 

3/7/2020 Huw Irranca-Davies Diffyg datblygiad addysg Gymraeg ym Mhenybont-ar Ogwr 

18/02/21 Jayne Bryant 12/02/21 Jayne Bryant a John Griffiths Heriau i gynlluniau i ymestyn addysg Gymraeg yng Nghasnewydd 

Danfonwyd ein Maniffesto at holl ymgeiswyr etholiadau’r senedd 

**Cyfarfodydd gyda Swyddogion Uned y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru:** 

|7/05/20|5/06/20|18/06/20|29/06/20|30/7/20|23/09/20|
|---|---|---|---|---|---|
|7/10/20|16/11/20|26/11/21|2/12/20|11/01/21|16/03/21|



## **Cyfarfodydd gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg:** 

8/07/20 25/09/20 08/02/21 17/03/21 

## **Cyfarfodydd gyda’r Comisiynydd Plant:** 

8/07/20.         Adrodd ar holiadur pryderon rhieni yn ystod cyfnod y clo 

## **Cynrychiolaeth RhAG ar Fforymau Addysg Gymraeg** 

Mae cynrychiolaeth gan RhAG yn eistedd ar y canlynol: 

Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerffili; Caerdydd; Casnewydd; Pen-y-bont ar Ogwr; Rhondda Cynon Taf; Merthyr; CNPT; Powys, Sir Fynwy a Wrecsam. 

## **Cynrychiolaeth RhAG ar Fforymau Iaith** 

Torfaen; Mynwy; Blaenau Gwent; Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr, RhCT 

## **Dathlu’r Gymraeg** 

Mae RhAG yn aelod gweithredol o’r grŵp ymbarél sy’n cydweithio er mwyn hyrwyddo a dathlu’r iaith Gymraeg. 

## **Cronfa Glyndŵr** 

Mae’r Swyddog Cenedlaethol yn cynrychioli RhAG ar bwyllgor y Gronfa sy’n gweithio i hyrwyddo addysg Gymraeg ledled Cymru. Cynhelir cyfarfodydd ar foreau Sadwrn bob chwarter. 

13 



## **Canghennau Lleol – Cysylltiadau** 

**Sir** Abertawe Blaenau Gwent Bro Morgannwg 

Caerdydd Casnewydd Castell-nedd Port Talbot Caerffili Sir Ddinbych Mynwy Pen-y-bont ar Ogwr Powys Aberhonddu / Pontsenni Canol Powys Buallt Rhondda Cynon Taf Torfaen Wrecsam 

**Cyswllt** Heini Gruffudd Meryl Darkins Tim Pearce Mark Bowen Owain Rhys Michael Jones Elin Maher Roger Williams Ben Jones Elfed Williams Lynne Feakes Elin Mannion Lynne Griffin Freddy Greaves Steve Mason Helen Prosser Glyn Davies Rhodri Davies 

Gellir cysylltu gyda’r swyddfa ganolog am fanylion cyswllt uniongyrchol ein cysylltiadau lleol. 

## **Cysylltu** 

Ceri McEvoy Cyfarwyddwr Datblygu Rhieni dros Addysg Gymraeg Tŷ Cymru Greenwood Close Parc Busnes Porth Caerdydd Caerdydd. CF23 8RD 

07912175403 ceri@rhag.cymru www.rhag.cymru 

Facebook: http://www.facebook.com/rhieni.gymraeg Trydar: @RhAG1 

Llofnod y cadeirydd: 

Wyn Williams Cadeirydd Cenedlaethol RhAG 

14 



Adroddiad ariannol 2020 - 21
-ADR
DDIAD ARIANN
BA HYD AT
1 MAWRTH
21
2020121
2019120
M&wn Llaw ar 1 Ebrlll 2020
22,079.91
4,206.83
rb nladA
rlll 2020-
h 2021
Grant Llywodraeth CyFnru
Grant Llywodraeth Cymru
70,000.00
80.346.00
0.00
12.526.44
0.00
43,750.00
0.00
22.75
0.00
101.22
Ad-daliad WCVA l¢ytnod mamola8thl
RhAG Abertawe
1$ ¢yf8nswm Derbynl8d8u
162,872.44
43,8n.97
C lanswm D8rb nladau BA 2020121
184,952.35
48,080.80
warl
1 Ebrlll 2
1Maw
21
Costau Cyflogi Swy¢Jdoo
Costau Tal
Cosiau Redeg Y Swyc
Costau Pensiwn {Cyfraniad RhAGI
Costau T&￿¢h1O
Costau Treuliau
Cosiau Flon Symudol
Yswiriant
Cynhyrchu RhAG Qlwg
Gwelan a Chostau Digidol
Cynadl&ddau a ch￿arfOdY
Cosiau Ilawrydd
Ad-daliad Grani Llywodra8lh Cymru
26,028.96
270.00
1,904.88
0.00
0.00
88.85
487.79
0.00
0.00
0.00
21.786.43
80.346.00
20,201.59
250.80
1,904.88
724.40
499.65
140.00
562.70
803.00
138.87
175.00
600.00
0.00
answm Gwarlant BA 20
130,912.91
26,000.89
54,039.44
22.079.91
Wedi ei a
ddo
an un neu ddau
Llofnod
tnddiriedolwr ar rhan
Erbw
rn(kliriedol
Dyddlad Cymoradwyo
D. Wyn Williams
13 Hydref 2021
1.3 TrlyJr¢f2(>21
14¢iili Grufiuthi
RhAG
15

|**RhAG– ADRODDIAD ARIANNOL BA HYD AT 31 MAWRTH 2021**|**2020/21**|**2019/20**|
|---|---|---|
|**Mewn Llaw ar 1 Ebrill 2020**|**22,079.91**|**4,206.83**|
|**Derbyniadau 1 Ebrill 2020– 31 Mawrth 2021**|||
|Grant Llywodraeth Cymru|70,000.00|43,750.00|
|Grant Llywodraeth Cymru|80,346.00|0.00|
|Eraill|0.00|22.75|
|Ad-daliad WCVA (cyfnod mamolaeth)|12,526.44|0.00|
|RhAG Abertawe|0.00|101.22|
|**Is Cyfanswm Derbyniadau**|**162,872.44**|**43,873.97**|
|**Cyfanswm Derbyniadau BA 2020/21**|**184,952.35**|**48,080.80**|



## **Cyfanswm Derbyniadau BA 2020/21** 

## **Gwariant 1 Ebrill 2020 - 31 Mawrth 2021** 

|Costau Cyflogi Swyddog|||
|---|---|---|
|Costau Tal|26,028.96|20,201.59|
|Costau Redeg Y Swydd|270.00|250.80|
|Costau Pensiwn (Cyfraniad RhAG)|1,904.88|1,904.88|
|Costau Teithio|0.00|724.40|
|Costau Treuliau|0.00|499.65|
|Costau Ffon Symudol|88.85|140.00|
|Yswiriant|487.79|562.70|
|Cynhyrchu RhAG Olwg|0.00|803.00|
|Gwefan a Chostau Digidol|0.00|138.87|
|Cynadleddau a Chyfarfodydd|0.00|175.00|
|Costau llawrydd|21,786.43|600.00|
|Ad-daliad Grant Llywodraeth Cymru|80,346.00|0.00|
|**Cyfanswm Gwariant BA 2020/21**|**130,912.91**|**26,000.89**|
|**Mewn Llaw ar 31 Mawrth 2021**|**54,039.44**|**22,079.91**|



Wedi ei arwyddo gan un neu ddau ymddiriedolwr ar rhan yr ymddiriedolwyr i gyd. 

|**Llofnod**<br>~~po~~|**Enw**<br>~~a~~|~~CG~~|**Dyddiad Cymeradwyo **<br>~~CG~~|
|---|---|---|---|
|~~=~~<br>~~po~~|D. Wyn Williams<br>~~oo~~<br>~~po~~||13 Hydref 2021|
|~~po~~|Heini Gruffudd<br>~~po~~|~~a~~|13 Hydref 2021<br>~~a~~|





**Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon** 

## **Adran A                          Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol** 

**Adroddiad i ymddiriedolwyr/aelodau Ar y cyfrifon am y flwyddyn yn diweddu** 

## **I'w gweld ar dudalennau** 

Enw'r Elusen RHIENI DROS ADDYSG GYMRAEG 31 MAWRTH 2021 1153403 **Rhif yr Elusen (os oes)** Gweler yr adroddiad ariannol wedi atodi 

Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod ("yr Ymddiriedolaeth") am y flwyddyn yn diweddu 31/03/2020. 

**Cyfrifoldebau'r a'r sail** Fel yr ymddiriedolwyr elusen, rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol **adrodd** â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). 

Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais yr holl Gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf. 

## **Datganiad yr archwiliwr annibynnol** 

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad.  Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i'm sylw mewn perthynas â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol: 

- ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o'r Ddeddf Elusennau; neu 

- nid yw'r cyfrifon yn cyfateb â'r cofnodion cyfrifyddu; neu 

- nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys yn ymwneud â ffurf chynnwys cyfrifon a amlinellir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' nad yw'n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol. 

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon. 

12/10/2021 **Llofnodwyd: Dyddiad:** MRS LAURA JOANNE CRADDOCK **Enw:** FCCA **Cymhwyster (cymwysterau) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes):** 

1 

**IER** 

**Hydref 2018** 



ASHMOLE & CO, CASTLE HOUSE 

HIGH STREET, AMMANFORD CARMARTHENSHIRE, SA18 2NB 

## **Cyfeiriad:** 

## **Adran B                             Datgeliad** 

Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwiliwr dynnu sylw at faterion o bryder perthnasol (gweler CC32, Archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwilwyr). 

**Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu.** 

Yn ystod y flwyddyn ariannol derbyniwyd swm o £80,346 oddi wrth Lywodraeth Cymru fel camgymeriad. Ad-dalwyd y swm ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Gan mai camgymeriad Llywodraeth Cymru oedd hon, mae’r ad daliad wedi cael ei gynnwys fel gwariant yn yr adroddiad ariannol sydd wedi atodi. 

2 

**IER** 

**Hydref 2018** 

