OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

RHIF Y CWMNI: 07612921

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD A DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

ELUSEN GOFRESTREDIG: RHIF 1143024

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

CYNNWYS O’R CYFRIFON ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

CYNNWYS TUDALEN
Rhestr o Wybodaeth 1
Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr/ Cyfarwyddwyr 2
Adroddiad yr Arolygwr Annibynnol 6
Datganiad o Weithgareddau Ariannol 7
Mantolen 8
Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol 9

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

RHESTR O WYBODAETH AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

SWYDDFA GOFRESTREDIG

Tŷ Llafar Adeilad 23 Parc Dewi Sant Heol Ffynnon Job Caerfyrddin SA31 3HB

BANCWYR

HSBC Plc 15 Heol Awst Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3AQ

CYFRIFYDD AC AROLYGWR ANNIBYNNOL

Llŷr James 25 Stryd Y Bont Caerfyrddin SA31 3JS

CYFARWYDDWYR Y CWMNI / YMDDIRIEDOLWYR

Rhian Mair Evans Alison Parsons Mansel Thomas Emlyn Schiavone

-1-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2024

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni i bwrpas rheolau cyfreithiol cwmnïau) yn cyflwyno'r adroddiad a'r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

PRIF WEITHGARWCH

Disgrifir prif weithgarwch y cwmni fel yr isod.

I leddfu'r deillion, neu rannol ddall, neu'r rhai yn dioddef dros dro analluogrwydd neu anabledd parhaol sy'n gwneud darllen yn straen gan ail-godio, cynnal a dosbarthu a llyfrgell llyfrau Cymraeg a sain EinglGymreig.

YMDDIRIEDOLWYR

Dyma’r ymddiriedolwyr a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn hon: -

Rhian Mair Evans (Is-gadeirydd) Alison Parsons Mansel Thomas Emlyn Schiavone

Mae polisi apwyntio a recriwtio Ymddiriedolwyr yn Adran 31 o’r cyfansoddiad.

AMCANION A GWEITHGAREDDAU

Rydym yn gweithio yn agos gyda sefydliadau eraill sydd yn ymwneud â phobl â phroblemau gweld - Cyngor Y Deillion yng Nghymru, cymdeithasau deillion, papurau llafar, yn ogystal â bod mewn cyswllt â RNIB Cymru.

PRIF NOD Y CWMNI YW:

Rydym yn paratoi fersiynau casét a chryno ddisg o lyfrau a gyhoeddir yn Gymraeg, ynghyd â llyfrau Saesneg sydd yn ymwneud â Chymru, ar gyfer deillion a rhai sydd yn cael trafferth i ddarllen print. Gwasanaeth gwirfoddol yw hyn a’r holl deitlau ar gael yn rhad ac am ddim.

Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith swyddfa - didoli’r post, cysylltu â’r derbynwyr, danfon llythyron apêl a threfnu casgliadau. Bydd gwirfoddolwyr yn darllen y llyfrau a phapurau bro, cyflwyno cylchgrawn yn llawn erthyglau o wahanol gylchgronau a chyflwyno fersiwn sain o’r Radio Times.

FFYNONELLAU A DEFNYDD ARIAN

Mae'r Elusen yn cael ei chyllido yn bennaf, gan rhoddion a gwaith i’r Cyngor Sir, er mwyn ariannu gwasanaeth i Gymru gyfan.

Am y flwyddyn, roedd gwarged o £26,354 (2023: colled £15,891).

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

AROLWG O DDATBLYGIADAU A'R ARGOELION AR GYFER Y DYFODOL

Mae'r canlyniadau am y cyfnod yn dangos gwarged yn y cronfeydd o £26,354. Mae'r ymddiriedolwyr yn obeithiol o dderbyn arian digonol i’w galluogi i barhau a’r gweithgareddau.

Adroddiad 2023 - 24

Mae’r elusen bwysig yma yn parhau i recordio a dosbarthu nifer o lyfrau amrywiol dros Gymru i unigolion gydag anghenion gweld neu sydd yn ddall.

Yn ogystal â’r ddau aelod o staff, mae 25 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i recordio llyfrau. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.

Mae’r pwyllgor o ymddiriedolwyr yn cwrdd yn fisol i drafod nifer o faterion ac i gynllunio am y dyfodol. Un o’r blaenoriaethau yw codi arian i sicrhau dyfodol y gwasanaeth cymunedol yma.

Buodd twrnamaint Golff llwyddiannus iawn, Bore Coffi ac hefyd te prynhawn yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg, Caerfyrddin. Mae cyfraniad sylweddol Cronfa Cymunedol y Loteri wedi bod yn amhrisiadwy. Diolch i rai o’r Pwyllgor sydd yng nghlwm â hwn.

Rydym yn edrych ymlaen i’r dyfodol gyda feddylfryd positif i godi arian a datblygu’r gwasanaeth i bobl Cymru.

DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU’R YMDDIRIEDOLWYR

Mae’r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion Deddf Cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl cyfraith cwmnïau mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol bob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun gwir a theg o gyflwr yr elusen a gwarged neu ddiffyg yr elusen yn ystod y flwyddyn honno. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hynny, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr: -

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion priodol o'r cyfrifon sy'n datgelu'n rhesymol o gywir ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol yr elusen ac am sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio a Deddf Gwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion yr elusen ac am gymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

ASESIAD RISG

Yn dilyn cyfarwyddyd gan y Comisiynwyr Elusennau y dylai pob elusen baratoi asesiad risg fel mater o arfer da, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried ac adolygu’r peryglon y gallai’r elusen eu hwynebu. Roedd yr adolygiad nid yn unig yn cynnwys risgiau sydd yn gysylltiedig â hwyluso prosiectau neu faterion iechyd a diogelwch ond hefyd risgiau ariannol mewn perthynas â dirwyn yr elusen i ben, diswyddiadau, salwch hirdymor neu geisiadau am iawndal gan staff.

Cytunwyd i neilltuo arian o gyllideb gyfredol yr elusen er mwyn ymateb i achosion risg. Yn sgil hynny, mae cyfanswm o £47,885 wedi ei drosglwyddo i gronfeydd penodol.

-4-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Paratowyd adroddiad yr ymddiriedolwyr yn unol â’r ddarpariaeth arbennig yn Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bychain.

TRWY ORCHYMYN Y BWRDD

Tŷ Llafar Adeilad 23 Parc Dewi Sant Heol Ffynnon Job Caerfyrddin SA31 3HB

……………………………………. EMLYN SCHIAVONE

YMDDIRIEDOLWR/CYFARWYDDWR

DYDDIAD …………………………

-5-

LLŶR JAMES Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Chartered Certified Accountants Archwilwyr Cofrestredig Registered Auditors

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

25 Stryd Y Bont 25 Bridge Street Caerfyrddin Carmarthen Sir Gaerfyrddin Carmarthenshire SA31 3JS SA31 3JS ffôn/tel 01267 237754 ffacs/fax 01267 238418 ebost/email post@llyrjames.co.uk gwefan/website www.llyrjames.co.uk trydar/twitter @LlyrJamesCyf

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

ADRODDIAD YR AROLYGWR ANNIBYNNOL I’R YMDDIRIEDOLWYR

Adroddaf i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy arolwg annibynnol o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

Fel ymddiriedolwyr yr elusen (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion y gyfraith yn ymwneud a chwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archwiliad ariannol o gyfrifon y cwmni ar gyfer y flwyddyn hon a dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael arolwg annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m arolwg annibynnol o gyfrifon eich elusen fel y’i cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (“Deddf 2011”). Wrth ymgymryd â’m arolwg annibynnol, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

Rwyf wedi cwblhau fy arolwg annibynnol. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw sy’n rhoi achos i mi gredu:

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

……………………………

BETHAN WYN VAUGHAN CYFRIFYDD ARDYSTIEDIG SIARTREDIG

………………………….. DYDDIEDIG:

-6-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd
heb Penodol a Cyfanswm Cyfanswm
gyfyngiadau
chyfyngiadau 2024 2023
£ £
£
£ £
INCWM A GWARIANT -
ADNODDAU I MEWN
Rhoddion 16,190 - - 16,190 21,231
Rhodd Cymorth 54 -
-
54 284
Cyngerdd 2,180 -
-
2,180 -
Papur Llafar 3,000 -
-
3,000 3,000
Cymynrodd 27,742 - - 27,742 -
Loteri - - 20,000 20,000 -
------------ ------------ ----------- ----------- ------------
Adnoddau i mewn - cyfanswm
49,166 - 20,000 69,166 24,515
------------ ------------ ------------ ----------- -----------
ADNODDAU A DDEFNYDDIWYD
Dibrisiant 1,439 - - 1,439 1,667
------------ ------------ ------------ ----------- -----------
1,439 - - 1,439 1,667
------------ ------------ ------------ ----------- -----------
Costau Cynnal 24,156 - 16,667 40,823 38,739
Costau Gweithgareddau 550 - - 550 -
------------ ------------ ----------- ----------- -----------
24,706 - 16,667 41,373 38,739
------------ ------------ ----------- ----------- -----------
Adnoddau a ddefnyddiwyd- cyfanswm26,145 - 16,667 42,812 40,406
======= ======= ====== ====== ======
Adnoddau net i mewn
23,021 - 3,333 26,354 (15,891)
Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd - -
-
- -
------------ ------------ ------------ ----------- ---------
Symudiad net mewn cronfeydd
23,021 - 3,333 26,354 (15,891)
CRONFEYDD - DYGWYD YMLAEN3,267 47,885 - 51,152 67,043
---------- ----------- ---------- ---------- ----------
CRONFEYDD-CARIWYD YMLAEN£26,288 £47,885 £ 3,333 £77,506 £51,152
====== ======= ====== ====== ======

Dangosir y symudiadau yn yr arian wrth gefn yn nodiadau 7 a 8 i'r datganiadau ariannol.

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF (RHIF Y CWMNI: 07612921) (CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024

MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024
Nodyn 2024 2023
£ £ £
£
ASEDION SEFYDLOG
Asedion Sylweddol 4 3,619 4,573
ASEDION CYFREDOL
Stoc - -
Arian yn y banc ac mewn llaw 74,978 47,616
---------- ----------
74,978 47,616
---------- ----------
CREDYDWYR:symiau’n ddyledus
o fewn blwyddyn 5
1,091 1,037
--------- ----------
ASEDION CYFREDOL NET 73,887 46,579
---------- ----------
CYFANSWM ASEDION LLAI
RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL 77,506 51,152
--------- -----------
ASEDION NET £ 77,506 £ 51,152
====== =======
ARIAN WRTH GEFN
Cronfeydd – heb gyfyngiadau 6 26,288 3,267
Cronfeydd – penodol 7 47,885 47,885
Cronfeydd a chyfyngiadau 8 3,333 -
---------- ----------
CYFANSWM ARIAN WRTH GEFN 9 £ 77,506 £ 51,152
====== ======
Ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw roedd gan y cwmni’r hawl i gael ei eithrio o dan Adran 477 o
Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n ymwneud a chwmnïau bach. Nid yw unrhyw aelodau wedi mynnu i’r cwmni
gael archwiliad ariannol o’i gyfrifon am y flwyddyn dan sylw yn unol ag Adran 476 o Ddeddf Cwmnïau
2006. Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am gydymffurfio a gofynion y Ddeddf mewn
perthynas â chofnodion cyfrifeg ac am baratoi cyfrifon.

Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bach.

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 7 i 13 gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ac fe'u harwyddwyd ar ei ran gan:

………………………………………… YMDDIRIEDOLWR

EMLYN SCHIAVONE DYDDIAD ………………………

-8-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

1. GWYBODAETH STATUDOL

Mae Llyfrau Llafar Cymru Cyf yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant heb gyfrannau wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r swyddfa gofrestredig yn Tŷ Llafar, Adeilad 23, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.

Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling (£)

2. POLISÏAU CYFRIFO

Sail y Cyfrif

Mae'r cwmni'n paratoi ei ddatganiadau ariannol ar sail cyfrifo cost hanesyddol.

Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau o Adran 1A “Cwmnïau Bychain” o Safon Adrodd Ariannol 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” a Deddf Cwmnïau 2006.

Paratoi'r cyfrifon ar sail hyfywedd

Paratowyd y cyfrifon hyn ar y rhagdybiaeth y gallai’r cwmni barhau i fasnachu. Nid oes unrhyw fenthyciadau allanol. Credir, felly, fod paratoi’r cyfrifon ar sail masnachu barhaol yn briodol.

Trosiant

Mae'r trosiant yn cynrychioli gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn.

Gwariant

Mae atebolrwydd pob aelod yn gyfyngedig i uchafswm o £1. Diddymir yr atebolrwydd hwn flwyddyn ar ôl i’r aelodaeth ddarfod.

Asedion Sefydlog A Dibrisiant

Nodir gwerth asedion sefydlog ar y fantolen yn ôl eu cost lai dibrisiant. Diddymir cost asedion sefydlog fesul rhandaliad blynyddol cyfartal dros eu hoes ddefnyddiol dybiedig fel a ganlyn:

Celfi ac Offer

15%

Grantiau

Mae grantiau yn cael eu credydu i incwm yn unol â'r flwyddyn y maent yn perthyn iddynt.

-9-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Asesiad Risg

Mae’r cwmni wedi ystyried ac adolygu pob risg a allai effeithio ar yr elusen. Roedd y broses hon yn cwmpasu nid yn unig y sefyllfa ariannol ond hefyd ystyriaethau strategol ac amgylchiadol. Mae’r elusen yn cadarnhau bod systemau wedi’u sefydlu i wrthsefyll pob risg o’r math y tynnwyd sylw atynt fel rhan o’r broses hon.

Polisi Arian-Wrth-Gefn

Lluniwyd y polisi arian wrthgefn i sicrhau bod gan yr elusen gyllid digonol i ddelio a’r elfen o risg sydd ynghlwm a rhedeg elusen sydd yn ddibynnol ar dderbyn arian o’r pwrs cyhoeddus. (Gweler nodyn 6)

3. CYFARWYDDWYR A STAFF

Ar gyfartaledd, rhif y staff yn fisol yn ystod y flwyddyn oedd: 6 (2023 –6)

Roedd costau cronnus cyflogau'r personau hyn fel a ganlyn:-

2024 2023
£ £
Cyflogau 30,553 29,995
-------- ----------
30,553 29,995
===== ======

Ni dalwyd cyflog i’r cyfarwyddwyr.

-10-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

4. ASEDION SEFYDLOG SYLWEDDOL

ASEDION SEFYDLOG SYLWEDDOL
Celfi ac
Offer Cyfanswm
£ £
COST
Ar 1.4.23 62,212 62,212
Ychwanegiadau 485 485
---------- ----------
Ar 31.3.24 62,697 62,697
---------- ----------
DIBRISIANT
Ar 1.4.23 57,639 57,639
Tal am y flwyddyn 1,439 1,439
---------- ---------
Ar 31.3.24 59,078 59,078
---------- ---------
GWERTH LLYFR NET
Ar 31.3.24 £ 3,619 £ 3,619
====== ======
Ar 31.3.23 £ 4,573 £ 4,573
====== ======

Ni awdurdodwyd na chontractiwyd symiau mewn perthynas â gwariant cyfalaf gan y cyfarwyddwyr ar 31[ain] Mawrth 2024 na chynhwyswyd mohonynt yn y datganiadau ariannol hyn.

5. CREDYDWYR

5. CREDYDWYR 2024 2023
£ £
Credydwyr yswiriant 373 373
Credydwyr TWE 218 164
Credydwyr Rhent 500 500
---------- ----------
£1,091 £ 1,037
======= ======

-11-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

2024 2023
£ £
6. CRONFEYDD - HEB GYFYNGIADAU
Balans a ddygwyd ymlaen 3,267 19,158
Gwarged /(Diffyg) am y flwyddyn 23,021 (15,891)
---------- -----------
£26,288 £ 3,267
====== ======
7. CRONFEYDD PENODOL
Balans a Trosglwy- Trosglwy- Balans
ddygwyd ddiadau ddiadau 31.3.24
ymlaen i Gronfeydd i mewn
Eraill
£ £ £ £
Costau Craidd (i) 47,885 - - 47,885
Technoleg Newydd (ii) - - - -
---------- ---------- ---------- ----------
47,885 - - 47,885
---------- ---------- ---------- ----------

Yn dilyn asesiad o risg, mae’r cwmni wedi sefydlu cronfa benodol:-

8. CRONFEYDD - A CHYFYNGIADAU

Symudiad mewn Cronfeydd
Balans a Adnoddau
Gwariant/ Balans
ddygwyd i mewn / Tros Trosglwydd- 31.3.24
ymlaen glwyddiadau
iadau
£ £
£ £
Arian Loteri (i) -
20,000 16,667 3,333
----------- ------------ ----------- -----------
- 20,000 16,667 3,333
====== ======= ====== ======

-12-

LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF

(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

9. DADANSODDIAD O ASEDION NET RHWNG CRONFEYDD

Asedion Asedion
Sylweddol Cyfredol Net Cyfanswm
£ £ £
Cronfeydd Penodol - 47,885 47,885
Cronfeydd Heb Gyfyngiadau 3,619 22,669 26,288
Cronfeydd a Chyfyngiadau - 3,333 3,333
---------- ----------- -----------
3,619 73,887 77,506
====== ====== ======

-13-