RHIF Y CWMNI: 07612921
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD A DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2021
ELUSEN GOFRESTREDIG: RHIF 1143024
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
CYNNWYS O’R CYFRIFON ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2021
| CYNNWYS | TUDALEN |
|---|---|
| Rhestr o Wybodaeth | 1 |
| Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr/ Cyfarwyddwyr | 2 |
| Adroddiad yr Arolygwr Annibynnol | 6 |
| Datganiad o Weithgareddau Ariannol | 7 |
| Mantolen | 8 |
| Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol | 9 |
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
RHESTR O WYBODAETH AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2021
SWYDDFA GOFRESTREDIG
Tŷ Llafar Adeilad 23 Parc Dewi Sant Heol Ffynnon Job Caerfyrddin SA31 3HB
BANCWYR
HSBC Plc 15 Heol Awst Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3AQ
CYFRIFYDD AC AROLYGWR ANNIBYNNOL
Llŷr James 25 Stryd Y Bont Caerfyrddin SA31 3JS
CYFARWYDDWYR Y CWMNI / YMDDIRIEDOLWYR
David Sulwyn Thomas Rhian Mair Evans Alison Parsons Mansel Thomas
-1-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2021
Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni i bwrpas rheolau cyfreithiol cwmnïau) yn cyflwyno'r adroddiad a'r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021.
PRIF WEITHGARWCH
Disgrifir prif weithgarwch y cwmni fel yr isod.
I leddfu'r deillion, neu rannol ddall, neu'r rhai yn dioddef dros dro analluogrwydd neu anabledd parhaol sy'n gwneud darllen yn straen gan ail-godio, cynnal a dosbarthu a llyfrgell llyfrau Cymraeg a sain EinglGymreig.
YMDDIRIEDOLWYR
Dyma’r ymddiriedolwyr a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn hon: -
David Sulwyn Thomas (Cadeirydd) Rhian Mair Evans (Is-gadeirydd) Alison Parsons Mansel Thomas
Mae polisi apwyntio a recriwtio Ymddiriedolwyr yn Adran 31 o’r cyfansoddiad.
AMCANION A GWEITHGAREDDAU
Rydym yn gweithio yn agos gyda sefydliadau eraill sydd yn ymwneud â phobl â phroblemau gweld - Cyngor Y Deillion yng Nghymru, cymdeithasau deillion, papurau llafar, yn ogystal â bod mewn cyswllt â RNIB Cymru.
PRIF NOD Y CWMNI YW:
Rydym yn paratoi fersiynau casét a chryno ddisg o lyfrau a gyhoeddir yn Gymraeg, ynghyd â llyfrau Saesneg sydd yn ymwneud â Chymru, ar gyfer deillion a rhai sydd yn cael trafferth i ddarllen print. Gwasanaeth gwirfoddol yw hyn a’r holl deitlau ar gael yn rhad ac am ddim.
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith swyddfa - didoli’r post, cysylltu â’r derbynwyr, danfon llythyron apêl a threfnu casgliadau. Bydd gwirfoddolwyr yn darllen y llyfrau a phapurau bro, cyflwyno cylchgrawn yn llawn erthyglau o wahanol gylchgronau a chyflwyno fersiwn sain o’r Radio Times.
FFYNONELLAU A DEFNYDD ARIAN
Mae'r Elusen yn cael ei chyllido yn bennaf, gan rhoddion a gwaith i’r Cyngor Sir, er mwyn ariannu gwasanaeth i Gymru gyfan.
Am y flwyddyn, roedd elw o £2,302 (2020: colled £9,843).
- 2 -
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
AROLWG O DDATBLYGIADAU A'R ARGOELION AR GYFER Y DYFODOL
Mae'r canlyniadau am y cyfnod yn dangos gwarged yn y cronfeydd o £2,302. Mae'r ymddiriedolwyr yn obeithiol o dderbyn arian digonol i’w galluogi i barhau a’r gweithgareddau.
Adroddiad Blynyddol 2020- 2021
Roedd ein hadroddiad diwethaf yn gorffen gyda'r gobaith y byddai'r flwyddyn hon yn well er ein bod yn dal yng nghryfangau Cofid 19. Er i'r sefyllfa wella, ni allwn honni ein bod wedi adfer y sefyllfa yn sylweddol.
Yr hyn y gallwn fod yn falch ohono yw ein bod wedi dal ein tir o ran y gwasanaeth a gynigir ac i ni fedru dal ein pennau uwch ben y dŵr yn ariannol er gwaetha'r ffaith na fedrem gynnal gweithgareddau i godi arian.
Am fisoedd cyntaf y pandemig roedd popeth ar stop; neb yn medru mynychu'r swyddfa a neb yn darllen llyfrau newydd ar gyfer ein gwrandawyr.
Gwellodd pethau wrth i'r cyfyngiadau lacio. Er eu bod ar "furlough", cynigodd y ddau aelod o'r staff ddod i fewn am ychydig oriau am yn ail i sicrhau bod y gwrandawyr yn derbyn "llyfrau" o'r catalog sylweddol o 2000 a rhagor o deitlau a recordwyd er 1979. Roedd hi'n amlwg bod ein "cwsmeriaid" wedi gweld eisiau'r gwasanaeth gyda nifer yn ffonio yn ymbilio ar i rywun adfer y drefn. Rydym yn ddiolchgar i Linda a Phil am roi o'u hamser i sicrhau hynny.
Ystyriaeth bwysig arall oedd amharodrwydd nifer o'n darllenwyr cyson a phrofiadol i ddychwelyd i'r stiwdio yn wyneb yr holl ofidion Cofid. Felly ni fu'n bosib i recordio cynifer o lyfrau â'r blynyddoedd cynt. Mae'n siŵr y bydd yr adroddiad nesaf yn dangos cynnydd wrth i fwy fentro o ddiogelwch eu cartrefi.
Wrth gwrs, er i hanes y gwasanaeth gan Rhian Evans,"Siarad Cyfrolau", gael ei gwblhau fisoedd lawer yn ôl, bu'n rhaid gohirio'r lawsniad.
Mae'n dda cael dweud i'r 500 llyfr a argraffwyd werthu yn eithriadol o dda gyda'r aelodau'r pwyllgor yn gyfrifol am y gwerthiant. Gyda bod bron bob un llyfr wedi ei werthu erbyn hyn, bydd hynny yn golygu elw derbyniol.
A derbyniol hefyd, drwy'r cyfnod helbulus, yw i ni dderbyn cyfraniadau sylweddol i gryfhau 'r ochr ariannol. Prawf eto bod y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi drwy Gymru benbaladr. Rydym yn edrych ymlaen yn hyderus y daw'r haul eto dros y bryn i alluogi i ni ddychwelyd yn llwyr i'r hen batrwm o gyflenwi llyfrau Llafar ar gyfer y rhai sydd yn methu â darllen llyfrau ond sydd wrth eu boddau yn gwrando ar fersiynau sain o'r llyfrau hynny.
- 3 -
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU’R YMDDIRIEDOLWYR
Mae’r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion Deddf Cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl cyfraith cwmnïau mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol bob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun gwir a theg o gyflwr yr elusen a gwarged neu ddiffyg yr elusen yn ystod y flwyddyn honno. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hynny, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr: -
-
1) Ddewis polisïau cyfrif addas a'u gweithredu'n gyson;
-
2) Dilyn dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arfer Cymeradwy: Cyfrifo a Chofnodi gan Elusennau;
-
3) Gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon cyfrifol a darbodus;
-
4) Datgan a ydy’r safonau cyfrifyddu perthnasol a’r datganiadau o arferion cymeradwy wedi cael eu dilyn heblaw am unrhyw eithriadau sydd wedi eu datgelu a’u hesbonio yn y datganiadau ariannol;
-
5) Paratoi datganiadau ariannol ar sail y dybiaeth bod yr elusen fusnes fyw oni fernir mai priodol fyddai credu bod yr elusen ar fin dod i ben.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion priodol o'r cyfrifon sy'n datgelu'n rhesymol o gywir ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol yr elusen ac am sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio a Deddf Gwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion yr elusen ac am gymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.
ASESIAD RISG
Yn dilyn cyfarwyddyd gan y Comisiynwyr Elusennau y dylai pob elusen baratoi asesiad risg fel mater o arfer da, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried ac adolygu’r peryglon y gallai’r elusen eu hwynebu. Roedd yr adolygiad nid yn unig yn cynnwys risgiau sydd yn gysylltiedig â hwyluso prosiectau neu faterion iechyd a diogelwch ond hefyd risgiau ariannol mewn perthynas â dirwyn yr elusen i ben, diswyddiadau, salwch hirdymor neu geisiadau am iawndal gan staff.
Cytunwyd i neilltuo arian o gyllideb gyfredol yr elusen er mwyn ymateb i achosion risg. Yn sgil hynny, mae cyfanswm o £47,885 wedi ei drosglwyddo i gronfeydd penodol.
-4-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR
Paratowyd adroddiad yr ymddiriedolwyr yn unol â’r ddarpariaeth arbennig yn Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bychain.
TRWY ORCHYMYN Y BWRDD
Tŷ Llafar Adeilad 23 Parc Dewi Sant Heol Ffynnon Job Caerfyrddin SA31 3HB
…………………………………….
YMDDIRIEDOLWR/CYFARWYDDWR
DYDDIAD …………………………
-5-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
ADRODDIAD YR AROLYGWR ANNIBYNNOL I’R YMDDIRIEDOLWYR
Adroddaf i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy arolwg annibynnol o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021.
Fel ymddiriedolwyr yr elusen (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni at ddibenion y gyfraith yn ymwneud a chwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”).
Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archwiliad ariannol o gyfrifon y cwmni ar gyfer y flwyddyn hon a dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael arolwg annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m arolwg annibynnol o gyfrifon eich elusen fel y’i cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (“Deddf 2011”). Wrth ymgymryd â’m arolwg annibynnol, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.
Rwyf wedi cwblhau fy arolwg annibynnol. Cadarnhaf nad oes unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw sy’n rhoi achos i mi gredu:
-
na chafodd cofnodion cyfrifyddol eu cadw yn unol ag adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu
-
nad yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu
-
nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifo perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf Cwmnïau 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o arolwg annibynnol; neu
-
nad yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â’r SORP Elusennau (FRS102).
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.
……………………………
BETHAN WYN VAUGHAN CYFRIFYDD ARDYSTIEDIG SIARTREDIG
………………………….. DYDDIEDIG:
-6-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cronfeydd | Cronfeydd | |||
|---|---|---|---|---|---|---|
| heb | Penodol | a | Cyfanswm Cyfanswm | |||
| gyfyngiadau | chyfyngiadau | 2021 | 2020 | |||
| £ | £ | £ | £ | £ | ||
| INCWM A GWARIANT - | ||||||
| ADNODDAU I MEWN | ||||||
| Rhoddion | 11,283 | - | - | 11,283 | 22,305 | |
| Rhodd Cymorth | - | - | - | - | 782 | |
| Papur Llafar | 4,239 | - | - | 4,239 | 3,784 | |
| Cymynrodd | - | - | - | - | 10,000 | |
| Incwm arall – Grantiau Covid 19 | 32,862 | - | - | 32,862 | - | |
| ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ------------ | ||
| Adnoddau i mewn - cyfanswm |
48,384 | - | - | 48,384 | 36,871 | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ||
| ADNODDAU A DDEFNYDDIWYD | ||||||
| Dibrisiant | 1,643 | - | - | 1,643 | 1,389 | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ||
| 1,643 | - | - | 1,643 | 1,389 | ||
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ||
| Costau Cynnal | 44,439 | - | - | 44,439 | 45,325 | |
| Costau Gweithgareddau | - | - | - | - | - | |
| ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ----------- | ||
| 44,439 | - | - | 44,439 | 45,325 | ||
| ------------ | ------------ | ----------- | ----------- | ----------- | ||
| Adnoddau a ddefnyddiwyd- cyfanswm46,082 | - | - | 46,082 | 46,714 | ||
| ======= | ======= | ====== | ====== | ====== | ||
| Adnoddau net i mewn |
2,302 | - | - | 2,302 | (9,843) | |
| Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd | - | - | - | - | - | |
| ------------ | ------------ | ------------ | ----------- | --------- | ||
| Symudiad net mewn cronfeydd |
2,302 | - |
- | 2,302 | (9,843) | |
| CRONFEYDD - DYGWYD YMLAEN37,599 | 47,885 | - | 85,484 | 95,327 | ||
| ---------- | ----------- | ---------- | ---------- | ---------- | ||
| CRONFEYDD-CARIWYD YMLAEN£39,901 | £47,885 | £ | - | £87,786 | £85,484 | |
| ====== | ======= | ====== | ====== | ====== |
Dangosir y symudiadau yn yr arian wrth gefn yn nodiadau 7 a 8 i'r datganiadau ariannol.
- 7 -
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF (RHIF Y CWMNI: 07612921) (CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021
| MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Nodyn | 2021 | 2020 | ||
| £ | £ | £ £ |
||
| ASEDION SEFYDLOG | ||||
| Asedion Sylweddol | 4 | 6,482 | 9,121 | |
| ASEDION CYFREDOL | ||||
| Stoc | 2,534 | - | ||
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 79,754 | 78,626 | ||
| ---------- | ---------- | |||
| 82,288 | 78,626 | |||
| ---------- | ---------- | |||
| CREDYDWYR:symiau’n ddyledus | ||||
| o fewn blwyddyn | 5 |
268 | 346 | |
| --------- | ---------- | |||
| ASEDION CYFREDOL NET | 82,020 | 78,280 | ||
| ---------- | ---------- | |||
| CYFANSWM ASEDION LLAI | ||||
| RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL | 88,502 | 87,401 | ||
| Darpariaeth am ymrwymiadau |
6 | (716) | (1,917) | |
| --------- | ----------- | |||
| ASEDION NET | £ 87,786 | £ 85,484 | ||
| ====== | ======= | |||
| ARIAN WRTH GEFN | ||||
| Cronfeydd – heb gyfyngiadau | 7 | 39,901 | 37,599 | |
| Cronfeydd – penodol | 8 | 47,885 | 47,885 | |
| ---------- | ---------- | |||
| CYFANSWM ARIAN WRTH GEFN | £ 87,786 | £ 85,484 | ||
| ====== | ====== |
Ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw roedd gan y cwmni’r hawl i gael ei eithrio o dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n ymwneud a chwmnïau bach. Nid yw unrhyw aelodau wedi mynnu i’r cwmni gael archwiliad ariannol o’i gyfrifon am y flwyddyn dan sylw yn unol ag Adran 476 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb am gydymffurfio a gofynion y Ddeddf mewn perthynas â chofnodion cyfrifeg ac am baratoi cyfrifon.
Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bach.
Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 7 i 13 gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ac fe'u harwyddwyd ar ei ran gan:
…………………………………………
YMDDIRIEDOLWR
………………………………………… DYDDIAD ………………………
-8-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
1. GWYBODAETH STATUDOL
Mae Llyfrau Llafar Cymru Cyf yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant heb gyfrannau wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r swyddfa gofrestredig yn Tŷ Llafar, Adeilad 23, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.
Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling (£)
2. POLISÏAU CYFRIFO
Sail y Cyfrif
Mae'r cwmni'n paratoi ei ddatganiadau ariannol ar sail cyfrifo cost hanesyddol.
Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau o Adran 1A “Cwmnïau Bychain” o Safon Adrodd Ariannol 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” a Deddf Cwmnïau 2006.
Paratoi'r cyfrifon ar sail hyfywedd
Paratowyd y cyfrifon hyn ar y rhagdybiaeth y gallai’r cwmni barhau i fasnachu. Nid oes unrhyw fenthyciadau allanol. Credir, felly, fod paratoi’r cyfrifon ar sail masnachu barhaol yn briodol.
Trosiant
Mae'r trosiant yn cynrychioli gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn.
Gwariant
Mae atebolrwydd pob aelod yn gyfyngedig i uchafswm o £1. Diddymir yr atebolrwydd hwn flwyddyn ar ôl i’r aelodaeth ddarfod.
Asedion Sefydlog A Dibrisiant
Nodir gwerth asedion sefydlog ar y fantolen yn ôl eu cost lai dibrisiant. Diddymir cost asedion sefydlog fesul rhandaliad blynyddol cyfartal dros eu hoes ddefnyddiol dybiedig fel a ganlyn:
Celfi ac Offer 15%
Grantiau
Mae grantiau yn cael eu credydu i incwm yn unol â'r flwyddyn y maent yn perthyn iddynt.
-9-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
Asesiad Risg
Mae’r cwmni wedi ystyried ac adolygu pob risg a allai effeithio ar yr elusen. Roedd y broses hon yn cwmpasu nid yn unig y sefyllfa ariannol ond hefyd ystyriaethau strategol ac amgylchiadol. Mae’r elusen yn cadarnhau bod systemau wedi’u sefydlu i wrthsefyll pob risg o’r math y tynnwyd sylw atynt fel rhan o’r broses hon.
Polisi Arian-Wrth-Gefn
Lluniwyd y polisi arian wrthgefn i sicrhau bod gan yr elusen gyllid digonol i ddelio a’r elfen o risg sydd ynghlwm a rhedeg elusen sydd yn ddibynnol ar dderbyn arian o’r pwrs cyhoeddus. (Gweler nodyn 6)
3. CYFARWYDDWYR A STAFF
Ar gyfartaledd, rhif y staff yn fisol yn ystod y flwyddyn oedd: 6 (2020 –6)
Roedd costau cronnus cyflogau'r personau hyn fel a ganlyn:-
| 2021 | 2020 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Cyflogau | 35,457 | 35,417 |
| -------- | ---------- | |
| 35,457 | 35,417 | |
| ===== | ====== |
Ni dalwyd cyflog i’r cyfarwyddwyr.
-10-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
| 4. | ASEDION SEFYDLOG SYLWEDDOL | ||
|---|---|---|---|
| Celfi ac | |||
| Offer | Cyfanswm | ||
| £ | £ | ||
| COST | |||
| Ar 1.4.20 | 59,923 | 59,923 | |
| Ychwanegiadau | 205 | 205 | |
| ---------- | ---------- | ||
| Ar 31.3.21 | 60,128 | 60,128 | |
| ---------- | ---------- | ||
| DIBRISIANT | |||
| Ar 1.4.20 | 50,802 | 50,802 | |
| Tal am y flwyddyn | 2,844 | 2,844 | |
| ---------- | --------- | ||
| Ar 31.3.21 | 53,646 | 53,646 | |
| ---------- | --------- | ||
| GWERTH LLYFR NET | |||
| Ar 31.3.21 | £ 6,482 | £ 6,482 | |
| ====== | ====== | ||
| Ar 31.3.20 | £ 9,121 | £9,121 | |
| ====== | ====== |
Ni awdurdodwyd na chontractiwyd symiau mewn perthynas â gwariant cyfalaf gan y cyfarwyddwyr ar 31[ain] Mawrth 2021 na chynhwyswyd mohonynt yn y datganiadau ariannol hyn.
| 5. | CREDYDWYR | 2021 | 2020 |
|---|---|---|---|
| £ | £ | ||
| Credydwyr TWE | 268 | 346 | |
| ---------- | ---------- | ||
| £ 268 | £ 346 | ||
| ======= | ====== |
11-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
| 2021 | 2020 | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| £ | £ | ||||
| 6. | DARPARIAETH AM YMRWYMIADAU | ||||
| a) | GRANT LOTERI | ||||
| Balans ar 1 Ebrill 2020 | 1,917 | 3,815 |
|||
| Grant a hawliwyd | (1,201) | (1,898) | |||
| ---------- | ---------- | ||||
| Balans ar 31 Mawrth 2021 | 716 | 1,917 | |||
| ====== | ====== | ||||
| CYFANSWM | £ 716 | £ 1,917 | |||
| ======= | ====== | ||||
| 7. | CRONFEYDD - HEB GYFYNGIADAU | ||||
| Balans a ddygwyd ymlaen | 37,599 | 47,442 | |||
| Gwarged/(Diffyg) am y flwyddyn | 2,302 | (9,843) | |||
| ---------- | ----------- | ||||
| £39,901 | £37,599 | ||||
| ====== | ====== | ||||
| 8. | CRONFEYDD PENODOL | ||||
| Balans a | Trosglwy- | Trosglwy- | Balans | ||
| ddygwyd | ddiadau | ddiadau | 31.3.21 | ||
| ymlaen | i Gronfeydd | i mewn | |||
| Eraill | |||||
| £ | £ | £ | £ | ||
| Costau Craidd (i) | 42,885 | - | - | 42,885 | |
| Technoleg Newydd (ii) | 5,000 | - | - | 5,000 | |
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- | ||
| 47,885 | - | - | 47,885 | ||
| ---------- | ---------- | ---------- | ---------- |
Yn dilyn asesiad o risg, mae’r cwmni wedi sefydlu cronfa benodol:-
i) Darpariaeth am gostau craidd i alluogi’r elusen i gwrdd â chostau gweinyddu am gyfnod o 6 mis pe bai lleihad yn y gweithgareddau.
ii) Darpariaeth am dechnoleg newydd y bydd yr elusen ei angen i ddarparu ei gweithgareddau.
-12-
LLYFRAU LLAFAR CYMRU CYF
(CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT HEB GYFRANNAU) ELUSEN GOFRESTREDIG
NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021
9. DADANSODDIAD O ASEDION NET RHWNG CRONFEYDD
| Asedion | Asedion | ||
|---|---|---|---|
| Sylweddol | Cyfredol Net | Cyfanswm | |
| £ | £ | £ | |
| Cronfeydd Penodol | - | 47,885 | 47,885 |
| Cronfeydd Heb Gyfyngiadau | 6,482 | 33,419 | 39,901 |
| ---------- | ----------- | ----------- | |
| 6,482 | 81,304 | 87,786 | |
| ====== | ====== | ====== |
-13-