ADRODDIAD I’R COMISIWN ELUSENNAU
AM Y CYFNOD 01.07.2024 I 30.06.2025
ENW’R GYMDEITHAS : CYMDEITHAS EDWARD LLWYD
RHIF COFRESTRU: 1126027
1. ENWAU YMDDIRIEDOLWYR:
-
1 Goronwy Wynne: Llywydd 2. Duncan Brown: Is Lywydd 3. Twm Elias: Is Lywydd 4. Iona Evans: Cadeirydd 5. Shelagh Fishlock Ysgrifennydd
-
Amanda Skull : Trysorydd
-
Margaret Roberts Cyd- Drysorydd tan fis Tachwedd 2024 8. Hywel Madog Jones: Cadeirydd y Pwyllgor Marchnata 9. Jackie Willmington: Ysgrifennydd Cofnodion 10. Elizabeth Roberts: Trefnydd y Gynhadledd
-
Gwyn Roberts: Golygydd y Cylchlythyr
-
Dafydd Lewis: Ysgrifennydd Aelodaeth a Golygydd y Naturiaethwr 13. Iwan Roberts: Trefnydd teithiau’r Gogledd Ddwyrain 14. Eirian Davies: Trefnydd teithiau’r De a’r Canolbarth tan 31 12 2025 ac wedyn yn dal i fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith
-
Gareth Wyn Jones: Trefnydd teithiau’r De a’r Canolbarth o 01 01 2025
-
John Griffith: Cyd drefnydd teithiau Gogledd Orllewin a Threfnydd Gwyliau 16. Haf Meredydd: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 17. Rhisiart ap Gwilym: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 18. Alan Williams: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 19. Dominig Kervegant Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 20. Elen Owen Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 21. Eurgain Jones Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith
Yr oedd swydd yr Is-gadeirydd yn wag.
1
2. STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLIAETH
i) Yr ymddiriedolwyr a sut y byddant yn cael eu penodi.
Mae’r Ymddiriedolwyr i gyd yn aelodau o’r Gymdeithas ac fe’u hetholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ni chaiff Ymddiriedolwyr eu talu.
Ym mis Hydref bob blwyddyn cynhelir Cyfarfod Blynyddol fel rhan o benwythnos Cynhadledd y Gymdeithas. Mae pob aelod yn derbyn manylion trwy’r post am y penwythnos gyda chyfle i gofrestru. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol ar brynhawn Sadwrn y Gynhadledd. Anfonir manylion am y cyfarfod at yr aelodau sydd wedi cofrestru pythefnos ymlaen llaw gan gynnwys yr agenda a chofnodion Cyfarfod y flwyddyn gynt. Rhoddir dogfennau hefyd ar wefan a thudalen Weplyfr y Gymdeithas ac mae ychydig o gopïau caled ar gael yn y Cyfarfod.
Cyn y Cyfarfod Blynyddol mae’r Ysgrifennydd yn cysylltu â’r holl ymddiriedolwyr i ofyn a ydynt yn fodlon cael eu hailethol i’r Pwyllgor Gwaith a dal ati gyda’i swydd lle bo’n berthnasol.
ii ) Y Pwyllgor Gwaith (PG)
Mae’r Ymddiriedolwyr yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith (PG) sydd yn rheoli’r Gymdeithas ar ran yr aelodau. Cynhelir pedwar cyfarfod o’r PG bob blwyddyn.
Bydd yr Ysgrifennydd yn anfon cais i’r holl ymddiriedolwyr am eitemau i’w rhoi ar agenda’r cyfarfod yna bydd yr agenda yn cael ei rannu cyn y cyfarfod fel bod pob aelod yn cael cyfle i gyfrannu. Bydd Cadeirydd y Gymdeithas yn llywio’r cyfarfodydd. Mae cofnodion manwl yn cael eu cadw o bob cyfarfod gan yr Ysgrifennydd Cofnodion ac yn cael eu hanfon i’r holl Ymddiriedolwyr. Yn y PG dilynol bydd cyfle i gytuno fod y cofnodion yn rhai cywir ac yna eu cyhoeddi ar wefan y Gymdeithas.
Os bydd y Swyddogion angen barn aelodau’r PG ar fater brys bydd modd cysylltu gyda phob aelod trwy e-bost a hynny fel arfer dan arweiniad yr Ysgrifennydd.
iii) Yr Is-bwyllgor Marchnata (PM)
Mae grŵp o aelodau’r PG yn ffurfio is-bwyllgor dan arweiniad Cadeirydd y PM sy’n adrodd yn ôl i’r PG. Prif bwrpas y PM yw paratoi presenoldeb y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
iv) Prosiect Llên Natur
Mae Prosiect Llên Natur yn adnodd pwysig dan adain Y Gymdeithas. Mae ychydig o aelodau’r PG yn rheoli prosiect Llên Natur ac yn adrodd yn ôl i’r PG. Mae’r Prosiect yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ymhlith y cyhoedd (yn ogystal ag aelodau’r Gymdeithas) drwy gynnal gwefan a thudalen Weplyfr a chyhoeddi bwletin a ddosbarthir drwy e-bost.
3. AMCANION A GWEITHGAREDDAU’R GYMDEITHAS.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu pawb sydd â diddordeb ym myd natur ac yn yr amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru. Ei hamcan yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ohonynt. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas. Ymdrechir i hybu’r defnydd o Gymraeg yn y meysydd amgylcheddol a rhoddir croeso i aelodau sy’n dysgu Cymraeg.
-
Cynhelir teithiau maes, Cynhadledd Flynyddol, stondin a darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau.
-
Cyhoeddir dau gylchgrawn, y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr.
-
Cynhelir dwy wefan, un yn delio â gweithgareddau’r Gymdeithas a’r llall yn trin materion amgylcheddol.
-
Ymgymerir â thrawsgrifio a dadansoddir hen ddyddiaduron gyda chynnwys perthnasol i fyd natur a’r amgylchedd.
-
Cyhoeddir rhestrau o enwau Cymraeg safonol ar rywogaethau.
2
4. CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
i) Teithiau Maes Cynhaliwyd tair taith faes bron bob Sadwrn mewn tri lleoliad yng Nghymru. Cyhoeddir manylion y teithiau, gan gynnwys y man cyfarfod, fesul mis drwy wefan ac ap ffôn symudol y Gymdeithas. Cynhaliwyd ambell daith ychwanegol yng nghanol yr wythnos neu gyda’r nos yn ystod yr haf.
Cafwyd y teithiau eu harwain gan aelodau’r Gymdeithas a hefyd gan staff mudiadau sydd yn ymwneud a byd natur megis y Parciau Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ar ddiwedd y teithiau cafodd hanes a lluniau eu rhannu ar dudalen Weplyfr y Gymdeithas. Cafwyd ymateb ffafriol I’r lluniau a hanes y teithiau gan sawl aelod a hefyd nifer nad ydynt yn aelodau.
ii) Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf Darparwyd safle ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst 2024. Roedd yn gyfle i ddenu aelodau newydd, i ddarparu paned a chroeso i unrhyw un fyddai’n ymweld â’r babell ac yn hyrwyddo’r Gymdeithas i bawb oedd yn ymweld. Dangoswyd posteri a baratowyd i gynyddu gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt yr ardal.
Traddodwyd darlith y Gymdeithas gan yr Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd. Derbyniwyd adborth ffafriol.
Cynigiwyd taith faes yn ardal Pontypridd a oedd ar agor i’r cyhoedd.
Cynhaliwyd cystadleuaeth dan adain yr Eisteddfod am erthygl addas i'r Naturiaethwr. Mae’r Gymdeithas yn cynnig £200 o wobr.
iii) Gwyliau’r Gymdeithas Anfonwyd manylion i holl aelodau’r Gymdeithas am y gwyliau a drefnwyd yng Washington Tyne and Wear ym mis Mai 2025.. Bu 39 aelod yn aros yn y gwesty. Cafwyd wythnos o deithiau yn ardaloedd Mur Hadrian ac arfordir Northumberland, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Annstead. Cynigiwyd hefyd gyfle i ymweld â Gerddi Botaneg Prifysgol Durham. Rhoddodd aelodau sgyrsiau am ddaeareg a hanes yr ardal. Mae’r teithwyr yn talu cost lawn y gwyliau; nid oes cost net i’r Gymdeithas.
Cynhaliwyd penwythnos hir yn ardal Y Fenni ym mis Medi 2024 gyda phedair taith gan gynnwys dydd dros y ffin yn Swydd Henffordd yn ymweld â hen eglwysi, er enghraifft Eglwys Sant Beuno.
iv) Y Gynhadledd Flynyddol Cynhaliwyd Cynhadledd yng ngwesty’r Faenol Fawr ym Modelwyddan ar benwythnos 4– 6 Hydref 2024. Bu sgwrs am fywyd gwyllt Mynydd Hiraethog nos Wener, dewis rhwng dwy daith faes ddydd Sadwrn a sgwrs nos Sadwrn am briddoedd y Pegynau. Fore Sul cerddodd aelodau ar lannau afon Clwyd yn gwylio adar dan arweiniad arbenigwr. Bu 23 aelod yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol brynhawn Sadwrn 5 Hydref.
v) Pwyllgorau
a. Pwyllgor Gwaith Cynhaliwyd cyfarfodydd rhithiol ar 18 Medi 2024, 21 Tachwedd 2024, 20 Chwefror 2025 a 8 Mai 2025.
b . Is-bwyllgor Marchnata (PM) Cynhaliwyd cyfarfod byr ar 3 Gorffennaf 2024 i gwblhau paratoadau ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf a chyfarfodydd llawn ar 27 Chwefror, 3 Ebrill, 22 Mai a 26 Mehefin 2025 wrth paratoi ar gyfer Eisteddfod Wrecsam.
Mae’r PM wedi cychwyn y broses o sefydlu gwell dealltwriaeth rhwng y Gymdeithas a'r Eisteddfod er mwyn cael mwy o fydd o'r Gystadleuaeth. Cysylltwyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda'r gobaith o fagu cysylltiad agosach yn y dyfodol.
vi) Y Cylchlythyr Cynhyrchwyd dau rifyn o’r Cylchlythyr yn Haf 2024 a Chwefror 2025. Mae pob rhifyn yn llawn hanesion y teithiau a gynhaliwyd yn ystod y chwe mis blaenorol yn ogystal ag ambell eitem yn rhoi rhagflas o weithgareddau i ddod. Mae’n gylchgrawn deniadol a swmpus sydd yn lliwgar iawn ac yn cael ei anfon i bob aelod drwy law’r argraffwyr, Gwasg Y Lolfa.
3
vii) Y Naturiaethwr Cynhyrchwyd un rhifyn o’r cylchgrawn Y Naturiaethwr yn ystod y flwyddyn a’i ddosbarthu’r un pryd â’r Cylchlythyr. Mae’r Naturiaethwr yn llawn erthyglau difyr am bob agwedd o fyd natur gyda chyfle i unrhyw aelod gyfrannu. Yn y tudalennau canol ceir detholiad o eitemau o fwletin Llên Natur “Glas”. Dyfarnwyd gwobr am erthygl i’r Naturiaethwr gan ddysgwr y Gymraeg.
viii) Prosiect Llên Natur Dosbarthir Bwletin Prosiect Llên Natur “Glas” drwy e-bost i unrhyw un sy’n cofrestru, boed yn aelod o’r Gymdeithas ai peidio. Cynhyrchwyd 12 rhifyn yn ystod y flwyddyn.
Mae miloedd o bobl yn dilyn “Cymuned Llên Natur”, grŵp Weplyfr Prosiect Llên Natur, ac mae’r nifer wedi cynyddu eto eleni. Mae nifer fawr yn cyfrannu lluniau a chynnal trafodaethau am bob agwedd o fyd natur a’r amgylchedd.
Cyfrannodd aelodau o dîm rheoli Llên Natur at ddigwyddiadau Bioblitz yn ystod y flwyddyn.
ix) Cyhoeddi Llyfrau
a. Dyddiaduron 1820-1827 Owen Edwards, Penmorfa Mae gwirfoddolwyr wedi parhau i gyfrannu at baratoi cyfrol yn canolbwyntio ar agweddau perthnasol i fyd natur a’r amgylchedd. Oherwydd bod gormod o ddeunydd i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr, awgrymir cyhoeddi fersiwn llawn ar-lein a dim ond crynodeb yn y llyfr. Cwblhawyd nifer o benodau. Cynhaliwyd sgwrs gyda’r Lolfa a phenodwyd rhywun i baratoi’r llyfr i’w gyhoeddi.
Cwblhawyd llawr o'r gwaith o baratoi mapiau rhyngweithiol yn cofnodi lleoliadau yn y dyddiadur a’u cefndir. Cynhaliwyd trafodaethau gyda Swyddog Treftadaeth Parc Cenedlaethol Eryri a oedd yn frwdfrydig i wneud defnydd o'r gwaith, er enghraifft ar gyfer byrddau gwybodaeth, teithiau maes, arddangosfa a sgyrsiau.
b. Llyfr Cymraeg ynglŷn â bywyd Edward Llwyd Mae Gwasg y Brifysgol wedi cytuno i gyhoeddi’r llyfr. Apwyntiwyd golygydd a dosbarthwyd gwaith i nifer o awduron. Mae Llywydd y Gymdeithas wedi cwblhau pennod ar Edward llwyd y naturiaethwr ac mae aelod wrthi’n paratoi pennod am ei waith daearegol.
x) Apiau adnabod
a. Planhigion Mae aelod o'r PG wedi bod yn gyfrifol am drefnu i’r ap Pl@ntNet gynnwys enwau Cymraeg ar blanhigion. Mae’r gwaith yn parhau gyda mwy o aelodau o’r Gymdeithas bellach yn cyfrannu.
b. Adar Mae’r un aelod wrthi’n ceisio cysylltu â gweinyddwyr yr ap Merlin gyda’r bwriad o ofyn iddynt gyflwyno enwau Cymraeg ar adar a chynnig cymorth i wneud felly.
5. CASGLIAD
Mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo gweithgareddau yn ymwneud a Byd Natur. Mae ymateb cadarnhaol gan yr aelodau gan fod cefnogaeth deilwng ar bob taith sydd wedi ei threfnu ym mhob rhan o Gymru ac i’r holl weithgareddau eraill a drefnir.
Iona Evans. Cadeirydd.
6. ADOLYGIAD ARIANNOL
Mae’r fantolen yn dangos fod £25.5mil wrth gefn sy’n £8 mil yn llai na llynedd. Mae rhan sylweddol o’r wahaniaeth o ganlyniad i fethu â chasglu taliadau aelodaeth drwy ddebydau uniongyrchol yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25. Digwyddodd hynny oherwydd problemau gyda’r banc yn dilyn marwolaeth cyn Drysorydd y Gymdeithas a phroblemau technegol gyda meddalwedd ar gyfer casglu debyd uniongyrchol. Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr gasglu dau daliad oddi wrth aelodau sydd yn dalu drwy debyd uniongyrchol yn ystod 2025/26. Rhoddir gwybod i’r aelodau ymlaen llaw.
4
5
6