OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-06-30-accounts

ADRODDIAD I’R COMISIWN ELUSENNAU AM Y FLWYDDYN 2022-2023

ENWAU’R YMDDIRIEDOLWYR

1.GORONWY WYNNE (LLYWYDD) 2.DUNCAN BROWN (IS LYWYDD) 3.TWM ELIAS (IS LYWYDD) 4.IONA EVANS (CADEIRYDD) 5.HYWEL MADOG JONES ( IS GADEIRYDD A THREFNYDD TEITHIAU MAES G.O) 5.MARGARET ROBERTS (TRYSORYDD) 6.GARETH WYN JONES (YSGRIFENNYDD) 7.JACKIE WILLMINGTON (YSGRIFENNYDD COFNODION) 8.ROB EVANS (YSGRIFENNYDD AELODAETH) 9.DAFYDD LEWIS ( GOLYGYDD Y NATURIAETHWR) 10.GWYN ROBERTS (GOLYGYDD Y CYLCHLYTHYR) 11.ELIZABETH ROBERTS (TREFNYDD Y GYNHADLEDD) 12.IWAN ROBERTS (TREFNYDD TEITHIAU MAES Y GOGLEDD DDWYRAIN) 13.EIRIAN DAVIES (TREFNYDD TEITHIAU MAES Y DE A’R CANOLBARTH) 14.CARYS PARRY (TREFNYDD GWYLIAU) 15.JOHN GRIFFITH (AELOD O’R PWYLLGOR GWAITH) 16.ALAN WILLIAMS ( PG ) 17.HAF MEREDYDD ( PG ) 81.DOMINIG KERVEGANT ( PG ) 18.RHISIART AP GWILYM ( PG )

/..2

/..2

STRWYTHR/SUT CAIFF EI REOLI.

Trefnir cyfarfod o’r ymddiriedolwyr bedair gwaith y flwyddyn ar y 3ydd dydd Iau.

*mis Chwefror

*mis Mai

*mis Awst

*mis Tachwedd

Yn y gorffennol byddai’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod wyneb yn wyneb yn festri capel Noddfa yn Rhydypennau ond erbyn hyn mae cyfarfodydd ar y wê trwy gyfrwng Zoom neu Meet yn arbed llawer o drafeilio yn ystod misoedd y gaeaf ac yn help i’r amgylchedd.

Mae’r pwyllgor Marchnata yn cyfarfod yn rhithiol erbyn hyn hefyd.

Bydd yr Ysgrifennydd yn anfon cais i’r holl ymddiriedolwyr am eitemau i’w rhoi ar agenda’r cyfarfod yna bydd yr agenda yn cael ei rannu cyn y cyfarfod fel bod pob aelod yn cael cyfle i gyfrannu.

Bydd Cadeirydd y Gymdeithas yn llywio’r cyfarfodydd.

Mae cofnodion manwl yn cael eu cadw o bob cyfarfod gan yr Ysgrifennydd Cofnodion ac yn cael eu anfon i’r holl Ymddiriedolwyr. Yn y pwyllgor dilynol bydd cyfle i gytuno fod y cofnodion yn rhai cywir ac yna eu rhoi ar wefan y Gymdeithas.

Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei gytuno tu allan i’r pedwar cyfarfod yma. Os bydd y Swyddogion angen barn aelodau’r pwyllgor ar fater brys bydd modd cysylltu gyda phob aelod trwy gyfrwng y wê a hynny fel arfer dan arweiniad yr Ysgrifennydd.

Recriwto Ymddiriedolwyr

Mae pob un o’r Ymddiriedolwyr yn aelodau o’r Gymdeithas.

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol o’r Gymdeithas ym mis Hydref 2022 yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon.

Arweiniwyd y cyfarfod gan Lywydd Y Gymdeithas

Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn agored i holl aelodau’r Gymdeithas ac fe hysbysir y Cyfarfod Blynyddol yn y Cylchlythyr sy’n cael ei ddosbarthu i bob aelod.

/…3

/..3

Bydd agenda’r Cyfarfod Blynyddol yn cael ei roi ar y wê rhyw wythnos cyn y cyfarfod a bydd hysbyseb am y cyfarfod i atgoffa aelodau yn cael ei rannu ar safle wê’r Gymdeithas a hefyd ar Weplyfr y Gymdeithas.

Cyn y Cyfarfod Blynyddol bydd yr holl Ymddiriedolwyr yn cael gwahoddiad i aros a bydd cyfle i’r aelodau fydd yn dymuno roi gorau i’r gwaith adael.

Bydd cyfle yn y Cyfarfod Blynyddol i gyfethol aelodau newydd.

Gweithgareddau ac Amcanion

Cymdeithas ar gyfer pawb sydd â diddordeb ym myd natur ac yn yr amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru. Ei hamcan yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ohonynt. Ymdrechir i hybu’r defnydd o Gymraeg yn y meysydd amgylcheddol.

Cymraeg yw iaith y Gymdeithas a rhoddir croeso i aelodau sy’n dysgu Cymraeg.

*Cyhoeddir dau gylchgrawn ddwywaith y Flwyddyn – mis Chwefror a mis Gorffennaf.

Gwasg y Lolfa sy’n argraffu’r ddau gylchgrawn a’r wasg sydd yn postio i’r holl aelodau.

Llen Natur.

Prosiect dan adain y Gymdeithas ydi Llen Natur ac mae llawer o aelodau ar Gymuned Llen Natur yn rhannu pob math o luniau o bob agwedd o fyd natur.

Teithiau Maes

Pob Sadwrn bydd tair taith yn cael eu trefnu. Un yn y Gogledd ddwyrain,un yn y Gogledd orllewin ac un arall yn y De a’r Canolbarth. Bydd y teithiau yn cael eu harwain gan aelodau o’r Gymdeithas ond hefyd mae cydweithio yn digwydd pan gaiff taith gael ei arwain gan aelod o’r RSPB neu Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru. Yn ystod misoedd yr haf trefnir ambell daith gyda’r nos a chafwyd taith i ymweld a gardd ym Mehefin ac ymunodd nifer o’r aelodau mewn te pnawn. Gweithgaredd poblogaidd arall ar ddechrau’r flwyddyn ydi taith Lobscows lle trefni’r taith fer i gynhesu ac yna cymdeithasu dros ginio. Mae gwybodaeth am yr holl deithiau erbyn hyn ar gael ar safle we’r Gymdeithas.

/..4

/..4

Yn Ionawr 2022 a Ionawr 2023 bu i’r Gymdeithas gymeryd rhan yn y prosiect blynyddol dan adain y BSBI lle roedd cyfle i fynd allan ar y pedwar diwrnod cyntaf o’r flwyddyn i chwilio am flodau gwyllt oedd yn blodeuo yr adeg yma.

Cynhadledd y Gymdeithas.

Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol fel rhan o Gynhadledd y Gymdeithas. Ym mis Hydref 2022 trefnwyd penwythnos yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon. Ar nos Wener a nos Sadwrn cafwyd darlithoedd. Trefnwyd taith ar fore Sadwrn o gwmpas tref Caernarfon oedd yn addas i bob aelod ac yna yn y pnawn trefnwyd taith mwy heriol yn ardal R.Williams Parry. Fore Sul taith ar hyd y Foryd cyn cinio.

Eisteddfod.

Trefnwyd uned yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022. Cafwyd wythnos lwyddianus gyda nifer o’r aelodau yn ymgymeryd a’r gwaith o wirfoddoli yn yr uned. Mae’r trefniant blynyddol yma yn gyfle i farchnata a hyrwyddo’r Gymdeithas gan ddenu aelodau newydd.

Y Naturiaethwr

Cystadleuaeth i Ddysgwyr - Erbyn hyn mae cystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr y Gymraeg yn cael ei noddi gan y Gymdeithas gan ddisgwyl erthygl addas ar gyfer y Naturiaethwr.

Gwyliau’r Gymdeithas.

Mae gwyliau’r Gymdeithas wedi bod yn llwyddianus iawn gan ymweld a Dorset yn 2022. Cafwyd wythnos fendigedig ym mis Mai gyda ugain o aelodau yn ymweld a’r ardal.

Ar hyn o bryd mae pob swydd o fewn y Gymdeithas wedi ei llenwi gyda’r Ymddiriedolwyr yn barod iawn i gydweithio er budd y Gymdeithas.

Iona Evans (Tachwedd 2023)

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD - RHIF ELUSEN 1126027 Cyfrif Incwm a Gwariant 01/07/2022 hyd 30/06/2023

INCWM
GWARIANT
2022-2023
2021-2022
2022-2023
Tal Aelodaeth
13,183
12,780
Argraffu:
Cylchgronnau
6,615
Gwerthiannau Llyfrau CELl
305
160
Deunydd i werthu
Print Arall
721
Llyfrau CELl
0
Print Arall
743
21
Digwyddiadau
BioFlits
250
Dillad
52
0
Post/Dosbarthu
Llyfrau/Cylchgronnau
2,735
Arall
52
0
Eraill
19
Incwm Cyfarfod Blynyddol
5,968
0
Eisteddfod
4,726
Cyfarfod Blynyddol
4,944
Tech Wybodaeth
Gwefan
585
Digwyddiadau
400
Arall
46
Llog Banc
326
50
Pwyllgor
0
Rhoddion
370
73
Costau Eraill
Gwobr Dysgwr
0
Incwm Arall
Trip 2023-Iwerddon
11,340
5,483
Costau Aelodau:
Teithio
280
Cau Cyfrif
Llen Natur
0
770
Costau Banc
1,060
Gwariant Arall
160
Yswiriant
431
2023 - Taith Iwerddon
Trip 2023
11,340
32,739
19,337
33,912
Mewn llaw 01/07/2022
Mewn llaw 30/06/2023
Cyfrif y Trysorydd
350
Cyfrif y Trysorydd
380
Cyfrif Busnes
39,530
Cyfrif Busnes
38,327
39,880
38,707
72,619
72,619
Asedau mewn llaw
Llyfrau
600
2021-2022
5,591
0
837
79
2,472
39
4,522
646
280
35
150
94
901
110
432
5,760
21,948

Yr wyf wedi archwilio cofnodion Incwm a Gwariant Cymdeithas Edward Llwyd am 2022/23 ac maent yn adlewyrchiad cywir o sefyllfa ariannol Y Gymdeithas am y cyfnod hwn William G Strain Arolygwr Margaret Roberts Trysorydd

Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon

Adran A Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol Adroddiad i Enw'r Elusen CYMDEITHAS EDWARD LLWYD ymddiriedolwyr 30 MEHEFIN 2023 1126027 Ar y cyfrifon am y Rhif yr Elusen flwyddyn yn diweddu (os oes) I'w gweld ar dudalennau -XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX Adroddaf i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod ("yr Ymddiriedolaeth") am y flwyddyn yn diweddu 30/06/2023 Cyfrifoldebau'r a'r sail Fel yr ymddiriedolwyr elusen, rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol adrodd â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais yr holl Gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf. Datganiad yr archwiliwr [Roedd incwm gros yr elusen yn fwy na £250,000 ac rwy'n gymwysedig i annibynnol gynnal yr archwiliad trwy fod yn aelod cymwysedig o [XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX X h h ff

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i'm sylw mewn perthynas â'r archwiliad (XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol:

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX i h f dd f di f if dd d l d 130 ' Dd ddf

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon.

Llofnodwyd:
Enw:
Cymhwyster
(cymwysterau) neu gorff
proffesiynol perthnasol
(os oes):
WILLIAM G STRAIN 20 AWST 2023
WILLIAM G STRAIN
XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

IER

Hydref 2018

1

ABERAFON

ABERSOCH

GWYNEDD

Cyfeiriad:

Adran B Datgeliad

Cwblhewch dim ond os oes angen i'r archwiliwr dynnu sylw at faterion o bryder perthnasol (gweler CC32, Archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: cyfarwyddiadau a chanllawiau i archwilwyr).

Rhowch fanylion byr yma am unrhyw eitemau yr hoffai'r archwiliwr eu datgelu.

IER

Hydref 2018

2